Adran o’r blaen
Previous section


RHAN V.


Yr oedd dwy ffordd i fyned o 'm tŷ i at dŷ Jane;
un drwy y caeau, a 'r llall ydoedd y brif ffordd. Wrth
fyned ar hyd y ffordd yr oeddid yn dyfod i olwg y tŷ
lle yr oedd Jane, ym mhell cyn dyfod atto; ac fel hyn
fe fyddai mam yr eneth yn fy ngweled yn dyfod ac yn
ffoi: ond wrth fyned ar hyd y llwybr trwy 'r caeau,
deuech at y tŷ cyn y gallai neb yn tŷ eich gweled.
Penderfynais fyned y tro hwn trwy 'r caeau; a daethum
at y tŷ ac aethum i mewn, heb i neb o bobl y tŷ
fy ngweled na nghlywed [~ fy nghlywed ]. Ar ol fyned i mewn, clywn
siarad ac ymddiddan yn llofft. Deallais mai Jane
oedd yn siarad â 'i mam; am hynny eisteddais i wrando
arnynt. Clywn hi yn dywedyd,

“Mam! mam! nid oes gennyf fawr o amser i fyw.
Ni bydd fy amser i ond byrr iawn. Etto y mae 'n
rhaid i mi, yn wir, y mae 'n rhaid i mi ddywedyd
rhyw beth wrthych, cyn fy marw. O, mam! y mae
gennych enaid! y mae gennych enaid! A pha beth
a ddaw o 'r enaid yna, pan y byddoch farw? O, fy
mam! ni fedraf ddywedyd y gofid sydd i mi yn achos
eich henaid chwi ——”

“O 'r anwyl! mi a gollaf fy mhlentyn—a pha beth
a wnaf, Jenny bach, pan bo'ch [~ boch ] chwi marw?” a hi a
dorrodd allan i wylo.

“Mam, meddyliwch am eich henaid. Oni ddarfu
chwi esgeuluso hwnnw?”


[td. 35]
“Do, merch [~ fy merch ] fach i; fe fum i yn ddrwg iawn, ac yn
casâu pob peth da. Pa beth a wnaf?”

“Mam, rhaid i chwi weddïo Duw am faddeuant,
er mwyn Crist. Y mae 'n rhaid i chwi weddïo.”

“O, Jenny bach, ni fedraf i weddïo; ni weddïais i
ddim erioed. Yr wyf yn rhy ddrwg i weddïo.”

“Mam, yr oedd arnaf eisieu siarad â chwi er ystalm
am y peth hyn; ond yr oedd arnaf ofn gwneuthur
hynny. Nid oeddech yn caru nac yn ewyllysio clywed
dim gennyf am grefydd, ac yn wir ni wyddwn innau
pa fodd i ddechreu. Ond yn wir, mam, y mae yn
rhaid i mi siarad â chwi yn awr; ac onite, yr wyf yn
ofni y bydd hi yn rhy ddiweddar. O na buasai Mr. R.
yma; canys fe fuasai ef yn medru siarad â chwi yn
well nag y medraf i. Ond fe allai y meddyliwch am
y pethau yr wyf fi yn eu dywedyd yn o drwsgl, pan
y byddwyf farw. Nid wyf ond plentyn, ac am hynny
yn anghymmwys i lefaru wrth neb am bethau crefyddol.
Ond, mam, yr ydych chwi yn perthyn mor
agos i mi, ac ni allaf oddef meddwl y collir chwi am
dragywyddoldeb. Dangosodd fy Nuw a 'm Hiachawdwr
i mi fy mhechod a 'm llygredd—Efe a 'm carodd,
ac a 'i rhoddes ei hun droswyf—Efe a fu farw, ac a
gyfododd drachefn. O na allwn ei ganmol ef am hyn
byth ac yn dragywydd! Yr wyf yn disgwyl ei weled
ef yn y nef. Ond, O mam, y mae arnaf eisieu eich
gweled chwithau yno hefyd! Da mam, da mam,
gadewch heibio dyngu, ac arferion drwg. Ewch i 'r
eglwys, a gwrandewch ar y gweinidog yn llefaru am
Iesu Grist, a 'r hyn a wnaeth efe dros bechaduriaid.
Y mae efe yn ewyllysio yn dda i eneidiau. Efe a
ddysgodd i mi y ffordd, ac efe a 'i dysg i chwithau.
Paham yr oeddech yn wastad yn myned allan o 'r tŷ
pan y gwyddech ei fod ef yn dyfod? Na ddigiwch,
mam; er eich lles yr wyf yn dywedyd y pethau hyn.

