Adran o’r blaen
Previous section


[td. 38]


Ar hynn
fo syrthiodd Troelws
mewn kariad mawr i
Gressyd, ag a fv yn
hir yn kwyno wrtho i hvnan hyd
oni wybv Pandar hwn oedd arglwydd
o 'r Troeaid a chydymaith mawr i Droe
[td. 39]
lws,
Yna yr holes hwn ef yn galed
ag yn y diwaethaf ef a gyfaddes mae
kariad Kressyd oedd yr achos a 'r Pandar
yma oedd ewythyr iddi hithev

Troelws  yn doedyd wrtho ei hvnan./
Onid oes gariad, (o Dduw) pa beth sy 'm trwblio,
od oes gariad pa vodd pa sut sydd arno:
os da kariad o ble mae /n/ dyfod i 'm blino
os drwc kariad mae /n/ rhyfedd iawn i drino
rhwng poen kyffro a thynged
er maint ir wy yn i yfed

[td. 40]
mwyfwy ym yw /r/ syched./
Os vy chwant vy hun sy 'm llosgi
o ble doeth vy ngriddfan weiddi
os wyf vy hun gytun a drygioni
nid oes ddim lles na chwynfan imi
o mafolaeth [~ marwolaeth] bryssyr
vy mhoen vy melys ddolur
pa vodd ir wyt y 'm trwblio
myfi a thi yn kytuno./
Od wy a thi gyttun mewn kariad
mae beie mawr am achwyn arnad
mewn llong foel 'rwyf yn ymddifad
rhwng dau wynt gwrthwyneb dreiglad

[td. 41]
o Dduw pa vath ryfeddod
sydd mor ddisymwth i 'm gorfod
rhac gwres mewn oerfel dwyn nychdod
rhac oerfel mewn gwres rwy /n/ darfod./
O yr uchelfraint arglwyddes kariad
fy nrhafferthys ysbryd derbyn attad
ne ddod ym rinwedd ddianynad
i ufuddhau meistres ddigwyddiad
I gwas a 'i gwasnaethwr
a 'i dirgel wllyssiwr
nes vy rhoddi mewn amdo
nis kaiff wybod oddi wrtho
O [Troelus] truan tuchanllyd
mae tynged ytt i ddwyn penyd
pes gwydde dy veistres dy ofyd
nid oes vodd nas trugarhae wrthyd
Mal rhew yw /r/ ddyn veindlos
ar eglur leuad gayafnos

[td. 42]
tithey yw /r/ eira oerfeloc
yn toddi wrth eiriesdan [~ eiriastan] gwressoc
I borth marfolaeth Duw na bawn wedi /n/rheiglo [~ fy nhreiglo]
pruddder o 'r diwedd a 'm dwc i yno
oddi yno y byddwn gyssyrys i ymado
a 'r blinder trallodrys beunydd sy /m/ [~ yn fy] kystyddo
Ir hir aros vlwyddyn
mae diwedd a therfyn
y 'm penydfawr vuchedd
mae terfyn o 'r diwedd./
[Pandar]
Pa anghytyn ddisymwth benyd:
a drwm ddigwyddodd i 'th vowyd./

[td. 43]
ni vag amser ond gofalfyd
na mawr lywenydd nac iechyd
o vy arglwydd pa dynged:
a ddigwyddodd ytt ddrwc weithred?
a wnaeth [Groegwyr] kyn gynted
dy liw a 'th bryd kynn waeled.
Ne ir wyt mewn kydwybod yn ydifeiriol [~ edifeiriol]
wedi ymroi i vyw yn vucheddol
ne yn dwyn trymder kaeth anianol
dros ryw bechodau annaturiol.
Duw a safo gida /n/ trefydd:
yn plant, yn gwragedd a 'n trefydd
o digwyddodd trwy gystydd
yn gwyr iefainck ni i grefydd.
[Troelus]
[td. 44]
Pa rhyw beth a 'th trefnodd di i glowed;
vy meddwl trwblys a 'm anoddefys gaethiwed:
yr hwnn mae pawb, yn orthrwm ganthyn i weled,
ydolwc ytt oddyma vyned./
Sikir ydiw marfolaeth
a phawb myn gydnabyddieth
erfyn yt vyned ymaeth [~ ymaith]
kroesso wrth y weledigaeth./
Od wyd yn meddwl mae ofn gwyr ac arfau
sy ddychryn y 'm korff a 'm trwblys veddyliau
mae rhyw beth arall sydd drymach y 'm gruddiau
nac ofni y [Groegwyr] a 'i mowrion eiriau
A 'r achos hwnn sydd varwol
trwy drymder naturiol
na ddod arna vai anianol
am gely hynn mae /n/ weddol./

