Adran o’r blaen
Previous section

Kressyd  ei hunan./
Arnad Troea mewn hiraeth a thrymder yr wy /n/ edrych./
dy dyre uchel a 'th reiol gaeref [~ gaerau] kwmpaswych./
llawer diwrnod llawen o fewn dy gaeref [~ gaerau] a gefais
a llawer o hiraeth amdanad ti a ddygais
O Troea gwae fi o 'r myned
o Troelus gwae fi dy weled

[td. 181]
o Troelus fy anwylyd
wyt ti /n/ meddwl am Gressyd./
Gwae fi Troelus nas gwnaethwn y peth a geissiaist
gwae fi nad aethwn y modd a 'r sut y damunaist
nis biasswn i yr owran yn rhoi ychenaid [~ ochenaid] kyn drymed./
ni ellesid ddoydyd wneuthyr honof [~ ohonof] drwc weithred./
Nid oes ym gael ond trwbwl
i atkoffau hynn y 'm meddwl
y kyffyrie sydd ddiweddar
wedi rhoi /r/ korff mewn dayar./
Mae /n/ rhowyr yr owran am yr achos yma siarad
o arglwyddes y synwyr ple yr oedd dy dri llygad
y peth a basiodd mi atkoffeis amdano
y peth oedd yn bresenol mi a wyddwn oddi wrtho
Ar y pethau oedd i ddywad
nis gwneuthym fawr adeilad
am nas medrasswn ei gweled
y mae ym yn gwneuthyd niwed./

[td. 182]
Ond yn wir treigled hynn y modd ac y mynno
yfory /r/ nos yn ddiffael y byddaf gidac efo
naill ai i 'r Deau ai i 'r Dwyrain ai i 'r Gorllewin
y kollaf i fyned at Troelus fy anwylddyn.
Doeded pawb a fynnan
fo wnaiff Kressyd ei hamkan
Drywante a fynn siarad
o genfigen ar gariad./
Diomedes  ar hynn yn dyfod
at Gressyd./
Fy nghariadys arglwyddes beth a fynwch chwi ymofyn./
am Droea ne am Droeaid, na soniwch amdanun
gyrrwch allan obaith chwerw a gwnewch lywenydd

[td. 183]
kodwch i fynu 'ch kalon, a 'ch glendyd o newydd
O herwydd mae Troea
wedi ei dwyn ei hun i 'r gwaetha
nid ydiw honn ond aros
y trwm ddiwedd sydd yn agos./
Meddyliwch fod Groecwyr yn gystal gwyr i ymddygiad
kyn honested, kynn ffyddloned kynn berffeithied mewn kariad
ac ydiw un Troywr ac o lawer yn gredigach
i ufyddhau y 'ch meddyliau ac i 'ch gwasneuthu yn ffyddlonach
Chwi a roessoch ym gennad
i dreuthu wrthych beth o 'm siarad./
fo ddowaid pobl lawer
na ddylid karu merch mewn pruddder
Bid ysbys yt Kressyd mae unfab Tideus i 'm barned
a 'm bod kynn voneddicked ac un Troewr ar a aned
a phe buasse 'y [~ fy] nhad vyw hyd y dyddie yma
mi a vuasswn vrenin ar Arge a Chalsedonia./
Ei varvolaeth a gyrches,

[td. 184]
pan vu /r/ rhyfel wrth Thebes
lle lladdwyd Polimeite
a llawer o 'r rhai gore./
F' anwylyd genn fy mod yn gwasneuthu ych anrhydedd
a chwithe yw /r/ ferch gynta a ddymunais ei thrigaredd
erfyn yr wyf yn lleigys gael chwanegu wrth ych siarad
beth a bair drwcdybio ond hir ymdroi mewn kariad.
Fy meddwl nid rhaid dangos
ni wnaiff geirie ond paentio /r/ achos
y peth sydd raid ei wneuthur
nid gwaeth yn vuan nac yn hwyr
Kressyd./
Diomedes Diomedes mae ytt, orchym
[td. 185] yn
fy myddyliau [~ meddyliau]
gwae fi ermoed wybod oddi wrth ryw bethau
ond mae gwyr kyn laned o fewn tref Troea
ac sydd a 'i trigfan rhwng Orcades ac India./
O rhyglydd bodd i chwi ddowad
yn lleigys mae i chwi gennad
a phann ddeloch chwi yno
chwi ellwch orchymyn kroesso./
Yn hynn mae Diomedes yn kywiro ei bwyntmant ac yn ynill bodd Kressyd:/ Troelus  ei hunan./
Bellach mae yn kalyn y goleubryd siriol Venws

[td. 186]
rhyd y kynefin lwybr y disgynes ar i wared Phebws
bellach mae Citherea a 'i chyffyle [~ cheffylau] i gwagen yn tynny
ac yn troi allan o 'r llew hyd y mae ei gallu
Mae signiffer yn gole
y ddaiar a 'i chanwylle
bellach may rhyfeddod
am Kressyd yma yn dyfod./
O arglwydd Kwpid mawr vu i mi dy anrhigaredd [~ anhrugaredd]
pan atkoffa fy hun o 'm holl dwrstan [~ drwstan] vuchedd
ac fal y 'm blinaist bob dydd yn waeth no 'i gilydd
fy muchedd if yn ystori i 'r byd i gyd a ddigwydd
Pa orchafieth sydd ity
bob amser fy ngorchfygu
Mi a 'mrois [~ ymrois] i ti yn ffyddlon
er dy gael yn arglwydd kyfion
Planna y nghalon Kressyd y _ _ _  wllys i ddowad kyn gynted
fal y rhoddaist ym hiraeth a chwant am ei gweled:
o arglwydd Cupyd na vydd hanner morr ddigllon

