Chwchwi rasysol gwmpeini, yr achos o 'm
dyfodiad yma:
ydyw y ddangos pryddder mab brenin Troya./
Y modd i dygodd hirnych kariad a thrymder
a
'r modd i trodd hynn i lywenydd, a
'i lywenydd i bryddder./
[td. 2]
Helpia
Tisiphone
, myfi sy /n/ treuthu hynn drosto:
buchedd hwnn a wnaeth i lawer glanddyn wylo./
Tydi uffernol dduwies arnat mae vyngoglyd:
tydi ffurie greulon yn pruddhau mewn penyd./
Helpia myfi sy /r/ owran dostyrys ychlysur:
i helpu kariad ddynion trwy gwyno i poen a
'i dolur./
Dyn mewn trymder a vydd ofnys a gwladaidd:
a chwedyl twrstan [~ trwstan] a synn olwc pryddaidd./
Myvi nid wy ond gwas i wasnaethwyr kariad:
kyru [~ caru] vy hun nis gallaf o herwydd y digwyddiad./
Etto wllysiwr da ydwy i gariadddyn o
'm myddylie [~ meddyliau]:
rhoed hwn am hynn ym ddiolch a bid y boen i minne./
Chwchwi gariadau sy /n/ ymdroch mewn llywenydd:
od oes un deigryn ynddoch o
'r trigaroc ddeunydd./
Meddyliwch am ych blinder kyn dechreuad kytundeb:
a meddyliwch am drymder rhai eraill a
'i gorthwyneb [~ gwrthwyneb]./
A byddwch mewn kowirdeb bob amser yn kyttynny:
ac na veddyliwch nas gall kariad beri i chwi sorry./
A gweddiwch dros y neb sydd [yn] y kyffelib gaethiwed:
ac i bu
Droelvs
am
Gressyd
y modd a
'r sut y kewch glowed./
[td. 3]
A gweddiwch drossof ar vedryd honof [~ ohonof] ddangos:
y kyfriw boen a
'r pruddder a dduc yn yr achos./
Gweddiwch dros y neb sy mewn anobaith yn kary:
pe gweddie bawb dros hwnn nid oes obaith y
'w helpu.
A gweddiwch dros y neb ar gam sy /n/ dwyn diclloni:
trwy waith tafodau melltigedic bid efo ne bid hi.
Gweddiwch ar Dduw er ei vawr ddaioni a
'i drigaredd:
roddi i bob kariadddyn orvod da o
'r diwedd./
Gweddiwch dros y sawl sydd allan o drugaredd kariad:
ar dynnu o Dduw hwnn allan o
'r byd anwastad./
Gweddiwch dros y neb sy /n/ byw yn i dyngnefedd [~ dangnefedd]:
ar gael o hwnn ras i barhau hyd y diwedd./
Y rhain sy /n/ byw bob un eu gilydd yn bodloni
y vath gariad a hwnn a chwenychwn inne i brofi.
Gweddiwch dros y neb sy was i wasnaethwyr kariad:
ac yn byw i hun mewn kariad perffaith yn wastad
Gwrandewch yn ddyfal vy anwyl gredigion:
bellach mi a draytha i chwi chwanec o
'r achossion.
