Huw Morys (?). Y Rhyfel Cartrefol, Cwrtmawr 42 (ar ôl 1660), testun cyflawn.


[td. 1]


Prolog

Dydd da fo ich 'r lan gynlleidfa,
hawddgar wreiddyn Riddyn Adda
a llin Gomer a nifer nwyfus,
jawn ddi brattio Eppil Bruttus.
I mae Langc a llances
Yn Cym'ryd Enw y frenhines
[...] gyflawni yr chware 'n jawn
[...]yn o gyflawn hanes
Pum, Esex a Brwx oedd dechre 'r RHyfel;
ag yno y daeth Harrishon ag Olifer Crwmwel.
Yn ol hyny fflittwd beniaeth boeth
a Hesalig ryboeth Rebel.
Ymhartti cyfiawnder daw 'r Genaral Jarad,
Prins Rubert a Maurice yn gowir drwy gariad,
a Genaral Mwngc, pob Cymro a 'i câr,
yn ddyddiwr ar ddiwediad.
Ynghanol y terfysc cewch weled 'r hwsmon
yn brydd ag 'n llidiog yn cwyno ei golledion
[........] y Comitti yn mynd [....] 'stôr
[...............]sequestrator creulon.
[.....................] ferch fonheddig ddi ball
[..........................]ol ei synwyr a 'i deall
[............................] frenhin dros y mor
[......................................]
[Dechrau darn a ychwanegwyd gan law 2.]
Mae un arall o 'r chwaryddion
yn cymryd henw aer y goron
i ddangos gaethed oedd i le
pan oedd o wrth dre Gaerangon [~ Gaerwrangon]
[Diwedd yr ychwanegiad.]
[td. 2]
I mae yma ferch arall yn cwyno rhag cariad;
Ciwpud a 'i saethodd dros Genaral Jarad.
Mae 'r consymsiwn dan ei bronn
yn barod llon ei llugad.
Daw amryw chwaryddion daith union doeth yma;
ni ddweydai i chwi rwan yn hynod mo 'i hennwa.
Os byddwch distawedd i glywed yn glir
a 'i gweled nhw ar dir golau.

Enter y Ffwl.
Myfi sydd yn dwad yn gynta
i gym'ryd meddiant yma.
Mi wela yma lawer o ferched glân;
ymdynu a wnân amdana.
Mi ddaethym heddyw o 'r Werddon [~ Iwerddon]
i ddywedyd i chwi newyddion.
Gelwch yma modrub mallt,
hi a fedr ddallt breuddwydion.
Mi welais neithiwr freuddwyd garw:
y gaseg lâs yn cym'ryd tarw
a 'r fuwch gôch a 'i phedair pedol
ymron marw yn bwrw ebol.
Myfi a welswn hefyd
gyw gwengci yn curro 'r barcud
ag a welwn ryw beth yn yr awŷr,
y dryw bâch yn llâdd yr eryr.
Os ydwi yn medru dallt hyn yma,
bydd rhyfeddod fawr y flwyddyn nesa.

[td. 3]
Ffwl
Cewch weled llawer o ffolineb
a 'r byd yn myned yn y gwrthwyneb.
Mi dybygwn wrth y mreuddwyd
fy mod i naill ai 'n ffŵl ai 'n brophwyd.

Enter Sais att y Ffwl.
Pwy sydd yma yn gledde
yn dywedyd gwers y bedlem gyne?
Os doi o hûd iw Scot neu Saisyn,
am ei gorwagedd mi a 'i gwna nhw 'n gregyn!

Sais
Pwy ydi 'r cnâ sy' yma 'n bostio?

Ffwl
Gweithiwr tylawd sy mynd i gloddio.

Sais
Ple mae dy arfe di, rôg diog?

Ffwl
Dyma fy rhaw; mi âf i geisio fy mattog.

: Allan Ffwl.

Entr Scot.

Scot
Ffordd rwydd i chwi 'r cyfarwydd fab Seisnig!

Sais
Ffordd rwydd i chwithe 'r gwr bonheddig!

Scot
Pa ryw newydd sydd y rwan?

Sais
Dim nid allai ddywedyd allan.
Mi a 'ch gwela chwi yn drafaeliwr ebrwydd.
Yn rhodd, dywedwch i mi newydd.

Scot
Gwell iw gwadu na dweud chwedel
rhag fy hŷdo am fy hoedel.

Sais
Chwi ellwch ddweyd y peth a fynoch
i mi yn weddol am a wyddoch.
Er gwell, er gwaeth, er drwg, er dâ,
ni chonfesiai byth i gna.

Scot
I mae fy nghalon i yn gwenwyno
wrth Arglwydd Debiti am fod yn swccrio

[td. 4]
Scot
pobri papist; os byddant byw,
ni styriwn i 'w distrywio.
Mi wn yn dda wrth bwy rwy 'n dywedyd.
A allai ymddiried i chwi am y mywyd?

Sais
Gellwch; gwisgwch y Gwyddel gwyllt
a 'r Cymro hoyw-wyllt hefyd.

Scot
Pa'r ffydd sy drecha ymysc Bruttaniaid?

Sais
Rhai Protistaniaid, rhai Pabistiaid,
ag i mae sect newydd ohonom ni
y elwir Purittaniaid.

Scot
Yr ydym ni 'r Scotiaid
y part mwya yn Buwrittaniaid.
Ni fedrwn dwyllo 'r Prottistant plaen
yn LLoegr o flaen ei llugaid.

Sais
Mae ohonom ni army lawer
a godant gyd'a chy'chwi yn LLoeger
i gosbi 'r ffuliad sydd ar fai.
Ni fwrdriwn rai ar fyrder.

Scot
FFarwel i Stafford a 'r Frenhines!
Nid ydynt hwy i 'n mysc ond di wres,
yn llochi 'r Pabistiaid i amlhâû
i seintiau a delwau di-les.

Sais
Pe gallen i ddisodli 'r rheini
a gwneythr diben ar ei harmi,
ni gosben y Cymru yn ddi-gêl
ag a wnaen i Wyddel weiddi.

[td. 5]
Scot
Par fodd i gallwn drwy ddichellion
ei dadwreiddio o dîr y Werddon?

Sais
Oni fedri, gâd i 'r Sais;
mae ynddo ddyfais ddigon.

Scot
Rwy 'n meddylio er ys dyddiau
pa'r fodd y mae i mi chware 'nghardiau.

Sais
Yn faleusus gwna dy bart;
cais ordro card i ddechreu.

Scot
Pe cawn y decc i 'm llaw i ddechre,
mi fyddwn perygl am y chware,
ond cael ei sifflo mewn jawn drefn,
a 'r brenin ar gefn y cardie.

Sais
Ni fynwn sifflo 'r decc yn filen
a 'i rhannu hefyd i ni ein hunen
nes cael unwaith dynu yn dêg
am un ar ddeg ar hugien [~ hugain].

Scot
Mae tair teyrnas Brenin Lloeger
wedi ei pesgi yn dew o fraster;
ag ynte yn drugarog jawn,
ei dwyllo a wnawn ar fyrder.

Sais
Rhaid ini fynd mewn gwisc clomennod [~ colomennod]
i wenheitho i 'n Brenhin hynod
a dal yn dynn i 'w herbyn hŵ
mor arw ag eryrod.

Scot
Nyni a ddechreuwn dynu 'meirie
ag a neidiwn o 'n peiriane.
Nyni ein dau a wnawn y plott;
myfi Scot a ddechre.

[td. 6]
Sais
Mine arhosa yn fywiog
peth gyda 'r ci, peth gyda 'r 'scyfarnog.
Mae yno i ffyrnigrwydd ffel
fy lloned fel y llwynog.

Scot

Sais
RHoi rhyw fesur o ddyfeisie
yn erbyn y Prottistan a 'r Pabistie.
Dros yr hatch, os bww a wna i,
mi a 'th wthia di a nhwythe.

Exit ôll.

Enter y Ffwl.
Ni bu 'n y byd erioed y fath gyffro!
Mae ynddo ryw rwystur mawr brysus i bresio.
A gai fynd, meinir, — ni ddygai rŷn [~ yr un] trais —
dan odre 'ch pais i ymguddio?
Diengwch, diengwch, y llangcie!
RHag eich gelynion cymrwch galone!
I mae fy nghalon i 'n llai na dîs,
ychydig îs na 'm glinie.
Pe cawn i fynd oddi yma i ryw le!
Mae 'r cwnstablied wrth fy sodle.
Os cai ddigon o le i ffoi,
ni fynai mo 'i pres-monie.
Wel daccw 'r cwnstablied, ai whw, ai whw!
Nid allai mo 'r diangc tros geunant mor arw.
Pa un ore i mi nol, meddwch chwi,
ai neidio a thorri 'ngwddw?

