Adran o’r blaen
Previous section

[Actæ yr Apostolion 24–8 (ff. 212v–220v).]



[td. 212v]

Pen. xxiiij.


Pawl wedy ei gyhuddaw yn atep dros ei vuchedd a'i ddysceidaeth
yn erbyn ei gyhvddwyr: Felix yn y deimlaw ef,
a'ei vryd ar gael gobr. Ac yn ol hynny yn ei ady ef yn-carchar.



[1] AC yn ol pemp diernot, y daeth y waeret Ananias yr Archoffeiriat y gyd a'r Henafieit, ac Tertullus rryw areithiwr, yr ei a apariesont [-: * ymddangesont] ger bron y President yn erbyn Paul.
[2] A' gwedy ei 'alw * ef [-: ‡ Paul]  ir lle, e ddechreawdd Tertullus ei guhuddaw,

[td. 213r]
gan ddywedyt,
[3] Can y ni vot yn byw yn dra heddychol oth bleit ti, a' bot gwneythyr llawer o bethe gwiw, ir genedl hon drwy dy ‡ racddyall [-: ‡ rrac ddarpar] di, Hyn yð ym ni yn * cydnabot [-: [no gloss]] yn ‡ hollawl [-: ‡ gwbl] , ac ym- pop lle, yr * ardderchocaf [-: * goreu] Felix, y gyd a chwbyl ddiolvvch.
[4] Eithr rac bot ymy dy ðalha yn rryhir ddygn, atolwc yty ein gwrandaw oth ‡ hynawster [-: ‡ voneddigeiddrwydd] ar ychydic 'airiae.
[5] Can ys cawsam y gwr hwnn yn ddyn adwythus, ac yn * cyffroy [-: * cynnyrfy, peri] tervysc ymplith yr oll Iuddaeon trwy'r oll vyt, ac yn ‡ brifnerthwr [-: ‡ benawdur] ar yr * heresi [-: * opinion] y Nazarieit,
[6] ac a ‡ vynysei [-: ‡ darperesei, amcanesei] halogy y Templ: ac am hyny y daliesam ef, ac a vynesem ei varny * yn ol ein Deddyf [-: * erwyð ein cyfraith] :
[7] Eithyr y pen- Captaen Lysias a ddaeth arnam [-: ‡ ar ein vchaf, ar ein gwarthaf] , a' thrwy drais mawr ei duc allan o'n dwylo,
[8] gan orchymyn ydd ei guhuddwyr ddyvot ata ti, y gan ba rei y gelly (a's myny ymofyn) wybot yr oll pethae hynn yð ym ni yn y gyhuddaw * ev [-: * ef] .
[9] A'r Iuddaeon hvvythe hefyt a daeresant, gan ddywedyt vot y peth y moð hynny.
[10] Yno Paul, gwedy amneidio o'r President arnaw y amadrawdd, a atebawdd, Y mae yn ‡ haws [-: ‡ llawenach] genyf atep tros vyhun, can vy-bot yn gwybot dy vot ti lawer o vlyddynedd yn * ynat [-: * vrawdwr, varnwr, Ieustus] ir genadleth hon,
[11] can ys gelly wybot, nad oes anid dauddec dieernot er pan ðaethym i vynydd i addoly i Caerusalem.
[12] Ac ny im cawsant i yn y Templ yn ‡ ymddadleu [-: ‡ disputo] a nep, nac yn * cyffroy yr dyrva y ‡ gyvodi [-: * peri cyffro yn y popul] , nac yn y * Synagogae [-: ‡ cynulleidfae] , nac yn y dinas.
[13] Ac ny allant chvvaith provi y pethae, y maent im cuhuddaw am danwynt.
[14] Eithr cyffessy yty ddwyf hyn yma, * mae [-: * taw] yn ol y fforð (rhon y alwant vvy yn

[td. 213v]
heresi) velly yr addolaf vi Ddew vy-tadae, sef gan gredy yn yr oll pethe r' y scrivenir yn y Ddeðyf a'r Prophwyti,
[15] a' gobeith 'sy genyf ar Ddew, am yr vn cyfodiadigeth y meirw ac y maent wytheu hefyt yn ei ddysgwyl, y bydd ef ‡ ys [-: ‡ ac] ir cyfiawnion ac ir ancyfiawnion.
[16] Ac yn hyn ydd wy vi * ystudio [-: * ymorchesty] vot genyf yn wastat gydwybot ‡ ddirwystr [-: ‡ iach, glir] tu ac [at] Ddew a' thu ac at ðynion.
[17] Ac yrovvon yn ol llawer o vlyddynedd, y daethym ac y dugeis * eluseni [-: * elusendot] im cenedleth ac offrymae.
[18] Ac yn yr amser hynn, 'rei or Iuðeon o'r Asia am cawsant ‡ wedy vy-glanhay [-: ‡ yn buredic] yn y Templ, ac nid gyd a thorf, na thervysc.
[19] ‡ Yr ei [-: [no gloss]] a * ddylesynt [-: * ddirparesynt] vot yn ‡ gynnyrchiol [-: ‡ presennol] rac dy vron, am cyhuddaw, a bysei ganthwynt ddim im erbyn.
[20] Ai ynte dywedet yr ei hyn yma, a gawsant vvy ðim ancyfion * ynof [-: * arnaf] , tra sefeis yn y Cyngor,
[21] ‡ dieithyr [-: ‡ anid] am y * llef [-: * yr ymadrodd] vnic hon, a'r a lefeis yn sefyll yn ei plith vvy, sef Am gyfodiadigeth y meirw im * bernir [-: ‡ cyhuddir]  heddyw genwch.
[22] Pan glybu Felix y pethae hynn, yr oedawdd ef wynt, gan ddywedyt, Pan wypwyf yn ‡ yspesach [-: * hytrach, berfeithiach] y pethae a perthyn ir ffordd hon, pan vo i Lysias y pen-Captaen ddyvot yma, y dosparthaf eich mater.
[23] Yno ydd archawdd i Gannwriat gadw Paul, a gadael iddaw gahel * gorffywys [-: ‡ esmythder] , ac na 'oharddei i neb oei gydnabot ei weini, nei ddyvot attaw.