Ac o
'r trymder a dduc Troelvs yn kary Kressida:
ac val i gwrthododd Kressyd // Troelvs yn y diwaetha./
[td. 4]
I lawer mae /n/ ysbys val y doeth y Groecwyr yn llidioc:
a mil o longeu rhwngthyn [~ rhyngddynt] yn llawn o wyr arfoc./
I ddinystrio Troya
a
'r Troyaid oedd i bwriad:
a
'r rhyfel a byrhadd [~ barhaodd] ddengmlynedd yn wastad./
Yr achos am ddwyn o Baris vrenhines Helena:
o drais oddi ar i gwr i dref Droya./
Yn y dref honn ir oedd arglwydd o enedigaeth:
hwn a elwid Kalkas a llawer o wybodaeth./
Yr henddyn yma a wybu wrth lawer o arwyddion:
i llosgid tref Droya ac i lleddid i dynion./
Hwnn a ffodd at y Groecwyr unferch o
'i ol adawodd:
honn a elwid Kressyd a Throelvs a
'i karodd./
Honn yn y diwaetha at y Groecwyr a gyrchwyd
Diomedes
a
'i ynillodd a
Throelus
a dwyllwyd./
Ac am i hanghowirdeb i
Droelvs
ffyddlon:
hi ddiweddodd i byd ymysc kardoteion./
Tri pheth sy /n/ hynn, y
'w ddeallt o
'r unwaith
kariad ffyddlon, kariad gwenheythys [~ gwenieithus], a chymdeithas
perffaith
Tri dyn sy /n/ arwyddo y tri gair hygar:
y rhain ydyw Troelws // Kressyd // a Phandar./
[td. 5]
Ac nis gellir medd arglwyddes y gwirionedd:
ddeallt neb yn eglur ond wrth i ddiwedd./
Yr atteb hwnn a roes Solon i
'r kywaethoc [~ cyfoethog] anoddefys:
nes gweled i ddiwedd nis gwydde pwy oedd hapys./
Kesglwch gida
'r wenynen y mel o
'r llysiewyn [~ llysieuyn]:
a gollyngwch trwy 'ch klistie [~ clustiau] y gwenwyn i
'r prykopyn [~ pryf copyn]./
Kalkas
yn dywedyd wrtho ei hvn./
Trwm a rhydrwm
yw /r/ meddwl:
sydd y
'm kalon mal swmbwl.
Nis gad i mi na huno
nac esmwythdra i beidio
Nid lles ym gan vawr oval:
vy anghenrhaid i
'm kynnal./
Pwy alle vod yn llawen:
a vai /n/ trino y vath vargen./
Heb wybod beth sydd oref [~ orau]:
ai mynd ai trigo gartref./
Vy ngwlad yw gwlad yr Assia:
vy nrhigfan sy /n/ rhef [~ nhref] Droya./
[td. 7]
Vy ngheraint vy nghymdeithion:
a
'm holl anwyl gredigyon./
yn hwy
a minne o
'r unty:
yn yr unfann yn gwladychy.
Myvi sy /n/ arglwydd arnyn:
mewn braint Duc ne vrenhyn [~ frenin].
I plaid trwy wir gyfiownder:
i parch, i penn, a
'i hyder./
Nis gwn vy hun mo 'm koweth [~ cyfoeth]:
vy nghodiad na
'm meistrolaeth.
Ac o herwydd hynn yma:
mae /r/ byd yn chwerthin arna./
Oni ddaw help mewn amser:
vo aeth hynn i gyd yn over.
Mae Groec i gyd yn arfoc:
wrth Droya mae /n/ llidioc.
Yr achos ef a wyddys:
i bawb mae /n/ gydnabyddys.
Ac ni chynwys y duwieu:
wneuthyr gormod kamweddeu./
[td. 8]
Er gwroled ydiw Hector:
Er gwched ydyw Troelvs:
a meibion brenin Priamvs./
Er bod dynion kynn wched:
yn rhef [~ nhref] Droya ac a aned./
Mae rhai o
'r Groegwyr mor wchion:
ac allef [~ allai] vod o ddynion./
A holl gryfdwr y rhyfel:
yn siwr yw /r/ gyfion avel.
Am hynn i mae
'y [~ fy]
nghydwybod:
yn kyhuddo i pechod.
Anwiredd yr anghowir:
a
'i gwagedd a veistrolir./
kyfiownder a veistrola./
Os aros a rhyfela:
o blaid kenedl Droya./
Ac amddiffyn i pechod
yn erbyn
'y [~ fy]
nghydwybod.
[td. 9]
Vo ddaw diwrnod o
'r diwedd:
y dygir yn llwyr y dialedd.
Pan vytho y tan mor greulon:
yn llosgi Troya dirion.
A gwaed gwyr yn aberoedd:
yn llenwi i holl ystrydoedd.
Ni cheir amser yno i vyvyr:
beth sydd ore i wneuthur.
Os gwrthod vy ngrhedinieth
vy ngwlad vy mraint vy
nghoweth [~ nghyfoeth]./
vy ngheraint vy nghymdeithion:
a myned at y gelynion./
Beth a ddoedir amdana:
ond ffalster
a
'i difetha
./
a somes i wlad i hunan.
o rhown goel arno ynteu./
Ac o
'r achos hynn yma:
ar Apollo mi hydera./
[td. 10]
A
'r pethau a orchymyn:
rho vy mryd ar i galyn./
SINON
y gwas ar hyn yn dyfod
ddwr gloyw y aberthy.