Enter Cwnstable.
Tewch a siarad, trowch yma, syre.
Na ddiengwch, os mynwch, hwdiwch bres-mone.

Ffwl
Mi ges gyne godwm maith
ag a dorais saith o 'm asenne.

[td. 7]
Cwnstable
Ni welai neb cyn ffittied
i fenttro yn galonog o flaen Scottied.

Ffwl
Nid iw fy nghalon i haner hu
er y mod i yn rhythu fy lluged.
Pwy a geidw fy mhlantos bychin [~ bychain]
os ai yn sawdwr dros y Brenin?

Cwnst
Pa sawl un o blant sydd i ti?
Fe geiff y plwy gadw y rheini.

Ffwl
Mae i mi naw, Huw a 'i bendithio,
rhai yn dechre cerdded, rhai yn dechre cropio;
nid ydynt fwy na chywion gwydde
na 'r hyna ond tair blwydd heno.

Cwns
Pwy all dy goelio? Peth iw dy gelwydd?

Ffwl
Mae i mi naw heb un fam a 'i gilydd
a 'r naw mam sydd iddynt yma
a rheini yn ferched o 'r gonesta.

Cwns
di a gest gryn drafferth yn ei ceisio.

Ffwl
Roedd cymdogion da yn fy helpio.

Cwns
Tyrd oddi yma, gwâs aflawen,
i gymryd arfe att y capten.

Ffwl
Ni ddoi yno ond o hŷd fy nhin.
Ni thalai i frenin frwynen.
FFarwel i chwi 'r holl ferched!
Criwch ag wylwch, ni chewch i fyth mo 'm gweled.
Och! ni chawn ryw goffor dofn
i lechu rhag ofn yr 'Scotied!

Exit y 2.

Enter y Gwyddel a 'r Cymro.

Gwyddel
Dydd da fo ichw [~ ichwi] y Cymro tawel.

Cymro
Dydd da fo i chwithe 'r Gwyddel.

Gwydde

Cymro

[td. 8]
Gwyddel
Pa ryw newydd sydd, y Cymro?

Cymro
I mae gofal mawr a chyffro,
a llawer gwr a llangc
yn diangc rhag ei bresio.

Gwyddel
Fe aeth yr armi i ffor [~ ffordd] er ys dyddie
i siwrnai hirfaith yn ei harfe,
ag i mae nhw heddyw yn y nôd
yn cyfarfod Lasle.
Nhw aethon ynghyd, wel dyna nhw 'n saethu.
Deliwch wrthynt hwy, Saeson a CHymru,
a gwnewch nad all un Scott
ddyfeisio plott ond hynny.

Cymro
Peth heb raid iw hyn o redfa?
Gwrês gwyr cadarn a 'i mawr draha
sydd yn dechre cynen câs
o anrheithio 'r deyrnas yma.

Gwyddel
Tewch, tewch, nid rhaid mo 'r gofalon
rhwng Gwyddelod, Cymru a Saeson.
Ni adawant un Scott yn fyw;
pwy safia 'r cyfryw ladron?

Cymro
Rwy 'n ofni fod rhai o 'r Saeson
yn ddauwynebog ag yn ffeilsion
fel y gwnaethont frwydr hyll
yn 'nhwyll y cyllyll hirion.

Gwyddel
Mae fy nghenedl i yn y Werddon
yr joed heb garu sôn am Saeson.

[td. 9]
Gwyddel

Tywyllodrus ydynt ymhob môdd
yn brathu fel nadrodd brithion.

Enter y Ffwl.
Pwy sydd yma mor ben uchel:
ai chwi 'r Cymro glân a 'r Gwyddel?

Cymro
Wyt ti yn rhodio a 'th draed yn rhydd?
Par newydd sydd o 'r fattel?

Ffwl
Battel fawr, nid battel fechan.
Fo ddarfu i mi ollwng un ergyd allan
ag a wneythim i Lasle ofyn nawdd,
do, 'n ddigon hawdd fy hunan.
Fe ddarfu iddynt hwy gyttuno:
fe gadd y sawdwyrs ei disbandio.
Hwy amcanasant yn y fattel
fy 'ngwneythr i 'n farchog mawr o ryfel.

[td. 10]
Cymro
Siwr ni byddynt ddim mor ddibris.
Gwilia yr Gwyddel sydd yn Bapis't [~ Bapist].

Ffwl
Rwy 'n dywedyd y gwir i ti, gnâ.
Cilia neu wna dy ddewis.
Awn i ymofyn pa ryw newyddion
sydd yn mysc y gwyr bon'ddigion.
I rwy 'n ofni, drwg iw 'r peth,
na cheir un gyfreth union.

Exit oll.

Enter y Brenin Jarls, Esex, Arglwydd Pum.

Esex
Henffych well, Frenhin! Mae Saeson a CHymru,
Yscodiad, Gwyddelod ei gyd wedi codi
i fynd i eiste ar hên 'stent
ar Barliament y foru.

Brenin
I rydwi 'n eich dewis, fy anwyl gar'digion [~ garedigion],
i settlio fy nhernas i a 'm achosion.
RHag digwydd amryfusedd maith
gwnewch gyfraith unwaith union.
Meddyliwch, meddyliwch, fy 'ngwir ddeiliad,
na wnewch gam dibwyll a neb rhu danbaid.
Gwnewch na bytho i 'r isel fri
yn rhoi arnoch i mo 'i ochenaid.
Sylfaenwch ych gwaith ar dduwiolder,
dilynwch linyn y cyfiawnder
er mwyn amddiffyn ffydd loyw lwŷs
lân eglur Eglwys Loeger.

Pum
A rowch chwi yr holl bower rhyngon
i eiste 'n llesol ar hyder 'wyllysion,

[td. 11]
Pum
a 'ch llaw ar sefyll fyth heb feth
ag wrth y peth a wnelon?

Brenin
Wel dyna gondisiwn anweddol; chwi a wyddoch
fy rhwymo i sefyll wrth bob peth a wneloch
rhag ofn digwydd bob rhyw ball
neu fai rhu angall rhyngoch.

Pum
Ni wnawn ni ddim ond a fo cyfaddas
er lleshant a daioni i 'r deyrnas
fel y gallo yn synwŷr ni
ych harddu chwi a 'ch urddas.

Brenin
Dan gondisiwn i chwi wneuthyr
pob rhyw fosiwn yn gymhesur
mi rô fy llaw i fod bob trô
i gŷdseinio a 'ch synwyr.

Esex a PHum
A 'r amod hwnw ni a eisteddwn;
a 'r tair teyrnas ni a 'i chwiliwn:
os bydd camwedd mewn un lle,
yn onest ni a 'i unionwn.

Exit y 2.

Brenin
Mae digon o synwyr yn eich penne.
O does cydwybod i 'w calonne,
gobeithio y rhônt bob peth dan sêl
yn deilwng fel y dyle.
Rwy 'n gweddio yn wastadol
ar i DDuw l'wyddo fy holl bobol,
planu doethineb yn ei mysc
yn llawn o addysc weddol.

Enter Ysbeier.
Cenad wy, Frenhin, oddiwrth y Parliament
i ddywedyd i chwi yr modd yr ydent

[td. 12]
Ysbeier
gwedi cuttuno a 'r holl cwmpeini
i dorri pen yr Arglwydd Debitti.

Brenin
Nid yw fy nghalon i yn cuttuno
mor ddi-anerch fwrw mono.

Ysbeier
Fo basiodd sentens ganthynt hwy;
nid ellir mwy mo 'i safio.

[Brenin]
I mae 'n ofud yn fy 'nghalon
golli Debitti bugail y Werddon.
O 'm nerth a 'm cryfder colles ddarn.
Nhw a wnaethont farn aghyfion.

Ysbeier
Mae geni Act o Barliament etto.
Edrychwch pa fodd yr ych i 'w leiccio.
Arglwydd y Pum a welai yn gyfaddas
i gasglu maleisia i 'r holl deyrnas
dan law Hotham i dre Hŵl:
wel dyna ei cwbwl bwrpas.

Brenin
A gyttunasont hwy ar hynny?

Ysbeier
Do, er gwaetha yr holl Gymru
hwy a 'ch codant chwi allan o 'r Tŵr Gwyn
drwy fwriad cyn y foru.

Brenin
Yn fy nghalon rydwi 'n ofni
ei bod mewn dichell i 'm bradychu.

Ysbeier
Pei cyflawnid 'wllys rhai,
ni wnaent hwy lai na hynny.
Mae geni waeth newyddion:
I mae nhw yn erbyn yr esgobion;
nhw a rônt gyfraith Lwydlo i lawr;
fo ddigia 'r mawr swyddogion.

[td. 13]
Ysbeier
Ni cheir darllen yn yr eglwysi
mo 'r Comon Prayer; mae 'n rhaid ei losgi.
Fe gollir ffrwyth 'scrythur bêr,
chwi wyddoch lawer gweddi.