[24] Yn ol ‡ talm [-: * niuer] o ddyddiae, yd aeth Felix ef aei wreic Drusilla, yr hon ytoeð Iuddewes, ac ef a 'alwodd am Paul, ac a glywawdd ganthaw am y ffydd ys ydd yn Christ.
[25] Ac mal ydd oedd ef yn ‡ dosparth [-: ‡ rresymy] am gyfiawnder, a' * chymmedroldep [-: * cymesurdep] , ac

[td. 214r]
am y varn y ddyvot, Felix a ddechrynawdd, ac a atebawdd, Does ymaith ‡ ar [-: ‡ dros] hyn o amser, anid pan gaffwy amser-cyfaddas, mi alwaf am danat.
[26] Ac ydd oedd ef yn gobeithio hefyt y rhoddesit ariant iddaw gan Paul, er iddo ei ellwng ef: erwyð pa bleit yd anvonodd ef am danaw yn vynychach, ac y * chwedleuawdd wrthaw [-: * ymddiddanodd ac ef] .
[27] A' gwedy cerddet dwy ‡ vlwyddyn [-: ‡ vlynedd] , y daeth Porcius Festus yn lle Felix: a' Felix yn ewyllysio enill bodd yr Iuddaeon, a adawdd Paul yn * rhwym [-: * carchar] .

Pen. xxv.


Yr Iuddaeon yn cyhuddaw Paul ger bron Festus. Ef yn a
tep drostaw ehun. Ac yn appelio at yr Ymperawtr. Bot
yn cympwyll am y vater ef gar bron Agrippa. A'i ðwyn
ef allan.


[1] GAn hyny gwedy dyvot Festus ir * ardal [-: * cyvoeth] , ar ben y tridie yð aeth i vynydd i Gaerusalem o Caisareia.
[2] Yno * yð ymðangosent [-: * appirent] yr Archoffeiriat a' phennaethieit yr Iuddaeon ger ei vron ef yn erbyn Paul, ac atolygasant iddaw,
[3] a' chan erchy ‡ caredigrwydd [-: ‡ ffafr] yn ei erbyn, bod iddo ddanvon am danaw i Gaerusalem: ac hvvy a wnaethant * gynllwyn [-: * vrad, vwriad] yw ladd ef ar y ffordd.
[4] Eithyr Festus a atebodd, ‡ bot [-: ‡ am] cadw Paul yn Caisareia, ac a ðauei yntae ehun * eb ohir [-: * ar vyrder]  yd yno.
[5] Can hyny (eb yr ef) dauet yr ei o hanoch chwi 'sy yn abl, y gyd a

[td. 214v]
ni i waeret: ac ad oes * neb anvviredd [-: * dim coegedd]  ‡ yn [-: ‡ ar] y gwr, cyhuddant ef.

[6] Pryt na thrigesei ef yn y plith wy * y tuhwnt y [-: * dros ben] ddec diernot, ef aeth y waeret y Caisareia, a'r dydd nesaf ydd eisteddawdd yn y vrawdle, ac a 'orchymynawdd ddwyn Paul atavv.
[7] Ac wedy ei ddyvot, yr Iuddaeon y ddaethent o Gaerusalem, a safasont o ei amgylch, ac a ddodesont lawer o achwynion trymion yn erbyn Paul, yr ei ny ellynt ei provi,
[8] can yddaw vot yn atep, na ddaroeð yddaw pechy dim [-: ‡ wneythy dim yngham] nac yn erbyn Deddyf yr Iuddaeon, nac yn erbyn y Templ, nac yn erbyn Caisar.
[9] Er hyny Festus yn ewyllysiaw cahel * bodd [-: * ffavr] yr Iuddaeon, a atebawdd i Paul, gan ddywedyt, Ai di y vynydd y Gaerusalem, ac yno ith varny am y pethe hyn ger vy-bron i.
[10] Ac Paul a ddyvot, Ydd wyf yn sefyll ‡ wrth [-: ‡ gar llaw] vrawdle Caisar, lle y perthyn vy-barny: ir Iuddaeon ny wneythym i ddim yngham, megis ac y gwyddos-ti yn dda ddigon.
[11] Can ys, a's gwneythym ddim * cam [-: * yngham, eniwed] , ai dim teilwng o angae, ny wrthðodaf vi varw: ‡ ac anid [-: ‡ as ynte] oes dim or cyfryvv betheu ac y maent * wy [-: * rhein] im cyhuddaw, ny all nep vy rroddi yddwynt: appelo ydd wyf ‡ ar Caisar [-: ‡ at yr Ymmerawtr] .
[12] Yno Festus wedy daroedd iddaw ymddiddan a'r Cygcor, a atebawð, A appeleas ti * ar [-: * at] Caisar? ar Caisar y cai vynet.

