Adran o’r blaen
Previous section


[Cyfrol ii. 265-84, Pregeth yn yr hon y manegir y dylyid ministro gweddi gyhoeddus a'r Sacramentau mewn iaith a ddealler gan y gwrandawyr.]



[td. 265]


¶ Pregeth yn yr hon y manegir y dylyid
ministro gweddi gyhoeddus a 'r Sacramentau
mewn iaith a ddealler gan
y gwrandawyr.


YMhlith aml arferon pobl Dduw
Gristionogion anwyl, nid oes vn
anghenrheitiach i bob stat ac i
bob amser nâ gweddi gyhoeddus,
a dyledus arfer y Sacramentau:
o herwydd yn y cyntaf yr ydym
yn ceisio oddiar law Duw yr
holl bethau y rhai heb hyn, ni allem gael mo honynt.

[td. 266]
Ac yn ail y mae fe yn ein breicheidio ni, ac
yn ei gynnig ei hun i ninnau i 'w fraicheidio.

Am hynny a ni yn gwybod fod y ddwy arfer
hynny mor anghenrhaid ini, na thybygwn fod yn
anweddus ini ystyried, yn gyntaf pa beth yw
gweddi a pha beth yw sacrament: ac yno pa sawl
rhyw a'r weddi sydd, a pha sawl Sacrament, ac
felly y deallwn ni yn well pa fodd y iawn arferwn
ni hwynt. Er gwybod pa beth ydynt mae
S. Awstin yn y llyfr am yr Yspryd a 'r enaid yn
dywedyd fal hyn am weddi. Gweddi, medd ef, yw
dwyfoldeb y meddwl: hynny yw ymchwel at
Dduw trwy ddymunad duwiol gostyngedig: yr
hon ddymuniad yw diogel ac ewyllysgar a melus
ogwyddiad y meddwl ei hun at Dduw. Ac yn ei
ail lyfr yn erbyn gwrthwynebwyr y gyfraith a 'r
Prophwydi y mae fe 'n galw y Sacramentau yn
arwyddion sanctaidd. Ac wrth scrifennu at Bonifacius
am fedydd plant bychain y dywaid: oni
bai fod yn y Sacramentau Rhyw gyffelybaeth i 'r
pethau y maent yn Sacramentau honynt ni byddent
Sacramentau mwy. Ac o 'r gyffelybaeth
honno maent o 'r rhan fwyaf yn derbyn enwau y
pethau eu hunain y maent yn eu harwyddoccau.
Wrth y gairiau hyn o S. Awstyn mae 'n eglur ei
fod ef yn fodlon i ddeffiniad neu ddescribiad [~ ddisgrifiad ] arferol
Sacrament, hynny yw, ei fod ef yn arwydd
weledig o rad anweledig, hynny yw yr hon sydd
yn gosod allan i 'r llygaid a 'r synwyrau eraill
oddi allan orchwyl trugaredd rad Duw, ac sydd
megis yn selio yn ein calonnau ni addewidion
Duw.

Ac felly yr ydoedd yr enwaediad yn Sacrament,
yr hwn a bregethodd i 'r synhwyrau oddi allan

[td. 267]
enwaediad y galon oddifewn, ac a seloedd ac a ddiogelhaodd
 ynghalonnau [~ yng nghalonnau ] 'r enwaededig, addewidion
Duw ynghylch yr hâd a addawsed ac a edryched
amdano.

Yn awr edrychwn pa sawl rhyw a'r weddi a
pha sawl Sacrament y sydd. Yr ydym yn darllen
yn yr Scruthur am dair rhyw o weddi, o 'r rhai y
mae dwy 'n neulltuol [~ neilltuol ] ac vn yn gyhoeddus.

Y gyntaf yw 'r hon y mae Pawl yn son amdeni
yn ei Epistl at Timothi gan ddywedyd: Mi a fynnwn
i wyr weddio ymhob man gan dderchafu
dwylo purion heb ddigter nag ymryson. A hon
yw gwir a dyfal gyfodiad y meddwl at Dduw heb
draethu blinder a dymunad y calonnau trwy laferudd
yn gyhoeddus. O 'r weddi hon y mae 'r siampl
yn llyfr Samuel am Haanah mam Samuel,
pan weddioedd [~ weddiodd ] hi yn y deml yn hrymder [~ nhrymder ] ei
chalon, gan ddymuno cael ei gwneuthur yn ffrwythlon.
Medd y text yr ydodd [~ ydoedd ] hi yn gweddio yndi [~ ynddi ]
ei hun a 'i llaferudd ni chlywyd. Yn y dull hyn y
dylye 'r holl Gristionogion weddio, nid vnwaith
yn yr wythnos, neu vnwaith yn y dydd, ond fal y
dywaid Pawl wrth scrifennu at y Thessaloniaid
heb orphwys. Ac fal y mae S. Iaco 'n scrifennu,
Llawer y ddychon gweddi 'r cyfion os ffrwythlon
y fydd hi.