Brenin
Os torant hwy i lawr fraint esgobion
a 'r Comon Prayer, ni awn yn ddeillion.
Ni bydd y trefi a 'r wlad ar lêd
ond fel anifeilied gwlldion [~ gwylltion].

Ysbeier
I mae nhw gwedi danfon armi
yn erbyn Gwyddelod sydd yn codi.
Crogi 'r Saeson ydi 'r swŷdd
am golli Arglwydd Debitti.

Bren
Pe basent hwy mor bur galonna
ag oedd hwnw yn ei feddylia,
ni base Brydain fawr ei bri
mi browes i mor bryche.

Ysbeier
Mae 'nhw yn ceisio, mawr ydi 'r andras,
droi y Frenhines allan o 'r deyrnas.
Mi wn ar frŷs mae hynny a wnân
os nhw a gân ei pwrpas.

Brenin
Yrwan rwy 'n dechre da'llt ei dichellion.
Ni wna'nhw lai na dwyn y nghoron.
Och, och! ai 'n eifr digrêd
yr aeth fy nefaid gwnion [~ gwynion]?
Ni safai byth dros golli mywyd
wrth ei cyfraith anferth ynfyd.
Attynt bellach, na naccewch,
yn ddidwyll ewch i ddywedyd.

Exit ysbeier.

Enter y Pum.
Ai nid ydech chwi yn bodloni

[td. 14]
Pum

i synwyr jeirll ag arglwyddi
i wneuthur ordor ar y byd
yn erbyn ynfyd bopri?

Brenin
Nid ydi weddus i mi ddiodde
oddiar y nghlyn ddwyn fy nghledde.
Os rhof i 'ch dwylo chwi fy ffon,
bydd siwr i 'm bronn gael briwie.
Dygaswn [~ Debygaswn] eich bod fel gwinwydd ffrwythlon
a wnai ddaioni i bob rhyw ddynion.
CHwith iw 'r sain, a chwithe sydd
fel cŵn o 'r gelldydd gwlldion [~ gwylltion].
Pa beth sydd rhyngoch a 'r esgobion
sŷ rhoi goleuni i bob rhyw ddeillion?
Wel dyna chwi yn dadwreiddio ffŷdd
a phob rhyw grefydd gryfion.

Pum
Peth bynnag a wnaethont, ni safwn wrtho.
I mae 'r holl bower yn ein dwylo.
Clôch heb dafod ydech chwi.
Fe ddarfu i ni guttuno
gore i chwi fod yn fodlon
rhag ych curo am eich coron.

Brenin
Pa 'n waeth i mi ei cholli hi yn eich mysc
na cholli dysc esgobion?

Pum
Ni chewch i nag esgob nag ofer weddiau.
Gwnewch ych gwaetha' a chwarewch eich cardiau!

Brenin
Onid iw fy oes i yn fer,
mi fynaf gyfiawnder finnau.

Pum
Dan ein dwylo ni mae 'r arfe.
Ni chwnwn [~ chwynnwn] Loegr cyn pen tridie.

Exit Pum.

[td. 15]
Enter y Frenhines.
Fy Mrenin parchedig a 'm gwr priodol,
fe aeth eich deiliaid chwi 'n gynhwynol.
Dywedwch i mi pa newyd sydd;
mi a 'ch gwela chwi yn brydd anianol.

Brenin
Gormod gorthrymder 'syweth sydd imi.
Nid oes obaith dim daioni:
yn y 'ngardd winwydden gain
fe dyfodd drain a drysni.
Hwy gawsent genad wrth ei gweniaith
genif i ddosbarthu 'r gyfraith,
a hwythe yn llosgi 'r Comon Prayer
ag yn gwneuthyr taêr dratturiaith.

Frenhine[s]
I ryd wi yn ymul torri nghalon [~ fy nghalon]
drosoch chwi fy Mrenhin ffyddlon.
Ewch i ffordd o 'i mysc ar frûs;
mae nhw yn gwerylus greulon.
Gyd'a nhw y mae 'r prentisiaid,
y trains-band mewn arfe tanbaid,
ag a 'i bwriad fore a hwŷr
ar ddal ar gywyr ddeiliaid.

Brenin
Gyda nhw mae 'r nerth a 'r gallu,
ag maent mewn dichell i 'm bradychu.
Mi âf i ffordd cyn colli gwaed
i geisio aed ei [~ i] Gymru.
FFarwel, ffarwel, fy mhêr winwydden!

Exit Brenin.

Frenhine[s]
FFarwel! Trwy jechyd etto yn llawen
ei deloch eilwaith yn eich ôl
mewn braint yn ol i Lundain.

[td. 16]
Frenhines
Ni wn i yn y byd i ba le 'r a fine
rhag ofn syrthio yn ei rhwyde.
I mae nhw yn wastad drwy ei hûd
yn gosod glûd a 'i magle.

Enter y Forwyn.
Dowch i ffordd i 'r wlâd i dario
i blâs rhyw jarll lle i caffon groeso
tan obeithio troi o rhôd
ar hyn o gafod heibio.

Enter y Ffwl.
Diengwch, diengwch, y Frenhines!
Amdanoch chwi ymofyn a glywes.

Frenhine
Awn i ffordd mewn dillad gwael
rhag iddynt gael ein hanes.

Exit y 3.

Enter Pedler.
Wel dyma le trefnus: mi osoda yma siop;
mi a 'i llenwa hi a lliain yn llawn hyd y top.
Colere; sidane; a 'm creie [~ careiau] fydd crair!
Ni welwn i hauach siop ffeindiach mewn ffair.

Enter Cobler.
Mi a wele yma gornel odiaeth
i mi osod sett o cobleriaeth.
Mi a gâf weithan dy gwmni di
yn hawddgar i gwmnhiaeth.

Pedler
A brynwch i 'r bechgin ddim pine a nydwydde [~ nodwyddau],
o fesul y dwsin y cardia na 'r disie?
Mi a wele yma lawer dŷn:
oes neb a brynn rybanne?

Cobler
Oes neb a fyn waltysu ei esgidie?
Am ychydig o arian ceiff wniad o 'r gore!
Gwell i chwi dalu am drwsio 'ch clô
nag anrheithio ych sane [~ hosanau].
Da i medrai drwsio sodle merched,

[td. 17]
Cobler
a fydd yn pwyso ar i wared.
Rwy 'n gystal cobler amser hâ
a wniodd a mynawed.

Enter Brwx.
Sawdwr dan jarll Esex ydyw [~ ydwyf],
Lifftenant Genaral Brwx iw fy enw.
Oes yma neb a gymer fenter
i ddwad gyda myfi yn soldier?
Ceiff swllt yn y dydd a ffriquarters
am ddwad i blundrio y Cabaliers!

Cobler
Myfi a fentra yn ddigon talwych;
i blundrio yn chwanog rwy fi 'n chwenych.

Brwx
Os ymleddi yn sownd, ti gei jawn swŷdd
a dwyn yr wŷdd a fynych.

Pedler
Mine a fentre yn 'wllysgar
ei grogi iddo a êl i gario hamper.
Ymladd rwy fi yrjoed am sodle
a brith gonfeio fforio ffeirie.

Brwx
Dowch att y gwŷr i 'r gwndwn.

Cobler
Ewch ymlaen, ni a 'ch canlynwn.

Exit y 3.

Enter y Genaral Jarad.
Myfi a elwir Genaral Jarad.
Mae f' armi yn drefnus ar fy ôl i 'n dywad.
RHaid i mi yma foreu a nôs
gwrtrio tros yr holl-wlad.
Mae 'n Brenin Jarls pur o galon
yn dwad i 'm cyfarfod a gwyr ddigon
i fynd y foru i Edgus-hul
ynghweryl yr Aur Goron.

Exit.

Enter y Ffwl.
Cyddiwch y pethe! Mae 'r ddwy armi yn dwad.

[td. 18]
ag yn dwyn cyffyle 'r holl-wlad.
Nhw ddygant y cloff wedi torri ei glŷn
ar llegis heb un llygad.
Mae 'nh [~ nhw] yn plundrio gwydde a defed,
ag yn dwyn morwyndod merched.
Ni adawsont un o DDofr i Gaergybi
o fewn y deyrnas heb fynd arni.

Jarad
Oes llawer o wŷr gyd a 'r Brenin?

Ffwl
Mae 'r holl bur ddeiliad yn ei ddilin;
mae 'r Prins Morus, chwi adwaenoch hwnw,
y Cornol Robins a 'r Cornol marw
a Syr Williams ag armi grê.
Nhw losgant Dre Caer Loyw.

Jarad
Oes yma neb ymysc y gwerin
o gywir fron a garo ei Frenin?
Od oes, doed mewn gwrol gariad
i 'w amddiffyn rhag y Rowndiad.

