Adran o’r blaen
Previous section


Pan ystyriwyf greulonder a ffalstedd anhygar y
Saeson, yr wyf yn rhyfeddu lariedd-dra'r Brutaniaid
y pryd hwnnw. Ond etto pan ystyriwyf eu
diffuant ewyllysgarwch i garu tangneddyf a hedd,
synnu nid wyf ddim. A diammeu ydyw iddynt
ddangos ffafor arbennig i'r Saeson y pryd hwnnw.
Canys wedi'r Brutaniaid gael buddugoliaeth gyffredinol,
ac yn eu gallu i wneud a hwy fal y
gwelynt yn dda, etto'r holl gospedigaeth a osodwyd
arnynt ydoedd, i bob Sais osod cebystr am ei
wddf, cydnabod ei fai, deisyf maddeuant am yr hyn
aeth heibio, ac ymrwymo trwy lŵ i fod yn Gaethwas
i'r Brutaniaid. Eithr i'm tyb i, y prif achos
o larieidd-dra'r Brutaniaid ydoedd gan mwyaf
yn oruwch-naturiol, Sef yw hynny, i'r Goruchaf
Dduw liniaru eu hysprydoedd fal na lwyrddifethent
y Saeson; a bod yn ei arfaeth dragywyddol
ef i ddewis Sainct ac Etholedigion o'r genhedl
honno. Ac amlwg ydyw eu bod mywn
dysc a duwioldeb yn cystadlu un genhedl tan Haul

[td. 85]
wedi iddynt dderbyn y Grefydd Grist'nogol, (yn
enwedig wedi adgyweiriad Crefydd.

Dros ennyd fechan y bu llonyddwch, tangneddyf
a diogelwch; ond wele gymmylau dryg-hin
etto'n cyfodi! Yr oedd mâb i Wrtheyrn a
wnaeth aflonyddwch mawr a elwid Pasgen, canys
hwnnw a wnaeth deyrn-frad yn erbyn y Llywodraeth.
Ond p'odd i ddwyn i ben ei amcan anhydyn
ni wyddai, a chalon-ofidus ac anesmwyth
a fu efe dalm o amser. Ond pan welodd Sais ef
mo'r brûdd a myfyriol, yspryd-blinderol ac
athrist, efe a ofynnodd iddo a'm ba achos yr oedd
cyn brûdded ac athrist? O herwydd fy mod
(ebe Pasgen) yn myfyrio a'r beth sydd agos yn
amhossibl i ddyfod i ben. Ha, Ha (eb'r Sais)
Swllt i Geiniog ond bwriadu yr ydwyt a'm fod yn
frenin. Ac os hynny sy'n dy flino dod dy galon a'r
esmwythdra, ni a wnawn o'r goreu. Ond gwrando
etto, pa beth a roddi di i mi, os yr anturiaf fy
hoedl i wenwyno Emrys wledig y Brenin? Ti a
gei [eb'r Pasgen] ddim anrhydedd a'r a elli ddymuno.
Mi a'th wnaf yn Dduwc, a thi fyddi'r
ail mywn anrhydedd yn y Deyrnas, o's byth y
coronir fi yn frenin. Ac yn yr amser hwnnw (fal
yr oedd gwaethaf y dynghedfen) Emrys wledig y
Brenin oedd yn glâf. A bryssio a orug y Sais i
lŷs y Brenin ac a gymmerodd arno i fod yn Feddyg.
Ac efe a ddywedodd wrth Weision y Brenin ei fod
efe yn Feddyg celfyddgar ac yn jachau pob math
o haint a chlefyd, Ac o bydd gwiw (eb'r ef) gan
ardderchoccaf fawrhydi y Brenin i gymmeryd o'r
Feddyginiaeth sydd gennyf i, fy mywyd i trosto oni
bydd cyn pen nemmawr o amser yn holl jach. A
mynegwyd hynny i'r brenin, ac efe a barodd alw
y Meddyg i'w stafell. Ond yn lle meddyginiaeth,

[td. 86]
rhoddes y Bradwr melldigedig iddo gwppanaid o
wenwyn marwol, yr hwn a'i gwenwynodd ef yn
ebrwydd, Ond y Sais a ddiangodd yn ddiarwybod
iddynt. Fe ddywedir i Seren gynffonnog
ymddangos a'r yr awr honno, y bu y Brenin farw,
ac i Myrddin (wedi manwl-graffu a'r y Seren)
ddywedyd fal hyn, O genhedl y Brutaniaid, ynawr
yr ydych chwi'n weddw ac yn ymddifaid am
Emrys Wledig. Chwi a gawsoch golled nad ellir ond
prin ei ynnill fyth drachefn.

