Adran o’r blaen
Previous section

Pen. vij.

4.9 Gweled y mae ef wasanaethwyr Dyw wedi eu selio yn ei taleu o bop nasion a phoploedd, 15 Yr ei cyd bont yn dyoðef trwbl, er hyny y mae yr Oen yn y bwydo hwy, yn eu harwain i ffynnoneu dwfr byw, 17 A' Duw a sych ymaes yr oll ddaigreu y ar y llygait.

[1] AC yn ol hyn, mi weleis pedwar Angel yn sefyl' ar bedwar * cornel [-: * congl] y ddayar, yn dala pedwar gwynt y ddayar, rrac yr gwynt chwthy ar y ddayar, nac ar y mor, nac ar vn pren.


[td. 381r]
[2] Ac mi weleis Angel arall yn * dyfod [-: * escen] y vynydd o ddiwrth y Dwyrein, ac yr rydoedd sel Dyw byw gantho, ac ef y lefoedd a ‡ lleis [-: ‡ llef] ywchel ar y pedwar Angel y rrein y rroyspwyd gallu * y ddrygu'r [-: * waythir] ddayar, a'r mor,
[3] Dan ddwedyd, Na ddrygwch y ðayar, na'r mor, nar * coed [-: * preneu] , yni sely ‡  [-: ‡ nodi] gwasnaethwyr yn Dyw ni yn y talceni.
[4] Ac mi glyweis rrif y rrei y selwyd, ac yroydent gwedy * sely [-: * selio] pedeir a seith vgeinmil o holl ‡ cenedlaythey meybyon [-: ‡ llwytheu plant]   yr Israel.
[5] O * genedyl [-: * lwyth] Iuda ef y selwyd doyddeng mil. O ‡ genedyl [-: ‡ lwyth] Ruben ef y selwyd doyddengmil. O genedyl Gad ef yselwyd doyddengmil.
[6] O genedyl Aser ef y selwyd doyddengmil. O genedyl Nephtalei ef y selwyd doyddengmil. O genedyl Manasses ef y selwyd doyddengmil.
[7] O genedyl Simeon ef y selwyd doyddengmil. O genedyl Leui ef y selwyd doyddengmil. O genedyl Issachar, ef y selwyd doyddengmil. O genedyl Zabulon ef y selwyd doyddengmil.
[8] O genedyl Ioseph, ef y selwyd doyddengmil. O genedyl Ben-iamin ef y selwyd doyddengmil.
[9] Yn ol hyn mi edrycheis, a' syna * rrif [-: * torf, tyrfa, lliaws] mawr, yr hwn ny alley neb y rrifo, or holl nasioney a' chenedlaythey, a' phobloedd, ‡ ac ieythoedd [-: ‡ a' thauodeu] , yn sefyll gair bron yr eisteddle, a' chair bron yr Oen, a * gowney [-: * gwiscoedd] gwnion hirion amdanynt, a' ‡ phalmwydd [-: ‡ phalmidwydd] yny dwylaw.
[10] Ac hwy y lefasont a lleis * ywchel [-: * mawr, uchel] , dan ddwedyd, ‡ Cadwedigaeth [-: ‡ Iechyd]   sydd yn dyfod oddiwrth yn

[td. 381v]
Dyw ni, ysydd yn eistedd ar yr eisteðle, ac oddiwrth yr Oen.
[11] Ar holl Angelion y safasant ogylch yr eisteddle, ac ogylch yr henafied, ar pedwar enifel, ac hwy syrthiasant gair bron yr eisteddle ar y hwynebey, ac * anrrydeddasant [-: * addolasant] Ddyw.
[12] Dan ðwedyd, Amen. Moliant a' gogoniant, a' doethinep, a diolch, ac anrrydeð, a' gallu, a' nerth, y vo yn Dyw ni yn dragywydd, Amen.
[13] Ac vn or henafied a ‡ chwedleyawdd [-: ‡ Gr. apecrithe, atepoð, sef ymddiddanodd ] , dan ðwedyd wrthyf, Pwy ydynt y rrei hyn, ysyð a gowney gwnion hirion amdanynt? ac o pa le y ðaythont?
[14] Ac mi ddwedeis wrtho ef, Arglwydd, ti wddost. Ac yntey y ddwad wrthyf i, Yrrein yddynt y rrei y ddaythont allan o * drafael [-: * drwbleth, drallot, gyni, ing] mawr, ac y olchasont y gowne-hyrion, ac y wneythont y gowney-hyrion yn wnion yn gwaed yr Oen.
[15] Am hyny y maent gair bron eisteddle Dyw, ac yny wasnaethy ef yn demel dydd a nos, ar vn ysyð yn eiste ar yr eisteddle, y dric yn y plith hwynt.
[16] Ny vyð arnynt newyn ‡ mwy [-: ‡ rac llaw] , na syched mwy, ac ny * ddeyl [-: * chwymp] yr haul arnynt, na dim gwres.
[17] Cans yr oen, yr hwn ysydd yn chanol yr eisteddle, y rreola hwynt, ac y ‡ towys [-: ‡ harwein] hwynt at y ffynhoney byw o ddyfroedd, a' Dyw sych yr holl ðeigrey o ddiwrth y llygeid.