Ffwl
Myfi a fentra, os mentra undyn.
Rwy cyn wllted [~ wyllted] a 'r aderyn.
O nerth y mrauch [~ mraich] a 'r cledde hwn
mi a gurra grwn ei goryn.

Jarad
Rwyt ti yn rhagorol ar dy dafod.
Dwad i mi dy henw hynod.

Ffwl
Nis gwni mo 'm henw, mi a 'i gollynges o yn ango.
Ni ddaw cô geni mo 'm bedyddio.
Cilsix y gelwid fy 'nghledde:
mi a leddais chwech ar bymp o ddyrnodie.
Ni wŷr un dyn a 'r sydd yn fyw
mor wchio [~ wychion] yw fy mreichie.

Jarad
Tyrd i 'r maes, mentra yn hoyw.

[td. 19]
Jarad
Capten Cilsix y cei dy alw.
Mi wele 'r Brenin, rwy 'n ei adnabod,
yn dwad a 'i filwyr i 'n cyfarfod.

Enter y Brenin a Moris.

Brenin
Ydech chwi yn barod, fy neiliad ffyddlon,
i ymladd gyd a 'r ffydd a 'r goron?

Morus
Parod wy fi!

Jarad
Parod wy fine!

Brenin
Hwdiwch gomisiwn: tynwch ych cledde!

Prins Morus
Ple cowsoch chwi 'r capten yma?
Mae fo 'n wr sownd, mi a 'i gwranta.

Jarad
Ni chais ef ond ei hûn i 'w ganmol:
fe laddodd chwech o wŷr cyneddfol.

Ffwl
Cru [~ cryf] iw f' mrauch [~ mraich] ac awchlym iw fy nghledde.
Ni fedrwch chwi handlio mo 'ch cledde!
Edrychwch arnai yn dysgu ymffensio,
onide chwi gewch ych curro.
Oni wnewch i fel hyn, ni thâl i chwi ddraen:
cilio yn eich ôl a neidio yn eich blaen.
Cychwnwch tuag yma, ewch tu a thraw,
edrychwch ar ei draed a threwch ar i law.
Myfi ymladda 'n ddigon chwanog
a 'm rhaw, a 'm pigfforch, a 'm caib, a 'm battog.
Mi a 'i bratha nhw a 'r mynawydydd a gwiall [~ gwëyll] gwau.
FFwrdd, Rowndied dauwynebog!

Enter y Cobler a 'r ysbeier.

Cobler a 'r Ysbeier
Cenad ym ni, sydd yn trafaelio
oddiwrth jarll Esex i 'ch sialensio.
Pa un a wnewch i: ai gildio, dywedwch,
ai dwad i faes, os lafeswch?

P Moris
Nyni a ymladdwn gyd a 'r efengil
a chyda 'r holl d'wysogawl [~ dywysogol] eppil.

[td. 20]
Cobler, Ysbeier
Gyda 'r Parliament nine a fentrwn.
Y foru y bore ni a 'ch cyfarfyddwn.

P Moris
Pam y rwyt i gwedi synnu?

Ffwl
Oni ddarfu hwn accw fy llugaid tynnu?
Och, na fawn i ymôl [~ ym mol] hên fuwch
neu yngwaelod lluwch yn llechu!

Jarad
Nid rhaid it ofni mo 'r gwasanaeth,
a thithe yn llâdd chwe gŵr ar unwaeth.

Ffwl
Nid chwe gŵr ond chwe gwybedyn
oedd yn sefyll ar fiswelyn;
a chwedi i mi dorri clŷn [~ clun] y seithfed
fo amcanodd dynu un o 'm llyged.
A gai sefyll yn ola
fel y gallwi ddiangc yn gynta?

Jarad
Tyn dy gledde a chwad [~ chwyd] dy glôs!
Fulen, dôs ymlaena!

Enter Brwx, Esex, cobler, pedler.

Esex
RHowch dân arnynt! Cyrwch, cyrwch!

P Moris
Dowch, y ngwŷr ine, attynt, gollyngwch!

Ffwl
Ai dyma 'r parch sydd ar Gris'nogion?
Peidiwch, na chanlynwch, fulens, fel y gelynion!
Gwyn ei fyd a gae le i ffô
i bylle glô RHiwabon.

Syrthio i lawr yn farw.

Jarad
Ple mae 'r Prins Rubert lân galonog?

Enter Rubert.
Dyma fi 'n dwad, ymleddwch yn gefnog!

Esexqe
Nhw aethont yn rhy gru [~ gryf] i ni weithan.
Ymsifftiad pawb drosto ei hunan!

Exit Esexqe a 'i wŷr ôll.

Rubert
Siriwch, Frenin, byddwch lawen!

[td. 21]
Rubert
Nid â cyfiawnder i 'r ddaiaren.
Fe fy 'r diwrnod gyda ny'ni;
ni laddason beth aneiri.

Brenin
Mae hyn yn drwblaeth ar fy meddwl:
fe fy heb ddiben yn ddau ddwbwl;
er lladd llawer heddyw ar goedd
fy ngwŷr i oedd y cwbwl.
Dowch i 'r gariss i orphwyso.
Marchogwch yn suful, gwiliwch flino.

Exit oll ond y ffwl a 'r pedler.


Pedler yn chwilio 'r FFŵl.
Mi a chwilia boccedau 'r bobl feirwon
ag a ddiosga ei dillad gwchion [~ gwychion].
Wel dyma glamp o gaptain glân:
caf aur ag arian ddigon!
Nid oedd gronun o dryssor gantho
ond dwy geniog a chettyn tobacco.
Hawddfyd i mi am ben crwn
ni fedrau hwn mo 'r plundrio.

Toro 'r ffŵl a 'r cledde, a 'r ffwl yn codi.

Ffwl
Ai whŵ, lleidr, ai wchŵ!
A 'sbeili di ddyn gwedi marw?
Gwilia rhag ofn fy yspryd i
dy daflu di i dorri dy wddw!

Pedler
Qwarters, qwarters, hwde fy nghledde!

Ffwl
Moes i mi fy arian, picciwr poccede!

Pedler
Hwde fy aur a 'm harian hefyd.

Ffwl
Diolch i mi am gael dy fywyd.

Pedler
Diolch ichwi, a Huw a 'th gattwo.

Exit pedler.

Ffwl
Dôs di nerth dy draed i blyndrio.
Pan ddarffo itti gasglu 'r gôd,
mi a ddôf i 'th gyfarfod etto.

[td. 22]
Ffwl
Ni welais ddyn mor llwfr yn unlle:
fi yn ei ofni fo ag ynte yn fy ofni ine.
Mi faswn yn diangc fel y cî
ped fasei 'n codi yr cledde.
Ond dedwydd a fy'm i gyne fentro
yn fy mraw cyn fy mrifo.
Ac os deil fy nghledde a 'm trex,
mi dala i Esex etto.

Enter Esex.
Weld dyma fi Esex yn dwad.

Ffwl
Nid ydwyf i yn codi amrant llygad.

Esex
Rwy ti yn un o 'r Cabeliers.
Gwna naill ai ymladd ai gofyn quarters!

Ffwl
Ych nawdd, y gwr bonheddig!
Na leddwch hên ddyn briwiedig.

Esex
Ai sawdwr a 'th saethoedd [~ saethodd] di drwy dy ben?

Ffwl
Nage, dwy lugoden FFrengig.

Esex
Oni buost yn sawdwr dan y Brenin?

Ffwl
Do, o 'm hanfodd; ni ymleddais i un tippin.

Esex
Powlia dy ben a dôs yn Rowndied,
tyrd gyd'a myfi a thro dy sieccaed.

Ffwl
Mi dro fel y gwynt; os ca fi well cyflog,
mi a ladda fy mam am ddwy geniog.
Mi fentra wneud llawer o drix.
Oni chlywsoch chwi sôn am Gapten Cilsix?

Esex
Ai capten ydech chwi 'r pendefig?

Ffwl
Ie, hên sawdwr ffyrnig.
Oni welsoch chwi fi yn Scotland enwog
yn gapten ar y Righment Garpiog?

[td. 23]
Ffwl
Mi a dynais yno ffrittog o ffrau.
Ni thalasoch imi etto am hynny mo 'm pau.

Esex
Ti gei dy bau; hwde swllt o ernest.

Ffwl
Croes yn y post eich bod yn wr gonest.

Enter Cobler.
Mae geni newydd i 'ch confforddio:
fe ddarfu i mi enill Brusto.
Am Gabeliers ni bydd mo 'r sôn;
nid rhaid mo 'i hunon heno.

Enter Pedler.
Nyni ein dau oedd wcha [~ wychaf] yn tarro.
CHwi addawsoch i ni swydd am fentro.
Ni a gawson ag a roeson lawer brâth.
Nid oedd mo 'n bath am fwrdrio.