Yr ail rhyw o weddi y sonnir amdeni yn S.
Mathew, lle y dywedir fal hyn, Pan weddiech
dos i 'th stafell a chwedy cau dy ddrws gweddia ar
dy Dad yr hwn sydd yn y dirgel, a 'th Dad yr hwn
a wel yn y dirgel a 'th obrwya di yn yr amlwg: O 'r
rhyw hon o weddi mae llawer siampl yn yr Scrythyrau
sanctaidd: ond digon i ni adrodd vn yr hon
sydd scrifennedig yn Actau 'r Apostolion. Mae

[td. 268]
Cornelius gwr sanctaidd canwriad o 'r Italaidd
fyddin, yn dywedyd wrth yr Apostol Peter, ag
yntef yn ei dŷ yn gweddio ynghylch y nawfed awr
ymddangos iddo fe vn mewn dilliad [~ dillad ] gwynnion,
&c. Fe weddiodd y gwr hwnnw a'r Dduw yn y dirgel,
ac a obrwywyd yn yr amlwg. Dymma 'r
ddwy rhyw weddiau dirgel. Y naill yn y meddwl,
hynny yw dwyfol dderchafiad y meddwl at
Dduw, a 'r llall yn y llaferydd, hynny yw dirgel
adrodd blinderau a dymyniadau 'r galon mewn
geiriau, ond etto mewn stafell ddirgel, neu rhyw
le neulltuol [~ neilltuol ].

Yr ail rhyw o weddi sydd gyffredinol neu gyhoeddus.
Am y weddi hon y son ein Iachawdwr
Christ, pan mae fe 'n dywedyd. Os cytuna dau o
hanoch [~ ohonoch ] ar y ddayar am ddim oll beth bynnac a
ddeisyfant rhoddir iddynt gan fy nhad yr hwn sydd
yn y nefoedd. Canis [~ Canys ] ymhale [~ ym mha le ] bynnac yr ymgynullo
dau neu dri yn fy enw i, yno yr ydwyf yn eu
mysc hwynt. Er i Dduw addo 'n gwrando ni pan
weddion yn y dirgel trwy wneuthur hynny yn
ffyddlon ac yn dduwiol: O herwydd mae fe 'n dywedyd
galw arnafi yn-nydd [~ yn nydd ] trallod yno mi a 'th
wrandawaf.

Ac medd S. Iaco ac Elias yn wr marwol fe
weddiodd ac ni bu law dros dair blynedd a chwemis,
ac fe a weddiodd drachefn ac fe rhoddes y nef
ei glaw. Etto mae 'n eglur wrth historiau y beibl
fod gweddi gyffredinol yn rymmusach ger bron
Duw, ac am hynny y dylyed galaru yn fawr na
wnair rhagor gyfrif honi [~ ohoni ] hi, yn ein mysc ni y rhai
ydym yn addef ein bod yn vn corph ynghrist [~ yng Nghrist ].

Pan fygythwyd dinistr dinas Ninifi o fewn
deigain [~ deugain ] diwarnod. Fe gydsylltodd y brenin a 'i

[td. 269]
bobl eu hunain mewn gweddi ac ympryd, ac hwy
a waredwyd. Fe orchymmynnodd Duw yn y
Prophwyd Ioel gyhoeddi ympryd, ac i 'r bobl hen
a iauainc, gwyr a gwragedd, ymgynull ynghyd,
a dywedyd ac vn llaferydd: arbed dŷ bobl Arglwydd
ac na ddyro dy etifeddiaeth i warth: a phan oeddid
er fedr difa 'r Iddewon oll mewn vn diwarnod
trwy genfigen Haanan, wrth orchymmyn
Hester hwy a ymprydiasant ac a weddiasant, ac
hwy a waredwyd: pan warchaodd Holophernes
Bethulia, wrth gyngor Iudith hwy ymprydiasant
ac a weddiasant ac hwy a rhyddhawd [~ rhyddhawyd ]. Pan
ydodd [~ ydoedd ] yr Apostol Peter yngharchar [~ yng ngharchar ] fe ymgysylltodd
y gynulleidfa ynghyd mewn gweddi ac fe waredwyd
Peter mewn modd rhyfedd.

Wrth yr historiau hynny mae 'n eglur fod gweddi
gyffredinol gyhoeddus yn rymmus iawn i
fwynhau trugaredd, ac ymwared oddiar law ein
Tad nefol. Am hynny fy mrodyr yr atolgyaf i
chwi er mwyn tirion drugaredd Duw, na fyddwn
mwy yn escaelus yn hyn o beth: ond megis
pobl a fyddant ewyllysgar i dderbyn ar law Duw
y fath bethau, y rhai y mae gweddi gyffredinol yr
Eglwys yn eu ceisio, ymgyssylltwn ynghyd yn y
lle a osodwyd i weddi gyhoeddus, ac ag vn galon
ceisiwn gan ein Tad nefol yr holl bethau a wyr ef
eu bod yn anghenrhaid ini.

Nid ydywyf yn gwahardd gweddiau dirgel i
chwi, ond yr ydwyf yn eich annog i wneuthur
cymmaint gyfrif a gweddi gyhoeddus ac y mae
hi 'n haeddu. Ac ymlaen pob peth byddwch siccr
yn y tair rhyw hon o weddi fod eich meddyliau
gwedy eu cyfodi yn ddwyfol at Dduw, ac onid ef
ni bydd eich gweddiau onid diffrwyth, ac fe wirhair

[td. 270]
ynoch chwi yr ymmadrodd hwn: mae 'r bobl
hyn yn nesau attaf a 'u geneuau a 'u calonnau ymhell
oddi wrthyf. Hed [~ Hyd ] hyn am y tair rhyw gweddi
am y rhai y darllenwn yn yr Scruthur lân.

