Adran o’r blaen
Previous section

James, Edward. Pregethau a osodwyd allan trwy awdurdod i'w darllein ymhob Eglwys blwyf a phob capel er adailadaeth i'r bobl annyscedig. Gwedi eu troi i'r iaith Gymeraeg drwy waith Edward Iames. Robert Barker printiwr i odidawgaf fawrhydi y Brenin a'i Printiodd yn Llundain. Anno Dom. 1606. (Llundain: Robert Barker, 1606), i.153-76, ii.265-84, iii.165-84.

Cynnwys
Contents

¶ Pregeth yn erbyn putteindra ac aflendid. 153
¶ Yr ail rhan o'r bregeth yn erbyn goddineb. 160
¶ Y drydedd ran o'r bregeth yn erbyn godineb. 167
¶ Pregeth yn yr hon y manegir y dylyid ministro gweddi gyhoeddus a'r Sacramentau mewn iaith a ddealler gan y gwrandawyr. 265
¶ Pregeth am stât Priodas. 165

[Cyfrol i. 153-76, Pregeth yn erbyn putteindra ac aflendid.]



[td. 153]


¶ Pregeth yn erbyn putteindra
ac aflendid.


ER bod aml heidiau o bob drygioni
a ddlyent eu ceryddu (bobl Gristianogol
ddaionus) mae gwir dduwioldeb,
a rhinweddol fywyd
gwedi myned mor * ambell, etto
vwch law pob drygioni arall,
mae anllywodraethus foroedd

[td. 154]
godineb neu dor-priodas, putteindra, anlladrwydd,
ac aflendid, nid yn vnig gwedi torri i mewn,
ond hefyd gwedy llifeirio gan mwyaf dros yr holl
fyd, er mawr ddianrhydedd Duw, ac anfeidrol
gabledd enw Christ, er cyhoeddus ddistryw gwir
grefydd, a llwyr ddinistr daionus gyffredinolrwydd,
a hynny mor halaeth, megis trwy fynych arfer
ohono, y mae y drygioni hwn gwedy tyfu i 'r
fath vwchder, megis haychen [~ haeachen ] ym-mhlith llawer
o bobl ni chyfrifir ef yn bechod: onid yn hytrach
yn ddigrifwch, yn gellwair a nwyfiant ieuengtid,
yr hwn ni cheryddir, ond a ddifrawir, yr hwn ni
chospir, ond a chwerddir o 'i blegid.

Am hyn anghenrhaid ydyw ar hyn o bryd draethu
wrthych am bechod putteindra a godineb, a
dangos i chwi faint y pechod ym-ma [~ yma ], ac mor gâs,
mor ddigasog, ac mor ffiaidd ydyw ac y cyfrifwyd
ef bob amser ger bron Duw a phob dŷn daionus,
ac mor ddwys y cospwyd ef gynt, trwy gyfraith
Dduw a chyfraithiau llawer o dywysogion: ac
hefyd i ddangos i'wch [~ iwch ] ryw gyfarwyddyd, fel y
galloch (trwy râs Duw) wachelyd erchyll bechod
putteindra a goddineb, a byw mewn glendid ac
honestrwydd. Ac er mwyn bod i chwi ystyried fod
putteindra a godineb yn bechodau ffiaidd yngolwg
[~ yng ngolwg ] Duw, chwi a gofiwch orchymmyn Duw,
Na wna odineb. Yr hwn air, Godineb, er bod yn
ei ddeall ef yn briodol am ymgymmysc ac anghyfraithlon
gysylltiad gŵr priodol â rhyw wraig arall
heb law ei wraig ei hun: neu wraig gydâ gŵr
heb law ei gŵr ei hun: etto trwy 'r gair hwn hefyd
yr arwyddocceir pob arfer anghyfraithlon o 'r
aelodau a osodwyd i genhedlu. Ac mae 'r vn gorchymmyn
hwn, yr hwn sydd yn gwahardd godineb,

[td. 155]
yn paentio yn gyflawn, ac yn gosod ger bron
ein llygaid ni faint pechod putteindra: ac yn dangos
yn oleu mor ffiaidd y dylyai fod y pechod ymma
gan bob dŷn honest ffyddlon.

A rhac i neb ohonom feddwl fod gwedy ei ddieithro
ef a 'i ddosparth oddiwrth y gorchymmyn
hwn: pa vn bynnag fythom ai hên ai ieuangc, ai
priodol ai am-mhriodol, ai gŵr ai gwraig, gwrandawn
pa beth a ddywaid Duw Dâd trwy ei odidawg
brophwyd Moses, Na fydded puttain ymmhlith
merched Israel, na phutteinwr ymmhlith
meibion Israel. Ymma y gwaherddir
pob putteindra, godineb ac aflendid, bob rhyw o
bobl, i bob grâdd, i bob oedran yn ddiddieithrad.

A rhac i ni frith-dybied na pherthyn yr arch neu
y gorchymmyn hwn attom ni yn wir, gwrandawn
beth a ddywaid Christ (perffaith ddyscawdwr
pob gwirionedd) yn y Testament newydd:
Chwi a glywsoch (medd Christ) ddywedyd wrth
y rhai gynt, Na wna odineb: ond yr ydwyfi yn
dywedyd i chwi, pwy bynnag a edrycho ar wraig
gan ei chwennychu, a wnaeth odineb â hi eisioes
yn ei galon. Ymma y mae ein Iachawdwr Christ,
nid yn vnig yn cryfhau ac yn cadarnhau y gyfraith
yr hon a roddase Dduw dâd yn yr hên destament,
trwy ei wasanaethwr Moses yn erbyn godineb, ac
yn ei gwneuthur hi o gyflawn rym i barhau dros
fyth ym-mhlith proffeswyr ei enw ef yn y Testament
newydd: ond mae fe hefyd (gan ddamnio
anghyfaddas ddeongliadau y Pharisęaid a 'r scrifennyddion,
y rhai a ddyscent fod y gorchymmyn
hwn yn peri i ni yn vnig ymgadw rhag godineb
oddi allan, ac nid rhag chwantau aflan a gwyniau
ammhur) yn dyscu i ni gyfan a chyflawn

[td. 156]
berffeithrwydd, purder a glendid buchedd, i gadw
ein cyrph yn ddihalog a 'n calonnau yn bur, ac yn
rhydd oddiwrth bob chwantau drŵg, cnawdol
ddeisyfiadau a chyfundebau.