[13] Ac yn ol swrn o ddyddiae, y Brenhin Agrippa a' Bernice ydd aethant y wared y Caisareia y * gyfarch-gwell [-: * ymanerch] i Festus.
[14] A' gwedy yddwynt aros yno lawer o ddyddiae, Festus a venagawdd ir Brenhin ‡ vater [-: ‡ bethe, hawl] Paul, gan ddywedyt: Y mae yma ryw

[td. 215r]
wr wedy ei adael yn-carchar y gan Felix.
[15] Am yr hwn pan ddaethym i Caerusalem, ydd oedd yr Archoffeiriait a' Henafieit yr Iuddeon yn * honny [-: * cyhoeddy, menegy] ymy, gan ddeisyfy cahel barn yn ei erbyn.
[16] I ba 'r ei ydd atebeis, nad yw ‡ moes [-: ‡ devod, arver] y Ruveinieit, er * bodd [-: * ffavr] -roddy nep i angae, cyn noc y caffo yr vn a gyhuddir, ei gyhuddwyr ger ei vron, a' chaffael o honaw le y amddyffyn ehun, am y caredd.
[17] Wrth hyny gwedy ei dyvot wy yma, ‡ eb 'oludd [-: ‡ yn ddioet] y dydd cyntaf rac llavv ydd eisteddais yn y vrawdle ac a 'orchymynais ðwyn y gwr ger bron.
[18] Yn erbyn pa vn pan savawdd y cuhyddwyr i vyny, ny * ddugesont [-: * ddyresont] vvy vn caredd am gyfryw bethae ac y tybyeswn i:
[19] namyn bot ganthwynt ryw ‡ gwestionae [-: ‡ ymofynion ] am * y gwangoel [-: [no gloss]]  yddynt y hunain, ac am vn Iesu a vu varw, yr hwn a daerei Paul ei vot yn vyw.
[20] A' mineu erwyð vy-bot yn * petrusaw [-: * amhau, dowto ]  ‡ yn-cylch [-: ‡ am] cyfryw gwestion, a 'ovyneis iddaw a elei ef y Gaerusalem, a' chymryt-barn yno am y pethae hyn.
[21] Eithyr can ðarvot iddaw apello yn y gedwit ef i ‡ wybyðyeth [-: * holedigeth] Augustus, mi 'orchymynais ei gadw, yd pan ðanvonwn ef at Caisar.
[22] Yno Agrippa a ddyvot wrth Festus, A' mineu a wyl'yswn glywed y * dyn [-: ‡ gwr] . Evory eb yr yntef, y cai y glywet ef.
[23] A' thranoeth wedy dyvot Agrippa a' Bernice a ‡ rhwysc [-: ‡ rhodres, rrwyf] mawr, a' myned i mewn ir Orseð y gyd a'r pen-capteinieit a' phendevigion y dinas, wrth 'orchymyn Festus y ducpwyt Paul * yno [-: * atwynt] .
[24] Ac y ‡ 'syganei [-: ‡ dywedei] Festus, * A [-: * Ti] vrenhin Agrippa, a' chvvithe bawp ys ydd yn presentol gyd a ni, ys gwelwch y ‡ dyn [-: ‡ gwr] hwn, o bleit pa vn y galwodd oll * tyrfa [-: * llios] yr Iuddaeon

[td. 215v]
arnaf, bop vn yn-Caerusalem, ac yma, gan arthlefain, na ddlei ef gael byw a vei hwy.
[25] Er hyny ni vedreis i gael arnaw wneythy dim teilwng o angae: anid can ddarvot iddaw appelo at Augustus mi a verneis y ddanfon ef.
[26] Am pa vn nid oes genyf ddim talgrwn yw escriveny at vy Arglwydd: erwydd pa bleit mi y dugais ef atoch, ac yn enwedic atta ti, Vrenhin Agrippa, yd pan yw yn ol darvot ei holi, gaffael o honof beth yw escrivenny.
[27] Can ys anrysymol y tybiaf ddanvon carcharor, ac eb ‡ arwadocay [-: * yspysy, honny] yr achosion y cyhuddir ef.

Pen. xxvj.


Gwiriondap Paul a welit wrth adrodd ei vuchedd, cymmedroldep
ei atep wrth draha Festus.


[1] YNo y dyvot Agrippa wrth Paul, e genietir yty * ymadrodd [-: * ddywedyt]  droso tyhun. Velly Paul a estennodd ei law, ac a ‡ atepodd [-: ‡ ddyvot] drosto ehun.
[2] Ys dedwydd y tybiaf vy-bot vyhun Vrenhin Agrippa, can y mi gahel atep heddyw geyr dy vron di, am bop peth im cyhuddir y gan yr Iuddaeon:
[3] yn benddivaddae, can dy vot ti yn gwybot o ywrth yr oll ddevodae, a' chwestionae 'r ysydd ym-plith yr Iuddaeon: erwydd paam, yr atolygaf yty, vy- gwrandaw yn ddioddefgar.
[4] Ac am vy-buchedd om mabolaeth, a' pha ryw wedd ytoedd hi or dechreat ym-plith vy-cenedlaeth vy hun yn-Caerusalem,