A dwc yma ffilede:
i gwmpassu yr allore./
Bid ffrankwinsens
yn barod:
kymysc y rhain a
'r wermod.
Gole di y tân ynddyn:
a does ymaith oddi wrthyn.
I mae yma yn eisie
ydavedd [~ edafedd] o dri lliwie./
Mae Apolo yn llawenychy:
yn y rhod rhifedy.
Apolo beth sydd ore:
ai mynd ai trigo gartre./
y lleuad y
'w gwrthwyneb./
A thrwyddod ti Apolo:
yr oedd Syrse yn gweithio./
[td. 11]
Apolo beth sydd ore:
ai mynd ai trigo gartre./
Trwyddod ti i kavodd hevyd:
Medea i holl gyfrwyddyd.
Trwyddod ti y kafodd Enon:
wybodaeth ac arwyddion.
A thrwyddot ti mae Kassandra:
yn proffwydo i Droya./
Apolo beth yw /r/ gore:
ai mynd ai trigo gartre./
Ti a droist yr avonydd:
yngorthwyneb [~ yng ngwrthwyneb] y gelltydd./
Ti a wnaethost y mor Apolo:
heb na llenwi na threio.
Apolo pwy un a ddinystrir
ae [~ ai] yr Troyaid ae [~ ai]
/r/ Groegwyr./
Apolo
yn atteb Kalkas./
[td. 12]
Y Troiaid a orchvygir:
a thref Droya a ynillir.
Honn yn llwyr a losgir:
trwy golleidion [~ golledion] i
'r Groegwyr.
Priaf yn galw i
'r unlle Hector
Paris Eneas Antenor
Helenws a Throelys i ddoedyd
i
meddylie pwy un ore ai rhoddi
Helen adref ai peidio./
[td. 13]
Priaf./
Yn ych kyngor a
'ch gweithred:
mae vy holl ymddiried.
I mae trugain [~ trigain] brenhyn [~ brenin]:
yn barod yn yn herbyn.
Bob awr yn disgwyl llosgi:
yn holl wledydd a
'n trefi.
nyni, yn plant, a
'n gwragedd./
o Helen chwchwi Parys./
Ych kyngor pwy un ore:
ai rhoddi Helen adre.
[td. 14]
Ac ymadel a thristwch:
a byw mewn diovalwch./
Ai trwy drowster i dala:
a govyn byth i gwaetha./
A byw val y gellir:
er bygwthion y Groegwyr./
beth a vynnwch chwi wneuthyd.
Yn gyntaf doedwch Hector:
beth yw ych meddwl a
'ch kyngor./
Hector./
Yr
wyf vy anrhydeddus vrenyn [~ frenin]:
yn ufudd i
'ch gorchymyn.
Nid yw resswm i
'r [Groegwyr]
trwy i dichell a
'i synwyr.
[td. 15]
A
'i geirie bugyl [~ bygyl]
duon:
gael o honyn a vynon./
Nid ydyn ond dieithred
mae /n/ ddigon hawdd i gwared.
Vy meddwl i a
'm amkan:
nis kân ond a enillan./
Syr Paris dewisswch:
ai rhyfel ai heddwch.
Paris./
Mav
anwyl vrenhin
kyfion:
vy mrodyr a
'm kymdeithion.
Trwy ych kyngor ac
wyllys:
mi a wneuthym vy newys.
A hynny a ventimia [~ faentumia]:
er y Groegwyr a
'i gwaytha.
[td. 16]
Mae /n/ esmwyth yddyn siarad:
yn i gwchder a
'i dillad.
Aiff tros gof y geiriau mowrion:
kynn gwisgo i harfau gwnion [~ gwynion]./
I gwchder oll a
'i krefydd:
sydd ar i tafod lyferydd [~ leferydd].
Eneas yn rhodd doedwch:
ych meddwl am yr heddwch./
Eneas./
Chwchwi vreiniol gwmpeini:
nid rhaid i ni mo
'r ofni.
Er dowad brenhinoedd:
hyd yma dros voroedd.
