Adran o’r blaen
Previous section


O briffyrdd Brenhinol yr ynys


Dyfnwal moel mvd y brenhin kyntaf a wisgodd koron
avr o 'r brytaniaid / ac a ordeiniodd kyfraith
ynys brydain ymysc y brytaniaid / Ac a ganhiadodd
vddvnt ragorfraint i temlau / ar erydr / ar
priffyrdd i 'r dinessydd a bod noddva yno i bawb er
maint a wnelai o ddrwc — 
Ac wedi hynny gan
nad oedd y ffyrdd hynn gwedir dervynv yn gydnabyddy[s]
y tyvodd ymrysson pa rai oeddynt / ac am hynny
I dori pob kyfryw bettrvster ac ymrysson / Ef a
wnaeth beli vab dyfnwal bedair priffordd frenhinol
drwy holl ynys brydain ac a gadarnhaodd
y braint ar noddvae a roessai i dad uddunt —

Kyntaf a mwyaf onaddvnt a elwir ffossa a hono
Sydd yn estyn o 'r deav i 'r gogledd / a 'i dechrav Sydd
ynghongl [~ yng nghongl ] kernyw gerllaw totnes / ac yn diweddv
ymor [~ ym mor ] kadnes yr hwnn a Elwir werydd o gymraec


[td. 13]
Eraill a ddywaid i bod hi yn dechrav ynghernyw [~ yng Nghernyw ]
ac yn dyvod drwy ddyfnaint / a thrwy wlad yr haf /
a heblaw tewkysbvri / ac vwchlaw mynydd
kotysswold a heblaw kwyntri hyd yn laessedr ac oddyno
Rrwng y gogledd a 'r dwyrain Eithr mwyaf
yn pwysso i 'r dwyrain hyd yn linkol —

A 'r ail ffordd a elwir watling ystryd yr honn Sydd
yn myned ar draws y llall: ac yn dechrav lle gelwir
dofr / ac oddyno yn dyvod drwy ganol kent / A thrwy
demys o 'r tu gorllewin i ddinas llvndain / ac oddyno
gerllaw y verolam / yr honn a elwir heddiw ssaint
albons / a thrwy ddwnstabyl / ac ystonistredffordd /
A thowssedr / a widyn / Ac o 'r tv deav i lilbwrn / a thrwy
adroston / a man drefi Eraill hyd ymynydd [~ ym mynydd ] gilbert
/ Yr hwnn a elwir heddiw Moel y wrek /
ac oddyno drwy avon hafren ger llaw hendref
wroksedr dwy villtir o amwythic hyd yn ystrad
tuniaid / ac oddyno drwy ganol kymru hyd yngrredigion
[~ yng Ngheredigion ] ac ymor [~ ym mor ] ywerddon i tervyna —

A 'r drydedd ffordd a elwir Erming a honno
Sydd yn dechrav ymynyw [~ ym Mynyw ] ac yn tervynv
ymhorth hamon [~ ym Mhorth Hamon ] y dref a elwir heddiw ssowthhamton
 
A 'r bedwaredd ffordd a elwir Rriknell
a honno Sydd hevyd yn dechrav ymynyw [~ ym Mynyw ] ac
oddyno drwy gymru hyd gaer wrangon / a thrwy
Wikwm / a brimssiam / a lidsffild / a derbi / a ssiestrffild
/ a Iork / hyd yn Aber tain ac yno i tervyna


[td. 14]


Y prif avonydd penaf


Tair prif avon y ssydd yn yr ynys honn yn estynv
ar I hyd megis tri braich o 'r mor / Ac ar i hyd
hwyntav y devant y kyfnewidiav i 'r ynys drwy vordwy
gan bob rryw genedl o wledydd ac ynyssoedd erai[ll]
nid amgen temys / a havren / a hwmyr / —