[td. 216r]
e wyr yr oll Iuddaeon,
[5] yr ei am adwaenent * gynt [-: * or blaen] (pe mynent testolaethy) bot imi yn ol y ‡ sect [-: ‡ gohanred]  * cynnilaf [-: * craffaf] o'n creddyf vyw yn Pharisai.
[6] Ac yr awrhon ydd wy yn sefyll ac im cyhuddir am obaith yr addewit a wnaed y gan Ddew i ein tadae.
[7] At ‡ pa addevvit [-: ‡ yr hwn] ein dauddec llwyth yn gwasanaethy Dew eb dorr ddydd a' nos, a 'obeithant ðyvot: er mwyn pa 'obeith, a Vrenhin Agrippa im cyhuddir y gan yr Iuddaeon.
[8] Paam y tybir yn beth ancredadwy y genwch, bot y Ddew gyvody y meirw dragefyn?
[9] Mineu hefyd yn ðiau a dybiais yno vy hun, y * dylewn [-: * dyleswn] wneythy llawer peth ‡  gwrthwyneb [-: ‡ trawsedd] yn erbyn Enw yr Iesu o Nazaret.
[10] Yr hynn beth a wnaethym i yn-Caerusalem: can ys llawer o'r Sainct a 'orchaeais yn-carcharoedd, can vot genyf awturtat o ywrth yr Archofferait: ac wrth ei ‡ divetha [-: ‡ lladd, rhoi yw marwolaeth] , y rhoddeis varn.
[11] A' mi y * poeneis [-: * cospeis] wy yn vynech drwy yr oll ‡ Synagogae [-: ‡ gynnulleidvaon] , ac ei cympelleis i gably, a' chan ynfydy ym-pel'ach yn y herbyn wy, mi ei herlidiais, hyd ar ddinasoedd * estron [-: * dieithr] .
[12] Ac yn hynn, pan aethym i Ddamasco ac awturtawt, a' ‡ chaniatat [-: ‡ chomission ] yr Archoffeiriait,
[13] ar [-: * am] haner dydd, a' Vrenhin, ar y ffordd y gwelais ‡ leuver [-: ‡ lewych, goleuni, goleuad] or nefoedd, yn rhagori ar ddysclaerdap yr haul, yn towynny om amgylch, mi ar ei oeðynt yn ymðeith y gyd a ni.
[14] A' gwedy daroedd y ni oll * ddygwyddo ar y ddayar [-: * gwympo, syrthio, ir llawr] , y clywais lef yn llavaru wrthyf, ac yn dywedyt yn-tavot Hebreo, Saul, Saul, paam im ‡ erlidy [-: ‡ ymlidy] ? * Calet [-: * Anhawdd] yw yty wingo yn erbyn y swmbylae.
[15] A' mineu ddywedais, Pwy ytwyt Arglwyð? Ac yntef ddyvot, Myvi yw Iesu yr hwn wy ti yn ei

[td. 216v]
erlit.
[16] Eithyr cyvod y vyny a' sa ar dy draet: can ys er mwyn hynn yr ymddangoseis yty, sef er dy 'osot ti yn 'wenidawc ac yn test, * ys [-: * yn gystal] am y pethae 'ry weleist, ac am y pethae yn yr ei y ymddangosaf yty,
[17] gan dy waredy y wrth y * popul [-: ‡ 'sef yr Iuðaeon ] , ac ywrth y Cenedloedd, at pa 'r ei yd anvonaf yr awrhon,
[18] er yty agory ei llygait, ac ymchwelyt o hanwynt y wrth dywyllwch i 'oleuni, ac ywrth ‡ veðiant [-: * allu]  Satan * ar [-: ‡ at] Ddew, yny  dderbyniont vaddeuant pechotae, ac etiveddiaeth ym-plith yr ei, a sancteiddiwyt trwy ffydd yno vi.
[19] Am hyny, Vrenhin Agrippa, nid anvfyddheis i ir weledigaeth nefawl,
[20] anid dangos yn gyntaf ydd wynt wy o Damasco, ac yn-Caersalem, a' thrwy oll or wlat Iudaia, ac yno ir Cenedloedd, ‡ er [-: * ar] yddwynt edivarhay, ac ymchwelyt * ar [-: ‡ at] Ddew, a' gwneythy gweithredoedd a vei teilwng i wellaat buchedd.
[21] Am yr achos hynn yr ymavlawdd yr Iuddaeon ynof [-: * y daliawð yr Iuddaeon vi] yn y Templ, ac a geisiesont vy lladd.
[22] Er hyny mi gefeis borth y gan Ddew, ac wyf yn ‡ aros [-: ‡ parhay] yd y dydd hwn, gan destolaethy ac i vychan a' mawr, * ac eb [-: * nad wyf yn] dywedyt dim amgen no'r pethae y ðyvawt y Prophwyti a' Moysen y delei,
[23] ys ef yvv hyny, bot i Christ ddyoddef ac yðaw ef vot yn gyntaf a gyvotai o veirw, ac a ddangosei 'oleuni ir popul, ac ir Cenedloedd.
[24] Ac mal ydd oedd ef yn atep hynn drostaw ehun, y dyvot Festus a llef vchel, Paul, ydd wyt yn ynvydu [-: ‡ wedy ampwyllo] : ‡ lliaws [-: * llawer] o ðysc syð ith wneythy'r yn ynvyd.
[25] Ac yntef ddyvot Nyd wyf wedy ynvydy, ‡ arðerchawc [-: ‡ ddayonus, bendevic] Festus eithyr gairiae gwirionedd a' sobrwyð wyf yn ei hadroð.
[26] Can ys * gwyr [-: * ef a wyr, y mae yn espes gan]