Pen. viij.

1 Bot agori y seithfet sel: bot goystec yn y nef. 6 Y petwar Angel yn canu ei trumpie, a' phlae dirvawr ar ol hynny yn dyvot ar y ddaiar.



[td. 382r]
[1] A Phan y agorassey ef y seythfed sel, y rydoedd gostec yny nef * amgylch [-: * ynghylch] haner awr.
[2] Ac mi weleis y seith Angel, yr rein oyddent yn sefyll gair bron Dyw, a' seith trwmpet yrroedd yddynt.
[3] Yno Angel arall y ddoyth ac y safoedd gair bron yr allor, a senser aur gantho, a' llawer o arogley y rroed yddo ef, y offrymy a gweðie yr holl Seint, ar yr allor aur, yr ‡ hwn ydyw [-: ‡ hon 'sydd] gair bron yr eisteddle.
[4] A mwg yr erogley ynghyd a gweddie yr Saint, y * ddrychafysant [-: * escenesont, aethon y vyny ] gair bron Dyw, o law yr Angel.
[5] Ar angel y gymerth y senser, ac y llanwoedd hi a' than or allor, ac y bwroedd yr ddayar, ac yroydd lleise, a thraney, a' ‡ mellt [-: ‡ llucheid] , a' chrynfa'r ddayar.
[6] Yno y seith Angel, y rrein oeðent ar seith trwmpet ganthynt, y * wneythont y hun yn barod [-: * ymparatoesont] y gany'r trwmpedey.
[7] Ar Angel cynta y ganoedd y trwmpet, ac yr ydoedd * ceseir [-: * cenllysc] a' than, gwedy cymysgu, a gwaed ac hwy y vwrwyd yr ddayar, a' thrayan y ‡ coed [-: ‡ arborum, preneu] y losgwyd, ar holl gwellt glas y losgwyd.
[8] Ar eil Angel y ganoedd y trwmpet, a' bwrw y wneithpwyd yr mor, mal be bei * mynydd mawr [-: * glan vawr] yn llosgi a than, a thrayan y mor aeth yn waed.
[9] A' thrayan y creadiried, a'r oyddynt yn vyw yny mor, y vyont veyrw a thrayan y llonge y ddinystrwyd.
[10] Ar trydeð Angel y ganoedd y trwmpet, a seren vawr y syrthioedd or nef, yn llosgi mal * toris [-: ‡ Gr. lampas, ffagyl] , ac

[td. 382v]
ef y syrthioedd y drayan yr afonydd, ac y ffynhoney y dyfroedd.
[11] Ac enw'r seren a elwir wermwd: am hyny trydedd ran y dyfredd aethant yn wermod, a llawer o ‡ wyr [-: ‡ homines .i. dynion] y vyont veirw, o vveith y dyfredd hynny, can ys y gwneythur hwynt yn chwerwon.
[12] Ar pedwerydd Angel y ganoedd y trwmpet, a tharo y wneythpwyd trayan yr hayl, a' thrayan y lleyad, a' thrayan y ser, nes towylly y trayan hwynt: a' tharo y wneythpwyd y dydd, mal na alley y * thrayan hi goleyo [-: * drayan lewychu, dowynny] . ac yn yr vn modd y nos.
[13] Ac mi edrycheis, ac y glyweis Angel yn ‡ hedfan [-: ‡ ehedec] trwy ganol y nef, dan ðwedyd a lleis ywchel, Gwae, gwae, gwae y ddeilied y ddayar, * rrac [-: * gan] lleisiey ys yn ol y trwmpedey y tri Angel, y rrein oyddent etto y gany-trwmpede.

Pen. ix.

1 Y pempet ar chwechet Angel yn canu ei trwmpie: y seren yn cwympo or nef. 3 Y locustae yn dyvot allan or mwg. 12 Bot y gwae cyntaf gwedy mynet heibo. 14 Darvot gellwng yn rhyð y petwar Angel y oeðent yn rwym, 18 A' lladd y drydedd ran y dynion.

[1] AR pymed Angel y ganoeð ar trwmped, ac mi weleis seren yn cwympo or nef yr ddayar, ac yddo ef y rrowd * agoriad [-: * allwydd] y pwll ‡ heb waylod [-: ‡ pytew diwaelod, anoddyn] .
[2] Ac ef agoroð y pwll heb waylod, a' mwg y gyfodoedd or pwll, mal

