Adran o’r blaen
Previous section

Llythyrau Goronwy Owen at William Morris

Cynnwys
Contents

Davies 10 Goronwy Owen at William Morris, Donnington, 6 Rhagfyr 1752, BL Add. 15037 43r-46r.
Davies 12 Goronwy Owen at William Morris, Donnington, 15 Ionawr 1753, BL Add. 15037 31r-32r.
Davies 32 Goronwy Owen at William Morris, Walton, 20 Ionawr 1754, BL Add. 15037 30r-30v.
Davies 68 Goronwy Owen at William Morris, Northolt, 16 Awst 1756, BL Add. 15037 87v-89v.
Davies 9 Goronwy Owen at William Morris, Donnington, 21 Medi 1752, NLW 17B, 234-41.
Davies 17 Goronwy Owen at William Morris, Donnington, 24 Chwefror 1753, NLW 17B, 217-27.
Davies 20 Goronwy Owen at William Morris, Walton, 30 Ebrill 1753, NLW 17B, 243-7.
Davies 22 Goronwy Owen at William Morris, Walton, 2 Mehefin 1753, NLW 17B, 247-58.
Davies 24 Goronwy Owen at William Morris, Walton, 21 Gorffennaf 1753, NLW 17B, 259-64.
Davies 26 Goronwy Owen at William Morris, Walton, 12 Awst 1753, NLW 17B, 264-70.
Davies 28 Goronwy Owen at William Morris, Walton, 5 Medi 1753, NLW 17B, 270-2, 281-3.
Davies 30 Goronwy Owen at William Morris, Walton, 18 Rhagfyr 1753, NLW 17B, 283-8, 273-4.
Davies 35 Goronwy Owen at William Morris, Walton, 17 Chwefror 1754, NLW 17B, 274-7.
Davies 37 Goronwy Owen at William Morris, Walton, 1 Ebrill 1754, NLW 17B, 278-80, 289-91.
Davies 42 Goronwy Owen at William Morris, Walton, 4 Mehefin 1754, NLW 17B, 291-4.
Davies 43 Goronwy Owen at William Morris, 25 Mehefin 1754, NLW 17B, 294-305.
Davies 44 Goronwy Owen at William Morris, Walton, 12 Gorffennaf 1754, NLW 17B, 305-11.
Davies 46 Goronwy Owen at William Morris, Walton, 16 Hydref 1754, NLW 17B, 311-19.
Davies 50 Goronwy Owen at William Morris, Walton, 2 Rhagfyr 1754, NLW 17B, 319*-27, 329.
Davies 52 Goronwy Owen at William Morris, Walton, 21 Ionawr 1755, NLW 17B, 330-5.
Davies 62 Goronwy Owen at William Morris, Northolt, 29 Rhagfyr 1755, NLW 17B, 338-43.
Davies 73 Goronwy Owen at William Morris, Northolt, 25 Mehefin 1757, NLW 17B, 343-4.



[td. 43r]
Donnington December 6th 1752
Dear Sir,
Ynghylch Cywydd Coffadwriaeth am Farged Morys o Bentre Erianell. Curadaeth &c ym Môn — ac Ystyfnigrwydd yr Awen
It is a sad Case to be forced to begin a Letter to a Friend
with an Apology. I own I had need to do so, tho' at present
I

[td. 43v]
shall only beg your Pardon for my Dilatoriness which
I doubt not but you will grant without an Apology.
It is a sufficient Punishment to be deprived by my own Tardiness of the
Pleasure of your Letters. I have not heard from
Gallt Fadog since the beginning of October, tho' I wrote about
a Month since. Mr. Llewelyn Ddu talked of going to London & I
fear he had set out before my Letter reach'd Ceredigion. I've
heard from the Navy Office not long since, and am still a Letter
indebted to Mr. R. M. which I intend to discharge very soon.
Chwi gawsech glywed oddiwrthyf yn gynt ond odid oni buasai
y Rhew tost a fu 'n ddiweddar, Nid yw'r Awen on'd fferllyd
ac anystwyth ar yr Hin oer yma. Ni chaiff Dyn chwaith
mo'r Amser i brydyddu gan fyrred y dyddiau, a chan ymysgrythu
ac ymwthio i Gonglau, a pha beth a dâl Creft
heb ei dilyn? Ba wedd bynnag llyna ichwi ryw fath ar bwtt
o Gywydd o Goffadwriaeth am yr Hen Wraig dda o Bentre Eriannell
gynt; Hoff oedd genyf hi yn ei Bywyd, a diau fod rhywbeth
yn ddyledus i Goffadwriaeth Pobl dda ar ol eu claddu, yr hyn,
er nad yw fudd yn y Byd iddynt hwy, a eill ddigwydd fod yn
llesol i'r byw i'w hannog i ddilyn Camrau y Campwyr gorchestol
a lewychasant mor hoyw odidog yn y Byd o'u blaen hwynt.
Nid yw cymmaint fy Rhyfyg i a meddwl y dichyn fod ar law
Burgyn o'm bâth i ganu iddi fal yr haeddai. Beth er hynny?
Melysaf y cân Eos, ond nid erchis Duw i'r Frân dewi. Yr
Asyn a gododd ei Droed ar Arffed ei Feistr, ac nid llai ei
Ewyllys da ef na'r Colwyn, er nad hawddgar ei Foesau.

[td. 44r]
F'all Bardd Du ddangos yr Ewyllys, ac nid all Bardd Côch
amgen, cyd bâi amgen ei Gywydd. I don't remember
that I ever saw a Cywydd Marwnad by any of ye Antients
(whom I would willingly imitate) & so can't tell how such
a Cywydd ought to be made; neither do I call this a
Cywydd Marwnad, but Cywydd Coffadwriaeth &c. I did not
rightly know how to go about it, for I could not form any
proper Idea of it in my Mind & so was obliged (as it
were) to build without a Plan. I saw myself under
several Difficulties; Poets in these Cases are (& I think
are allow'd to be, tho' they ought not) very lavish of
their Praises, even to an Hyperbole & seldom free from
Flattery even of the grossest Kind, i.e. Hard lying. I
propos'd to myself to keep a strict Eye upon Truth, but
then I saw that my Truth would of Necessity be so like other
Men's Lyes, that the Counterfeit would hardly be distinguishable
from the Sterling, and for that reason I was afraid to
say what my Love of Truth would needs force me to say.
I saw that I could say nothing of that excellent Woman
(tho' perhaps true of her only, & peculiar to herself)
but what had been ascribed before by the prostituted
Breath of some execrable Poetaster or other to (perhaps)
the most worthless Miscreants that ever Death spew'd at
the cooking of. I'm sure my main Endeavour was to
avoid all Appearances of Flattery, & that, at the Expense
of suppressing some Truths, & if any thing looks like it, it is

[td. 44v]
foreign to my Intention & I utterly disclaim the Meaning
of whatever may be perverted to such a Construction. These
were some of my main Difficulties, and whether I have
surmounted 'em I leave you to judge. I have one favour
to ask you, and that is, That you would present this Cywydd
in my Name to your Father (whom I'm really sorry for)
& send me a Copy of Bardd Côch's Cywydd, i gael gweled
pa ragor rhwng coch a Du. But for Love's
sake don't you take Example by me in deferring to
write, I beg I may hear from you as soon as conveniently
may be, and I shall never any more be faulty in point
of Expeditiousness. Os gwyddoch pale y mae, rhowch fi
ar Sathr y Brawd Llewelyn Ddu, 'rwy'n tybio ei fyned i
Lundain cyn hyn, ac os felly, yn iach glywed na
Siw na Miw oddiwrtho hyd oni ddychwelo. My
Compliments to Mr. Ellis, & if he chooses to join in the Publication
of the Cywyddau he shall be very welcome
& have my Thanks too. But I am afraid the Cywyddau
will never be printed, because I doubt the Money cannot
be raised. The Rate of printing at Salop is 2 Guineas a
Sheet for 1000 Copies, which is three times too much to
bestow upon them, & there would not go above 2 or 3 at most
on a Sheet. For my Part I am very indifferent whether
they are printed or not. Ai byw'r hen Gristiolus wydn
fyth? Is the Curacy of Llanrhuddlad disposed of? What other

