Adran o’r blaen
Previous section


RHAN III.


Pan aethum y tro nesaf i ymweled â Jane, mi
a 'i cefais yn y gwely yn darllen Hymnau y Dr. Watts
i Blant. Gofynais iddi,

“Beth yr ydych yn ei ddarllen?”

Attebodd hithau, “Bum yn darllen ac yn meddwl
lawer ar y geiriau hyn yn y llyfr bach yma.”

“Pa rai?”

“Y rhai hyn.”

Y mae awr pan rhaid i'm [~ im ] farw,
Ac ni wn pa bryd y daw;
Mil o blant mor fach a finnau,
Aeth i 'r farn sy 'mron [~ ymron ] gerllaw.


[td. 18]

Duw rho ras i 'm dreulio 'n addas
'M horiau gwerthfawr yn dy hedd;
Can's nid oes nac edifeirwch,
Gras na phardwn yn y bedd.

“Syr, yr wyf yn gweled yn eglur mai gwir yw
hyn, ac yr wyf yn ofni na threuliais fy oriau fel y
dylaswn. Yr wyf yn credu na byddaf ond dros
ychydig iawn yn y byd hwn; a phan edrychwyf ar fy
meiau yr wyf yn dywedyd,

'Rwy 'n dod, 'rwy 'n dod, fy Arglwydd Dduw,
I 'mofyn [~ ymofyn ] am y gwaed;
O golch yn lân y dua 'i liw,
Sy 'n disgwyl wrth dy draed.

A wna efe hyn i mi, Syr?”

“Fy anwylyd, yr wyf yn dra hyderus ei fod ef wedi
maddeu eich holl anwiredd; wedi atteb eich gweddiau;
wedi eich gwaredu o feddiant y tywyllwch, a 'ch
symmud i deyrnas ei anwyl Fab. Chwi a brofasoch
lawer o arwyddion sicr o 'i drugaredd ef i 'ch henaid.”

“Do, yn wir, Syr; ac yr wyf am ei garu a 'i fendithio
am hynny. Y mae efe yn dda, yn dda iawn.”

Meddyliais y gallai ymddiddan rheolaidd am egwyddorion
dechreuol crefydd fod yn fuddiol i Jane;
ac ymddangosodd y Catecism i mi fel sylfaen addas i 'r
fath ymddiddanion. Am hynny, gofynais,

“Jane, a fedrwch chwi eich Catecism?”

“Medraf, Syr; ond yr wyf yn ofni bod hynny wedi
ychwanegu fy mhechod ger bron Duw.”

“Beth! medru dywedyd eich Catecism wedi
chwanegu eich pechod?”

“Nage, Syr; ond ei ddywedyd ef yn y ffordd yr
oeddwn i yn ei ddywedyd.”

“Pa ffordd oedd hono, Jane?”

“Syr, yr oeddwn yn ei ddywedyd yn bur ddifeddwl,
ac heb ystyried yr hyn yr oeddwn yn ei ddywedyd:

[td. 19]
ac y mae dywedyd peth da yn anystyriol yn waith
drwg iawn. Y mae 'r Catecism yn llawn o bethau da;
ac fe fyddai yn dda gennyf allu eu deall yn well.”

“Wel, fy anwylyd, ni a ymddiddanwn ychydig am
y pethau da hyn. A ddarfu i chwi erioed ystyried
beth yw bod yn aelod i Grist, yn blentyn i Dduw, ac
yn etifedd teyrnas nefoedd?”

“Yn wir, Syr, fe feddyliais lawer am y pethau
hyn yn ddiweddar; ac y mae ar fy enaid chwant bod
felly mewn gwirionedd, ac nid mewn enw yn unig.
Yr wyf yn cofio i chwi ddywedyd wrthyf ryw dro,
mai fel y mae 'r gangen i 'r pren, y garreg i 'r adeilad,
a 'r aelod i 'r corph a 'r pen, felly y mae y credadyn i 'r
Arglwydd Iesu Grist. Ond pa fodd yr wyf i wybod
fy mod yn aelod i Grist?”

“Ydych chwi yn caru Crist yn fwy nac y byddech?”

“Yn wir, yr wyf yn meddwl fy mod i.”

“Pa'm yr ydych yn ei garu ef?”

“Am iddo ef yn gyntaf fy ngharu i.”

“Pa fodd y gwyddoch iddo ef yn gyntaf eich
caru chwi?”