[td. 383r]
mwg ffwrneis vawr, ar haul, a'r * wybr [-: * awyr] y dywyllwyd gan mwg y pwll.
[3] A' ‡ locustae [-: ‡ ryw pryfet] y ddeythont ar y ddayar or mwg allan, a gallu y rroet yddynt hwy, mal y may gallu gan * scorpionae [-: [no gloss]] y ddayar.
[4] A' gorchymyn y rroed yddynt, na waethent gwellt y ddayar, na dim ‡ glas [-: ‡ Gr. chlooron .i. gwyrð] , nac vn pren: ond yn * inyc [-: * vnic] y dynion oyðent heb sel Ddyw yny talceni.
[5] A' gorchymyn y rroed yddynt na ladden y rreini, ond yddynt ‡ anesmwytho [-: ‡ cystuðio, poeni] arnynt pym mis, a' bod poen y hwynt mal poen y vei o vvaith scorpion, pan darfyddei yddo * brathy [-: * gnoei] duyn.
[6] ‡ Ac [-: ‡ Am hyny] yn dyddiey hyny y dynion y geisiant marfolaeth, ac ny * chywrddant a hi [-: * chaffant ef] , ac y chwenychant veirw ‡ a marfolaeth * y gila [-: ‡ ac angeu a ffy] rracddynt.
[7] A' ‡ llyn [-: * chyffelipiaethe] y lacustae oedd debic y veirch gwedy paratei y rryvel, ac yr oedd ar y peney mal coronae yn debic y aur, ae hwynebey hwynebe yn debic y dynion.
[8] A' gwallt oedd ganthynt, mal gwall gwrageð, ae danedd oeddent mal danedd llewod.
[9] Ac yr oedd ganthynt * lurigae [-: * loricæ ] , mal llurigae haiarn, a ‡ lleis [-: ‡ twrw, sain] y hadeynedd oedd debic y leis siaredey yn rredec gan lawer o veirch y rryfel.
[10] A' * chynfonney [-: * chlorene] oedd yddynt, mal y scorpionae, ac yny cynffoney y rroeddent ‡ conynney [-: ‡ colyne] , ae meddiant hvvynt oedd y ddrygu dynion pym mis.
[11] Ac y mae ganthynt vrenin arnynt, yr hwn ydiw Angel y pwll heb waylod, ae enw ef yn Ebryw ydyvv Abaddon, ac yn-* gryw [-: * Groec] ef y enwyr, ‡ Apollyoon [-: ‡ cyfergollwr] .


[td. 383v]
[12] Vn gwae aeth heybio, a' syna, y may doy wae * yw [-: * yn] ddyfod ‡ rrac llaw [-: ‡ gwedy hyn] .
[13] ¶Ar chweched Angel y ganoedd y trwmpet, ac mi glyweis lleis oddiwrth pedwar corn yr allor aur, y sydd gayr bron Dyw,
[14] Yn dywedyd ‡ yr [-: ‡ ir, wrth] chweched Angel, oeð ar trwmpet gantho, Gillwng y pedwar Angel, y rrein ydynt yn rrwym yn yr afon vawr Euphrates.
[15] Ar pedwar Angel y ellyngwyd, y rrein y ymbarattowdd yn erbyn awr, yn erbyn diwrnod, yn erbyn mis, ac yn erbyn blwyddyn y ladd trayan y dynion.
[16] A' rrif gwyr meyrch y ‡ llu [-: ‡ rryfel] , oeð igeyn mil o weithiey deng mil: can ys mi glyweis y rrif hwynt.
[17] Ac mal hyn y gweleis i y mairch mewn gweledigaeth, ac yr rydoedd gan rrei oeddent yn eiste arnynt, lurigae tanllyd, ac o livv'r hyacinct a brwmstan, a' pheneyr mairch oeddent megis penney llewod: ac yn mynd allan oe geneye, tan a' mwg a' brwmstan,
[18] A' thrayan y dynion y las gan y tri * yma [-: * hynn] , 'sef gan y tan ar mwg, a'r brwmstan, y rrein y ðoyth allan oe geneue hwynt.
[19] Can ys y gallu hwynt 'sydd yn y geneyey, ae yny cynffoney: can ys y cynffoney hwynt oeddent debic y ‡ seirph [-: ‡ nadroedd] , a' pheney ganthynt, ar rrei hyn yrroeddent yn drygu.
[20] A' * relyw [-: * gweðillion, gwarged ] or dynion ny las gan y plae hyn, ny chymersont etyfeyrwch am weithredoedd y dwylaw y beydiaw ac addoli cythreylied, a * delwey [-: * Gr. eidola ] aur ac arian, a' phres, a' mein, a' phrene, yrren

[td. 384r]
ac ny allant gweled, na chlywed na cherdded.
[21] Ac ny chymersont hevyd ‡  [-: ‡ ychweyth] etifeyrwch, am y mwrddwr, nae y * cyfareddion [-: * rrinieu] , nae y godineb, nae y lledradeu.

Pen. x.

1 Bot y llyver yn agoret gan yr Angel. 6 Tyngu y mae ef na bydd mwy amser. 9 Rhoi y mae ef y llyfr i Ioan, yr hwn ys ydd yn ei vwyta.