[td. 45r]
Curacy is vacant? for I am sure I shall never better my
self by staying here. I have already sufficiently tried the
Generosity of my Scotch Patron, & find it too slender to
lean on. He is the hardest Man I ever dealt with. —
Waethwaeth yr a'r Byd wrth aros yma, prin
y gellir byw yr awrhon (a pha fodd amgen tra bo'r
Brithyd am Goron y Mesur Winchester, a'r Ymenyn
am 7 Geiniog a'r Caws am dair a dimmai'r Pwys?)
a pha sut y gellir disgwyl byw tra cynnydda'r
Teulu ac na chynnydda'r Cyflog? Y llangciau a ânt
fwyfwy'r Clwt, fwyfwy'r Cadach, ac ymhell y
bwyf, (ie pellach o Fôn nag ydwyf) os gwn i pa'r fyd
a'm dwg. Ni's gwybum i mo'm geni, er clywed gan
fy Mam ganwaith, nes dyfod i fysg y Saeson drelion
yma. Och finneu! mi glywswn ganwaith sôn am eu
Cynneddfau, a mawr na ffynnasai genyf eu gochel. Mi
allaf ddywedyd am danynt fal y dywaid Brenhines Seba am
Solomon, "Gwir yw'r Gair a glywais yn fy Ngwlad fy hun
am danynt, etto ni chredais y Geiriau nes im ddyfod ac i'm
llygaid weled; ac wele ni fynegasid imi 'r Hanner". Nid oes
genyf fi lid yn y Byd i'r Doctor E__s, mae yn rhydd iddo
fo ddictatio fal y fynno, onid fod yn rhydd i minnau
wneuthur yn fy newis ai canlyn ei Ddictats ef ai peidio,
a pheidied O â digio oni chanlynaf, ac yno, fe fydd pob peth
o'r gorau. Cenawes ystyfnig ydyw'r Awen, ni thry hi

[td. 45v]
oddiar ei Llwybr ei hun er ungwr. Ac yn wir nid
yw ond digon anrhesymmol i Wr na fedd nag Awen
na'i Chysgod, gymeryd arno ddysgu un a'i medd
pa fodd iw harfer a'i rheoli. F'ellir gwneuthur
Pwtt o Bregeth ar y Testun a fynno un arall; ond
am Gywydd ni thâl Ddraen oni chaiff yr Awen ei Phen
yn rhydd, ac aed lle mynno. A phwy bynnag a
ddywedo amgen, gwybydded fod ganddo Awen ystwythach
na'm Hawen i, 'rhon ysgatfydd sy' mor
warrgaled o ddiffyg na buaswn yn ei dofi yn ieuangach.
Cennad i'm crogi onid wyf yn meddwl fod
yr Awen fal llawer Mireinferch arall, po dycnaf
a diwyttaf y'i cerir, murseneiddiaf a choeccaf
fyth y'i cair. Nis gwn, pe'm blingid, pa un
waethaf a'i gormod Gofal a'i gormod Diofalwch.

We have here in this Parish of Wroxeter some
very curious Pieces of Antiquity lately found, they are three
Roman Monuments, set up, as appears by the Inscriptions
(which are very plain & legible & the Stones
entire) about the Time of Vespasian. One being for one
Caius Mannius a Prætorian Legate of the 20th Legion
& another for Marcus Petronius an Ensign or
Standard Bearer of the 19th Legion. Wroxeter
was once one of the finest Cities in Britain (tho' now

[td. 46r]
but a poor Village) as appears by the Ruins of it
that are now to be seen & are daily more & more discover'd
 & the vast Number of Roman Coins that
are yearly & daily found in it. It was call'd by
the Romans Uriconium & Viroconium
(perhaps from Gorygawn or Gwrogion) & probably
destroy'd by the Saxons, for we have here a Tradition
that it was set on Fire by a Flight of Sparrows
that had Matches tied to their Tails for that Purpose
by the Enemy. after this Letter read that in Page XV and then read No. 5 in Page 7.




[td. 31r]
Donnington Iau January 15th 1753.

Garedig Syr a'm hanwyl Gydwladwr.

Llyma'ch Epistol o'r 30n o Ragfyr o'm blaen a chan
Diolch amdano. Da ydyw'r Newydd fod y Teulu ieuaingc
wedi dyfod trwy'r hyn gwaethaf o'r Frech Wenn, Mi
ddymunwn pe mynnai Dduw, fod fy Neufab innau'n
yr un Cyflwr. Mae'r Frech wenn (er nad gwynn ei Gwaith)
yn britho llawer Wyneb yn y Parthau hyn, ac yn priddo
rhai, er na channadhäodd Duw iddi etto ymweled a'm
Teulu fi. Diolch am y Canu côch, Mi ddygaswn fod
Huw yn lewach Dyn na hyn. Ni thalai fy Nghywydd
i Gaccymwcci, a hwn ynteu (rhyngoch chwi a
minnau) nid yw ond Cywydd o waith Prydydd Prenn
Bawach na Gwaith Mab Owen.
Ond gobeithio 'rwyf fod fy Nghowydd i yn beth gwell yr
Awrhon, nag oedd pan yrrais ef i chwi, oblegid mi a
newidiais gryn ddarn ohonaw cyn ei yrru i Allt
Vadog ac i'r Navy Office. Mi glywais o Allt Vadawg
[d]dwywaith er pan ysgrifennais i attoch o'r blaen; Yn y
diweddaf onid un o Allt Vadog yr oedd atteb oddiwrth
Mr. M____k o F_d O_g_n nad oedd wiw meddwl am
Gristiolus. Felly dalied yr hen Gorph ei Afael yn y

[td. 31v]
Pared yr hyd a fynno. Mae genyf gan diolch i Mr.
Ellis yna am ei Ewyllys da; 'Rwy'n coelio mai
gwr o'r mwynaf yw i'r sawl a'i deallo, a thybio 'rwyf
pe buasai gas genyf ef (yr hyn ni bu erioed) y
gwnaech imi ei hoffi heb y gwaethaf imi.
Peth mawr yw clywed Geirda i un
gan wyrda fal chwi ac eraill a ellir eu coelio.
Mi wn na chair Clod gan y cyfryw heb ei haeddu, O
herwydd fod pob Gwr da uwchlaw Rhagfarn a
Gweniaith. Ni fynnwn i iddo er dim gymeryd
Trafferth arno i chwilio am Bentiriaeth imi, f'allai
y darparai Dduw imi rywbeth cyn y bo hir. Nid wyf ar
fedr aros yma ond lleia fyth ag a allwyf, ond gwell
aros yn unman na drwg rodio. I would not have him
bespeak or engage any Thing for me, for that may
disappoint somebody; all that I desire is, to hear
what Vacancies there are, and how much worth,
and let the accepting be in my own Choice, otherwise
I may be tied (nolens volens) to a blind Bargain.
Iè, drud gethin yw argraphu Cywyddau yn y Mwythig, yn
enwedig os mynnir Papyr da. Ni chlywais oddiwrth
y Person Williams er ys talm mawr o Amser. Nid
gwiw genyf ymhel ag ysgrifennu Nodau ac Esponiad
hyd onis gwypwyf yn siccr pa'r un a wneir ai eu
hargraphu ai peidio, ond nid ydyw hynny (deued a
ddel) oddiar waith dwyawr neu dair o Amser.