[td. 36]
Chwi a wyddoch fy mod i unwaith mor ddifeddwl am
bethau Duw ag yr ydych chwithau; ond gwelais fy
nghamsyniad. Yr oeddwn yn rhodio 'r ffordd lydan,
yr hon sydd yn arwain i ddistryw, fel llawer eraill o
blant y plwyf; ond edrychodd yr Arglwydd arnaf, a
thrugarhaodd wrthyf.”

“Oeddech, fy mhlentyn, yr oeddech chwi bob amser
yn eneth dda, ac yn caru eich llyfr.”

“Na, na mam; nid oeddwn felly bob amser: chwi
a wyddoch nad oeddwn yn meddwl dim am ddaioni,
nac am fy Mibl, hyd ddyfodiad y gweinidog yma i 'n
plwyf, yr hwn a 'n gwahoddodd i 'w dŷ ar brydnawn
Sadyrnau. Onid y'ch yn cofio eich bod chwi yn anfoddlon
ar y cyntaf i mi fyn'd [~ fynd ] yno, ac i chwi ddywedyd
na fynnech y fath dduwioldeb o amgylch eich tŷ; a
bod yn well gennych i mi chwarae yn yr heol a 'r caeau,
nag i mi gael fy ngwatwar a 'm gwawdio am gymmeryd
arnaf fod yn grefyddol? Ond, O mam! ni wyddoch
chwi i ba beth yr oeddwn yn myned yno, na pha beth
yr oedd Duw yn fwriadu wneuthur i 'm henaid tlawd ac
euog. Ond, diolch i Dduw, i mi fyned yno, a dysgu
yno ffordd yr iechydwriaeth. O na buasai chwithau,
mam, wedi dysgu 'r ffordd hon!”

Wrth wrando ar yr ymddiddan pwysfawr hwn, mi
a feddyliais, wrth swn a dull y wraig yn llefaru, bod
mwy o ofid iddi o achos afiechyd ei merch, nag o herwydd
drwg gyflwr ei henaid. Etto, llawenychais wrth
glywed y fath gynghorion ffyddlon yn cael eu rhoddi
gan un mor ieuangc. Gwelais lawer tro wedi hyn, yr
annuwiol a 'r anystyriol, wrth welyau ceraint neu gyfeillion,
yn tywallt dagrau yn helaeth, ac yn addunedu
diwygio; ond etto, fel y ci yn ymchwelyd at ei chwydiad.
Gwelais hefyd amgylchiadau fel hyn yn cael eu
bendithio, er ymchweliad eraill at Dduw.

Ar hyn agorwyd y drws gan frawd ieuangaf Jane,

[td. 37]
a gofynodd y wraig o 'r llofft, pwy oedd yno; ac attebodd
y bachgen: ac felly ni ddaeth i lawr y grisiau.
Gwneuthum amnaid ar y bachgen i eistedd; ac am
hynny ni wyddai y rhai oedd yn llofft fy mod i
yn tŷ.

“Mam,” ebe Jane, “fy mrawd yw hwna; ac efe
cyn pen ychydig fydd eich unig blentyn chwi. Da,
mam bach, annogwch ef i ddilyn yr hyn sydd dda.
Danfonwch ef at Mr, R——, ac efe a fydd yn dda
wrtho, fel y bu wrthyf innau. Y mae efe yn fachgen
gwyllt; ond gobeithio y dyger ef i feddwl am ei enaid.
Dysgodd y plant annuwiol a drwg yna ef i dyngu ac
i ymladd, ac i redeg i bob drwg. Cynnorthwyed yr
Arglwydd ef i ffoi rhag y llid a fydd.”

Gwnes amnaid ar y bachgen i wrando ar hyn; ac
yr oedd yn ymddangos, fel pe buasai yn gwrando yn
astud; canys yr oedd y dagrau yn treiglo dros ei
ruddiau.

“Ië, Jenny bach, gobeithio y bydd iddo ef a minnau
ffoi rhag y llid hwnnw.”

“Mam, os felly, y mae 'n rhaid i chwi ffoi at Grist.
Ni all neb, na dim a 'r a wneloch chwi, heb hyn, eich
hachub. Y mae 'n rhaid i chwi edifarhau a throi
oddiwrth bechod—heb ras Duw ni ellwch wneuthur
hyn—ond ceisiwch a chwi a gewch—gwnewch hyn
er eich lles eich hun, er fy mwyn i, ac er mwyn fy
mrawd bach.”

