Adran o’r blaen
Previous section

Pandar./
[td. 137]
Oes o fewn y byd un dyn ar a aned,
a welodd i 'w oes ryfeddod kynn ddieithred:
pwy all ochel y pethau a fynn fod
fal dyma fal y mae /r/ byd yn dyfod
Gwae a gwae i 'r undyn
a roddo ei goel mewn Ffortun
yr owran fo welir
y drwc a 'r da a gyrchir./
Dowaid ym Troelus paham yr wyt kyn ynfyted
ac ymroi dy hunan i drymder a chaethiwed
di a gefaist dy ewyllys arni yn gwbwl
fo a ddyle hynn esmwythau dy feddwl
Abyl vydde hynny
i rywun a fydde yn karu./

[td. 138]
heb gael ond golwc tirion
nac ermoed mo 'wllys [~ ewyllys] kalon./
Hefyd hynn a wyddost yn dda ddigon
fod o fewn y dref ymaf [~ yma] arglwyddesseu gwchion
a chynn laned mewn pryd a glendyd
ac y gallef merch gyrheuddyd
Mae rhai o 'r rhain kyn llywened [~ llawened]
am gael oddyma ei gwared
os kolli honn yn angall
di a ynilli un arall./
Ni ad Duw vod dyn bob amser yn llawenychu
mewn un peth ac mewn dim ond hynny./
un a fedr ganu arall ddownsio a chware
mae honn yn lan mae /r/ llall yn dda ei chyneddfe
Troelus na feddwl
vod mewn un dyn y kwbwl
pob un a vytho a rhinwedd
a ddyle gael anrhydedd./

[td. 139]
Beth a ddywaid Zansis ddysgedic ymddiddan
vod kariad newydd yn gwthio /r/ hen allan
achos newydd a fynn gyfraith newydd i 'w varny
y tan yma mewn amser mae /n/ arferol a diffoddy
Gen nad ydiw ond digwyddiad
o lawenydd dyfodiad
rhyw achosion a 'i dwc
allan o gof allan o olwc./
Troelus./
Kynt y kaiff marfolaeth allan o 'm kalon wthio
y bywolieth a fu kyd [~ cyhyd] mewn trymder yn trigo./

[td. 140]
nac y kaiff Cressyd a 'm henaid byth ymadel;
gida Proserpine y byddwn if [~ i] mewn gafel./
Achwyn y byddaf yno
trwy ochain mawr ac wylo
y modd y darfu i ninne
glymu yn hunain yn yr unlle
Kressyd  ei hunan./
Och i 'm kalyn os allan oddi yma rhaid ym fyned/
anffortunys forwyn i ddwyn anffortun i 'th aned:/
ai rhaid yt ymadel a Throelus gowir farchoc
a byw ymysc dieithred anrhigaroc
Och i 'r nos am dywyllu
ac och i 'r dydd am lewyrchu

[td. 141]
kan och a fytho i 'r weithred:
sydd achos i mi i fyned
Beth a wnaiff Troelus a beth a wnaf inne
pa fodd y byddwn vyw heb vod yn yr unlle
pwy bellach a 'i llawenycha ni cha fi aros
o fy nhad Calcas tydi ydiw /r/ achos
O argyve fy anwylfam
gwaeth ym vuost na llysfam
och i 'r awr och i 'r munyd
pan i 'm dygost fi i 'r byd
Ai i vyw mewn pruddder i 'r byd i 'm ganed
os gwir hynn gwir ydiw fod tynged
all pysc vyw heb ddwr yn yr afon Nilus
pa vodd y gall Cressyd fyw heb ei Throelus
Ni all dim fyw wrth ddychwant
heb gaffel i borthiant
pob peth a fynn gynhelieth [~ gynheiliaeth]
i ymborthi ei naturieth./