“Oblegid iddo roddi i mi addysg, a 'm dwyn i adnabod
pla fy nghalon; a fy nysgu i weddïo am faddeuant,
a charu ei ffyrdd ef. Efe a 'ch danfonodd chwi
yma i 'm dysgu, ac i ddangos i mi ffordd yr iechydwriaeth;
ac yn awr y mae arnaf eisieu cael fy achub
yn y ffordd a drefnodd efe. Yr wyf rai prydiau yn
profi 'r fath gariad tu ag atto, am yr hyn oll a wnaeth
ac a ddywedodd, fel y dymunwn i feddwl am ddim
arall byth. Mi a wn nad oeddwn felly bob amser, ac
am hynny yr wyf yn meddwl, pe na buasai Iesu Grist
wedi fy ngharu i yn gyntaf, na buasai fy nghalon lygredig
i yn meddwl dim am dano ef. Yr oeddwn unwaith
yn caru pob peth yn fwy na duwioldeb; ond yn
awr duwioldeb sydd bob peth i mi.”

[td. 20]

“Ydych chwi yn credu o 'ch calon y gall Iesu Grist
eich hachub, a 'i fod yn ewyllysgar i achub y pennaf
o bechaduriaid?”

“Ydwyf.”

“Pa beth ydych chwi?”

“Pechadur ieuangc, ond un mawr.”

“Ai nid o 'i drugaredd ef y mae eich bod chwi yn
cydnabod mai pechadur ydych?”

“Ië, yn sicr, Syr; y mae 'n rhaid mai felly y
mae.”

“Ydych chwi yn mawr ddymuno ymadael â phob
pechod?”

“Yn wir, yr wyf; os wyf yn adnabod fy hun.”

“Ydych chwi yn cael ynoch yspryd yn gwrthwynebu
pechod, ac yn gweithio ynoch gasineb at annuwioldeb?”


“Yr wyf yn gobeithio fy mod.”

“Pwy a roddodd i chwi yr yspryd hwn? Oeddech
chwi bob amser felly?”

“Y mae 'n amlwg mai Crist, yr hwn a 'm carodd,
ac a 'i rhoddes ei hun droswyf, a roddodd hyn ynof.
Nid oeddwn felly bob amser.”

“Yn awr, fy anwylyd, onid yw hyn yn eglur ddangos
bod rhyw undeb rhwng eich henaid chwi â Iesu
Grist? Onid yw yn ymddangos fel pe baech yn byw,
yn symmud, ac wedi derbyn bod ysprydol o hono ef?
Fel y mae un o aelodau eich corph mewn undeb â 'ch
corph a 'ch pen, yn derbyn maeth, cynnydd, a nerth i
fyw a gweithredu trwy 'r undeb hwn; felly yr ydych
chwithau, os ydych yn credu yng Nghrist, yn aelod
ysprydol o Grist; a thrwy hynny yr ydych yn derbyn
gallu i 'w garu a mynegu ei rinweddau. Ydych chwi
yn fy neall i?”

“Yr wyf yn meddwl fy mod; ac y mae yn rhoddi
llawer o ddiddanwch i mi i edrych i fynu at Grist fel

[td. 21]
fy mywiol ben, ac ystyried fy hun fel un o 'i aelodau
ef, er fy mod y gwaelaf o honynt.”

“Ond dywedwch wrthyf, pa beth yw eich meddwl
am fod yn blentyn i Dduw?”

“Yr wyf yn sicr, Syr, nad wyf yn haeddu fy ngalw
felly.”

“Pwy sydd yn haeddu hyn?”

“Nid oes neb.”

“Pa fodd, gan hynny, y mae rhai yn dyfod yn
blant i Dduw, gan ein bod ni oll wrth naturiaeth yn
blant digofaint?”

“Trwy ras Duw, Syr.”

“Pa beth y mae 'r gair gras yn arwyddo?”

“Ewyllys da Duw; rhad ewyllys da Duw i bechaduriaid?”


“Pa beth y mae Duw yn ei roddi i blant digofaint
pan y mae yn eu gwneuthur yn blant gras?”

“Marwolaeth i bechod, a genedigaeth newydd i
gyfiawnder; onide, Syr?”

“Ië; a ffrwyth cariad Crist yw hyn: gobeithio eich
bod chwithau yn gyfrannog o 'r fendith hon. Y mae
holl deulu Duw yn cael eu henwi oddiwrtho ef, ac efe
yw 'r cyntaf-anedig ym mhlith brodyr lawer. O! y
fath drugaredd yw, bod Iesu Grist yn galw ei hun yn
Frawd i ni! Fy anwylyd, y mae Iesu Grist yn Frawd
i chwi; ac ni bydd cywilydd ganddo eich harddel a 'ch
cyflwyno i 'w Dad yn y dydd diweddaf, fel un o 'r rhai
a bwrcasodd efe â 'i werthfawr waed.”

“O na bawn yn gallu caru fy Nhad a 'm Brawd o 'r
nef yn well nac yr wyf! Duw bydd drugarog wrthyf
fi bechadur! Os wyf yn blentyn i Dduw, yr wyf yn
meddwl fy mod yn fynych yn un gwrthryfelgar. Y
mae efe yn dangos rhyfedd diriondeb tu ag attaf fi
yn fwy nag eraill; ond O mor wael yr wyf yn atdalu
iddo ef!”