[1] AC mi weleis Angel cadarn arall yn discyn or nef, gwedy ‡ ðillaty [-: ‡ gwisco] or wybren, * ac envys [-: * bwa'r glaw] ar y ben, ac y wyneb ef ydoeð mal yr haul, ae draed ef oeddent mal * pilerey [-: * colofnae] tan.
[2] A Llyfr bychan oedd yn agored yny law ef, ac ef y rroedd y droed ddehe ar y mor, ae droed ‡ assey [-: ‡ asw] ar y ddayar,
[3] Ac ef y lefoedd a lleis ywchel, mal by bei llew yn rryo: a' gwedy darfod yddo lefein, y seith * twrwf [-: * taran] y ‡ wneythont y lleisey [-: ‡ lafareson, lleissasont] .
[4] A' gwedy darfod yr seith twrwf * gwneythyr y lleysiey [-: * adrodd, leisio ] , yroyddwn ar veder scryvenny: ac my glyweis lleis or nef yn dwedyd wrthyf', Sela'r pethey y * leisoedd [-: * ddyvod] y seith ‡ twrwf [-: ‡ taran] , ac na scryvenna hwynt.
[5] A'r Angel yr hwn y weleis i yn sefyll ar y mor ac ar y tir, y * dderchafodd [-: * gododd] ey law yr nef,
[6] Ac y dyngoedd ‡ mewn [-: ‡ yn, myn, ir] yr vn ysydd yn byw yn

[td. 384v]
dragowydd, yr hwn y creoedd y nef, ar pethey ydynt ynddo ef, ar ddayar ar pethey ydynt ynðy hi, ar mor ar pethey ydynt ynddo ef, na vyddey Amser ‡ rrac llaw [-: ‡ mwyach, ymhellach.] .
[7] Ond yn nyddiey lleis y seithfed Angel, pan ðechreyo ef gany ar trwmpet, dyweddy y wneir dirgelwch Ddyw, mal y ddatcanoedd ef * yddy [-: * yw] wasnaethwyr y proffwydi.
[8] Ar lleis y glyweis or nef, y ‡ chwedleyoedd [-: ‡ ymddiddanodd] eilweith a mi, ac y ddwad, Cerdda, cymer, y llyfyr-bechan ysydd yn llaw'r Angel, yr hwn ysydd yn sefyll ar y mor ac ar y tir.
[9] Ac mi eythym at yr Angel, dan ddwedyd wrtho, Dyrro y mi y Llyfr-bychan. Ac ynte y ddwad wrthyfi, Cymer, * a llynca ef [-: * ysa yn llwyr, bwyta ef y gyd] ac ef, y cwherwa dy vola di, ond ef y vydd melys yn dy eney di mal mel.
[10] Ac mi y gymereis y ‡ llyfr-bychan [-: ‡  libellum, llyfran] o law yr Angel, ac y llynceis ef, ac yrydoedd ef yn velys yn vyn geney megis mel: a' chwedy y mi lynky ef, vy mola y cwherwoedd.
[11] Ac ef y ddwad wrthyf, Reid yd proffwydo ‡ eilweith [-: ‡ drachefn] ymysc y bobloedd ar nassioney, a'r * ieithioedd [-: * tafodeu] , ac y lawer o Vrenhinoedd.

Pen. xj.

1 Mesuro 'r templ. 3 Cyuodi dau test y gan yr Arglwydd, a'i lladd y gan y bestvil, 11 Eithyr gwedy hyny ei derbyn y 'ogoniant. 15 Derchafel Christ, 16 A' moli Dew ygan .24. henaif.



[td. 385r]
[1] YNo yroed corsen y mi, yn debic y wialen, ar Angel y safoedd * gair vy llaw [-: * gyd a mi, wrthyf] , ac y ddwad, Cyfod, a' mesyr temel Ddyw a'r allawr, ar rei ydynt yn addoli yndi hi.
[2] Ar cyntedd yssydd or ty allan yr demel, bwrw allan, ac na vesyr ef: cans ef y rroed yr ‡  [-: ‡ ir] Cenetloedd, ac hwy y sathrant dan draed y dinas [-: * caer] santeidd doy vis a deigen.
[3] Ac mi rrof-allu ym doy dyst, ac hwy y prophwydant mil o ðiwarnodey a thrigen a doycant, gwedy ey ymwisco a llien-sache.
[4] Yrrein ydynt y ddwy * bren-olif [-: * olew wydden] : ar doy canwylbren, yn sefyll gair bron Dyw'r ddayar.
[5] Ac os ewyllysa vn y ‡ clwyfo [-: ‡ Gr. 'adicesai .i. wnethur cam, ae drygu] hwynt, y mae tan yn mynd allan oe geneye ynthwy, ac y ddinystr y * digasogion [-: * gelynion ] : ac os ewyllysa vn duyn y clwyfo hwynt, mal hyn ‡ y lleddir ef [-: [no gloss]] .
[6] Gallu y sydd gan yrrein y * gayed [-: ‡ gau] y nef, rrac' yddi 'lawio yn nyddiey y pryffodolaeth hwynt, a' gallu y sydd ganthynt ar y dyfroedd y troi hwynt yn waed, ac y daro'r ddayar a phob pla, cyn vynyched ac y mynnont.
[7] A' phan ddarffo yddynt ‡ cwplay [-: ‡ ddiwedy, 'orphen] y tustolaeth, yr * enifel [-: * bestia .i. bestvil] y ddaw allan or pwll heb waylod, y rryfela yny herbyn hwy, ac y ‡ gortrecha [-: [no gloss]] hwynt, ac y lladd hwynt.
[8] Ae ‡ cyrff [-: ‡ celanedd] hwynt y orwedd ar heolydd y dinas vawr, yr hon y elwir yn ysbrydawl Sodoma ‡ ac [-: ‡ a'r] Eifft, lle ac y * croeshoylwyd [-: ‡ crogwyt] yn harglwydd ni.