[td. 142] Troelus ar hynn yn dyfod./
Hynn a wnaf fi Troelus y dydd ir ymadawon
arf lifed nis karria rhac dal fy mod yn greulon./
onis lladd pruddder myfi y diwrnod hwnnw
fy llinieth a wrthodaf i gaffael marw
Kynn sikred ac y 'm ganed
os oddi yma rhaid ym fyned
hynn a vydd  'y [~ fy] nhynged
modd y kaffoch chwithe glowed./
A 'm dillad i Troelus a gaiff vod yn dduon
yn arwydd vod Cressyd yn gowir ei chalon
Meddyliwch am y geirieu pann ddigwydd yr achosion
yno y kewch wybod fy nghowirdeb ffyddlon./

[td. 143]
A hynn a gofia i chwi
fy ffyddlondeb a 'm kledi
a 'r modd y darfu i Gressyd
er eych mwyn golli ei bowyd./
Y nghowir galon yn dragwyddol /r/wy /n/ ordeinio./
i ti galyn ysbryd Troelus i gydgwyno
er bod yn kyrff yn y ddaiar yn gorwedd yn llonydd
yn ysbrydion a gydrodia rhyd y trugaroc feusydd
Y rhain a elwir Eleisos
nid oes dim poen yn aros
lle mae Orffeus a 'i dreiglad
efo Erudice ei gariad
Fy ngwir galon a 'm gwir gowir anwylyd
chwi a glowsoch fal y darfu am Antenor fy newyd
nis gwn pa fodd y gellwch a hynn yma gytuno
gollyngwch y ngwir galon ych pruddder yn ango.
Yn ango gollyngwch finne
os gwnewch chwi yr hynn gore

[td. 144]
trwy ych bod yn wych bob amser:/
nid oes gennyf am farw fatter./
Mae Pandar gida ynt wy [~ yntwy]
erbyn hynn./
Tithe Pandar a vuost achos o lywenydd fwy nac unwaith
yr owran ir wyt yn achos o bruddder eilwaith
nis gwnn beth a ddoeda wrthyd am hynn
ai bod yt groesso ai nad oes un gronyn
Dy achos vu yr digwyddiad
i mi i wasneuthu kariad
hwn sy yn diwedd rhyngom
mewn pruddder a gofalon
Wyt kariad yn diweddu mewn trymder anianol
fal y mae diweddiad pob llywenydd bydol
Y neb nis kred y gall ddyfod i lywenydd trwm ddiwedd
yn fy muchedd edryched kaiff weled wirionedd
Mae /n/ gas gennyf 'y [~ fy] nhynged,

[td. 145]
yn melltigo yr awr i 'm ganed
yn gwybod vod 'y [~ fy] nigwydd
bob dydd yn waeth no 'i gilydd./
Y neb sy i 'm gweled mae /n/ gweled o 'r unwaith bruddder
poyn, gofal, achwyn, kwynfan trwm a blinder
nis dygym i genfigen na llid i ddyn truan
drwc i neb nis gwneythym ond imi fy hunan
Yn fy meddwl fo ddyle
y nef lawio dagre
a 'r dagre o drugaredd
dros fy mhoen a 'm kreulon vuchedd./
O Myrra Myrra er myned dy ddagre gloywon
drwy risgl y prenn o drymder a chledi kalon
un dyn ermoed hyd yn hynn nis darfu ei eni
all wybod munud oddi wrth y nghledi
Wrthyd arglwydd /r/wy yn achwyn
dy drugaredd i forwyn
a bydd arglwydd trugaroc

[td. 146]
i Droelus druan farchoc

ac ar hynn yma yn llesmeirio./

Troylus a 'i gleddef [~ gleddyf] noeth yn ei
law yn ymkanu [~ amcanu] ei ladd ei hunan.

O kreulon Iou krelonach [~ creulonach] ffortyn aflawen,
lleddaist Kressyd a Throelus a 'th genfigen
y kleddau hwnn a yrr fy ysbryd if allan
i 'th ddilin di Kressyd rhyd feusydd Elisian
Yno y byddwn yn aros
barnedigaeth brenin Minos
gan vod ffortun mor grelon [~ greulon]