Temys ssydd yn dyvod o 'r ddayar gerllaw tewksbri
ac oddyno yn rredec yn wyrdraws weithie tua 'r
dwyrain weithiav tua 'r gorllewin weithiav
tua 'r gogledd / a 'r avon honn Sydd yn dyvod drwy rydychen
/ ac oddyno tva 'r deav hyd yn abyntwn / ac
I reding / Ac i hennley / ac Winssor / ac i gingstwn /
ac i lundain / ac yn Sandwits y tery yn y mor /
yr afon honn oedd gynt yn tervynv rrwng brenhinaethav
kent / Estssex / Westssex / a Mers / —

Hafren a gavas I henw ar ol hafren verch lokrinys
vab brvtus o essyllt i ordderch yr honn a beris
gwenddolav gwraic lokrinvs i boddi yn yr afon honn
Ac a orchmynodd drwy 'r ynys alw yr avon ar ol
henw y verch yn hafren kanys hi a vynai ddwyn ar
gof i henw hi yn dra gwyddol achos i bod yn verch
I 'w gwr priod o ordderch / a 'r afon honn Sydd yn kodi
o vynydd pumlvmon / Ac oddyno yn rredec drwy
arwystli / a chydewen / a ffywys / hyd yn ymwythic
ac yn amgylchynv y dref hayachen o bob tu / ac oddyno
yn troi tva 'r deav / ac ymynd [~ yn mynd ] drwy brids ynorth
a thrwy gaer frangon / a chaer loyw / ac yn ymyl brysto
yn taro yn y mor / yr afon honn oedd gynt yn tervynv rrwng
kymru a lloegr —


[td. 15]
HWmyr brenhin hunawc a ddoeth gynt i 'r alban
i dir a llu mawr gantaw ac a laddodd albanactws ap brtus / a phan
giglev / locrinvs / a chamber hynny: Hwynt a ddoethant
I ymladd ac Ef ac a 'i gyrassant i 'r afon i 'w voddi
Ac velly y kavas i henw / ac o hynny allan y galwed hi
Humur / yr avon honn gynt oedd derfyn rrwng lloegr
a 'r alban / ac afon vawr yw a mwy o lawer achos bod afon
a elwir / trent / ac afon arall / aws yr honn y sydd yn
myned drwy dref / iork ac yn rredec iddi —


O brif ddinessydd yr ynys


Gynt yr oedd wyth ar hugaint o brif ddinessydd yn teghav [~ tecáu ]
yr ynys honn / a rrai onaddunt a ddiwreiddiwyd ac a
ddifawyd / Eraill ynt gyfan a chyfanedd a chestyll kedyrn
a muroedd yn i hamgylchynv / ac arnvnt byrth kloedic
Rrac twyll a Rrvthr gelynion / ac o vewn y dinessydd hynn y mae temlav
Saint ac yr oedd manachlogvdd ac yn y rrai hynny
kwfenoedd krefyddvs o wyr a gwragedd yn talu gwassanaeth
i ddvw herwydd kristynogawl ddeddf a ffydd ac arfer
A hwynt a Elwid val hynn yn iaith frytanec / Kaer lvdd
Kaer Efrawc Kaer gaint Kaer frangon Kaer loyw Kaer
Vuddai Kaer golyn Kaer lyr Kaer rentei / Kaer wynt
Kaer lleon Kaer lil Kaer beris Kaer dorm Kaer grant
Kaer lwydgoed Kaer ssegent Kaer vaddon Kaer baladr Kaer
Septron Kaer gynan Kaer alklvd Kaer exon Kaer Rraw
Kaer garadawc Kaer llion ar wysc Kaer vyrddin Kaer
wair
Ac am vod yr henwav hynn yn anysbys i lawer
gweddvs yw ysbyssu ac egluraw yr henwau sydd
arnunt yn yr oes honn Kaer lvdd a elwir llundain