[td. 32r]
Gweled yr wyf nad yw ond Gwaith Gwêllt
imi roi fy Ewyllyswyr da i'r Gôst i argraphu peth
er fy mwyn i, na ffyrlingwerth o lês imi, na
hwythau, ond rhoi Gwaith i ambell Geccryn i
'spio Gwallau ac i'm coegi a'm cablu am fy Ngwaith.
Llyna Arfer rhan fawr o bobl Fôn, iè a phob Gwlad
arall gynt, ac odid eu bod etto nemmawr gwell
eu Moesau. Am hynny, synhwyrolaf y tybiwn
adael iddynt ganu Dyriau Elisa Gowper o Lanrwst,
'rhyn fo hoffaf ganddynt. Etto, gwnewch chwi a
fynnoch; os eu hargraphu a welwch yn orau,
ni phrisiaf fi ddraen yn y Cabl a'r Gogan a gaffwyf
gan Bennaubyliaid. Prin iawn yw'r Arian gyda
mi, prinnach o lawer na'r Cywyddau, ac onid è
ni fyddwn chwaith hir yn ymarofyn pa un a
wnaid ai eu hargraphu ai peidiaw

Ydwyf
Eich Gwasanaethwr
Gro: Ddu




[td. 30r]
Mabysgrif o ddarn o Lythyr at Mr. Wm. Morris,
a'r Llythyr hwnnw oedd yn cynnwys Marwnad
Mr. John Owen o'r Plâs yng Ngheidio yn Lleyn

NB. Y Darn hwn a'r Llythyr sydd yn nesaf ar ei
ôl a ddaethant i'm dwylaw wedi ysgrifennu
ohonof y Llythyrau eraill.

Wele dyna ichwi'r Farwnad, fal y mae, eithr nid gwiw genyf
fyned i roi'r Briodasgerdd ar lawr ar hyn o Bapir, canys
da y gwn nad oes mo'r digon o Le i'w chynnwys. Prin y
tâl i'w gyrru i neb, oblegid nis meddwn un Gramadeg
pan wnaethpwyd hi, ac nid oes ynddi namyn dau fesur
yn unig, sef, Cywydd Deuair hirion a Chywydd Deuair
fyrrion, ond bod y rheini wedi eu gwau a'u plethu
groes ymgroes trwy eu gilydd, ac nis gwyddwn y
pryd hyny Nemmawr o fesur arall. Yr oeddwn
wedi llwyr ddiflasu ar rygnu yr un peth ganwaith
trosodd, a braidd na roeswn ddiofryd byth wneuthur un
Braich o Bennill hyd oni chawn Ramadeg. A
phe cawswn Ramadeg yn gynt, e fuasai gant o bethau
wedi eu gwneuthur ymhell cyn hyn. Nid oedd arnaf fi
eisiau (a pha raid?) yr un Gramadeg i ddysgu'r Iaith.

[td. 30v]
Cymmaint ag oedd yn ôl oedd Engraphau o'r
Pedwar Mesur ar hugain. Ac nid er Bôst na
Bocsach yr wyf yn dywedyd, yr wyf yn amhau fod
fy Mhen a'm Hymmenydd fy hun, cystal am yr Iaith
(neu well) a'r Gramadeg gorau a wnaethpwyd etto.
Os bydd genyf yn y Man Awr iw hepgor, mi a d'rawaf
y Briodasgerdd i lawr ar hanner Llenn arall o
Bapir. Mi glywais y Dydd arall o Allt Fadawg,
ac yr oedd pawb yn iach, ond achwyn yn dost yr
oeddid ar Greulondeb a Dichellion yr Hwyntwyr.
Nid oedd y Llythyr ond byrr, a hynny i ofyn Cennad
i newid Gair neu ddau ynghywydd y Farn i gael
ei yrru i Lundain allan o law; Ac fe ddywaid
y gwnai rai Nodau ychwaneg arno, heblaw a
wnaethwn i fy hun, yr hyn a ddymunais arno
ei wneuthur. Duw gyda chwi. Wyf yr eiddoch

Gro: Ddu.




[td. 87v]
Northolt Awst y 16.
1756.

Y Caredig Gydwladwr.

Mi gefais yr eiddoch o Ebrill y 23, ynghyd a Chywyð
gorchestol y Bardd coch, a diolch ichwi am danynt. Yr ŷch
chwi (ac felly'r Llew yma hefyd) yn taeru fod yr hen Goch
druan wedi rhyw led hurtio; ond erbyn ystyried ol a blaen,
glew y gwelwn i'r hen Gorphyn. Nid oes ar y Cywydd
Gamp yn y byd; ond y mae ynddo lai o Eiriau segur
nag a fyddai'n arferol o fod yn ei Gywyddau ef, iè ac
ynGhywyddau Gwyr dysgedig a sorrent am eu henwi'r
un Dydd a'r hen Goch. Ac os rhydd iddynt hwy hepian,
ni fyddai ryfeddod yn y byd i'r Côch drymgysgu
a chwrnu hefyd. Gwrda'r hen Geiliog meddaf i,
dywedwch chwithau a fynnoch. Mae yma atteb
gorchestol i'r hen Ddyn wedi ei wneud er ys ennyd,
ond mae'r Llew i'm rhwystro iw yrru yna, ac
onid è 'roedd yn fawr fy Mwriad i yrru attoch
y tro yma. Dyma fal y mae'r Peth yn bod —
Fi a wnaethwn gywydd o 200 llinell neu 'chwaneg,
a'i ddechreu ydoedd atteb i'r Côch, a hynny ynghyd
40 llinell neu 50, ac oddiyno allan yr oedd Mawl
i Ynys Fôn, a chofrestr o'r Beirdd hynottaf a fagwyd
ynddi gynt, a descrifiad prydferth o'r Wlad a'i hamryw

[td. 88r]
Doreithiau, megys Anifeiliaid, Pysg, Adar, Yd, Caws
Gwlan, Mwyn, a Chanpeth cyffelyb. Mi yrrais
y Cywydd i'r Llew, ac ynteu a yrrodd attaf ddoe fal hyn,
"It's pity your Cywydd Mon did not stand upon its own
"bottom without being tack'd to such a worthless
"Piece as that of Bardd Coch's. The Man meant well,
"but it is the worst thing he ever wrote. But whatever
 it is, This excellent Description of yours of the
"Island should not be read the same Day with it, for it
"is too like feeding a Man with stinking Meat the
"first Dish, & the second with fresh Ortelans." Felly
chwi welwch fal y mae; fe gŷst gwahanu'r Cywydd
yn ddwy ran, y gyntaf yn bwt byrr o atteb i'r Côch
o'r Foel, a'r ail yn Glamp o Gywydd Mawl Mon;
a bid siccr ichwi'r ddau y tro nesaf. Iè, meddwch
chwithau, pa bryd a fydd hynny? Fy atteb yw,
Nad ewch i 'mhel i ymliw a mi, am fy Niogi,
canys os diog fi, mi wn pa le mae imi Gymmar,
a moeswch yma'ch llaw hyd at yr Arðwrn;
ond chwi a'i cewch pan atteboch hwn, ac nid
cynt. Dyma fi'n gyrru ichwi Gywydd yr Arglwyð
Llwdlo'r tro yma, y Gymraeg o un tu i chwi,
a'r Lladin o'r tu arall i Mr. Ellis. Fe fu 'r
Lladin trwy ddwylo rhai o'r Gwyr dysgediccaf
y ffordd yma ac yr oedd yn bodloni pawb yn burion,
Nis gwn i beth a ddywed Mr. Ellis wrtho. Ac am

