Adran o’r blaen
Previous section


[llyma ymddiddan yr enaid a'r korff, Caerdydd 6, 101–106. ]


llyma ymddiddan yr enaid a 'r korff


y korff yn dwydvd
Henffych well foneddigion
gwyr a gwragedd a meibion
a hefvd pob rryw ddynion
i chwchwi i doyda
mi a ddoythvm hyd yma
o herwydd fy mod yn ddoetha

[td. 102]
dyfod i rwy i 'ch rrybiddio [~ rhybuddio]
pawb a 'r sydd yma 'n gwrando
er mwyn duw i neb na ddigio
bid pawb onochi [~ ohonoch chwi] 'n ysbys
ar ymddiddan gwr kamweddvs
a fv gynt yn rryfygvs
Mowredd rryfig ar dda
balch iawn ag ysmala
tra fvm yn y byd yma
Mae fy ysbrvd i 'n kerdded
a 'm korff meawn bedd kayed
ar hynt fo gaiff pawb fy ngweled
Melldigedig fo 'r fam a 'm dygodd
a 'r tad a 'm ynillodd [~ enillodd]
heddiw ni wyfi hyfryd

yr enaid yn twydvd [~ dywedyd]
Pwy a glowa fi mor grevlon
yn dwydvd ymadroddion
duw a wyr kysvr fy nghalon
rwyti yn esmwyth yn gorfedd
meawn bedd o saith droedfedd
er a naethosti [~ wnaethost ti] o gamwedd
nid wyfi 'n kael nos na dydd
am vt dori dy gred a 'th fedydd
haner awr drigo 'n llonvdd

y korff
Tydi oedd i 'm kell nos a dydd
er pen gefais gred a bedydd
gynyt [~ gennyt] ni chawn vn awr lonvdd

yr enaid
O gnawd brwnt melldigedig
arnad ni chawn vnawr ddiddig
na ffasc na gwyl arbenig

[td. 103]
ni roddvti pen ddele 'r tylawd
er krist i geisio kardawd
ni chaid na bwyd na diod

y korff
Tydi oedd arna fi 'n feistres
fal llawforwyn arglwyddes
i 'm harwain i nevthvr [~ wneuthur] afles

yr enaid
Pob rrvw ddyn a fo krevlon
fo ddowaid ymadroddion
wrth ywllvs [~ ewyllys] i galon

y korff
oddima [~ oddi yma] nad elwy fi o 'm gorfedd
er a nevthvm [~ wneuthum] i o gamwedd
ti a wnaeth bob kynddrygedd

ag ar hynt waeth [~ fe aeth] yr enaid oddiwrth y korff
Mihangel a maelodd [~ ymaelodd] yn yr enaid / a 'r kythrel a
maelodd [~ ymaelodd] yn yr enaid

Mihangel a ddowod
Kilia gythrel heibio
a dos ymhell oddiwrtho
beth i rwyt yn i holi iddo

y kythrel
Ni naethe [~ wnaethai] wedi eni
erioed ond yn gorchmynion ni
am hyny rraid imi ddeisyf

mihangel
O 'm golwg gythrel melldigedig
yn enw 'r tad kysegredig
mae arnad olwg ffyrnig
arnad ni bydd neb kyredig [~ caredig]

y kythrel
dowch yn es [~ nes]  y kythreiliaid
mae akw angel diriaid
rragom yn kadw 'r enaid

y kythrel
Pwy yw 'r vn a fai kyn howned [~ ehofned]

[td. 104]
arnom in [~ ein] tri a mynd a 'r ened
yn awr pe kaem i weled
bellach byddwn i smala [~ ysmala]
ar gael enaid y gwrda
er duw ni naeth [~ wnaeth] vn twrn da
byddwch lawen y kyfeillion
saeth a yscar fy nghalon
llyma fantais dda ddigon
yn 'y [~ fy] nghalon i bo 'r ffon
oni newch [~ wnewch] garn gystowkon [~ gostowcwn]
er hyn bawb yn fodlon

mihangel
I rwyfi yn gorchymyn yn ddiddig
yn enw 'r tad kysegredig
na neloch [~ wneloch] gam a 'r enaid gwirion
nes dowod ag ef garbron [~ gerbron]
mab duw yr ail person
a ddioddefodd dros enaid pob kristion

y kythrel
Nad el hvn ar fy llygaid
er a nelochi [~ wneloch chwi] o blaid
nes kael onofi [~ ohonof i] yr enaid

mihangel
fo gaiff pawb o wyr tre
ar hynt weled mawr wrthie [~ wyrthiau]

a chida hyny iesv a mair a ddoeth yno

Mair yn doydvd
er llafvr fy nwyfron
a 'r prvder a 'r dolvr krevlon
a ddioddefaisti ag a gefaisti yn dy galon
na fydd wrtho fo grevlon