I ddissyf [~ ddeisyf] kael Helen:
trwy heddwch y
'w pherchen.
[td. 17]
Os methy hynn yma:
nid ymroi i ryfela.
A myned yn ddibrys:
er mwyn gwr eddigeyddys [~ eiddigeddus].
Damuniad i phriod:
vu /r/ holl gyfarfod.
Vy meddwl i a
'm kyngor:
chwi a wyddoch Antenor.
| Atteb Antenor sydd yn kanlyn ar
ol yn y :37: dolen kanys drwy ryw ddrwc ddamwain y gaded allan |
[td. 36]
Iawn vrddassol
ddarlleydd ef a ddamweiniodd
i mi trwy ryw
anweledig anysgevlvstra
adel allan atteb Antenor
[td. 37]
am y gorchest a ofynnodd Priaf
y
'w gyngor am roi Helen adref: Yr
hynn a ddyly fod yn ysgrifenedig
o
'r blaen yn y /17/ dolen yn ol atteb
Eneas ag o flaen atteb Helenws./
Antenor./
vy ngrasol vrenin union:
a
'm holl reiol gymdeithion./
Achos mwyaf y dieithred:
ydyw dowad i weled.
Y gwchder sydd ynn trefi:
yn gwledydd a
'n kwmpeini.
Ac yn esgys hynn yma:
ymofyn am Helena./
[td. 38]
O gellid yn hawdd i chaffel:
trwy yn bygwth a rhyfel.
Gorchafieth a vydde:
hyn yma ganthyn hwythe.
Helenws a vedr ddoedyd:
ychwanec o gelfyddyd./
Tro yn d' ol at atteb Helenws yn y
/17/ ddolen./
[td. 17]
Helenws./
Mau natvriol dad a
'm brenhyn [~ brenin]:
mae hynn i gyd yn erbyn.
Y petheu a ddylem ni i wneythyd:
er mwyn achub yn bowyd.
A dirwystro yn dynion:
a byw y modd y buom./
[td. 18]
A rhoddi Helen adre:
Er kael honom [~ ohonom] yn heddwch:
yn esmwythdra a
'n diofalwch./
A gollwng y dieithred:
rhyd yr un ffordd i vyned./
Meddyliwch chwi o
'ch synnwyr:
pes gorchvygem ni y [Groegwyr]
Nid oes dim y
'w gaffael:
ond Helen yn yn gafael
./
Ac nis gellid mo hynny:
heb golli rhai o bobty./
Dyna ynnill gorchestol:
kael arglwyddes annaturiol.
A werthe i gwr priod:
er mwyn dilyn pechod.
A gelyne ddieithred:
a gwrthod y vann i ganed./
I meddwl yw overedd:
i bryd sy i gyd ar vaswedd./
[td. 19]
Nis gall na ddaw gwrthwyneb:
o hir ddilyn godineb.
Vy meddwl a
'm kyngor inne:
yw rhoddi i bawb a ddyle.
Troelws vy anwyl vrawd:
na
'mddiffynnwch [~ amddiffynnwch] mo bechawd.
Troelws./
vy ngrasol dad vy mrenin uchel:
vy nghydgymdeithion rhyfel.
Hebryngwch
'y [~ fy] mrawd Helenws:
at i gydymaith Menelaws.
Mae fo yn siarad yn debic:
a
'i ddull val gwr bonheddic.
A vydde wedi i elio
rhyd kledre i ddwy ddwylo./
[td. 20]
Mae /r/ eli o gymhendod:
yn sowrio ar i dafod.
er dal mewn hir gaethiwed.
'Y [~ fy] modryb Hesione:
sydd gystal merch a hithe.
Moesswch wneuthur yn meddwl:
na choeliwn iddo /n/ gwbwl.
Sy /n/ dewinio y gwaetha:
dros oes a chenedyl Droya.
Glynwn yn yn gafel
kroesso wrth ffortun rhyfel./
Priaf./
V'
ymddiffynwyr o
'm blinder
trwy ych synwyr a
'ch gwchder
[td. 21]
Y
'm henaint llywenydd:
trwy ych moliant tragywydd.
vy nghydsain kowiriaid:
a
'm hyderys ymddiriaid [~ ymddiried].