[td. 88v]
y Gymraeg hi aeth trwy Bawen y Llew yn ddiangol
ac nid rhaid iddi ofn nemmor un arall. Dydd Iau
diweddaf y rhoes y Llew y Gymraeg yn llaw'r Iarll,
ac yntau a ddywawd, It is a pity but there was a
Translation of it, ac eb y Llew wrtho ynteu, Here it is,
ac a roes y Lladin yn ei law ef; felly'r oedd yr Iarll
yn ymddangos yn fodlon iawn i'r Peth. Yno fe
ofynnodd y Llew gennad iw hargraphu a Nodau Seisnig
arnynt, a'r Iarll a ddywawd, "I am not a proper
Judge of the Excellency of it, but will shew it a friend
of mine a great Critic, & then you shall know, but
I am so much a Judge of it that, you may depend
upon it, I shall take care of Gronovius" &c &c —
Dyna'r cyfrif a gefais i gan y Llew, ond fe ŵyr
Duw (a Dyn hefyd) nad oes rhith o Goel ar Wyr
mowrion yr oes yma. Ond doed a ddel, Gwrda'r Llew!
a Bendith yr Arglwydd iddo am ei boen. Er mwyn Duw,
os gwelwch hen Berson yn y Byd yn myned ar Anghyfod,
mae fal y cair gwybod gennych. Wele bellach
chwi gewch rywfaint o hanes y Twrstan—Yr wyf
er dechreu Haf yn ceisio hel ynghyd ryw ychydig o'm
Cywyddau a'm Hodlau anwiw fy hun iw 'sgrifennu
mewn Llyfr gyda 'u gilydd; ond yn wir (fal y mae
mwyaf y cywilydd imi) ni fedraf ddyfod o hyd iw
hanner nhwy. Ond pa ddelw bynnag mi dyrrais
o Gerpyn i Gerpyn ynghylch 25 neu 27 o honynt.
Ped f'asent genyf oll ynghyd, mi 'sgrifennaswn bob un


[td. 89r]
yn ei drefn ei hun, sef holl waith pob blwyddyn gyda'u gilydd;
ond gan nad ydynt nid oes genyf ond rhoi i lawr
bob un fal y delo i'm llaw. Mi gefais fenthyg 7 neu 8
o honynt gan eich brawd Richard ac y mae'n siccr
genyf fod genych chwi rai na weloð efe erioed monynt.
Mi ðymunaf gan hynny arnoch yrru imi
Gopïau o gynnifer o honynt ag nad ydynt genyf.
Chwi gewch weled pa rai sydd genyf, a pha rai nid
ydynt, wrth ddarllen y Daflen sy'n canlyn o Gynwysiadau
fy Llyfryn i. — [Y Daflen oedd yn
cynnwys y 29 cyntaf o'r Cywyddau, &c ynGhofrestr
y Diddanwch Teuluaidd namyn rhif. 12. 16. 19
a 22; ac yn lle y rheini yr oedd
Brut Sibli__________Yolafi Naf o nef i'm noddi 1754
Do. in English______Celestial Powers give Ear &c]

Nid oes etto yn y Llyfr brith ond hyn yna; Dyma'n
canlyn daflen o'r rhai sydd genyf wrth fy llaw, ond heb
eu 'sgrifennu yn fy Llyfr; a rhai hynny ydynt
[heblaw rhai Canüau ag ydynt yn y Diddanwch Teuluaið]
Cywydd y Cynghorfynt. Nid oes genyf i yma un
ychwaneg am y wn; ond mae'n gof genyf wneuthur
o honof [rhai Canüau eraill ag ydynt yn y Llyfr ucho]
Ac y mae'n atgof genyf wneud o honof Gywydd o Glod
i Arddwriaeth a Garddwyr. Os oes genych yr un
o'r rhai yna, da chwi, gadewch gael Mabsgrif o
honynt. Ond nid eu hysgrifennu yn fy Llyfr yw'r

[td. 89v]
unig beth wyfi 'n ei wneud iddynt; yr wyf
yn trwsio llawer iawn arnynt cyn eu rhoi yno, rhag
cael Mefl o'u plegid pan f'wyf yn bridd ac yn lludw. Mae
rhan fawr o honynt wedi eu hail fwrw fal mai prin y
gwyddech mai'r un rhai ydynt, a hyny a allech
ddirnad wrth Farwnad eich Mam, yr hon a rof i
lawr fal y mae yn y llyfr brith (os bydd genyf le)
i gael o honoch weled y rhagoriaeth. Mae'n debyg
y bydd genyf ddigon o le hefyd, oblegid nad oes genyf
ddim arall iw ddywedyd ond bod pawb yn iach a garoch,
ac Adda ynteu'n Gawr ac yn gorchymyn attoch
tan arwydd fod genych ffrengcyn a yrrodd ichwi
'n pydru yn eich ymyl. Dyma finnau'n gyrru
ichwi dri o rheiny, fal na chaffoch mo'r lle i
wneud gwag Esgusion o hyn allan. Fe fu'r
Penllywydd o'r Gors yn gedol iawn wrthyf yn
ddiweddar, felly, amlaf y Mel pan hidler, meddant
hwy gynt. Yr eiddoch &c

Rhyfedd o'r Rhagoriaeth wnaeth y ffrwgwd o
Achos y Delyn Ledr — Fe weddai na yrrodd
Gro. ond tri Llythyr wedi hynny at Mr.
Wm. Morys mewn dwy Flynedd. Rh.



[td. 234]
Dear Sir, Donnington Sept. 21. 1752
Mi a dderbyniais eich caredig Lythyr o'r
31. o Awst yr un munud yr oeddwn yn cau fy
Llythyr at eich Brawd Llewelyn, sef oedd hynny
Medi'r 16 yn ôl y Rhif newydd. A hyn a roes
imi Gyfleusdra i chwanegu darn at ei Lythyr
ef Ymherthynas i'r hyn yr ych chwi 'n ei grybwyll
yn eich Llythyr; a gobeithio y câf atteb cysurus.
Nid oes gennyf amgen (a pha raid?) i'w roi i
chwi, na Bendith Dduw a Diolch am eich Caredigrwydd
a'ch Cymmwynasgarwch a'ch Gofal

[td. 235]
am danaf. Drwg iawn ac athrist genyf y Newydd
o'r Golled a gawsoch am eich Mam; Diau mai tost
a gorthrwm yw'r Ddamwain hon i chwi oll, chwith
anguriol ac anghysurus yn enwedig i'r hên wr
oedranus, eithr nid colled i neb fwy nag i'r Cymmydogion
 tlodion. Chychwi oll, trwy Dduw, nid
oes arnoch Ddiffyg o ddim o'i Chymmorth yn y
Bŷd hwn, ac a wyddoch, gyd â Duw, i ba le yr aeth,
i Baradwys, Mynwes Abraham, neu wrth ba Enw
bynnag arall y gelwir y Lle hwnnw o Ddedwyddyd
lle mae Eneidiau'r ffyddloniaid yn gorphwys
oddi wrth eu llafur, hyd oni ddelo Cyflawniad pob
peth. Ac yno wedi canu o'r Udgorn diweddaf a
dihuno 'r rhai oll a hunasant yn y llwch, y caiff
pob Enaid oll eu barnu yn ôl eu gweithredoedd
yn y Cnawd; a chymmaint un a hunasant yn
yr Arglwydd a drosglwyddir i Oruchafion Nefoedd,
yno i fod gyd â'r Arglwydd yn oes oesoedd. — Ond
nid wyf fi yma yn amcanu pregethu mewn
Llythyr, ac afraid, agatfydd, fuasai imi ddywedyd
dim wrthych chwi ar y fath achos; oblegid eich
bod fel yr wyf fi yn dyall yn fwy cydnabyddus
â Brenhin y Dychryniadau na myfi, ac felly'n

