Adran o’r blaen
Previous section


Tom.
Gwir a dd'weydodd [~ ddywedodd] Gaenor o Defarn y gunnog
Hir ac anghynnes ydyw chwedl yr Anghenog
Ond i ddangos mawrhydi Tlodi yn lân,
Mae gen inneu gan, yn enwog.

CANU ar y Ddimeu Goch.

Pob dyn a dynes gynnes gàll

[td. 17]
Mae 'n ddiwall, mewn addewyd
Y rhaid i bawb Sy 'n chwennych byw,
Feddwl rhyw Gelfyddyd
Rhai i 'r Mor a rhai i 'r mynydd
Rhai i 'r glynniau rhai i 'r glennydd
Rhag Tlodi i boeni beynydd
Rhai yn Hwsmun trwy bob drysni
Rhai mhob [~ ym mhob] Swyddau rhag ofn Soddi
Helynt lidiog mewn Tylodi.
Y Gof a 'r Saer ar gyfer Sydd, a Thylwyth crydd a Thailiwr,
Y Tanner crych a 'r tynnwr croen, a 'r Gwydd mewn poen, a 'r Panwr
A 'r Tinceriaid hwyntau 'n curo,
A 'r Melinydd yn milainio
Ac yn Tolli cymaint allo,
Bricklers, Masiwn's yn dra misi,
Nailers Tilers yn cyd holi
Ymhob teiladaeth rhag Tylodi.
Y Gwyr o gyfraith croes eu brud
Hoff rydid, a 'r 'ffeiriadau [~ offeiriadau]
Degymwyr Trethwyr pwythwyr pur,
A Shapus wyr, y Shiopau
Clochyddion Doctors yn cyd actio
Ac ynteu'r Cigydd ar gwynt cogio,
Weithiau 'n lladd ag weithiau 'n blingo.
Llinwr, Turner yn llawn taerni,
Glover Sadler Sodlwr gwisci,
Pawb a lediant rhag Tylodi.
Chwarelwr Tyrchwr calchwr certh
A'r caeuwr perth, a'r Porthwr
Exiceman Supervicer, pric,
Wr byrbwyll dric, a 'r Barbwr,
Brasier Cuttler Pedler Bwdliwr
Miner Colier Painter Printiwr
Lliwydd Cribydd pibydd pobwr.
Cario pottiau c'weirio [~ cyweirio] pwtti,
A physcotta gwneud Basgetti [~ basgedi]
A Phob teiladaeth rhag Tylodi.
Y Cwympwr Coed a 'r llifiwr cûl,
A'r gwladaidd ful, 'Sglodion,
Baledwrs Raxiwrs clocsiwrs clau

[td. 18]
A 'r Jagers glouau, glewion.
Pilio Rhisgl a thorri a rhasglo
Cordio a llosci cario a llusco
Forgemen, Foundrers, pawb yn ffwndro,
Llongwyr Sawdwyr Sydyn Wisgi,
A Swyddogion Sydd a u hegni; rhwygant Wledydd rhag Tylodi
Tafarnwr Bragwr trychwr trwm
A 'r nodwr llwm, Anwydog
Sebonwr C'nwyllwr [~ canwyllwr] gweithiwr gwêr, a Swip a chobler, chwibiog
Hettiwr, Clociwr Garddwr gwirdda
Towr, a 'r Cowper taer eu Copa, A Thurnpicwr a thrwyn picca
Troliau gannoedd a Gwagenni,
Gwyr yr Hoettiau 'n gwareu Atti,
'N gyrru 'n 'n llidiog rhag Tylodi.
Rhai yn cerdded Gwlad a Thre,
A rhyw goeg Wrthi'e [~ werthiau] i 'w gwerthu.
Rhai yn crio nryseu [~ yn nrysau] tai, mewn Cwynion a rhai 'n canu,
Telyniwr, Fidler, Jocky a Phorthmon
Baily a Chonstable Jelar Hangmon,
Rhai 'n dwyllodrus a rhai 'n lladron.
Felly beynydd mae rhai 'n poeni,
A rhyw alwad i 'w rheoli,
Rhwyg taledig rhag Tylodi.
A Swm y cwbwl drwbwl drud
O boenau 'r bywyd, beynydd,
Yw 'n dyscu Ni, drwy 'r dasc a wnaeth,
Gair Odiaeth, y Creuawdydd [~ creawdydd].
Beth yw Tlodi a phob hynt lidiog
Ond galw dynion er gweld enwog,
Allu llaw 'r Hollalluog,
'Am bob doethineb a berthynant
Mhob [~ ym mhob] Celfyddyd hap coel feddiant
Duw a ddyle'i gael 'r Addoliant.