Yn awr a 'r vn fath neu lai o airiau y cewch
glywed pa sawl Sacrament sydd gwedy i ein Iachawdwr
Christ eu gosod, ac a ddylent barhau a 'u
derbyn gan bob Christion mewn amser a threfn
dyledus, ac am yr achos y mynnai ein Iachawdwr
Christ ini eu derbyn hwy. Ac am eu rhifedi hwy
ped ystyrid hwy yn ol gwir arwyddocad Sacrament:
sef am yr arywddion gweledig y rhai a orchymmynnir
yn oleu yn y Testament newydd a 'r
rhai y cydsylltir addewid maddauant o 'n pechodau
yn rhad a 'n sancteiddrwydd a 'n cyssylltiad ni
ynghrist [~ yng Nghrist ]: nid oes onid dau, bedydd a swpper yr Arglwydd.
O herwydd er bod i ollyngdod addewid
maddeuant pechodau etto nid oes wrth airiau
eglur y Testament newydd, vn addewid gwedy ei
chlymmu a 'i rhwymo a'r arwydd weledig yr hon
yw gosodiad dwylaw.

O herwydd nid ydys yn y Testament newydd
yn gorchymmyn yn oleu arfer gosod dwylo mewn
gollyngdod fal yr ydys yn gorchymmyn yr arwyddion
gweledig mewn bedydd a swpper yr Arglwydd:
ac am hynny nid yw gollyngdod y fath sacrament
ac yw bedydd a 'r cymmyn. Ac er bod i
wneuthurdeb offeiriad ei harwydd weledig a 'i
haddewid, etto mae erni diffig addewid maddauant
o bechodau: fal a'r yr holl Sacramentau eraill
heblaw y rhai hyn, am hynny nid ydyw na
hon nag vn Sacrament arall y fath Sacrament
ac ydyw y bedydd a 'r cymmyn. Ond mewn cymmeriad
cyffredinol fe ellir rhoi enw Sacrament i

[td. 271]
bob peth trwy 'r hwn yr arwyddoccair vn peth
sanctaidd. Yn yr hwn ystyr y rhoes yr hên dadau
yr enw hwn nid yn vnic i 'r pump eraill, y rhai yn
hwyr o amser a gymmerid yn lle Sacramentau i
wneuthur saith, ond hefyd i lawer o Ceremoniau [~ seremonïau ]
eraill megis i olew, golchiad traed, a 'r fath bethau,
heb feddwl trwy hynny eu cyfrif hwy yn
Sacramentau, yn yr ystyr ac y mae y ddau Sacrament
a ddywedasom ni o 'r blaen.

Ac am hynny mae S. Awstin gan ystyried gwir
ystyr ac iniawn ddeall y gair Sacrament, wrth
scrifennu at Ianuarius, ac yn ei drydydd llyfr hefyd
am yr athrawiaeth Gristionogawl, yn dywedyd
fod Sacramentau y Christianogion yn ambell
mewn rhifedi, ac yn odidawg mewn ystyr, ac
yn y ddau le hynny mae fe 'n eglur yn sôn am ddau,
Bedydd, a Swpper yr Arglwydd.

Ac er bod yn cynnal trwy drefn eglwys Loegr,
heblaw y ddau hyn, ryw arferon a Ceremoniau [~ seremonïau ]
ynghylch gwneuthur offeiriaid, priodas, a bedydd
escob, gan holi plant am eu gwybodaeth mewn
pyngciau ffydd, a chan gyssylltu â hynny weddiau
'r Eglwys drostynt, ac hefyd am ymweliad y
clâf: etto ni ddylyai neb gymmeryd y rhai hyn yn
lle Sacramentau, yn yr ystyr a 'r deall y cymmerir
Bedydd a Swpper yr Arglwydd, ond naill a'i
yn alwedigaethau duwiol o fywyd, anghenrhaid
yn Eglwys Grist, ac am hynny yn deilwng i 'w
gosod allan trwy weithred gyhoeddus gyffredinol
gan wenidawg yr Eglwys: ynteu a fernir eu bod
yn gyfryw ordeiniaethau, ac a allant gynnorthwyo
i athrawiaethu, diddanu, ac adailad Eglwys
Ghrist.

Yn awr a ni gwedy deall pa beth yw gweddi, a

[td. 272]
pha beth yw Sacrament, a pha sawl rhyw o weddi
y sydd, a pha sawl Sacrament hefyd a osododd
ein Iachawdwr Christ: edrychwn bellach
a oddef yr Scruthyrau a siampl y brif-Eglwys
gynt, weddi llaferydd (hynny yw, pan yw 'r genau
yn traethu rhyw ddeisyfiadau â 'r llaferydd)
neu finistro rhyw Sacramentau neu vn rhyw
weithred, neu Cæremoni [~ seremoni ] gyffredinol gyhoeddus
arall, yn perthyn at fudd ac adailadaeth y gynulleidfa
dlawd, mewn tafod anghydnabyddus, yr
hwn ni ddeall na 'r gwenhidawg na 'r bobl: neu a
ddylai vn dŷn arfer yn neilltuol weddi laferydd
mewn iaith nis deall.