[td. 217r]
y Brenhin am y petheu hyn, ger bron yr hwn hefyt ydd wyf yn * cympwyll [-: * ymddiðan, amadrodd] yn ‡ hyf [-: ‡ eon, yn hoderus] , ac ydd wyf yn tybieit nad oes dim or pethe hynn yn guddiedic racðaw ef: can na wnaethant hynn yma mewn congyl.
[27] A Vrenhin Agrippa, a gredy di y Prophwyti? Mi wnn dy vot yn credy.
[28] Yno y 'saganei Agrippa wrth Paul, Yðwyt * o vewn ychydic [-: * wrth vron, hayachen] im annoc y vot yn Christian.
[29] Ac Paul a ddyvot, Mi ‡ ddamunwn [-: ‡ buchwn, rybuchwn] gan Dew nid yn vnic y tydi, namyn a' phavvp oll ys ydd im clywet i heddyw, eich bot ac o vewn ychydic ac yn gwbyl oll yn gyfryw ac ydd wyf vinef * dieithyr [-: * anyd] y rrwymae hynn.
[30] Ac wedy yddaw ddywedyt hyn, y cyvododd y Brenhin i vynydd, a'r President, ac Bernice, a'r ei oedd yn cyd eistedd ac wynt.
[31] Ac wedy yddwynt vyned o'r ailltu, wynt a gympwyllesont yn ei plith e hunein, gan ddywedyt, Nid yw'r * dyn [-: * gwr] hwn yn gwneythy dim teilwng o angae, na rrwymae.
[32] Yno y dyvot Agrippa wrth Festus, Ef 'ellit gellwng y ‡ gwr [-: ‡ Gr. dyn] hwnn, pe na bysei iddaw appelo ar [-: * at] Caisar.

Pen. xxvij.


Mor peryglus vu * taith [-: * sivvrnai] Paul ai gyfeillion parth a Ruuein.
Pa wedd a' pha le ei tiriasont.


[1] GWedy daroedd yddynt * gytvarny [-: * ymgynghori] , y ni hwylio ir ‡ Ital [-: ‡ Eidal] , hwy a roðesant bob un Paul, a' rryw garcharorion ereil' at Gannwriat aei enw Iulius o * gatyrva [-: * ranwyr] Augustus.
[2] A' dringo a wnaethom i long o Adramyttium ar vedr hwyliaw ar

[td. 217v]
dueðae yr Asia, ac a dynasom ymaith, ac Aristarchus or Macedonia o vvlad Thessalonia, oedd gyd a ni.
[3] A'r dydd * nesaf [-: * Gr. arall] y tiriesam yn Sidon: ac Iulius a ymdduc yn * ddyngar [-: * voneddigaidd, hawðgar] wrth Paul, ac a roes iðaw ryðdit i vynet at ei gereint, y gahel ced ganthwynt.
[4] Ac o ddyno y moriesam [-: ‡ diangara=] , ac yr hwyliesam eb law Cyprus, erwydd bot y gwyntoedd yn wrthwynep.
[5] A' gwedy ‡ traweny [-: ‡ hwyliaw] o hanam dros y mor ger llaw Cilicia ac Pamphylia, a' dyvot i Myra, dinas yn Lycia:
[6] ac yno cahel or Cannwriat long o Alexandria, yn hwyliaw ir Ital, ac a'n * gosodes [-: * dodes] ynthei.
[7] A' gwedy y ni hwyliaw yn ‡ llusgenaidd [-: ‡ hwyr, ddyurys] dros lawer o ddyddiae, ac o vraidd dyvot gar llaw Gnidum, can vot y gwynt in * lluddiaw [-: * rhwystro] , hwylio a wnaetham ‡ yn-goror [-: ‡ gan ystlys] Candi, gar llaw Salmone,
[8] ac o vreidd yr hwyliesam hebddei, ac a ddaetham i ryw le elwit y Porthlaðoeð prydverth, ac yn gyfagos iddaw ydd oedd dinas Lasaia.
[9] Velly wedy cerddet llawer o amser, ac yn awr bot moriaw yn * periclus [-: * enbydus] , can ‡ ddarvot [-: ‡ vynet] hefyd amser yr vmpryt, Paul y cygcorawdd hvvy,
[10] gan ddywedyt wrthynt, Ha-wyr, mi welaf y byð * yr hynt hon [-: * y daith yma] gyd a sarhaed ac eniwed mawr, nid am y llwyth a'r llong yn vnic, anid am ein ‡ eneidiae [-: ‡ bywyt, hoedl, einioes] hefyt.
[11] Er hyny y gyd mwy y credei y Cannwriat ir llywydraethwr a'r llong-lywydd na' ar pethae y ddywedesit gan Paul.
[12] A' phryt nad oedd y porthladd yn aðas y 'ayafy ‡ yntho [-: ‡ ynthei] , llawer a gymersont yn ei cygor, voriaw o ddyno, a's gallent mewn ryw bodd ddyvot hyd yn Phoinice a' gayafy yno, yr hwn 'sy porthladd yn-Candi, ac y'sydd ar gyfor Deau-'orllewyn