Tost a gresynol a fu Gorthrymderau'r Brutaniaid
wedi marw y Brenin ardderchog hwnnw:
Canys er i'r Saeson (fal y darllenasoch eusys) osod
cebystrau am eu gyddfau, a chymmeryd llw i fod
yn gaeth-weision trag'wyddol i'r Brutaniaid, etto
wedi marw Emrys Wledig hwy a ddadleuasant
eu bod hwy yn-awr yn ŵyr rhyddion. Canys (eb'r
hwy) tyngu ffyddlondeb i Emrys Wledig yn unig
a wnaethom ni, nid i neb a'r ei ol. Ac yn ddiattreg
bryssio a wnaethant, ac a ddanfonasant i Germani,
a Phasgen ynteu i'r Iwerddon a'm borth.
Ac yn ddianoed y daeth Cilamwri brenin yr
Iwerddon i'r gorllewin, ac Arglwyddi Germani i'r
Dwyrain gyd-a llu mawr ganddynt. A'r Brutaniaid
hwythau a etholasant frawd i Emrys a elwid Uthur
bendragon yn frenin arnynt. Ond ysywaeth y gelynion
a diriasant yn ddiarwybod iddynt, ac ni
adawsant na thŷ na thwlc heb ei losci, na dyn na
llwdn heb ei ladd y ffordd y cerddasant: Yr oedd
y Saeson wedi difrodi y dwyrain ran o'r ynys hyd
yng Ngaer-Efroc, a'r Gwyddelod hwythau wedi
dinystrio y cwbl y ffordd y cerddasant o'r Gorllewin
hyd yng Nghaer Baddon. A phan oedd y Saeson
yn dechreu ymladd a Chaer Efroc y daeth

[td. 87]
Uthur a'i lu yn borth i'r ddinas, ac yno y bu
Brwydr waedlyd, ond o'r diwedd y Saeson a ffoesant
ac a ddaethant at y Gwyddelod, y rhai oedd
y pryd hwnnw gar-llaw Caer baddon (neu'r Bath)
ac ni allwn fwrw amcan i fod yno Gad luosog rhwng
y ddwy blaid. Ond er lluosocced oeddynt, ni laesodd
gwrol-fryd y Brutaniaid i ymladd a hwy; ac
atti yr aethant yn lewion a dwys-gadarn, ac un-waith
yn ddiau y bwriadodd un asgell Câd y Brutaniaid
i ffoi, ond yno Arthur Mab y Brenin a'i cyssurodd
gan ddywedyd wrthynt O gyfeillion anwyl a adewch
chwi i'r Barbariaid digred melldigedig hyn i
draws-feddiannu ein gwlad? Ynteu Gobeithiwch
yn Nuw Holl-alluog, ac ymwrolwch Ac a'r
hynny hwy a gymmerasant galon o newydd, ac a
ergydiasant eu saethau cyn amled a chawod o Genllysc
at y Gelynion, ac ni laesodd y dewrder, yr
arial, a'r egni hwnnw ynddynt, nes ynnill Buddugoliaeth
enwog, Bl. yr Argl. 493 y bu hynny.
Arthur a ymddugodd yn wrol-wych ac yn ddwysgadarn
yn y frwydr honno; Felly y Beirdd a ymegniasant
i gyfansoddi Pennillion ac odlau i'w
foli: Ac ym mysc eraill Taliesin sy'n canu fal
hyn.

Gwae yntwy yr ynfydion * pan fu waith Faddon
Arthur ben-haelion y llafneu bu gochion
Gwnaeth a'r y alon gwaith gwyr gafynnion
Taliesin ben-Beirdd a'i cant.


[td. 88]
Wedi hyn y bu hi gyfyng jawn a'r y Saeson dalm
mawr o amser Canys eu Capteniaid a garcharwyd,
a'r milwyr cyffredin a fuont yn gaeth-weision i'r
Brutaniaid. Ond wedi Dô arall gyfodi, bu'r Brutaniaid
yn gaeth-weision, a'r Saeson yn Feistri.
Sic transit gloria mundi. Canys a'r ol talm o amser
y tyfodd anghyttundeb ac amrafael rhwng y
Brenin a'i ddeiliaid ei hun, ac yn eu chwerwder
a'i bustledd tu-ag atto y gollyngasant Bennaethiaid
y Saeson yn rhyddion o'r carchar [gwelwn yma
affaith llidiawgrwydd a Malais yn cymmell dynion
i niweidio, ie eu hunain] Ac yn ddianoed bryssio
a wnaethant, ac a fordwyasant tua thîr eu gwlad.
Ac yno y danfonasant eu deisyfiadau at Arglwyddi
Germani, i gael cennad i godi Gwyr i oresgyn
Ynys Brydain. Ond (eb'r hwy) yn lled-ddigofus,
pa sawl gwaith y buoch yma eusys a'r y neges
hwn? Dyna'ch chwedl yn wastadol, I oresgyn
ynys Brydain; i oresgyn ynys Brydain. Ond mae
'n debygol i chwi ofer-dreulio'ch amser yno mywn
gloddest a meddwdod, ped amgen, os ydyw'r trigolion
yn bobl mo'r lwrfion a llesc ag y dywedwch
chwi, chwi ynnillasech y wlâd er ys talm[.]