[td. 45] [Pandar]
Dy drymion eiriau a 'm gwnaeth i yn drymach
dy afiachys ychneidiau [~ ocheneidiau], a 'm gwnaeth i yn afiach
dy lesgrwydd a 'th wendid a 'm gwnaeth i yn llesgach
er y kariad vy rhyngom dowaid ym dy gyfrinach
Dyledys i 'th anwylgar
gael klowed dy garchar
oni adwaenost dy gymar
myvi ydyw [Pandar]
Onis gallaf yt help na chyssyr
byddaf rannoc o 'th boen a 'th ddolyr
anghenrhaid i gymdeithion wneythur
y naill i 'r llall hynn a ellyr.

[td. 46]
Kynn vydloned [~ fodloned] i ddwyn kystydd
ac a vyddwn i lywenydd
ac am hynny na rydd arwydd
ym y dybied angrhedigrwydd [~ angharedigrwydd]./
[Troelus]
Kariad po mwya rhagddo ymddiffynwy:
bydd vy mhoen a 'm penyd vwyfwy:
heb obaith ond trymder mowrglwy
a marfolaeth drom lle i bythwy.
Mwy o lawer y 'm llawenycha
mae chwant marfolaeth arna
na phe kawn i vod yn benna
ar wledydd [Groeg] ac [Troea]

[td. 47]
Vy anwyl [Pandar] a 'm kydymaeth [~ cydymaith] ffyddlon
oni vodlonodd hynn dy galon
er Duw gad hynn o oer ofalon
yn guddiedic oddi wrth ddynion./
Gallef [~ Gallai] niwed fod yn erbyn
pes gwydde neb oddi wrthyn
aed llawenydd i 'th ddilyn
a 'r trymder doed y 'm kalyn./
[Pandar]
A gedwaist di hynn kyd [~ cyhyd] mor guddiedic:
oddi wrth dy anwyl gydymaith karedic
gellid ddwyn dolyr gorthrwm briwedic
a minne yn gally yt help am veddic./

[td. 48]
Na chudd mewn kymdeithas
y pethau sydd berthynas
i 'r mudan diflas
ermoed nis rhoddwyd tyrnas.
Gwrando [Troelus] vy anwylyd
er nad wyf o 'r gore /n/ doedyd
gwelais gyngor yr ynfyd
yn helpy /r/ doeth mewn adfyd./
Gwelais gwympio wrth fyned
y neb a vydde /n/ gweled
a 'r dall i 'r un vann yn kerdded
heb gael na chwymp na niwed
Mwyaf deallt trwy eglurdeb
pob peth yw wrth i orthwyneb [~ wrthwyneb]
gwrthwynebys yw synhwyroldeb
i ddifaliais ffolineb
Nis gall agalen hogi
na cherfio prenn na 'i dorri

[td. 49]
vo wasnaetha honn i lifo
y ffer [~ offer] sydd yn kerfio./
Pa vodd ir edwyn neb veluster
ni wnaeth praw ermoed ar chwerwder
a llywenydd ni wyr un ymarfer
ar nis digwyddodd iddo bryddder
Y gwynn wrth ddu yr adweinir
wrth wyd rhinwedd a yspysir
y naill wrth y llall a wyddir
trwy synwyr dyn y delltir
Medd doeth gwae /r/ neb a vydd byw i hyn yn ddifri
o syrth hwnn ni chaiff help neb y 'w godi
herwydd vod kydymaith ytt i 'th hoffi
ymddiried nid hwyrach i gall les ytt mewn kledi
Nid ochain ac wylo
mal brenhines Niobo
i mae dagre honno
y 'w gweled etto./