[td. 385v]
[9] Ac hvvy or bobloedd, ar * genedlaythey [-: * lvvythae ] , ar ‡ ieithoedd [-: ‡ tavodeu] , ar * Cenetloedd [-: [no gloss]] y welant y cyrff hwynt tridiey a' haner, ac ny ddioddefant rroi y * cyrff [-: * cadauera .i. celanedd] hwynt mewn ‡ beddey [-: ‡ monumentis] .
[10] Ar rrei ydynt yn trigo ar y ðayar, y lawenhant arnynt hwy, ac y vyddant ‡ siriys [-: ‡ cyssurus] , ac y ddanfonant rroddion pawb at y gilydd: cans y ddoy broffwyd * yma [-: * hyn] , y anesmwythoedd ar y rrei oyddent yn trigio ar y ddayar.
[11] Ac yn ol tridiey a haner, ysbryd y bowyd o ddiwrth Ddyw, aa ymewn yndynt hwy, ac hwy ‡ safant [-: [no gloss]] ar y traed: ac ofn mawr y syrth ar y rrei y gwelas hwynt.
[12] Ac hwy glywont lleis mawr or nef, yn dwedyd wrthynt. ‡ Drychefwch [-: ‡ Escenwch, Dewch i vyny] yma. Ac hwy * ddrychafont [-: [no gloss]] yr nef mewn wybren, ae * digassogion [-: * gelynion] hwynt y gwelsant hwy.
[13] Ac yn yr awr hono ‡ yrydoedd [-: ‡ bydd] crynfa vawr ar y ddayar, ar ðecfed rran or dinas y syrthioedd y lavvr, a' seith mil o * wyr [-: * ddynion] y ‡ las [-: ‡ leddir] yn chrynfar ddayar: a'r gweddilion a ofnasant, ac y rroysont 'ogoniant y Ddyw ‡ nef [-: * celi] .
[14] Yr eil gwae aeth hebio, a' syna, y trydedd gwae y ddaw ar vrys.
[15] A'r seithfed Angel y ganoedd ar trwmpet, a lleisey mawr y * wneythpwyd [-: ‡ oedd] yn y nef, dan dwedyd, Yn harglwydd ni ae grist ef y pieffant tyrnasoedd y ‡ bud [-: * byt] hwn, ac ef y dyrnassa yn oes oesoedd. Amen.
[16] A'r pedwar ar ygen o henafied, yr rein y eisteddent ar y cadeyre gair bron Dyw, y syrthiasant ar y whynebey [~ hwynebau ], ac addolasant Ddyw,


[td. 386r]
[17] Dan ddwedyd, Yrydym yn diolch ytti, Arglwyð Ddyw hollallyawc, yr Hwn wyd, yr Hwn oyddyd, ac yr Hwn * y ddaw [-: * 'sy ar ðyvot] : cans ti dderbyneist dy ally mawr, ac y ‡ deyrnaseist [-: 'orescenaist, y ðaethost y gael teyrnas] .
[18] Ar Cenetloeð y lidiasant, ath lid ti y ddeyth, ac amser y varny'r merw, ac y yrroi ‡ gobrwy [-: ‡ taledigaeth] yth wasnaethwyr, y prophwydi, a'r Seinct, ac yr rrei y ofnoedd dy Enw, bychein, a' mawr, ac bot yty golli y rrein, ar ydynt yn dinystr y ddayar.
[19] A themel Dyw oeð yn agored yn y nef, ac arch y * Testament [-: * ystafn, yr ammot] ef y welspwyd yny demel, ac yroyddent mellt, a' lleisiey, a' tharaney, a chrynfa'r ddayar, a ‡ chenllysc [-: ‡ chesair] mawr.

Pen. xij.

1 Ymddangos a wnaeth yn y nef gwreic gwedy ymwisco a'r haul. 7 Mihacael yn ymladd ar ddraic, yr hwn 'sy yn ymlid y wreic. 11 Cahel y vuddygoliaeth trwy conffort y ffyddlonieit.

[1] AR ryfeddod mawr y ymddangosoedd yn y nef: Gwreic gwedy ymwisco ar haul, ar lleyad oedd dan y thraed, ac ar y phen coron o ðeyddec seren,
[2] Ac yrodoedd hi yn veichioc ac hi lefoeð dan dravaylu ar y thymp, a hi ddolyrioedd yn barod y gael yscar llaw.
[3] A' rryveddod arall ymddangosoedd yny nef, a' synna, dreic coch mawr a seith pen yddo, a dec

