Adran o’r blaen
Previous section

Testament Newydd ein Arglwydd Jesv Christ. Gwedy ei dynnu, yd y gadei yr ancyfiaith, 'air yn ei gylydd or Groec a'r Llatin, gan newidio ffurf llythyreu y gairiae-dodi. Eb law hyny y mae pop gair a dybiwyt y vot yn andeallus, ai o ran llediaith y 'wlat, ai o ancynefinder y devnydd, wedy ei noti ai eglurhau ar 'ledemyl y tu dalen gydrychiol. (London: by Henry Denham, at the costes and charges of Humfrey Toy, dwelling in Paules church yarde, at the signe of the Helmet, 1567), Mathew 26–8 (tt. 42v–49r), Actau 24–8 (tt. 212v–220v), 2 Corinthiaid 1–9 (tt. 262v–272v).

Cynnwys
Contents

Yr Euangel y gan S. Matthew 26-28 (tt. 42v-49r)
Pen. xxvj. 42v
Pen. xxvij. 45v
Pen. xxviij. 48r
Actæ yr Apostolion 24–8 (ff. 212v–220v).
Pen. xxiiij. 212v
Pen. xxv. 214r
Pen. xxvj. 215v
Pen. xxvij. 217r
Pen. xxviij. 219r
Yr ail Epistol Paul at y Corinthieit 1–9 (ff. 262v–272v).
YR ARGVMENT. 262v
Yr ail Epistol Paul at y Corinthieit. 263v
Pen. j. 263v
Pen. ij. 264v
Pen. iij. 265v
Pen. iiij. 266v
Pen. v. 267v
Pen. vj. 268v
Pen. vij. 269v
Pen. viij. 270v
Pen. ix. 271v

[Yr Euangel y gan S. Matthew 26-28 (tt. 42v-49r)]



[td. 42v]

Pen. xxvj.


Bwriad yr Offeiriait yn erbyn Christ. Ef yn escuso Mair
Magdalen. Ordinat Swper yr Arglwydd. Gwendit y
discipulon. Brad Iuddas. Y cleddyf. Can i Christ y 'alw
y un yn vap Dew, y barnwyt ef yn deilwng o angae.
Petr yn ymwady, ac yn edifarhay.


[1] AC e ðarvu, gwedy i'r Iesu 'orphen y gairie hyn oll, ef a ddyvot wrth ei ddiscipulon,
[2] Chwi wyddoch, mae o * vewn [-: * ar ol] y ðauddydd y mae 'r Pasc a' Map y dyn a roddir ‡ y'w groci [-: ‡ ddodi ar y groes] .
[3] Yno ydd yngynnullawð yr Archoffeiriait a'r Scrivennyddion, a' * Henyddion [-: * Henafgwyr] y popul i nauað yr Archoffeiriat, a elwit Caiaphas
[4] ac a ymgyggoresont py vodd y dalient yr Iesu trwy ‡ vrad [-: ‡ ddichell] , a' ei ladd.
[5] Eithyr wynt a ddywetsont, Nyd ar yr 'wyl, rac bod cynnwrf ym-plith y * popul [-: * werin] .
[6] Ac val yð oedd yr Iesu ym-Bethania yn-tuy Simon 'ohanglaf,
[7] e ddaeth ataw wreic, ac gyd a hi ‡ vlwch [-: ‡ llestrait, golwrch] o irait gwerthvawr, ac ei tywalldawdd ar ei benn, ac ef yn eistedd * wrth y vort [-: * ar y bwrð] .
[8] A' phan weles ei ddiscipulon, wy a ‡ sorasont [-: ‡ ddigiesont] , gan ddywedyt, Pa rait * y gollet hon [-: * yr afrat hyn] ?
[9] can ys ef al'esit gwerthy er irait hwn er l'awer, a'i roddi ef ir tlotion.
[10] A'r Iesu a wybu, ac a ddyvot wrthwynt, Paam ydd ych yn ‡ molesty [-: ‡ ymliasu ar] yr wreic? can ys hi a weithiawdd weithret ða arnaf.
[11] Can ys y tlodion a gewch yn * wastat [-: * bob amser] yn eich plith, a' myvy ny's cewch yn oystat gyd a chwi.
[12] Can ys lle y tywalltawdd