I 'r cwestiwn hwn rhaid ini atteb, nas dylyai.
Ac yn gyntaf am weddi gyffredinol a ministrad y
sacramentau, er y perswadai rheswn [~ rheswm ] ni yn hawdd
(pe cai ein rheoli ni) y dlyem ni weddio 'n gyhoeddus,
a ministro y Sacramentau mewn iaith a
ddealler, o herwydd mai gweddio 'n gyffredinawl,
yw bod i gynulleidfa bobl ofyn vn peth, ag vn llaferydd
a chyfundeb meddwl, a ministro Sacramentau
yw trwy 'r gair a 'r arwydd oddi allan,
pregethu i 'r derbynwyr anweledig râs Duw
oddifewn: ac hefyd am osod yr arferon hyn, a 'u
bod fyth yn parhau, er mwyn dwyn ar gof i 'r
gynulleidfa o amser i amser, eu hundeb ynghrist [~ yng Nghrist ],
ac y dlyent fal aelodau o vn corph mewn gweddi
a phob modd arall geisio a chwenychu bob vn
fudd ei gilydd, ac nid eu budd eu hunain heb ennill
eraill. Etto nid rhaid ini redeg at reswn [~ reswm ] i
brwfo y peth hyn, o herwydd bod gennym airiau
eglur goleu 'r Scruthur, ac hefyd gyfundeb
yr scrifennyddion hynaf a dyscediccaf, yn canmol
gweddiau y gynulleidfa yn yr iaith a dealler. Yn

[td. 273]
gyntaf mae S. Pawl at y Corinthiaid yn erchi
gwneuthur pob peth er adailadaeth: yr hyn ni
ddichon bod oni bydd y gweddiau a ministrad y
Sacramentau mewn tafod cydnabyddus i 'r
bobl. O herwydd pan draetho 'r offeiriad weddi,
neu finistro y Sacramentau mewn gairiau na
ddealler gan y rhai sydd bresennol, ni ellir eu hadailadu
hwy.

O herwydd megis os yr vtcorn yn y maes, a
rydd lais anhynod, ni all neb trwy hynny ymbaratoi
i ryfel. Ac megis pan fytho offeryn cerdd
yn gwneuthur sain ddiwahanol, ni wyr neb pa
beth a genir. Felly pan fytho gweddi neu finistrad
y Sacramentau mewn iaith anghydnabyddus
i 'r gwrandawyr, pwy ohanynt [~ ohonynt ] a gyffroir i
gyfodi ei feddwl at Dduw i geisio gydâ 'r gwenidawg
gan Dduw y pethau y mae 'r gwenidawg yn
ei airiau a 'i weddi yn eu gofyn? Neu pwy wrth
finistro 'r Sacramentau a ddeall pa rad anweledig
a ddylyai y gwrandawyr ddymuno cael ei weithio
yn y dyn oddufewn [~ oddi fewn ]? yn wir neb. O herwydd
fal y dywaid S. Pawl mae 'r hwn a ddywedo
mewn tafod anghydnabyddus yn estron i 'r
gwrandawyr, yr hyn sydd anweddus iawn mewn
cynulleidfa Gristionogaidd.

O herwydd nid ydym estroniaid i 'w gilydd, ond
cyd-ddinaswyr â 'r saint, ac o dylwydd Duw, ac
aelodau yr vn corph. Ac am hynny yr hyd y bytho
'r gwenidog yn adrodd y weddi a wnair yn
ein henwau ni i gyd, rhaid yw ini roddi clust i 'r
geiriau y mae fe 'n eu hadrodd, ac yn ein calonnau
ofyn ar law Dduw, y pethau y mae fe mewn geiriau
yn eu gofyn: ac i arwyddoccau ein bod, yn
gwneuthur felly, yr ydym yn dywedyd Amen, ar

[td. 274]
ddiwedd y weddi, yr hon y mae fe 'n ei gwneuthur
yn ein henwau ni oll. A hyn ni allwn ni ei wneuthur
er adailadaeth, oni ddeallir yr hyn a ddywedir.


Am hynny anghenrhaid yw gweddio yn gyhoedd
yn yr iaith a ddeallo gwrandawyr. A phe
buasai gweddus goddef erioed iaith ddieithr yn y
gynulleidfa, fe allasai hynny fod yn amser Pawl
a 'r Apostolion eraill, pan gynyscaeddid hwy â
mawr wyrthiau ac aml iaithoedd: o herwydd fe
allasai hynny annog rhai i dderbyn yr efengil, pan
glywsent Hebrewyr o anedigaeth, er eu bod yn
annyscedig, yn dywedyd Groeg, a lladin, ac iaithoedd
eraill: ond ni thybygodd Pawl y dylaid
goddef hyn yr amser hynny: ac a arferwn ni hynny
yn awr, pan nad oes neb yn dyfod i iaithoedd,
heb astudrwydd dyfal? Na atto Duw. O herwydd
trwy hynny y dygem holl arferon ein heglwys,
i wâg ofergoel, ac y gwnaem hwy oll yn
ddiffrwyth.

Mae Luc yn scrifennu i Petr ac Ioan gwedy
eu rhyddhau oddiwrth dywysogion ac archoffeiriaid
Ierusalem, ddyfod at eu cymydeithion,
a dywedyd wrthynt yr holl bethau a ddywedase yr
offeiriaid a 'r henuriaid wrthynt: yr hyn pan
glywsont, hwy a godasant eu llaferydd mewn cytundeb
at Dduw gan ddywedyd, O Arglwydd,
tydi yw y Duw yr hwn a wnaethost nef a dayar,
mor, ac oll sydd yndynt [~ ynddynt ], &c.

Ni allasent wneuthur hyn pe gweddiasent
mewn iaith ddieithr, yr hon ni ddeallasent: ac yn
ddiddau, ni ddywedasant hwy oll â llafarau gwahanedig:
ond rhyw vn o honynt a ddywedodd yn
eu henwau hwynt oll, a 'r llaill gan wrando 'n

[td. 275]
ddiescaelus a gyfunasant ag ef: ac am hynny y dywedir
gyfodi o honynt eu llafar ynghyd.