Torrodd y wraig allan i wylo, ac ni allodd atteb—
a meddyliais ei bod yn amser i minnau ymddangos.
Aethum at droed y grisiau, a gofynais, “A gaiff
cyfaill ddyfod i fynu?”

“Trugaredd i mi!” ebe 'r wraig, “dyma Mr. R—.”

“Dowch i fynu, Syr,” ebe Jane, “y mae 'n dda
iawn gennyf eich bod yma yn awr. Mam, estynwch
gadair.”


[td. 38]
Yr oedd y wraig yn edrych yn euog; ond Jane ydoedd
yn gwenu.

“Gobeithio,” ebe fi, “y maddeu y fam a 'r ferch i
mi, am aros cyhyd i lawr y grisiau i wrando yr ymddiddan
pwysfawr a fu rhyngoch. Yr oeddwn yn
dyfod heddyw dan obeithio eich cael ynghyd; canys
yr oedd arnaf er ys tro eisieu cyfleustra i siarad â
chwi, Sarah, am y pethau y bu eich merch yn siarad
â chwi yn eu cylch. Esgeulusasoch y pethau hyn
dros hir amser bellach; ac yr oedd arnaf eisieu cael
rhyw gyfleustra i 'ch rhybuddio ac i ddywedyd wrthych
am y perygl yr ydych ynddo—ond dywedodd Jane
wrthych yr holl bethau yr oeddwn innau yn meddwl
eu dywedyd—yn awr, gan hynny, yr wyf yn gofyn i
chwi, yn y modd mwyaf difrif, a yw y pethau pwysfawr
a ffyddlon a ddywedodd eich merch wrthych,
ddim wedi eich deffroi i feddwl am eich henaid? Chwi
a ddylasai fod yn ei hyfforddi hi yn llwybrau cyfiawnder;
ond yn lle hynny, wele, hi yn eich dysgu chwi.
Gwyn eich byd chwi, pa fodd bynnag, os byddwch
ddoeth, ac ystyried eich diwedd, a 'r pethau sydd yn
perthyn i 'ch heddwch, cyn y byddont yn guddiedig
oddiwrth eich llygaid! Edrychwch ar eich geneth,
yr hon sydd yn nyffryn cysgod angeu—a meddyliwch
am eich mab hefyd, eich unig blentyn agos, a dywedwch,
onid yw hyn yn galw yn uchel arnoch i wrando
ac ofni?”

Yr oedd llygaid Jane yn llawn o ddagrau tra yr
oeddwn yn llefaru; ond daliodd y wraig ei phen i
lawr, ond er hynny dangosodd arwyddion o anfoddlonrwydd
i 'r dull ffyddlon hwn o ymddiddan â hi.

Dywedais wrth Jane, “Fy anwylyd, pa sut yr ydych
chwi heddyw?”

“Siaradais lawer, Syr; ac am hynny yr wyf yn
teimlo fy hun yn o lesg a blinedig: ond fe fu fy

[td. 39]
meddwl yn bur gysurus er pan welais chwi ddiweddaf.
Yr wyf yn hollol ewyllysgar i farw, pan welo Duw yn
dda. Nid oes gennyf ond un peth y dymunwn fyw o 'i
herwydd, a hynny yw, gweled fy ngheraint a 'm cyfeillion
mewn gwell cyflwr cyn fy ymadawiad. Byddai
arnaf ofn ymddiddan â hwynt am y pethau hyn; ond
heddyw yr wyf wedi cael yspryd arall, ac nid allaf
ymattal rhag eu cynghori, a dywedyd wrthynt am yr
hyn a wnaeth yr Arglwydd i 'm henaid, a pha fodd yr
wyf yn teimlo yn eu hachos hwy.”

Yr oedd y fath gadernid a godidawgrwydd yn ei
hymadrodd y tro hwn, nes yr oeddwn yn gorfod rhyfeddu.
Yr oedd y plentyn megis wedi ei lyngcu i
fynu gan y Cristion. Yr oedd ei gwyldra naturiol
wedi rhoddi lle i hyfdra sanctaidd, yn tarddu oddi ar
ei chysuron ysprydol, a 'i dymuniadau gwresog i
wneuthur daioni i 'w mam. Hyn a barodd wrid yn ei
hwyneb gwelwlas, yr hyn a wnaeth yr olwg arni yn
hynod ddymunol. Yr oedd y Bibl yn agored o 'i
blaen, fel yr oedd yn eistedd yn y gwely; a hi a gydiodd
yn llaw ei mam â 'i llaw ddehau, ac a ddywedodd
wrthi,