[td. 43r]
hi yr irait hwn ar vyg-corph, er mwyn * vy-claðedigaeth [-: * v'angladd] hi gwnaeth.
[13] Yn wir y dywedaf wrthych, Pa le bynac y precether yr Euangel hon yn yr oll vyt, hyn yma hevyt a wnaeth hi, a venegir er coffa am denei,
[14] Yno yr aeth vn o'r dauddec, yr hwn a elwit Iudas Iscariot, at yr Archoffeiriait, 
[15] ac a ddyvot vvrthynt, Pabeth a rowch i mi, a' mi y ‡ rroddaf [-: ‡ vradychaf] ef y-chwy? Ac wy a 'osodesont iddaw * ddec arugain o ariant [-: * pop vn oeð yn cylch pedair a' dimae o'n cyfri ni] .
[16] Ac o hynny allan, y caisiawdd ef amser-cyfaddas yw vradychy ef.
[17] Ac ar y dydd cyntaf o wyl y bara-‡ croew [-: ‡ cri, crai] , y discipulon a ðaethant at yr Iesu gan ddywedyt wrthaw, P'le y myny i ni paratoi iti y vwyta 'r Pasc?
[18] Ac yntef a ddyuot, Ewch ir dinas * at ryw vn [-: * ar gyfryw] , a dywedwch wrthaw, Yr athro a ddywait, Vy amser ys ydd agos, cyd a thi y cynhaliaf y Pasc, mi am discipulon.
[19] A'r discipulon a wnaethant mal y gorchmynesei 'r Iesu yddwynt, ac a paratoesont y Pasc.
[20] Ac gwedy ei mynet hi yn ‡ hwyr [-: ‡ echwydd, gosper] , ef a eisteddawdd i lawr gyd a'r dauddec.
[21] Ac mal ydd oeðent yn bwyta, y dywedawð, Yn wir y doedaf wrthych, y bradycha vn o hanawch vyuy.
[22] Yno yr aethant yn * athrist [-: * trist, drycverth] dros ben, ac a ddechraesont bop-vn ddywedyt wrthaw. Ai myvi Arglwydd?
[23] Ac ef a atepawdd ac a ddyvot, Yr hwn a ‡ drocha [-: ‡ vlych] ei law gyd a mi yn y ðescil, hwn a'm bradycha.
[24] * Diau [-: * yn sicr] Map y dyn a gerdda, mal y mae yn escrivenedic o hanaw, anid gwae 'r dyn hwnaw [~ hwnnw ], trwy 'r hwn y bradycher Map y dyn: ys da vesei ir dyn hwnaw, [~ hwnnw ] pe na's genesit erioet.
[25] Yno Iudas yr hwn y bradychawdd ef, a atepawdd ac a ddyvot, Ai

[td. 43v]
myvi yw ef, * Athro [-: * Rabbi] ? Ef a ddyvot wrthaw, Ty ei dywedaist.
[26] Ac val yr oeddynt yn bwyta, e gymerth yr Iesu 'r bara: a' gwedy iddaw ‡  vendithiaw [-: ‡ vendigo, ddiolch] , ef ei torawdd, ac ei roddes ir discipulon, ac a ddyvot, Cymerwch, bwytewch: hwnn yw vy- corph.
[27] Ac ef a gymerth y * cwpan [~ cwpan ] [-: * phiol] , a' gwedy iddo ddiolch, ef ei rhoddes yddynt, can ddywedyt  Yfwch ‡ oll [-: ‡ bawp] o hwn.
[28] Can ys hwn yw vy gwaet * [-: * ys ef gwaed] o'r testament Newydd, yr hwn a ‡ dywelltir [-: ‡ ddineir, ellyngir, ffrydijr] tros lawer, er maddauant pechotae.
[29] Mi ddywedaf wrthych, nad yfwyf o hynn allan o'r ffrwyth hwn * y wynwydden [-: * ir] yd y dydd hwnw, pan ydd yfwyf ef yn newydd gyd a chwi yn-teyrnas vy-Tad.
[30] A' gwedy yddwynt ‡ canu psalm [-: ‡ ddywedyd gras ne emyn] , ydd aethant allan i vonyth Olivar.
[31] Yno y dyvot yr Iesu yr wrthynt, Chwychwi oll a * rwystrir [-: * dramgwyddir, gwympir] heno o'm pleit i: canys escrivenedic yw, Trawaf y bugail, a' deveit y ‡ vagat [-: ‡ gorlan, cadw] a 'oyscerir.
[32] Eithyr gwedy 'r adgyvodwyf, ir af och blaen ir Galilea.
[33] Ac Petr atepawdd, ac a ddyvot wrthaw, Pe * rhan [-: * rhon] i bawp ac ymrwystro oth pleit ti, eto ni 'im ‡ rhwystrir [-: ‡ tramgwyddir] i byth.
[34] Yr Iesu a ðyvot wrthaw, Yn wir y dywedaf wrthyt, mae yr nos hon, cyn * canu [-: * cathly] yr ceilioc, i'm gwedy deirgwaith.
[35] Petr a ðyvot wrthaw, Pe gorvyddei i mi varw gyd a thi, eto ny'th wadaf. Ar vn modd hefyt y dyvot yr oll ddiscipulon.
[36] Yno ydd aeth yr Iesu gyd ac wynt i van a elwit Gethsemane, ac a ddyvot wrth y discipulon. Eisteddwch yma, ‡ tra [-: ‡ yd yn yd] elwyf a gweddiaw accw.
[37] Ac ef a gymerth Petr, a' dau-vap Zebedeus ac a ðechreawð * tristau [-: * ddrycverthy] , ac ymovidiaw yn tost.
[38] Yno y dyvot yr Iesu