Nid ydyw S. Luc yn dywedyd, Eu llafarau,
megis am lawer, ond Eu llafar megis am vn. Yr
ydoedd yr vn llafar hwnnw am hynny yn y fath
iaith ac yr oeddent hwy oll yn ei deall, oni buasai
hynny ni allasent gyfodi mohoni i fynu â chyfundeb
eu calonnau: o herwydd ni ddichon neb
gyfuno â 'r hyn nis gŵyr.

Am yr amser ymlaen dyfodiad Christ ni bu ddŷn
erioed a ddywedai, fod gan bobl Dduw, na chan
neb arall, eu gweddiau, neu finistrad eu Sacramentau,
neu eu haberthau, mewn iaith nas deallent
hwy eu hunain. Ac am yr amser er Christ,
nes i * ortrechus [-: Draws.] allu Rufain ddechrau gorescyn,
a rhwymo holl genhedlaethau Europ i fawrhau
iaith Rufain, mae 'n eglur wrth gyfundeb yr hên
scrifenyddion dyscedig, nad oedd arfer iaith ddiethr,
anghydnabyddus, ynghynulleidfaon [~ yng nghynulleidfaon ] y Christionogion.


Mae Iustin ferthur, yr hwn oedd yn fyw yn 160.
mlynedd o oedran Christ, yn dywedyd fal hyn am
finistrad Swpper yr Arglwydd yn ei amser ef; A'r
ddie sul, mae cynnulleidfaon o 'r rhai a arhosant
yn y trefydd, a 'r rhai a drigant yn y gwledydd hefyd:
ymhlith y rhai yr ydys yn darllen cymmaint
ac a ellir, o scrifennadau 'r Apostolion a 'r Prophwydi.
Yn ol i 'r darlleudd beidio, mae 'r gwenidawg
pennaf yn gwneuthur annogaeth, gan eu
hannog i ganlyn pethau honest: yn ol hynny, yr
ydym yn cyfodi oll ynghyd ac yn offrwm gweddiau,
yn ôl diweddu y rhai (fal y dywedasom) y
dygir i mewn fara a gwin a dwfr. Yno mae 'r
gwenidawg pennaf yn offrwm gweddi a diolch â 'i

[td. 276]
holl allu, a 'r bobl yn atteb, Amen.

Mae 'r geiriau hyn a 'u hamgylchau, os ystyrir
hwy yn dda, yn manegi yn oleu, fod nid yn vnic
yn darllen yr Scruthyrau mewn iaith a ddealled,
ond bod yn gweddio felly hefyd yn y cynnulleidfaon
yn amser Iustin.

Fe osododd Basilius Magnus, ac felly y gwnaeth
Ioan * enau aur [-: Chrysostom.] , hefyd yn eu hamseroedd, drefnau
cyhoeddus ar wenidogaeth gyhoeddus, y rhai a
alwent Leiturgiæ, ac yn y rhai hynny hwy a osodasant
ar y bobl atteb i weddiau 'r gwenidogion
weithiau Amen, weithiau Arglwydd trugarha
wrthym, weithiau a chyd a 'th yspryd dithau, ac
Mae 'n calonnau ni gwedi eu cyfodi at yr Arglwydd,
 &c. Yr hwn atteb ni fedrase 'r bobl ei wneuthur
mewn amser dyledus, oni buasai fod y weddi
mewn iaith ac a ddeallent hwy. Mae 'r vn Basil
wrth scrifennu ac eglwyswyr Neocæsaria, yn dywedyd
fal hyn am arfer gweddi gyffredinol, gan
appwynto rhai i ddechreu 'r caniad, ac eraill i ganlyn,
ac felly gan dreulio 'r nos mewn llawer o ganiadau
a gweddiau, maent ar y wawr ddydd oll
ynghyd (megis ag vn genau ac vn galon) yn canu
i 'r Arglwydd ganiad o gyffes, pob vn yn gosod iddo
ei hun airiau cymhesur o etifeirwch.

Mewn man arall mae fe 'n dywedyd: os bydd
y mor yn deg, pa faint mwy y mae ymgynulliad y
gynulleidfa 'n deccach, yn yr hon y danfonir allan
sain cyssylltedig gwyr, gwragedd, a phlant (megis
tonnau 'n ffusto ar lan y mor) o 'n gweddiau ni at
Dduw? Ystyriwch ar ei airiau ef, sain (medd ef)
gyssylltedig gwyr, gwragedd, a phlant: yr hyn ni
ddichon bod oni byddai eu bod hwy oll yn deall
yr iaith yn yr hon yr adroddid y weddi.


[td. 277]
Ac fe a ddywaid Chrysostom ar airiau S. Pawl.
Cyn gynted ag y clywo y bobl y gairiau hyn, yn
oes oesoedd, maent hwy oll yn y man yn atteb,
Amen. Yr hyn ni allent hwy ei wneuthur, oni
bai eu bod hwy 'n deall yr hyn a ddywedai 'r
offeiriad.

Mae Dionysius yn dywedyd fod yr holl dyrfa
bobl yn canu caniadau, wrth finistro y cymmun.
Mae S. Cyprian yn dywedyd fod yr offeiriad yn
darparu meddyliau y brodyr â rhag-ddywediad
au ymlaen y weddi, gan ddywedyd derchefwch
eich calonnau: ac yno 'r atteb y bobl yr ydym yn
eu dyrchafu hwy at yr Arglwydd. Ac mae S.
Ambros wrth scrifennu ar airiau S. Pawl yn
dywedyd, Hyn yw 'r peth y mae fe 'n ei ddywedyd,
fod yr hwn a ddywaid mewn tafod ddiethr, yn
dywedyd wrth Dduw, yr hwn sydd yn gwybod
pob peth, ond nid ydyw dynion yn gwybod, ac am
hynny nid oes ffrwyth o 'r peth hynny.

