Adran o’r blaen
Previous section



[td. 116]

[Rhan i., Pennod 5, 116-23.]


Sonniwn bellach ryw ychydigyn am y Jaith.
Ac ys nid allaf siarad llawer, oblegid nad wyf yn
deall ei chywrainrwydd fal y dymunwn, etto'r wyf
yn deall cymmaint a hyn, sef, nad oes jaith (hyd
y gwn i) yn cadw y purdeb cyssefin cystal a hi,
yr hon a sieredir yn gyffredin ym mysc y Gwerinos.
Can's beth yw jaith ein cymmydogion gan
mwyaf (mi wn y gallaf enwi tair cenhedl) ond
lladin wedi gymmysgu ag ambell air o'i hên jaith
eu hun? Ac y mae y lladin hwnnw wedi anafu yn
y fath fodd ganddynt, fal prin y gall neb ei ddeall
ond hwynt-hwy eu hunain: Ond eu geiriau eu hun
sydd yn newid agwedd cymmaint (ym mhob oes
agos) fal pettai eu Hynafiaid yn eu clywed yn siarad
heddyw, y rhai a fuont fyw ynghylch wyth
cant o flynyddoedd a aethant heibio, diau ydyw,
na ddeallent hwy ond ychydig neu ddim o'r hyn
a ddywedent. Ond mi a brofaf y deall pob un,
a'r a fo ond ychydig o Ddarllenydd, waith ein
scrifennyddion ni yn sathredig, er eu bod wedi
scrifennu er ys 'chwaneg na mîl o flynyddoedd.
Ond er hynny gyd yr ydys yn diystyru y Jaith
odidog hon yn dra ysgeler heddyw gan ŵyr o'n
gwlâd ein hun, y rhai ŷnt, oddigerth hynny, yn
ŵyr call dysgedig. Ac oni fuasai iddi gael rhai

[td. 117]
achleswyr da, hi a aethai drwy bob debygoliaeth
yn llwyr-ddiystyr gan bawb. Gwnaeth y Brittwn
uchel-ddysg hwnnw, Sîon Dafydd Rŷs M. D. ei
ran ef yn hoyw-odidog, ac iddo ef yn unig y mae
'r Beirdd yn rhwym am Reol eu Celfyddyd.
Gwnaeth y byth tra enwog Sîon Dafies D. D. ei
ran ynteu yn odiaeth, ac yn odidog rhagorol, trwy
gyfansoddi Gramadeg a Geir-lyfr i hyfforddi ei
gydwladwyr i ddysgu cywrainrwydd eu hiaith.
Ac yr awr-hon y mae'r Parchedig Mr. Moses
Wiliams B. A. trwy lafurus boen a diwydrwydd
wedi chwilio allan berffeithrwydd y cwbl, a'r y
sydd bossibl i gael y ffordd honno: Canys mi
allaf ddywedyd yn hŷ, na fydd wiw i neb ddisgwyl
am ychwaneg o berffeithrwydd mywn Geir-lyfr a
Gramadeg, nag y fydd yn y gwaith y mae efe yn
ei osod allan. Uno avulso, non deficit alter, Qui
spartam quam nactus est ornavit.

Nid wyf anhyspys fod llawer o eiriau Lladin
yn ein Jaith ninnau, ond y mae llawer o ŵyr dysgedig
yn tybied, iddynt hwy fenthygio mwy oddi
wrthym ni, nag a fenthycciasom ni oddi wrthynt
hwy. Ac yn wir ddiau y mae rhai yn tybied,
mae o'r un cyff y daethom allan o'r cyntaf. Ond
pa fodd bynnag yw hynny, ys yw gennyf, mae nid
oddiar y Rhufeiniaid neu'r Lladinwyr, ybenthycciasom
ni yr holl eiriau cydystyrol a'r Lladin
y rhai sydd yn ein Hiaith, er nad wyf yn
amheu i'n Hynafiaid echwyna ambell un.
Ond yr hyn oeddwn ar oddeu ddywedyd ydyw
hyn, sef, fod y Jaith Gymraeg yn cadw ei phurdeb

[td. 118]
cyssefin yn hollol dda, fal yr ymddengys wrth
y tystoliaethau hyn.

Dychymmyg di pwy greawdr cread cyn Duliw,
Creawdr cadarn heb gig heb asgwrn.
Heb wythen heb waed heb pen heb traed:
Ac ef ni aned, ac ef ni weled:
Ef a'r fôr, ef a'r Dîr, ni wyl ni welir;
Ac ef yn anghywir ni ddaw pan ofynnir.
Ef yn anamlwg, canys ni's guyl golwg;
Ef yn ddrwg ef yn dda, ef hwnt ac yma.
Taliesin ben-beirdd a'i cant i'r Gwynt.
Ac efe a scrifennodd ynghylch Bl. yr Argl. 556.