Milwyr) Na ddywedwch, Sirs, i ni ofer-dreulio
'r amser. Canys i ddwyn a'r gof i'wch ychydig
o lawer o'n cyfrwysdra. 1, Ni a dorrasom
ammod a hwy, ac a laddasom y pryd hwnnw fyrddiynau
o honynt. 2, Ni a wenwynasom Wrthefyr
3, Onid cyfrwys oeddem pan y lladdasom dri
chant o Ddluedogion y Deyrnas tan rith heddychu
a hwy? 4, Ni a wenwynasom hefyd Emrys wledig
ein gelyn marwol yn dichellgar ddigon: P'odd

[td. 89]
gan hynny y gellwch ddywedyd i ni ofer-dreulio'n
hamser?

Arglwyddi Germani) Cyfrwys ddigon: Etto'r
ydym ni yn rhyfeddu beth ydyw'r achos yr ŷch
yn methu tyccio i oresgyn yr holl wlâd.

Milwyr) I'n tyb ni, yr achosion ŷnt, o herwydd
eu bod ambell-waith yn cyhoeddi ympryd
ac yn gweddio eu Duw i ymladd trostynt: Ac er
eu bod y prydiau hynnny yn arafaidd, yn sobr,
yn bwyllog o ran eu hymwareddiad, etto, fal yr
ydym ni'n dal sulw hwy a fyddant siccr i dyccio
yn ein herbyn ni. Ac hefyd, math o ddynion rhyfeddol
ydynt, can's weithiau y maent mo'r llesgc
a methedig, fal y gall un Sais yrru ugain o naddynt
a'r ffô, ond yn y man, hwy a ymwrolant felly
yn eu chwerwder, fal nad yw'n ddiberygl i hanner
cant o honom ni y Saeson wynebu a'r un
Brittwn.

Argl. Germani.) Od oes gennych chwi fwriad
diyscog i ymladd o amser bwygilydd a'r Brutaniaid
nes eu llwyr orchyfygu hwy, yr ŷm ni'n tystio
wrthych, ni chaiff fod arnoch ddim eisiau
gwŷr nac arfau, deuwch cyn fynyched ac y fynnoch.

Ac yno hwy a gynnullasant lû mawr jawn o'i
dynion gwammal ac ysgerbydiaid ofer eu gwlad,
ac a ddaethant i Frydain. Ond ysywaeth yr oedd
Uthur Bendragon brenin y Brutaniaid yn glâf a'r
y cyfamser hwnnw: Eithr efe a orchymmynodd
i'w fâb ynghyfraith a elwid Llew ap Cynfarch i
fod yn Ben-ciwdod a'r frwydr y Brutaniaid. Ac
yn wîr ddiau ni fu efe ond trwch ac aflwyddiannus
jawn yn ei waith yn ymladd a chenawon Germani
Can's ni bu nemmawr rhyngddynt a goresgyn

[td. 90]
yr holl wlâd. Blin jawn ydoedd gan Uthur i
glywed y newyddion galarus hyn, a chan ei lîd,
efe a orchymmynodd i alw holl Foneddigion y wlâd
ger ei fron; a chwedi eu dyfod, efe a edliwiodd
iddynt eu llesgedd gan ddywedyd. Pe buaswn i
yn jach, yr wyf yn meddwl, na fuasai i'r barbariaid
hyn gymmaint achlysur gorfoledd a'r y sydd ganddynt
yr awr-hon. Eithr attolwg, dygwch fi a'r
elor o flaen y Llû, can's yr wyf yn gobeithio y
bydd i'r milwyr hwythau ymwroli, gan weled eu
Brenin yn diystyru ei hoedl er mwyn cadw allan
Estron genhedl. A hwy a wnaethant megis y
gorchymmynodd y Brenin iddynt, ond pan welodd
y Saeson hynny, hwy a'i gwatworasant, gan
weiddi a llêf groch, Wele accw y ffyliaid sy'n
ymddiried mywn dyn hanner marw! Ha'r Ffyliaid!
Ac a'r hynny y Brutaniaid a chwerwasant
yn eu hysprydoedd, ac a ddywedasant, Pa genhedl
tan haul a all ddioddef y fath ddirmyg a'r ydym ni
tano gan y Barbariaid hyn, ynteu ymwrolwn ac
ymddialwn arnynt. Ac ar hynny hwy a ergydiasant
yn chwyrn at y Saeson, ac ni phallodd y calondid
hwnnw, nes lladd gan mwyaf eu holl elynion,
a gyrrasant y lleill a'r ffô. Ac yno y cododd
 Uthur yn ei eistedd a'r ei wely (a chyn hynny
ni allodd efe droi ond o nerth dau wyr gryfion)
gan ddywedyd, Ha'r twyllwyr! am galwent i hanner
gwr marw, gwell yw hanner gwr marw
a orfyddo, na gwr byw a orfydder: A
gwell yw marw yn glodfawr, na byw yn gywilyddus.
Ond ni fu Uthur odidog fyw nemmawr o
amser wedi hynny, canys y Saeson (o ran cynddeiriogrwydd
iddynt golli y fuddugoliaeth) a
fwriasant wenwyn i'r ffynnon, lle'r arferai efe

[td. 91]
yfed. Plant y fall ag oeddynt, dyna eu castiau
yn wastadol! Bl. Argl. 510 y bu hynny, sef yr
ymladdfa honno.