[td. 16]
Ac brvtvs y brenhin kyntaf o 'r brytaniaid
a 'i hadeilodd hi ar lann avon demys o 'r
tu gogledd iddi ac a 'i gelwis Troya newydd i ddwyn ar
gof Troya vawr yr honn a ddistrywessid y drydedd oes o 'r by[d]
yr amsser yr oedd heli Effeiriad yn frowdwr yn yr ysrae[l]
ac ydd oedd arch ystifn ynghaethiwed [~ yng nghaethiwed ] y ffilyste weisson
ynghylch trvgain mlynedd gwedi distrywedigaeth (kaer droya / dwyvil
o flynyddodd a mwy kyn dyvod krist ynghnawd [~ yng nghnawd ] / ac ychwanec i IIII [C]
mlynedd kyn adeilad Kaer Rufain / ar henw vchod
a drigodd arnei hyd pan wnaeth lludd vab beli mawr gaerav
a ffyrth arnei / ac yna y peris Ef i galw Kaer ludd / ac
o 'r achos honn y bu gynddrygedd mawr y rryngtho a nyniaw
I frawd am newidio henw y dref o vewn i gyvoeth a gwedi goresgyn o 'r saeson yr ynys y galwed hi llvndain 
Membyr ap Madoc ap locrinus a vu frenhin kadarn
ac a wnaeth dinas anrrydeddvs ar lann tain yn y lle kad
kanol yr ynys ac a 'i gelwis o 'i henw i hvn (kaer Vymbyr /
ac a Elwir heddiw rrydychen
Efroc kadarn y pvmed brenin o 'r brytanied a vu frenin
anrrydeddys ac a wnaeth dinas kadarn ar lan avon ow[s]
yn y gogledd ac a 'i gelwis o 'i henw i hvn Kaer Efroc / ac
a Elwir heddiw Iork / a hwnw a elwid efroc kadarn vab
mymbyr ac iddo i bu XXX o verched / ac XX o veibion
a 'r rrai hynny aethant oll I Siermania Eithr un mab a vu
yn kadw y dyrnas a hwnw a elwid bruttvs darian la[s]
a hwnw vu frenhin kadarn ar holl ynys brydain ac a
a wnaeth / kaer a chastell yn y gogledd ar lan avon alklvd
ac a 'i gelwis / kaer alklud / ac a Elwid wedi hyny kasst[ell]
y morynion — 
Ac yn ol brvttus darian las y kymerth
lleon I vab lywodraeth y dyrnas ac a 'i gwladychodd
yn hir o amser yn heddwch dangnafeddvs [~ dangnefeddus ] / ac Ef a wnae[th]
dinas yn y gogledd i 'r ynys / ar lan afon dyfrdwy ac a 'i gelwis o 'i henw i hvn

[td. 21]
Kaer lleon / a 'r henw hwnw a drigodd ar y dinas Er hyny
hyd heddiw / Eraill a ddywaid na wyddis pwy a 'i gwnaeth
megis y dywedir yn eglvrach rrac llaw yn ol ystoriawyr

Kaer alklvd vchod medd rrai a Elwir heddiw bwrtham
yn eithafoedd gogledd westmyrlond gerllaw hwmyrlond ar
avon Edyn / a Rrac maint y golwc ar yr hen vuroedd a 'r
kloddiav ac ol yr hen adailadav a vuant yno gynt / ac
am hyny barned darlleodrion beth a ddyweter am gaer alklvd

Kaer gaint a wnaeth Rrun baladr bras yr wythfed brenin
o 'r brytaniaid a hi a Elwir yn Saessnec kantyrbri / a 'r un
brenhin a wnaeth dav ddinas Eraill nid amgen kaer
wynt yr honn a Elwir heddiw Windssiestr / a chaer
baladr / neu Gaer sseptron / yr honn a Elwir heddiw S.iaftysbvri
lle dywedir bod yr Eryr yn proffwydo pann oeddid yn adeilad
y gaer
Bleiddvdd nigyrmansswr ap Rrvn a wnaeth dinas ar lan afon vaddon ac gaer
vaddon / yr honn a Elwir heddiw y Badd / ac
wnaeth ynthi yr Enaint twymyn a wna lles I
ddynion Rrac llawer o bethav heinys / ac am darddu
yn anwedic tros y ddolen att lyr mab bleiddydd 
Kaer loyw a wnaeth gloyw kassar amherodr
rrvfain pann briodes Gweirydd brenin y brytaniaid
/ gwenissa I verch Ef / ar afon hafren ynherfyn [~ yn nherfyn ] kymry
a lloegr / ac ar yr un dref y rroed henw Seissnic nid
amgen / glossedr / ac ar yr un afon mae tref a Elwir
Pengwern / ac a Elwir heddiw Amwythic —