Entr Rinallt arianog y Cybydd.
Wel rhyfedd y Canu bydd pob cyccynen [~ cacynen]
Ag 'n pwnnio rhyw hanes wrth eu pen eu hunen

Tom.
Arefwch beth, yr Oeddwn i'n bur
Yn canu 'r gwir, yn gywr'en [~ gywrain].

Rinallt.
Pur anaml y clywir yn Unman
Na fo bawb yn Wahanol yn ei ganmol ei hunan.

[td. 19]
Tom.
Wel hoff gennych chwithe ganmol eich Côd,
A chyraedd clod: i 'ch Arian.

Rinallt.
Nid oes dim drwy 'r byd presennol
Cymmaint, yn haeddu eu Ca'mol [~ canmol]
Ond am yr arian wiwlan wawr,
Mae bychain a mawr, yn ymorol.
Ond am yr arian mae 'r dymmer erwin
Mewn Esgobion a 'ffeiriadau [~ offeiriadau] a phobl gyffredin
D'oes [~ nid oes] dim yn gwneud lles mi gymra fy llw,
Mwy breiniol na delw, 'r brenin.

Tom.
Wel mi wn fy hunan heb wahanu
Mae delw 'r brenin a dal i brynnu
Ond mae arian drwg mewn gwlad a thre
Gwedi ryw bethe, eu bathu.

Rinallt.
Mae 'n dda genny arian yn fy nghalon
Pe medrwn ineu bwrw mi leiciwn yn burion
Mi wnawn ryfeddod yn fy rhan,
O Giuneas ag arian, gwynnion.

Tom.
Nid oes yn gyffraithlon [~ gyfreithlon] wedi trefnu
Ond arian y brenin i werthu ag i brynnu
D'yw [~ nid yw] 'r lleill ond rhagrith yn lle gwir hawl
'Ddyfeisiodd [~ a ddyfeisisodd] y diawl, a 'i deylu.
Pob hudoliaeth mae pawb i 'w dilyn
I ddianrhydeddu enw 'r brenin
Sydd megis rhîth o Gristion bâs
Heb roddiad gras, yn wreiddin [~ wreiddyn].
Mae arian brenin Cymru a lloeger
Yn deip o'r fendith Sy 'n talu Cyfiawnder
Nid yw heb raslon gyfraithlon fryd
Ein dyfais eu gyd [~ i gyd]; ond Ofer.
Rhaid i 'r Cristion cywyr wastad
Ddal cywrain ddelw y cariad
'R un modd ag y deil, rhwng dyn a dyn,
Arian y brenin, brynniad.

Rinallt.
Rhyfedd y Cymeraist mewn Cymmyraeth [~ cymyredd],
Yr arian anwyl yn dext i 'th pregeth,
Ond mi wn nad oes mewn Gwlad a Thre
Gysonach llyfre, gwasanaeth.
A gwyn ei fyd y bawen a gasglo bwer
O! na fedrwn eu mudo heb na rhif na meder

[td. 20]
Mae 'n hawdd inni dd'allt [~ ddeall] mae nhw Sy 'n dduw,
A Nefoedd gan amryw, nifer.