[td. 187]
wrth genedl Droea na chwaith mor greulon./
Ac y bu Iuno dduwies
wrth holl genedl Thebes./
pobl honn a ddifethwyd
a honn Thebes a ddistrowiwyd./
O fy seren nid wyt ti yma yn llywyrchu [~ llewyrchu]
a chalon drom amdanad hawdd y galla hiraethu
a vu neb o ddydd i nos o nos i ddydd yn wylo
y modd y bum if yn aros y decfed noswaith heno
Tyr ed _y_e_ wyt ti/n/ agos
y r wyf fi y_ _ _ _ _ _reunos
mewn llong foel y mae fy hanes
rhwng kraic Syla a Charibdes
Y diwrnodiau a 'r nosweithiau a vu /n/ hwy o lawer./
nac y bydde y rhain arferol o vod bob amser
yr Haul a gerddes ei gwmpas ar gam yn bellach
ne mae /n/ myned i 'w siwrnai yn anibennach
Y degfed dydd aeth heibio

[td. 188]
y ddecfed nos yw heno
yn llawen bellach i 'm gwelir
od yw /r/ byd i gyd yn gowir./
Troelus yn myned ymaith Kressyd  ei hunan./
Diomedes Diomedes gwae fi ermoed dy weled:
anghowir wy bellach i 'r gwr kowira ar aned
fy enw da if nis gall neb mo 'i helpio
a 'm gonestrwydd i bellach aiff byth mewn ango
Pan dwyllais a 'm anwiredd
y marchoc mawr ei anrhydedd

[td. 189]
tra vo dwr yn tramwy dayar
byth nis gwelir iddo gymar./
Gwae fi o 'm geni ermoed i vod yn anghowir
un gair da byth amdana fi nis doedir
mewn pob llyfr ac yscrifen y bydda fi oganys
a phob tafod amdana fi a vydd siaradys
A 'r merched yn fwya
wrthyf fi a vydd dika./
o 'm herwydd i a 'm gweithred
nis rhoir ynddyn byth ymddiried
Yn hwy a ddoedan oblegid fy mod mor annaturiol
ddarfod i mi ei kwilyddio yn dragwyddol
er nad ydwyfi y kynta a vu/n/ anghowir
nid yw hyn _ _ es mi a wn ni 'm ysgussodir [~ esgusodir]
Er bod yn rhywyr weithion
am a basswn i Droelus yn ffyddlon
bellach mi a vydda gowir
i Ddiomes er a veddylir./

[td. 190]
O Troelus gan nad oes i mi ddim well i wneuthyd
ond gorfod ymadel a 'th di [~ â thydi] fy anwylyd
ar dduw yr archaf roddi yn rhwydd pob peth rhagod
mal i 'r gwr boneddigeiddia a wnn ermoed ei adnabod
Er darfod i mi syrthio
mewn drygioni mawr i 'th ddwylo
tra vo karrec mewn afon
nid ei Troelus o 'm kalon./
Kressyd yn myned ymaith./
Troelus yn kyrchu Kassan
dra i ddeuallt ei vreuddwyd./
Troelus  wrth Gassandra./
A m'fi [~ myfi] /n/ kysgu noswaith yn syrn [~ swrn] vlin Casandra

[td. 191]
mi a vreuddwydiais yn y modd i chwi y doeda
mi a 'm gwelwn mewn fforest yn rhodio ac wylo y byddwn
o gariad ar ryw ferch ryw amser a adwaenwn
Gwelwn wrth rodio amgylchion
ryw vaedd ac yscithredd [~ ysgythredd] kreulon
a 'r baedd ydoedd yn kyscu
a 'r haul arno yn llewyrchu./
Yn kussanu y baedd yma mi a welwn Kresyd,
ac a 'i deuvraych yn bleth amdano y gwelwn hefyd
trwy chwithder a dychryn ei gweled yn y fath fodd
ac felly yr ofn yma o 'm kyntyn a 'm deffrodd./
Er pan welais y breuddwyd
yr wyf mewn gofal ac arswyd
yr wyf fi yn erfyn ac yn damuno
i chwi roddi deallt arno./
Kassandra yn rhoddi deuallt ar
vreuddwyd Troelus: ac yn gowenu./
Kassandra./
[td. 192]
F' anwylyd Troelus os deallt y breuddwyd yma a fynwch./
a chlowed y gwirionedd amdana a chwenychwch./
mae /n/ rhaid i chwi glowed hen ystoriae lawer
a hanes arglwyddi perthynassol i hynn o fatter
Ac felly y kewch chwi wybod
o ble mae /r/ baedd yn dyfod
a phwy ydiw /r/ baedd hefyd:
fal y mae hen lyfre yn doedyd./
Diane honn sy mewn digofaint mawr a diclloni
wrth Roecwyr a 'r achos am na aberthen iddi
a phan welodd y dduwies y llynn yma ei dirmygu
hi a fagodd greulondeb ac a weithiodd drygiony./
Trwy vaedd kreulon ffyrnic