[td. 218r]
a'r Gogledd 'orllewin.
[13] A' pan * chwythawð [-: * gyvodes] awel vach o ddeheuwynt, wyntwy yn tybieit caffael ei ‡ pwrpos [-: ‡ helhynt] , a ddatdodesont * i Asson [-: * yn nes] , ac a hwyliasont eb law Candi.
[14] Eithyr cyn pen ne-mawr o amser, e gyvodes yn ‡ ei hemyl [-: ‡ wrthi] rhyvelwynt y elwir * Euroclydon [-: * Gogleddddwyreinwynt] .
[15] A' phan attelit y llong, ac na allai ‡ wrthladd [-: * vwhwman ] y gwynt, ni adawsam yddi * borthi yr mor [-: [no gloss]] , ac in ‡ arweddwyt [-: ‡ ducpwyt] ymaith.
[16] A' gwedi yni redec goris ynys vach a elwit Clauda, braidd y gallesam gahel ir bad,
[17] yr hwn a dderchafesont i vyny, ac arveresont o bob canhorthwyon, gan * gylchy [-: * wregysy] y llong o ddydenei, ac ofny a wnaethant rac syrthio mewn ‡ Syrtis [-: ‡ sugyndraeth] , a gadael y llestri waeret, ac velly y ducpwyt hwy.
[18] A'r dydd nesaf gwedy cyvodi * morgymladd [-: * tempestl] ddirvawr arnam, ‡ y diyspyddesont [-: ‡ yr yscafnesont] wy yr llong:
[19] a'r trydydd dydd y bwriesam an dwylaw ein hunain daclae y llong allan o hanei.
[20] Ac pryd na welit na'r haul na'r ser dros * liaws [-: * lawer] o ddyddiae, a' thempestl nyd bychan oedd ar ein gwartha, ys daroedd ‡ trosgwyddo [-: ‡ dwyn] oll 'obeith bywyt o ddyarnam.
[21] Eithyr yn ol hir * ddirwest [-: * newyn, cythlwng] , y safodd Paul yn y canol hwy, ac a ðyvot, Ha-wyr, chvvi ðylysech wrandaw arnavi a' pheidio a ‡ datdot [-: ‡ diangori] o ywrth Candi, ac yno * y diengesech [-: * enill] rac y sarhaed a'r gollet yma.
[22] Ac yr awrhon ydd eiriolaf arnoch vod yn dda ei cyssir: can na chollir vn map eneit dyn o hanoch, amyn y llong yn vnic.
[23] Can ys safawdd gar vy llaw [-: ‡ yn v'emyl, wrthyf] y nos hon Angel Dew, yr hwn am piae, ac ydd wyf yn ei wasanaethy,
[24] gan ddywedyt, Nac ofna Paul: can ys dir yw dy * ðwyn [-: * osot] gerbron Caisar: ‡ a' nachaf [-: ‡ ac wele, llyma] y rhoddes Dew yty yr oll rei

[td. 218v]
'sydd yn moriaw gyd a thi.
[25] O bleit paam, ha-wyr, byddwch lew-eich-calon, can ys credaf Ddew, mae velly y bydd yn y moð ac y dywetpwyt ymy.
[26] Eithyr dir yw ein * tavly [-: * bwrw] i ‡ nebun [-: ryw] ynys.
[27] A' gwedy dyvot y petwaredd nos ar ddec, mal ydd oeddem yn * bwhwman [-: * mordwyo, in trawsddugit] yn y mor Adrial yn-cylch hanner nos, y tybiawdd y morinwyr ‡ nesau [-: ‡ ymddangos ] o ryw wlat ydd wynt,
[28] ac a * sowndiasont [-: * blwmiesont] , ac ei cawsont yn vcain 'wrhyd o ddyfnder: a' gwedy myned ychydic pellach, sowndio drachefn a wnaethant a' ei gael yn pempthec 'wrhyd.
[29] Ac wy yn ofny rac syrthio mewn ryw leoedd ‡ geirwon [-: ‡ agarw, geirw] , bwrw a wnaethant pedair ancor allan o'r parth-ol-ir-llong, gan ddamunaw * gwawrio o'r dydd [-: * y myned hi yn ddydd] .
[30] Ac mal ydd oedd y llongwyr yn ceisiaw ffo allan o'r llong, a' gwedy gellwng bad i wared ir mor, mal petyssent ar veidr bwrw ancorae allan o'r pen-blaen ir llong,
[31] y 'syganei Paul wrth y Cannwriat ar milwyr. A' ddieithyr ir ei hyn aros yn y llong, ny ellw-chwi vot yn gadwedic [-: ‡ ddiangol] .
[32] Yno y torawdd y * milwyr [-: * sawdwyr] raffae yr bat, ac y gadaosont yddaw ‡ ddygwyddaw [-: ‡ gwympo, syrthio] ymaith.
[33] A' gwedy dechrae y bot hi yn ddydd, yr eiriolawdd Paul ar bawp gymeryt bwyt, gan ddywedyt, Llyma 'r pedwerydd dydd ar ddec ydd arosoch, ac y parhaesoch * yn ymprydiaw [-: * ar eich cythlwnc] , eb gymeryt ddim llunieth.
[34] Am hyny yð eiriolaf arnoch gymeryt bwyt: can ys lly'ma eich ‡ iechyt [-: ‡ diogelrwydd] : o bleit ny ddygwydd vn blewyn y ar ben yr vn o hanoch.
[35] A' gwedy iddaw ddywedyt hynn, y cymerawdd vara, ac y diolchawð i Ddew, yn- golwc [-: * gwydd]  pavvp oll, ac ei * drylliawdd [-: ‡ torawdd] , ac a ddechreawdd vwyta.
[36] Yno y ‡ siriodd [-: * ymlewhaoð, llonhodd] pawp, ac y cymersont vvythe vwyt hefyt.
[37] Ac ydd