Pa fodd gan hynny y gallwn fod yn rhyddion
oddiwrth y gorchymmyn hwn: lle mae cymmaint
siars wedi ei osod arnom? a ddichon gwâs wneuthur
y peth a fynno, a 'i feistr yn gorchymmyn y
gwrthwyneb iddo? Onid Christ yw ein meistr,
a ninnau iddo ef yn weision? Pa fodd gan hynny
yr esceuluswn ni fodd ac ewyllys ein meistr, a chanlyn
ein ewyllys a 'n ffansi ein hunain? Fy nghyfeillon
i ydych chwi, medd Christ, os gwnewch y
pethau yr wyfi yn eu gorchymmyn i chwi. Yn
awr fe a orchymmynnodd ein meistr Christ i ni
ymwrthod â phob aflendid yngorph [~ yng nghorff ] ac Yspryd.
Hyn, wrth hynny, sy raid i ni ei wneuthur, os ceisiwn
fodloni Duw.

Yr ydym ni yn darllein yn Efangel S. Matthew,
i 'r Pharisæaid a 'r Scrifennyddion ddigio
wrth Christ yn anial, am nad oedd ei ddiscyblon ef
yn cadw traddodiadau yr henafiaid; canys ni olchent
eu dwylo cyn cyniawa neu swpperu. Ymmhlith
pethau eraill fe a attebodd Christ ac a
ddywedodd, Gwrandewch a deellwch, nid yr hyn
sydd yn myned i mewn i 'r genau sydd yn halogi
dŷn, ond y pethau a ddauant allan o 'r genau sydd
yn dyfod o 'r galon, a hwynt hwy a halogant
ddŷn. Canys o 'r galon y mae meddyliau drŵg
yn dyfod, llofruddiaeth, tor-priodas, godinebau,
lledrad, camdystiolaeth, cabledd. Dymma y pethau
sy yn halogi dŷn. Ymma y gallwn weled
nad llofruddiaeth, lledrad, cam-dystiolaeth a
chabledd yn vnig sydd yn halogi dŷn, ond hefyd

[td. 157]
meddyliau drŵg, tor-priodas, godineb a phutteindra.


Pwy sydd yn awr mor wan ei synwyr ac y tybia
fod putteindra a goddineb yn bethau bychain
yscafn ger bron Duw. Mae Christ yr hwn yw 'r
gwirionedd ac ni ddichon ddywedyd celwydd, yn
dywedyd fod meddyliau drŵg, tor-priodas, putteindra
a godineb yn halogi dŷn; hynny yw, yn
llygru corph ac enaid dŷn, ac yn ei wneuthur ef
o deml yr Yspryd glân, yn dommen front ac yn
dderbynfa holl ysprydion aflân: o dŷ Dduw yn
drigle sathan.

Trachefn yn Efangel Ioan pan ddygpwyd y
wraig a ddaliasid mewn godineb, ger bron Christ,
fe a ddywad wrthi hi dôs, ac na phecha mwyach.
Onid ydyw ef ymma yn galw putteindra yn bechod?
a pha beth yw gwobr pechod, ond tragwyddol
angau? Os yw putteindra yn bechod, nid
yw gyfreithlon i ni ei wneuthur, o herwydd fel
y dywaid Ioan, Yr hwn a wna bechod o ddiafol
y mae. Ac fe a ddywed ein Iachawdwr fod pob
vn a wnel bechod yn gaethwas i bechod. Oni
bai fod putteindra yn bechod, diau na buasai Ioan
fedyddiwr yn ceryddu Herod am gymmeryd
gwraig ei frawd: ond fe a ddywedodd wrtho yn
oleu, Nid cyfraithlon yw i ti gymmeryd gwraig
dy frawd. Nid arbedodd ef butteindra Herod, er
ei fod ef yn frenhin cadarn, ond fe a 'i ceryddodd
ef yn * eofn [-: * Hyf.] am ei fywyd melldigedig, drwg, er
iddo ef golli ei ben am hynny. Ond gwell oedd
gantho oddef angau nâ gweled dianrhydeddu
Duw, drwy dorri ei sanctaidd airch a 'i orchymmynion
ef, ie nâ goddef mewn brenhin butteindra
heb geryddu.


[td. 158]
Pe na buasai putteindra ddim ond digrifwch
a chellwair heb achos ei wneuthur cyfrif ohono
(megis y tybia llawer amdano yn y dyddiau ymma)
yn wir fe fuasai Ioan yn fwy nâ dwbl allan
o 'i bwyll, os ai ef tan anfodd brenhin, os goddefai
ei daflu i garchar, a cholli ei ben am beth
gwael dibris. Ond fe a wyddai Ioan yn dda ddigon
mor frwnt, mor ddrewllyd, mor ffiaidd yw pechod
putteindra yngolwg [~ yng ngolwg ] Duw, ac am hynny ni
oddefai ef mohono heb geryddu; na wnai, mewn
brenhin.

Onid ydyw putteindra gyfreithlon mewn
brenhin, nid yw gyfreithlon mewn deiliad. Onid
yw putteindra gyfraithlon mewn dŷn cyhoedd, a
fyddo a swydd gyhoedd gantho, yn wir nid yw
gyfraithlon mewn vn diswyddau. Onid yw gyfraithlon
nac mewn brenhin nac mewn deiliad,
nac mewn cyhoedd swyddog, nac mewn vn diswyddau:
yn wir nid yw gyfraithlon nac mewn gŵr
nac mewn gwraig, o ba râdd neu oedran bynnac
y bônt.

Hefyd yr ydym ni yn darllein yngweithredoedd
[~ yng ngweithredoedd ] yr Apostolion, pan gasclodd yr Apostolion yr
henuriaid a 'r holl gynnulleidfa ynghyd, i lonyddu
calonnau y ffyddloniaid y rhai oedd yn arhos yn
Antiochia (y rhai a aflonyddasid trwy gauathrawiaeth
rhyw Iuddewaidd bregethwyr) hwy a
ddanfonasant air i 'r brodyr, weled yn dda gan yr
Yspryd glân a hwyntau, na ddodent arnynt faich
amgenach nâ 'r pethau anghenrheidiol hyn: ymmhlith
pethau eraill hwy a orchymmynnasant
iddynt ymgadw rhag delw-addoliad a godineb,
oddiwrth y rhai (eb y hwynt) os chwi a ymgedwch,
da y gwnewch.