Tom.
Pwy bynnag Sy a 'i dduw goruchel
Na 'i Nefoedd mewn un afel
Heb law yn y gwir air Cywyr cu,
Fe geiff ei nesu, n isel.
Mae llawer yn dewis duwiau
Mewn cywaeth; yn y tai, neu 'r Caeuau
Yn eu cattel, neu llafur, peth bynnag llai,
Ac mae ffoledd rhai, 'n ei Ceffylau.
Ac mae llawer a 'u pleser hyd y Trefydd a 'r plasau
Lle mae 'r byd a 'i belydr, eu duw yw eu boliau
A duw 'r godinebwyr yw merched glan
Hwy c'alynan [~ canlynant]; ar eu gliniau.
Lle bynnag bo 'r calonau a llwybr y ca'lynniad [~ canlyniad]
Yno mae 'r trysorau 'waeth [~ ni waeth] tewi na Siarad
Mae gan bawb ryw dduw wrth i feddwl i hun,
I ddilyn, ei addoliad.

Rinallt.
Wel ni wiw taeru na chadw twrw
Fy Nuw i ydyw f' arian fyth hyd farw
Nid oes genny hyder mewn dim o hyd
Ond golud, y byd, ag elw.

Tom.
Wel Tom tell tro'th ydwyf i trwy 'r eitha
Waeth rhoi 'r gwir tu 'g [~ tuag] attoch heb fod yn gwtta
Tra f'o [~ foch] chwi 'n caru ch clod a 'ch mawl,
A 'ch pywer, mae 'r diawl, a 'ch pi'a [~ piau].

Exit.

Rinallt.
Wel chwedl garw ymhob rhyw gyrrion,
Ddewred a doethed ydyw pob cymdeithion
Mae 'n gas i ddyn glywed cymmaint eu hares
Fydd rhyw ysgolars, gwaelion.
A rhyfedd fel y c'wed [~ cyfyd] ysgolheigion tîn caeueu
Ffyliaid penneu 'gored [~ agored] sy 'n cerdded y c'wrddeu [~ cyrddau]
Cheiff [~ ni chaiff] dynion ar fusness ddim eiste 'n hir,
Na fernir, 'n hwy [~ nhwy] mewn Tafarneu
Mae Cyriadox neu ryw goeg rediaeth,
Ymhob cwmpeini, y nhw ydyw'r pennaeth
Ni fydd dyn fymrun yn ei fyw,
Heb rigwm o ryw, bregeth.
O pobl dostion ydyw 'r Methodistiaid
Rhuo am eu crefydd y bydda 'nhw bob crafiaid,

[td. 21]
Ceir clywed y carpiau cas eu cuwch,
Yn swnnio 'n uwch, na 'r Personiaid.
Fe geir gan y person yn llon mewn llawenydd
Ryw 'stori [~ ystori] ddiniwaid, neu ddysgwrs papur newydd
Yn fwynach na'r llymgwn sy 'mhob [~ ym mhob] lle
A'r 'Sgrythyre [~ Ysgrythurau] yn eu penn'e [~ pennau], beynydd.
Mae 'r Personiaid enwog 'r unfath a dynion
Y sulieu ar Wythnosau am y byd a'i fusnessi'on
Ni dd'weudant [~ ddywedant] hwy 'n amser air o'i le
Oni fydd y degym'e [~ degymau], n geimion;
Ond gyda Gwr ag arian gwneir pobpeth ar goreu
'Ran [~ o ran] gwell gan y person gwmni Gwyr y pyrsau
'Na'r carpiau tylodion Sy hyd y wlad,
Yn cadw nâd, am eu 'neidiau [~ eneidiau].
Sonian a chrafan am dduwioldeb a chrefydd
Ni wn I, fawr am dani, beth bynnag yw ei deynydd
Ond cymmaint a welais neu dreiais o droeau
Am bob gwr ag Arian do'e [~ dôi] drwyddi hi ar goreu.
Er son am ddoethineb a rhyw drwst o 'r fath honno
Arian ydyw 'r Cwbl hwy ant yn deg heibio,
Pe bae bobl dlodion a 'u Synwy'r [~ synnwyr] mor lydan,
Ni cha'nt fyth eu bwriad tra fython't heb Arian.

Entr Lowri lew.
A glywi di Rinallt ond Wyt yn erwinol?
Fod yn sefyll ag yn rhuo fel hyn ymhen 'r Heol.

Rinallt.
A glywch chwitheu Mam 'r hen dame drwyn dig
Ond ydych yn ffyrnig, Uffernol.