[td. 147]
a chariad eilwaith mor ddigllon
Gann ddarfod amdanad myfi a 'r byd a 'mydawa [~ ymadawaf]
i ba le bynnac yr elych dy ysbryd a gylyna [~ ganlynaf]
ni chaiff kariadddyn am Droelus fyth ddoedyd
nas llefys  rhac ofn marw gydfarw a Chressyd./
Genn nas kem [~ caem] ni yma aros
gida ei gilidd i fyw yn agos
dioddefwch y 'n eneidie
yn dragwyddawl fyw yn yr unlle
Iti Troya bum ynot vyw mewn dolur
dithe Priaf a 'm holl gowir vrodur
ac i tithe 'y [~ fy] mam yr wyf yn kanu /n/ iach heb wybod
kroesso Atropos gwna /r/ elor imi /n/ barod
Gwae a chann gwae nas gwyddyd
y modd yr ydwyf yr owran Kressyd./
a negossed kleddef kreulon
er dy fwyn di at 'y [~ fy] nghalon./

[td. 148] Mae Troelus yn amkanu syr
thio ar vlaen ei gleddeu ar hynn
mae Kressyd yn deffroi./
Kressyd
O f' anwylyd paham y tynnassoch eych kleddeu./
pan vo y lliw yn kolli mae /r/ galon mewn dolurieu./
Troelus./
Oni bai ddeffroi ohonoch chwi kynn gynted
y kleddef blaenllym yma a vuasse /n/  'y [~ fy] ngwared./
Kressyd./
Er bod yn vrenhines pes kowswn
hyn yma nis mynasswn
ar gwbwl pell ac agos.
y mae yr haul yn ymddangos./

[td. 149]
Fy ngwir galon chwi a wyddoch hynn yr owran
o bydd un yn wastad yn ochain ac yn tuchan
heb geissio rhyw ddyfais o 'i ddolur i 'w helpu
nid yw hynn ond ffolineb mae /r/ boen yn chwanegu
Genn yn bod wedi kyfarfod
yn deuoedd yma yn barod
mae /n/ fadws i ni ddechreu
a gwneuthur y peth sydd oreu.
Merch ydwyf a hynn a wyddoch yn ddigon da
y peth a feddyliais ei wneuthur i chwi /r/ owran y doeda
pes kydymgynghorem ni mewn modd ac amser
nid rhaid i ni gymryd hanner hynn o bruddder
Mae digon o gelfyddyd
all helpu hynn o gaethvyd
na chymrwch drwm feddylie
fo ddaw hynn i gyd i 'r gore
Oni wyddoch vod genn 'y [~ fy] nhad wllys mawr i 'm gweled
yn unic rhac ofn fy mod yn byw mewn kaethiwed

[td. 150]
Mae /n/ meddwl fy mod yn byw yma yn ymddifad
oblegid yr achos o 'i dwyllodrys fynediad
Gwae fi Dduw nas gwydde
y sut a 'r modd yr ydwy finne
a daied [~ däed] fy myd yn Nhroea
mi a wn nas gyrre byth amdana./
Wrth fy nhad y doeda ddarfod i mi guddio ei goweth [~ gyfoeth]
rhac llosci Troya a rhac ofn dynion diffeth
ac na fedr neb ar a aned ond myfi ei kaffel
Mae ynteu kynn chwanocked, a daf nis klyw ymadel
Atto fo pan ddelwy
fo a goelia i gyd a ddoetwy
Yn esgus kyrchu /r/ mwnws
mi a ddo eilwaith attoch Troelus
Mae /n/ anodd medd gwyr dyscedic ffordd yma
lenwi /r/ blaidd a chael y mollt yn gyfa
hynny ydiw vod llawer un mor chwannoc
ac y treulia swllt yn keissio /r/ geinioc

[td. 151]
Mae henddyn yn anwedic [~ enwedig]
mor chwannoc i 'r da benthic
ac aur y gellid beunydd
gerfio kalon y dyn kybydd./
Troelus./
Mae yn anodd kloffi garr bronn kruppul heb ei ganfod
mae kyfrwysdra Kalkas bob amser mor barod:
i dda bydol er bod gantho ormod dychwant
mae hen gyfrwyddyd gentho [~ ganddo] a ddeallt somiant
Chwi a glowssoch modd i doedan
haws somi babi no gwrachan