[td. 44r]
wrthynt, Trist iawn yw vy enait ys yd angae, Aroswch yma, a' gwiliwch gyd a mi.
[39] Ac ef aeth ychydic pellach, ac a gwympodd ar ei wynep, ac y weddyawdd, can ddywedyt, * Vy-Tad [-: * Vynhad] , a's gellir, aed y ‡ cwpan [~ cwpan ] [-: ‡ phiol] hwn ywrthyf: na vyddet hagen, yn ol vy ewyllys i, anid yn ol dy ewyllys di.
[40] Yno y daeth at y discipulon, ac ei cafas wy yn cyscu, ac a ddyvot wrth Petr, Paam? a ny allech 'wiliaw vn awr gyd a mi?
[41] Gwiliwch, a' gweðiwch rac eich myned * ym- [-: * mewn] provedigaeth: ‡ diau [-: ‡ dilys] vot yr yspryt yn parat, eithyr y cnawt ys ydd 'wan.
[42] Ef aeth trachefn yr ailwaith ac a weddiawð, can ddywedyt * Vy-Tat [-: * Vynhad] , any's gall y cwpan [~ cwpan ] hwn vynet ywrthyf, eb orvod i mi ei yvet, byddet dy ewyllys.
[43] Ac ef a ddeuth, ac y cavas wy yn cyscu trachefyn: can ys ei llygait wy oedd drymion,
[44] Ac ef ei gadawodd wy ac aeth ymaith drachefyn, ac a weddiawdd y trydeð waith, can ddywedyt yr vn gairiae.
[45] Yno y daeth ef at ei discipulon, ac a ddyvot wrthynt, Cuscwch bellach a' gorphwyswch: ‡ nycha [-: ‡ wele] , mae'r awr wedy nesay, a' Map y dyn a roddir yn-dwylaw pechaturieit.
[46] Cyvodwch, awn: nycha, y mae geyr llaw yr hwn a'm bradycha.
[47] Ac ef eto yn dywedyt hyn, * nycha [-: * synna, yti] , Iudas, vn or dauddec ‡ yn dyvot [-: ‡ a ddaeth] a' thorf vawr cyd a' ef a chleddyvae a' * ffynn [-: * chlwpae] , ywrth yr Archoffeiriait a' henurieit y popul.
[48] A' hwn aei bradychawdd ef, a royðesei arwydd yddynt, can ddywedyt, Pwy'n bynac a gysanwyf, hwnw ytyw, deliwch ef.
[49] Ac yn ebrwydd e ddaeth at yr Iesu, ac a ddyvot, * Henpych-well [-: * Nos dayt]  ‡ Athro [-: ‡ Rabbi] , ac ei cusanawð.
[50] A'r Iesu a ddyvot wrthaw, Y * car [-: * cydymaith, cyvaill] y ba beth y daethost?