Afallen bren beraf ei haeron,
A dyf yn Argel yn argoed Celyddon;
Cyd ceisier, ofer fydd herwydd ei haddon,
Oni ddel Cadwaladr i gynal rhyd rheon.
Cynan yn erbyn cychwyn a'r saeson:
Cymru a orfydd cain fyddai Dragon:
Caffant bawb ei deithi llawen fu Brithon;
Cantor cyrn elwch cathl heddwch a hinon
Myrddin Wyllt a'i cant; yr hwn
A scrifennodd o bobtu'r flwyddyn 570.

Y dref wen ym mron y coed,
Y sef yw y hefras erioed;
A'r wyneb y gwellt y gwaed.
Dyn dewis a'r fy meibion
Pan gyrchai pawb ei alon
Oedd Pyll -----------
Llywarch hen a'i cant; yr hwn a
Scrifennodd ynghylch Bl. Argl. 590.


[td. 119]
Mi a wn y gall pawb ddeall y pennillion hyn
fel Cymraeg sathredig. Gwelwn ynteu brawf
eglur mae'r un Jaith sydd gennym ni fyth, er ei
bod er ys talm wedi dirywio ennyd, trwy gymmyscu
Saesoneg a hi. Ond camsynniad ydyw tybied
mae oddi wrth y Saeson y cawsom ni yr holl eiriau
cydystyrol a'r Saes'neg, y rhai sydd yn ein
Jaith ni. Nage, hwynt-hwy yn wir ddiau a'i benthycciasant
oddi wrthym ni; a hynny a brofaf
allan o Gywyddau Dafydd ap Gwilym, yr hwn oedd
ŵr o Lanbadarn fawr yng Ngheredigion. Mi a
ddewisais y Bardd hwn yn hyttrach nag un arall,
o herwydd fod Dr. Dafies ei hun yn arddel pob
gair y mae efe yn arfer, yn lle Cymraeg gywrain
ddiledryw. Ac yn ddi-ddadl efe yw'r Bardd
hoywaf a'r a scrifennodd erioed (dodir heibio faswedd
ei destunau gan mwyaf) Ac fe all pawb
a'r a wyddant ddim mywn Cerdd Dafod, wybod
na arferodd ond Cymraeg lân loyw yn ei Gerdd.
Can's ê fuasai Saes'neg, yn edrych cyn haccred
yn yr amser hwnnw mywn cerdd, a barf ddu fawr
a'r langces fonheddig ieuangc. Ac y mae hi'n
ddadl pa un a'i fod efe yn gwybod dim Saes'neg,
a'i nad oedd; Can's ni wn i fod dim hoffder mywn
Bonheddig na gwrêng i siarad Saesoneg yn yr amser
hwnnw, er eu bod yn deall eu gwala o Ladin, Groeg,
ac Hebraeg; fal y mae'n amlwg wrth y siampl
nodedig hon. Yr oedd Pendefig urddasol o Sîr
Fon a elwid Owen Tudur wedi priodi y Frenhines
 Catherin yr hon a fuasai yn briod gynt a
Henri y pummed, Brenin Lloegr. Ni wyddai'r
Frenhines Catherin (gan ei bod yn wraig o Ffraingc
ddim gwahaniaeth rhwng y Cymru a'r Saeson, cyn
iddi briodi Owen Tudur, yr hyn a wnaeth iddi
chwennych yn fawr i weled rhyw nifer o gydwladwyr

[td. 120]
ei Phriod, i edrych a oeddynt cyn sâled dynion
ac oedd y Saeson yn ddywedyd eu bod. Ond
yn y cyfamser y daliwyd Owen Tudur a'i Frenhines
yn garcharorion, ac a ddycpwyd yn rhwym i
Gaer-lleon a'r Wysc, yr hyn a wnaeth i Owen i
anfon at eu gyfnesyfiaid i ddyfod i ymweled ag ef.
Ac allan o law y daeth atto ynghylch cant o Wyr
Boneddigion Gwynedd, y rhai oeddynt oll yn wyr
hoywion tacclus, ond heb wybod gair o Saes'neg
na Ffrangeg; Canys pan lefarodd y Frenhines
wrthynt mywn amryw Jeithoedd, ni allent roddi
gair o atteb iddi, yr hyn a wnaeth iddi ddywedyd,
Mae'r Creaduriaid mudion hoywaf oeddynt a'r
a welsai hi erioed. Hyn sydd yn dangos yn eglur
nad oedd na Bonheddig na gwrêng yn medru
Saes'neg yn yr amser hwnnw, ac am hynny ni allwn
gasglu yn dra rhesymmol nad oedd Dafydd ap
Gwilym yn gwybod dim. Ond os oedd efe yn
deall Saesonaeg, mi a wn na osododd efe un gair
seisnig yn ei gerdd. Y geiriau, pa rai ydys yn
dybied eu bod yn Saes'neg, a osodir yn y Margent,
fal y galloch eu canfod yn ebrwyddach, ac a
wahenir a llythyrennau breision oddiwrth y geiriau
yn y Pennill.