[td. 50] [Troelws ]
Ir son am ddagre Niobe y vrenhines
nis gellwch ym les, na help am veistres
gedwch hen chwedle i orwedd i 'ch mynwes
kynhyrchol varvolaeth i mi sydd gynnes
Mae 'ch geiriau mowrion erchyll
yn chwedlau y 'm kewyll
nid yw honn wamal na thrythyll
nid oes vodd i allu i hynnyll [~ hennill]
[Pandar]
[td. 51]
O dduw o ble gall hynn ddigwyddo:
mewn hir anobaith ir wyt byth yn trigo:
os byw yw honn hi all dy helpio
ne mae anras mawr i 'th dwyllo
Am bethau nis gall vod
nid gwiw gobaith gollyngdod
am bethau a all vod
gobeithia i gorfod./
Gwir mal [Tityos] ir wyt yn galary.
mewn poen tragwyddol uffernol obry
ar galon hwnn di a glowi
y mae /r/ kigfrain yn ymborthi
I hwnn o 'i ddirfawr benyd

[td. 52]
nid oes gobaith byth am iechyd
mae gobaith pes gobeithyd
itti ymadael a 'th afiechyd./
Beth o 'th varvolaeth a veddylir
os achossion honn nis gwyddir
rhyfel bob dydd sydd yn bryssyr
dithe /n/ marw rhac ofn y [Groegwyr]
Bydd gyssyrys o 'th ffortun
deffro unwaith o 'th gyntun
beth a ddowaid rhai kedyrn
mil o ddiawl el a 'i esgyrn./
Ti a elli ymgwyno, wylo a thuchan
heb un dyn yn gwybod oddi wrth dy riddfan
a cholli y peth mae hynn yn dwrstan [~ drwstan]
a ellesit i gael pes gwneuthyt dy gwynfan./
Mae llawer yn karu
lawer blwyddyn o 'r unty
heb gael o vewn hynny
unwaith ymgyssanu.

[td. 53]
A vyn di i 'r rhain am hynn o ddigwyddiad
ymroi i hun mewn modd anynad
a thrwy anras mawr a bwriad
i lladd ei hun wrth glun ei kariad./
Na wnan peidian
os mynan bygythian
y 'w kariad ymroddan
ac yn ufudd gwasnaethan.
Na ddod ormod koel mewn ffortun
peth dall, peth angall, peth kyffredyn
nid unlle o 'i chwymp i dysgyn
ymhenn y klippan na 'r brenyn [~ brenin]
Mal [Cerberus] y byddi
yn dy vlinder a 'th gledi
y peth a rodde atti
e gyfrife hwnn i golli./
[Troelus] pes vy chwaer naturiol vydde
yn drwm achos o 'th gaeth veddylie.

[td. 54]
onis gwnai pob peth i 'r gore
y llaw honn yn wir a 'i lladde
Dattod gallon blethedic
mewn meddylie gorthrwymedic [~ gorthrymedig]
nid oes dim help gan veddic
lle bo /r/ briwie yn guddiedic
[Troelus]
Os rhaid i minne bellach ddoedyd
pwy ydiw yr verch a 'm rhoes mewn penyd
i mae pawb yma y 'w adwaenyd
honn yw /r/ lan a 'r weddaidd C[ressyd]
Er nych er poen er [galar]
er dwyn marfolaeth gynnar

[td. 55]
ni chaiff un dyn ar y ddaiar
wybod hyn onid [Pandar]
[Pandar]
O [Troelus] er hyd y trinaist ofid
vo wnaeth kariad a th'di [~ thydi] lendid:
am synwyr, rhinwedd gwedd, a phryd
dy gymhares yw [Cressyd]
Ai mawr Asia o bob ty
ai mawr [Groeg] ai mawr y ddeuty
ai mawr brenin o 'i ally
mwy rhinwedd i gwasneuthy./

[td. 56]
Meddwl [Troelus] trwy lywenydd naturiol
val i mae [Cressyd] yn ddaionys rhinweddol
velly y bydd i ti yn drigarog synhwyrol
os medry oddi wrthi mewn pethau angenrheidiol
A medryd peidio
a rhoi i gwaed mewn kyffro
ni all rhinwedd lle i bytho
a chwilidd gytuno
Y tir sy /n/ dwyn y gwyg a 'r chwynn yn chwannoc
yr un tir sy /n/ dwyn iachus lyssiau gwressoc
nessa i 'r boeth ddanhadlen bigog
mae /n/ tyfu yr esmwyth rosyn rhowioc
I 'r dyffrynn nessa yw /r/ mynydd
i 'r towyllnos nessa yw /r/ gloywddydd
nes yw /r/ doeth na 'r ffwl yn gelfydd
nessa i drymder yw llawenydd
Edrych am dy vod yn dyner wedi dy ffrwyno
i 'th helpy mewn amser gad i 'r traeth dreio