Lowri.
Pwy ddrwg Sy ar y bachgen milain ei gymaleu
Rhoi coegni i 'th fam Sy ar ei goreu
Oni bae mod [~ fy mod] i 'n Wreigan lew gynddeiriog
Ni f'aseti [~ fuaset ti] Rinallt byth mor Arianog.

Rinallt.
Paham y rhaid ichwi edliw a chodlo,
Am fynd yn g'waethog [~ gyfoethog] ond fi oedd yn gweithio
Ni wnaethoch chwi fawr at fynd yn g'waethog [~ gyfoethog]
Oni ddygech dippyn oddiar gymydog.

Lowri.
O taw a Son y Machgen [~ fy machgen] am ladrad
I g'wilyddio [~ gywilyddio] dy frawd Sydd yn Offeiriad
Lle bo wr boneddig ar ben eiddo
D' oes [~ nid oes] dim wrthunach na thrwst fath honno.

[td. 22]
Rinallt.
Bon'ddigion [~ boneddigion] braf ydech chwi ag ynteu
Diolch mawr i mi am fod gartreu
Oni bae 'mi [~ imi] Weithio a ffyrnigo 'n eger
Ni thal'sei [~ thalasai] 'ch bon'geiddrwydd [~ boneddigeiddrwydd] chwi mor llawer

Lowri.
Ond oedd dy Dad a minneu 'n boenus,
Yn gweithio cyn d' eni di 'n ddigon daionus
Wedi prynnu tir, a chasclu llawer
Cyn iti ddyscu Sychu dy grwpper.
Ac nid oeddwn i ddim, mi fynna i chwi Wybod
Yn mynd im priodi fel pob chwilennod
Mi fym I saith mlynedd yn Sêth Ymlonni
Heb Son am danad ti, cyn d' eni.
Roedd dy Dad a minneu 'r Nos yn Ymûno,
I droi Gwrthban rhyngom, rhag ofn doe rhyw wingo,
Ag os âe fe milain am ryw dro 'Smala [~ Ysmala]
(A'i natur yn Awchus) y fi droe 'n Ucha.

Rinallt.
I grogi 'r neb Wyr gan eich bod mor ddygun [~ ddygn]
Os gwn I pa fodd y Ca'wsoch chwi blentyn.

Lowri.
Mi dd'weuda [~ ddywedaf] i ti 'n union y Machgen [~ fy machgen] anwyl
Canwaith bu 'n erchyll gan dy Dad ffasiwn orchwyl.
Ond pan oedd Marchnad drud er 's dalwm [~ er ys talm],
Fe feddwodd rywsut yn ddi reswm
Ac yn y 'Stable by 'r Caffio wrth drin y Ceffyl
Peth bynnag mi Sefais, wrth fod yn rhu Suful.
Roedd dy Dad mor ddaionus newydd i 'w En'ed [~ enaid]
Fe ddae [~ ddôi] 'r Flwyddyn honno bob peth ar i ganfed
Bywch a dau lô, ath ditheu [~ a thydithau] 'n drydydd
Ni fu accw 'rioed [~ erioed] y ffasiwn gynnydd.
Ac felly megais I di fy machgen,
A'r unwaith ar lloiau 'n ddigon llawen,
A 'th rhwymo ar fy nghefn y byddwn i nyddu
Oni fyddit yn fy mhiso 'i 'n Wlyb diferu.
Ond roedd y byd mwy diofal wrth fagu 'th frawd Ifan
Mi ês i gadw Morwyn fe gostiodd im Arian
Ag o dd'weyd itti 'r hanes f'aeth dy Dad ar honno,
Fe fu 'r hen glapio 'r matter rhag drwg mwy etto.

Rinallt.
A glywch I [~ chwi] mam heb gam Ymgomio
Fe gadd 'r Ifan fonheddig accw lawer o 'n heiddo,
Rhwng ei gadw 'n 'r Ysgol a phob rhyw esgus,
Mi wn fi 'n ddi gwestiwn ei fod ê 'n bur gostus.

[td. 23]
Lowri.
Ond oedd y Cwbl gyd-rhyngom pan fu 'ch Tad farw,
Roedd raid felly 'r hanner ddigwydd i hwnnw,
Ac fi oedd Yscuttor dda Onor ddaionus,
Ond alla I felly wneuthur f' wllys.