A thrachefn ar y geiriau hyn, os bendigi di neu
roddi diolch â 'r yspryd, pa fodd y dywaid yr hwn
sydd yn lle 'r annyscedig, Amen, ar dy ddiolchiad
di, gan na ŵyr ef pa beth yr ydwyd yn ei ddywedyd?
Hynny yw, medd S. Ambros, os ti a fanegi
foliant Duw mewn iaith nis gwypo y gwrandawyr.
O herwyd pan glywo 'r annyscedig yr
hyn nis deallo, nid edwyn ddiwedd y weddi, ac ni
fedr ddywedyd Amen. Yr hwn air yw cymmaint
ac yn wir, neu bydded wir, fal y cadarnhair y fendith,
neu y rhoddiad diolch. O herwydd gan y
rhai a attebant, Amen, y cyflawnir cadarnhâd y
weddi, fal y cadarnhair pob peth a ddywedir ymmeddyliau
y gwrandawyr, trwy dystiolaeth y
gwirionedd.


[td. 278]
Ac yn ol llawer o airiau pwysig i 'r vn defnydd,
mae fe 'n dywedyd, y cwbl yw hyn: na wneler
dim yn yr Eglwys yn ofer, ac mai 'r peth hyn yn
enwedig a ddylid llafuro amdano, sef ar fod i 'r
anyscedig allel cael lleshâd, rhag bod vn rhan o 'r
corph yn dywyll trwy anwybodaeth. Ac rhag tybied
o neb ei fod ef yn meddwl hyn oll am bregethu,
ac nid am weddi: mae fe 'n cymmeryd achos
ar y gairiau hyn ei S. Pawl, (oni bydd cyfiaithydd,
tawed yr hwn sydd ac iaith ddieithr yn
yr Eglwys) i ddywedyd, fal y canlyn: Gweddied
yn ddirgel, neu ddyweded wrth Dduw, yr hwn
sydd yn clywed yr holl bethau mudion. O herwydd
yn yr Eglwys rhaid i hwnnw ddywedyd,
yr hwn a wna lles i bawb oll.

Mae S. Ierom wrth scrifennu ar y geiriau
hyn ei S. Pawl, pa fodd y dywaid yr hwn sydd yn
lle 'r anyscedig Amen, &c. yn dywedyd, y gwr llyg
yw 'r hwn y mae S. Pawl yn dywedyd ymma
ei fod yn lle yr ânnyscedig, yr hwn nid oes gantho
vn swydd Eglwysig, pa fodd yr atteb ef Amen,
ar weddi yr hon nid ydyw yn ei deall? Ac yn y
man ar ol hynny sef ar airiau Pawl pe llafarwn
a thafodau, &c. Mae fe 'n dywedyd fal hyn. Hyn
yw meddwl Pawl: Os llafara neb mewn tafodau
dieithr, anghydnabyddus, fe wnair ei feddwl
ef yn ddiffrwyth, nid iddo ei hun, ond i 'r gwrandawyr:
o herwydd beth bynnac a ddywedir, nid
yw ef yn ei wybod. Ac mae S. Awstin wrth scrifennu
a'r y ddaunawfed Psalm, yn dywedyd: ni
a ddlyem ddeall pa beth yw hyn, fal y gallom ganu
a rheswn [~ rheswm ] dŷn, ac nid a thrydar adar. O herwydd
mae dylluanod, cawciod, cigfrain, piod, a 'r
fath adar eraill, gwedy eu dyscu gan dynnion i

[td. 279]
* glegru [-: Drydar.] , ni wyddont pa beth. Ond canu trwy
ddeall a rhoddwyd trwy ewyllys sanctaidd Duw
i natur dŷn. Ac ailwaith, mae S. Awstin yn dywedyd,
Nid rhaid wrth vn llaferudd pan fythom
ni 'n gweddio, ond fal y mae 'r offeiriaid yn gwneuthur,
i ddangos eu meddwl, nid fal y gallo
Duw, ond fal y gallo dynnion eu clywed hwy. Ac
felly gan ei cofio wrth gyfuno a 'r offeiriaid y gallont
orbwyso a'r Dduw.

Fal hyn ein dangosir trwy 'r Scrythyrau a 'r
hên ddoctoriaid, na ddylyid wrth weddio neu finistro
Sacramentau, arfer vn iaith nas deallo 'r
gwrandawyr. Megis i fodloni cydwybod Christion,
nad rhaid ini dreulio chwaneg amser yn hyn
o beth. Ond etto e'r [~ er ] attal safneu gwrthwynebwyr,
y rhai sydd yn sefyll ormod ar ordeiniaethau
cyffredinol, da yw cydsylltu at y testiolaethau
hyn o 'r Scruthyrau a 'r hên Ddoctoriaid,
vn ordeiniaeth y wnaeth yr Ymherodr Iustinian,
yr hwn oedd Ymherodr Rufain ynghylch pympcant
mlynedd a saith mlynedd a'r igain [~ ar hugain ] yn ol
Christ, yr ordeiniaeth yw hon: Yr ydym yn gorchymmyn
i 'r holl Escobion ac offeiriaid finistro 'r
offrwm sanctaidd, ac arfer gweddiau yn y bedydd
sanctaidd, nid gan ddywedyd yn yssel [~ isel ], ond a llaferudd
eglur, vchel, yr hon a all y bobl oll ei chlywed,
fal trwy hynny y cyffroir meddyliau y gwrandawyr
a mawr ddwyfoldeb, wrth adrodd gweddiau'r
Arglwydd Dduw. O herwydd felly y
mae 'r Apostol sanctaidd, yn yr Epistol cyntaf at y
Corinthiaid yn dangos, gan ddywedyd, Os bendigi
di neu os rhoddi di ddiolch yn yr Yspryd yn
dda, pa fodd y gall yr hwn sydd yn lle 'r annyscedig
ddywedyd, Amen, ar dy ddiolchad di? O herwydd