[td. 152]
anodd dallu llygaid Argos
pette bawb yn helpio /r/ achos./
Kressyd./
Mae rhai hefyd yn trafaelio ac yn siarad
am dengnhefedd [~ dangnefedd] rhwng Troia a Groec yn wastad
ac y rhoddir Helen adref a 'i holl goweth
a phawb i ddyfod i 'w wlad ei hunan eilwaeth [~ eilwaith]
Pette ddim y 'n kyssuro
ond hynn yma i 'w obeithio
hynn yma a all ddyfod
kynn penn y pedwar diwrnod

[td. 153] Troelus./
Beunydd  llid a chwanega wrth golli gwaed gwirion
hynn yw naturieth rhyfel gwneuthur pawb yn greulon
a hynn a obeithia lleidr i 'w grogi pan yr elo
o tyrr y kebystr vod kyfraith yn ei safio
Nis rhoddir Helen adre
ond yn gyfnewid i Hesione
hwnn yw gobaith gofalon
a 'r gobaith hwnn a dyrr fy nghalon
Kressyd./
[td. 154]
Mi a wn bellach beth sydd raid i mi ei wneuthud
a hynny a wnaf pes kollwn if fy mowyd
milltir vechan sydd rhwng y Groegwyr a Throya
nis byddaf fi ond unawr yn kerdded hynn yma./
a hynn yn wir a gowira
os byw ac iach a fydda
byddwch i 'm kyfarfod
hanner nos y decfed diwrnod
Troelus./
[td. 155]
Hynn yr wyf fi yn ei ofni ac wrth ei feddwl mae /n/ ddolur
yr achos mae 'ch tad i 'ch kyrchu i briodi un o 'r Groegwyr
fo a 'ch rhydd i ryw ddyn a fo mewn mawr urddas
geirie /r/ tad a dreissia yr ferch i briodas
Ac i Droelus gowir druan
y daw achwyn ochain a griddfan
chwychwi yn byw mewn gorthwyneb [~ gwrthwyneb]
ynte yn marw mewn kowirdeb
Eich tad er mwyn ych dwyn i hynn yma
nyni, yn tref, a 'n gallu i gyd a ddibrissia
ac a ddywaid nad aiff Groegwyr byth adre
nes ynnill Troya a llosgi yn llwyr ei chayre

[td. 156]
Wrthyf fi y doedych
y gwnech iddo goelio a fynnych
mae arna ofn yn fy meddwl
y gwnaiff i chwi goelio /r/ kwbwl
Ymysc Groecwyr llawer marchoc glan a gewch ei weled:
yn llawn rhowiowgrwydd, afieth, a rhinweddol weithred
modd y bydd pawb mor ufudd, i 'ch bodloni yn chwennych
fal nas gwyddoch pwy adawoch na phwy a ddewissych
Nid oes mewn Troelus ryglyddiad
i fod munud yn ych kariad
ond ei vod yn rhy ffyddlon
ac yn eych karu chwi yn ei galon
Kressyd./
[td. 157]
Y diwrnod yr awr ne yr munud y byddaf fi yt anghowir
er ofn tad er kariad dyn nac er dim ar a ellir
gwnaed Iuno merch Satwrnus imi yn dragwyddol
aros gida Stix fal Achamant mewn pydew uffernol
Y modd y kaf gan Dduw fy helpio
pan vo rheittia i mi wrtho
kymryd yr eych i 'ch dwyfron
heb achos hynn ofalon./
Hefyd yr wy /n/ tyngu i holl dduwie nefol
i 'r duwiesseu i 'r Nymffes ac i adyrdod [~ awdurdod] uffernol
i 'r Satirs a 'r ffauns hanner duwie y gelwch
y rhain bob amser sy /n/ aros mewn anialwch
fo gaiff Atrop dorry