Rinallt.
Sonniwch am eich wllys, mi 'ch gwna chwi 'n archollion
Oni cha 'im [~ i fy] gafael y cwbl Sydd gyfion,
Gan ei mynd hi cyn mhelled pe baech yn Amhwyllo,
Ni chewch ond y Traian ni wiw chwi [~ i chwi] mo 'r treio.

Lowri.
Hold yno weithan gwna di dy waetha,
Myn y Gwr o Ruthin mi garia fi 'r eitha,
Ni chei di lwy gwtta gan I 'r hen lygotwr
Am itti gynnyg wneud ymma gynnwr [~ gynnwrf].

Rinallt.
Mi glywn ar fy nghalon on' [~ oni] bae rhag fy ngh'wilydd [~ nghywilydd]
Yr Hwch anuwiol roi i chwi ywn newydd,
Merciwch chwi hefyd, ni wnai lai na chofio,
Os deliwch atta'i na thala 'i chwi etto.

Exit.

Lowri.
Dy waetha di Rinallt ni wiw itti draeinio
Ni rosai [~ arhosaf i] ddim rhagor i gym'ryd [~ gymryd] fy nghrugo,
Mi 'madawaf [~ ymadawaf] a 'r lleidr cyn cymrwyf golledion,
Af at fy mab arall ag a fydda fyw 'n burion.
Mi gesglais arian a phob trysorau
Ni choelie'i neb gystadl ydyw rhai o 'r hen Gistiau,
Mi guddiais arian lle na wyr yr hen Syre
Peth garw ydyw garrwch mi ddo i drwyddi hi ar gore,
'D oes dim yn fy fexio mi gollais hen faxen,
Oedd ynddi hi 'n rhagor na deg punt ar hugien [~ hugain],
Oni ni hidia'i fyttatten mae canpunt etto,
Gennyf mewn bwndel tan walblaid y bondo.
Mae degpynt yn Swrcwd wedi gwnio yn fy Syrcun,
Ag Ugiain [~ ugain] mewn maneg tu draw i 'r Gist 'menyn [~ ymenyn],
O na welwn I'r Mab Sydd genny 'n Offeiriad
Mae lwc imi o 'r diwedd dyma fe 'n dywad [~ dyfod].

Entr Mr. Ifan Offeiriad.
Eich bendith y Mam rwi fi 'n ei Ofyn,

Lowri.
Dymma ragor Cynddeiriog rhwng dau blentyn,
Un yn Ymostwng Ymma i Mi,
Ar llall yn fy rhegi; o! rogun.

[td. 24]
Ifan.
What was the Matter, dear Mother?

Lowri.
O Siarad Gymraeg rwi mewn natur hagar
O ran dy frawd Rinallt aeth yn waeth na draenog
I fygwth fy nghuro 'i 'n anrhugarog.

Ifan.
O dear Mother beth yw 'r cythryfwl [~ cythrwfl].

Lowri.
Nid ydyw ddim mor fyddar, ac mae rhai 'n ei feddwl,
Mi glywa ac mi wela 'r peth a leiciw 'i fy hun,
Rwi 'n ò Sydun, ar fy Sawdwl.

Ifan.
Beth aeth rhwng Rinallt a chwitheu rwan.

Lowri.
Wel ond achos, di roedd ê'n erthychan,
Ac yn ysgowlio a mi, rhag ofn fy mod,
Yn dirwyn it ormod, arian.

Ifan.
Wel I doant care I'll do ar goreu
Gwell ichwi Mam dd'wd [~ ddyfod] gyda'm fi [~ gyda myfi] adreu
Cewch barch mewn henaint hynod ddrych,
A lliwdeg wych, ddilladeu.

Lowri.
Mae dy wraig di 'n Saesnes machgen [~ fy machgen] cryno
Ni fedra 'i Siarad gair a honno.

Ifan.
Mi gadwa forwyn deg ar dwyn
At Undeb mwyn, i ch tendio.