[td. 22]

Gan d' fod yn rhoi yn rhad i mi,
Fy Nuw, fendithion uwchlaw rhi';
Fy mywyd innau fyddo i gyd,
Er mawl i ti tra bwy 'n y byd.

“Dyna 'r ffordd oreu, Jane, i brofi eich bod yn
blentyn i Dduw. Dangoswch eich cariad a 'ch diolch
i 'r fath Dad yn eich bywyd. Cofiwch iddo barottoi i
chwi etifeddiaeth ym mhlith y saint yn y goleuni.
Efe a 'ch gwnaeth chwi yn etifedd teyrnas nefoedd yn
gystal ag yn aelod i Grist, a phlentyn iddo ei hun.
A wyddoch chwi beth a feddylir wrth deyrnas nefoedd?”


Ar hyn daeth ei mam i 'r tŷ, a dechreuodd lefaru
wrth frawd ieuangaf Jane mewn yspryd chwerw, a
llais cecrus, a chan arfer geiriau anweddus a ffiaidd;
ond tawodd cyn gynted ag y clywodd ni yn ymddiddan
yn llofft.

“O mam!” ebe Jane, “ni thawsech mor fuan oni
buasai i chwi glywed llais Mr. R. O, Syr! chwi
glywsoch fel y mae fy mam yn tyngu; da chwi, dywedwch
ryw beth wrthi; ni wrendy hi ddim arnaf fi.”

Aethum tua phen y grisiau, gan feddwl siarad â 'r
ddynes; ond hi a redodd allan, ac a ddiangodd y tro
hyn yn ddigerydd.

“Syr,” ebe Jane, “y mae arnaf ofn mawr, os âf fi
i 'r nefoedd, na chaf byth weled fy mam yno. Byddai
yn dda gennyf ei gweled; ond y mae hi yn tyngu ac
yn rhegu, ac yn cadw y fath gwmpeini drwg. Clywaf
weithiau, fel yr wyf yn gorwedd yn fy ngwely, i lawr
y grisiau y fath ddrygioni, swn, ac ymladd, fel na wn
yn iawn beth i 'w wneuthur. Y mae 'n bur drwm pan
y bo tad a mam fel hyn. Fy ngweddi at Dduw drostynt
yw, am iddynt droi a bod yn gadwedig. Ond dywedwch
wrthyf ychydig beth yw bod yn etifedd teyrnas
nefoedd.”


[td. 23]
“Yr ydych yn cofio i mi, wrth egluro y Catecism
yn yr Eglwys, ddywedyd, bod teyrnas nefoedd yn y
Bibl [~ Beibl ] yn arwyddo eglwys Crist yn y byd hwn, yn gystal
a gogoniant yn y byd a ddaw. Y mae un yn barottoad
i 'r llall. Y mae pob gwir Gristion yn etifedd
i Dduw, ac yn gyd-etifedd â Christ; a hwy a gânt
etifeddu gogoniant a dedwyddwch ei deyrnas ef, a
byw gyda Christ dros dragywyddoldeb. Rhad rodd
Duw yw hyn i 'w holl blant mabwysiadol; a phob un
ag y sydd yn credu ym Mab Duw, a brofant felusder
a gwirionedd yr addewid hon, “rhyngodd bodd i 'ch
Tad roddi i chwi y deyrnas.” Geneth dlawd ydych
chwi yr awr hon; etto, er hyn, yr wyf yn meddwl y
trefnir i chwi fynediad helaeth i mewn i dragywyddol
deyrnas ein Harglwydd a 'n Hiachawdwr Iesu Grist.
Yr ydych yn awr yn dioddef; etto, er hyn, onid y'ch
yn foddlon i ddioddef er ei fwyn ef, ac i ddwyn yn
amyneddgar yr holl bethau y mae efe yn eu rhoddi
arnoch i 'w dwyn?”

“Ydwyf, ydwyf yn wir; yn bur foddlon i 'r cwbl.
Y mae pob peth yn dda iawn.”

“Yna, fy anwylyd, chwi a deyrnaswch gyd âg ef.
Fe allai mai trwy lawer o orthrymderau y mae 'n rhaid
i chwi fyned i mewn i deyrnas Dduw; ond y mae gorthrymder
yn peri amynedd, ac amynedd brofiad, a
phrofiad obaith. Dangoswch eich hun yn blentyn
ufudd i Dduw, fel gwir aelod i Grist, a 'ch rhan fydd
etifeddiaeth ym mhlith y saint yn y goleuni. Ffyddlon
yw 'r hwn a addawodd, 'Treigla dy ffordd ar yr
Arglwydd, ac ymddiried ynddo, ac efe a 'i dwg i ben.”