[td. 386v]
corn, a' seith coron ar y ‡ penney [-: ‡ talaith] :
[4] Ae gynffon ef y dynoedd trayan ser y nef, ac y bwroedd hwynt yr ddayar. Ar ddreic y safoedd gair bron y wreic, yr hon ydoedd yn barod y gael yscar llaw, y vwytta y phlentyn hi, ‡ yn hwy nac y genyd [-: ‡ pan y genit] ef,
[5] A' mab- ‡ wr [-: * gwryw] y aned yddi, yr hwn y rreoley yr holl nasioney a gwialen hayarn: ay mab y gymerspwyd y vynydd at Ddyw ac at y eisteddle ef.
[6] Ar wreic y * giloedd [-: * ffoodd] yr diffeyth lle may ‡ gyfle [-: ‡ ban] gwedy Ddyw y barottoi yddi, mal y gal'ent y phorthi hi yno mil o ddiwarnodey a thrigen a doy cant.
[7] A' * rryfel [-: ‡ cad, brwydr] oedd yny nef, Mihangel ae Angylion ef ymladdasant yn erbyn y dreic, ar dreic ymladdoedd ef ae Angylion ef.
[8] Ac ny ‡ chawsont [-: ‡ orthresant] y llaw yn ycha, ac ny chafad y lle hwynt o hyny allan yn y nef.
[9] A' bwrw allan y wneythpwyd y dreic mawr, yr hen sarph, yr hwn y elwir y * cythrel [-: * diavol] , a' Satan, yr hwn ysydd yn twyllo [-: ‡ siomi] yr holl vyd: ys y vwrw y wneythpwyd ef yr ddayar, ae Angylion y vwrwyd allan gydac ef.
[10] Yno mi glyweis lleis ywchel, yn dwedyd, Yrowron y mae iechid yn y nef, a' ‡ grym [-: ‡ nerth] , a thyrnas yn Dyw ni, a gallu y Grist ef: can ys cyhyddwr yn brodyr ni y vwrwyd yr llawr, yr hwn ydoedd yn y cyhyðo hwynt gair bron yn Dyw dydd a' nos.
[11] Ac hwy * gortrechasant [-: ‡ gorchvygesont] ef trwy waed yr Oen, a' thrwy geir y testolaeth hwynt, ac ny charasant y bowyd hed ‡ at marw [-: ‡ angeu] .
[12] Am hyny, llawenhewch, y nefoedd, a'r sawl

[td. 387r]
* ydynt [-: * 'sy, ydych] trigadwy yndynt hwy. Gwae yr rrei ydynt trigadwy yn y ddayar, a'r mor: cans y ‡ cythrel [-: ‡ diavol ] y ddiscynoedd attoch chwi, yr hwn y sydd a llid mawr gantho, herwydd gwybod nad ydiw y amser ef ond byrr.
[13] A' phan gwelas y ddreic y vwrwyr ðayar, ymlid y wnaeth ef y wreic y * ddygoedd y mab yr byd [-: * escoroð ar y gwr-ryw] .
[14] A dwy adein eryr mawr y rroed yr wreic, yddi ‡ hedfan [-: ‡ y hedec ] yr diffeth, * yddy [-: * yw]  lle 'ddys [~ ydd ys ] yny magi hi dros amser, ac amseroedd, ac hanner amser, rrac wyneb y sarph.
[15] Ar sarph y vwroedd oe safn allan ar ol y wreic ddwr mal * llifddvvr [-: * llifeiriant] , ar veder cael y dwyn hi ffwrð gan y llifddvvr.
[16] A'r ddayar y ‡ cynorthwyoedd [-: ‡ helpioedd] y wreic, ar * tir [-: * ddaiar] agoroeð ei geneu, ac y lyngcoeð y llifddvvr, yr hwn y vwroedd y ddreic allan oe safn.
[17] A' llidio a oruc y ddreic ‡ yn erbyn [-: ‡ wrth] y wreic, a' myned y wnaeth ef y rryfely yn erbyn gweddillion y hilogaeth hi, yrrein ydynt yn cadw gorchmyney Dyw, ac ysydd a thystolaeth Iesu Christ ganthynt.
[18] Ac mi sefeis ar * draethey mor [-: * dyvot, y veisdon] .

Pen. xiij.

1. 8. Y bestvil yn twyllo yr ei argyoeddus, 2. 4. 12. Ac y gadarnheir gan vestvil arall. 17. Braint not y bestvil.