Iesv
Chwi ellwch wybod yn ysbvs
oni bai fod yn gamweddvs
na byddwni 'n erbyn ych wllvs

Mair
dysyf [~ deisyf] i rwy wrth fy rraid
yn erbyn y kythreiliaid
yn y faentol bwyso 'r enaid
yfo [~ efo] ddowod weddie
ag a gymrodd ydifeirwch [~ edifeirwch] yn awr ange
ag a gafas dy gorff kysegredig dithe
drwy lan gyffes o 'r gene
dysyfv [~ deisyfu] i rwy fine
yn y faentol roi ymhydere [~ fy mhaderau]

[td. 105]
iesv
er a wnaeth erioed yn f' erbyn
tori 'r gyfraith a 'r deg gorchymyn
gan ych bod yn dost drosto 'n kalvn
kymerwchi o yn ddiwrafvn [~ ddiwarafun]

mair
Mihangel archangel o 'r nef
moes y faentol a 'r pydere [~ paderau]
a fv 'n pwyso 'r eneidie
bellach i rvm [~ yr ŷm] yn gobeitho
ple bynag i bo 'n treiglo
i rvmi [~ yr ŷm ni] 'n sikir ohono
llyma ddangos yn amlwg
i bawb y sy meawn golwg
trech gweithred dda na gweithred ddrwg

[td. 106]
Pawb a ddwyto gweddie
ag a gymro difeirwch [~ edifeirwch] yn awr ange
ag a gaffo gorff iesv grist drwy lan gyffes o 'r gene
nid a i enaid byth i 'r poene
a hefvd y sawl a roddo kardod
i 'r tylawd yn fwyd ne ddiod
fo a 'i kaiff i hvn dan amod

y korff
er i 'm henaid gael trigaredd
yma i bydda fi 'n gorfedd
ymhlith llyffaint a nadredd
mi a fvm gynt yn rryfygvs
a balch iawn a chamweddvs
heddiw mi a 'i gwn yn ysbys
llyma rybydd i bob kadarn
i ddechre fydd teg a gorwag yn hen llesc a gwan
myddylied [~ meddylied] pawb am grist a 'r farn

yr ange
pam i dwydi di hyny
kenhiadwr iesv wyfi
mae 'n rraid i bawb bryderv

y gwr kadarn
myn gwaed ryw nis predera
y neb a 'r nis gwelaf fi i weled
ble bynag i bwy 'n kerdded

ange
ange a ddaw 'n ddie rvw ddydd
i bawb a gaffas kred a bedydd
llyma ddigon o rybydd
llyma 'r amser i mado [~ ymado]
pob kadarn doed i wrando
rrag ofn i dduw ddigio
avr ag arian a thlyse
a ffob amriw [~ amryw] bethe
a ddwg yr enaid i 'r poene
onis gesyd i 'r ffordd ore
i 'r tlawd mwya i angenrreidie

y korff
llyma ddiwedd y chware
a duw a ro llywenydd [~ llawenydd] i chwithe
a ne [~ nef] tragwddol [~ tragwyddol] i 'r eneidie
amen


[ymddiddan y gwas ifangk a'r dryw, Caerdydd 6, 124–5. ]


ymddiddan y gwas ifangk a 'r dryw


[td. 124]
Val ir oeddwn i yn rrodio
ag yn ystyd [~ astud] fyfyrio
mi a glown fab o 'm gwlad
a 'i gariad wedi rwystro
o dyfelais i i fwriad
roedd gantho feddwl anllad
ag yn gofvn i 'r dryw bach
gyfrinach am i gariad

y mab
Y dryw bach o 'r berth fieri
dowaid wir vm os medri
a welaisti meawn vn wlad
fath gariad ag sy imi

y dryw
Mi a ddoeda vt yn ddirgel
i mae hi 'n ferch lan benvchel
er i bod hi 'n lan ag yn ffraeth
ni byddi waeth er i gochel

y mab
I gochel ni na [~ wnaf] finav
mae hi 'n gowir i geiriav
mae iddi galon gowir syth
nid rraid vm fyth i hamav

y dryw
er teked a fai 'r kleddav
a 'i lafn a 'i ddwrn a 'i groesav
galle dori yn y karn
yn ddwyddarn pen fo gorav