[td. 57]
onid ef ofer yw /r/ boen sydd i 'th helpio
y synhwyrol a erys yw /r/ neb a bressyro
Bydd gowir ymddygiad
bydd ddyfal a chayad
bydd ufydd a gwastad
i wasneuthu dy gariad
Bydd gyfrwys ar dy weithred a gofalys ar d' eirie
y neb a vytho ymhob [~ ym mhob] mann nis gall vod yn unlle
ir plannu yn vynych goed ne lyssie
a 'i kodi hwynt i vynu erbyn y bore
O 'i vynych blanny
nis gall dim dyfy
na charreg vwsogli
a dreuglir [~ dreiglir] rhyd perthi
Darlleniais yn vynych wrth hir veddylio
vod kimin o rowiowgrwydd mewn merched ac a allo
ac na cheisied unferch ermoed y 'w thrino
ar na bydde honi [~ ohoni] i hunan yn barod y 'w cheisio

[td. 58]
Vy llaw vy mowyd
vy ngore ytt i wneuthyd
vy nith vy anwylyd
vy nghares yw [Cressyd]
[Troelus]
Pandar Pandar nis medraf dreuthu vy meddwl
synhwyrol wyd, di a wyddost y kwbwl
i 'r yych [~ ych] a gerddo nid rhaid un swmbwl
i amddiffin vy einioes di a ddoethost mewn trwbwl
Gorchymyn y kwestiwn
at un verch a garwn
vy hoedyl pe 'i kollwn
i digio nis mynnwn./

[td. 61]
Wrth rwyfo ar hyd y tonnau vor peryglys:
o yr gwynt, mae yr dymyr [~ dymer] yn esmwythau yn dynherys
Y llong o 'm kyfrwyddyd sydd boenys yn nofio:
wrth hwylbren anobaith rwy /n/ deallt i bod yn ysmudo [~ symudo].
Val i mae /r/ kalender y [~ yn] nechreuad y llyfre
velly mae gobaith kalandr [~ calendr] i [Droelus] i ddechre

[td. 62]
O arglwyddes [Clio] dy bryssyr help yr owran
y 'm tavod dod rwydddeb i orffen hynn allan
Myvi vy hun a 'm esgusoda wrth gariadddyn aniddic
nad vy nyfais i mo hynn ond gwaith gwyr dyscedic
A mine er mwyn yr wllys da ytt a ddygais
a 'i trois i 'th iaith Gymraeg yn ore ac i medrais
Am hynn nid wyf yn disgwyl na diolch nac anfodd
ond dy wyllys da a hynny o 'th wirfodd
Na vernwch arnaf od wyf ddiffygiol o eirie
kalyn nessa y gallwyf y dysgedic ir wyf inne
Ac ar vy amkan ir ydwy o gariad yn treuthu
mae /n/ anodd i wr dall o liwie allu barnu
Od oes gennych ryfeddod wrth glowed hyn o hanes
pa vodd i nillodd [~ enillodd] [Troelus] gariad yr arglwyddes
Ne gymryd rhyfeddod wrth i voddion yn karu
nid oes gennyf ddim rhyfeddod wrtho am hynny
Odid gael tri o vewn y byd o 'r un deynudd
yn gwneuthud ac yn doedyd un ffunyd a 'i gilydd
Rhai mewn prennie a gerfia eraill mewn kerric
y gwirionedd a gylynaf [~ ganlynaf] ydolwc byddwch ddiddic./

[td. 63] [Pandar]
Fy Arglwyddes Duw vo yn geidwad:
ar ych llyfr a 'ch holl gwmpeini./
[Cressyd]
Kroesso vy ewyrth amser da yw ych dyfodiad
a ddowch chwi yn nes i 'r goleuni./

[td. 64]
i ddoedyd chwedlau newydd i mi
newddion [~ newyddion] a gaf glowed
anfynych /r/ wy /n/ ych gweled
[Pandar]
Vy nith gwell a allef [~ allai] ddigwyddo
os Duw a rodde gennad
gwneuthum ar vai ych trwblio
oddi wrth ych llyfr a 'ch bwriad
ydyw yn son ddim am gariad./