[td. 158]
yn gynta yr ede mae /n/ ei nyddu
kynn bod honof [~ ohonof] yn anghowir
i ti Troelus er a wnelir./
Tithe Simoys sy /n/ rhedec fal paladr y saeth union
rhyd ystrydoedd Troya i 'r moroedd heilltion
bydd dyst ar a ddoetwy wrth fab brenin Priamus
y diwrnod y bydd anghowir Kresyd i Droelus
Y diwrnod hwnn ydd ymchweli
ac yn ol dy gefn di a gerddi
fy nghorff a 'm enaid inne
a ddymchwel i uffern boene
Koeliwch hynn pan ddel Lucina chwaer i ffebus glayrwen
allan o 'r llew ac allan o 'r maharen
Iuno brenhines nefoedd y modd i 'm helpia
y ddecfed nos mi a fyddaf wrth Droya./
Kressyd yn rhoddi ei chred i Droelus ar ddyfod yn yr amser./
[td. 159]
Raid kael amser wrth gledi
i ynnill amser i mi
dyma ytt fy nghred ar ddyfod
hanner nos y decfed diwrnod./
Troelus./
Derbyn Cresyd gan Droelus yr arwyddion yma
tlws a modrwy yt a rodda:
y tlws i 'th atkoffau i ddyfod eilwaith
a 'r fodrwy honn i feddwl am gydymaith
Gwisc y rhain bob amser
lle bo dy olwc yn ymarfer./

[td. 160]
Ffarwel Cressyd ganwaith
hyd oni ddelych eilwaith./
Ac fal hynn y terfyna y /4/
llyfr o 'r hanes honn yr /11/
dydd o fis medi yn y vlwyddyn
o oedran Krist /1622:/.

[td. 161]


Mae
Diomedes
yn dyfod
ac
Antenor
i Droea
ac yn dwyn
Kressyd gidac ef at y Groegwyr
ac ar y ffordd mae yn kellwair
i 'w garu: mae Troelus yn rhyfeddu
amdani yn dyfod wrth ei addewid
mae Diomedes yn enill ewyllys
da Cresyd./ Mae Troelus yn
breuddwydio ac yn gyrru i ynol [~ nôl]
Kassandra ei chwaer i ddeuallt [~ ddeall] y
breuddwyd a hithe yn dywedud fy
[td. 162]
ned
o Ddiomedes a Chressyd ac
ynteu yn ei phakio hi i ffordd, ar
hynny wrth ymladd mae Deiffobus
yn dwyn i Droea kwnsallt
Diomedes ac wrth symio yr
bais mae Troelus yn kanfod
y tlws a roesse ef i Gressyd wrth
ymadel wedi ei ossod yn ei choler,
ac yno mae yn gwybod
fod Kressyd iddo yn dwyllodrys
Mae Diomedes yn ofni fod
rhai eraill o 'r Groegwyr yn fawr
gidac yhi [~ hihi], ac yn ei howtio hi
allan o 'i olwc ac na ddele byth
lle y bydde, ar hynn mae Kressyd
yn nadu yn erbyn y duwie
yno mae Kupid yn lleissio kloch
arian ac yn galw y duwie
i 'r unlle, a 'r rhain yn dwyn ei
glendid oddi arni ac yn ei
[td. 163]
rhoi yn y klwy gwahanol ac
mewn tylodi mawr, yn y diwaetha
mae hi yn myned y
>mysc y gwahanolion ac y
felly mae yn byw wrth  ylusendod.
[~ elusendod] Mae Troelus yn dywod
heibio o 'r rhyfel a 'r trueniaid [~ trueiniaid]
yn gofyn iddo lusendod [~ elusendod] ynteu
yn edrych tu ac at Kressyd
ac yn hoffi ei golygiad heb
ei adnabod ac yn rhoddi iddi y
kwbyl oedd i 'w galyn, wrth
hynny y gofynne hi i un o 'r
truenied [~ trueiniaid] pwy ydoedd; a hwnnw
yn doedyd mae Troelus ar
hynn y torrodd ei chalon wrth
weled ei garedicrwydd ef ac
o wir edifeiriwch am ei anghowirdeb
tu ac atto, fe fu
drwm aryth [~ aruthr] gentho [~ ganddo] pan
[td. 164]
glybu hyn, ac a fynnodd ei chladdu
yn debic i arglwyddes. Ac o
hynny allan yr ymroes ynte i
farw yn y rhyfel ac fellu [~ felly] y diweddodd,
ond tre [~ tra] fu byw nid aeth
hi o 'i gof: Ac felly y diwedda
yr hanes dosturus o Droelus
a Chressyd./