Wedi marw Uthur y bu ymrafael a dadl ym
mhlith y Brutaniaid ynghylch dewis brenin. Ac
fe ddywedir i Fyrddin alw Pendefigion y deyrnas
i Lundain, a gorchymmyn yr offeiriaid weddio
Duw o byddai gwiw ganddo yspysu trwy arwydd
weledig, pwy oedd frenin teilwng i deyrnasu arnynt.
 Ac erbyn y boreu dranoeth y cafwyd yno
garreg fawr bedair ochrog, ac yn ei chanol gyffelyb
i Einion ddur, ac yn yr Einion yr oedd cleddyf
yn sefyll erbyn ei flaen, a llythyrennau euraid
yn Scrifennedig arno; a'r geiriau oeddynt y
rhai hyn, Pwy Bynnag A Dynn Y
Cleddyf Hwn, Allan Or Einion,
Hwnnw Sydd Frenin Cyfiawn I
Ynys Brydain. A phan wybu y Pendefigion
a'r Offeiriaid hynny, hwy a roddasant y Gogoniant
i Dduw, am fod gwiw ganddo atteb eu
gweddiau. A rhai o honynt a brofasant i dynnu y
cleddyf allan, ond ni's gallent: Ac yno y dywedodd
yr Offeiriaid wrthynt, nad oedd yno neb yn
deilwng i gael y Goron. Ac o fywn ychydig amser,
pwy a ddeuai heibio ond Arthur: [Arthur
oedd fâb Uthur Ben-dragon, etto a ynnillasid cyn
priodas, a hynny oedd gwreiddyn yr ymrysson]
Pan welodd Arthur y cleddyf, a'r Scrifen euraid
arno, efe a ymaflodd ynddo, ac a'i tynnodd allan
yn ddi-rwystr. Ac yno Pendefigion y deyrnas a
ddaethant atto, ac a ddeisyfiasant arno i ddodi y
cleddyf yn y lle y buasai: Ac efe a wnaeth hynny;
Ac yno y profasant bob yn un ac yn un i dynnu y

[td. 92]
cleddyf allan, ond ni's gallent. Ond Arthur a'i
tynnodd ef allan drachefn yn eu gwydd hwynt oll.
Ac yn ddianoed yr Arch-esgob a'i heneiniodd ef
yn frenin ac a wisgodd Goron y deyrnas am ei
ben.

A'i stori wirioneddol neu chwedl dychymmygol
ydyw hon, ni's gwn i. Ond ys yw gennyf mae
Tywysog gwychr, godidog, clodfawr, a digymmar
oedd Arthur. Ac yr wyf yn credu'n hollawl,
nad yw'r Chronicl yn celwyddu pan y dywed
o'i blegid, Ac ny chlywyssit a'r neb cyn noc
ef yr ryw devodau a oed arnaw o nerth a chadernyt,
a glewder, a daeoni; a chymmeint o rât a rodassai
Duw idaw ac nat oedd neb ar ae clywai nys carei.
(*), Er nad wyf yn credu y cwbl a edrydd y
Chronicl am dano, sef iddo oresgyn deng teyrnas
a'r hugain a'i goroni yn Ymherawdr yn Rhufain,
etto ys yw gennyf, iddo gadw ei wlâd ei hun yn
wrol-wych rhac y Saeson. Je, er iddynt fwriadu a
chyd-fwriadu trwy undeb a chyttundeb Arglwyddi,
Germani, na's diffygient fyth nes goresgyn ynys
Brydain, etto hi a fu gyfyng arnynt yn Amser
Arthur. Ond ni bu Arthur ond tra fu.

Y mae ein cymmydogion yn ddigofus wrthym
ein bod yn ymffrostio am Arthur. Ac ambell
geccryn a gais ddywedyd na fu erioed y cyfryw
wr ag ef yn y bŷd. Ond gwybydded y Darllenydd
hyn, a chreded ef megis gwirionedd disiommedig
nad oes gan y cyfryw un fwy sail i ddywedyd
hynny, na phe taerai dŷn na chododd yr Haul
erioed, o herwydd ei bod hi'n fachludiad Haul pan
yr ynfydai efe hynny. Y Gwirionedd ydyw, yr

[td. 93]
oedd Arthur yn casau y Saeson yn ddi-ragrithiol;
a hynny ydyw'r achos eu bod hwy yn ceisio lladd
ei enw, pan fethu arnynt ladd ei Berson. Ond ni
châf i wag-dreulio'r amser i wrth-brofi ynfydrwydd
neu enllib y dynionach hynny trwy resymmau
lawer, (oblegid fod y peth cyn eglured fal
nad oes ond ambell geccryn enllibus a ryfyga ddywedyd
hynny) ond ystyried y darllenydd cymmaint
a hyn, sef. 1. P'odd y buasai Beirdd yr
oes honno yn crybwyll mo'r Sathredig o'i blegid,
pe ni fuasai y fath Frenin yn teyrnasu arnynt.
Darllenasoch eusys tu dal. 87. Bennill Taliesin; Ac
os nid yw Awdurdod y Bardd melus-ber hwnnw
yn ddigonol, angwanegaf yma un arall, sef Pennill
o waith Llywarch hên yr hwn a scrifennodd
ynghylch y flwyddyn 590 Ei eiriau ŷnt.