[td. 65] [Cressyd]
Mae /n/ ysgrifennv o ryfel Thebs
nid yw yn sôn am ych meistres./
Mae yn esgrifennu [~ ysgrifennu] yn eglur
o ddigwyddiad yr holl ryfel
ac o esgob yn dostur
[Amphiorax] aeth yn ddirgel
i Uffern gida yr kythrel
A 'r modd bu varw [Layus]
trwy waith i vab [Edipus]
[Pandar]
Mae hynn yn ddifyrrwch
i vwrw amser heibio
ac i esmwythau tostyrwch
lle mae yn arfer a gwreiddio
ni a ollyngwn hynn mewn ango./

[td. 66] [Cressyd]
Pa newydd am y [Groegwyr]
ydiw [Syr Ector] yn bryssyr./
[Pandar]
Mae yn iach i Dduw i diolcha
ond briwo peth o 'i wyneb
mae [Troelus] i vrawd ifa [~ ieuaf]
ail i [Ector] mewn gwroldeb
ne mewn rhinwedd synhwyroldeb
a 'r dyn glana i galon
yw hwnn o 'r holl veibion
[Cressyd]
[td. 67]
I mae yn  ddaf [~ dda] gennyf glowed
i bod yn wchion ill deuwedd
yn wir mae /n/ anodd gweled
i vab brenin kimin rhinwedd
a bod mor voneddigedd
Rhinweddol yw naturieth
lle bo uchel enedigaeth
[Pandar]
Yn siwr mae i vrenin [Priamus]
ddau o veibion glan diniwed
y rhain yw [Ector a Throelus]
nid oes neb ar a aned
oddi wrth ddrygioni kynn belled./

[td. 68]
Pawb a wyddys oddi wrtho
y drwc a 'r da sydd arno./
Am [Ector] nid rhaid i grybwyll
na siarad gormod geiriau
ef yw unic varchog didwyll
mewn llawer mwy o rinweddau
na 'i holl gryfdwr mewn arfau
Mi a wnn i gallaf ddoedyd
am [Droelus] yr un ffunyd./
[Cressyd]
I Hector mae anrydedd [~ anrhydedd]
ac i [Droelus] mae kariad
rhai yn son mewn gwirionedd

[td. 69]
i vod bob dydd dros i wlad
yn ymladd yn wastad
Mae yn ddaf [~ dda] gennyf glowed
i ganmolieth kynn vynyched./
[Pandar]
Y gwroldeb ddoe a wnaeth [Troelus]
gwae vi nas biessych yn gweled
nid oes mo 'r help lle i kyrheddys [~ cyrhaeddus]
a 'r [Groegwyr] kynn amled
yn ffoi rhac kaffel niwed
A 'r krif [~ cri] ymhenn gwrageddos
i mae [Troelus] yn agos.
Rhai yn ffo yma rhai /n/ ffo akw

[td. 70]
y [Groegwyr] i gyd yn waedlyd
a rhai eraill wedi marw
a rhai ynn synn heb vedryd
na ffoi ymhell na doedyd
A 'r diwrnod i dwc arfe
nis gwelir ond i sodle./
Mae /n/ garedicca ar a aned
lle i bytho gentho [~ ganddo] duedd
ond madws i mi vyned
i vendio ar ych annedd
oes a vynnwch o 'r diwedd./
[Cressyd]
Ni chewch yr owran mo 'r gennad:
mae i mi chwaneg i siarad./

[td. 71] [Pandar]
Gwiliwch gen ych bod y 'm attal
rhac ym ych trwblio
wrth ddoedyd rhywbeth gwamal
mi allwn ych digio
a 'ch gyrru chwi mewn kyffro./
[Cressyd]
Os bydd meddwl o 'r gore
diniwed a vydd geirie