Esex
Am eich bod chwi mor ymladdgar,
di gei dy alw Capten Hampar,
a thithe yn Gapten, sâ n dy rŷch,
Huwson wŷch ymladdgar.
Dowch eich trioedd gyd a myfi
yn galonog ag yn lysti
y foru i ymladd; clôd a gawn;
yn ebrwydd ni awn i Nubri [~ Newbury].

Exit y 4.

Enter y Frenhines a 'i llawforwyn.
Ni bu erioed i wraig gymaint gorthrymder
nag sydd i mi Brenhines Loegr.
Gwell oedd i mi farw yn y man
na byw mewn an-esmwythder.
Ymado a 'r deyrnas hon sŷ chwithdod,
a 'm plant bychain, gormod pechod,
oddiwrth ei gilydd fel wŷn gwâr
yn myned âr ddisberod.

[td. 24]
Frenhines
Dros y dwr y mae 'n rhaid i mi fyned
rhag ofn syrthio dan draed bleiddied.
Och, na bawn o blith ei bâr
mewn gwely o ddaiar galed!
Ystyriwch, ystyriwch, wragedd a merched
a phob gŵr sydd yn fy 'nghlywed:
mae yn fy mynwes feddwl trwm,
ni bu 'rioed blwm cyn drymed.

Forwyn
Na byddwch rû brydd i dorri 'ch calon
dan obeithio gwell newyddion.
Parhau byth yn fawr i bai
ni ddichon rhai anghyfion.

Frenhines
Nid eill calon mor anrhugarog
a maint ei gofal fod mor gefnog.
FFarwel i Lundain burlan bêr,
ffarwel i Loegr wresog!

Forwyn
Rwy mor brŷdd a chwithe
am fy nghariad sydd mewn arfe.
Os colli a wnaeth hwnw ei oes,
mi a golla fy einioes fine.
Och, na bawn i yn ei freichie
yn lle myn [~ mynd] i hyn o siwrne
yn ymwasgu a glân ei brŷd
a gwyn ei fyd a fydde.
Mae 'r gwŷr creulon drwg ei crefydd
wedi enill part mwya o 'r gwledydd.
FFarwel i 'm Brenin! Ofni rwy
na welwn mwy mo 'n gilydd.

Exit y 2.

Enter y Capten Hamper a 'r Capten Huson.

Hamper
Rwy 'n wr bonheddig hawddgar
rhagor bod yn cario hampar,

[td. 25]
Hamper
yn cael fy nghyfarth gan bob corgi
a 'r plant yn taflu cerrig i mi.
Bym lawer gwaith yn lûb [~ wlyb] y nible [~ fy niblau],
yn sâl fy ffâr yn cerdded ffeirie.
RHaid oedd gwneythr wyneb truan
a diolch am lastwr oer neu succan.
Nid rhyfedd i mi fod yn falch o 'm codiad.
I mae lasie ar fy 'nillad;
mi alla gymryd fy hunan heddyw
y cwrw a 'r cig a 'r peth a fynnw.

Huson
Rwy fine o 'm codiad yn balchio.
Edrychwch wned [~ wyned] iw fy nwylo.
A welsoch chwi 'rjoed [~ erioed] wr mor syth?
Nid ai mwy byth i bwytho.
Peth llwyddiannus ydyw trawster
rhagor bod yn byw mewn prinder
wrth drin y cwyr a 'r lleder dû
a phawb yn cablu 'r cobler.
Rwan ni gawn y gwyr bon'ddigion [~ boneddigion]
ddydd a nos i ni yn weision,
a byd brâf i gasglu braster!
Na ddêl heddwch byth i Loegr!

Enter Hwsmon.
Gwae fine fyth, gwae fine!
A welsoch chwi ddim o 'r sawdwyr's yn un lle?
Fe ddarfu [~ ymaelyd]meulyd yn y ngêg [~ nghêg]
a dwyn y [~ fy] nghaseg inne.

Hampr
Pwy a chwrâdd [~ chwaraeodd] a chwi mor hager?

[td. 26]
Hwsmon
RHai o wŷr y Capten Hamper.
Ond da y dyle hwnnw ei grogi
am gadw lladron yn ei gwmni?
Fe ddarfu i un o wŷr y Brenin
ddwyn y cyfrwy; fe aeth ynte a 'r pilin.
Nis gwn i pâ'r fodd yn y bŷd
yr â [~ af] ine a 'r ŷd i 'r felin.
O flaen y fattel fawr yn Nubri
dygason y cwbwl oll oedd genni;
dwŷn y forwyn — ond dyna fâr? —
a 'r ferch yn legar ladi;
dwyn y ddiod a 'r bwyd o 'r bwttri;
dwyn pais y wraig wedi mynd arni;
dwyn dillad y gwâs oddiwrth y gwely:
yn ei grŷs y mae o 'n dyrnu.

Hampar
Mae arnai eisio hettan finne:
cerdda di yn ben-noeth adre.

Hwsmon
Nad ewch a 'm hett i, y gwr bonheddig!
Gan ffrind gyne y cês ei benthig.
RHag digio fy 'nghymydog, moeswch hi i mi;
myfi a roddaf i chwi galenig.

Hamper
Di a 'i cei hi yn ôl; moes i mi arian!

Hwsmon
Hwdiwch swllt o glempyn llydan.

Hamper
Hawdd i 'r call dwyllo 'r ynfyd:
mi âf a 'r swllt a 'r hettan hefyd.
Dôs di adre i drin dy gattel;
di gest ddigon o gwrs rhyfel.

[td. 27]
Hwsmon
Ni lyfasai [~ lafasaf i] fyth fynd adre
wedi dwyn fy swllt a 'm hett ore.

Huson
Diang i ffordd a bydd fwŷn
rhag i mi ddwyn dy esgidie.

Hwsmon
Gwell i mi fynd adre 'n ben-noeth;
nid ai adre dridie 'n droed noeth.

Exit hwsmon.

Huson
Rwyt ti 'n gyfrwysach, gwn, o 'r haner
na myfi er maint fy nhrawster
i sbeilio pen ffordd neu fygwth gwrâch;
mi a 'th wele di yn lewach lawer.

Hamper
Ond ffein y medrais iddo brattio
nes cael ei arian yn y nwylo?
Dowch i rodio tu'a 'r bryn;
ni dwyllwn ryw un etto.

Exit y 2.

Enter Brenin, a Genaral Jarad, Prince Morys.

Morys
Wel, pa fŷd a gawn i bellach?

Jarad
Ny nhw sy 'n myn [~ mynd] yn gryfâch gryfach;
mynd yn wanach rydym nine,
waeth waeth bob dydd er's dyddie,
er darfod lladd Brwx ar wndwn
a throi Esex o 'i gomisiwn .
Mae rhai eraill gwaeth o 'r haner:
Syr William Brutwn, Syr William Walter.
Mae un a elwir Olifer Crwmel,
sydd yn bena yn riwlio rhyfel,
ac un Harison yn nesa atto
yn gwneythr mawr drais ag yn mwrdrio.
Fe ddarfu i FFerfflax ynte rowtio;

[td. 28]
Jarad
armi 'r Prince Rubert a 'i dinistrio.
Mae seets [~ sîj] wrth Gaer lleon gawr
a 'r sitti fawr ar glemio.

Brenin
Mae nhw wedi mynd yn gryfion.
Moeswch 'ch cyngor, filwyr gwchion [~ gwychion]:
tu'a pha le yr awn i yn gynta
i relivio rhai o 'r trefydd mwya?

P Moris
Mae digon o gryfdwr genym etto.
O dôs [~ Od oes] dim lwcc, scorn genym gilio.
Nyni a ymladdwn am y bêl.
Mae Crwmel yn returio.
Nyni a fentrwn i faes Asbri,
un ai cael ein lladd ai colli.
Ag oddi yno ni awn yn union
i relivio gwŷr Caer lleon.
Trowch yn ôl, wŷr Bonddigion:
cymerwch galone, dyma 'r gelynion!


Enter Harison a Huson a Hamper, yn ymladd heb ddweyd gair.
Criwch, criwch, ceisiwch becavi!

Huson
Dowch, Olifer Crwmel, trowch yn y mharti!

[Enter Olifer Crwmel.]

Olifer
Ymleddwch, ymleddwch, mae hi 'n mynd yn hwŷr.

Moris
RHaid i ni ildio: fe a 'n lladded ni 'n llwŷr.


Gado y cleddyfe a diangc, ag exit Jarad a Moris.

Olifer Crwm
Arnynt, canlynwch! Mi a 'i gwele nhw 'n ffô.
Deliwch y Brenin er dim ar a fô.

Exit oll.

Enter Ffwl.
Oes neb a bryn gleddyfe,
mynawydydd na nodwydde?