[td. 159]
Edrychwch ymma fal nad ydyw y tadau sanctaidd
bendigaid ymma o Eglwys Ghrist, yn gosod
ar y gynnulleidfa ddim ond pethau anghenrheidiol.
Ystyriwch hefyd fod yn cyfrif putteindra
a godineb ym-mhlith y pethau a orchymmynnir
i 'r brodyr o Antiochia ymgadw oddiwrthynt.
Anghenrhaid am hynny yw, wrth gyfundeb a
therfyniad yr Yspryd glân a 'r Apostolion a 'r henuriaid
a 'r holl gynnulleidfa, fod ini felly ymgadw
oddiwrth odineb a phutteindra, megis oddiwrth
ddelw-addoliad ac ofergoel. Mae yn anghenrhaid
er Iachawdwriaeth, ymgadw rhag delw-addoliad,
felly y mae ymgadw rhag putteindra. Oes
ffordd sydd nes a dywys i ddamnedigaeth, nâ delw-addoliad?
nag oes. Felly hefyd nid oes ffordd
nes a dywys i ddistryw corph ac enaid, nâ godineb
a phutteindra.

Pa le weithian y mae y bobl a wnânt mor fychan
o dor-priodas, putteindra godineb ac aflendid?
Mae yn anghenrhaid, medd yr Yspryd glân,
medd y bendigedig Apostolion, medd yr henuriaid
a holl gynnulleidfa Ghrist; mae yn anghenrhaid,
meddant, er Iachawdwriaeth ymgadw
oddiwrth butteindra. Os yw anghenrhaid i Iechydwriaeth,
gwae y rhai gan esceuluso eu hiechydwriaeth,
a roddant eu meddyliau i bechod mor
frwnt, ac mor ddrewllyd, i fai cynddrŵg, ac i
ffieidd-dra mor erchyll.


[td. 160]


¶ Yr ail rhan o 'r bregeth yn
erbyn goddineb.


FE a ddangoswyd i chwi yn y rhan
gyntaf o 'r bregeth yn erbyn goddineb,
fel y mae y bai hwnnw ar
hyn o amser, yn teyrnasu vwch
law pob bai arall: a pha beth yw
ystyr y gair, Godineb: a pha fodd
y mae 'r Scrythur lân yn ein
hannog ac yn ein cynghori ni i wachelyd y bai
brwnt ymma: ac yn ddiwethaf, pa lygredigaeth
sydd yn dyfod ar enaid dŷn, oddiwrth y pechod ymma,
godineb.

Awn rhagom ym-mhellach a gwrandawn pa
beth a ddywaid y sanctaidd Apostol S. Paul am
y peth ymma: yr hwn yn scrifennu at y Rhufeiniaid,
sydd gantho y geiriau hyn, Bwriwn ymmaith
weithredoedd y tywyllwch, a gwiscwn arfau y
goleuni. Rhodiwn yn weddus megis wrth liw
dydd, nid mewn cyfeddach a meddwdod, nid mewn
cydorwedd ac anlladrwydd, nid mewn cynnen a
chenfigen, eithr gwiscwch amdanoch yr Arglwydd
Iesu Ghrist: ac na fydded eich gofal dros y
cnawd er mwyn porthi ei chwantau.

Ymma y mae 'r Apostol yn ein hannog i daflu
ymmaith weithredoedd y tywyllwch, y rhai, ymmhlith
eraill, y mae fe yn galw cyfeddach, meddwdod,
cydorwedd ac anlladrwydd, y rhai ydynt oll
wasanaeth-wyr i 'r bai ymma, a darpariaethau i
dywys ac i arwain i 'r brwnt bechod cnawdol
ymma.

Mae fe yn eu galw hwy yn weithredoedd y tywyllwch,
nid yn vnig am fod yn arfer o 'u gwneuthur

[td. 161]
mewn tywyllwch, yn amser nôs, (o herwydd
pob vn ar y sydd yn gwneuthur drwg, sydd yn cashau
y goleuni, ac ni ddaw i 'r goleuni, rhag argyoeddi
ei weithredoedd) ond am eu bod yn ein tywys
ac yn ein harwain ar hyd yr vniawn ffordd
i 'r tywyllwch eithaf, lle bydd wylofain a rhincian
dannedd.

Ac mae fe yn dywedyd mewn man arall yn yr
vn Epistol, na all y rhai ydynt yn y cnawd foddloni
Duw: am hynny yr ydym, medd ef, yn ddyledwyr,
nid i 'r cnawd, i fyw yn ôl y cnawd; canys
os byw a fyddwn yn ôl y cnawd, meirw fyddwn.
A thrachefn y dywaid, Gwachelwch odineb. Pob
pechod a wnelo dŷn, oddi allan ei gorph y mae; ond
yr hwn a wnel odineb sydd yn pechu yn erbyn ei
gorph ei hunan. Oni wyddoch fod eich corph yn
deml i 'r Yspryd glân sydd ynoch, yr hwn yr ydych
yn ei gael gan Dduw, ac nad ydych eiddoch chwi
eich hunain? canys er gwerth y 'ch prynwyd chwi,
am hynny gogoneddwch Dduw yn eich corph &c.
Ac ychydig o 'r blaen y dywaid, Oni wyddoch fod
eich cyrph yn aelodau i Grist. Am hynny a gymmerafi
aelodau Christ, a 'u gwneuthur yn aelodau
puttein? Na atto Duw. Oni wyddoch fod yr
hwn sydd yn cydio â phuttain yn vn corph â hi?
Canys y ddau, eb efe, a fyddant vn cnawd: ond yr
hwn a gyssylltir â 'r Arglwydd, vn yspryd yw.

Pa eiriau duwiol y mae S. Paul yn ei hadrodd
ymma, er mwyn ein hannog a 'n cynghori oddiwrth
butteindra a phob aflendid? Teml, medd ef,
yr Yspryd glân ydyw eich aelodau chwi, yr hon
pwy bynnag a 'i halogo, fe a 'i dinistria Duw ef,
medd S. Pawl. Os teml yr Yspryd glân ydym,
onid anghymmhesur yw i ni yrru y sanctaidd Yspryd

[td. 162]
hwn oddiwrthym trwy butteindra, a gosod
yn ei le ef ddrŵg ysprydion godineb ac aflendid, ac
ymgyssylltu â hwynt a 'u gwasanaethu. Fe a 'ch
prynwyd chwi, medd ef, yn brid: am hynny gogoneddwch
Dduw yn eich cyrph.