Yn Llong-borth llas i Arthur,
Gwyr dewr cymmynynt a dur;
Amherawdr llywiawdr llafur,
Llywarch hên a'i cant.

Mae rhai yn tybied mae Llundain yw'r lle
hwnnw a elwir gan y Bardd Llong-borth. Ond
gwell gan eraill dybied mae lle o fywn Sîr Aberteifi
a elwir heddyw Llanborth yw efe. Ac nid
yw hynny anhebygol i fod yn wirionedd, Can's
1. Nid oes dim ond ychydigyn gwahaniaeth rhwng
y ddau air. 2, Mae lle yn gyfagos yno yr hwn
a elwir yn gyffredin Maes glâs, ond yr enw cyssefin
oedd Maes y llâs, neu ysgatfydd Maes galanas:
Ac yn y lle hwnnw drwy bob tebygoliaeth y lladdwyd
Gwyr Arthur. 3, Y mae man arall yn
agos yno sef o fywn Plwyf Penbryn a elwir Perth
Gereint, ac yno drwy bob tebygoliaeth y mae

[td. 94]
Beddrod Gereint yr hwn a lâs yn Llongborth fal y
dywed yr un Bardd.

Yn Llongborth y llâs Gereint,
Gwr dewr o goddir Dyfneint,
Hwynt-hwy yn lladd; gyd as lleddeint.
Llywarch hen a'i dywawt.

Fe gafwyd, ei feddrod ef tua diwedd teyrnasiad
Harri'r ail, a'r geiriau hyn oedd yn argraphedig a'r
groes blwm, yr hon oedd wedi ei hoelio wrth yr
Ysgrin, Yma Y Gorwedd Arthur
Brenin Enwog Y Brutaniaid, Yn
Yr Ynys Afallon * Hyn sydd yn dangos.
1, Fod y Fath ŵr ag Arthur ryw bryd.
2, Fod efe yn Frenin. 3, Fod efe yn Frenin Enwog.
Ac yn wîr ddiau ni fuasai'r Argraphydd
ddim yn celwyddu, pe gosodasai yno, Yma Y
Gorwedd Arthur Y Brenin Enwoccaf
A Fu Erioed Ym Mhrydain;
canys da yr haeddodd efe ei alw felly.

Y mae'n ormod tasc i mi geisio gosod yma hanes
neilltuol am Weithredoedd Arthur, y rhai ŷnt
cyn odidocced, fal prin y mae, onid ŷnt wedi dallu
fy llygaid i wrth graffu arnynt. Dywedir i Fyrddin
brophwydo o'i blegid fal hyn, Ei ddiwedd a
fydd petrus; yng ngeneuau y bobl ydd anrhydeddir,
a'i weithredoedd a fydd bwyd i'r neb a'i datcanant.
Ei ddiwedd a fu betrus, can's ni
choeliai'r Brutaniaid iddo farw oll, a hwy a fuont

[td. 95]
yn ei geisio ef lawer cant o flynyddoedd a'r ol ei
farwolaeth. Ac ys yw gennyf, ein bod ni etto
yn gwenu ac yn ymhyfrydu wrth glywed Sôn am
ei weithredoedd. Pa ham ynteu y gelwid Myrddin
y gau Brophwyd? Ac yma mi a derfynaf i
son ychwaneg am y Rhyfel a fu rhyngom ar Saeson
ond yspysaf a'r fyr eiriau i'r matter fyned
yn waeth-waeth beunydd gyd a'r Brutaniaid wedi
Marwolaeth Arthur. Canys lluosowgrwydd o
bobl oedd yn Germani gwlâd y Saeson, a phob
amser y byddai raid wrthynt, hwy a ddeuent a'r
frŷs i Frydain i gynnorthwyo eu Brodyr.
Ac yno o herwydd y lliaws gwastadol hwnnw,
ac o herwydd amrafaelion gynhennau yn ein plith ein
hunain, ond yn bennaf dim o herwydd Digofaint
Duw arnom o ethryb ein pechodau, gyrrwyd ein
Hynafiaid i gyrrau salaf yr ynys sef Cymru a Cherniw.
P'le'r ydym yn cyfanneddu hyd heddyw.
A'r Saeson hwythau sy'n arglwyddiaethu arnom
y rhai er eu bod a'r y cyntaf yn ddugn-ormesol a
chreulon, etto er ys talm y maent) yn hygar ac
addfwyn. O bobtu Bl. yr Argl. 590 oedd amser
ein hymadawiad o Loegr. Gwel. Rhan. II.
Pen. III.