[td. 280]
ni wyr efe pa beth yr ydwyd yn ei ddywedyd?
Yn wir yr ydwyti yn rhoddi diolch yn dda, ond nid
ydys yn ei adailadu efe.

Ac ailwaith, fe a ddywaid, yn ei Epistol at y Rufeiniaid:
A 'r galon y credir i gyfiawnder, a 'r geneu
y cyffesir i Iechadwriaeth. Am hynny o blegid yr
achosion hyn, ymmysc gweddiau eraill, mae 'n
gymhesir [~ gymesur ] i 'r Escobion a 'r offeiriaid crefyddgar,
draethu a dywedyd hefyd y rhai a ddywedir yn yr
offrwm sanctaidd, I 'n Harglwydd Iesu Grist ein
Duw ni, gydâ 'r Tad, a 'r Yspryd glan, a llaferudd
vchel. A gwybydded y crefyddgar offeiriaid hyn,
os hwy a escaelusant y pethau hyn, y gorfudd arnynt
rhoddi cyfrif amdanynt, yn echrydus farn y
Duw mawr, a 'n Iachawdwr Iesu Grist: a phan
wypom ninnau hynny, ni orphwyswn ni, ac ni
oddefwn hynny heb ei ddial. Yr ydoedd yr Ymherodr
hwn (fal y dywaid Sabelicus) yn ffafro
Escob Rufain, ac etto ni a welwn pa fath ordeiniaeth
oleu y wnaeth ef, am weddio a ministro Sacramentau
mewn iaith gydnabyddus, er mwyn
cyffro defosiwn da y gwrandawyr trwy wybodaeth,
yn erbyn barn y rhai a fynnant mai anwybodaeth
sydd yn gwneuthur defosiwn da, mae fe hefyd
yn ei wneuthur ef yn beth damnedig wneuthur
y pethau hyn mewn iaith nis deallo 'r gwrandawyr.
Cauwn hyn am hynny trwy gyfundeb
Duw a dynnion da na ddylaid gweddio yn gyhoeth
na ministro Sacramentau mewn iaith
nis deallo y gwrandawyr. Yn awr gair neu ddau
am weddi neilltuol mewn iaith ni ddeallir.

Ni a gymmerasom arnom pan dechrauasom son
am y peth hwn, brwfo, nid yn vnic, na ddylaid ministro
gweddi gyffredinol neu Sacrament, mewn

[td. 281]
iaith nis deall y gwrandawyr, ond hefyd na ddylai
neb weddio 'n ddirgel, mewn iaith ni byddai
fe ei hun yn ei deall. Yr hyn ni bydd anhawdd ini
ei wneuthur, oni ollyngwn yn angof pa beth yw
gweddi. O herwydd os defosiwn y galon yw gweddi,
yr hwn sydd yn gyrru 'r galon i ymgyfodi at
Dduw, pa fodd y gellir dywedyd fod hwnnw yn
gweddio, yr hwn nid yw yn deall y geiriau y mae
ei dafod yn eu traethu mewn gweddi? Ie pa fodd
y gellir dywedyd ei fod ef yn dywedyd? o herwydd
dywedyd yw traethu meddwl y galon trwy laferudd
y genau.

Ac nid ydyw llaferudd y draetho dŷn wrth ddywedyd,
ddim ond cennadwr y meddwl, i ddwyn
allan wybodaeth, am y peth oni bai hynny, a orwedde
'n ddirgel yn y galon, ac ni ellir ei wybod:
yn ol yr hyn a scrifenna S. Pawl, Pwy a ŵyr
medd ef y pethau sydd mewn dyn, ond yspryd dyn
yn vnic, yr hwn sydd ynddo? Ni ellir am hynny yn
iniawn ddywedyd ei fod ef yn dywedyd, yr hwn
nid yw yn deall y laferudd y mae ei dafod yn ei
draethu, ond yn dynwared dywedyd, fal y gwna
'r perot, neu 'r fath adar, sydd yn dynwared llaferudd
dynnion. Ni faidd neb am hynny ac a fytho
yn ofni digofaint Duw yn ei erbyn ei hun, son
am Dduw yn rhy ehud, heb feddwl am ddeall parchus
yn ei wydd ef, ond fe ddarpara ei galon cyn
rhyfygu dywedyd wrth Dduw. Ac am hynny yn
ein gweddi gyffredinol, mae 'r gwenhidawg yn
dywedyd yn fynych gweddiwn: gan feddwl wrth
hynny rhebyddio [~ rhybuddio ] 'r bobl i ddarparu eu clustiau i
wrando, ar y peth y mae er fedr ei erchi ar law
Dduw, a 'u calonnau i gyfuno a hynny, a 'u tafodau
ar y diwedd i ddywedyd, Amen.