Fe brynodd Christ yr oen dieniwed hwnnw ni,
o gaethiwed diafol, nid â phethau llygredig, megis
arian neu aur, ond â gwerthfawr waed ei galon. I
ba ddefnydd y gwnaeth efe hynny? ai er mwyn bod
i ni gwympo eilwaith i 'n hên aflendid a 'n ffiaidd
fywyd? Nagê yn wir, ond er mwyn bod i ni ei wasanaethu
ef mewn sancteiddrwydd a chyfiawnder
holl ddyddiau ein heinioes: er mwyn bod i ni ei
ogoneddu ef yn ein cyrph, trwy burder a glendid
buchedd. Mae fe yn dangos hefyd fod ein cyrph
ni yn aelodau i Grist. Mor anweddaidd, wrth
hynny, yw i ni beidio a bod yn gydcorph a 'n
gwneuthur yn vn â Christ, a thrwy butteindra
ymgyssylltu a 'n gwneuthur yn vn â phuttain? Pa
ammarch, neu pa gam goleuach a allwn ni ei
wneuthur i Ghrist, nâ chymmeryd aelodau ei
gorph ef oddiwrtho, a 'u cyssylltu hwynt â phuttainiaid,
 â diawliaid ac ag ysprydion drŵg? A pha
ddianrhydedd fwy a allwn ni ei wneuthur â ni ein
hunain, nâ thrwy aflendid colli y fath odidog fraint
a rhydd-did, gan ein gwneuthur ein hunain yn
gaethweision ac yn druain garcharorion i ysprydion
y tywyllwch?

Ystyriwn gan hynny yn gyntaf ogoniant Christ:
yn ail ein stât, ein braint a 'n rhydd-did ein hunain,
yn yr hwn y gosododd Duw ni, gan roddi i ni ei
sanctaidd Yspryd: ac ymddiffynnwn hwnnw yn
gefnog yn erbyn sathan a 'i holl fachellion twyllodrus:
fel yr anrhydedder Christ, ac na chollom

[td. 163]
ninnau ein rhydd-did, ond arhos yn wastadol yn
vn yspryd ag ef.

Hefyd yn ei epistol at yr Ephesiaid, mae 'r Apostol
sanctaidd yn gorchymmyn i ni fod mor bûr ac
mor rhydd oddiwrth odineb, anlladrwydd a phob
aflendid, fal na enwer hwy yn ein plith, megis y
gwedde i sainct, na serthedd, na geiriau ffôl, na
choeg-ddigrifwch, y rhai nid ydynt weddus, eithr
yn hytrach diolchgarwch: canys yr ydych yn gwybod
hyn, am bob putteinwr, neu aflan, neu gybydd
yr hwn sydd ddelw-addolwr, nad oes iddynt etifeddiaeth
 yn-nheyrnas [~ yn nheyrnas ] Christ a Duw. Ac er mwyn
cofio ohonom fod yn sanctaidd, yn bur ac yn rhydd
oddiwrth bob aflendid, mae 'r Apostol sanctaidd
yn ein galw ni yn sainct, am ein bod gwedy ein
sancteiddio a 'n gwneuthur yn sanctaidd trwy
waed Christ, a thrwy 'r Yspryd glan.

Gan hynny os ydym sainct, pa beth sydd i ni a
wnelom ag arferion y cenhedloedd. Megis (medd
S. Petr) y mae 'r hwn a 'ch galwodd chwi yn sanctaidd,
byddwch chwithau hefyd sanctaidd ymmhob
[~ ym mhob ] ymarweddiad: o herwydd scrifennedig yw,
Am hynny byddwch sanctaidd, canys sanctaidd
ydwyfi. Hyd hyn y clywsoch orthrymmed pechod
yw godineb a phutteindra, ac mor ffiaidd gan
Dduw ef trwy 'r Scrythur. A pha fodd nad y pechod
ffiaiddiaf ac a ddichon bod, yw yr hwn ni ellir
vnwaith ei enwi ym-mhlith Christianogion? llai
o lawer y dlyid mewn modd yn y byd ef wneuthur
ef.

Ac yn siccr os ni a bwyswn faint y pechod ymma,
ac a 'i hystyriwn ef yn ei iawn rywogaeth, ni
a gawn weled mai pechod putteindra yw 'r * llynn [-: Ylling]
diffaithiaf, a 'r pwll bryntaf, a 'r soddfa ddrewllyd,

[td. 164]
i 'r hwn y llifeiria ac y rhêd pob pechod, a phob drygioni
arall, lle hefyd y mae iddynt drigfa a phreswylfod.


O blegid onid yw y godinebwr yn falch o 'i butteindra?
fel y dywaid y gŵr call, Maent hwy yn
llawen darffo iddynt wneuthur yr hyn sydd
ddrŵg, ac yn llawenychu mewn pethau drŵg anianol.
Onid ydyw y godinebwr yn ddiog, ac heb
ymhoffi mewn vn ymarfer dduwiol, ond yn vnig
yn ei hoffddigrifwch brwnt anifeiliaidd hynny?
Onid ydyw ei feddwl ef wedy ei lusco a 'i dynnu
ymmaith oddiwrth bob amcanion rhinweddol,
ac oddiwrth bob trafael ffrwythlon, a chwedy ymroi
yn vnig i ddychymmygion cnawdol? Onid
yw y putteinwr yn rhoddi ei feddwl ar lothineb, er
mwyn bod yn barottach i wasanaethu ei wyniau
a 'i hoffderau cnawdol? Onid ydyw y godinebwr
yn rhoddi ei feddwl a'r gybydd-dod, ac i grafu ac
i gasclu oddiar eraill, er mwyn bod yn aplach i
faentaenio ei butteiniaid, a 'i ordderchadon, ac i
barhau yn ei serch brwnt anghyfraithlon? Onid
ydyw ef yn chwyddo mewn cenfigen yn erbyn
eraill, gan ofni hudo ei ysclyfaeth ef, a 'i thynnu
hi ymmaith oddiwrtho? Hefyd onid ydyw efe
yn llidiog ac yn llawn o ddigofaint ac anfodlonrwydd,
ie yn erbyn y rhai anwylaf gantho, os
rhwystrir vn amser ei ddamuniad cnawdol diawledig
ef? Pa bechod, neu pa ryw o bechod ni chyssylltir
 â godineb a phutteindra?

Rhyw anghenfil yw efe a llawer o bennau iddo:
mae fe yn derbyn pob rhyw feiau, ac yn gwrthod
pob rhyw rinweddau. Os ydyw vn pechod yn
dwyn damnedigaeth, pa beth a dybygir am y pechod
a gyssylltir ac a gyfeillechir a phob drygioni:

[td. 165]
yr hwn y mae pob peth sydd gâs gan Dduw, damnedig
i ddŷn, a hôff gan sathan yn ei ganlyn. Mawr
yw 'r ddamnedigaeth sydd ynghrog [~ yng nghrog ] vwch-ben
godinebwyr a phutteinwyr.