[td. 44v]
Yno y deuthant ac y roesont ddwylo ar yr Iesu, ac ei daliesant.
[51] A' * nycha [-: * wele] , vn or ei oedd gyd a'r Iesu, a estennawdd ei law, ac a dynnawdd ei gleddyf, ac a drawawdd was yr Archoffeiriat, ac a dorawdd ei glust ymaith.
[52] Yno y dyvot yr Iesu wrthaw, Dod dy gleðyf yn ei ‡ le [-: ‡ wain] : can ys pawp a'r a gymerant gleddyf, a chleddyf eu collir.
[53] Ai wyti yn tybiet, na's gallaf yr awrhon * weddiaw ar [-: * erchy] vy-Tad, ac ef rydd i mi vwy na dauddec ‡ lleng [-: ‡ rhifedi mawr] o Angelion?
[54] Can hyny pa vodd y cyflawnir yr Scrythurae y ddyvvedant, y gorvydd * bot [-: * gwnethur] velly?
[55] Yn yr awr hono y dyvot yr Iesu wrth y durfa, Chwi a ddeuthoch allan megis ‡ at [-: ‡ yn erbyn] leitr a chleddyfae ac * a' fynn [-: * chlwpae] im dal i: ydd oeddwn baunyð yn eistedd ac yn ‡ dyscy'r popul [-: ‡ dangos] yn y Templ yn eich plith ac ni'm daliesoch.
[56] A' hyn oll a wnaethpwyt, er cyflawny'r Scrythure a'r Prophwyti. Yno yr oll ddiscipulon ai gadasant, ac a ‡ giliesant [-: * ffoesont] .
[57] Ac wynt a ðaliesant yr Iesu, ac aethant ac ef at Caiaphas yr Archoffeiriat, lle ydd oedd yr * Scrivenyddion [-: * Gwyr llen] ar ‡ Henuriait [-: ‡ Henyðion, Henaif] wedy'r ymgascly yn-cyt.
[58] Ac Petr y cynlynawdd ef o hirbell yd yn * llys [-: * nauadd] yr Archoffeiriat, ac aeth y mewn, ac a eisteddawdd gyd a'r gweision i weled y ‡ diben [-: ‡ diwedd] .
[59] A'r Archoffeirieit a'r Henureit, a'r oll ‡ gymmynva [-: * senedd] y geisiesont gaudestiolyeth yn erbyn yr Iesu, yw * ddody [-: ‡ roddi] ef i angae.
[60] Ac ny's [~ nis ] ‡ cawsant [-: [no gloss]]  neb, ac er dyvot yno  lawer gaudystion, ny chawsont chwaith. Ac o'r dywedd y deuth dau gau dystion,
[61] ac a ddywedesont, Hwn yma a ddyvot, Mi allaf * ddestryw [-: * ddinistrio, ddysperi] Templ Dduw, a' hei adaillat mewn tri-dievvarnot [~ tri diwrnod ].
[62] Yno

[td. 45r]
y cyfodes yr Archoffeiriat ac a ddyvot wrthaw, A atepy di ddim? Pa peth yvv pan vo reihyn yn testolaethy yn dy erbyn?
[63] A'r Iesu a dawodd. Yno ydd atepawdd yr Archoffeiriat, ac a ddyvot wrthaw, Mi ath * dyngaf trwy [-: * orchymynaf can, obleit] 'r Duw byw, ddywedyt o hanot [~ ohonot ] i ni, a's ti ywr Christ Map Duw.
[64] Yr Iesu a ddyvot wrthaw, Tu ei dywedeist: eithyr mi a ddywedaf wrthych, ar ol hynn y gwelwch Vap y dyn, yn eistedd ar ddeheu gallu Duvv, ac yn dawot yn ‡ wybrenae [-: ‡ cymyle] 'r nef.
[65] Yno y * rhwygawdd [-: * drylliawð] yr Archoffeiriat ei ddillat, can ddywedyt, Ef a gablawdd: pa reit i ni mwy wrth testion? nycha, clywsoch y gabl ef.
[66] Peth dybygwch chwi? Wy a atepesant, can ddywedyt, Mae ef yn * auawc i [-: * dailwng o] angae.
[67] Yno y poeresont wy yn ei wynep, ac ei ‡ cernodiesont [-: ‡ bonclustiesant] : ac eraill y trawsant ef a ei * gwiail [-: * swiðwiail] ,
[68] gan ddywedyt, Prophwyta i ni, Christ, pwy yw hwn ath trawodd?
[69] Petr oedd yn eistedd ‡ hwnt [-: ‡ allan] yn y nauadd [-: * llys] , ac a ddaeth * morwynic [~ morwynig ] [-: ‡ bachgenes ] attaw, ac a ddyvot, Ac ydd oeddyt ti y gyd ac Iesu o'r Galilea.
[70] Ac ef a watawdd geyr ei bron wy oll, ac a ddyvot, Ny's gwnn beth ddywedy.
[71] A' phan aeth ef allan ir porth, y gwelawdd morvvynic arall ef, ac a ddyvot wrth yr oedd ynow, Ydd oedd hwnn hefyt gyd ac Iesu o Nazaret,
[72] A thrachefyn ef a 'wadawdd ‡ gan dyngu [-: ‡ drwy lw] , Nyd adwaen i'r dyn.
[73] Ac ychydic gwedy, y deuth attaw 'rei oeð yn sefyll geyr llaw, ac a ddywedesont wrth Petr, Yn wir ydd * yw [-: * wy] ti yn vn o hanwynt, can ys bot dy lediaith yn dy ‡ gyhoeddy [-: ‡ gyhuddaw] .
[74] Yno y dechreawdd ef * ymregy [-: * ymdyngedy] , a' thyngy, can ddyvvedyt, Nyd adwaen i'r dyn. Ac

[td. 45v]
yn y man y canawdd y ceiliawc.
[75] Yno y cofiawdd Petr 'airie 'r Iesu yr hwn a ddywedesei wrthaw, Cyn canu yr ceilioc, tu a'm gwedy deirgwaith.  Yno ydd aeth ef allan ac ydd wylawdd yn * dost [-: * chwerw] .