“Mam, ni fedrwch chwi ddarllen y llyfr hwn; fe
ddylech am hynny fyned bob tro i 'r Eglwys i glywed
ei eglurhau. Llyfr Duw yw hwn; ac y mae yn mynegu
i ni y ffordd i 'r nefoedd—gobeithio y dysgwch ac
y cedwch ef, a than fendith Duw efe a geidw eich enaid.
Meddyliwch am hyn, mam; da mam, meddyliwch
am hyn. Yr wyf fi ym min marwolaeth.
Rhowch y Bibl hwn i 'm brawd bach—ac a fyddwch
chwithau cystal a 'i addysgu ef, Syr. Mam, cofiwch
yr hyn yr wyf yn ei ddywedyd; ac y mae y gwr bonheddig
yma yn dyst. Nid oes iechydwriaeth i 'r fath
bechaduriaid a chwi a finnau, ond y'ngwaed [~ yng ngwaed ] Crist.
Efe a ddichon achub hyd yr eithaf. Efe a achub bob

[td. 40]
un a ddaw atto. Y mae yn disgwyl i drugarhau.
Bwriwch eich hun ar ei drugaredd ef. O! yr wyf yn
ewyllysio -- yr wyf yn dymuno -- yr wyf -- yr wyf -- yr—”

Methodd a gorphen yr hyn a ddechreuodd; canys
llewygodd. Dywedodd ei mam, y byddai hi gryn amser
cyn dadebru.

Dywedais amryw o bethau wrth Sarah; ac yna
aethum i fyned ymaith. Ond fel yr oeddwn yn gadael
y llofft, dywedodd Jane, mewn llais distaw,

“Dowch toc etto, Syr; nid oes i mi ond ychydig
amser yn hŵy.”

Aethum adref ar hyd yr un llwybr ag y daethum,
dan fyfyrio ar y nodau eglur o dduwioldeb a ffydd a
welswn yn yr eneth ieuangc hon.

Yn ddiau, ebe fi, plentyn anghyffredin yw 'r eneth
hon. Beth ni all gras ei wneuthur? A ellir ammeu,
ar ol hyn, pwy yw awdwr a pherffeithydd ein hiechydwriaeth
ni? neu oddiwrth bwy y mae pob rhoddiad
daionus, a phob rhodd berffaith, yn dyfod? Mor
llawn, mor rhad yw trugaredd yr Arglwydd! Oni
ddewisodd Duw wan bethau 'r byd, fel y gwaradwyddai
y pethau cedyrn? Na orfoledded un cnawd
ger ei fron ef; “ond yr hwn sydd yn ymffrostio, ymffrostied
yn yr Arglwydd.”


RHAN VI.


Yn bur fore dranoeth deffrowyd fi cyn ei dyddhau
gan gennad a yrrasid i 'm galw at Jane; canys yr oedd
hi yn marw. Pan ddaethum i 'w thŷ, ni chefais neb ar
lawr. Arosais ychydig heb fyned i 'r llofft, a chlywn
Jane yn gofyn yn ddistaw, mewn llais gwanllyd,


[td. 41]
“Ydych chwi yn meddwl y daw o? O fe fyddai
yn dda iawn gennyf—yn dda iawn gennyf ei weled ef
cyn fy marw!”

Aethum ar hyn i fynu 'r grisiau, a chefais yno yng
nghyd ei thad a 'i mam, ei brawd bach a 'r hen wraig
y soniwyd eisoes am dani. Gwelais bod angeu yn
bur agos: etto, er mor agos ydoedd angeu, yr oedd
rhyw serchawgrwydd [~ serchowgrwydd ] rhyfedd i 'w ganfod yn ei hwynebpryd.
Pan y gwelodd fi, adfywiodd ychydig; ac
ymddangosodd cariad a diolchgarwch yn sirioldeb ei
golygon. Buasai yn siarad ychydig cyn i mi ddyfod
i 'r llofft, am hynny bu yn ddistaw tros dro; ond ni
thynnodd ei golwg oddi arnaf yr holl amser. Yr oedd
y fath sirioldeb a bywiogrwydd yn ei hwynebpryd—
ïe, yr oedd rhywbeth mwy na hyn—rhywbeth fel
blaen-brawf o 'r nefoedd; ac yr oedd hyn yn peri iddi
edrych yn angeu yn neillduol brydferth.