“Diolch i chwi, Syr; nis gallaf ddywedyd mor dda
yw gennyf glywed am y pethau hyn: ac yr wyf yn
meddwl nad allwn eu caru gymmaint, pe na byddai i
mi ran ynddynt. Ond, Syr, y mae un peth ar fy
meddwl i ofyn i chwi—y mae 'n beth mawr—ac fe

[td. 24]
allai fy mod i mewn camsynied—ac etto yr wyf yn
meddwl nad wyf—”

Yna hi a fethodd fyned ym mlaen, ac a dawodd.
Pan welais hyn, gofynais,

“Beth yw hynny, Jane? Nac ofnwch ofyn.”

Ar hyn hi wridiodd, ac a dorrodd i wylo: ac wedi
hyn hi a gododd ei golwg am ychydig tu a 'r nef, ac
yna hi a drodd ei llygaid tu ag attaf yn y modd mwyaf
difrif, ac a ofynodd,

“A all un mor ieuangc a thlawd a myfi gael cyfrannogi
o Swpper yr Arglwydd? Y mae arnaf chwant
am hyn er's tro yn ol, ond yr oedd arnaf ofn gofyn,
rhag eich bod chwi yn tybied hyn yn anaddas a
drwg.”

“Gellwch yn sicr, Jane; a bydd dda iawn gennyf
gael ymddiddan â chwi am hynny. Gobeithio y gwna
yr hwn a roddodd y dymuniad hynny ynoch ei fendithio
hefyd i 'ch henaid. A ewyllysiech ei gael ef
heddyw, ynte foru?”

“Y foru [~ Yfory ], os gwelwch yn dda, Syr—a ddowch chwi
foru [~ yfory ] i ymddiddan am hyn?—ac os byddwch yn
meddwl hynny yn addas, myfi a fyddaf ddiolchgar—
yr wyf yn teimlo fy hun yn bur llesg, ond gobeithio y
byddaf yn well pan ddeloch nesaf.”

Cefais lawer o hyfrydwch wrth feddwl cael gweled
Cristion mor ieuangc a didwyll, fel hyn yn ymroddi
i 'r Arglwydd, ac yn derbyn gwystl sacramentaidd o
gariad Crist at ei henaid.

Yr oedd ei hafiechyd yn cryfhau yn gyflym, ac yr
oedd hi yn gweled hynny. Ond fel yr oedd ei dyn
oddiallan yn gwanychu, yr oedd ei dyn oddimewn yn
cael ei gryfhau â nerth gan Yspryd Duw. Yr oedd
yn amlwg ei bod yn aeddfedu yn gyflym i ogoniant.


[td. 25]


RHAN IV.


Dranoeth aethum yn ol fy addewid i ymweled
â Jane. Ar fy mynediad i 'r tŷ, cyfarfu yr hen wraig,
y soniais eisoes am dani, â myfi, ac a ddywedodd
wrthyf:

“Fe allai na ddeffrowch hi yn union; canys y mae
newydd gysgu; ac, O druan! anfynych y mae hi yn
cael gorphwysdra.”

Aethum yn ddistaw i fynu 'r grisiau, ac wele yr
oedd hi yn y gwely, ar ei lled eistedd, a 'i phen yn
pwyso ar ei llaw ddehau, a 'i Bibl [~ Beibl ] yn agored o 'i blaen.
Yr oedd yn amlwg iddi gysgu wrth ei ddarllen. Yr
oedd sirioldeb a thawelwch i 'w canfod yn ei hwynebpryd;
a rhai dagrau wedi treiglo dros ei gruddiau a
ddisgynasant (fe allai yn ddiarwybod iddi hi) ar ei
Bibl [~ Beibl ]. Yn yr adeg hon edrychais o 'm hamgylch ar yr
ystafell, ac wele nid oedd ond gwael ac anghysurus.
Yr oedd y mur yn ammharus; y tô yn ddrylliog; y
llawr yn anwastad a thyllog; ac nid oedd y dodrefn
ond ychydig o ran nifer, a salw o ran gwerth. Dau
hen bren gwely, ystôl deirtroed, a hen gist derw, ydoedd
yr holl ddodrefn. Yr oedd y ffenestr yn dyllog
iawn, a darnau o bapur wedi eu rhoi arni yma a thraw.
Ar y mur wrth ben y gwely lle yr oedd Jane, yr oedd
ystyllen wedi ei gosod i ddal pethau; ac ar hon yr oedd
ei meddyginiaeth, ei bwyd, a 'i llyfrau.

“Yma,” dywedais ynof fy hun, “y gorwedd etifedd
gogoniant, yn disgwyl am ollyngdod heddychol!
Nid yw ei thŷ daearol ond tlawd iawn; etto y mae
ganddi dŷ nid o waith llaw, tragywyddol yn y nefoedd.
Nid oes ganddi ond ychydig i beri iddi hoffi bywyd;

[td. 26]
ond, O! y fath bwys gogoniant sydd iddi yr ochr
draw! Y mae ffydd yn ystyried yr ystafell wael hon
yn balas ardderchog; oblegid y mae ynddi etifeddes
coron.”