Pen. xxvij.


Delifro Christ at Pilat. Iudas yn ymgrogy. Bot cyhoeddi
Christ yn wirion gan y beirniat, ac er hynny ei groci ynghyfrwng
llatron. Ef yn gweddiaw ar ucha y groc. Bot
rhwygo 'r llen. Y cyrph meirw yn cyuodi. Ioseph yn
claddu Christ. Gwylwyr yn cadw'r bedd.


[1] A' Phan ddeuth y borae, yð  ymgyggorawð yr oll Archoffeiriait a' henurieit y popul yn erbyn yr Iesu, er ei roddy i angae,
[2] ac aethant ymaith ac ef yn rhwym, ac ei rhoeant Pontius Pilatus y ‡ l'ywiawdr [-: ‡ presidens, Raglaw] .
[3] Yno pan weles Iudas aei bradychawdd, ei * ady [-: * varnu, ddienyddy] ef yn auawc, e vu edivar ganthaw, ac a dduc drachefn y dec arucain ariant ir Archoffeiriait, a'r Henurieit,
[4] gan ddywedyt, Pechais can vradychy gwaet gwirian. Wythae a ðywydesont, Peth yw hyny i ni? edrych ti.
[5] Ac wedy yddaw davly yr ariant yn y Templ, ef a ymadawodd, ac aeth, ac a ymgrogawdd,
[6] A'r Archoffeiriait a gymeresont yr ariant, ac a ddywedesont, Nyd cyfreithlawn i ni ei bwrw wy yn y ‡ Corban [-: ‡ tresordy] , can ys gwerth gwaet ytyw.
[7] A' gwedy yddynt ymgydgyggori, wy brynesont ac wynt vaes y  crochenydd

[td. 46r]
i gladdy * pererinion [-: * ospion, dieithreit, estronion, alltudion] .
[8] Ac am hyny y gelwir y maes hwnw ‡ Maes [-: ‡ werwyt] y gwaet yd y dydd heddyw.
[9] (Yno y cwplawyt yr hynn a ddywetpwyt trwy Ieremias y Prophwyt, y ddywait, Ac wynt a gymersont ddec ar ucain ariant, gwerth y gwerthedic, yr hwn a brynesont gan plant 'r Israel.
[10] Ac wynt eu roesont am vaes y crochenyð, megis y gossodes yr Arglwydd ymy)
[11] A'r Iesu a safawdd geyr bron y * llywyawdr [-: * president,] , a'r llywyawdr a ovynawdd yddo, can ddywedyt, Ai ti'r Brenhin yr Iuddaeon? A'r Iesu a ddyvot wrthaw, tu ei dywedeist.
[12] A' phan gyhuddwyt ef can yr Archoffeiriait ar Henurieit, nyd atepawdd ef ddim.
[13] Yno y dyvot Pilatus wrthaw, A ny chlywy veint o pethae y maent wy yn ei roi yn dy erbyn?
[14] Ac y nyd atepawdd ef yddo i vn gair, val y rryweddawdd y llywawdr yn vawr.
[15] Ac ar yr wyl hono ydd ‡  arverei [-: ‡ gnotaei] y * llywiawdr [-: * deputi, presidens] ellwng ir popul vn carcharor yr hwn a vynnent.
[16] Yno ydd oedd ganthwynt - ‡ honneit [-: ‡ hynot] a elwit Barabbas.
[17] A' gwedy yðynt ymgasclu yn-cyt, Pilatus a ðyvot wrthynt, Pa vn a vynwch i mi ellwng y chwi, Barabas ai Iesu yr hwn a elwir Christ?
[18] (canys ef a wyðiat yn dda mae o genvigen y roðesent ef.
[19] Ac ef yn eisteð ar yr 'orseddvainc, ei wraic a ddanvonawdd attaw gan ðywedyt, Na vit i ti a wnelych ar gvvr cyfiawn hwnnw, can ys goddefais lawer heðyw mewn breuddwydion o ei achos.)
[20] A'r archoffeiriait a'r Henureit * ymlewyð [-: * ymneheð, ymbil] a wnaethent a'r bobl er mwyn govyn Barabbas, a' ‡ cholli [-: ‡ dienyddu] 'r Iesu.
[21] A'r llywyawdur a atepawdd, ac a ddyvot wrthynt, Pa vn o'r