I ba beth y sonniaf am aflesau eraill a dyfant
ac a lifant o * lacca [-: Dom.] drewllyd putteindra? Oni
chollir trwy odineb a phutteindra enw da gŵr
neu wraig, yr hwn yw 'r trysor y mae pob dŷn honest
yn gwneuthur mwyaf cyfrif ohono? Pa dreftadaeth
neu fywyd? pa olud? pa dda? pa gyfoeth
nas difa putteindra, ac nas dŵg yn ddiddim
mewn ychydig amser? Pa ddewrder a pha gryfder
ni wanheir yn fynych ac ni ddistrywir trwy butteindra?
Pa synwyr cyn barotted na ddotier ac
na ddeleir trwy butteindra? Pa degwch (er mor
odidog fo) nad anffurfir trwy butteindra?

Onid ydyw putteindra yn elyn i brydferth flodeuyn
ieuengctid? Ac onid yw yn dwyn penllwydni
a henaint cyn yr amser? Pa ddawn naturiol
(er mor werthfawr fo) na lygrir trwy butteindra?
Onid yw y frêch fawr a llawer o glefydon
eraill yn dyfod o butteindra? O ba le y daw cymmaint
o fastardiaid a phlant ordderch, i fawr anfodlonrwydd
Duw, a thorriad priodas sanctaidd,
onid o butteindra? Pa faint sydd yn difa eu da
a 'u golud, ac yn cwympo yn y diwedd i ddygyn
dlodi, ac yn ôl hynny yn lledratta ac yn cael eu
crogi, trwy butteindra? Pa ymryson a lladdfâu
a ddaw o butteindra? Pa sawl merch a  * anwyryfir?
[-: Dreisir,] Pa sawl gwraig a lygrir? Pa sawl gweddw
a wradwyddir trwy butteindra? Pa faint
y tlodir ac y trallodir y cyfoeth-cyffredin trwy
butteindra? Pa faint y dirmygir ac y ceblir gair
Duw trwy butteindra a phutteinwyr?


[td. 166]
O 'r pechod hwn y daw llawer o 'r yscaroedd,
y rhai a arferir yn y dyddiau hyn mor arferedig,
trwy awdurdod gwŷr diswyddau, er mawr ddigofaint
Duw, a thorriad sancteiddiaf gwlwm a
rhwym priodas: o herwydd pan ddarffo i 'r pechod
ffiaidd ymma ymlusco vnwaith i * ascre [-: Fonwes.] y
godinebwr, fel y rhwydir ef mewn cariad aflan
anghyfraithlon, fe a ddiystyra yn y man ei wir a 'i
gyfraithlon wraig, fe a gashâ ei phresennoldeb
hi, mae ei chwmpeini hi yn drewi ac yn wrthwynebus
gantho: pa beth bynnag a wnêl hi, a ogenir:
nid oes llonyddwch yn y tŷ yr hyd y bytho hi
mewn golwg: am hynny, i wneuthur chwedl
byrr, rhaid iddi fyned ymmaith, o blegid ni ddichon
ei gŵr ei haros hi ym-mhellach. Fel hyn
trwy butteindra y troir ymmaith y wraig honest
ddieniwed, ac y derbynir puttain yn ei lle hi.

Yn yr vn modd y digwydda yn fynych o ran y
wraig tuag at ei gŵr. Dymma ffiaidd-dra anferth.
Pan ddaeth ein Iachawdwr Christ Duw a dŷn i
adferu cyfraith ei nefol dâd i iawn ystyr, meddwl
a deall y gyfraith honno, ym-mhlith pethau eraill
fe a * ddiwygiodd [-: Iniawnodd.] gam-arfer y gyfraith hon. O
herwydd lle daroedd i 'r Iuddewon arfer hir oddefiaeth
trwy ddefod ddodi o 'r gwŷr eu gwragedd
ymmaith wrth eu hewyllys am bob achos: fe a
geryddodd Christ y drŵg arfer hynny, ac a ddyscodd,
pwy bynnag a wrthotto ei wraig, onid am
odineb (yr hwn yr amser hynny wrth gyfraith
oedd yn haeddu angau) ei fod yn torri priodas, ac
yn gwneuthur i 'w wraig hefyd yr yscarid ef â hi,
odinebu, os hi a gyssylltid â gŵr arall, ac i 'r gŵr
hefyd a gyssylltid â hi, odinebu.

Ym-mha [~ Ym mha ] gyflwr gan hynny y mae y godinebwyr

[td. 167]
ymma, y rhai o gariad ar buttain a wrthodant
eu gwir a 'u cyfraithlon wragedd, yn erbyn
cyfraith, vniondeb, rheswn [~ rheswm ] a chydwybod? Oh
mor ddamnedig yw 'r stât y maent yn aros ynddi.
Distryw ebrwydd a gwymp arnynt os hwy ni
edifarhânt ac ni wellhânt. O herwydd ni oddef
Duw byth ddianrhydeddy, a chashâu, a diystyru
sanctaidd briodas. Fe a gospa ryw brŷd y bywyd
cnawdol anllywodraethus ymma, ac a wnâ bod
y sanctaidd ordinhâd [~ ordeinhad ] ymma mewn parch ac anrhydedd.
O herwydd, medd yr Apostol, Anrhydeddus
yw priodas ym-mhawb [~ ym mhawb ], a 'r gwely dihalogedig:
eithr putteinwyr a 'r godinebus a farna
Duw: hynny yw, fe a 'u cospa ac a 'u damna
hwynt.

Ond i ba beth y cymmerir y boen ymma yn
datcan ac yn gosod allan faint pechod yw putteindra,
a 'r afles a dŷf ac a lifeiria ohono: lle y pallai
anadl a thafod dŷn yn gynt nag y gallai gwbl gyhoeddi
y pechod hwn yn ôl ei ddiffeithwch a 'i
anferthrwydd? Er hynny hyn a ddywedwyd er
mwyn bod i bawb wachelyd putteindra a byw
mewn ofn Duw. Duw a wnêl nas dywedpwyd
yn ofer.


¶ Y drydedd ran o 'r bregeth yn
erbyn godineb.