Nesëais at y gwely yn ddistaw, heb ei deffroi, a
gwelais mai 'r drydydd bennod ar hugain o St. Luc yr
oedd hi yn ei darllen pan gysgodd. Yr oedd bys ei
llaw chwith ar y bennod hon, fel pe buasai yn ei
arferyd fel arweinydd i 'w llygad wrth ddarllen.
Edrychais ar ba eiriau yr oedd ei bys yn gorphwys,
a gwelais, gyda hyfrydwch, mai wrth y geiriau hyn
yr oedd, “Arglwydd, cofia fi pan ddelych i 'th deyrnas.”
Meddyliais, A ydyw hyn yn ddamweiniol? neu,
ynte, fel hyn yr oedd hi? Pa un bynnag y mae yn
beth rhyfedd. Ond cyn pen ychydig cefais foddlonrwydd
ar hyn; canys hi a hanner ddeffrôdd, ond nid
digon i ganfod neb, a hi a ddywedodd yn ddistaw,

“Arglwydd, cofia fi—cofia fi—cofia eneth dlawd—
Arglwydd, cofia fi——”

Ar hyn hi a gyflawn ddeffrôdd; a phan y 'm gwelodd,
cyffrodd ychydig, a chododd gwrid yn ei hwyneb,
ond darfu yn fuan iawn.

“Modryb K——, pa hŷd y cysgais? Y mae yn
ddrwg iawn gennyf, Syr——”

“Y mae 'n dda iawn gennyf innau eich cael chwi fel
hyn—chwi a ellwch ddywedyd gyda Dafydd, 'Mi a
orweddais ac a gysgais, ac a ddeffroais; canys yr
Arglwydd a 'm cynnaliodd.' Pa beth y buoch yn ei
ddarllen?'

“Hanes croeshoeliad Iesu Grist.”

“Hyd pa le y darllenasoch cyn cysgu?”

“Hyd at weddi 'r lleidr ar y groes; canys pan
ddarllenais hon, mi a ystyriais y fath drugaredd
fyddai, os cofiai Iesu Grist finnau hefyd—ac wrth
fyfyrio ar hyn mi a gysgais; ac yr oeddwn yn meddwl

[td. 27]
yn fy ngwsg fy mod yn gweled Iesu Grist ar y groes,
a fy mod yn dywedyd wrtho, 'Arglwydd, cofia fi'—
ac, yn wir, nid oedd efe ddim yn edrych yn ddigllon
arnaf—ac ar hyn mi a ddeffröais.”

Ystyriais hyn fel esponiad ar y testun, ac fel parottoad
i 'r gwasanaeth yr oeddym i 'w gyflawni.

“Wel, fy anwylyd, yr wyf wedi dyfod yn ol eich
dymuniad i roddi i chwi sacrament corph a gwaed
Crist ein Hiachawdwr; ac nid wyf yn ammeu na wna
modryb K—— ei dderbyn gyda ni.”

“Siaradwch â mi ychydig yn gyntaf ynghylch y
sacrament, os gwelwch yn dda, Syr.”

“Yr ydych yn cofio yr hyn a ddysgasoch yn eich
Catecism am dano. Ond ystyriwn—Sacrament, fel y
gwyddoch, 'sydd arwydd gweledig oddi allan, o ras
ysprydol oddi fewn, a roddir i ni; yr hwn a ordeiniodd
Crist ei hun, megis modd i ni i dderbyn y gras
hwnnw trwyddo, ac i fod yn wystl i 'n sicrhau ni o 'r
gras hwnnw.' Yn awr y mae Iesu Grist wedi ordeinio
'r bara a 'r gwin yn y Swpper sanctaidd fel
gwrthddrychau allanol, y rhai a allwn eu gweled â 'n
llygaid. Ac y mae 'n arwydd, nôd, a gwystl o 'i gariad,
ei ras, a 'i fendith, y rhai y mae efe yn eu haddaw
ac yn eu rhoddi i bawb ag sydd yn derbyn y sacrament,
gan iawn gredu ac ymddiried ynddo ef, a 'i
waith. Yn y modd hwn y mae efe yn cadw yn ein
plith ni goffadwriaeth dragywyddol am ei angeu
gwerthfawr ef, a 'r lleshad yr ydym ni yn ei dderbyn
oddiwrtho.”

“Pa beth yr ydych chwi, Jane, yn gredu am farwolaeth
Crist?”

“Yr wyf yn credu, Syr, mai o herwydd ei farwolaeth
ef yr y'm ni yn fyw.”

“Pa fywyd yr y'm ni yn fyw trwy ei farwolaeth
ef?”


[td. 28]
“Bywyd o ras a thrugaredd yma, a bywyd o ogoniant
a dedwyddwch yn y byd a ddaw. Onide, Syr?”