YR hwn sy'n chwennych hanes gyflawn am helynt
Tywysogion Cymru, darllened Ghronicl
Caradoc o Lancarfan, yr hwn er nad yw wedi ei argraphu
etto yn Gymraeg, etto yr wyf yn gobeithio
y bydd wiw gan y Pendefig digymmar hwnnw
Mr. Wiliam Lewis o Lwynderw ganiattau i ryw
un ei osod ef mywn Print, canys ganddo ef y mae
'r coppi perffeithiaf a'r a welais i. Ac o'r achos

[td. 96]
hwnnw, ni chaf i ddywedyd ond ychydig yma am
helynt y Tywysogion. Un Tywysog oedd yn
rheoli a'r y cyntaf Gymru oll. Ond Rhodri mawr
yr hwn a ddechreuodd ei Deyrnasiad Bl. yr Argl.
843, a rannodd Gymru yn dair rhan rhwng ei dri
maib. Gosododd un yng Ngwynedd, un arall
ym Mhowis, a'r trydydd yn Neheubarth, ond
Tywysog Gwynedd oedd y pennaf. Brenin-llys
Tywysog Gwynedd ydoedd Aberffraw ym Môn.
Palas Tywysog Powys oedd ym Mathrafael, * A
Phencyfeistedd Tywysog Deheubarth ydoedd Castell
 Dinefwr a'r lan Tywy. Ynghylch y weithred
hon y cân y Bardd fal hyn.

Tri meib i Rodri mywn tremyn eu câd
Cadell, 'Narawd, Merfyn:
Rhannu wnaeth yr hyn oedd yn
Rhoddiad, holl Gymru rhy'ddyn?

Wyth cant llawn a'i wrantu, pen rhinwedd
Pan y rhannwyd holl Gymru,
A saith deg llawn waneg llu
Eisioes oedd oed Jesu.

Rhannodd a gadodd er gwell, dawn ufudd,
Dinefwr, i Gadell,
Y mâb hunaf o'i stafell;
Pennaf o wyr pwy un well.

Anarawd gwastawd dan go' yn gyfan
A gâfas Aberffro:
A daioni Duw yno;
Fe biau breiniau a bro.


[td. 97]

Gwir, gwir a ddywedir i ddyn, Paun ieuangc,
Powys gafas Merfyn.
Llyna'r modd yr adroddyn'
Treiir rhwng y tri wyr hyn
Dafydd Nanmor a'i cant.

Ni wnaeth hyn ond gwanhychu ein gwlad ni,
canys yn lle cydymgynnull eu byddinoedd yn
erbyn y Saeson, hwy a syrthient allan a'i gilydd;
a chyn chwannocced oeddynt i'r castieu hagr hynny,
fal prin y gwladychodd un o honynt heb
frwydrau gartrefol. Ond yn gymmaint a mod [~ fy mod ]
i yn gobeithio y daw Chronicl Caradoc a'r gyhoedd,
mi a dawaf.

Yr enwoccaf o holl Dywysogion Cymru oedd
Hywel Dda, yr hwn a ddechreuodd ei Deyrnasiad
Bl. yr Argl. 940. Efe a drefnodd gyfreithiau da
i'w cadw drwy holl Gymru, y rhai a arferid gan
mwyaf hyd yn amser Harri yr wythfed: Pan
welodd Hywel (eb'r Chronicl) gam-arfer defodau
ei wlâd, efe a anfones am Arch-esgob Mynyw
[Tŷ Ddewi] a'r holl Esgobion eraill a oeddynt
yng Nghymru, a'r holl brif eglwyswyr a oedd
tanynt, y rhai oeddynt i gyd yn saith ugeint. Ac
holl Arglwyddi, Baryniaid a Phendefigion
y wlâd. Ac a beris i chwech o'r rhai doethaf ym
mhob Cwmmwd ddyfod ger ei fron ef, yr rhai a
a orchymmynodd efe iddynt ymgyhwrdd oll
ynghyd yn ei lŷs ef yn y Ty gwyn ar Daf. Lle y
daeth efe ei hunan ac a arhosodd yno, gyd a'i Bendefigion,
Esgobion, Eglwyswyr a'i Ddeiliaid drwy'r
grawys mywn ympryd a gweddiau am gymmorth
yr yspryd Glân, a'i drysglwyddiad, modd y gallai
adferu ac adgyweiriaw Cyfreithiau a defodau