Lowri.
Cadw imi forwyn 'd [~ nad] elwi fyth i Lanfwrog
Oni fydda 'i drwy orchest yn hen wraig ardderchog.
Mi ga ngolchi [~ fy ngolchi] drwy Sebon rhag edrych yn Sh'abi [~ Shabi]
Oni fydda 'i gan [~ gyn] laned ag Un ferch y leni.
Mewn dillad newyddion pan weddus ymwiscai,
Bydd llawer o 'm dautu 'n rhyfeddu pwy fyddai,
Mi ddof mewn mawrhydi yn Lady dew lydan,
Heb na byd nag yslafri os peidia'i ag yslefrian.
Gan gael fy myd Cysta'l [~ cystal] 'd [~ nad] elwi fyth i 'r Castell
Ond oes yndda [~ ynof] 'i 'n ddi ochel gryn lawer o ddichell
Awn adre i 'n deuwedd rydwi 'n deallt,
Y gwnawn ni driniaeth ar dy frawd Rinallt

Exit.

Ifan.
Fy mam anwyl rwi 'n dymuned
Cymrwch amynedd yn ôl eich myned
I drin Rinallt ddrwg ei rôl
Dof ar eich ol. rhof chwaliad.
Peth mawr yw rhediad a Mawrhydi
Nid rhaid i ddedwydd ond ei eni,

[td. 25]
O lawenydd Ymma 'n lan
Adroddaf gân, Sydd genny.

CAN ar Rodney.

Wrth weled y gwaith hylwydd,
Sy 'n digwydd i bob dyn,
Mae Offeiriadau mewn hoff rydyd [~ ryddid]
A gwynfyd mwy nag un.
'D oes un Gelfyddud foddus
Mor barchus yn y byd;
Nag ysgafnach drwy naws gefnog
O fraint ariannog fryd
Yr holl gwbl ddwbl ddiben
'Madrodd [~ Ymadrodd] dewrllais medru darllen
Hawdd i ni rhag poeni 'n pennau
Brynnu 'n gwaethaf o bregethau
Cawn o 'r goreu gyrre'dd [~ gyrraedd], Anrhydedd parch a rhôl
Gyda 'g Arian gwiwdeg yrriad
Gwneir 'ffeiriad [~ offeiriad] o ddyn ffôl.
Rhaid bod Ustus bwriad ystyr
'Chounsellors [~ A Chounsellors] enwog a chlau Synnwyr
A chyfraithwyr chwerw frathiad
Yn llawn dichell a bradychiad
A'u trinniad yn Taranu
Er hynny gwneir mewn rhôl,
Gyda 'g Arian gwiwdeg yrriad, &c.
Rhaid i bob dull by'woliaeth
Sy ngalwedigaeth [~ yng ngalwedigaeth] dyn,
Gym'rud [~ gymryd] trwbwl fanwl fynych,
I edrych atto 'i hun,
Nineu, Sydd a 'n Honor's
Yn rhychors [~ rhychwrs] i bob rhai,
A'r plwyfolion yn trafaelio,
I 'n tendio ni yn ein tai,
Ni all Brenhinoedd Wiwfodd Afe'l [~ afael],
Na Bon'ddigion [~ boneddigion] byw 'n ddiogel,
Nag un a welir gan ei Alwad
Fael presennol fel Personiaid
Rhaid i bob deiliaid Wylio
A rhwyfo 'n gàll eu rhôl,
Ond gyda 'g arian gwiwdeg yriad, &c.

[td. 26]
Arian ydyw 'r wawr hynodol
Gyda 'r Esgob gwedi 'r ysgol
Groeg a Ladin Gwr goludog
A'i Ogoniant yw ei geniog [~ geiniog]
Ardderchog yw 'r Cywaethog
A rhywiog y gwneir hèl,
Gyda 'g Arian gwiwdeg yrriad
Y ffyliaid yn Wyr ffèl.

Entr Sir Tom Tell Tro'th.
Wel ni wnaeth y diawl na 'i deulu,
Erioed Amgenach canu
Roedd Gogoniant Uffern yn ddigon têg,
Megis o'i gêg, e'n mygu.

Offeiriad.
Who are you the bold face rogue?

Tom.
Nid y'ch chwitheu Wr clen pe tynnid eich clog.