Prolog y /5/ llyfr./


[td. 165]
Bellach mae /n/ dyfod nesnes y dynged:
honn mae Iou o 'i ddirgelwch yn ymwared:
ac i chwithe Parkas ddicllon dair chwioredd
mae /n/ gorchymyn i chwi ar hynn wneuthur diwedd
mae Kressyd yn mynd ymaith a Throelus yn dwyn penyd
nes darfod i Lachesys nyddu ede ei fowyd./

Diwedd y Prolog:/

[td. 166]
Diomedes./
Yr urddassol arglwyddi ar gwbwl o Droy ac Assia
oddi wrth brenhinoedd Groec ir wyf i yn dyfod yma./
ac yn dwyn i chwi y karcharwr hwn yn gyfnewyd
am unferch Calcas fal yr oedd ych addewid
Diolchgar ydynt hwytheu
am yr heddychol ddyddiau
a 'r kytundeb yn sikir
o 'i rhann hwy a gedwir
Priaf./
[td. 167]
Diomedes mae i chwi groesso oddi wrth vrenin Agamemnon
sefyll ydd ydym ni yn y kytundeb addowsom
derbyn y karcharor Antenor i 'w rydyd [~ ryddid]
a rhoddi i chwi amdano y forwyn yma Kressyd
Ymsikirhewch Agamemnon
nas torrwn ni ar a addowson
brenin Troya nis torrodd
ar ddim ermoed addawodd
Mae Troelus yn ei kyfarfod yn
myned ymaith ac yn edrych yn
arw ac yn doedyd wrtho ei hunan./
Troelus./
[td. 168]
Paham nas gwnaf i dylawd a chywaethoc [~ chyfoethog] ar unwaith:
gael digon i wneuthud kynn mynediad Kressyd ymaith./
paham nas dygaf Troeaf i ryfel disymwth
paham nas lladdaf Diomedes kynn ei vygwth
a phaham nas dygaf
honn ymaith er ei gwaythaf
a pha achos yr wyf innau
kyd [~ cyhyd] heb helpu vy noluriau
Troelus yn myned i Droea./ Diomedes  wrth Gressyd./
[td. 169]
Siriwch paham yr ydych chwi kynn brudded,
eych anwyl dad ar hynt a gewch ei weled
hwnn sydd yn kystuddio mewn hiraethus ofalon
eych bod yn byw oddi wrtho ymysc ei elynion
O tybiwch chwi y galla
i 'ch meddylie roddi esmwythdra
rwy /n/ deissyfu arnoch ac yn erfyn
o hynn allan vy ngorchymyn
Mi a wn Kressyd fod yn chwith ac yn ddieithr gennych
nid yw hynn ryfeddod i 'r sawl a wyr oddi wrthych
kyfnewid kydnabyddieth y Groecwyr sydd i chwi yn ddieithred
y Troyaid ych kymdogion a Throya y mann i 'ch ganed
Na feddyliwch nas kewch weled
ymysc y Groecwyr wyr kyn laned

[td. 170]
ac y sydd yn Rhoea [~ Nhroea] a 'i swydd
a chwanec o gredicrwydd
Mi a fynnwn i chwi fy nghymryd megis ych brawd diniwed
ac na wrthodych fy ngredicrwydd pan ddelych ymysc dieithred
er bod ych pruddder o achosion mawr yn tyfu
nid hwyrach mewn amser y gallwn i ych helpu
Onid ef hynn a wyddwn
ych trymder nis chwanegwn
ond trwm a fyddwn inne
dros drymder ych meddylie
Er bod y Troyaid wrth y Groegwyr yn ddicllon
a 'r Groecwyr wrth y Troyaid beunydd yn greulon
yr un Duw kariad mae /r/ ddwy blaid yn ei wasaneuthu
a 'r ddwyblaid mae /n/ gorfod i 'r duw yma ei helpu
Er duw pwy bynnac a 'ch digiodd
arna fi na roddwch anfodd
myfi ni chlowa arnaf
ryglyddu ych dic na 'ch gwaythaf