[td. 193]
yn gimyn [~ gymaint] ac ych pascedic
hwnn yn distrywio ei gwinwydd
ei hyde a 'i perllanwydd./
I ladd y baedd yma fo goded pobl lawer
ymysc y rhain fo ddoeth arglwydd Meleager
hwnn oedd yn karu rhyw ferch lân anianol.
honn oedd yn aros yn y wlad yn wastadol
I 'r baedd y doeth gwrthwyneb
trwy nerth a grym gwroldeb
y baedd ei hun a laddodd
a 'i benn i honn a hebryngodd
O hynn fal y mae hên lyfre /n/ dangos
kenfigen mawr a dyfodd am yr achos
ac o lin yr arglwydd yma Meleager
y doeth Tideus ac arglwyddi eraill lawer./
Mae /n/ rheir [~ rhy hir] ym ddangos
o dy ei fam beth yw /r/ achos
mi a ollynga hynny /n/ ofer./

[td. 194]
nid yw /n/ perthyn fawr i 'r matter./
Tideus a gasglodd i 'r unlle o bobl lawer
ac a dduc i Thebes mwy na gormod o vlinder.
fo aeth ei hun yn rhyfelwr i Thebes
trwy waith a chyngor ei gydymaith Polimeites
Brawd i hwnn oedd Ethiocles.
ar gam yn llyfodraethu [~ llywodraethu] Thebes.
yr ydis [~ ydys] yn ysgrifenny
fod rhyngthun lawer o ddrygioni./
Yno yr oedd henomoindes yn ddic a chreulon
yno y lladdodd Tideus ddec a deugain o farchogion
yno yr oedd saith o vrenhinoedd reiol
yn dal rhyfel wrth honn yn wastadol
Yno yr oedd i 'w weled
y rhyfeddodys Sarff vendiged
a phethau eraill lawer
nid oes heddiw amdanun fatter

[td. 195]
Yno y darfu am Achinories, Amphiorax a Thydeus
yno y darfu am Hypomedon, Parthenope, a Champaneus
yno Ethiocles a Pholimeites a laddes pob un ei gilydd
yn _ _ _ A _ _ y _ _ _ _ _ _ _ d yn wylo beunydd
Yno y bu vyd angall
y naill vrawd yn erbyn y llall
yno Thebes o 'r diwedd
yn llwyr a dduc y dialedd
A 'r baedd hwnn sy /n/ arwyddo Diomedes mab Tideus
hwnn sy /n/ dowod o Feleager fal y klowsoch Troylus
ple bynnac y mae Kressyd dy arglwyddes anwyl dithe
mae hi yn eiddo Diomedes a Diomedes yn ei heiddo hithe
Hawdd y gelli vynd yn drymgla
allan o ddadl yw hynn yma
Diomed sy /n/ ei meddwl yr owran
a thithe Troelus y sydd allan
Troelus./
[td. 196]
Kelwydd gyfarwyddes yw dy drafferthus eirie gweigion./
a 'th holl anuwiol broffodoliaetheu [~ broffwydoliaethau] ffeilsion./
di a fynni fod dy vuchedd a 'th chwedle di /n/ dduwiol
a thithe /n/ kodi chwedleu ar arglwyddesse rhinweddol
Duw a drefno i ti bruddder
i ffwrdd o 'm golwc mewn amser
yn wir nid hwyrach y byddy
yn gelwyddoc kynn yfory./
Kynn howsed y gelli ddoedyd y kelwydd yma
ar rinweddol Alceste a 'i ddoedyd ar Gresyda
gwr honn pan oedd mewn perigl mawr amdano./
naill ai gorfod marw ei hunan ai rhoi un i farw drosto
Honn a ddewissodd gydfod

[td. 197]
a marfolaeth dros ei phriod
gwn mae felly y gwnai Kressyd
kynn kolli Troelus ei fowyd./
Deiffobws yn dywod, a gwyr
arfoc gidac ef a chwnsallt Diomedes a Throelus yn kael y tegan./
Deiffobws./
Edrych Troelus mi a ddygym arfe gwnion [~ gwynion] Diomedes
er hynn y gwr yn ddifriw gennym a ddienges
fo vu akw ymladd kreulon dros ychydic amser
fo vriwyd yn ddrwc sypyn ac a las lawer./
Un o 'r aerwyr./
[td. 198]
Beth yw /r/ tegan yma a 'r gwchder
sydd yn rhwym o fewn ei goler
dyma arwydd vod Diomedes
yn gwasneuthu rhyw arglwyddes
erbyn hynn mae Troelus
yn gwybod ei bod yn angnghowir [~ anghywir]./
Troelus  ei hunan./
O Kresyd o f' anwylyd, o f' arglwyddes eurbleth
ple mae /r/ owran ych addewid na phle mae 'ch kredinieth
ple mae 'ch kariad ple mae 'ch gwirionedd Kresyd
Diomedes sydd yr owran yn kael arnoch chwi ei wnvyd [~ wynfyd]