Offeiriad.
Doant talk to me, thou dirty Snap.

Tom.
O! nid pob ffwl Sy 'n Cyredd Cap.

Offeiriad.
I am a Clergyman of the Church.

Tom.
Onid oes i chwi lwc fe roi'r i chwi lurch.

Offeiriad.
What is the lurch shall come to my onor?

Tom.
Siaredwch Gymraeg mi ddweuda 'i chwi ragor.

Offeiriad.
Beth rwyt yn pygwth [~ bygwth] arna I mor pigog?

Tom.
Am na fydde ynnoch rinwedd a chwitho [~ chwithau] 'n wr enwog.

Offeiriad.
Pa rinwedd Sy 'n eisiau os gwna 'i fy nyledswydd.

Tom.
Ni cheir Cywion o Wyddau lle fo ddrwg Ceiliagwydd,
Na dim llwyddiant byth o'r praidd,
A'r bugailiwr yn flaidd, digwilydd [~ digywilydd].

Offeiriad.
Ond ydyw n bugailio 'n ol 'r arfer gyffredin?

Tom.
Manylach bryd cneifio nag hyd eu Cynnefin,
I ddangos y ffordd rhag myn'd [~ mynd] yn Sied,
A ddyla'i ddef'ed [~ ddefaid], ddilyn.

Offeiriad.
Pa beth a ddangoswn yn rhagor na ddarlla'in [~ ddarllen].

Tom.
Rhoi peth Esampl da yn eich bywyd eich hunain

[td. 27]
Pe bae 'r defaid yn adnabod eich llais chwi beth
Yn lanwaith, hwy 'ch dilynen.

Offeiri.
I b'le y dilynant hwy Ni, heblaw 'n gwrando.

Tom.
I'r Dafarn yn eu ffoledd neu Hela neu ffowlio
Ond mae 'r byd yn o Shiarp nid pob di sens
All gym'ryd [~ gymryd] Lisence, Gameio.

Offeiriad.
Mae genym ni orchwyl rheittiach ei berchi.

Tom.
Oes pe galynech ffordd y goleuni,
Ond eich gwaith ydyw meddwi a Hwrio am wn I,
A'm eich degwm, a chyscu, a diogi.
Mae 'ch Curph chwi 'n cyredd byd ar goreu
Ond bywoliaeth anedwydd Sy ar lawer o Enaidieu
Heb gael gennych chwi er maint eich tâl,
Ond un prud Sal, y Sulieu.
A hwnnw 'n afiachus yn wir fynycha
'Ran [~ o ran] wrth bregethu y byddwch chwi gwaetha
Fel pe rhoid y deillion i farnu drwy'r wlad
Liw 'r brethyn neu 'r dillad, britha.

Offeiriad.
Rwyt yn barnu personiaid ond yw pawb yn Synnu.

Exit.

Tom.
Mae 'r gwir yn gyhoeddus gwae 'r sawl Sy 'n ei haeddu
Ond am y rhai llesawl ymhob llan
Mae bendith yn rhan, y rheinny.
Nid oes un i 'w ga'mol [~ ganmol] na 'i berchi 'n gymmwys,
O flaen Efyngylaidd weinidog Eglwys
Nag un fwy felldith na hwnnw 'n fyw,
Oni fydd Duw, 'n ei dywys.
Dyna 'r Gwattwarwr Sydd yn tarrio,
Yn Stol [~ Ystol] y gwattwor erioed ag etto,
Ac efe yw 'r lleidr erchyll hawl
Mwyaf mae 'r diawl, yn dèlio.
Sônnir fod Herod yn ddyn milainig
Ni wnaeth ond gogleisio wrth rai Gwyr Eglwysig
Sy 'n 'Sglyfaethu [~ Ysglyfaethu] wrth eu pleser Ddegymeu 'r plwy
Ar Enaidiau Sydd fwy, enwedig.
Oni bae fod llawer yn pregethu ag yn llywio,
Yn Onestach na Phersoniaid ni fydde'i wiw Swnio,

[td. 28]
Mae arnai bron chwant yn hyn o fan,
Bregethu fy hunan; heno.
Mae gennyf i 'w feddwl dext cyfaddas
Ynghylch godineb mewn Gwlad a Dinas
Trwy 'r hyn mae diawl ynghalon dyn
Yn taflu gwenwyn; gwnnias [~ gwenias].
Gwrandawed Ifieingctid [~ ieuenctid] hoywedd
Ac hefyd Gwyr a gwragedd
Mae bawb groeso 'n gryf a gwan
I dderbyn rhan, o'i rhinwedd.

