Adran or blaen |
Dwyre, wawr fore, erfai arwain
Dymmawr Dydd eurwawr, da ei ddwyrain,
Dyddwaith ar euriaith i arwyrain
Drudfawr Briodawr, Eryr Brydain,
D'wysawg llym aerawg Llu mirain, Dewi,
Dewr Ri Lloegr wedi Llyw goradain.
Dithau'r per gorau ddirper Gariad,
D'wysawg mawreddawg ymarweddiad,
Deyrnwalch, eurgeinwalch, o rhoi gennad,
Dygwn, cynnyrchwn, cu annerchiad,
Derbyn, ddwys ofyn ddeisyfiad Maen.
Drudion Dirolion dy oreuwlad.
Cymmer, nid ofer yw ein Defod,
Cymmer, anhyber Gwyl in' hebod,
Cuaf wlad buraf, Ddyled barod
Cymru rywioglu, wir oreuglod,
Cymmer, ein Dewrner, fri 'n Diwrnod, Cymmer
O bêr Hyfodd-der, ein Hufudd-dod &c &c &c
Ir brig | Adran nesaf |