O 'r diwedd hi a ddywedodd, “O! Syr, y mae hyn
yn dirion iawn—yr wyf fi yn myn'd [~ mynd ] yn gyflym iawn
—yr oedd arnaf ofn na chawswn eich gweled mwy yn
y byd hwn.”

Dywedais, “Fy anwylyd, ydych chwi yn foddlon
i farw?”

“O! yn hollol.”

“Y'mhle y mae eich gobaith chwi?”

Hi a gododd ei bys ac a 'i estynodd tu a 'r nefoedd,
ac wedi'n hi a 'i gosododd ar ei chalon, gan ddywedyd,
 “Crist accw, a Christ yma.”

Nid ellir cyfleu mewn geiriau yspryd y weithred
a 'r ymadrodd hwn.

Yna cymmerwyd hi gan ddirdyniad (spasm)—yn
edrych ar ei mam yn wylo, dywedodd, “Yr wyf yn
bur oer—ond nid yw o fawr bwys—fe fydd y cwbl ar
ben yn fuan—”

Cauodd ei llygaid dros fynyd, ac, wrth eu hagoryd,

[td. 42]
dywedodd wrthyf, “Yr wyf yn dymuno arnoch chwi,
Syr, ar ol fy marwolaeth, i ddywedyd wrth holl blant
y plwyf, mor dda fu 'r Arglwydd i mi, bechadur
tlawd—dywedwch wrthynt, y bydd i 'r sawl a 'i ceisiant
yn foreu ei gael—dywedwch wrthynt, mai ffyrdd
uffern a dinystr yw ffyrdd anwybodaeth a phechod—
a da chwi, dywedwch wrthynt, oddiwrthyf fi, mai
Crist yw 'r ffordd, a 'r gwirionedd, a 'r bywyd— dywedwch,
na fwrw efe allan, mewn un modd, neb a ddel
atto—dywedwch wrthynt, fy mod i, eneth dlawd—”

Ar hyn hi a aeth megis mewn llesmair; ond daeth
atti ei hun yn lled fuan, a dywedodd,

“Y'mhle 'rwyf fi? meddyliais fy mod yn myned—
Arglwydd, cadw fi!”

“Fy anwylyd, chwi a fyddwch cyn pen ychydig,
dros byth yn ei freichiau ef, yr hwn sydd yn awr â 'i
wïalen a 'i ffon yn eich arwain trwy ddyffryn cysgod
angeu.”

“Yr wyf yn credu hynny, yn wir, yr wyf,” ebe hi;
“yr wyf yn hiraethu am fod gyd âg ef. O, mor dda!
O, mor fawr! O, mor drugarog!—Iesu, achub fi!—
cymmorth fi trwy y cyfyngder olaf hyn!”

Yna hi a roddodd un llaw i 'w thad, a 'r llall i 'w
mam, ac a ddywedodd, “Duw a 'ch bendithio chwi—
Duw a 'ch bendithio—ceisiwch yr Arglwydd— meddyliwch
am danaf ar ol fy marwolaeth—fe allai y bydd
er lles i chwi—cofiwch am eich eneidiau—O! er
mwyn Crist, cofiwch am eich eneidiau—yna fe fydd
pob peth yn dda—ni ellwch feddwl na dirnad faint a
oddefais yn eich achos chwi i 'ch dau—O, Arglwydd,
maddeu bechodau, ac achub fy nhad a 'm mam!”

Yna hi a gydiodd yn llaw ei brawd, ac a ddywedodd,
 “Thomas bach, yr wyf yn erfyn arnoch adael
heibio eich arferion drwg—darllenwch eich Bibl—yr
wyf yn rhoddi fy Mibl innau i chwi—cefais ef yn llyfr

[td. 43]
gwerthfawr—ydych chwi yn cofio ein brawd bach a
fu farw er's tro yn ol—yr oedd ef yn gweddïo hyd y
mynydau olaf o 'i fywyd—dysgwch weddïo tra yr ydych
yn iach, a chwi a gewch brofi ei lles pan ddeloch
i farw—ond, yn gyntaf, gweddïwch am galon newydd
—heb hyn ni chewch byth weled Duw—y mae eich
arferion presennol yn arwain i ddistryw a thrueni—
rhodded yr Arglwydd i chwi droedigaeth, i 'w garu
a 'i ddilyn ef.”