[td. 387v]
[1] Ac mi weleis * enifel [-: * vestvil] yn ‡ cwny [-: ‡ codi] or mor, a' seith pen gantho, a dec corn, ac ar y gyrn ef dec coron, ac ar y beney ef enw * dirmigedic [-: * cabl, sen, divenw] .
[2] Ar ‡ enifel [-: ‡ bestvil] rhwn y weleis i, oedd debic y lewpard, ae draed yn debic y draed arth, ae safn yn debic y safn llew: ar dreic y rroedd yddo ef y 'allu ae eisteddle, ac awdyrdod mawr.
[3] Ac mi weleis vn oe beney ef mal gwedy * las [-: * ladd, archolli] yn varw, ae ‡ glwyf [-: ‡ archoll, weli] marfol ef y iachawd, ar'holl vyd y rryfeddoedd, * ac aeth yn ol yr enifel [-: * y ddilynoedd yr bestvil] .
[4] Ac hwy addolasant y ddreic yr hwn y ‡ rroedd [-: ‡ roes] gallu yr enifel, ac addolasant yr enifel, dan dwedyd, Pwy ysydd debic yr enifel, pwy ddychyn rryfely ac ef?
[5] A' geney y rroed yddo ef, y ddwedyd mawr eyriey, a ‡ dirmygon [-: * chableu] , a' gallu yrroed yddo ef, y * weithio [-: ‡ farere .i. wneuthur] doy vis a' deigen.
[6] Ac ef agoroedd y eney mewn dirmic yn erbyn Dyw, y * ddirmygy [-: * gablu] y Enw ef, ae ‡ dabernacl [-: ‡ dyle] , ar rey trigadwy yny nef.
[7] A' rroi y wneythpwyd yddo ef rryfely ar Sainct ac y * gortrechy [-: * gorchfygy] y hwynt, a' gallu y rroed yðo ef ar bob cenedl ac ieith, a' nasion.
[8] A' holl ‡ breswylwyr [-: ‡ drigiolion] y ddayar, y addolasont ef, yrrein nad yw y henwey yn escrifenedic mewn Llyfr y bowyd yr Oen, yr hwn y las er dechreyad y * bud [-: * byd] .
[9] Y sydd a chlyst gantho, gwrandawed.
[10] A's ‡ tywys [-: ‡ dwc, arwein] neb y gaethiwed, efo eiff y gathi wed

[td. 388r]
: as lladd neb a chleddey, * a chleddey y lleddir [-: * dir yw iddo gael ei ladd] : ‡ llyma'r [-: ‡ hyn] goddefeint, a' ffydd y Sainct.
[11] Ac mi edrycheis ar enifel arall yn * cwny [-: * escen, codi] or ðayar, a doy corn oedd ‡ gantho [-: ‡ iddo] yn debic yr Oen, ond yn dwedyd yn debic yr dreic.
[12] Ac ef y wnaeth cwbl ar allei yr enifel cynta wneythyr * oe vlaen [-: * ger ei vron ] , ac ef y wnaeth yr ddayar, ar rrey oyddent yn drygadwy yndi, y addoli yr enifel cynta, ‡ clwyf marolaythys [-: ‡ archoll, angeuol] yr hwn, y iachawd.
[13] Ac ef y wnaeth rryfeddodey mawr, ac y baroedd can y ddiscyn or nef yr ddayar, yn golwc y dynion.
[14] Ac ef a dwyllawdd ‡ ddeiled [-: ‡ breswylwyr, gyfaneddwyr, drigiolion] y ddaiar gan yr arwyddion, yrrei y oddefwyd yddo ef y gwneythyr gair bron yr enifel, dan ddwedyd wrthynt hwy y sawl oeyddent yn drigadwy ar y ddayar, * am [-: * bot] yddynt wneythyr delw yr enifel, yr hwn y ‡ glwyfwd a chleddey [-: ‡ gavodd archoll gan y cleddyf] , ac y vy vyw.
[15] A' goddef y wneythpwyd yddo ef rroi * anadl [-: * yspryt] y ddelw'r enifel, mal y galley ddelw'r enifel ddwedyd, a' pheri lladd cynifer vn nad addoley ddelwr enifel.
[16] Ac ef y wnaeth y bawb, bychein a'mawr, cyfoethocion a thlawdion rryddion a chaethion, y ðerbyn nod yny dywlaw dehey ney yny talceni,
[17] Ac na allei neb na phryny na gwerthy, ond * y gymerth [-: * hwn, sawl oedd arno] yr nod, ney enw'r enifel, ney rrif y enw ef.
[18] Ll'yma ddoethinep. * Y sawl [-: * yr hwn] ysydd synhwyrys, cyfrifed rrif yr enifel: can ys rrif duyn ydiw, ae rif ydiw chwechant, a' chwech a' thrigen.

Pen. xiiij.

1 Rhagorawl compeini yr Oen. 6 Vn Angel yn menegi yr Euangel, 8 Vn arall yn menegi am gwymp Babylon, 9 A'r trydydd yn rhybuddio * ffo [-: * cilo ] rhac y bestvil. 13 Am ddedwyddit y sawl 'sy yn meirw yn yr Arglwydd. 18 Am gynayaf yr Arglwydd.

[1] AC mi edrycheis, a' syna, Oen yn sefyll ar vynydd Sion, a gyd ac ef pedeir mil a seith vgen mil, gan vod enw y dad ef yn escrifenedic yny talceni hwynt.
[2] Ac mi glyweis lleis or nef, mal lleis llawer o ddyfroedd, ac mal lleis twrwf [-: * taran] mawr: ac mi glyweis lleis telynorion yn cany ar y telyney.
[3] Ac hwy ganyssont mal caniat newydd gair bron y trwn, a chair bron y pedwar enifel, ar henafied, ac ny allei ‡ vn-duyn [-: ‡ neb] dyscu y caniat hwnw, ond y pedeir mil a'r seith vgein mil, y rrein y * brynwyd [-: * brynesit] or ddayar.
[4] Yrrein ydynt y ‡ gwyr [-: ‡ sawl] ar nyd halogwyt * a [-: * can, wrth] gwragedd: can ys ‡ gweryfon [-: ‡ morynion, diweir] ynt: * yrrein [-: * yr ol ] y ddilynant yr Oen pa le bynac yr eiff: yrrein y brynwyd o ddiwrth y dynion, yn ‡ ffrwyth cynta [-: ‡ vlaenffrwth ] y Ddyw, ac ir Oen:
[5] Ac ny chafad twyll yn y geneye hwynt: canys y maent heb * gyffeith [-: ‡ Gr. amoomoi .i. yn ði vrych, yn ði van, yn ddinam, ðivei] gair bron trwn Dyw.
[6] ¶Ac mi weleis Angel arall yn hedfan * trwy [-: [no gloss]]