[td. 72]
Ydolwc gadewch glowed
beth yw meddwl ych siarad./
[Pandar]
vy ngeirie sydd ddiniwed
a 'm meddwl sydd heb vwriad:
beth pe soniwn am gariad
ond gwaetha roddi atteb
rhac kaffel rhyw orthwyneb [~ wrthwyneb]./
[Cressyd]
[td. 73]
Y neb a ofno ddoedyd
ofned gael a geissio
y neb a wyr i glevyd
o 'i glevyd mae /n/ haws i helpio
na 'r neb nis gwyr oddi wrtho
A 'r neb nis medyr siarad
ni thal ddim i wneuthur marchnad./
[Pandar]
Vy nith mynn y ddysgedic [Iuno]
ac mynn [Minerfa] y dduwies

[td. 74]
myn [Iubiter] a wnaeth i 'r daran ruo
myn [Fenws] vwynaidd gynnes
os gwrandewch chwi ar vy neges
Nes dowod ange y 'm erbyn
mi a vydda tan ych gorchmyn./
[Cressyd]
Mi a wrandawa ar ych geiriau
bellach kerddwch rhagoch
gwiliwch siarad rhyw bethau
yn erbyn hynn a wyddoch
ac os gwnewch mogelwch [~ ymogelwch] attoch
ffrom vydd merch ac ysgymyn
o gwneir gormod yn i herbyn./
[Pandar]
[td. 75]
Vy nith mae [Troelus] anwylvab y brenyn [~ brenin]
attoch chwi ganwaith vo arches i orchymyn
i chwi mae /n/ dwyn y vath wllys karedic
onis kaiff ych trugaredd nid yw ond gwr kolledic
Y gwir sydd raid i ddoedyd
am i drymder a 'i benyd
nid oes gennyf mo 'r rhyveddod
mae /n/ 'ch karu chwi yn ormod./
Os gadewch i hwnn varw vy hoedl i a dderfydd
ar 'y [~ fy] ngwir wirionedd ni ddoeda i chwi mo 'r kelwydd./
os atteb trugaroc nis rhoddwch ym yma
ar y kleddef blaenllym vy einioes a ddiwedda
Os o 'n achos yn deuwedd
yn hoedl a ddiwedd

[td. 76]
ir ydych yn heleth
yn euoc o 'm myrfolaeth [~ marwolaeth]
Ym drud anwyl gydymaith onis byddwch trigaroc
hwn yw /r/ kowir ddyn a 'r glan rinweddol varchoc
a hwn nid yw /n/ erfyn ond rhowiogaidd olwc
i droi heibio marfolaeth oddi wrth wirion diddrwc
Beth a ddoedir amdanoch
ymhob [~ ym mhob] man ar y kerddoch
kan och y 'r glendyd
a ddwc einioes a bowyd
Os byddwch chwi velly a bod iddo mor greulon
ac ystyn [~ estyn] i hoedl ni chlowch ar ych kalonn
y neb sy mor onest mewn rhinweddol veddyliau
mwy nac o vudredd ne daiog [~ daeog] anwydau
Os velly i byddwch
ni wnaiff ych pryd a 'ch tegwch
iawn am greulonder
ymgynghorwch mewn amser./

[td. 77]
Och i 'r drudvawr vaen sydd heb arno rinwedd
och hevyd i 'r llysiewyn [~ llysieuyn] ni ddwc ffrwyth o 'r diwedd
och i 'r glendid a vytho anrhigaroc ac angall
ac och i 'r dyn a sathro dan i draed un arall
Chwchwi yn helaeth
mewn glendid naturiaeth
och och i 'ch glendyd
os dygwch i vowyd./
Delltwch nad ydwyf arnoch yn damuno
mewn dim anonestrwydd ych rhwymo chwi iddo
ond bod mor drugaroc ar ych gair a 'ch meddwl
ac achyb i einioes, val dyna y kwbwl
Trwy vod i hoedel
a 'i iechyd mewn gavel
mae yn dec ych anrhec
nis damunwn i ychwanec
[Cressyd]
[td. 78]
O vy ewyrth ir oeddwn i erioed yn koelio
pes biasswn trwy vy anap wedi digwyddo
i garu [Troelus, Achilles ne Ector]
na byessych i unic drugaroc o 'ch kyngor
Eythr vy rhegu
trwy gwbwl wrthnebu
ni wyddis i bwy koelir
yn y byd anghowir

[td. 89] [Pandar]
Edrych pwy yma sydd i 'th weled
nid y neb sydd achos o 'th hir gaethiwed
mae [Cressyd] mewn goval a thithe mewn meddylie
Duw na bech [~ baech] ych deuwedd i gwyno yn yr unlle
[Troelus]
O Pandar vy anwylyd
na saf rhyngof a [Chressyd]