Ych geiriau kytson:
a ddeffrodd vy nghalon./
Trwy adrodd vy modlondeb
i ufuddhau i
'ch kytundeb./
A chymerwch veddylie
Yfo yn siwr a aned:
Val nad ydyw kynn gryfed:
yn i veddwl a
'i weithred.
Ac ydyw Hector:
Troelws ac Antenor./
Am y kam a wnaethon:
Helen a gadwa:
o vewn kaereu Troya./
[td. 22]
a chymred i dewis:
ai Menelaws ai Paris./
I vn verch
a adawodd Kalkas o 'i ol
pann ffodd at y Groegieid
honn a elwid Kressyd yn y
kyfamser hwnnw o rinweddav
a glendid nid oedd mo 'i chymhares./
kyfraith oedd ymysg y Troeaid pwy
bynnac a fydde dwyllodrys y 'w wlad
nev y 'w frenin: i 'r nessaf o waed iddo
i farnv i varw trwy varfolaeth
grevlonaf a vedrid ei dychymic./
wrth yr hynn yr oedd Kressyd yn kolli
i heinioes./
Ac val yr oedd Priamws yn barod
[td. 23]
i godi o 'r senedd a gadwes ynghylch
rhoddi Helen adref dyma Sinon
gwas kalkas yn kyhvddo mynediad i
veistr at y Groegiaid ac yn kyhvddo
Kressyd er mwyn kaffael hono [~ ohono] ef ddiaink
o hylbyl [~ helbul]./
Sinon./
O rhyglydd bodd i
'ch gras:
ve ffodd yr arglwydd Kalkas.
Yn ddisymwth neithwyr:
i gymdeithas y Groegwyr.
Vy arglwyddi rhaid gwilied:
rhac ych twyllo trwy ymddiried.
i Galkas ydiw Kressyd./
[td. 24]
Nid yw yn kymryd atti:
na
'i cholled na
'i ddrigioni [~ ddrygioni].
Kyffelybrwydd i gwydde:
oddi wrth i vynediad ynte./
Priaf./
kyrch unferch y traetyr
.
I gael kosbedigaeth:
am gely traeturiaeth./
Priaf yn troi at i feibion./
Oni edrychir vy meibion
i
'r pethau hynn yn greulon
[td. 25]
A
'r tân parod a enynnodd
mewn amser i ddiffodd
Ond ef vo geir gweled
ormod traeturied
Rhaid gwneuthud yn helaeth
am hynn gosbydigaeth [~ gosbedigaeth]
Ond ef rwy yn ofni
i bydd gormod drigioni [~ drygioni]
A Helenws a welir
yn doedyd y kaswir./
Kressyd yn dyfod gida Synon ag
yn syrthio ar i gliniev
gyrrasoch im kyrchy.
[td. 26]
Mewn digofaint a digllondeb:
rwy /n/ ofni gwrthwyneb.
Priaf./
Ai tydi yw unferch Kalkas:
yr hen siwrl anghyweithas.
A werthe i holl vraint:
y [~ yn] niwedd i henaint.
Ir bod yn dwyllodrus:
A mynd mewn kaethiwed:
ymysc dieithred.
sy /n/ kyhuddo dy ffalsder.
Ac euoc wyt ti:
o
'i gwbwl ddrigioni [~ ddrygioni]./
[td. 27]
Am i vowrddrwc a
'i draha:
i genedyl a ddistrowia.
Arnad ti yn gynta:
Kressyd i dechreua.
Dy waed dy einioes:
dy benyd dy vowrloes.
A
'th varvolaeth greulon:
a ysmwytha [~ esmwytha] vy nghalon.
Beth a ddoedwch vy arglwyddi:
pa varvolaeth a rown arni./
Paris./
am i ffalster a
'i diffeithwch,
A hynny y
'w marfolaeth:
kyflownwch y gyfraeth [~ gyfraith]./
[td. 28]
Eneas./
i bydew dyfndu.
Rhy lân yw y llosgi:
am y vath ddrygioni.
Antenor./
Hi a ymborth am unpryd:
y llewod newnllyd [~ newynllyd].
[td. 29]
Helenws./
i ddwyn trymder a thristwch.
Hyd einioes galary:
o vewn i charchardy.
Hector./
Hebryngwch i
'r Groegwyr:
ar ol yr hen drayttyr [~ draetur].