Chwi a ddyscasoch yn yr ail rhan
o 'r bregeth am odineb, a ddarllennwyd
i chwi ddiwethaf, mor ddifrif
y mae 'r Scrythur lân yn ein
rhybyddio ni i wachelyd pechod
godineb, ac i gofleidio glendid buchedd:

[td. 168]
a 'n bod ni yn cwympo trwy odineb i bob
rhyw bechod, ac yn myned yn gaeth-weision i ddiafol:
ac o 'r ystlys arall y 'n gwneir trwy lendid
buchedd yn aelodau i Grist: ac yn ddiwethaf mor
bell y dŵg godineb ddŷn oddiwrth bob duwioldeb,
ac y denfyn ef yngwysc [~ yng ngwysg ] ei ben i bob beiau,
drygioni ac aflwydd.

Mi a fynegaf i'wch [~ iwch ] yn awr mewn trefn â pha
gospedigaethau trymion y plagodd Duw odineb
yn yr amseroedd gynt, a pha fodd y cospodd llawer
o dywsogion bydol y pechod ymma, fel y galloch
weled fod putteindra a godineb yn bechodau mor
echryslon yngolwg [~ yng ngolwg ] Duw a phob dŷn daionus,
ac y dangosais eisoes.

Yn llyfr cyntaf Moses yr ydym yn darllen, pan
ddechreuodd dynion amlhau ar y ddayar, i wŷr a
gwragedd osod eu meddyliau mor gwbl ar
chwantau cnawdol a choeg-ddigrifwch, hyd oni
fuont fyw yn ddiofn Duw. Pan welodd Duw
eu bywyd ffiaidd anifeiliaidd hwynt, a deall nad
oeddynt yn gwellhâu, ond yn hytrach eu bod yn
cynnyddu fwyfwy beunydd yn eu pechodau a 'u
harferon aflan; fe a edifarhaodd Duw iddo wneuthur
dŷn: ac er dangos mor ffiaidd oedd gantho
odineb, putteindra, anlladrwydd a phob aflendid,
fe a wnaeth i holl ffynhonnau y dyfnderoedd
dorri allan, ac a egorodd [~ agorodd ] ffenestri 'r nefoedd,
fel y glawiodd hi ar y ddayar dros ddeugain diwrnod
a deugain nôs: ac felly y distrywiodd ef yr holl
fyd a holl ddynawl ryw, oddieithr wythnŷn o bobl
yn vnig: y rhai hynny oedd Noah pregethwr cyfiawnder
(fel y geilw Petr ef) a 'i wraig, a 'i drimab
a 'u gwragedd.

Oh pa anial blâ a daflodd Duw ymma ar holl

[td. 169]
greaduriaid bywiol y bŷd, am bechod putteindra?
Am yr hwn y dialodd Duw nid ar ddŷn yn
vnig, onid hefyd ar yr holl anifeiliaid, ehediaid,
a 'r holl greaduriaid byw. Fe a laddesid dynion ar
y ddayar o 'r blaen, etto ni ddystrywiwyd y bŷd
am hynny: ond am butteindra fe a orchguddiwyd
yr holl fŷd â dwfr, ac a ddifethwyd oddieithr ychydig.
Siampl wiw ei chofio er ein dyscu ni i ofni
Duw.

Yr ydym yn ddarllein eilwaith ddinystr Sodoma
a Gomorhah a dinasoedd eraill cyfagos
iddynt, trwy dân a brwmstan o 'r nef, am frwnt
bechod aflendid, fel na adawyd na gŵr na gwraig,
na phlentyn nac anifail, na dim ar a dyfodd
ar y ddayar heb ddinistr. Calon pwy nid * echrydia
[-: Chryna.] wrth glywed yr histori ymma? Pwy sy weddi
soddi mor ddwfn mewn putteindra ac aflendid,
na adawo weithian dros fyth heibio y fath gâs a
ffiaidd fywyd, gan fod Duw yn cospi aflendid mor
dôst a glawio tân a brwmstan o 'r nef, i ddistrywio
dinasoedd cyfain, i ladd gwŷr a gwragedd a
phlant, a 'r holl greaduriaid byw oedd yn aros
yno, ac i ddifa â thân bob peth a dyfai yno. Pa
arwyddion a ddichon bod eglurach, o ddigofaint
Duw a 'i lid, yn erbyn aflendid ac am-mhurder
bywyd? Ystyriwch yr histori hon (ddaionus bobl)
ac ofnwch ddialedd Duw.

Ond ydych yn darllein hefyd i Dduw daro
Pharao a 'i holl dŷ â phlagau mawrion, am iddo
yn annuwiol chwennychu Sarah gwraig Abraham?
Felly yr ydym yn darllein am Abimelech
brenhin Gerar, er na chyhyrddasai â hi trwy gydnabyddiaeth
cnawdol. Dymma 'r plagau a 'r
cospedigaethau a daflodd Duw ar ddynion bryntion

[td. 170]
aflan, cyn rhoddi y gyfraith (pan oedd cyfraith
naturiaeth yn vnig yn teyrnasu ynghalonnau
[~ yng nghalonnau ] dynion) er dangos faint y cariad oedd gantho
ef at briodas: ac eilwaith faint y cashae efe
odineb, putteindra a phob aflendid.

Ac wedy rhoddi y gyfraith, sydd yn gwahardd
putteindra, trwy Foses, i 'r Iuddewon, oni orchymmynnodd
Duw ddodi i farwolaeth y sawl
a 'i torrai hi? Dymma eiriau y gyfraith, Y gŵr
yr hwn a odinebo gydâ gwraig ei gymmydog, lladder
yn farw y godinebwr a 'r odinebwraig, am
iddo dorri priodas gydâ gwraig ei gymmydog.
Fe a orchymmynnir yn y gyfraith hefyd, Os delir
llangces a gŵr ynghŷd mewn putteindra, eu
llabyddio hwy ill dau hyd angau. Yr ydym ni yn
darllein mewn man arall i Dduw orchymmyn
i Moses gymmeryd y pennaethiaid, y rheolwyr
a thywysogion y bobl, a 'u crogi ar grogbrennau
yn amlwg, am iddynt naill ai gwneuthur godineb
eu hunain, ai am nas cospasent ef mewn
eraill. Trachefn, oni ddanfonodd Duw y fâth
blâ ym-mhlith y bobl am odineb ac aflendid, hyd
oni laddodd o honynt mewn vn diwrnod bedair
mil ar hugain.