[td. 282]
Fal hyn y darparodd y Prophwyd Dafydd ei
galon; pan ddywedodd ef, parod yw fy nghalon o
Dduw, parod yw fy nghalon, canaf a chanmolaf.
Fe ddarodd [~ ddaroedd ] i 'r Iddewon hefyd, yn amser Iudith,
cyn iddynt ddechreu gweddio, ddarparu eu calonnau
felly, pan weddiasant hwy a 'u holl galonnau,
ar i Dduw ymweled a 'i bobl Israel. Fal hyn yn
darparasai Menasses ei galon, cyn iddo weddio, a
dywedyd: yr ydwyf yn gostwng gliniau fy nghalon,
gan ofyn iti ran o 'th drigarog fwynder. Pan
fytho 'r galon gwedy ei darparu fal hyn, mae 'r
llaferudd a draethir o 'r galon, yn beraidd ynghlustiau
[~ yng nghlustiau ] Duw, ac heb hyn ni ystyria ef hi i 'w derbyn.
Ond o herwydd fod y dyn sydd yn * dadwrdd [-: Twrddan.]  geiriau
diddeall yngwydd [~ yng ngŵydd ] Duw, yn dangos nad ydyw
ef yn ystyriaid mawrhydi Duw, wrth yr hwn
y mae fe 'n dywedyd: mae Duw yn cymmeryd
hwnnw megis vn yn diystyru ei fawrhydi ef, ac
yn rhoddi iddo ei wobr ymlhith ragrhithwyr, y
rhai sydd yn ymddangos yn sanctaidd oddifaes,
a 'u calonnau yn llawn meddyliau ffiaidd, ie yn
amser eu gweddiau.

O herwydd y galon y mae 'r Arlgwydd yn edrych
erni, fal y scrifennir yn histori y brenhinioedd.
Os mynnwn ninnau am hyn na byddo ein gweddiau
yn ffiaidd bethau, ger bron yr Arglwydd
Dduw, darparwn ein calonnau cyn gweddio, ac
felly deallwn y pethau yr ydym yn gweddio am
danynt, fal y gallo ein calonnau a 'n llaferudd, gydseinio
 ynghlust [~ yng nghlust ] mawrhydi Duw: ac yno ni ffaelwn
dderbyn ar ei ddwylaw ef, y pethau yr ydym
yn eu gofyn, fal y gwnaeth gwyr da o 'n blaen ni,
y rhai a dderbyniasant o amser yn amser y pethau
a ddamunent er iechyd i 'w heneidiau.


[td. 283]
Fe dybygid fod S. Awstin yn cyd-ddwyn yn y pethau
hyn, o herwydd fal hyn y dywaid ef am y rhai
a ddygir i fynu mewn gramadeg, neu rhethorei,
ac a droir at Grist, ac am hynny sydd rhaid eu dyscu
 ynghrefydd [~ yng nghrefydd ] Grist: Gwybyddant hefyd medd
S. Awstin nad y llaferudd ond meddylfryd y galon
sydd yn dyfod i glustiau Duw. Ac yno y bydd,
os digwydda iddynt ystyried, fod yr Escob neu 'r
gwenhidawg yn yr Eglwys, yn galw ar Dduw a
geiriau anghysson ac anhrefnus, neu y rhai na
bônt hwy yn eu deall, neu eu bod hwy yn cyfrannu
yn anhrefnus y geiriau y maent yn eu traethu,
na watwarant ddim o honynt. Hyd yn hyn fe a
dybygid ei fod ef yn cyd-ddwyn gyda gweddi
mewn iaith ni ddeallir.

Ond yn yr ymadrodd nesaf mae fe 'n agoryd ei
feddwl fal hin [~ hyn ]. Nid am na ddylid gwella y pethau
hyn fal y gallo y bobl ddywedyd Amen i 'r hyn y
maent yn ei ddeall yn dda: ond etto rhaid yw dwyn
gyda 'r holl bethau duwiol hyn, ar ddwylo y catecheiswyr
ymma ac athrawon y ffydd: fal y gallont
ddeall megis mewn dadleudŷ, y mae daioni
y ddadl yn sefyll yn y sain, felly ei fod yn yr Eglwys
yn sefyll mewn defosiwn. Fal nad ydyw ef yn
fodlon i neb weddio mewn iaith nis deallo: ond
mae fe 'n dyscu y dadleuwr neu araithiwr cyfarwydd
, i ddwyn gyda thafod annyscedig, anghyfarwydd
y gwenhidawg crefyddgar, diddrwg: I
grynhoi y cwbl os gwna diffyg deall y geiriau a
ddywedir yn y gynulleidfa fod y geiriau yn anffrwythlon
i 'r gwrandawyr: paham na wna yr
vn peth y geiriau a ddarllenir yn anffrwyddlon i 'r
darllenudd?

Trugarog ddaioni Duw, a ganniatao ini rad

[td. 284]
i alw arno megis y dlyem, i 'w ogoniant ef, a 'n
didrangc ddedwyddwch ninnau. Yr hyn y wnawn
ni os ymostyngwn ein hunain yn ei olwg ef: ac
os bydd ein meddwl ni, yn ein holl weddiau cyffredinol
a neilltuol, gwedy eu gosod yn hollol arno
ef. O herwydd gweddi y gostyngedig a aiff trwy
y cymylau, ac nis diddenir hi nes dyfod yn agos at
Dduw, nid ymmedy hi nes i 'r goruchaf edrych arni
hi, a gwared y cyfion a gwneuthur barn. Iddo
ef am hynny y byddo anrhydedd a gogoniant, yn
oes oesoedd. Amen.

I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section