[td. 199]
Hynn yma a ddygasswn
a hynn drossod a dyngasswn
er doedyd honod [~ ohonot] anwir
ni biessit byth anghowir./
Pwy o hynn allan i 'th lyfe di Kressyd a goelia
gwae fi tygasswn [~ tebygaswn] nas gwneythyd byth hyn yma./
pwy a feddylie fod ynddod ti feddwl kynn anwadaled./
na phwy a dybie fod dy galon di kynn greuloned./
A lladd dyn truan diniwed
trwy dwyll a thrwy ymddiried
gwae fi erioed o ddigwydd
itti Kressyd annonestrwydd
Oedd yr un arwydd gennyt ti i 'w roddy
i 'th newydd gariad ond hwn i 'w lawenychu
ar hwn llawer heilltion dagre a wylais
i ti er mwyn dwyn kof amdana y rhoddais
A thithe er kas arna
i Diomedes  rhoyt hwnn yma./

[td. 200]
fal y galle bawb gael gwybod
ddarfod itti byth fy ngwrthod
Wrth hynn y gwn fy mod yn rhy dwrstan [~ drwstan]./
gan ddarfod i chwi fy mwrw o 'ch meddwl allan
er yr holl vyd eych bwrw chwi nis medra
allan o 'm meddwl un chwarter awr nis galla
Ar amser drwc i 'm ganed
pawb a wyr hynn wrth glowed
chwchwi /n/ dwyllodrus i my
a minne er hynn i 'ch karu
Trefna ym arglwydd er dwyn mawr artaith
gyfarfod a Diomedes yma unwaith
trefna ym nerth ac amser eilwaeth [~ eilwaith]
mi a wnaf i 'w galon waedu am draeturiaeth
Ydolwc yt arglwydd edrych
am y pethau hynn yn fynych
os gadewch chwi hynn heb dramgwydd
y kyffelib a all ddigwydd./

[td. 201]
O Pandar ti a erchaist ym na choeliwn i vreuddwydion
gwêl modd y digwyddodd hynn yn rhy union
gwêl mor gowir yw dy anwyl nith Cressyd
meddyt ti er dim hi a gowire ei addewyd
Mynych y mae /r/ Duwie
yn dangos hynn o wrthie [~ wyrthiau]
ac yn rhybydd o 'n kyntyn
o 'r pethau sydd i 'n herbyn
Ar 'y [~ fy] ngwir wirionedd heb chwanec o eirie y doeda./
o 'r dydd hwn allan kyn gynted ac y galla
fy marfolaeth greulon ar vlaen yr arfe a gyrcha
a 'm trafferthus vlinder ar unwaith a ddiwedda
O hynn allan fo ddoedir
dy vod Cressyd yn anghowir
Ni chaiff undyn byth ddoedyd
vod Troelus yn ffals i Gressyd./
Diomedes ar yr ystaeds [~ staej] a
Chressyd yn dyfod yno./

[td. 202] Diomedes  wrth Gressyd./
Tydi Butten i 'r Troeaid ermoed er penn i 'th aned
does ymaith o 'm golwc n' ad ym byth dy weled./
yr owran ymysc Groegwyr vwyfwy /n/ puteinia
o doi di byth lle y bythwy a 'r kledd hwn i 'th ladda
Y neb a wnelo ddeunydd
ar butten ffals ei deurydd
does ymaith i buteinia
n' ad dy weled mwy ffordd yma
Diomedes yn myned ymaith
a Chressyd yn aros

[td. 203] Kressyd./
Venus a Chupyd chwi a roessoch ym ysbrydol attebion
mae y m 'fi [~ myfi] a fydde blodeuyn o fewn Troea dirion./
Fy nglendid if a 'm llawenydd a droed i ofalon./
yr wyf fal dyn anrhyglyddus o gymdeithas dynion./
Pwy bellach a 'm ymgledda [~ ymgeledda]
pa ryw ddiwedd a ddaw arna,
Diomedes a 'm gwrthododd
a Throelus wrthyf a sorrodd
Tydi fachgen anheilwng dy eirie a 'm rhoes byth mewn gofal
efo dy fam Venws y dduwies ddall anwadal
ac y kedwych chwi bob amser y kariad hwnn heb ddiflannu,

[td. 204]
a: gwnaethoch ym goelio vod kariad yn fy wyneb yn tyfy
ond yr owran y rhew a 'i llosgodd
a 'r had i mi nis ffynnodd
angnghowirdeb [~ anghywirdeb] ydiw yr achos
nis gall kariad ddyn mo 'm haros./
Kressyd ar hynn yn llesmeirio a
Chupyd yn tinkio kloch arian ac yn
galw y duwie i 'r un lle i roddi ar
Gressyd gospedigaeth am ei
ddirmygu.


Sadwrn./


Yn gyntaf
mae Sadwrn yn dyfod
megis karl anserchys
(ac yn edrych a golwc
[td. 205]
llym afrywiog, ei wyneb yn grych
un lliw a 'r blymen, ei ddannedd yn
ysgydwyd a 'i ên yn krynnu a 'i lygaid
yn eithaf ei ben allan o 'i drwyn y
dwr yn rhedec, ei wefyle yn fawr
ac yn chwthlyd [~ chwythlyd], ei ruddie yn gulion
ac wrth ei wallt y pibonwy ia yn
ysgydwyd, ei ddillad yn llwydion ac
wedi i 'r gwynt a 'r drykin ei gwisgo
allan) yn dwyn yn ei law fwa anferth
a thann ei wregis yr oedd saetheu ac
esgill o ia a phenneu o rew a hwnn
iw [~ yw] duw a llywodraethwr y gwynt
a 'r anwadal drykin./