Eisiau amser mi a adawaf heibio lawer o historiau
eraill o 'r Beibl sanctaidd, y rhai a ddangosant
i ni fawr ddialedd a thrwm lid Duw yn
erbyn putteinwyr a godinebwyr. Siccr yw fod
y greulon gosp a osododd Duw, yn dangos yn
eglur ddigon mor gâs gan Dduw butteindra.
Ac nac amheuwn fod Duw yn yr amser hwn yn
cashâu aflendid, cymmaint ac yr ydoedd ef yn yr
hên gyfraith: ac nas cospa ef y pechod ymma yn
ddiammau yn y bŷd hwn, ac yn y bŷd a ddaw:

[td. 171]
o herwydd Duw yw efe na ddichon arhos drygioni.


Am hynny y dlye bawb wachelyd y drygioni
hwn, ac sy yn gofalu am ogoniant Duw ac Iechydwriaeth
eu heneidiau eu hunain.

Mae S. Paul yn dywedyd ddarfod scrifennu
pob peth ar a scrifennwyd er siampl i ni, i ddyscu
ini ofni Duw, ac vfyddhau i 'w sanctaidd gyfraith
ef. O herwydd os Duw nid arbedodd y canghennau
naturiol, nid arbed ef nyni y rhai nid
ydym ond impiau, os gwnawn y cyfryw droseddau.
Os distrywiodd Duw lawer mil o bobl,
lawer o ddinasoedd, ie a 'r holl fŷd, am butteindra,
na wenhieithiwn mohonom ein hunain, ac
na thybygwn y diangwn ni yn rhyddion, ac yn
ddigosp. O herwydd fe a addawodd yn ei gyfraith
sanctaidd ddanfon plau tostion ar y troseddwyr,
neu y rhai a dorrant ei sanctaidd orchymmynion
ef.

Fel hyn y clywsoch pa fodd y mae Duw yn cospi
pechod godineb, gwrandawn weithian ryw gyfreithiau
a osododd llywodraethwyr bydol, mewn
amryw wledydd er ei gospi: fel y caffom wybod fod
aflendid yn ffiaidd ym-mhob [~ ym mhob ] dinas a gwladwriaeth
hydrefn, ac ymmhlith dynion honest.

Hyn oedd y gyfraith ym-mhlith y lepreaid, Hwy
a rwyment yr hwn a ddelid mewn godineb, ac a 'i
dygent ef dros dri diwrnod trwy 'r ddinas: yn ôl
hynny yr hŷd y byddai byw, fe a ddibrisid, a thrwy
gywilydd a gwradwydd, a gyfrifid yn ddŷn heb
ddim honestrwydd ynddo.

Ym-mhlith y Locriaid yr ydys yn tynnu dau lygad
y godinebwr.

Y Rhufeiniaid gynt a gospent odineb, weithiau

[td. 172]
â thân, weithiau â 'r cleddyf. Os delid neb mewn
godineb ym-mhlith yr Aiphtiaid, y gyfraith oedd
iddo gael ei chwippio yngwydd [~ yng ngŵydd ] y bobl, hyd fîl o
wialennodiau: a 'r wraig a ddelid mewn godineb
gydag ef, a dorrid ei thrwyn, fel y gellid gwybod
byth o hynny allan ei bod hi yn buttain, ac y ffieiddid
hi gan bawb.

Ym-mhlith yr Arabiaid y torrid pennau y rhai a
ddelid mewn godineb, oddiar eu cyrph.

Yr Atheniaid a gospent butteindra ag angau,
yn yr vn modd. Felly y gwnai y Tartariaid diddysc,
difedr.

Ac hyd heddyw ym-mhlith y Twrciaid y llabyddir
i angau yn ddidrugaredd, y gwr a 'r wraig a
ddalier mewn godineb. Fel hyn y gwelwn pa gyfreithiau
duwiol a wnaethpwyd gynt gan awdurdodau
goruchel, er tynnu ymmaith butteindra,
ac er maentaenio priodas sanctaidd, a phûr
ymddygiad.

Ac etto nid oedd gwneuthurwyr y cyfreithiau
ymma yn Gristianogion, onid cenhedloedd; etto
hwy a garent honestrwydd a phurdeb buchedd
cymmaint, fel y gwnaent gyfreithiau daionus,
duwiol, er maentaenio y pethau hynny, heb oddef
o fewn eu teyrnasoedd, odineb a phutteindra i
deyrnasu yn ddigosp.

Fe a ddywedodd Christ wrth yr Iuddewon anffyddlon,
y cyfode y Ninifiaid ddydd y farn yn erbyn
y genhedlaeth honno, i 'w chondemno, am iddynt
hwy etifarhau ar bregethiad Ionas, ac wele
(medd efe) vn mwy nâ Ionas ymma, (gan feddwl
amdano ei hûn) ac etto nid edifarhasant.

Oni chyfyd (dybygŵch chwi) yn gyffelyb y Locriaid,
Arabiaid, Atheniaid ac eraill o 'r fâth hynny,

[td. 173]
i 'r farn yn ein herbyn ni i 'n condemno; yn
gymmaint ac iddynt hwy ymgadw rhag putteindra
ar orchymmyn dŷn, ac mae gennym ni gyfraith
ac eglur orchymmyn Duw, ac er hynny nid
ydym yn ymadel â 'n haflan ymddygiad. Yn wir,
yn wir fe fydd esmwythach yn-nydd [~ yn nydd ] y farn i 'r cenhedloedd
hynny nag i ni, onid edifarhawn ni a
gwellhau. O herwydd, er bod angau corphorol, yn
ein golwg ni, yn gosp drom, dost, yn y bŷd hwn am
butteindra: etto nid yw y gosp honno ddim wrth
y blinedig boenau a orfydd ar odinebwyr, putteinwyr
a dynion aflan, eu goddef yn ôl y bywyd hwn.

O herwydd fe a geuir yr holl rai hynny o deyrnas
nefoedd, fel y dyweid S. Paul; Na thwyller
chwi, ni chaiff na godinebwyr, nac addolwyr delwau,
na thorwyr priodas, na drythyllwyr, na 'r
rhai Sodomiaidd, na chybyddion, na meddwon,
na difenwyr, na chribddeilwyr etifeddu teyrnas
Dduw. Ac y mae Ioan yn dywedyd yn ei weledigaeth,
y caiff y putteinwyr eu rhân gyd â lladdwyr,
cyfareddwyr, a 'r delw-addolwyr, a 'r rhai celwyddog,
yn y pwll sydd yn llosci â thân a brwmstan,
yr hwn yw 'r ail angau.

Er bod cosp y corph yn angau, etto mae iddo ddiwedd,
ond mae cosp yr enaid, yr hwn y mae Ioan
yn sôn amdano, yn dragywydd. Yno y bydd tân a
brwmstan, yno y bydd wylofain ac scyrnygu [~ ysgyrnygu ] dannedd,
yno y prŷf a gno gydwybod y rhai a ddamnier,
ni bydd marw byth. Oh, calon pwy ni ddifera
ddafnau gwaed wrth wrando ac ystyried y pethau
hyn.