Ffwl yn codi y cleddyfe.
Ni bydd yn LLoegr nag ynghymru
mo 'r sôn am Gabelir ond hynny.
Diryfedd oedd i 'r Brenin golli
a maint o dwyll oedd yn ei armi,
yn ddauwynebog ag yn ffeilsion

[td. 29]
Ffwl

yn gwerthu am aur y trefi mawrion.
Mi werthais i lawer tre fy hunan,
yn brysur, heb achos, am bris bychan.
Ni cheisiais i ond gwerth grott o benwig
yn amheythyn am Dre' r Mwythig.
Mi âf a 'r cledde i Mr Crwmel
i ddangos mae fi a enillodd y fattel.
Walle [~ Efallai] y cai gan felldith ei fam
ryw beth am y trafel.

Exit ffwl.
Enter Moris.
I ba wlâd yr awn i weithan?
Yn Asbri ffight wan troed ni allan.
a Jarad.
Mae 'n ddrwg geni dros y Brenin,
fo drosedded yn ei erbyn.
Trwm i nghalon [~ fy nghalon], mi a gonffesia,
am y ferch a garai fwya.
Pe gallaswn fyned atti,
hi fase yn mentro gyd'a myfi.
Gwae fi nad allwn ar ei mwŷn
farw ar dwŷn amdani!

P Moris
Ai cariad a drû Ryfelwr?
Mentrwch i ffordd, gariadus filwr.
Waeth [~ Fe aeth] y Brenin tu'a Scotland;
nine yn hwylus awn i Holand.

Exit y 2.

Enter Huson, Crwmel, Hamper.

Huson
Ny ni nillasson gestyll Cymru.
Oes dim o 'r gwaith genych ond hynu [~ hynny]?
O Gabelir ni adawson i
mewn dichell heb i bradychu.

Crwmel
Os ewch i ymladd etto i 'r Werddon,
chwi gewch aur ag arian ddigon;

[td. 30]
ag yno fyth y cewch chwi fod
yn lle 'r Gwyddelod gwlldion.

Huson
Am aur ag arian nyni a ymladdwn,
ag yn ei tai a 'i tir ni dariwn;
tyny cleddyfe yn y dydd
o achos ffydd ni phoenwn.

Enter Scot.
Pa ryw newydd, noble Crwmel?

Crwmel
Dim ond darfod cwrs y rhyfel.
Myfi sy 'n raenio gyd a 'm soldiers;
fe dored gwres y Cabeliers.
Ai gyd'a chwi 'r Scotiaid dichlyn
y mae Jarls, hwn oedd yn frenin?

Scot
Yno y daeth pan drodd y rhôd
i ochel y gafod ddychryn.

Crwmwel
CHwi gewch gyweth a 'ch bodlono.
Gadewch i mi gael gafel ynddo.

Scot
Dan amod i chwi roi iddo bardwn
ag aur i nine faint a fynwn
y rwan yn eich dwylo chwi
yn onest ni a 'i dilifrwn.

Crwme
Wel dyna ben, dowch ag efo.

Scot
Dyna fo, ymeulwch ynddo.

RHaid bod a 'r Brenin yn barod i 'w roi.

Crwm
Ewch ag efo, Huson hawddgar,
i garis Brwx [~ Carisbrooke] Castl; rhowch o 'ngharchar.
Myfi sydd heddyw yn uwch na neb
a 'r sydd ar wyneb daiar.

Enter Ffwl.
Ai ffair sy yma? Pwy sy 'n prynu?
Pa beth yr ydech yn ei werthu?

[td. 31]
Scot
Mi wn pa beth a ddaw o 'r Deyrnas:
myfi a werthais y Brenin CHarlas.

Ffwl
Mi wn na cherddi gam yn rhwydd.
Ail iw dy swydd i Suddas.

Crwm
Ni gawson y Brenin dan ein dwylo;
pa beth weithan a wnawn iddo?

Huson
Pa beth a wnawn ond gwasgu 'r feg
a rhoddi deuddeg arno?

Crwm
Nyni ddechreuwn gadw sesiwn;

Enter Brodsaw 'r Justus.
Ai myfi sydd ar Charls yn farnwr,
ystwart sydd garcharwr?
Gwae fo ddwad dan ein dwylo!
Rwy 'n barod i 'r swydd, mae browes iddo.

Crwm
Bwriwch er dim y fo i farwolaeth;
bydd hynny i chwi yn oruchafiaeth.
Ni gawn holl wchder llawnder llawen
a 'i frenhiniaeth i ni ein hunen.

Brodsaw
Ple mae FFairfax? Ewch i 'w mofyn [~ ymofyn]
pam nad ydyw y fo 'n canlyn.

Crwmel
Nid ydi FFairfax yn bodloni
fwrw mono ddim i 'w golli.
I mae fo yn gweddio
drwy wir ddeusyfiad am ei safio.

Brodsaw
Os felly y mae, fo safed heibio.
Nedwch yma fo rhag fy rhwystro.

Crwme
Mi af i gadw iddo fyrdwn
tra bôch yn eiste ar hyn o sesiwn.

Exit Crwmwel.

Brodsaw
Nolwch y Brenin i 'w examnio.

[td. 32]
Huson
Dyma fo, byd rhyngoch ag efo.

Brods
A flinasoch chwi yn rhyfela?

Brenin
Do, cyn dechre 'r fattel gynta.

Brods
Pam yr aech o Lundain allan?

Bren
Ond i geisio safio f' eiddo fy hunan.

Brods
Fo fy 'n LLoegr lawer lledfa.

Bren
Do, o 'm hanfodd, Duw a 'i tystia.

Brods
Ond eich ffoledd chwi wnaeth ddechre?

Bren
Nage, 'ch trawster chwi a nhwythe.

Brods
Pa beth a heuddech yn lle pardwn?

Bren
Cael y nernas fy hûn a heuddwn.

Brods
CHychwi a heuddech gosbedigaeth.

Bren
Ni chosbir monai os cai y gyfraeth.

Brods
CHwi gewch gyfraeth newydd ddefod;
gwae chwi ddwad dan ein dyrnod!

Bren
Nid ŷch chwi ond dierth i mi.
Ni by rhyngoi ddim a chychwi.
Ple mae 'r Parliament a fu 'n eiste?
Hwy wyddant ei bod mewn gormod beie.

Brods
Pa beth i mae fo yn ei brattio
heb fod un dyn yn ei wrando?
Syre, syre, pam yr ych yn siarad
o flaen y barnwr heb gael cenad?
Gelwch y cwest sydd wedi ei dyfyn
a wittness i brofi yn ei erbyn.

Hamper
Myfi a alwa ar y cwest ar wittness.

Ffwl
Galw ar bob fulen drwg fales!

Hamper
RHowch osteg fel y caffeir clywed!

[td. 33]
Hamper
Mae rhai yn fyddar a rhai 'n ddeilliad.

Ffwl
Dewised iddynt fod yn ddeillion
os bydd arfer a thyngu anudon!

Hamper
Take him, geler! Pwy sy 'n disbrisio?

Ffwl
Taw, taw! Rwy fi wedi peidio.

[Hamper]


Henry Ieriton, Harders Wallew,
Valentine Walton, John Harris,
Edward Welew, Isaac Penington,
Lord Grau, Lord Mounser,
Syr John Derfes, Henry Marttyn,
THomas CHalwer, John Jones,
John Huson, Edward Bradlaw, CHarles FFlittwd.

Dyma 'r cwest wedi ympirio.
Ni alwn wittnes i 'w examio [~ examnio]:


Edward Robert o Dre Esgob,
Robert Lasi paentiwr,
Robert LLoyd y Towr,
James Williams y Crŷdd,
Richard Patt y Tafarnwr,
Samuel Morgan Hettiwr,
George Pile RHaffwr,
Richard Broffild y gwehydd o Lundain,
William Huson y Bragwr,
George Crwmwel y Melinydd,
John Edwards Cigydd.


[td. 34]
Brodsaw
Wel dyma 'r bilia yn ffurm wedy tynu.
Mae accw wittnes yn barod i dyngu.
I examnio wittness ni awn yn dalgrwn
ac i roddi 'r cwest ddurectiwn
lle i mynwn i y bydd y bai
yn brysys ni a 'i disbrisiwn.

Hamper
Cilsix, does [~ dos] accw i dyngu!
Di gei fodd i fyw am hynny.

Ffwl
Mi dynga ag a rege yn ddigon cethin.
Cîg dryw, dôs, mi dora dy esgirn !
Gwell gen i dyngu dy fod wrth bren
na thyngu am ben y Mrenin.
Mi ddygaswn nad oedd un dyn
a dynga nag a ddyweda yn fy erbyn.
Ni thalai ddraen mae accw dyngu
onid ydi y Tŵr Gwyn yn crynnu.
Mae accw rog's wedi llosgi ei dwylo
yn tyngu oni dydi 'r wybr yn duo
nhw a wnân y llegis tua 'r hwŷr
i 'r creigie a 'r awyr rûo.
Ni wyddant hwy mwy na mine
ymhale [~ ym mha le] nag ar bwy mae 'r beie.
Ond nhw dyngant am ei cyflog,
mae [~ mai] oen llyweth ydi 'r llwynog.