Iou./


Yn nessaf
y doeth Iubiter a golwc
tec kariadus,
[td. 206]
duw a llyfodraethwr [~ llywodraethwr] y sêr yn yr wybren
yn anghyffelib y 'w dad Sadwrn ac
wyneb llydan howddgar a golygiad ysgafn,
ac ar ei benn yr oedd penddelau
o lyssiau gleission megis pette hi galan
Mai, ei wallt fal yr aur yn
ddisglair, ei lais yn eglur, ei ddillad
yn wyrddion ac yn hafaidd ac yn ei
law yr oedd ffonn wayw./


Mars./


Y trydydd
ydoedd Mars duw y
dicllondeb, yr ymladd, y
rhyfeloedd a 'r kreulondeb:
mewn arfau gwnnion [~ gwynion]
kledion, ac yn ei law yr oedd hen gleddef
[~ gleddyf] rhydlyd yn krychu ei aelie a 'i wy
[td. 207]
neb
ac yn doedyd llawer gair dicllon
yn ysgydwyd ei gleddef [~ gleddyf] gyferbyn a
Chuwpyd, ei wyneb yn danllyd a 'i lygaid
fel y marwor, ac wrth ei safn
yr ewyn yn burmo fal y baedd ac
mewn korn yn chwthu [~ chwythu] onid oedd y
kreigie yn darstian a 'r ddayar yn
krynnu./


Ffebus./


Y pedwerydd
Phebus yr Haul
fal y torchkwyr yn
llewyrchu i ddyn ac i
anifail yn gomfforddus
ac yn waharddwr i _ _ _ llwc
yn achos wrth ei ysmudiad [~ symudiad] o vowyd
i bethe daiarol; yn marchogaeth
[td. 208]
mewn kerbyd megis brenin galluys yn
tynnu yr euraid wagen a 'i thanllyd belydyr,
ir oedd pedwar o geffyle yeog [~ ieuog] o amrafael
liwie, y kyntaf oedd rydd dau
vlewyn a 'i fwng kynn goched a 'r rhosyn
hwn a elwid Eio, a 'i duedd yn y Dwyrain./
Yr ail Ethios a 'i liw yn wnlas [~ wynlas] a 'i duedd
yn y Deau./ Y trydydd Peros a 'i liw
yn fflamgoch a 'i duedd yn y Gorllewin
y pedwerydd Philologed a 'i liw yn ddu
a[ 'i] dyniad i 'r Gogledd./


Venus./


Y pumed
ydoedd Venus yn dyfod
i fyntimio [~ faentumio] achos ei mab
mewn mursennaidd wisc
[td. 209]
y naill hanner yn wyrdd a 'r llall yn
ddu, ei gwallt yn felynwyn a 'i
lliw yn fynych yn kyfnewidio, weithie
yn chwerthin, weithie yn wylo,
y naill amser yn ddic a 'r llall yn
llawen, yn kymysc geirieu duon
a mursendod, a 'r naill lygad yn
chwerthin a 'r llygad arall yn wylo, yn arwydd
fod pob kariad knowdol
(hwnn sydd tan ei rheolaeth hi) weithie
yn felys weithie yn chwerw ac yn
llawn o anwadalwch yn gymysc
a gofalus lawenydd ac anheilwng
 ddifyrrwch weithie yn vrwd
weithie yn oer, weithie yn llawen,
weithie yn brudd yr owran
kynn wrdded [~ wyrdded] a 'r ddeilen, ac yn y fann
wedi pallu a diflannu./


Mercuri./


[td. 210]


Y chweched
ydoedd Mercuri hwnn
oedd a 'i lyfr yn ei law
yn droyadl [~ drwyadl] ac yn
fwythys o 'i barabl ac
yn gall o 'i resyme a
chantho bin a chorn du
y 'w atkoffau o 'r pethe a glowe yn
gossod i lawr ganiadau ac yn kanu
ei hunan yn llafar, ac yn gwisco
kokwll [~ cwcwll] koch ar wastad ei gorun yn
debic i brydydd yn yr hên amser
yr oedd yn arwain blyche a llawer
o felyssaidd gyffyrie, a 'i wisc oedd
fal athro o byssygwriaeth mewn
gown o gra koch wedi rhoi pân
ynddo yn gynnes ac yn glyd ac
heb fedryd siarad mo 'r kelw
[td. 211]
yddau./


Synthia./


Y seithfed
a 'r diwaethaf oedd arglwyddes
Synthia
honn a elwir y lleuad a 'r gyntaf yn
ei siwrnai, ei lliw yn ddu a megis dau
gorn yn tyfu ohoni, a 'r nos yr oedd
yn llewyrchu yn ole, _ _ _ _ _ _ wrdeb
mae yn ei venthygio gann ei
brawd Teitan, ei lliw yn las yn
llawn o vryche duon, a llun gwr a
baych [~ baich] o ddrain ar ei gefn yn ei chanol,
hwn am ei ladrad nis galle
ddringo nessach na hynny at y ne
[td. 212]
foedd./


Yno pan gyfarfu y saith dduw
yma yn yr un lle fe ddarfu
yddynt ddewis Mercurius i
siarad trostynt yn y kymanfa
a 'r senedd honn./

Kupyd  wrth y duwieu./
Syrs y sawl a ddirmygo ei dduw ei hun yn annuwiol
ar ei air neu ar ei weithred er twrstneiddrwydd [~ trwstaneiddrwydd] bydol
i 'r duwie eraill i gyd mae /n/ gwneuthr [~ gwneuthur] kwilidd a cholled
a hwnn a ddyle ddwyn gosbedigaeth kaled