[td. 236]
llai'ch arswyd o honaw; canys mi glywais iddo o'r
blaen fod yn anian agos attoch, cyn nesed a dwyn
ymaith yr ail rhan o honoch eich hun, sef Asgwrn
o'ch Esgyrn a chnawd o'ch cnawd chwi. Duw, 'r hwn
a'i galwodd hi i Ddedwyddwch a roddo i chwi oll
Amynedd a Chysur. — I'm sorry my Letter to Mr.
Ellis was not kind enough, I think I thanked him
for that and all other favors. What! did he expect that
I should burst out in Ecstasies and launch forth into
a Panegyrick on his Extraordinary Erudition and
deep Skill in his Mother's Tongue, a Specimen whereof
he had sent inclosed in his Letter: I was not so
well bred as to learn to flatter, and if that was what
he expected, I am not sorry he was disappointed.
I thought the Doctor had been a Man of sound Ears,
and could take up with Truth in it's own native
Dress without the Bawd's-sticks and whorish Garb
of soothing and flattery. I have known him of old
to be of a morose and peevish temper, an Instance
whereof he gave me at your House at Holyhead; for,
having given me a Thesis to make a Theme on,
when I waited on him with it, made, I suppose, in
the best manner I was then able (which was no

[td. 237]
way contemptible, considering my Years) the good
Dr. (I conceive, expecting I should have outdone himself
and Tom Brown too) fell into such Extravagancy
of Passion as little became him, crying What Stuff
is here! Out upon it! I've done with you! I don't
want your Latin, I make good Latin myself (a
wonder forsooth, for a fellow of a College) and a
great deal to the same Purpose. Now I might as
well have sent him back his Welsh paper with a
What  Stuff! I can write better Welsh myself (a
greater wonder) and I don't want it &c., &c. And
might have added likewise, and can write as good
Latin or any other School Language from Mother
to Moses. However, if want of kindness in my
Letter is the Reason why Cywydd y Farn is dropt,
I am no way concerned at it, let him know (with
Thanks and Compliments) that he does me a special
and notable piece of Service. But if it be
for want of Notes &c. surely he that could make the
Cywydd, can also write Notes on it. And if the
Noise about it is so far gone abroad as to raise
a general Expectation, I don't know but it may
be adviseable to print it, & even requisite in

[td. 238]
some measure. Now your Crown (if you can
find in your Heart to part with it upon so trifling
an Occasion) and mine and another of Mr Hugh
Williams's will compass it, & we may have it and
some two more printed here, under my own Eyes,
at Salop, and afterwards equally divided betwixt
us to be disposed of at Pleasure. As to our National
Indolence and Contempt of our own
Language, we can't take one View of the State
of Letters, but we must find Instances of it. 'Tis
a melancholy Consideration; so full of Discouragement,
that I choose to say no more of
it. I've received the repeated favors of two Letters
from your Brother Richard, and have in answer
to the 2d at his Desire, sent him Cywydd y Farn,
and expect next post to hear from him again.
Da iawn a fyddai genyf ddyfod i fyw ym Môn,
o's gallwn fyw yn ddiwall, ddiangen, ac nid wy'n
ammeu na byddai Langristiolus yn ddigon imi
i fagu fy mhlant pei caid. Ni rwgnach ffrencyn
er dwyn llenn gyfan o Bapir na phed fai onid
hanner hynny, ac am hynny mi yrrais i chwi,
o'r tu arall i'r llenn, ryw fath o Gywydd, nid y
gorau, ond y diweddaf a wnaethum. Mi a'i

[td. 239]
gyrrais i Geredigion yn fy Llythyr diweddaf; on'd
ni chlywais etto pa un ai Da ai Drwg ai canolig
ydyw. Dyma fo i chwi fal y mae genyf finnau.
Llawer iawn o Drapherthion a Phenbleth a roes
Duw i'm rhann i yn y Bŷd brwnt yma, ac onide
mi fuaswn debyg o yrru i chwi ryw fath [o] Gywydd
Coffadwriaeth am yr hên wraig elusengar o
Bentre Eriannell; on'd nis gallaf y tro yma. Mae
'r Ysgol ddiflas agos a'm nychu fi. Pa beth a
all fod yn fwy diflas a dihoenllyd i Ddŷn a f'ai'n
myfyrio, na gwastadol Gwrnad a Rhingcyn
Cywion Saeson? Prin y câf odfa i fwytta fy
mwyd ganddynt, bychan a fyddai fod Cell haiarn
i bob un o honynt o'r neilldu gan yr ymdderru
a'r ymgeintach y byddant, ac fal tynnu Afangc
o Lynn yw ceisio eu gwastrodedd. Ond nid hynny
mo Gorph y Gaingc chwaith; mae'r Rhieni
yn waeth ac yn dostach na'r Plant. Pobl giaidd,
galedion, ddigymmwynas, annoddefus ydynt oll;
a'r Arian yn brin a'r Cyflog yn gwtta, a'r Cegau
'n aml, a'r Porthiant yn ddrud gyd a minnau.
Duw a'm dycco o'u mysg hwynt, i Nêf neu
Gymru 'r un a welo'n orau. I would not have you
to communicate the Contents of my Letter to

[td. 240]
Mr. Ellis, not that I fear him or any of his kidney,
but because I suppose his Spleen is already on
the Stretch, and more Provocation would do him
Harm. If his own ill Nature and Pride carries
him to an indecent Height, it is what I cannot
help; I am sure I design'd him no Offence or
Affront. If his Notions of things and mine do
not exactly tally, where is the Harm of it? Our
Thoughts and Sentiments are free born and can't
be brought into Subjection to any one, and
like our faith, can be wrought on by nothing,
but the Convictions of Reason and Argument.
Whatever Cessions and Compliances may be
squeezed out of us by Awe and Interest are but
mere Hypocrisy and Dissimulation. And for him
to deny me the Liberty of enjoying my own
Sentiments (which by the by, I doubt not, were
juster than his own in that Case) is, I say, as
great a piece of Tyranny as ever the Man
of Rome usurp'd over Men's Consciences. I beg
you would let me know in your next what Part of
my Letter he was principally offended at.
You may, if you please, make my Compliments

[td. 241]
to him as usual and, if you will, shew him the Cywydd;
which I wrote on the other side on purpose
that it might be cut off from the Letter. I have no
more to add at present but that I am, Dear Sir,
your most oblig'd humble Servant
Donnington, Sep.r 21.st 1752. Gronow Owen
P.S. If Ll. Grist.us could be had at all, I suppose it would
not be till after the Death of the present Incumbent
Mr. Griffith. Mi adwaen yr hên Gorph, a hên
Walch gwydn yw mi a'i gwrantaf. I don't understand
this Affair rightly, I am very well acquainted
with Esq. B_dv_l, but would not take the World to write
to him but on a sure footing  — Duw gyda chwi.




[td. 217]


Llythyrau y Parchedig Gronwy Owen, alias Gronwy
Ddu o Fôn, at Mr. William Morris o Gaergybi.