[td. 46v]
ddau a vynwch i mi ei ellwng ychwy? Wyntae a ddywetsant Barabbas.
[22] Pilatus a ðyvot wrthynt Peth a wnaf ynte i Iesu yr hwn a elwir Christ? Wy oll a ddywedesont wrthaw, Croger [-: * Croeshoeler, croeser] ef.
[23] Yno y dyvot y llywyawdur, An'd pa ddrwc y wnaeth ef? Yno y llefesont yn vwy, can ddywedyt, * Croger [-: ‡ Roer ar y groes] ef.
[24] Pan welawdd Pilatus na thycyei dim yddaw anid bot mwy o gynnwrf yn cody, ef a gymerth ddwfr, ac a 'olches ei ddwylaw geyr bronn y * popul [-: * dyrfa] , can ddywedyt, ‡ Gwirian [-: ‡ diargyoeð] wyf y wrth waet y cyfiawn hwnn, edrychwch-chwi arnoch.
[25] A'r oll popul a atepawð ac a ðyvot, Bid y waet ef arnam ni [ac] ar ein plant.
[26] Ac val hynn y gellyngawdd ef Barabas yddynt, ac ef a * yscyrsiodd [-: * ffrewilliawdd] yr Iesu, ac y rhoddes ef yw ‡ groci [-: ‡ groesi] .
[27] Yno milwyr y llywiawdr a gymeresont yr Iesu ir dadlaeduy, ac a gynullesont attaw yr oll * gywdawt [-: * vyddin] ,
[28] ac ei ‡ dioscesont [-: ‡ dihatresont] , ac roesant am danaw * huc coch [-: * mantell purpur] ,
[29] ac a blethesont coron ddrain ac ei dodesont ar ei benn, a' chorsen yn ei law ddeheu, ac a blycesont ei glinie geir ei vron, ac ei gwatworesont, gan ddywedyt, * Henpych- well Brenhin [-: ‡ Nawdd duw arnat vrenhin] yr Iuddeon,
[30] ac wynt a boeresont arnaw, ac gymersont gorsen ac ei ‡ trawsont [-: ‡ baeðesont] ar ei ben.
[31] A' gwedy yddwynt ei watwary, wy ei * dioscesont [-: * dihatresont] ef o'r huc, ac ei gwiscesont ef aei ddillat ehun, ac aethant ac ef yw ‡ groci [-: ‡ groesi] .
[32] Ac a'n hwy yn * mynet [-: * dyvot] allan, eu cawsant ddyn o Cyren, a elwit Simon: a hwn a gompellasant i ddwyn y ‡ groc [-: * groes] ef.
[33] A' phan ddaethan i le a elwit Golgotha, (ys ef yw hynny y Benglogva.)
[34] Wy roesont yddaw yw yfet vinegr yn gymyscedic a bystyl: a' gwedy yðo

[td. 47r]
ei * brovi [-: * vlasy] , ny vynnawdd ef yvet.
[35] Ac wedy yðynt y ‡ grogy [-: ‡ groesi] ef, wy ranesont ei ddillat, ac a vwriesont * goelbrenni [-: * gwtysae, gyttae] , er cyflawny y peth, y ddywetpwyt trwy 'r Prophwyt, Wy a rannasant vy-dillat yn eu plith, ac ar vy-gwisc y bwriesont goelbren.
[36] Ac wy a eisteddesant ac ei gwiliesont ef yno.
[37] Ac 'osodesont hefyt vch ei benn ei achos yn escrivenedic Hvvn yvv Iesu y Brenhin yr Iudæon.
[38] Yno y crogwyt ddau leitr y gyd ac ef, vn ar ddehau, ac arall ar ‡ aswy [-: ‡ aseu] .
[39] A'r ei oedd yn mynet heibio, y caplesant ef, gan * ysgytwyt [-: * siglo] ei pennae,
[40] a' dywedyt, Ti yr hwn a ddestrywi 'r Templ, ac ei adaily mewn tri-die, cadw dy hun: a's tu yw Map Duw, descen ‡ o groc [-: ‡ oyar y groes] .
[41] A'r vn modd yr Archoffeiriait y gwatworesont ef y gyd a'r Scrivenyddion, a'r Henurieit, a'r Pharisaieit gan ddywedyt.
[42] Ef a waredawdd eraill, ac nyd all ef y ymwared ehun: a's Brenhin yr Israel yw ef, descennet yr awrhon * o groc [-: ‡ oyar y groes] , ac ni a gredwn ydd-aw.
[43] Mae e yn ymðiriet ‡ yn-Duw [-: ‡ ynnyw, nei i dduw] , rhyðhaet ef yr awrhon, a's myn ef ei gahel: can ys ef a ddyvot, Map Dew ytwyf.
[44] Yr vn peth hefyt a * eidliwiesont [-: * ddanodent] ydd-aw y llatron, yr ei a grocesit gyd ac ef.
[45] Ac o'r chwechet awr, y bu tywyllwch ar yr oll ‡ ðaiar [-: ‡ dir] , yd y nawvet awr.
[46] Ac yn cylch y nawved awr y llefawdd yr Iesu a llef vchel, gan ddywedyt, Eli, Eli, lamasabachthani? ys ef yw, * Vy-Duw [-: * Vynuw] , vy-Duw, paam im gwrthodeist?
[47] A'r ei o'r sawl oedd yn sefyll yno, pan glywsont, a ðywedesont, Mae hwn yn galw ar Elias.
[48] Ac yn y van vn o hanynt a redawð, ac a gymerth ‡ yspong [-: ‡ yspwrn] ac ei llanwodd o vinegr, ac a ei dodes