Aed honn lle i mynned:
ni all hi vawr o
'r niwed.
[td. 30]
Troelws./
I
'r gwirion na wnewch ddialedd:
dros yr euoc a
'i gamwedd.
Ac na vyddwch ry greulon:
vo ddichyn honn vod yn wirion.
Kressyd./
Mau arglwyddi trugaroc:
na vyddwch chwi ry chwanoc.
I golli gwaed gwirionddall:
dros ddrwc a beie arall.
O gwnaeth Kalkas i chwi benyd
difalais ydoedd Kressyd./
[td. 31]
Yvo [~ efo] mewn euoc atteb:
a minne mewn gwiriondeb.
Y tad yn gwneuthud kamwedd:
a
'r verch yn dwyn y dialedd.
Dyna gyfraith rhy atkas:
ymhell yn erbyn ych urddas.
Pes gwnaethe vi /n/ gydnabyddys:
a
'i ddichell vrad twyllodrys./
Nis biasswn i mewn gafel:
yn aros ymysc rhyfel.
Na rhyvelwyr yn tramwy:
kyn vynyched lle i bythwy.
A minne yn unic vorwyn:
ni
ddichin
[~ ddichyn] merch ond achwyn.
Ef a wydde (vy arglwyddi):
nas gallef [~ gallai] ymddiried i mi.
A hynny a barodd iddo:
mor ddisymwth ymado.
Gwae vi na bydde v' einioes:
er dioddef nych a mowrloes
[td. 32]
Yn iawn abl i ddiwgio [~ ddiwygio]:
yr uthyr weithred honno.
Ac na liwid (er aros)
i un o
'm kenedyl mo
'r achos.
Vy arglwyddi ni ddymynwn:
i chwi yr owran m'om [~ mo 'm] pardwn./
Troelws
yn dywedyd yn issel ynghlysd i vrawd Hector./
Hector vy anwyl vrawd:
ymddiffynnwr gwiriondlawd:
Ervyn yr wy i
'ch mowredd:
ymddiffin gwirionedd.
Ymddiffynnwch i Gressyd:
[td. 33]
Hector./
A thrugarhay wrth achwyn:
y wirionaidd vorwyn.
Pes biasse yn gydnabyddys:
a
'i vynediad twyllodrys.
Dyledys naturiol:
gadw yn gyfrinachol.
Y pethau drwy vowrloes:
a golle
y
'w thad i einioes.
Os byddir mor greylon:
beth a ddowaid y gelynion.
Lle bo /r/ vath greulondeb:
nas gall vod gwroldeb.
[td. 34]
Troelws./
ag ar hynn mae yn syrthio mewn kariad./
o bu honn un drygioni.
Nac ermoed yn arfer:
a thwyll ne ffalster.
Ir ydym yn adolwc i chwi:
rhoi maddeuaint iddi./
Ac o
'r awr honn allan:
yr wy vi Troelws vy hunan.
Yn kaethiwo vy rhydid [~ rhyddid]
dros gowirdeb Kressyd./
Troelws yn troi at Sinon hwn a
'i kyhuddasse
hi: ag yn doedyd wrtho yn issel./
Ty di vydredd kelwyddoc:
i bob achwyn yn chwannoc./
[td. 35]
Dy rodresys ddyfeisie:
ydyw arwain kelwydde.
A bwrw beie ar wirion:
trwy valeysys [~ faleisus] ddychmygion.
Ac esgysodi kamwedd:
ac anafys vuchedd./
Er mwyn ysgwyd dy gynffon:
ar bob math ar ddynion.
Oni bai vod yn bresenol:
vy ngwir dad naturiol.
Mynn yr holl Dduwie:
rhown trwyddot vy nghledde./
Priaf./
Ych damyniant
nis gwrthneba:
[td. 36]
Ewch Kressyd yn wirion:
a diolchwch y
'm meibion.
Awn i mewn i vyvyr:
beth sydd chwanec y
'w wneythyr./
Hector
wrth Kressyd wedi i
'r llaill ymado.
I
'ch kartref hwnt kerddwch:
trymder mawr na ddygwch./
Kymrwch ych rhydyd [~ rhyddid]:
Ac am gimin ac a alla:
rhowch ych hyder arna./