Os yscrydiwn ac os * crynwn [-: Echrydiwn.] wrth glywed enwi
y pethau hyn, pa beth a wnawn wrth eu clywed
hwy a 'u goddef, ie a 'u goddef byth ac yn dragywydd.

[td. 174]
Duw a drugarhao wrthym.

Pwy sydd bellach wedi * soddi [-: Suddo.] mewn pechod cyn
ddyfned, a chwedy ymadel â phôb duwioldeb cyn
llwyred; ac y gwnel yn fwy o 'i hoffder a 'i ddigrifwch
drewllyd brwnt (yr hwn a aiff yn ebrwydd
heibio) nag o golli gogoniant tragwyddol? Pwy
ailwaith a 'i rhydd ei hunan i chwantau cnawdol
cyn belled, ac nad ofno ef * am boenau [-: Rhag poenau.] tân vffernol?
Ond gwrandawn bellach pa fodd y gwachelwn
butteindra a godineb, fel y rhodiom mewn ofn
Duw, ac y byddom ryddion oddiwrth yr holl artaithiau
a 'r poenau anescorol trymmion y rhai sydd
ar fedr pob dŷn aflan.

Er gwachelyd godineb, putteindra, a phob aflendid,
cadwn ein calonnau yn bur ac yn lân oddiwrth
bob meddwl drwg a chwantau cnawdol:
o herwydd os y galon a lygrir ni a gwympwn
lwyr ein pennau i bob rhyw annuwioldeb.
Hyn a wnawn ni yn esmwyth, os ni pan glywon
ein hên elyn Sathan yn ein temptio, ni chytunwn
mewn ffordd yn y byd â 'i dwyllodrus
ddichellion ef, gan ei wrthwynebu ef yn ddewrion,
trwy ffydd gadarn yngair [~ yng ngair ] Duw, a chan osod
yn ei erbyn ef yn wastadol yn ein calonnau, y
gorchymmyn hwn, a roddodd Duw i ni, Na
wna odineb, scrifennedig yw, Na wnâ butteindra.

Da fydd i ni hefyd fyw yn wastadol mewn ofn
Duw, a gosod gar [~ ger ] bron ein llygaid dôst fygythiau
Duw, yn erbyn annuwiol bechaduriaid: ac ystyried
yn ein calonnau mor frwnt, mor anifeiliaidd
ac mor fyrr yw 'r digrifwch a 'r hoffder, i 'r hwn y
mae Sathan yn ein hûdo ac yn ein llithio ni yn
wastad: ac eilwaith fod y gosp a osodwyd am y
pechod hwnnw yn anescorol ac yn dragwyddol.


[td. 175]
Hefyd arferwn sobredd, a chymmedrolder a
thymmer dda wrth fwytta ac yfed, a gwachelwn
bob chwedleu aflan, ac ymgadwn oddiwrth bob
cwmpniaeth drŵg, Gwachelwn seguryd, ymhoffwn
o ddarllen yr Scrythur lân; gwiliwn
mewn gweddiau duwiol, a myfyriadau rhinweddol;
a phob amser ymarferwn o ryw boen a
thrafel duwiol; a 'r pethau hyn a 'n cynnorthwyant
ni yn fawr i ymgadw rhag putteindra.

Ac ymma y rhybyddir pob grâdd o ddynion,
priodol ac am-mhriodol, i garu purdeb a glendid
buchedd. O herwydd mae 'r priodol yn rhwym
wrth gyfraith Dduw, i garu ei gilydd yn bur ac
yn glau, heb i vn o honynt geisio cariad dieithr.

Mae yn rhaid i 'r gŵr lynu wrth ei wraig yn
vnig, ag i 'r wraig lynu wrth ei gŵr yn vnig.
Mae yn rhaid iddynt ill dau ymhoffi ynghymdeithas
[~ yng nghymdeithas ] ei gilydd: na chwennycho yr vn o honynt
neb arall. Ac fel y maent hwy yn rhwymedig
i fyw inghŷd [~ ynghyd ] mewn duwioldeb a phob honestrwydd,
felly eu swydd hwy hefyd a 'u dlêd yw
dwyn eu plant i fynu yn rhinweddol, a darbod na
bo iddynt gwympo i * lindagau [-: Faglau.] Sathan, nac i vn
aflendid, ond bod o honynt yn bur ac yn honest
mewn priodas sanctaidd, pan ddelo 'r amser.

Felly hefyd y dylyai feistred a rheolwyr ddarbod
nad arferer na phutteindra nac aflendid ymmhlith
eu gwasanaeth ddynion.

A thrachefn os y rhai sydd heb priodi a ymglywant
ynddynt eu hunain, na allant fyw heb
gwmpeini gwraig, priodant, a byddant fyw ynghŷd
yn dduwiol, o herwydd gwell yw priodi nâ llosci.
I ochel godineb (medd yr Apostol) cymered pob
gŵr ei wraig ei hûn, a phob gwraig ei gŵr ei hun.


[td. 176]
Yn ddiwethaf, y rhai sydd yn clywed ynddynt
eu hunain, y gallant (trwy weithrediad Yspryd
Duw) fyw yn vnig, ac yn * ymattalus [-: Ddiweir.] , clodforant
Dduw am eu rhoddiad, a cheisiant bob ffordd
ac a allont i gadw ac i gynnal y cyfryw roddiad:
megis trwy ddarllein yr Scrythur lân, trwy
fyfyriadau duwiol, a gweddiau dyfal, a 'r fâth
rinweddol arferon eraill.

Os ceisiwn oll yn y modd ymma ymgadw rhag
godineb, putteindra a phob aflendid, a dwyn ein
bywyd mewn duwioldeb ac honestrwydd, gan
wasanaethu Duw â chalonnau glân pûr, a 'i ogoneddu
ef yn ein cyrph, drwy ddwyn ein bywyd
yn ddiddrwg ac yn ddieniwed, siccr y gallwn fod
o rifedi y rhai y mae ein Iachawdwr Christ yn
yr Efengyl yn dywedyd fel hyn amdanynt, Gwyn
eu bŷd y rhai glân o galon, canys hwy a welant
Dduw: I 'r hwn yn vnig y bô pob gogoniant
anrhydedd, rheolaeth a gallu yn oes oesoedd.
Amen.

I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section