[td. 98]
gwlad Cymru, er anrhydedd i Dduw, ac er llywodraethu
'r bobloedd mywn heddwch a chyfiawnder.
Ac ym mhen diwedd y grawys, efe a
ddetholodd ddauddeg o'r rhai doethaf o'r cwbl,
gyd-a'r Doctor enwog o'r gyfraith Blegwyryd,
gwr doeth dyscedig jawn, ac a orchymmynodd
iddynt chwilio yn fanwl holl gyfreithiau a defodau
Cymru, a chynnull allan y rhai oeddynt fuddiol,
ac Esponi y rhai a oeddynt dywyll ac amheuys,
a diddymmu y rhai a oeddynt arddigonaidd.
Ac felly yr ordeiniodd efe dair rhyw
a'r gyfraith, sef yn gyntaf, Cyfraith ynghylch llywodraeth
y Llŷs, a theulu y Tywysog: Yr ail
ynghylch y Cyfoeth cyffredinol: A'r drydedd
ynghylch y prif ddefodau, a breiniau neilltuol.
Ac yna, gwedi eu darllen a'i cyhoeddi, y peris
efe yscrifennu tri llyfr o'r gyfraith, sef un i'w arfer
yn oestadol yn ei Lŷs, a'r ail i'w gadw yn
ei Lŷs ef yn Aberffraw, a'r Trydydd yn Llŷs
Dinefwr modd y gallai y tair talaith eu harfer
a'i mynychu pan fyddai achosion; Ac i gymmell
ufudd-dod iddynt, efe a beris i Arch-esgob Mynyw
gyhoeddi ysgymmyndod yn erbyn y Sawl oll o'i
ddeiliaid a'i gwrth-laddei hi. Yr wyf yn
meddwl na fyddai lwyr anghymmwys ped angwanegwn
yma ryw ychydigyn o'r Gyfraith honno,
yr hon a gefais gan y Periglor dysgedig, a'r Cymreigydd
cywreiniaf hwnnw, Mr. Samuel Wiliams,
Person Llangynllo yng Ngheredigion.

“Barnwr a ddylai wrando yn llwyr, dyscu yn
graff, datcanu yn wâr, a barnu yn drugarog.
A llyma yr oed y dylyir gwneuthur dyn yn
farnwr, pan fo pum mhlwydd a'r hugeint oed.

[td. 99]
Sef achos yw hynny, wrth na bydd cyflawn o
synwyr a dysc, hyd pan fo barf arno; ac ni bydd
gŵr neb, hyd pan ddel barf arno: Ac nid teg
gweled mâb yn barnu a'r wr hên.

“A oes dau frodyr, y rhai ni ddylyant gael
mwy na rhan un brawd, un-dad un-fam? Oes.
O genir dau fâb yn un dorllwyth y wraig,
ni ddylai y ddau hynny, eithr rhan un etifedd.

“O derfydd bod ymrysson, pwy a ddylyai warchadw
etifedd cyn y dêl i oedran gwr; a'i
cenhedl ei dad, a'i cenhedl ei fam? Cyfraith a
ddywed, mae gwr o genhedl ei fam a ddylai,
rhac i neb o genhedl ei dad wneuthur brad am
y tîr, neu ei wenwyno.

“Os ymrwym gwraig wrth ŵr heb gyngor
ei chenedl, y plant a ynniller o honaw, ni chânt
ran o dir gan genhedl eu mam o gyfraith.

“Os gwr a gwraig a ysgarant cyn pen y saith
mhlynedd, taler iddi ei hegweddi, *
a'i hargyffreu ‡ a'i chowyll, †,
os yn forwyn y daeth hi. Ond
os cyn pen y saith mhlynedd yr
ymedy hi a'i gŵr, hi a gyll y
cwbl ond ei chowyll.

“Tri phrifrei gwraig y sydd, ei chowyll, ei
hargyffreu, a'i hwynebwerth, nid amgen y
gwarthrudd; sef yw gwarthrudd, pan gydio
gwr a gwraig arall; y waith gyntaf y tâl chweigeint
iddi, a'r ail-waith punt, a'r trydedd waith
ysgar a eill a'i gwr heb golli dim o'r eiddi.

“O derfydd bod deu ddyn yn cerdded trwy
goed, ac esgynniaw gwrysgen a'r lygad yr olaf
gan y blaenaf, onis rhybuddia, taled iddo ei lygad
os cyll, ac os rhybuddia, ni thal ddim.


[td. 100]
"O derfydd bod deu yn cerdded ffordd, a chaphael
o'r naill denot; Os y blaenaf a'i caiff,
rhanned a'r olaf. Os yr olaf a'i caiff, ni's
rhan a'r blaenaf.

"Ni pherthyn dau boen am yr un weithred.

"Y neb a ddywetto air garw, neu air hagr
wrth y brenin, taled * gamlwrw iddo.

"O derfydd i ddyn roddi bonclust i ddyn arall,
ac na's gwatto, taled iddaw y sarhâd herwydd ei
fraint, a phedair a'r hugeint arian dros y bonclust.


"Pwy bynnag a gwyno rhac arall, ac a fo
gwell gantho tewi na chanlyn, cennad yw iddo
tewi,, a thaled gamlwrw i'r brenin, ac yn oes y
brenin hwnnw ni wrandewir.

"O derfydd fod da yng nghyd rhwng deu ddyn,
a threulio o'r naill y da hwnnw yn ddiwahardd,
ni ddylai colli dirwy na chamlwrw, namyn ynnill
i'r dyn ei eiddo.

"O derfydd i ddyn brynu anifail gan arall, a
gwedi ei brynu bod dannedd iddo yn eisiau, a
mynnu eu difwyn: Cyfreith a ddywed, na
ddiwygir, canys Anaf eithyr y croen yw: A
ph' le bynnag ni thorro na chig na chroen, Anaf
eithyr y croen yw.