Donnington Feb. 24. 1753.
Garedig Syr.
Llyma'r eiddoch o'r 10.ed yn f'ymyl er ys wythnos.
Er hoffed yw gennyf eich Epistolau, etto nid wyf mor
annioddefgar nad allwn weithiau aros eich Cyfleusdra
am danynt, nag mor sarrug nad allwn
faddeu rhyw Swrn o'ch Esceulusdra o b'ai raid,
a chyd-ddwyn a'ch Annibendod am nad wyf fy
hun mor esgud ag y gweddai. Felly boed siccr i
chwi nad ymliwiaf byth a chwi o'r ethryb hwnnw,
a phed fawn Bâb, chwi gaech lonaid y Cap
Côch o'm Pardynau. Prin y gallech goelio ac
anhawdd i minnau gael Geiriau i adrodd mor
rhwymedig wyf i Mr. Ellis a chwithau. Diau
mai o wir Serch ar Ddaioni, ac nad o ran
Cydnabyddiaeth neu un Achos arall o'r cyfryw,
y mae Mr. Ellis cymaint ei Garedigrwydd;
a Duw (Awdur pob Daioni) a dalo iddo. —

Fe orfydd arnaf, yn ddiammau, chwilio am
ryw le cyn y bo hir, ac felly, debygaf, y dywed

[td. 218]
wch chwithau pan wypoch fy Hanes. Mae genym
yma ryw ddau Ysgwier o hanner gwaed (chwedl
y Bardd Cwsg) un Mr. Lee ac un Mr. Boycott
y naill a fu, a'r llall sydd, yn Ben Trustee i'r
Ysgol yma. Yr oeddwn o'r Dechreu hyd yr awrhon
mor gydnabyddus a'r naill ag a'r llall, y
diweddaf sydd yn un o'm Plwyfolion yn Uppington;
onid y llall a fu yn wastadol yn Gynorthwywr
i mi yn fy Anghenion. Mr. Lee a roe imi
fenthyg pumpunt neu chwêch wrth raid, on'd
gan B_tt ni chaid amgen na Mwgg o Ddiod a
phibellaid, ac weithiau (pan ddigwyddai
iddo ddyfod i'r Eglwys, yr hyn ambell Flwyddyn
a fyddai ynghylch teirgwaith) mi gawn ran o'i
Giniaw, os mynnwn, on'd f'am naccaodd y Cadno
o fenthyg Chweugain wrth f'angen, er nas
gofynaswn on'd i brofi ei Haelder ef. Rŷch yn
llygadrythu, ysgatfydd, wrth glywed sôn am fenthyccio
Arian, on'd nid rhyfedd y peth, a mi yn
dal rhyw faint o Dir ac yn talu Treth ac Ardreth
a Chyflogau, heb dderbyn mo'm Cyflog fy hun
on'd dwywaith, ac yn amlaf unwaith yn y flwyddyn.
Ba ddelw bynnag, y mae rhyw Elyniaeth
rhwng y ddau wr uchod, a'r sawl a gaffo Gariad
un, a fydd siccr o Gâs y llall; L[ee] sydd Chwig,
a B. sydd yn un o Addolwyr Iago. Pob cyffelyb

[td. 219]
a ymgais, fal y dywedynt, felly nid anhawdd
dirnad pa'r un gymhwysaf ei hoffi o ran ei blaid,
a phed amgen, pa'r un a haeddai hefyd ei hoffi
er mwyn ei Haelioni. Nid ellais i erioed aros
Addolwyr Baal, Iago &c. &c. a'u Cabals a'u
Celfi, ac ni ddysgais erioed chware ffon ddwybig,
a thybio 'r wyf na ddichon neb wasanaethu
Duw a Mammon. And if my Policy is
not, sure my Honesty and Plainness is to be commended.
O'r ddeuwr hynny, B_ yw Eulyn fy
Meistr, (fal y mae gnawd i un o Ucheldir yr
Alban) a chan fod yn gorfod arno ef fod yn
Llundain, ar law B_ y gadawodd ei holl fatterion
yma i'w trin fal y mynno. Ac felly B_
sy'n talu imi ac yn derbyn fy Ardreth &c. &c. ac
yn awr dyma'r Anifail wedi cael o honaw fi yn
ei Balfau dieflig, yn dwyn fy nhippyn Tir oddi
arnaf, without the least Colour of Reason or
Iustice, or even the formality of a Warning. Yn
iâch weithon i lefrith a phosel deulaeth, ni
welir bellach mo'r Danteithion gwladaidd hynny
heb imi symmud Pawl fy Nhid. Ni wiw imi
rhagllaw ddisgwyl dim Daioni yma, ac angall
a fyddai fy mhen pe disgwyliwn, ac odid imi
aros yma ddim hwy na hanner y Gwanwyn o'r
eithaf. On'd o'r tu arall, mae imi hyn o Gysur;

[td. 220]
Daccw Mr. Lee wedi cael imi Addewid o Le gan yr Arglwydd
Esgob o Landaff yn gyntaf byth y digwyddo un yn
wâg yn ei Esgobaeth. Mi glywaf dd'wedyd na thâl
y Lleoedd hynny nemmor, ac nad oes on'd rhyw
ychydig iawn o honynt ar ei Law ef ped fai 'r holl
Bersoniaid yn meirw. Beth er hynny? gwell
rhyw Obaith na bod heb ddim. Ond och fi! wr fâch,
pa fodd imi ddyall eu Hiaith hwynthwy?
A pha brŷd y câf weled f'anwylyd
Môn doreithog a'i mân Draethau? Dyna Gorph
y Gaingc! — Llawer gwaith y bwriedais gynt
(ac nis gwelaf etto achos amgen) na ddown bŷth
i Fôn i breswylio, hyd na bawn well fy nghyflwr
nag yr oeddwn pan ddaethum allan o honi.
Pan ddaethum allan o honi, 'r oedd genyf Arian
ddigon i'm dianghenu fy hun (a pha raid
ychwaneg?) ac nid oedd arnaf Ofal am ddim
on'd f'ymddwyn fy hun fel y gweddai, a thybio
'r oeddwn fod dwy law a dau lygad yn llawn
ddigon i borthi un Genau. Diammau na thybia
'r Bŷd mo'r Cyflwr presennol elfydd i hwnnw
a grybwyllais. Mae genyf yn awr lawer o
Safnau yn disgwyl eu porthi, er nad oes
genyf ond yr un rhifedi o Ddwylo &c ag o'r

[td. 221]
blaen tu ag at ymdaro am fy mywyd. Etto, er
maint fy ngofalon, cymhelled wyf fi oddi wrth
feddwl fy Nheulu yn Bwys a Gormes arnaf, a'm
bod yn fy nghyfrif fy hun yn ganwaith dedwyddach
na phedfai genyf Ganpunt sŷch wrth fy
nghefn am bob Safn sydd genyf i ofalu trosto.
Pe digwyddai imi unwaith ddyfod at Gerrig y
Borth, yn y Cyflwr yr wyf, Da y dylwn ddïolch
i Dduw, a dywedyd, fel y Patriarch Iacob, "Ni
ryglyddais y lleiaf o'th holl Drugareddau, nag o'r
holl Wirionedd a wnaethost a'th was; oblegid a'm
ffonn y daethum dros y Fenai hon, ond yn awr
yr ydwyf yn ddwy Fintai." A diau mai fy ffonn
a minnau oedd yr holl Dylwyth oedd genyf pan
ddaethum tros Fenai o Fôn, ond yn awr y
mae genyf gryn Deulu a roes Duw imi mewn
Gwlâd ddieithr: Bendigedig a fyddo ei Enw ef.
If I was ever so sanguine, I could hardly hope
that the said Bishop of L_nd_ff would find me any thing so
soon as I shall want, which must be probably
about Ladyday next, and consequently I should not
be so indolent as to leave myself unprovided in
case of Necessity. To use one's own Endeavours
is not at all inconsistent with a firm Reliance