[td. 47v]
ar ‡ gorsen [-: [no gloss]] , ac a roes iddaw yw yfet.
[49] Ereill a ddywesont, Gad iddo: edrychwn, a ddel Elias y waredy ef.
[50] Yno y llefawdd yr Iesu drachefyn a llef vchel, ac ef a vaðeuawdd yr yspryt.
[51] * A' nycha [-: * Ac wele] , l'en y Templ a rwygwyd yn ðau, or cwr vcha yd yr isaf, a'r ddaear a grynawdd, a'r main a ‡  holltwyt [-: ‡ gleisiesont] ,
[52] a'r beddae a ymogeresont [~ ymagoresont ], a' llawer o gyrph y Sainct yr ei a gyscesent, a godesent,
[53] ac a ddaethant allan o'r beddae ar ol y gyfodiat ef, ac aethant y mewn ir dinas sanctaidd, ac a ymddangosesont i lawer.
[54] Pan weles y cann-wriad, ar ei oedd gyd ac ef yn gwylied yr Iesu, y ddaiar yn cryny, a'r pethe a wneythesit, wy ofnesont yn vawr, can ddywedyt, Yn wir Map Duw ytoedd hwn.
[55] Ac ydd oedd yno lawer o wragedd, yn edrych arnavv o bell, yr ei a gynlynesent yr Iesu o'r Galilea, gan * weini yddaw [-: * ei wasanaethu] .
[56] Ym-plith yr ei ydd oedd Mair Magdalen, a' Mair mam Iaco ac Ioses, a' mam plant Zebedeus.

[57] A' gwedi y myned hi yn hwyr, y daeth gwr goludawc o Arimathaia, a' ei enw Ioseph, yr hwn vesei yntef yn ddiscipul ir Iesu.
[58] Hwn aeth at Pilatus, ac archoð gorph yr Iesu. Yno y gorchymynawdd Pilatus bot roddy y corph.
[59] Ac velly y cymerth Ioseph y corph, ac ei * amdoes [-: * amwiscoð] mewn llen lliein glan,
[60] ac ei dodes yn ei ‡ vonwent [-: ‡ veð, veddrod ] newydd, yr hwn a * drychesei [-: * doresei, naddasei] ef mewn craic, ac a dreiglodd ‡ lech [-: ‡ vaen] vawr * ar ddrws [-: * wrth] y ‡ vonwent [-: ‡ veddrod] , ac aeth ymaith.
[61] Ac ydd oedd Mair Vagdalen a'r Mair arall yn eystedd gyferbyn a'r bedd.

[62] A'r dydd dranoeth yn ol paratoat y Sabbath, yr

[td. 48r]
ymgynullawdd yr Archoffeiriat a'r Pharisaieit at Pilatus,
[63] ac a ddywedesont, Arglwydd, e ddaw in cof ni ddywedyt o'r * twyllwr [-: * hudwr] hwnw, ac ef etwa yn vyw, O vewn tri-die y cyfodaf ,
[64] gorchymyn gan hyny gadw y ‡ bedd [-: ‡ veddrod] yn ddilys yd y trydydd dydd, rac dyvot ei ddyscipulon o hyd nos a'ei ladrata ef ffvvrd , a' dywedyt wrth y popul, Ef a gyfododd o veirw: ac velly y byð y * cyfeilorn [-: * dydro] dyweddaf yn waeth na'r cyntaf.
[65] Yno y dyvot Pilatus wrthyn, ymae genwch wyliadwriaeth: ewch, a' diogelwch val y gwyddoch.
[66] Ac wy aethan, ac a ddiogelesant y bedd ‡ y gan y [-: ‡ drwy'r] wiliadwriaeth, ac a inselieson y * llech [-: * maen] .

Pen. xxviij.