Dyma ychydigyn o Gyfraith Hywel Dda, ê
fyddai yn glamp o lyfr mawr ped ei hysgrifennid
i gyd oll. Hi a barhaawdd mywn grym ynghylch
tri chant a deg a deugain o flynyddoedd. Can's
yr amser y diddymmwyd hi ydoedd ynghylch Bl.
yr Argl. 1293, (ond hi a barhaawdd gan mwyaf
hyd yn amser Harri'r wythfed) ym mha amser
y dycpwyd ein Hynafiaid trwy ddichell a ffalsder
tan gyfraith Loegr yn gyntaf. Can's pan fu farw
Llywelyn ap Gruffydd (yr hwn a fu y tywysog

[td. 101]
diweddaf yng Nghymru) y danfonodd Brenin
Edwart y cyntaf, at Bennaethiaid y Cymru i
erchi iddynt ufuddhau i'w lywodraeth ef. Ond
yno yr attebasant, na ymddarostyngent hwy fyth
i neb ond un o'i cenedl eu hun. Ac y byddai
raid i hwnnw fod o ymarweddiad a Moesau da, Ac
heb air o saesonaeg ganddo. Ac yno'r Brenin,
pan ddeallodd na thycciai eu bygylu, a ddychymygodd
ffalsder i'w siommi. Yn y cyfamser hwnnw
yr oedd gwraig y brenin yn feichiog, ac efe
a'i danfones hi i drêf Caernarfon i esgor. A
phan anwyd iddi fachgen, y danfonodd Edw ffals
eilwaith at Bennaethiaid y Cymru, gan ofyn iddynt,
A oeddynt o'r un bwriad ac or blaen? A hwy
a ddywedasant eu bod, Ac yno y dywad y Brenin
wrthynt, Mi a enwaf Dywysog o'r cyneddfau
pa rai ydych chwi'n ewyllysio. Ganwyd i mi fâb
yng Nghaernarfon, a hwnnw a gaiff fod yn Dywysog
i chwi. Un ydyw ni wyr air o Saes'neg, ac nid
all fod dim bai a'r ei ymarweddiad. Prin y buont
fodlon i dderbyn y Baban, ond ni wn i pa
fodd, hwy a gyttunasant. Ac o hynny allan y
cyfenwyd mab hunaf Brenin lloegr Tywysog
Cymru.

Llywelyn ap Gruffydd oedd y Tywysog diweddaf
(o waed diledryw y Brutaniaid) a fu'n llywiaw
Cymru. Ac ys yw gennyf nad yw'r Bardd yn
celwyddu pan y dywed o'i blegid.

Colles Cymru fawr gwawr gwreiddiaf,
Cyweithlon esgud gloywddydd glewaf;
Gwreiddlyw nid byw ba wnaf o'i golled!
Gwreiddlew hyged rhoddged rhwyddaf.

Gwr a lâs drosom gwr o oedd drosaf,
Gwr oedd dros Gymru hy y henwaf.


[td. 102]

Gwrawl Lywelyn gwraf o Gymro:
Gwr ni charodd ffô i'r ffordd nessaf.

Gwr gwrdd yn cyrchu llu lledeithaf:
Gwr gwrdd ei bebyll gwersyll gorsaf.
Gwreiddfab Gruffydd digraffaf; am reg,
Yn ddeddfau mawrdeg Nudd a Mordaf.

Gwr gayw-rudd gwr prudd fegis Priaf;
Gwr gwin yn frenin fyddin falchaf;
Gwr hylwydd ei glod gwr haelaf am draul;
Hyd y cerddai'r Haul i'r fan bellaf.

Gwr dig i ddistryw llyw llyseiddiaf;
Gwr dygn i alar, câr cywiraf;
Gwr cywirgoeth doeth detholaf o Fôn
Hyd yng Nghaerlleon y lle teccaf.
Bleddyn fardd a'i cant.

Efe a lâs ym Muellt yn y flwyddyn 1282, sef,
un mil dau cant, a dau a phedwar ugain, dydd
gwener y trydydd o Idiau Rhagfyr, sef yw hynny,
yr unfed dydd a'r ddeg o Rhagfyr. Gosodwyd
ei ben anwyl ef a'r ben pawl haiarn cas a'r dŵr
Llundain, fal y dywed Bardd melusber arall fal hyn.

Pôb cantref pôb tref ynt yn treiddiaw,
Pôb tylwyth pôb llwyth y sy'n llithraw,
Pôb gwan pôb cadarn cadwed o'i law.
Pôb mâb yn ei grud y sy'n udaw;
Bychan lles oedd i'm am fy'n twyllaw,
Gadel pen arnaf heb pen arnaw;
Pen pan lâs ni bu gas Gymraw,
Pen pan lâs oedd lesach peidiaw.
Pen milwr pen moliant rhag llaw,
Pen dragon pen draig oedd arnaw.
Pen Llywelyn deg, dygn a braw,
I'r byd fod pawl haiarn trwyddaw
Gruffydd ap yr Ynad côch a'i cant.


I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section