CAN ar Qupid's Dream, neu freuddwyd ar ei hyd

Rhowch Osteg Ifieingctid [~ ieuenctid] a diwyd Wrandewch,
A chwitheu rhai prïod naws hynod neshewch,
Naturiaeth nwy taeraidd Sy 'n llygraidd ei llun
Drwg 'n gwyniau drygioni 'n berwi 'mhob [~ ym mhob] un,
Mae 'Siamplau [~ Esiamplau] 'r hyd gwledydd. beynydd yn ddi ball
Yn dangos yn gyffredin, mae gerwin ydyw 'r gwall
Gan mor fall amryw fûn,
I wrthsefyll hen ffassiwn temptassiwn cnawd dyn.
Truenus mewn Ifieingctid [~ ieuenctid]
Yw 'r gwendid hwn ar goedd
Pair wradwydd mewn prïodas
Mwy atcas ymma oedd
Garwa bloedd, gwyr a blys,
Neu wragedd rhywiogaidd dan lygraidd di lys.
Mae rhwymau prïodas yn urddas fwynhâd,
O 'r Eglwys Oreuglod Mêr hynod mawrhad
Ond anian godineb gwrthwyneb gerth yw,
Ffïaidddra C'wilyddus [~ cywilyddus] anfoddus i fyw,
Pa'm [~ paham] rhaid i wr prïodol
Ymorol am ddim mwy
Un ddynes fo 'n ddiana wasnaetha 'n eitha nwy.
Ni roed dwy, 'n rhaid dyn,
Iawn ran un ar unwaith Sy be'rffaith [~ berffaith] bob un,
Un Gwr yn anrhydeddus
Lewyrchus barchus ben,
Un Wraig, un Corph prïodol
Da siriol gnawd di sen.

[td. 29]
Un asen wen, gynnesa 'n wir,
Ymysgaroedd ei phrïod di anglod ar dir.
Mae felly gyfeilliach da olliach rhwng dau.
A gario drwy gariad wiw rwymiad yr Iau,
Ond Gwr lle bo gordderch i 'w draserch ar droed,
Ni ddaeth ond y felldith o Ragrith erioed
A gwraig lle bo gair egwan am wantan fuan fai,
Pwy gynnwys fwy drygioni,
Trueni mawr di drai
A phwy Sai [~ Saif], mor hoff yn Siwr,
Ag anwyl Wraig ddirwest fo gonest i 'w gwr.
Gwych hefyd yw Merch Iffangc [~ ifanc]
Na allo un llangc mewn llid
Dd'weud [~ ddywedud] unwaith air am dani
Yn grôch i beri gwrid
Gwyn ei fyd, y gain wiw ferch
A gadwo ddiweirdeb Cysondeb eu serch.
Fe ddylid byw 'n ddilus Ofalus ddi feth;
Mae 'r cythraul yn gweithio neu 'n pwytho 'mhob [~ ym mhob] peth,
Rhwng Mab a Merch Ifangc mae grafangc [~ ei grafangc] e 'n grych,
Rhwng gwr a gwraig briod oer drallod yw 'r drych,
Y pechod hwn Sy 'n tynnu
I lygru aml un,
Mae lledrad mewn anlladrwydd,
A chelwydd Afiach Wyn,
A llawer llun, llywio a lladd,
Mae 'r pechod yn awchlym a grym o bob gradd
A rhaid er mwyn anrhydedd,
Trugaredd am bob gwâll,
I ddyn gael gweled gwaelaidd
Ei lygraidd fuchedd fall,
Troi ni âll; y truan dwys,
Heb nabod Oddi'chod [~ oddi uchod] ei bechod yn bwys.

I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section