“Ië, siwr; ffrwyth marwolaeth Crist yw hyn: ac
fel hyn 'agorodd efe deyrnas nef i bawb a gredant.'
Fel y mae bara a gwin yn cryfhau ac adfywio eich
corph llesg chwi yn eich afiechyd; felly y mae bendith
corph a gwaed Crist yn cryfhau a diddanu eneidiau
yr holl rai sydd yn ymddiried, gyda ffydd,
gobaith, a chariad, ynddo ef, yr hwn a 'n carodd, ac
a 'i rhoddes ei hun drosom.”

Yna hi a ddywedodd, ac wrth ddywedyd rhedodd
ffrwd o ddagrau lawr ei gruddiau.

“O! 'r fath Iachawdwr!—O! 'r fath bechadur!—
O! mor hynaws—mor dda—a hyn droswyf fi!”

“Nac ofnwch, fy anwylyd, canys y mae yr hwn a
barodd i chwi ei garu ef fel hyn, yn eich caru yn ormod
i 'ch gadael na 'ch rhoddi i fynu. Ni fwrw efe,
mewn un modd, neb allan ag a ddaw atto ef.”

“Syr,” ebe hi, “nis gallaf un amser feddwl am
Iesu Grist, a 'i gariad tu ag at bechaduriaid, heb ryfeddu
wrth hynny. Nid wyf yn haeddu ond llid a
digofaint, o herwydd fy mhechod. Paham gan hynny
y mae yn fy ngharu? Y mae fy nghalon yn ddrwg.
Paham y mae yn fy ngharu? Yr wyf yn barhaus yn
anghofio ei holl ddoniau ef. Paham gan hynny y mae
yn fy ngharu? Nid wyf nac yn gweddïo, nac yn diolch
iddo megis y dylwn. Paham, ynte, y mae 'r fath
gariad tu ag attaf fi?”

“Y mae 'n eglur oddiwrth hyn, fy mhlentyn anwyl,
mai o drugaredd rad y mae 'r cwbl o 'r dechreu i 'r
diwedd; ac y mae hyn yn chwanegu melusder i 'r fendith.
Ai nid ydych yn foddlon, fy anwylyd, i roddi
i Grist holl anrhydedd eich iechydwriaeth, ac i gymmeryd
i chwi eich hunan holl waradwydd eich pechodau?”



[td. 29]
“Ydwyf, yn wir, Syr, yr ydwyf. Fy nghân yw,

Danfonodd Duw ei Fab ei hun,
I gym'ryd [~ gymryd ] arno natur dyn;
Ac i ddwyn heddwch i nyni,
Tywalltodd ef ei waed yn lli'.

I holl gyfreithiau pur ei Dad,
Rhoddodd ogoniant a mawrhad:
Am hyn boed iddo 'r parch a 'r bri,
Trwy 'r nef uwch ben, a 'n daear ni.

“Y mae 'n dda gennyf, Jane, eich bod yn cofio
eich hymnau cystal.”

“O, Syr, ni ellwch feddwl yr hyfrydwch yr wyf yn
gael ynddynt. O! mor dda yw gennyf i chwi roddi
i mi y Llyfr Hymnau i Blant!”

Yma rhwystrwyd hi gan besychu i ddywedyd rhagor.
Yr hen wraig a gynnaliodd ei phen. Ac yn wir
yr oedd yn ofidus edrych arni yn ymdrechu am anadl,
ac hefyd megis am fywyd.

“Druan bach!” ebe 'r hen wraig, O na fedrwn dy
gynnorthwyo ac esmwythau arnat! Ond ni phery
byth.'

“Y mae Duw yn fy nghymmorth i,” ebe hi, pan
gafodd ychydig hamdden, “y mae Duw yn fy nghynnorthwyo;
ac efe a 'm dwyn trwy 'r cwbl—Syr, peidiwch
a dychrynu—nid oes arnaf fi ddim ofn—nid yw
hyn ddim—yr wyf yn well yn awr. Diolch i chwi,
modryb, diolch i chwi. Yr wyf yn rhoddi llawer o
drafferth i chwi; ond fe dâl yr Arglwydd i chwi am
hyn, ac am eich holl diriondeb tu ag attaf: ïe, Syr,
ac fe dâl i chwithau hefyd. Yn awr, Syr, ewch ym
mlaen am y Sacrament.'

“Pa beth sy raid i 'r rhai a ddêl i Swpper yr Arglwydd
ei wneuthur?”

“Y mae pum peth, Syr, wedi eu henwi yn y Catecism.”



[td. 30]
“Pa beth yw 'r cyntaf?”

Ystyriodd ychydig, a dywedodd, gyd âg edrychiad
difrifol,

“Holi eu hunain, a ydynt hwy yn wir edifeiriol am
eu pechodau a aethant heibio.”