[td. 171]
At y Groegwyr genn yn bod yr owran kyn negossed:
ne at dent Kalcas hwnn bellach all yn gweled
mi adawa i gadw fy nghyfrinach angall
wedi ei selio yn fy meddwl dan ryw amser arall
Moesswch i mi Cressyd
ych llaw, ych kred, ych addewyd
ar gaffel o Ddiomedes
vod yn nessa dyn i 'ch mynwes./
Kressyd yn rhoddi ei llaw i Ddiomedes./
May kimin o farchogion ymysc Groecwyr mor rhinweddol
kynn laned kynn voneddigeiddied, ac mor weddys naturiol
a phob un a wnaiff ei ore am ei einioes a 'i vowyd
ar gael o honyn ynill ych gwasanaeth chwi Kressyd
Arnoch chwi y deisyfaf
am y boen a 'r drafael ymaf [~ yma]
y ngwydd y rhain fy henwi
yn wasnaethwr ufydd i chwi./
Kressyd./
[td. 172]
I chwi Diomedes ir wyf yn ddiolchgar yn enwedic
am ych poen ac am ych ewyllys da /r/wy /n/ rhwymedic
eych gwasanaeth, eych kymdeithas, eych kynghorion
a derbyn i 'r gore ych holl eiriau kredicion
A hynn a ellwch goelio
er dim a all ddigwyddo
o flaen un ar a aned
ynddoch chwi y bydd f' ymddiried
Ar hynn mae yn kanfod ei thad./
Adolwc i chwi 'y [~ fy] nhad eych bendith rhoddwch ym
hiraeth mawr amdanoch hyd yn hynn a ddygym
Kalkas./
[td. 173]
Fy mendith yt a ffynno fy anwylyd a 'm un llygad
nis kysgais noswaith ddiofal gan ofal mawr amdanad
Gadel
Kressyd gida ei
thad.
A vlinaist yn dywod yma
mae /r/ newyddion o Droya
nid ydyn hwy ond aros
y gwrthwyneb sydd yn agos
Troelus  ei hunan./
Ple mae yr owran fy arglwyddes a 'm anwylyd:
ple mae ei phryd a 'i gwedd ple mae Kressyd./
ple mae ei deufraych a 'i golwc eglur sirian
ydoedd gynt yn dy lawenychu Troelus truan./

[td. 174]
Wylo yn hawdd a elli
yr heilltion ddagrau amdani
nid oes yma ddim i 'w weled
ond y llawr y nen a 'r pared
Pwy sydd yr owran i 'th weled fy ngwir gowir arglwyddes
pwy sy /n/ eiste yn dy emyl [~ ymyl] a phwy sy /n/ dy alw /n/ feistres
pwy sydd a lawenycha dy galon drom hiraethys
mae Troelus heb fod yna pwy sydd ytt gynghorys
Wrth bwy y gelli ddoedyd
ydiw Troelus yn y byd
mae Pandar yn ychneidio [~ ocheneidio]
a Throelus truan yn wylo./
Pa fodd y gallaf aros ddeng diwrnod y modd yma
pan ydiw kyn anhowsed ym gydfod y diwrnod kyntaf
pa fodd y gall Kressyd sydd yn wannach mewn naturieth
byrhau [~ barhau] yn y fath drymder dros ddiwrnod a noswaith
Y glan wreigaidd olygiad
a dry yn wyrdd yn las ei edrychiad

[td. 175]
ni wela fodd i mi gydfod
i aros y decfed diwrnod
Troelus  wrth Bandar./
O Pandar gan yr hiraethus drymder sydd arnaf
parhau yn hir yn wir mi a wn nis gallaf
odid ym gaffel fy einioes hyd yfory
o herwydd hynn yma ydolwc i ti ddychmygu
Pa fodd y gwneir fy medd
os rhaid ym yno orwedd
ag am bethau anghenrheidiol
i rhoddi  lle i bo gweddol./
Ond o 'r tân a 'r fflam lle i 'm diweddir
ac yn yr hwnn dan fy nghorff yn lludw a losgir
o 'r digwyl o 'r noswyl ac o 'r chwaryddiaeth palestrawl
fal y bo yr achos gwnewch hynn yn weddawl
fy march i Fars wrth ordor
fy nghledde i 'm anwyl frawd Hector
fy mwkled dod i Balas./