Cyuodiat Christ. Broder Christ. Yr Archoffeiriait yn gobrio
'r * milwyr [-: * savvdwyr] . Christ yn ymddangos yw ddiscipulon,
ac yn ei danfon ymaith i precethy, ac i vatyddio, Gan addaw
yddyn borth 'oystadol.


[1] YNo * yn-diweð [-: * gan yr hwyr] y sabbath, a'r dydd centaf o'r wythnos yn dechrae ‡ gwawrio [-: ‡ dyddhay, cleisio] , y daeth Mair Magdalen a'r Vair arall i edrych y beð.
[2] A' nycha, y bu dayar-gryn mawr: can ys descendodd Angel yr Arglwydd o'r nef, a' dyvot a' threiglo y llech y wrth y drws, ac eistedd arnei.
[3] A' ei ‡ ðrych [-: ‡ wynepryd] oedd val * mellten [-: * lluched] , a' ei wisc yn wen val eiry.
[4] A' rac y ofn ef yd echrynawdd [~ y dychrynodd ] y ceidweid, ac aethon val

[td. 48v]
yn veirw.
[5] A'r Angel y atepawdd ac a ddyvot wrth y gwragedd, Nac ofnwch: canys gwn mai caisio ydd ych yr Iesu yr hwn a * grogwyt [-: * groeshoelwyt, a roed ar y groes] :
[6] nyd ef yman, can ys cyfodawdd, megis y dyvot: dewch, gwelwch y van lle y doded yr Arglwydd,
[7] ac ewch a'r ffrwst, a' dywedwch y'w ddiscipulon gyfody o hanaw o veirw: a' ‡ nycha [-: ‡ wely ] ef yn ych racvlaeny i Galilea: yno y gwelwch ef: nycha ys dywedais y'wch.
[8] Yno yð aethant yn ebrwyð o'r * vonwent [-: * beddrod] gan ofn a' llawenydd mawr, ac a redasan i venegy y'w ðiscipulon.
[9] Ac a 'n hwy yn myned y venegy y'w ddiscipulon ef, a' ‡ nycha [-: ‡ wele] 'r Iesu yn cyhwrdd ac wynt, gan ddywedyt, * Dyw ich cadw [-: * Hyn bychwell, Dydd da ywch.] . Ac wy a ddaethant, ac a ymavlesont yn ei draet, ac ei addolesont.
[10] Yno y dyvot yr Iesu wrthwynt, Nac ofnwch. Ewch, a' dywedwch im broder ‡ yn [-: ‡ val] yd elont i Galilaea, yno y gwelant vi.

[11] A' gwedy y myned hwy, * nycha [-: * wele] y daeth yr ei o'r wiliadwriaeth i'r dinas, ac venegesont i'r Archoffeiriait, yr oll a'r wnethesit.
[12] Ac wy a ymgynullesont y gyd a'r ‡ Henyddion [-: ‡ Henafieit] , ac a ymgyggoresont, ac a roeson arian lawer i'r * milwyr [-: * sawdwyr] ,
[13] gan ddywedyt, Dywedwch, E ddaeth ei ddiscipulon o hyd nos, ac y lladratesont ef a ni yn cyscu.
[14] Ac a chlyw y ‡ llywiawdr [-: ‡ Raglaw] hyn, ni a * ei dygwn [-: * ymneheddwn] ef i gredy, ac ach cadwn chwi yn ‡ ddigollet [-: ‡ ddiogel] .
[15] Ac wy a gymeresont yr ariantae, ac a wnaethant val yr addyscwyt wy: ac y gyhoeðwyt y gair hwn ym-plith yr Iuðaeon yd y dydd heddyvv.

[16] Yno yr aeth yr vn discipul ar ddec i Galilaea, i'r mynyth lle y * gosodesei [-: * trefnesei] 'r Iesu yddwynt.
[17] A' phan

[td. 49r]
welsant ef, yr addolasont ef: a'r ei a ‡ betrusesant [-: ‡ ameuesant, dowtiesont] .
[18] A'r Iesu a ddaeth, ac a ymadroddawdd wrthwyn, gan ddywedyt, E roed i mi oll awturtot [-: * veddiant, allu] yn y nef ac * yn [-: * ar] ddaiar.
[19] Ewch gan hyny, a' dyscwch yr oll genetloedd, gan ei batyddio hwy yn Enw y Tad, a'r Map, a'r Yspryt glan,
[20] gan ddyscy yddwynt gadw bop peth a'r a 'orchymynais y chwy: a' ‡  nycha [-: ‡ wele] , ydd wyf vi gyd a chwychvvi * yn 'oystat [-: * yr oll ddyddiau] yd diweð y byt, Amen. *


I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section