y mab
Taw a 'th siarad y dryw bach
erioed ni bv dy ffolach
gallwn dyngv ar draet tuw [~ Duw]
nad oes yn fyw i chwirach [~ chywirach]

y dryw
Chwi ellwch dyngv trosti
tra foch a 'ch golwg arni
keisiwch lw a fotho gwell
pen foch ymhell oddiwrthi

y mab
Y dryw bach taw a 'th chwedle
mae hi 'n gowir i geirie
a rrag teked geirie hon
hi a geiff 'y [~ fy] nghalon ine

y dryw
er teked yw i chwedle
mae i chalon yn llawn twylle
ef a ddoydai 'r henwyr gynt
nad oedd ond gwynt o 'i geiriav

y mab
mae peth arall ysy fwy
pale bynag ir elw [~ elwyf]
pen ymneidiwy ar liw 'r kan
hi a ddaw i 'r man i mynwy

y dryw

[td. 125]
pen fo 'r gwalch ar i hediad [~ ehediad]
yfo [~ efo] ddiscin yn wastad
ag a ddaw ar law y dyn
mwy rrag newyn na chariad

y mab
y dryw bach er a ddoydi
nid gwaeth i tidde [~ tithau] dewi
er a nel [~ wnel] na mab na merch
ni ddaw fy serch oddarni [~ oddi arni]

y dryw
pe gwypvt tithe 'n amlwg
faint i ffalsedd a 'i mowrddrwg
pe ni gwelvt pe bae i ti hap
tynvt dy gap dros d' olwg

y mab
y dryw bach taw a 'th boetri
mi a roddais 'y [~ fy] nghoel arni
pe kaffai dda yr holl sieb
ni charai neb ond myfi

y dryw
mae 'n dy garv yn fwya dyn
ar i gair a 'i mynydvn
a ffei gwypvt dwyll y ferch
ni thal i serch mo 'r gwelldyn

y mab
hi a 'mefyl [~ ymefyl] pen fyno
yn fy mwnwgl a 'i dwylo
a rroi kvsan ar fy min
a chwerthin pen i 'm gwelo

y dryw
mi a ddalia gynglwyst newydd
vn ne ddwy o 'm ydenydd [~ adenydd]
yn erbyn vn ddime bach
bydd kasach gynyt [~ gennyt] wenddydd

y mab
nos a dydd awr ag enyd
pen i gwelwy gwyn fy myd
a ffan ddelwy fi lle bo
ni ddaw i 'm ko [~ cof] mo 'r hollfyd

y dryw
i rwy fi yn tybiaid hefvd
pen ddelai wen lle byddvd
walle [~ efallai] myne ddeiliwr od
i bod ymhell oddiwrthvd

y mab
na ddowaiti mo hyny
nad ydiw yn fy ngharv
dyma fodrwy avr a roes
i 'm hoes nid a oddiwrthy

y dryw
pe rroddai vt y kwbwl
anodd yw deall meddwl
o chaiff le kyn pen y mis
hi a fyn y pris yn ddwbwl

y mab
y dryw bach taw a 'th faswedd
ni allai odde mo 'th ffoledd
rwyti 'n siarad wrth dy chwant
fo ddigie sant o 'r diwedd

[td. 126]
y dryw
Tewch a son ag na ddigiwch
mae hi 'n llawn o ddiffeithwch
o doydaf vt gelwydd byth
kymrwch fy nyth a lloscwch

y mab
echnos brevddwyd a welwn
ag yn llvnden i byddwn
hithe 'n wylo 'r dagre 'n dost
nid er bost ir adroddwn

y dryw
yngwrthwyneb [~ yng ngwrthwyneb] i ddynion
i daw yr holl fryddwydion [~ freuddwydion]
roedd hi 'n chwerthin yn deg i gwen
ag yn llawen ddigon

y mab
Y dryw bach taw a 'th drallod
mae 'n fy ngharv yn ormod
hi addawodd vmv hyn
na chae vn dyn mo 'n hathrod

y dryw
addawed hyn a fyno
ni na [~ wna] hi lai na 'th dwyllo
mi a orfedda [~ orweddaf] yn y tan poeth
pen gwiro [~ gywiro] gwen ddoeth i gaddo

y mab
mi a ro faglav ar y ddayar
ithal [~ i 'th ddal] ag i 'th roi yngharchar [~ yng ngharchar]
er a gerddais o goed a dail
ni welais d' ail na 'th gymar
rwyti 'n dechre fy nigio
am dy gelwydd ar weno
ffarwel iti y dryw bach
a dos yn iach dros heno

terfyn

I’r brig
Back to the top

Adran nesaf
Next section