PARSHCWL

The Parsed Historical Corpus of the Welsh Language

Mae Corpws Hanesyddol Parsedig yr Iaith Gymraeg (PARSHCWL) yn brosiect i greu corpws anodedig o destunau Cymraeg Canol a Chymraeg Diweddar Cynnar. Bydd testunau mewn nifer o fformatau (ffeiliau testun plaen, ffeiliau รข thagiau rhan ymadrodd a ffeiliau parsedig/dosranedig) yn cael eu darparu yn ystod y prosiect ar y wefan hon. Yn ogystal, bydd llawlyfr manwl yn cynnwys nodiadau amgodio ar gael yma i alluogi unrhyw ymchwilydd sy'n gweithio ar destunau Cymraeg hanesyddol i ychwanegu gwybodaeth morffolegol a chystrawennol at eu testunau, gan ychwanegu at y detholiad cynyddol o ddeunyddiau Cymraeg hanesyddol y gellir eu harchwilio yn electronig.

Os oes gennych ddiddordeb mewn defnyddio'r corpws ar gyfer eich hymchwil, mae gennym gyflwyniad lleyg, neu gyflwyniad mwy technegol i ymchwilwyr mewn meysydd tebyg yn amlinellu sut y cafodd y corpws ei lunio a'i anodi.

Newyddion

Bydd testunau newydd yn cael eu hychwanegu yn adran Testunau'r wefan hon yn ystod y prosiect.

Y testunau cyntaf fydd yn ymddangos yma yw chwedlau Cymraeg Canol y Mabinogi a'r testunau yn Llyfr yr Ancr o'r 14eg ganrif gydag anodiadau wedi'u cywiro gan Elena Parina a Raphael Sackmann.

Os ydych chi'n defnyddio ein corpws, dyfynnwch ein gwaith os gwelwch yn dda.