[td. 90]
ar linie gad ym ddyfod
i wneuthur vy uvudod [~ ufudd-dod].
[Cressyd]
Da yw /r/ byd os anwylvab brenin Assia
aiff ar linie i verch ymddivad o [Droea]
[Troelus]
Yr anwylferch o [Gressyd] drugaroc
trugaredd, trugaredd i wylofys varchoc

[td. 91] [Cressyd]
A vo trigaroc unwaith
a gaiff drigaredd eilwaith
a drigarha wrth weiniaid
trigaredd Duw i 'w enaid.
[Troelus]
Y peth a 'ch trefnodd yma y 'm kysuro
yr un peth a genhiada [~ caniada] i chwi vy ngwrando
a deallt y pethau fy hir yn guddiedic
a rhoddi ym unwaith olwc karedic

[td. 92]
A bod honoch [~ ohonoch] vodlon
i wir wllys kalon
er gofal er advyd
i 'ch gwasanaeth vy nghymryd./
Val y 'm kyfion arglwyddes a 'm beunydd gyrchfa
trwy gwbwl o 'm synwyr a 'm uvudddod i 'r eitha
a chaffel kyfiownder y modd i rhyglydda
y da am y gore y drwc am y gwaetha
A gwneuthur o 'ch mowredd
im kimin trugaredd
a thrwy vy nymuniad
'y [~ fy] ngorchymyn yn wastad
A minne i vod i chwi yn ostyngedic ddidifar [~ ddiedifar]
i 'ch gwasneuthu beunydd fal kyfrinachwr dioddefgar
bob dydd bigilydd [~ bwygilydd] yn chwanegy
vy mhoen a 'm wllys yn ych gwasneuthu
Er vy mod yn gwybod
i dygaf hir nychdod

[td. 93]
gorchmynna 'y [~ fy] ngwasanaeth
i 'ch unig veistrolaeth
[Pandar]
Nid yw hynn [Cressyd] anghyfreithlon ddymuniad
na chwaith anrhesymol, i 'ch gwasneuthu trwy gariad
myn y dydd da o enedigaeth [Iubitar]
pe bawn dduw gwnawn hyn i chwi yn ydifar [~ edifar]
Chwchwi ych hun yn gweled
i drymder a 'i gaethiwed
ac er hynn yn gwrthnebu
i gymryd i 'ch gwasneuthu./
[Cressyd]
[td. 94]
O Pandar mae etto i 'm kof vynediad [Calcas]
mae etto y 'm kof pwy amddiffynnodd vy urddas
oni bai [Hector] a 'i rowiowgrwydd
merch a vyasswn i wedi tramgwydd
Gwsanaeth neb pei mynnwn
i wasneuthy vo a ddylwn
trwy gadw ohono vy urddas
kroesso wrth i gymdeithas./
Damuno ir wyf arnoch er mwyn y gwir arglwydd
ac er anrhydedd y gwirionedd a boneddigeiddrwydd
vod hynn yn tyfu heb ddichellgar veddylie
a 'ch wllys chwi i mi val y mae vy wllys i i chwithe

[td. 95]
Gwna gwbwl o 'm gallu
beunydd i 'ch llawenychu
trwy na bo arwydd
o ddim anonestrwydd./
Er hyn i gyd rwy /n/ ych rhybydd chwi
er ych bod yn anwylvab i vrenin [Priami]
na veddyliwch allu vod arna vi /n/ rhyolwr [~ rheolwr]
mewn kariad yn amgenach nac a berthyn i wasnaethwr
Hawdd yw gennym ddigio
o kellweirir ddim a 'n briwo
ych taledigaeth chwi a vydd
val i bytho ych rhyglydd./
O hynn allan vy nghowir varchog dedwydd
trowch heibio drymder kowleidiwch [~ cofleidiwch] lawenydd
mewn hynn o obaith ych hunan ymsikerhewch
i gwna vi 'y [~ fy] ngore ar droi hynn i ddivyrrwch
Am bob trymder a chystydd
e ddaw bellach lywenydd

[td. 96]
kroesso wrth wamal naturieth
mal gwasnaethwr y 'm gwsanaeth

I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section