Linkol Elwid gynt / kaer lwydkoed / ac nid ysbys
pwy a 'i gwnaeth na llawer o ddinessydd Eraill / Er
bod kwrache [~ cyrachau ] kymreic yn ddiwarant o lyfrav ystoriawyr
yn dywedvd pannyw brenhinedd y brytaniaid a 'i gwnaeth
ni chair dim o hynny yn y brud nac mewn
ystoriae Eraill gwarantedic o 'r byd —


[td. 22]
Kaer Lyr adeilodd llyr ap bleiddvdd y degved brenhin
o 'r brytaniaid / ac a 'i gelwis o 'i henw I hun kaer lyr yr honn
a Elwir heddiw / laessedr Kaer lleon adeilwyd ar
afon ddyfdwy ynhervyn [~ yn nherfyn ] kymru a lloegr ac a oedd gynt yn
benaf tref Gwynedd / a lleon ap brvtus darian las a 'i hadeilodd
herwydd a ddywaid y brud kymreic mal i dywetpwyd vchod
Eissioes ystoriawyr Eraill a ddywaid na wys pwy a 'i gwnaeth
hi / ac mae leil I gelwid mab brvtus darian las ac nid
lleon / ac adeilad o hono Ef ddinas mawr yn y gogledd i 'r ynys
a 'i galw o 'i henw i hun kaer leil / ac velly y gelwir Ettwa

Beli vab dyfnwal adeilodd dref ar avon Wysc / ac a elwid Kaer
llion ar wysc ac un o 'r dinessydd Enwokaf yn yr ynys oedd
ac yno ydd oedd arch Esgopty holl gymru
Myrdd o wyr
adeilassant dref yneav [~ yn neau ] kymry / ac am hyny y gelwir hi Kaer
Vyrddin Kaer Frangon a Elwir yn Saessnec wssedr kaer
wair a Elwir / warwic Kaer vuddai yw Syssiestr Kaer
golun / y kolssiestr Kaer rentei a Elwir / Sidssistr
Kaer lyr a elwir laysetr Kaer lleon a Elwir / ssiestr Kaer beris yw / porssiestr
Kaer dorm yw / dorssiestr Kaer grant yw / kambrids
Kaer Segent yw / Silssetr / a 'r dref hon oedd ar afon
demys ger llaw redin Kaer gynan a Elwir / koynysbwrw
Kaer Exon a Elwir / Exedr Kaer raw yw / Rodssiestr
Kaer garadawc / ne gaer Sallawc yw / Salsbri —


Gwledydd a Siroedd yr ynys


Gwedi goressgyn o 'r ssaesson holl loegr a gyru y brytaniaid
drwy hafren I gymrv / hwynt a 'i rranassant hi yn ssiroedd neu