[td. 219r]
oedd o hanam y gyd oll yn y llong ddaucant, trivgain ac vn ar pemthec o eneidiae.
[38] A' gwedy daroedd yddynt vwyta * digon [-: * ei gwala] , yr yscafnhasont y llong, gan vwrw yr gwenith allan ir mor.
[39] Ac pan ytoedd hi ddydd, nid adnabuont wy yr ‡ tir [-: ‡ vro, wlad] , ac hwy ganvuesont ryw * ebach [-: * borthladd vach] a' ‡ thorlan [-: ‡ glan, phen rryn] iddaw, ir lle y meðyliesant (a's gallent) wthio yr llong y mewn.
[40] Ac wedy yddwynt dderchafy yr ancorae, y maddeuesont ‡ y llong [-: * y hunain ] ir mor, ac y gellyngesont yn rhydd rwymeu y llyw, ac y dyrchafasont y lliein- hwyl parth ar gwynt, ac a dynnasont ir 'lann.
[41] A' gwedy dygwyddo o hwynt mewn lle dauvor- gyhvvrdd, y gwthiasont y llong y mewn: a'r pen- blaen-iddei a lynawdd eb allu ei sylfyd, a'r penn-ol a ymoascarawdd gan ‡ nerth [-: ‡ rwys, hwrddiat] y tonnae.
[42] Yno cycor y milwyr oedd lladd y carcharorion, rac bot ir vn o hanynt, wedy nofio ir 'lan, * ffo [-: * gilo, ðianc] ymaith.
[43] Eithyr y Cannwriat yn ewyllysio cadw Paul, ei goharddawdd ywrth y cygcor hvvn, ac a 'orchymynodd ir ei vedrent nofiaw, ymvwrw ir mor yn gyntaf, a' myned allan ir tir:
[44] ac bot ir lleill, 'rei ar * estyllot [-: ‡ vyrdde, vorde] , ac ereill ar ryw ddrylliae o'r llong: ac velly y darvu, dyvot o bawp oll ir tir yn ddiangol.

Pen. xxviij.


Paul a'ei gydymðeithion yn cahel yr estron genedl yn vwyn
ac yn gymmwynasgar. Bot y * wiper [-: * neidr ] eb wneythur eniwed
iddo. Ef e yn Iachay tad Publius ac ereill, a' gwedy
iddo gael ei ddiwally ganthwynt o bethe angenreidiol,
tynny a wnaeth i Ruuein. Ac yno wedy dderbyn gan y
broder, y mae yn dangos ei negesae. Ac yno yn precetha
yspait dwy vlynedd.



[td. 219v]

[1] AC wedy yddwynt ddianc yn-iach, yno y gwybuant mae * Melita y gelwit yr ynys [-: * hon y elwir heðyw Malta] .
[2] A'r ‡ Barbarieit [-: ‡ Estron genedl] a ðangosesant yni * hawðgarwch [-: * ddyngarwch, vwynder]  nid-bychan: can ys wy a gynneuson dan, ac an derbyniesant y gyd oll, o bleit y gawat gynnyrchiol, ac o bleit yr oervel.
[3] A' gwedy casclu o Paul talm o vriwyð, a'ei dody ar y tan, e ddaeth ‡ gwiper [-: ‡ rryw neider bericlaf] allan o'r gwres, ac a ruthrawð y ei law.
[4] A' phan welawdd y Barbarieit y * bwystvil [-: * pryf] yn-crog wrth ei law, y dywedent yn ei plith ehunain, Yn sicr ‡ lleiddiat [-: ‡ lladdwrcelain] yw 'r dyn hwn, yr hwn cyd diangawdd * or mor [-: * ar vor] , ny's gad dialedd i vyw.
[5] Ac ef e a yscytwodd y bwystvil y wrtho ir tan ac ny bu arno ddim eniwed.
[6] Eithyr wyntvvy a ddysgwilient gantaw am chwyddo, ‡ nai [-: * neu]   dygwyddo [-: ‡ cwympo, syrthio] y lawr yn ddysyvyt yn varw: ac wynt yn hir o amser yn * edrych [-: * dysgwyl] , ac eb welet dim ‡ ancyflwr [-: ‡ an cymmesur] yn dygwyð iddaw, troi ei meddwl a wnaethant, a' dywedyt, Mae Dew ytoedd ef.
[7] Yn y cyfleoedd hyny, ydd oeð * tiredd [-: * cyfanneddion] i bennaeth yr ynys, (aei enw oedd ef Publius) yr hwn an erbyniawdd, ac 'an lletyawdd dros dri-die yn ‡ anwyl [-: ‡ gu, yn voesawl, yn gwrtais] .
[8] Ac e * dderyw [-: * ddamwyniodd] , bot tad Publius yn gorwedd yn glaf ‡ o gryd, a' darymred gwaedlyt [-: ‡ o'r ddeirton a haint ei galon] : ac attaw ydd aeth Paul y mewn, a' gwedy iddo weddiaw, y dodes ei ddwylo arnaw, ac yr iachaodd ef.
[9] A' gwedy gwneythyd hynn, yr- eill hefyt or ynys, ar oedd heintiae arnynt, a ðaeth attaw, ac eu iachawyt:
[10] yr ei an * parchasont [-: * anrrydeddesont] yn vawr iawn: ac wrth longi o hanam, in llwythesant a phethae angenreidiol.