[td. 176]
amddiffynned honn dy urddas
Fy nghalon pan vytho wedi llosgi hyd yn ulw
hel hwnn yn yr unlle a bydd sikir o 'i gadw
a dod mewn llestr o aur wedi wneuthyr i hynny
a hebrwng i 'r arglwyddes a vum gynt yn ei gwasneuthy
A dangos mae o 'i chariad
y digwyddodd y digwyddiad
ar gadw hwn damuna
er mwyn dwyn kof amdana./
Myfi a wnn wrth y modd y kymrodd fy nolyr myfi am pryddder
ac wrth fy mreuddwydion if rhaid ym farw ar vyrder
Hefyd y dylluan honn a elwir Aschaffilo
sydd y ddwy nos diwaetha uwch fy mhenn yn kregleissio
Tithe y duw Mercuri
pan ryglydd bodd i ti
gyrchi yr ysbryd poenedic
allan o 'r korff aniddic./

[td. 177] Pandar./
O Troelus pa fodd y mae y rhain yn kytynny
sy /n/ gweled ei kariadau ac eraill yn ei priodi
a hefyd yn ei gweled mewn gwlae [~ gwelâu] ei gwyr priod
duw a 'i gwyr trwy synwyr mae /n/ gorfod uddyn gydfod
Fal y mae amser i 'th vriwo
felly daw amser i 'th helpio
nid yw /r/ amser ond agos
gobaith da yn hir all aros./
Dy wendid dy ynfydrwydd a 'th drapherthus vreuddwydion
gad ymaith gida dy holl fyddyliau [~ feddyliau] gweigion
y rhain sy /n/ tyfu o felankoli gwydyn

[td. 178]
yr hwnn y sydd achos o drafferthus gyntun
Hynn yr ydwy yn ei weled
nad oes undyn ar a aned
a fedr yn union
roddi deuallt ar vreuddwydion./
Yr hên bobl a ddywaid am vreuddwydion
mae /n/ hwy sy /n/ dangos dirgelwch duw kyfion
eraill yn doedyd mae o uffernol hudolieth
ac eraill yn meddwl mae komplexiwn amherffeth
A 'r llall sy /n/ dangos
mae glothineb yw /r/ achos
nis gwyr neb yn sikir
pwy un o 'r rhain a goelir./
Y dysgedic a ddywaid mae impression
ydiw /r/ achlysyr y 'r holl vryddwydion [~ freuddwydion]
megis pette un yn meddwl ac ar hynn yn kysgu
y meddwl eilwaith sydd ynddo yn adnywddu [~ adnewyddu]
Chwi a gewch ryw un i siarad./

[td. 179]
mae ar ryw amser ar y lleuad,
rhai eraill wrth y flwyddyn
nid gwiw koelio gormod uddun./
Yr hen wragedd sy /n/ rhoi mwya koel mewn breuddwydion
neu mewn awgwri a hediad adar gwlltion [~ gwylltion]
mae llawer rhac ofn wrth vran llesmeirio
wrth glowed kigfrain ac adar kwrffwr yn drwcleisio
Gwae fi dduw pan vytho
y fath bethau a hynn i ' ch trwblio
a bod Kressyd mor berffaith
a dyn yn y _ _ _ _ anobaith
Tyred gad in siarad am yr hen vuchedd yn Rhoia [~ Nhroea]
y modd y buom gynt fyw ac y byddwn etto er hynn yma./
Kynn myned heibio y ddecfed awr o 'r decfed dydd
fo dry hynn i gyd yt mewn hir lywenydd
Awn oddyma yn union
at vrenin Sarpedon
i somi hynn o amser

[td. 180]
sy /n/ atkoffau dy bruddder./
Troelus a Phandar yn
myned allan./

I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section