[td. 23]
Swyddav / ac ordeinio Siryfiaid a Swyddogion ymhob
Sir I lywodraethv y bobyl dan gyfraith / ac i atteb i 'r
brenhinedd o 'i dled a 'i kyllidav / ac val hynn I gelwir hwynt
Kent / Sowth rey Sowthsex / hamssir / Dyfnaint / barkssir /
Wildsir / Swmyrsedsir / dorsedssir Estssex mydylsex
Sowthffolk Northffolk / Swydd herffort / Swydd betffort /
Swydd hwntington / Swydd north hamtwn /S/ notingham / a /S/ bwkingam /S/ laessedr /
/S/ dderbi /S/ lingkol /S/ gambrids /S/ Iork /S/ longkastr
northwmbyrlond / wesbyrlond / Swydd rydychen /
Swydd warwic /S/ gaer loyw / Swydd henffordd /
/S/ gaer frangon /S/ y mwythic /S/ Ystaffort /S/
gaer lleon
A 'r rrai hyny I gyd a beris wiliam bastart
pan oresgynodd loegr: I messvraw yn llogav Erydr
ac Ef a gad o Siroedd yn y dyrnas / bymthec ar hvgaint
ac o drefi devddengmil a deugaint a phedwar vgaintref /
ac o eglwyssi plwyf / bvm mil a devgeinmil a dwy / ac
o ffye marchogion / trvgeinmil a phymthec / ac o hyny
mae gwedi rroi wrth Eglwyssi a manachlogydd kynn
gwahardd drwy barlment roi tri i law varw / wythmil
ar hvgaint a ffymthec / ac o hyny y gwnaeth yr un
Wiliam lyfr Mawr a Elwir dwmeysday —


Kyfreithiav yr ynys bellach


Dyfnwal a roes gyfraith i 'r brytaniaid / a breinie
i 'r temlav a 'r Erydr / a 'r dinessydd / a 'r priffyrdd brenhinawl
a ddywedpwyd vchod / a 'r gyfraith honn a vu Enwoc
a hynod gann bawb hyd yn amsser william bastart gwedi
dyfnwal marssia frenhines gwraic kyhelyn frenhin

[td. 24]
a wnaeth gyfraith gyflawn o ddoethineb a chyfiownder
yr honn a Elwir kyfraith marssia a 'r ddwy gyfraith
hynn a droes (gildas ap kaw o fryttanec yn lladin ac
wyth o Siroedd lloegr a vuant yn i chadw yn hir o
amsseroedd nid amgen / Swydd rydychen Swydd
warwic Swydd gaerfrangon /S/ gaer loyw /S/ henffordd
S/wydd ymwythic S/ ystafford a Swydd gaer lleon

Gwedi hyny alfryd frenhin lloegr a droes y kyfreithiav
hyn o ladin yn Saessnec ac a 'i gelwis mardssin law / ac
Ef a chwanegodd y gyfraith honn gwedi hynny / ac Ef
a 'i gelwis West saxonlex / a naw o Siroedd vuant yn
i chynal nid amgen kent / Sowth rei / Sowthssex / Hamsir /
dyfnaint / barkssir / wildssir / Swmyrsedsir / yr honn
a Elwir gwlad yr haf / a dorsedsir /
A phann
gavas gwyr denmark veddiant ar loegr hwynt a wnaethant
gyfraith arall yr honn a elwir danlex / a XVIII
o Siroedd a vuant yn i chynal nid amgen Estssex / mydylsex
/ Northffolk / Sowthffolk / Swydd hertffort / Swydd
betffort / Swydd gambrids / Swydd hwntington / Swydd
North hamton / Swydd bwkingam / Swydd laessedr / Swydd
notingam /S/ dderbi /S/ linkol /S/ Iork /S/ longkastr
S/ North hwmbyrlont / a wesbyrlond / A phwy bynac
a vyno deall y geirie dieithr Estronawl o 'r gyfraith honn
nid amgen Sok sag In ffangthe / off hamssok /
leirwyth / Sei ffebyrdssie / fflem / ffrith / fforstal ar
vath hyny a gair yn amyl mewn hen Siartryssav arglwyddiaethav
manachlogydd a dinessydd a threfi Seissnic
breiniol Edryched yr unved kabidwl ar bymthec

[td. 25]
ar hugaint o 'r llyfr kyntaf yn y polikronika ac yno I gwyl

Gwedi hynny y gwnaeth Saint Edwart y brenhin
diwaethaf onid vn o 'r Saesson: un gyfraith gyffredin
o 'r tair kyfraith vchod a hono a Elwir kyfraith saint Edwart

I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section