[td. 222]
on Providence. I should be very glad to hear of a Curacy
in any County of Northwales, excepting Anglesey
and Denbighshire; the first I except for the reason
above mentioned, and the other, because I know the
Inhabitants of it too well. Pobl gignoethaidd atgas
ydynt; ffei arnynt, as my Wife is used to say in
her Shropshire Dialect. I beg you would be so good
as to get some Intelligence whether that Curacy
in Lancashire, where young Owen of Aberffraw
was to have gone to, may now be had, and if so,
whether the [place is] worth stirring for. I have no Objections
to that Country any more than this, I am now [a] pretty
old Priest, and any one that would serve turn in
Shropshire, especially in this part of it, might
also suit any other County in England, London
only excepted. As I am in favor with Mr. Lee,
nid anhawdd a fyddai iddo ef ddal imi Grothell
ymha le bynnag y byddwn, ond cadw o honof yr
hên Gyfeillach ar droed. Mae ô yn wr mawr
iawn gyd a Earl of Powys (Lord Herbert gynt)
Sr. Orlando Bridgman, Esgob Llandaff, ac aneirif
o'r Gwyr mwyaf yn y Deyrnas, ond y mae

[td. 223]
yn awr yn bur hênaidd ac oedranus ynghylch
65 neu 70 o leiaf, ond f'allai Dduw iddo fyw
ennyd etto er fy mwyn i. Nid rhaid i chwi yngenyd
mo hyn wrth y Llew, rhag iddo ddifrawu o'm
plegid, ac felly i minnau golli'r Caditt o ddyfod
fyth i Fôn, ond y mae'n debyg ei fod yn gwybod
eisus, oblegid, yn ddiweddar, pan oedd Person Bodfuan
yn Llŷn wedi marw, mi ddymunais ar
Mr. Richard Morris fyned yn Enw Mr. Lee a
minnau at Esgob Llandaff i ddeisyf arno ofyn
y Lle hwnnw i mi gan ei frawd Esgob o Fangor.
Pa sutt a fu rhyngddynt nis gwn i ac nis gwaeth
genyf, mi a gollais yr Afael y tro hwnnw, ond
y mae Mr. M. o'r Navy Office yn dywedyd addo
o Esgob Bangor ynteu, wrtho ef, y cofiai am
danaf ryw dro neu gilydd, pe bai goel ar Esg_b
mwy nag arall. Nis gwn i pa'r fŷd a ddaw, ond
hyn sydd siccr genyf, Fod yr un Nefol Ragluniaeth
ag a'm porthodd hyd yn hyn, yn abl i'm diwallu
rhagllaw; a pha brŷd bynnag y digwyddo imi
Seuthug, fod Duw yn gweled mai rhyw beth arall
sydd orau ar fy llês. — Nid oes yma bwtt

[td. 224]
newydd yn y bŷd o Gywydd nag Awdl weithion,
oblegid mi fum yn cael llawn hwde ar wneuthur
rhyw Gywydd i Gymdeithas o Gymmrodorion yn
Llundain, ar Ddymuniad y Gwr o'r Navy Office,
a da yr haeddai ar fy llaw bob peth a fai yn
fy ngallu; ni welais erioed ei garediccach o
Gymro na Sais, er nas gwelais erioed mono
ynteu. — Dyna Gydnabyddiaeth ryfeddol! — Dyma
'r Cywydd hwnnw i chwi, fal ag y mae; ond yn
gyntaf rhaid imi eglurhau'r Testun i chwi
'r hwn sydd fal hyn. It is an Address to His
Royal Highness The Prince of Wales, to be presented
to him by the Lord Bishop of Peterborough (his
Highness's Preceptor) in the Name of the Society of
Antient Britons, on St. David's Day next in
Welsh and Latin. The Latin is compos'd by some
young Cymro in Cambridge, and the Welsh by
your Servant Gro. Ddu. That the Latin and Welsh
might tally, the Address was drawn up in English
at London and sent to me (and I suppose
to Cambridge too) to be translated into verse.
So that this Cywydd is but a Translation, &
I disclaim all Praise and Dispraise alike
from every Thought, Figure, Fancy, &c in it.

[td. 225]
Nothing of it is mine but the Cynghanedd and
Language. Mae'n gyffelyb fod Ieuan Brydydd
hir ac eraill wedi eu rhoi ar waith ar yr un
achos, ac mae'r Cywydd gorau a ddewisir i'w
roi i'r Tywysog, a siccr yw, os felly y mae, ni chaiff
fy Nghywydd i ddangos mo'i Bîg i'w frenhinol Uchelder.
Y Cywydd a adewir allan, oblegid ei fod wedi ei argraphu.
Dyna i chwi'r Cywydd fal y mae, ac os boddia'r
Gymdeithas nid wyf yn ammau na chewch
glywed ychwaneg o sôn o Lundain; f'ai hargrephir
mae'n debyg cyn ei roi i'n Tywysog.
Os byw fyddaf ryw Wyl Ddewi arall mi fynnaf
finnau Genhinen Sidan o Lundain, nid oes
yma on'd Cennin Gerddi i'w cael ac nis
gwaeth gan lawer am eu Haroglau hwy, ond
yn enwedig y Saeson yma. — Mae genyf un
ffafr arbennig i'w gofyn genych, a hynny yw,
am fod o honoch mor fwyn a gyru imi o dro i
dro yn eich Llythyrau Engraphau neu Siamplau
o'r pedwar Mesur ar hugain: This is a
favor I've been a begging of Mr. Lewis Morris
this whole Twelvemonth and above without any
effect. One Example or two in a Letter would soon

[td. 226]
make me acquainted with 'em. I suppose you either
have or may borrow Grammadeg Sion Rhydderch, I
remember my father had one of 'em formerly & that
is the only one I ever saw, & as far as I can remember,
it gave a very plain, good Account of every one
of 'em, viz. Cywydd deuair hirion (or the like) a
fesurir o 7 Sillaf &c &c. All the Measures I know
at present are Englyn unodl union, Cywydd deuair
hirion, Gwawdodyn byrr, & Englyn Milwr
& I protest I know no other. The two last Mr.
Lewis Morris brought me acquainted with, &
the only Knowledge I had of Gwawdodyn byrr,
when I made my Gofuned, was a Stanza or two
of it, made by Ieuan Brydydd hir on Melancholy,
that Mr. Morris had sent me as a Specimen of
his Ability in Welsh Poetry, & no wonder that my
Gofuned should be faulty in blindly copying after so
inaccurate a Pattern. Is it not a pity that many
a pretty piece should be for ever lost for want of proper
help to produce it! 'Rwyf agos a diflasu'n canu
'r un Dôn bŷth fal y Gôg. Mae Cywydd, yn awr
o eisiau tippyn o ryw Amheuthyn, wedi myned
mor ddiflas a phottes wedi ei ail dwymno. Gyrrwch

[td. 227]
imi ryw un neu ddau o'r Mesurau nas adwen
ymhob Llythyr; ac yno mi fyddaf yn rhwymedig i
ganu'ch Clôd ymhob Mesur o honynt. My Compliments
 & sincerest Thanks to Mr. Ellis.  — F'annerch
at eich Tâd yn garedig — Ac at William Elias os digwydd
ei weled. Gadewch glywed oddi wrthych 
pan gaffoch awr o Hamdden, ac fe fydd i chwi ddiolch
o'r mwyaf am bob Llythyren, gan,
(yr anwyl Gydwladwr)
Eich rhwymediccaf Was'naethwr
Gro. Ddu o Fôn
O.S. Aie, Aie, meddwch chwi Mr. Owen yw'r Bwrdais
dros Drêf y Duwmares. Ai un o honom ni yw efe?
Ai ynteu o Blant Alis y Biswail? Meddwl yr
oeddwn nad oedd neb o Foneddigion Môn yn Chwigiaid
namyn Mr. Meiric o Fodorgan yn unig.
Fe fu Mr. Owen o Bresaddfed yn byrddio gyd â Mam
fy ngwraig i yng Nghroesoswallt pan oedd yn
fachgen yn yr Ysgol gynt.