Brodsaw
Fo dyngodd digon accw ar gyhoedd
er torri pen chwech o frenhinoedd.
CHarlas y Stwart rwy 'n ei fwrw,
o 'i anrhydeddd mae 'n rhaid iddo farw.

[td. 35]
Brenin
Siwr ni wnaethont waith mor aflan
heb gael rhoi atteb drosta fy hunan.

Brods
Nid oes mo 'r dadle wedi barnu.
CHwi gewch dorri eich pen y foru.

Brenin
A gai afal [~ afael] ar y chaplan
i 'm paratoi tuag att fy nien?

Brods
Os daw fo i siarad gair a chychwi,
fo fydd siwr o gael eich gosbi.

Exit Brodsaw.

Brenin
Fe wŷr y bŷd fod hyn yn draha,
rhwystro 'r ffeiriad ddwad atta.
Fe gae leidr ei wasaneth
a 'i baratoi att ddydd marwolaeth.
Fe dyngodd digon accw yn fy erbyn,
y peth na wyddwn ddim oddiwrthyn.
Fe ddaw tâl am hyn ryw ddydd
yn ddilawenydd iddyn.
Mae 'n gwilydd ag yn gamwedd gormod
i 'r euog fy mwrw i yn ddigydwybod
i farw fel oen gwirion gwâr
o achos bâr gwiberod. ———
Hai how i ple mae fy Mrenhines
a 'm plant hefyd? Nis gwn mo 'i hanes.
Gwae i 'w calone pan gaffont glywed
mae tori fy mhen iw f' nhynged. —
CHarls, CHarls, gwir aer y goron,
fy anwyl fab, hwdiwch fy mendithion!
Gyd'a Duw i rydwi 'n danfon,
er darfod y 'nghurro gwnewch fy 'nghynghorion.
Canlynwch gwmpeini y cyfion ffyddloniad;
gwrthodwch y geifr, dilynwch y defaid.

[td. 36]
Er colli 'ch tair teyrnas a llawer o 'ch deiliaid
cedwch yn ffyddlon, na chollwch mo 'ch enaid.
Ir drwg dros amser mae rhydddid yn llydan;
er i 'r gwynt dori y pren tecca yn y berllan,
o ffrwyth y gwraidd melus fo ddichon gwinwydden
dyfu a chynuddu yn frigog dychrefen [~ drachefn].
Gwae, gwae, yn fy erbyn a gododd
drwy ryfel mawr gwrthyn, a gwae rhai a 'm gwerthodd.
Gwae 'r anudonwŷr yn fy erbyn a dyngodd;
gwae 'r cwest a 'm bwriodd; gwae 'r justus a 'm barnodd.
Nid wy mor hên ag mor ynfyd
y rhaid im fod yn flin o 'm bywyd.
Nid wy hefyd mor ddiobaeth
ag yr ofnai loes marwolaeth.
O 'i hachos rwy 'n mynd i fywyd arall,
lle mae tangnheddyf [~ tangnefedd] uwch law pob deall,
a lle nas geill un gwaedlyd elyn
drwy dwyll yn byrbwyll godi yn f' erbyn.
Mae 'n ddrwg geni dros fy milwyr ffyddlon
sy 'n diodde dirmyg dan ddwylo rhai trawsion.
FFarwel! Nhw a 'm daliason i
mewn mieri mawrion.

Enter Hamper.
Hai, Syr, gwnewch ddiben o 'ch gweddi.
Mae 'r ystaffle [~ ysgafell, ysgafellau] gwedi codi,
a 'r hangmon ynte a 'r fwyach finiog
yn barod i 'r gwaith am ei gyflog.
Ry'chwi yn twyso yn an-wellysgar.
Oni ddowch o 'ch bodd, chwi ddowch drwy hagar.
I 'r ystafell daccw hi
mi a 'th lysga di yn Ewyllysgar.

[td. 37]
Brenin
Gwr a 'm rhaglyniodd gwrandawed y nghyffes [~ nghyffes].
Rwy 'n barod i 'm diwedd, fy hoedl a golles.
Brenin Brenhinoedd uchel fri,
dod fy enaid i yn dy fynwes!

Exit y 2.

Enter Ferch.

Enter y ferch cariad i Jarad.
Rwy 'n gla jawn, mi ges y consymsion;
mae swp o serch dan y nwy fron;
sythion saethau fawr ei nwy
a 'm rhedodd drwy fy nghalon.
Rwy mor alarus a 'r oen am y ddafad.
Dros y mor yr aeth y [~ fy] nghariad;
gwae fi nad allwn fynd ar ei ôl,
y gwrol Genaral Jarad!
Mwy o bleser yn fy nghlistieu
oedd glywed sŵn un gair o 'i eneu:
na chlywed muwsic yr holl fyd
ple mae fy anwylyd inne.
Ni lyfasai [~ lafasaf i] gan dratturied
ddwed lle caffwy mwy mo 'i weled.
Cyn pen hir o gariad mwyn-bur
marw a wnawn ein dau o 'r un dolur.

Enter Huson.
Dywedwch i mi, meinir weddus,
am bwy 'r ydych mor alarus?

Ferch
Am wr têg aeth o 'r tir,
glan Gabelir caradus.

Huson
Ni charai neb o 'r Cabelier;
ni bydd hwnw byth ond eger.
Gwell i chwi rwan, mwy ydi ei rent,
gael gwrol Parlamentier.

[td. 38]
Ferch
Gwell oedd geni fegio y [~ fy] mara
gyd'a gwrol fab a gara
na phe cawn dir y deyrnas
er bod yn wraig i Rowndied diflas.

Huson
Nid yw y Cabeliers ond gweision
i ni Rowndied sŷ gywaethogion.

Ferch
Ped faechwi ar hyn cyn gywaethoged
a Job, ni byddech ond tratturied.

Huson
Os cerwch fi, mi a 'ch bodlona,
mewn dillad o sidan a melfed mi a 'ch gwisga
i fod yn well eich stât o 'r haner
nag un o ferched Brenin LLoegr.

Ferch
Nid eich aur a 'ch dillad plundrio
— rwyn well fy hyder — eill fy hudo.
Mae llawer melldith ar ei hôl;
nid wy mor ffôl a 'i gwisgo.

Huson
A gerwch i neb o 'r Rowndied gwchion?

Ferch
Na chara byth yn y [~ fy] nghalon.

Huson
Ow, pam hyny, gwen lliw 'r ôd?

Ferch
Ond am ei bod yn ffeilsion.

Huson
Pa beth a wneithym yn eich erbyn
i beri i chwi fod mor gyndyn?
Edrychwch arnai; rwy 'n wr gwŷch.
Pam nad ych yn chwerthin?

Ferch
CHwi a yrasoch i ffordd o 'r deyrnas yma
y gweddus fab a garai fwya.
Os marw o 'i gariad ô wna i,
rhof arnoch chwi nglanastra.

Enter Ffwl.
Ai amdana i yr wyt ti yn wylo?
Taw sôn, druan, paid ac ochneidio.

[td. 39]
Ffwl
Hwra hon, meinir wen;
hi a 'th wneiff di yn llawen etto.

Ferch
FFei, ffei, cedwch eich pethe!

Ffwl
Ceriwch nhw yn eich ffedog adre;
fe fydd noswaith lawen ffri
rhyngoch chwi a nhwythe.

Huson
A wyddost a phwy yr wyt ti yn siarad?
Paid, gna, na thwitsia ar ei dillad!

Ffwl
Cnâf a ddwad cnaf yn gynta.
Moes dy law, nis gwn i pa'r un gnafeiddia.
Gwell iddi roi peth am fy 'nghael i
na chael cyflog am dy garu di.
Mae geni living lawer
o lai heuad pecced a haner.
Gwna draean o hynny arna ti.
Hawdd i ti borthi balchder.
Ac mae geni blâs o ddwy lath uchder
a châth i arlwyo a chywoeth lawer.
Wy [~ Wyt] ti yn tybied y cei di hi
yn legar ladi ar fyrder?

Ferch
Nid allai edrych ar un ohonoch;
mwy na 'r neidr chwi a 'm digiasoch.
Da yr ymdrawsoch, gnafiad câs,
mi a wranta, yr andras ynoch.

Huson
Ewch lle mynoch, mi a 'ch canlyna.
Oni chai chwi o 'ch bodd, o 'ch anmodd [~ anfodd] mi a 'ch myna.