[td. 213]
Hynn a wnaeth y ffiloc yma Kressyd
a vu gynt yn benn ar lendyd
yr owran mae yn rhoi beie
ar waith Venws a minne./
yn doedyd ac yn achwyn am ei rhyglyddys ddrigiony [~ ddrygioni]
mae fy mam a minneu oedd yr achos o hynny
yn galw Venws yn dduwies ddall anwadal
a llawer o ddrwc eiriau anosbarthus gwamal./
Hi a fynn vwrw attom ninneu
ei godinebus vuchedd hitheu
i honn ermoed dangossais
gimin o help ac ellais./
Ac yn gimin a bod hynn attoch chwi ych saith yn perthyny
a chwithe 'ch saith yn rhannoc o 'r holl ysbrydol allu
y neb a wnaeth gam i 'ch uchel alwedigaeth
a ddylech chwi ei gosbi a thrwm gosbedigaeth
Ni chowsoch chwi mi a wranta [~ warantaf]
y vath gamfraint a hynn yma./

[td. 214]
kytunwch am y dialedd
a rowch arni am y kamwedd
Mercuriws./
Syr Cupyd fy nyfais a 'm kyngor yr owran i chwi
yw rhoddi hynn y 'w lyfodraethu [~ lywodraethu] at yr ucha a 'r isa sy /n/ rheoli
ynhwy a dymheran hynn o greulon achos
ac a ron ar Gressyd benyd fal y gallo hi ei aros
Barnadigaeth [~ barnedigaeth] hynn yma
sydd arnoch Sadwrn a Synthia
bernwch ar odineb
ar ol rhyglydd anghowirdeb./

[td. 215] Kressyd mewn kwsc etto a Sadwrn uwch ei phenn yn doedydfal hynn./ Sadwrn./
Am dy annuwiol siarad yn erbyn dy rasysol dduwie
am dy anheilwng vuchedd a 'th anniolchgar rinwedde./
am dy vod mor wrthnebys i 'r drugaroc Venws
am dy vod mor anghowir i gowir farchoc Troylus
Dy bryd dy wedd dy lendyd
dy rinweddau a 'th holl olyd
o 'r awr honn allan Kressyd
yr wyf i 'w ddwyn i gyd oddi wrthyd./

[td. 216]
Yr wyf yn kyfnewid dy lawenydd i felancoli bob amser
hwnn sydd fam i bob tristwch trwm a phryddder
dy wres dy wlybwr i oerfel a sychdwr poenys
dy nwyf dy chwareu i glyfydeu [~ glefydau] anioddefys
Dy holl wchder [~ wychder] trafferthus
i eissie mawr anghenus
ac felly byw yn ddiwres
a marw yn vegeres./
Barnedigaeth Synthia./
Yn lle iechyd korfforol kymer dragwyddol ddolurieu
ni all meddic na physygwr byth help i 'th glefydau
bob dydd bigilydd [~ bwygilydd] y chwanega dy bruddder

[td. 217]
dy galon o 'r diwedd a dyrr wrth hir drymder
A phob dyn drwc ei dafod
a 'th henw a fynn gydnabod
fo a 'th drewir di ar ddannedd
pob merch am dy enwiredd [~ anwiredd]
Dy risial olwc a vydd yn waedlyd gymysciad
dy eglur lais melus a droir yn oerddrygnad
rhyd dy ddeurudd wastad y tardd bryche duon diffaith
i ble bynnac y delych pawb a ffy oddyno ymaith
Dy vowyd vydd hynn yma
o dy i dy kardotta
a 'th gwpan di a 'th glapper
o hynn allan fydd dy arfer./
Kressyd yn deffroi ac yn kymryd drych i weled ei chysgod
a hitheu wedi ei chyfnewid./
Kressyd./
[td. 218]
Barned pob dyn a 'm gwelodd oes achos ym o bruddder
hynn yw /r/ taledigaeth am gyffroi y duwie uchelder
ac am vod yn anghowir i farchoc ufudd parod
pob llawenydd bydol o hynn allan /r/wy /n/ dy wrthod
Gwae i 'r awr a gwae i 'r diwrnod
ac ugain gwae i 'r tafod
A chan gwae i fab Tideus
a chann hawddamor fytho i Droelus./
Ar hynn mae hi ynn myned ac
yn keissio gwellt a mantell ac
yn aros ymysc y gwahanolion a 'r trueniaid [~ trueiniaid]: a 'r noswaith
y doeth yn ei mysc y kwyne wrthi
[td. 219] ei hunan ac y doede y peth sydd
yn kanlyn./
Kressyd./
O towarchen o bruddder wedi sinkio mewn gofalon
o annheilwng Kressyd mewn llawer o foddion
dy lawenydd aeth ymaith i ddwyn trymder i 'th roddwyd
o 'th holl ddifyrrwch noethlwm iawn i 'th adawyd
dy dynghedfen sydd galed a gorthrwm vu dy eirie
nid oes y 'w gael mo 'r eli a iacha dy vriwie
dy ore di aeth heibio a 'r gwaetha ytt nis darfu
gwae fi dduw na buessit kynn hynn wedi dy gladdu
fal na byasse son amdana