“Yr wyf yn gobeithio ac yn meddwl y gwyddoch
chwi beth yw hyn, Jane: rhoddodd yr Arglwydd i
chwi yspryd edifeirwch.”

“Ni ŵyr neb, Syr, y fath ofid a brofais wrth adgofio
'r pechodau a aeth heibio. Ond fe ŵyr Duw;
ac y mae hynny yn ddigon; ac yr wyf yn hyderu ei
fod ef wedi eu maddeu er mwyn Crist. Y mae ei
waed ef yn glanhau oddiwrth bob pechod. Syr, yr
wyf rai prydiau yn crynu gan ofn wrth feddwl am fy
mhechodau; ac y mae yn peri i mi lefain ac wylo
feddwl i mi bechu yn erbyn Duw mor dda; yna y mae
yn fy niddanu â meddyliau hyfryd am Grist.”

“Y mae hyn yn dda, fy merch fach i.—Ond beth
yw 'r peth nesaf?”

“Sicr amcanu dilyn buchedd newydd.”

“Pa beth ydych yn feddwl wrth hyn?”

“Ni bydd fy mywyd ond byrr; a da fuasai gennyf,
pe buasai yn well. Yr wyf o 'm calon yn dymuno bod
yr hyn sydd yn ol o 'm bywyd yn fywyd newydd.
Yr wyf yn hiraethu am ymadael â phob arferion,
meddyliau, geiriau, a chymdeithion drwg; ac am
wneuthur pob peth y mae Duw yn ei orchymyn, a 'r
pethau yr ydych chwi yn ddywedyd sydd yn iawn,
a 'r pethau yr wyf yn ddarllen yn fy Mibl [~ Meibl ]. Ond y
mae arnaf ofn nad wyf yn gwneuthur hynny; y mae
fy nghalon mor llawn o bechod. Etto, er hyn, yr
wyf yn gweddïo Duw am iddo fy ngynnorthwyo [~ nghynorthwyo ]. Ni
bydd fy nyddiau ond ychydig, a dymunwn eu treulio
er gogoniant i Dduw.”

“Bendith yr Arglwydd a fo gyda chwi, Jane, fel

[td. 31]
pa un bynnag ai byw, y byddech fyw iddo ef; ai
marw, y byddech marw i 'r Arglwydd; ac felly pa un
bynnag ai byw ai marw y byddoch eiddo yr Arglwydd.
—Ond pa beth yw 'r trydydd peth?”

“A oes ganddynt ffydd fywiol yn nhrugaredd Duw
trwy Grist.”

“Ydych chwi yn credu bod Duw yn drugarog i
chwi, gan ei fod yn maddeu eich pechodau?”

“Ydwyf, yn wir, Syr.”

“Wel, os yw yn maddeu i chwi, ai er eich mwyn
chwi y mae yn gwneuthur hyn?”

“Nage, nage, Syr; er mwyn Crist—er mwyn fy
Iachawdwr Iesu Grist—ac er ei fwyn ef yn unig—
Crist yw 'r cwbl.”

“A ellwch chwi ymddiried ynddo ef?”

“Syr, ni ddylwn ei anghredu ef; ac ni wnawn pe
medrwn.”

“Gwir, fy anwylyd; y mae efe yn anfeidrol deilwng
o 'n holl ymddiried ni.”

“Yn nesaf, Syr, fe ddylai fod ynof ddiolchus gôf
am ei angau ef. Ni fedraf un amser feddwl am ei
farwolaeth ef, heb ystyried hefyd pa fath adyn tlawd
ac annheilwng ydwyf fi—etto y mae efe mor dda i mi
—O na fedrwn ddiolch iddo!—Syr, mi fum yn darllen
am ei farwolaeth ef. Pa fodd y gallodd yr Iuddewon
wneuthur felly iddo ef—ond y cwbl oedd er ein
hiechydwriaeth ni. A 'r lleidr ar y groes, O mor felus
yw 'r hanes! Yr wyf yn gobeithio y cofia efe finnau
hefyd, ac y cofiaf innau am dano ef a 'i farwolaeth
byth, gyd â 'r diolchgarwch mwyaf.”

“Ond, yn ddiweddaf, Jane, ydych chwi mewn
cariad perffaith â phob dyn? Ydych chwi yn maddeu
i bawb a wnaethant ddim yn eich erbyn? A oes câs
neu ddigasedd yn eich calon i neb?”

“Anwyl Syr, nac oes. Pa fodd y gallaf fod felly,

[td. 32]
a Duw mor dda wrthyf fi? Os yw Duw mor dda
wrthyf fi—os yw ef yn maddeu i mi, pa fodd y gallaf
finnau lai na maddeu i eraill? Nid oes neb ar wyneb
y ddaear nad wyf yn dymuno yn dda iddo, er mwyn
Crist, a hyn o eigion fy nghalon.”