[td. 220r]

[11] Ac ar ben y trimis ir aetham ir mor mewn llong o Alexandria, yr hon y vesei yn gaeafy yn yr ynys, a'r harwyð hi oeð Castor ac Pollux.
[12] Ac wedy ein ‡ dyvot [-: ‡ tirio] i Syracusa y trigesam yno dri-die:
[13] Ac odd yno y cyrchasam amgylch, ac y daetham i Rhegium: ac yn ol vn dydd, y chwythawdd Dehauwynt, ac y daetham yr ail dydd i Puteoli,
[14] lle causam vroder, ac in deisyfwyt i drigo gyd ac wynt saith diernot, ac velly ydd aetham * parth a [-: * i] Ruuein.

[15] Ac o ddyno, pan glybu yr broder oddywrthym, y daethant y ‡ gyfarvot [-: ‡ gyfwrdd] a ni yd ym-Marchnat Appius, a'r Tair tavarn, yr ei pan welawdd Paul, diolvvch i Ddeo a wnaeth, a bot yn * hyderus [-: * ehon, hyf] .
[16] Ac vel'y wedy ein dyvot i Ruuein, y rhoðes y Canwriat y carcharorion at y Captaen-goruchaf: eithyr Paul y adwyt y drigo ‡ vvrtho ehun [-: ‡ yntef] y gyd a * milwr [-: * sawdiwr] oedd y ei gadw.
[17] Ac ar ben y tridie, y galwoð Paul ‡ bennaethieit [-: ‡ blaenorieit] yr Iuðeon yn-cyt: Ac wedy ei dyvot, y dywedawdd wrthwynt, Ha-wyr vroder, cyd na wneythym ddim yn erbyn y popul, nai Cyfreithiae yr tadae [-: * henuriait]  eto, im rroðwyt i yn garcharawr o Gaerusalem i ðwylo y Ruueinwyr,
[18] yr ei wedy darvot yðwynt vy holi, a vynesent vy-gellwng ymaith, can nad oedd ðim achos angae ynof.
[19] Eithyr can vot yr Iuðaeon yn gwrthðywedyt, im cympellwyt i appelo * ar [-: * at] Caisar, nid o herwydd bot genyf ddim y achwyn ar vy-cenedl.
[20] ‡ Ac or achos hyn [-: ‡ Can hyny] y galweis am danoch, y eich gwelet, ac y * gytgympwyl' [-: * ymðiddan a chvvi ] : er mvvyn gobaith yr Israel im cylchynir [-: ‡ rrwymir] a'r catwin hon.
[21] Ac wythe a ðywedesont wrtho. Ny wnaetham ni na chael l'ythyre o Iuðaia * am danat [-: * oth bleit di] , na dyvot neb o'r broder a venegoð nei a ddyvot dim * anvad

[td. 220v]
[-: ‡ drwc] am danat.
[22] Eithyr ni wyllysem glywet genyt' pa beth a * synny [-: * dyby] : can ys am ‡ y sect [-: ‡ yr opinion] hon, y mae yn * wybodedic [-: * honneit] genym, vot ym-pop lle yn ei gwrthðywedyt.
[23] A' gwedy gosot diernot iddo, e daeth llaweredd attaw ir ‡ hospyty [-: ‡ yw letuy, ostri] , i ba rei yd esponiodd ac testolaethawdd ef deyrnas Dew, ac a precethawð yddwynt am yr Iesu ac o Ddeddyf Moysen ac or Prophwyti, o'r borae yd * 'osper [-: * pryd gosper, prydnawn, hwyr, nos] .
[24] A'r ei a gydsynient a'r y pethae, ry ðywedesit, a'r ei ny chredent.
[25] A' phryt nad oedden yn cydcordio yn ei plith ei hunain, ymadael a wnaethant, gwedy dywedyt o Paul vn gair, nid amgen, Da y ‡ llavarawdd [-: ‡ dywedodd] yr Yspryt glan trwy Esaias y Prophet wrth ein tadae,
[26] gan ddywedyt, Cerdda at y popul hyn, a' dyweit, * Yn [-: * Gan] clywet y clywch, ac ny ðeallwch, ac yn gwelet y gwelwch, ac ny chanvyddwch.
[27] Can ys calon y popul hynn a vrassawyt, ac aei clustiae ys pwl y clywant, a'ei llygait a gaeasont, rac bot yddwynt welet a ei llygait, a' chlywet a ei clustiae, a' deall a ei calonae, ac ymchwelyt ‡ y n yd [-: ‡ val yr]  iachawn i hwy.
[28] Gwybodedic gan hyny vo ychwy, mae yr * iechydvvrieth [-: * iecheit] hwn ‡ gan [-: ‡ eiddo] Ddew a ðanvonwyt ir Genetloedd, ac wyntvvy ei * clywant [-: * gwrandawant] .
[29] A' phan ddyvot ef y pethae hyn, ydd aeth yr Iuddaeon ymaith, gan vot ymresymy mawr ganthwynt yn ei plith ehunain.
[30] Ac Paul a drigawdd ddwy vlynedd yn ei duy ardrethol, ac a dderbyniawdd bawp oll a ddaeth y mewn attaw,
[31] gan pregethy teyrnas Ddew, a dyscy cyfryw bethae, ac a 'sydd ‡ herwyð [-: ‡ yn perthynu] yr Arglwydd Iesu Christ, yn gwbyl * hyderus [-: [no gloss]] , ac eb nep yn ‡ gohardd [-: * rrwystro, llestair, lluddias, deor, rragot] .


I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section