Ni chlywais o Alltfadog er ys 6 wythnos neu 7 —
Gobeithio fod pawb yn iâch yno. Byddwch Siongc.




[td. 243]
Walton Ebrill y 30 1753. Bore Dduwllun.
Yr anwyl garedig Gydwladwr.
Dyma fi yn Walton o'r Diwedd ar ôl hir Ludded
yn fy Nhaith. Mi gyrhaeddais yma'r bore ddoe,
ynghylch dwy awr cyn pryd Gwasanaeth, a'r
Person a'm derbyniodd yn groesawus ddigon, ond
er maint fy Lludded, fe orfu arnaf ddarllain Gwasanaeth
a phregethu fy hun y bore, a darllain
Gosper y prydnhawn, ac ynteu a bregethodd. Y
mae'r Gwr yn edrych yn wr o'r mwynaf, ond yr
wyf yn deall fod yn rhaid ei gymmeryd yn ei
ffordd; mae'r Gwâs a'r Forwyn (yr hyn yw'r
holl Deulu a fedd) yn d'wedyd mai Cidwm cyrrith,
anynad, drwganwydus aruthr yw. Ond
pa beth yw hynny i mi? bid rhyngddynt hwy
ac ynteu am ei Gampiau teuluaidd, nid oes
i mi ond gwneud fy Nyledswydd ac yno Draen
yn ei Gap. Hyn a allaf ei ddywedyd yn hŷ am
dano, Na chlywais i ermoed hauach, well
Pregethwr, na digrifach, rnwynach, ymgomiwr.
Climmach o Ddŷn amrosgo ydyw, Garan
anfaintunaidd, afluniaidd yn ei ddillad, o
Hŷd a Llêd aruthr, anhygoel, ac wynebpryd
Llew neu rywfaint erchyllach, a'i Ddrem arwguch yn

[td. 244]
tolcio (ymhen pob chwedl) yn ddigon er noddi Llygod
yn y Dyblygion; ac yn cnoi Dail yr India hyd oni rêd
dwy ffrŵd felyngoch hyd ei Ên. On'd ni waeth i chwi
hynny na Phregeth, y mae yn un o'r Creaduriaid
anferthaf a welwyd erioed y tu yma i'r Affric. Yr oedd
yn swil genyf ddoe wrth fyned i'r Eglwys yn ein
Gynau duon, fy ngweled fy hun yn ei ymyl ef,
fel Bâd ar ol Llong. Bellach e fyddai gymmwys
rhoi i chwi ryw Gyfrif o'r Wlâd o'm hamgylch, ond
nis gwn etto ddim oddiwrthi, ond mai lle drud anial
ydyw ar bob Ymborth, Etto, fo gynugiwyd i mi
le i fyrddio (hyd oni chaffwyf gyfle i ddwyn fy
Nheulu attaf) yn ôl wythbunt yn y flwyddyn, a
pha faint rhattach y byrddiwn ym Môn? Nid
yw'r Bobl y ffordd yma, hyd y gwelaf, ond un radd
uwchlaw Hottentots; rhyw Greaduriaid anfoesol, didorriad;
pan gyfarfyddir â hwy, ni wnant onid
llygadrythu'n llechwrus, heb ddywedyd bwmp
mwy na Buwch, etto rwy'n clywed mae llwynogod
henffel, cyfrwysddrwg, dichellgar ydynt. Ond
yr Archlod iddynt, ni'm dawr i o ba ryw y bont.
Pymtheg punt ar hugain yw'r hyn a addawodd fy
Mhatron imi; ond yr wyf yn dyall y bydd yn beth

[td. 245]
gwell na'i Air. Ni rydd imi ffyrling ychwaneg o'i
Bocced, ond y mae yma Ysgol Rad, yr hon a gafodd
pob Curad o'r blaen, ac a gaf finneu oni feth
ganddo. Hi dal dairpunt ar ddeg yn y flwyddyn,
heblaw Ty'n y fynwent i fyw ynddo, ac os caf hi,
fe fydd fy lle i'n well na deugain punt yn y flwyddyn.
Fel hyn y mae. Pan fu farw'r Curad diweddaf,
fe ddarfu i'r Plwyfolion roi'r Ysgol i'r
Clochydd. Ac yn wir y Clochydd a fyddai 'n ei
chadw o'r blaen ond bod y Curad yn rhoi iddo
bumpunt o'r tair ar ddeg am ei boen. Ond nid
oes erbyn edrych gan y Plwyfolion ddim Awdurdod
i'w rhoi hi i neb, ond i'r Person y perthyn
hyny, ac y mae o 'n dwrdio gwario 300 neu
400 o bunnau cyn y cyll ei Hawl. Felly 'rwyf
yn o ledsiwr o'i chael hi, ac oni chaf nis gwn
ymha le y câf Dy i fyw ynddo. Odid imi ei
chael hithau gryn dro etto, tua Mehefin neu'r
Gorphenaf ysgatfydd, pan ddêl yr Esgob i'r
Wlâd. Os ydyw Iohn David Rhys heb gychwyn,
gyrrwch ef gyd a'r Llong nesaf, a byddwch siccr o'i lwybreiddio
a'ch holl Lythyrau, at Rev.d Owen, in Walton, to be
left at Mr. Fleetwod's Book-seller near the Exchange

[td. 246]
Liverpool. Mi a welais heddyw yn Liverpool yma
rai Llongwyr o Gymru, iè o Gybi, y rhai a adwaenwn
gynt er nas adwaenent hwy monof fi, ac nas
tynnais gydnabyddiaeth yn y Bŷd arnynt
amgen na dywedyd mai Cymro oeddwn o Groesoswallt
(lle nas adwaenent hwy) ac felly'r wyf
yn dyall fod yn hawdd cael y peth a fynnir o
Fôn yma. Ond drwg iawn genyf glywed fod
Mr. Ellis anwyl yn glâf. Er mwyn Duw rhowch
fy Ngwasanaeth atto, a chan Diolch am y Dr.
Davies — Nid oes genyf ddim ychwaneg i'w
ddywedyd yn awr, ond bod y Genawes gan yr
Awen wedi naghau [~ nacáu ] dyfod un cam gyd â myfi
y tu yma i'r Wrekin (the Shropshire Parnassws)
and that, as far as I can see, there is not one
Hill in Lancashire that will feed a Muse. However
we will try whether a Muse (like a Welsh
Horse) may not grow fat in a Plain, level Country.
If that Experiment will not do, I know not what
will. I beg to hear from you by the return of
the Post; and let me know if Mr. Ellis is any
thing better, — his Death I'm sure, would be an irretrievable
loss, not only to Holyhead and Anglesey,
but to all Wales. ——


[td. 247]
Don't fail to let me hear from you as soon as possible
and how my Dear Poetry Tutor Llewelyn does. —
I've no time to write more but that I am, Dear Sir,
Your most oblig'd humble Servant Gronwy Ddu o Fôn
Calanmai newydd yn Nhref Lerpwl.


I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section