[td. 389r]
ganol y nef, ac Euengel tragywydd gantho, y bregethy yr rrei oeddent trigadwy ar y ddayar, ac y bob nasion, a' chenedlaeth, ‡ ac ieith [-: ‡ thavod] , a' phobl,
[7] Dan dwedyd a lleis ywchel, Ofnywch Ddyw, a' rrowch * anrrydedd [-: * 'ogoniant] yddo ef: can ys, awr y varn ef y ddoyth: ac addolwch yr hwn y wnaeth nef a ‡ llawr [-: * dayar] , a'r mor, a' ffynhoney y dyfroed.
[8] Ac Angel arall y ddilynoeð, dan ddwedyd, E syrthioedd, e syrthioedd, Babylon y * gaer [-: * dinas] vawr honno: can ys hi y wnaeth yr holl nasioney yfed o win ‡ digofeint [-: ‡ llid] y * godineb [-: * ffornigrwydd] hi.
[9] ¶A'r trydedd Angel y dilynoedd hwynt, dan ddwedyd a lleis * mawr [-: * uwchel] , Od addola ‡ vn duyn [-: ‡ nep] yr * enifel [-: * bestvil] ae ddelw ef, ac erbyno y nod ef yny dalcen, ney yn y law,
[10] Hwnw y yf o win digoveint Dyw, yr hwn y ‡ gymysgwd [-: ‡ dwallwd] , o win pur * mewn phiol [-: * ynghwpa, ynghwpan] y ddigoveint ef, ac ef y boenyr mewn tan a brymstan yn golwc yr Angylion santaidd, ac yngolwc yr Oen.
[11] A' mwg y poynedigeth hwynt y ‡ ddrycha [-: ‡ escen, ddring] yn dragywyð: ac ny chant orffwysfa na dyð na nos, yrrein y addolant yr enifel, ae ddelw ef, a phwy bynac y dderbyno * print [-: * Gr. charagma, lluniedigeth] y enw ef.
[12] Llyma ‡ goddefeint [-: * anmyned, ymaros] y Seint: ll'yma 'r rrei y gadwant gorchmyney Dyw, a' ffydd Iesu.
[13] Ac mi glyweis lleis or nef, yn dwedyd wrthyfi, Escrifena, Bendigedic ydynt y meyrw, yrrein ydynt rrac llaw yn meyrw * yn [-: ‡ er mwyn, ym-plait] yr Arglwydd. Velly y ddwed yr ysbryd: can ys hwy y orffwyssant oðiwrth y ‡ llafyr [-: ‡ trafayl] , ae gweithredoedd y dilyn hwynt.
[14] ¶Ac mi edricheis, a' syna, wybren wen, ac ar yr

[td. 389v]
wybren vn yn eiste yn debic y Mab y duyn, ac ar y ben coron aur, ac yn y law cryman llym.
[15] Ac Angel arall y ðoyth allan or deml, dan lefen a lleis ywchel wrth yr vn oedd yn eistedd ar yr wybren * Bwrw [-: * Dod] y mewn dy gryman a meda: can ys amser medi y ddeyth: am vod cynhayaf y ddayar yn ayddfed.
[16] A'r vn oedd o eistedd ar yr wybren, y vwroedd y gryman ar y ddayar, a'r ddayar y vedwyd.
[17] Ac Angel arall y ddeyth allan or dem'l, yr hwn ysydd yny nef, a' chanto hefyd cryman llym.
[18] Ac Angel arall y ddeith allan oðiwrth yr allor, yr hwn oedd a gallu gantho ar y tan, ac y lefoedd a lleis ywchel ar yr vn oedd ar cryman llym gantho, gan ddywedyd, Bwrw y mewn dy gryman llym, a' chascla vagadey gwinllan y ddayar: cans y maent y grawn hi yn ayddfed.
[19] Ar Angel y vwroedd y gryman llym ar y ddayar, ac y doroeð y lawr gwinwydd gwinllan y ðayar, ac y bwroedd hwynt y ‡ gerwyn [-: ‡ bwll] gwin vawr digofent Dyw,
[20] a * phres [-: * phwll, gwascfa] gwin y ‡ gwascwyd [-: ‡ sathrwyt] allan or * gaer [-: dinas] , a gwaed y ddeith allan or pres-y gwin ‡ cyfiwch a [-: ‡ hyd] ffrwyney y meirch * cyd ac vncant ar bymthec o gef nei o dir. [-: * rhyd mil a' chwechant stad.]

I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section