Wrth yr hen wraig, hi a ddywedodd, “Yr wyf yn
diolch i chwi, modryb K—— bach, am eich holl diriondeb
tu ag attaf, er pan wyf yn sâl—chwi a fuoch
yn gyfaill Crist'nogol i mi—ac yr wyf yn gobeithio y
cofio 'r Arglwydd chwi am hynny, yn ol cyfoeth ei
drugaredd—ymddiddanasom lawer am farw; ac er
mai fi yw 'r ieuangaf, etto myfi sydd yn cael ei galw
gyntaf—ond, bendigedig fyddo Duw, nid oes arnaf
ofn. Meddyliais lawer o weithiau na allwn farw yn
ddiofn; ond yn wir yr wyf yn teimlo fy hun yn hollol
gysurus, er fy mod yn awr yn safn marwolaeth; ac
felly y byddwch chwithau, os ymddiriedwch ynddo ef
—y mae efe yn Dduw i 'r hen yn gystal a 'r ieuangc.”

“O, fy mhlentyn anwyl! (ebe 'r hen wraig) da fuasai
gennyf pe buaswn mor barod a chymmwys i farw
ag ydych chwi; ond y mae arnaf ofn na byddaf byth
felly—y mae fy mhechodau yn fawrion ac aml iawn.”

“Y mae gwaed Iesu Grist ei Fab ef yn glanhau
oddiwrth bob pechod,” ebe 'r plentyn.

Ar hyn, yn lle gwanhau wrth ymddiddan, ymddangosodd
fel pe puasai yn cryfhau ac adfywio, a hi
a drodd tu ag attaf, gan ddywedyd,

“Syr, chwi fu 'r cyfaill goreu i mi ar y ddaear—
dysgasoch i mi 'r ffordd i 'r nef; yr wyf am hynny yn
eich caru, ac yn diolch i chwi—fe ddarfu 'ch gydymddwyn
 â lawer o ffaeleddau ac anwybodaeth ynof—

[td. 44]
a dywedasoch lawer wrthyf am gariad Crist, ac efe a
barodd i'm [~ im ] ei brofi yn dywalltedig yn fy nghalon—mi
gâf ei weled wyneb yn wyneb—ni wna efe fy ngadael
na 'm rhoddi i fynu—y mae efe yr un, ac nid yw yn
cyfnewid. Anwyl Syr, Duw a 'ch bendithio.”

Ar hyn hi a gododd yn ei eistedd yn y gwely, a
chyd âg ymdrechiad annisgwiliadwy, hi a daflodd ei
breichiau teneuon o 'm hamgylch fel yr oeddwn yn
eistedd ar ochr y gwely, a rhoddodd ei phen ar fy ysgwydd,
a dywedodd, yn glywedig a dealladwy,

“Duw a 'ch bendithio, ac a 'ch gwobrwyo— diolchwch
iddo droswyf—achubwyd fy enaid—Crist sydd
bob peth i mi—Syr, ni a gyfarfyddwn etto yn y nef,
oni wnawn ni—gwnawn, gwnawn—yna y cwbl fydd
heddwch—heddwch—heddwch——”

Wedi hyn, syrthiodd yn ol ar y gwely, ac ni
ddywedodd air mwy—ucheneidiodd, gwenodd, a diffoddodd.


Ar hyn ymddangosodd yr haul uwch ei gaerau, a
llewyrchodd i mewn i 'r ystafell lle yr oeddwn, a pharodd
hyn i mi feddwl am “diriondeb trugaredd ein
Duw, trwy 'r hon yr ymwelodd â ni godiad haul o 'r
uchelder, i lewyrchu i 'r rhai sydd yn eistedd ym mro
a chysgod angeu, i gyfeirio ein traed i ffordd tangnefedd.”
Rhedodd fy meddwl oddiwrth yr amgylchiad
hwn ar y cyfnewidiad gogoneddus yr oedd Jane, ar
darawiad amrant, wedi ei brofi. Meddyliais hefyd y
gallasai y pelyderau hyn arwyddo y gobaith cysurus
tywalltedig ar feddyliau tystion ei hymadawiad. Yr
oedd yr amgylchiad yn tarddu oddi ar achos naturiol,
ond yr oedd yn arwain fy meddyliau yn anwrthwynebol
at bethau ysprydol.

Bûm am dro yn syllu mewn distawrwydd ar y corph
marw, ac o 'r braidd yr oeddwn yn gallu credu nad
oedd Jane yma mwy.