Un Anghwrteis yn lleisio,
Yn greiau bycclau y bo.
Beth a dâl i't anwadalu
Wedi'r hen fargen a fu ?
Dod chwap dan ei gap gwedd,
Er duw a'r ei war dewedd.
Yn is fy nghlap anhappys
I'm bryd ar beidio am brys.


[td. 121]

A meistrawl ar fawl wiw lamp,
A'r gost lle bu gorau'r gamp,
Gwaith anorphen sydd gennyf,
Caru crefft er curio cryf.
Nid oes Sadler crwpper crach
Neu Deiler anwadalach.
Yn gwcwallt salw i'm galwant
Wb o'r nad am wedd berw nant.
Cerais un dyn cwrs hindeg
Cariad y teirgwlâd teg.
Llym ei ruthr llammwr eithin,
Llewpart a dart yn ei dîn.
Llyn gwin egr llanw gwineugoch,
Lloches lle'r ymolches moch.
Bydd di ffrom n'âd dy siommi,
Glyn heb ffael yn d'afael di.
A'i chrochwaedd aml ei chrechwen
A'i ffals gywyddoliaeth o'i phen.
Wybren wen heb'r un anair
A chwmmwl yw ffwl y ffair.
A'r grân megis y manod,
A'r ael fel ingc a'r liw'r od.
Nid egor hon un gronyn,
Ymddiddan odd' allan ddyn.
Eraill a rydd deunydd dig,
Am y tâl im' het helig.
Noeth hyd twyn, cyd nithyd tal
Ni hittia neb i'th attal.
Dan fy swydd lawer blwyddyn,
Dêl i'm o hap dâl am hyn.
Dy lifrai o'r mwtlai main;
Dy lewys di o liain.
Pan glywais hoyw falais hon,
Tybiais ddalld ei hattebion.


[td. 122]

Myfi yw ffraethlyw ffrwythlawn,
Maer dy dda mawr yw dy ddawn.
Fy nuwies bert Fenws ber.
Afal Awst o felyster.
Esgyd ei phlâs a'r lasrew,
Ysgwd o'i flaen esgid flew.
Ystyr di Gruffudd rudd-lwm
Fod blaen dy dafod yn blwm.
Ci glew llafarflew llwfrwlad,
Cawn ddrwg sen cynddeiriog Sad.
Sych nattur creawdur craff
Sereniawg wybr Siwrnai gobraff.
Ac ar ystryd o gyrs drain;
Siopau lawnd fel Siep Lundain.
Haws gennyt drwy naws gynnydd
A'r dasg bôb amser o'r dydd.
Da ufudd hwyl ddisgwyl farn,
Dyfod yn frwysg o Dafarn.
Cariad fel plwm trwm y trig
Cadi mywn twr caedig.
Teyrnaidd waith twrn oedd wiw.
Tyrau troellau fal trilliw.

Dafydd ap Gwilym o Lanbadarn
fawr a'i cant hwy oll; Am ba un y Prophwydodd
Taliesin.

Y genid ym mro Ginin,
Brydydd a'i gywydd fal gwîn.

Nid yw hyn ddim wrth y lliaws a fenthycciodd y
Saeson o amser bwygilydd oddi wrth genhedloedd
eraill, i gyfoethogi eu hiaith: Lladin a Ffrangeg
yw y rhan fwyaf o honi, ynghyd ag ambell air
bychan ar antur o'i hen jaith gynt, etto wedi newid

[td. 123]
agwedd yn ddirfawr o'r hyn a fu a'r y cyntaf.
Ac nid yw hynny ryfedd, ped ystyrid fod y Gwerinos
yn cydffurfio eu hunain (megis ym mhob
peth arall agos) felly at jaith y Pendefigion hyd y
gallont, a Ffrangeg oedd y Pendefigion yn siarad
o hyd er amser Gwilym gwncwerwr. Canys (eb
'r Chronicl) yn amser y Cwncwerwr nid oedd
Swyddog o Sais yn Lloegr: A Gwradwydd
mawr oedd alw un yn Sais, neu ymgyfathrachu
ag un or genedl honno, canys hwy a gasheid
yn ddirfawr. Ac wrth hynny y mae'n amlwg
nad oes un Pendefig yn Lloegr, eithr o hiliogaeth
un a'i 'r Normaniaid, a'i o'r Ffrangcod,
a'i ynteu o'r Brutaniaid; Ac yno yr ydoedd yn
Ddihareb: Jack would be a Gentleman, but
that he can speak no French.


I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section