[td. 220]
nac y [~ yng] Ngroec nac y [~ yn] Nhroea./
Ple mae dy ystafell wedy ei gwisco a sidan drosty
mae dy aur vrodiad glustoge a 'th amrosgo wely
mae /r/ llyssiau gwressoc a 'r gwinoedd i 'th gyssuro
ple mae /r/ kwpane o aur ac arian yn disgleirio
mae dy felys vwydydd a 'th ddysgle gloywon gwastad
mae dy vlassus seigiau a phob newydd arferiad
ple mae /r/ dillad gwchion a 'r mynych ddyfeissie
ple mae /r/ lawnd a 'r kamlad a 'r euraid nodwydde
hynn i gyd a gefaist
a kwbwl o hynn a gollaist
Ple mae dy erddi yn llawn o rissiau gwchion
ple mae /r/ tiau [~ tyau] bychein yn llawn o fentyll gwrddion [~ gwyrddion]
ple mae /r/ wastad alay a llyssiau wedi ei thrwssio
lle y byddit Mai ac Ebrill arferol i rodio
i gymryd y boreywlith wrth dy blesser a 'th esmwythdra
ac i wrando ar achwyn y felusbwnk Ffilomela
gida llawer glân arglwyddes dann ganu karolau

[td. 221]
gen ystlys y gwrddion [~ gwyrddion] fentyll a 'i kyson doriadau
Hynn a vu ac a ddarfu
pethau eraill rhaid kroessawy./
Kymer letty /r/ klippan am dy eurblas uchelgryb
am dy esmwythglyd wely kymer hynn o wellt oerwlyb
am dy vwydydd gwressoc a 'r gwinoedd o bell a ddyged
kymer vara toeslyd a sukan sur i 'w yfed
am dy eglurlais melys a 'th garole kynn fwyned
kymer oernad gerwin dychryn gen bawb dy glowed
am dy bryd dy wedd dy lendid a 'th howddgarwch
kymer wyneb gweroc brychlyd yn llawn o ddiffeithwch
Ac yn lle dy liut ymarfer
a 'r kwpan yma a 'r klapper./
Chwchwi arglwyddessau o Droe a Groec ymwrandewch
am annedwyddol vuchedd ac i ffortyn n' amddiriedwch [~ na ymddiriedwch]
fy mawr anras yr hwnn nis gall neb mo 'i orfod
gwnewch yn ych meddylie ohonofi ryfeddod
fal yr ydwy fi /r/ owran nid hwyrach i chwithe vod

[td. 222]
er ych glendid a 'ch gwchder i 'r un diwedd y gellwch ddyfod
ne i ddiwedd a vo gwaeth os oes gwaeth no 'r gwaetha
am hynn bid bob amser ych meddwl ar y diwaetha
dim ydiw ych glendid ond darfodedic vlodeuyn
dim ydiw ych gorchafiaeth a phob peth sydd i 'ch kalyn
ond gwynt yn chwthu [~ chwythu] yng nghlustie eraill faswedd
ych siriol wynebpryd [~ wynepryd] diflannu a wnaiff o 'r diwedd
bid ohonofi bob amser exampyl yn ych meddwl
yr honn sy /n/ dwyn tyst ar hynn i gyd yn gwbwl
pob peth dayarol mal gwynt i ffwrdd a wisga
am hynn bid bob amser ych meddwl ar y diwaetha
Un o 'r truenied [~ trueiniaid]./
Paham yr wyt yn erbyn y pared yn ymguro felly:

[td. 223]
ai keissio dy ladd dy hun ac heb fendio er hynny
gen nad ydiw ochain ond chwanegu dagre i 'th lygaid
fy nghyngor yt wneuthur rhinwedd o angenrhaid
dysc drossi dy glapper i fyny ac i wared
a dysc vyw ar ol kyfraith y begeried
Troelus ac arglwyddi eraill yn
myned heibio./
Y truenied [~ trueiniaid]./
Arglwyddi trugaroc er mwyn Duw yr ydym yn gwaetied
rhann o 'ch luseni [~ eluseni] ymysc hynn o druenied [~ drueiniaid]./

[td. 224] Troelus yn rhoddi peth i bawb
ac yn rhoddi iddi hi wregis a
phwrs euraid yn llawn o aur a
thlysse, ac yn caru ei golygiad
ac er hynn heb ei adnabod, ond
yn bryddaidd myned ymaith: ac
yno y doede un o 'r truenied [~ trueiniaid] wrthi./
Un o 'r truenied [~ trueiniaid]./
Fo gymrodd yr arglwydd hwn fwy o drugaredd wrthyd
nac a gymres wrthym ni yma i gyd./
Kressyd./
[td. 225]
Pwy ydoedd yr arglwydd aeth heibio ddiwaetha:
a vu mor drugaroc i ni a hynn yma
Un o 'r truenied [~ trueiniaid]./
Hwn ydiw Troelus marchoc o Droea
mab brenin Priamws a gwr o 'r gwrola./
Ar hynn mae Cressyd yn llesmeirio ac wrth ddeffroi yn doedyd.
[td. 226] Kressyd./
Ai hwn yw mab y brenin Priamws
o angnghowir [~ anghywir] Gressyd a chowir farchoc Troelus
Dy gariad dy lendid dy voneddigeiddrwydd farchoc
a gyfrifais yn ychydic pan oeddwn ifank olydoc
fy meddwl oedd yn llawn o wac oferedd gwamal
a beunydd yn dringo i dop yr awyr anwadal
a hynn a 'm twyllodd yn angnghowir [~ anghywir] i fab brenin Priamws
o angnghowir [~ anghywir] Cressyd a chowir farchoc Troelus.
O wir gariad arnaf di a gedwaist dy urddas
mewn gonestrwydd a theilyngdod y [~ ym] mhob kymdeithas
i ferched a gwragedd amddiffynnwr vuost ffynnedic