[td. 45]
Wrth fyned adref ni fedrais attal gweithrediadau
cryfion fy serchiadau ar yr achos: ac yn wir ni cheisiais.
Canys bernais bod crefydd, rheswm, a phrofiad
yn cyttuno i 'n hannog, yn hytrach na pheidio, i roddi
ufudd-dod i 'r cyfryw dyner gyffroadau ag sydd yn tueddu
i gadw y galon yn fyw i 'w deimladau buddiolaf.
Gwneuthur yn y gwrthwyneb nid yw ond tueddu i
galedu 'r galon, ac i gloi 'r pyrth sydd yn arwain at
wreiddyn egwyddorion goreu ein holl weithrediadau.

Ein Harglwydd bendigedig ei hun a wylodd wrth
rag-weled gofidiau Jerusalem. Tywalltodd ddagrau
hefyd wrth fedd ei gyfaill Lazarus. Y mae 'r cyfryw
esampl yn cyfiawnhau dagrau cariad, ac yn ein dysgu
i “beidio a thristâu fel rhai heb obaith am y rhai a
hunasant ynddo ef.”

Ond buan yr arweiniwyd fy meddwl i fyfyrio ar y
peth dirgelaidd hwnnw, sef ehediad enaid o 'r byd
hwn i fyd yr ysprydoedd.

“Cyflymach,” meddyliais, “nac ehediad y saeth
o 'r bwa, na rhediad y goleuni o 'r haul, fu mynediad
enaid yr enethig hon, mewn ufudd-dod i wŷs a gorchymyn
ei Harglwydd, o 'r byd hwn i 'w bresennoldeb
goleuwych ef. O! wirionedd teilwng o 'n hystyriaethau
difrifolaf! Ond, 'wedi ei golchi yng ngwaed
yr Oen,' ac wedi profi ei effeithiau glanhaol ef, cafodd
dderbyniad croesawus ger bron gorseddfaingc Duw.
Nid oedd iddi ddim i 'w ofni oddiwrth ddwyfol gyfiawnder.
Yr oedd pechod, angeu, ac uffern wedi eu
gorchfygu ganddo Ef yr hwn a 'i gwnaeth hi yn fwy
na choncwerwr. Cyflwyna ef hi i 'w Dad fel un o 'r
ŵyn a bwrcasodd efe â 'i brïod waed—fel un a seliwyd
gan Yspryd Dduw hyd ddydd prynedigaeth.

“O, pa fath gyfnewidiad oedd hwn iddi hi! o ystafell
wael, dyllog, i baradwys Duw! o wely gwellt i
fynwes Abraham! o dlodi, afiechyd, a gofid, i gyfoeth,

[td. 46]
iechyd, a dedwyddwch tragywyddol! o fod yn
bererin llesg a blinedig, i fod yn ddedwydd ar ben y
daith, yn yr orphwysfa nefol yr hon sydd etto yn ol i
bobl Dduw!

“Collais i ddisgybles ieuangc, yr hon yr oeddwn
yn ei charu fel fy mhlentyn. Ond pa fodd y gallaf
ddywedyd yn achwyngar golli yr hon a gafwyd gan
Dduw? Y mae 'n wir nid yw Jane yma mwy yn ceisio
nac yn rhoddi hyfforddiad nac addysg; ond y mae hi
ynghylch pethau llawer gwell. Y mae 'r angelion, y
rhai a lawenychasant ar ei throedigaeth cyntaf at
Dduw, y rhai a sylwasant gyda hyfrydwch ar ei chynnyddiad
ysprydol yn ysdod ferr ei phererindod, a 'r
rhai a 'i dygasant yn orfoleddus i fynwes Abraham,
wedi ei dysgu cyn hyn,

Mewn clôd, a mawl, a pheraidd gân,
I uno â 'r ysprydion glân.

Paham gan hynny y galaraf? Ni welaf yn perthyn
iddi hi ond llawenydd ac anfarwoldeb. 'Angeu a
lyngcwyd mewn buddugoliaeth!'”

Ar y pedwerydd dydd ar ol ei marwolaeth, claddwyd
Jane. Nid oeddwn erioed o 'r blaen wedi rhoddi
neb o 'm plwyfolion i 'r ddaear gyd â 'r cyffelyb serchiadau.
Ychydig oedd nifer y bobl yn ei chladdedigaeth;
ond da oedd gennyf i weled ym mhlith yr ychydig
hyn, rai o 'r plant a arferent gyd-gyrchu â Jane
i 'm tŷ prydnawn Sadyrnau. Dymunais am fendith
Duw ar y tro, er lles a buddioldeb ysprydol y rhai
ieuaingc hyn.