“Pa fodd yr y'ch yn teimlo tu ag at y merched
hŷf, anllad, a drygionus, sy 'n byw yn y tŷ nesaf, y
rhai sydd yn eich gwatwor ac yn eich gwawdio o herwydd
eich crefydd?”

“Syr, y peth gwaethaf yr wyf yn ddymuno iddynt
yw, i 'r Arglwydd roddi iddynt edifeirwch, a chyfnewid
eu calon, a maddeu eu holl bechodau. Maddeued
ef iddynt, fel yr wyf finnau, â 'm holl enaid.”

Ar hyn hi a dawodd—a meddyliais nad oedd eisiau
gofyn dim yn rhagor; canys yr oedd hyn yn ddigon—
yr oedd fy enaid yn foddlon. Dywedais ynof fy hun,
“Ai attebion a chrefydd plentyn yw hyn? O na bai
yr holl blant fel hon!”

“Estynwch i mi 'r Llyfr yna, a 'r phiol a 'r ddysgl.
Fy anwyl gyfeillion, gyda bendith Duw, cymmeraf yn
awr gyda chwi y cymmun sanctaidd, er côf am farwolaeth
ein Hiachawdwr a 'n Hachubwr Iesu Grist.”

Yr amser oedd felus a syml. Aethum trwy 'r gwasanaeth
—yr oedd ymddangosiad yr eneth yn dangos
bod ei henaid yn profi dylanwadau cryfion. Yr oedd
dagrau a gwenau yn cydymddangos ar ei gruddiau.
Yr oedd i 'w weled ynddi ymroddiad a gobaith—gostyngeiddrwydd
a ffydd—gwyldra plentyn a deall yr
oedrannus: diolchgarwch, tangnefedd, duwioldeb, ac
amynedd—y rhai hyn oll oeddynt i 'w gweled. Meddyliais
fy mod yn eu gweled hwynt oll ynddi—ac nid
myfi yn unig—ydyw yn ormod dywedyd, bod creaduriaid
eraill, uwch radd na myfi, y rhai ni allwn eu
gweled â llygaid y corph, yn dystion o 'r pethau hyn.
Ac os yw 'r ysprydion gwasanaethgar, sef yr angelion,

[td. 33]
yn esgyn ac yn disgyn, gan garrio 'r newyddion da
rhwng daear a nefoedd, meddyliwn iddynt wneuthur
hynny y tro hwn.

Ar ol darfod y gwasanaeth, dywedais,

“Yn awr, fy anwylyd, yr ydych yn wir yn chwaer
yn eglwys Crist. Triged ei Yspryd a 'i fendith gyda
chwi—nerthed a lloned chwi!”

“Y mae ei drugaredd ef tu ag attaf fi yn fawr, yn
fawr iawn—yn fwy nag y gallaf fi ddywedyd am dani
—Diolch i chwi am y tro hwn—yr oeddwn yn meddwl
fy mod yn rhy ieuangc—yr oedd yn edrych fel peth
rhy fawr i mi feddwl yn ei gylch—ond y mae 'n ddiogel
gennyf yn awr, fod yr Arglwydd yn dda i mi, ac
yr wyf yn gobeithio i minnau wneuthur yr hyn sydd
uniawn yn ei olwg.”

“Do, Jane; ac yr wyf yn hyderu eich bod wedi
eich selio gan yr Yspryd Glân hyd ddydd prynedigaeth.”


“Syr, ni anghofiaf hyn byth.”

“Ac yr wyf yn meddwl ni wnaf innau.”

“Na minnau 'chwaith [~ ychwaith ],” ebe 'r hen wraig, “yn
ddiau yr oedd yr Arglwydd yn ein canol ni heddyw,
er nad oeddym ond tri wedi ymgynnull yn ei enw ef.”

“Syr,” ebe Jane, “fe fyddai yn dda iawn gennyf
os gwnewch siarad â mam [~ fy mam ] y tro nesaf. Ond y mae
hi yn cadw o 'ch ffordd chwi. Y mae gofid dibaid i mi
o 'i herwydd; canys y mae arnaf ofn nad yw hi yn
meddwl dim am ei henaid.”

“Gobeithio y câf fi gyfleusdra i siarad â hi y tro
nesaf. Duw fo gyda chwi, fy anwylyd.”

“A chyda chwithau, Syr; a diolch i chwi am eich
holl diriondeb tu ag attaf.”

Meddyliais, wrth ymadael, yn ddiau fe flodeua y
blaguryn hwn yn hardd ym mharadwys. Symmuded
yr Arglwydd hi yno yn ei amser da ei hun! Etto, os

[td. 34]
gwel ef yn dda, bydded iddi fyw ychydig yn hŵy, fel
y bo i mi gael ychwaneg o fudd a lles ysprydol trwy
ei hymddiddanion a 'i hesampl.

I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section