[td. 227]
a 'm meddwl inne ar faswedd ac oferedd llygredic
a hynn a 'm twyllodd yn anghowir i fab brenin Priamus
o angnghowir [~ anghywir] Kressyd a chowir farchoc Troelus
Kariadau gochelwch ac yn hynn byddwch ddyfal
i bwy y rhoddwch ych kariad a thros pwy y dygwch ofal
delltwch hynn nad oes ond ychydic o 'r rhai perffaith
ar y gellwch goelio uddynt ar gael kowirdeb eilwaith
ofer yw /ch/ trafel profwch hynn pan y mynnoch
fy nghyngor i chwi ei kymryd yn y modd ac y kaffoch
chwi a 'i kewch ynhwy kynn sikred yn ei gweithred a 'i harfer
ac ydiw kelioc [~ ceiliog] y dryghin [~ drycin] sy /n/ y gwynt bob amser
O herwydd mi a wn vod y vath anwadalwch mewn merched
ac ydyw breuder y gwydr wrthi fy hun rwy /n/ tybied
tybied mewn eraill yr un nattur heb orthwyneb [~ wrthwyneb]
a 'r un anwadalwch a chimin o angnghowirdeb [~ anghywirdeb]
er bod rhai yn gowir ac yn onest heb ddrigioni
rhai ychydic ydyn a rhy fychan sydd o 'r rheini
y neb sy /n/ kael yn gowir ei kariadau na chwynan

[td. 228]
nid wyf yn kyhuddo neb yma ond myfi fy hunan
Ir wyf yn deissyf arnad roi fy nghorff mewn daear galed
i ymborth nadredd llyffaint a mân bryfed
fy nghwpan fy nghlapper a chwbl o 'm anghenrhaid
rhann hynny i gyd ymysc 'y [~ fy] nghymdogion trueniaid [~ trueiniaid]
yr aur yr arian a roddes Troelus i my
kymer iti hynny ar help ar 'y [~ fy] niwarthy
y fodrwy a 'r ruwbi sy /n/ y fodrwy wedi ei gweithio
honn a hebryngodd Troelus yn arwydd oddi wrtho
dod honn iddo kynn gynted ac y derfydd amdana
a gwna fo /n/ gydnabyddys o 'r farfolaeth yma
Yr wyf yn gorchymyn fy ysbryd gida Diane i drigo
rhyd meyssydd a choedydd a dyfroedd i rodio
o Diomedes ti a gefaist yr holl arwyddion
a hebryngodd Troelus i mi yn anherchion [~ anerchion]
anrhigaroc oeddyd o fab i vrenin Tideus
o anghowir Kressyd a chowir farchoc Troelus

[td. 229] Ac ar hynn y bu farw./


Y diweddiad./

I Droelus pann ddoeded o drwm farfolaeth Kressyd
gwallt ei benn a dynnodd fal dyn ynfyd
o 'i gwendid o 'i thylodi o 'i nychdod pan glowodd./
o dosturi a thrymder mewn llesmair fo syrthiodd
tra fu byw yn ychneidio [~ ocheneidio] bob dydd amdani
er ei bod hi anghowir iddo yfo [~ efo] vu gowir iddi
fal arglwyddes y mynnodd i 'r ddaear ei diwarthu
o geric marbl y parodd wneuthur bedd iddi
ar ei bedd yr yscrifennes i bawb yno a ddele

[td. 230]
y rheswm hwnn sy /n/ kalyn mewn euraid lythrenne
Gwelwch arglwyddesse lle mae Kressyd o Droe /n/ gorwedd
ryw amser yn vlodeuun [~ flodeuyn] ar holl ferched a gwragedd
o 'r diwrnod hwnn allan rhoes diowryd [~ diofryd] nas peidie
ac ymladd mewn rhyfel nes marw o waith kledde
yn y diwaetha hynn y gyd a gowires
ei einioes a gollodd ar law kreulon Achilles
Pandar o drymder a dorrodd ei galon
hynn ydiw diwedd hynn i gyd o achossion
Chwchwi rinweddol a glan ferched boneddigion
byddwch bob amser i 'r neb y byddwch yn ffyddlon
atkoffewch Kressyd yn fynych i 'ch meddyliau
ac na wnewch angnghowirdeb [~ anghywirdeb] na ffalster i 'ch kariadau
o 'ch glendid o 'ch tegwch na wnewch ormod deunydd
eych pryd, eych gwedd, eych glendyd ar droyad llaw a dderfydd
o gwnewch yr hynn gore gadewch ofer gariad i gadw
a dygwch gariad ffyddlon i 'r gwr vu drossoch varw

Diwedd y llyfr.

[td. 231]

Ac fal hynn y terfyna y /5/
llyfr a 'r diwaethaf o 'r hanes
honn y /:5: dydd o fis hyddfref
[~ Hydref] oet Krist /1622./

I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section