Fel yr oeddwn yn sefyll wrth ben ei bedd, daeth
llawer o 'r pethau a ddigwyddasant yn y fynwent honno
i 'm côf. Cofiais, mai yma y gwelodd Jane gyntaf
werth yr efengyl yr hon a achubodd ei henaid. Yn
gyfagos i 'w bedd hi yr oedd y llinellau a adroddwyd
eisoes, y rhai a fuont offerynol i 'w hargyhoeddi. Yr

[td. 47]
oedd yn ymddangos y pryd hyn fel tyst hynod o blaid
y gwirioneddau yr oedd yn eu cyhoeddi wrth bawb a 'u
darllenai.

Yr oedd y prydnawn yn deg a thawel—ac ni ddigwyddodd
dim a allasai dueddu i rwystro 'r tawelwch
a 'r difrifoldeb ag oedd yn gweddu ar y cyfryw achos.

“Heddwch” oedd y gair olaf a ddywdasai Jane;
a gallesid meddwl bod heddwch yn argraffedig ar y
weithred ddiweddaf wrth y bedd lle y rhoddwyd ei
chorph hi i orphwys. Y mae diolchus goffadwriaeth
am yr heddwch hwnnw yn adfywio yn fy enaid
wrth sgrifennu y cofnodau hyn am dani: ac O! am
i 'r heddwch a 'r tangnefedd hwnnw yr hwn sydd uwchlaw
pob deall, fod yn ei gyflawn weithrediad pan gyfarfyddwn
nesaf yn y dydd diweddaf.

Serch at y fan lle y dodwyd y Cristion ieuangc hon
i orphwys, a 'm cymhellodd i blannu ywen wrth ben ei
bedd, yn agos i fur dwyreiniol yr eglwys. Fy amcan
ydoedd cadw coffadwriaeth parhaus am un deilwng ei
chofio. Ymddangosodd y planhigyn ieuangc hwn dros
dro yn iach a gwyrddlas, ac fel pe buasai yn addaw hir
barhad: Ond gwywodd yn fuan a diflannodd; yn lled
debyg i 'r eneth er coffadwriaeth am yr hon y planwyd
hi.—Er na bu yr ywen ond coffadwriaeth wael a byrbarhad
am Jane, etto y mae iddi goffadwriaeth well a
hir-oedlog wedi ei argraffu ar lechau fy nghalon. Ac
hwyrach y caniatteir i 'r hanes hwn ddywedyd am Jane
wrth genhedlaethau etto i ddyfod, pan y byddo llaw a
chalon yr ysgrifenydd yn llonydd yn y llwch.

Y mae 'r hanes hwn yn eglur ddangos rhadlondeb
gweithrediadau gras Duw ar galonnau dynion; yr anwahanol
undeb sydd rhwng gwir ffydd a thueddrwydd
sanctaidd; a 'r symlrwydd y mae gwir gariad at Grist
yn ei argraffu ar yr enaid.

Pa nifer o deulu 'r ffydd a deithiasant ym mhob oes,

[td. 48]
ac sydd yn awr yn teithio, trwy 'r byd anial hwn i
“ddinas gyfanneddol,” mewn distawrwydd, heb sylw
na choffa am danynt! Gwaith tra buddiol a melus
yw i weinidog Crist chwilio ym mhlith y drain am y
blodau tyner hyn, harddwch ac arogl pa rai sydd agos
yn guddiedig yn y cysgod. I fagu a meithrin y
blodau hyn, i arddangos eu rhagoriaethau, ac i ddwyn
allan eu ffrwyth mewn amser dyledus, sydd orchwyl
a wobrwya yn hyfryd holl lafur y gweithiwr.

Ond, fe allai, tra y mae efe fel hyn yn llafurio yn
diwyd yng ngwinllan ei Arglwydd, fe ddaw rhyw falldod,
rhyw gafod, neu ryw dymhestl, ac a gymmer
ymaith flodeuyn ieuangc, anwyl a hawddgar, cyn iddo
aeddfedu. Os felly, hwyrach y gwna efe, fel y
gwneuthum innau lawer tro, pan yn sefyll yn feddylgar
alarus uwch ben bedd Jane bach, wneuthur cymmwysiad
o 'r llinellau hyn, y rhai sydd argraffedig ar
garreg-fedd yn yr un fynwent lle y llecha ei llwch hi
hyd fore yr adgyfodiad,

Ni ddaeth y teg flodeuyn hyn,
A ga'dd [~ gadd ] mor synn ei symmud,
Ond prin i ddangos pa mor hardd,
Yw blodau gardd y bywyd.
DIWEDd

I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section