Ferch
Os doi di, Rowndied, yn y nghyfel [~ nghyfer],
myfi a weudda [~ waeddaf] hai wchw yn uchel.

Exit.

[td. 40]
Enter Sequestrator.
Gwrandewch ar Act yr holl Gyffredin:
fe ddarfu torri pen y Brenin.
Sequestrator iw
Hamper a 'r ffwl.
Pwy bynnag a sonio amdano
yn ddiffyniant caiff ei ffinio.
Oliver Crwmwel aeth yn arglwydd;
tan haul a lleuad mae 'n ben llywydd.
Drwy holl grêd y flwyddyn nesa
fo fydd yn emprwr, myfi a 'i gwranta.
Ni cheir darllain dim wrth gladdu
rhag i 'r meirw godi y fynu.
Ewch a 'r Comon Prayer i 'w losgi.
Torrwch groese ar y bedydd feini.
Gwiliwch gadw dyddiau gwylion.
Gweithiwch eich gore ag ewch yn gybyddion
i gael casglu aur i ni;
cewch taly trethi trymion.
Mi gefais swydd o 'r gore:
rwy 'n sequestratu gwair, gwartheg a lloye.
A glywi di arnat fyn [~ fynd] mewn câs
a dwad yn wâs i mine?

Ffwl
Do, do, rwy 'n wr o 'r gore.
Mi af att y gôf i roi swmbl yn fy jre [~ irai].
Gwyn ein byd y swydd y gawn.
i 'r Bala ni awn i ddechre.

Seque
I roi dychryn yn y dechre
ni awn yn union i 'r Clynnene [~ Clenennau].
Ni ddown adre heibio i fuches
y Cabelier yr Hughes o Wercles [~ Werclas].

[td. 41]
Seque
Ni awn a da y Curnel Mostyn;
ni adawn i 'r tulwyth un cattelyn,
nag i Syr Euan LLoyd o Jâl
oni thâl amdanyn.
LLe i bytho gwr a chregin gare
er na bu fo erioed mewn arfe
nid adwen i mono, teuraf yn glir,
ei fod yn Gabelir o 'r pura.

Ffwl
Ond gore i mi yru gynta galla.

Seque
Prisia 'r ŷd â 'r gwair yn gynta
a phob dim a 'r sydd y' [~ yn] nesa,
a phrisia yr holl ger hwsmoneth
a phob dim cyn myned ymeth;
prisia 'r gwlân a 'r coffre,
prisia 'r pedill a 'r crochane,
a chwilia bob cornel glûd
nes dwad o hŷd i 'r code.
Dwg y fflagen a 'r dysgle
yn esgus gwneud bwlede.
Brysia, tyrd a nhw i ffwrdd!
Prisia 'r bwrdd a 'r meingcie.

Ffwl
I rydwi yn prisio yn ddigon prysur,
ond nid y fi ydi sequestratur.
Mi brisia y piccyne a 'r llwye 'n llawen,
y dillad brethyn a 'r dillad llien,
y gogr rhawn a 'r rhidill rhwth
a 'r drybedd a 'r crŵth halen.

[td. 42]
Ffwl
Gore i mi brisio 'r bwyd a 'r ddiod.

Seque
Prisia; gwilia yfed gormod.

Ffwl
A brisiai 'r dorth sydd wedi ei thorri?

Seque
Prisia 'r gyllell gyd ag i hi.

Ffwl
A brisiai y mynawydydd a 'r nodwydde
a 'r efel binsio a 'r corn esgidie
a 'r haiarn crochon sy 'n y'nen,
y gyllell wen a 'r gwelle?
A brisiai y wraig a 'r plant sy 'n gweiddi,
Richard a Margred, Roger a Mari?
Nid ydynt hwy ond stŵff gô sâl,
ychydig a dâl y rheini.
Mi chwiliais yn llwyr bob cilfach
ac a brisiais y cwbl bellach.
Gore i mi yru, mae 'r dydd yn furr.

Seque
Hai, tyrd, gur, nag eiriach!

Ffwl
Hai how, yswan ag yswitting,
briad a brown a Duwc a darling.
Ni wnawn yma fyches lom,
a gwae chwi llom eich living!
A yrai yr ŷch gwan ei afel
a 'r llall sŷ ar llŷg ar ei hegel?

Seque
Gyrr hwnnw a rhwngc yn ei glŷn;
na âd yno un anifel.

Ffwl
Hob how, y bychod a 'r teirw!
A glywch chwi neb yn gweiddi hi whw?
Hys hys y defaid, sihwa 'r ceffyle,
tat tat y moch, lac lac y gwydde.

[td. 43]
Ffwl
Gore i mi yru 'r geifr a 'r mynod.

Seque
Gyrr y cwn a 'r cathod!

Ffwl
Hai sihwa, cath o hŷd,
a gwyn ei fŷd y llygod!
Hai how, gyrwch y meister!
Neidiwch i 'r groesffordd, hi aeth yma 'n brysyrder.
Gwiliwch golli yr un o 'r gwartheg.
Os cawn i le, ni ddygwn ychwaneg.
RHedwch o 'i blaen, neidiwch y pylle.
Rydech chwi yn eich bwtties a mine yn fy esgidie.
FFe ni gawson siwrne drom,
o 'r diwedd daethom adre.
Fe ddarfu i ni flino, rwy gwedi chwsu.
Gelwch am ddiod rhag ofn i mi dagu.
Pott i fynu ag yfed gwin!
Celfyddyd flin iw gyru.

Exit y 2.

Enter Hwsmon.
Oes un ohonoch chwi 'r Cwmpeini
a rŷdd chweigian i daly trethi.
Fe ddarfu i 'r rwbars ddwyn fy march
a gwneythyr amarch i mi.
Ni chês i noswaith ddiofal ddiflin
er pan dorwyd pen y Brenin.
Breibio comitti a bygwth fy llâdd
tra i parhâdd fy lifin.
Breibio 'r comitti a 'r capteiniaid
rhag iddynt dynu fy llygaid.
Taly trethi a chwartrio clêrs
o riw ddrwg wners gweiniaid.
Roedd rhai yn tybied mae [~ mai] rhyw angel

[td. 44]
Hwsmon

ar y cynta oedd Arglwydd Crwmwel.
Y rwan fe aeth wrth ei drin
fel rhyw ysgethrin gythrael.
Mae ganthynt hwy ryw gyfraith newydd
i ffordd ar hŷd ar glyd y gwledydd:
ni ellir tyngu llw yn y byd,
ond fe ellir dywedyd celwydd.
Pe bae nhw ei gyd wedi ei crogi,
os oes ynthynt ddim daioni.
Oni ddaw rhyw dro ar fŷd,
gwae ni ei gŷd ein geni!
Mi glywais gan wr oddiyma i Rythyn
ei bod mewn gofal mawr a dychryn.
Ag os gwir a glywais i,
fe ddarfy llosgi Dylyn.
Fe ddywedodd gwraig oedd ar ei siwrne
i mi chwedl newydd gyne,
fod llawer o longe ag ymladd trwm
yn Aber-Cwm-dau-gledde.
Fe landiodd llawer o 'r Iddewon
ddoe i ryde 'r cerig gwnion.
Mi glowais ddweyd fod yn ei brŷd
fyd ynghyd a 'r Saeson.

Enter Morus ag yn ddierth yn siarad a 'r Hwsmon.
Wel dyma un o 'r Cabelir gwchion.

Moris
Pa ryw bwynt, y poenus hwsmon?

Hwsmon
Edrychwch gûled iw fy 'ngrydd:
i rydwi yn brydd y [~ fy] nghalon.
Cul a thene iw pob hwsmon
ymlâdd a gweithio i gadw carn lladron,

[td. 45]
Hwsmon

a hwythe yn segur heb ddim chwŷs
yn mynd ar frŷs yn freision.

Moris
Diodde, diodde ychydig etto
a bydd fyw dan wir obeithio.
Maent gwedi dringo i frig y gangen ucha i gyd
yn swrth mae yn ei bryd syrtho.

Hwsm
Ie, diodde ychydig etto!
Ai diodde iddynt hwy fy mlingo?
Mi ddioddefais trwy fawr boen
hyd fy nghroen fy nghneifio.
Mi a ddioddefais fel y ddafaid
a ddioddefai dynu ei llygaid.
Oni bae fy mod i ddur neu gareg,
nid allai ddiodde dim ychwaneg.

Moris
Diodde etto haner blwyddyn
nes iddynt gael y mêl yn wenwyn.
Ni bydd hyd Loegr deg ei llŷn
hanes am un ohonyn.

Hwsm
A glywsoch i ddwad o 'r Iddewon
yn siwr i rŷd y cerig gwnion?

Moris
CHwedle gwanwyn sydd gan ti;
di gei gan i newyddion.
Mae 'r Brenin jeuaing gwedi ei goroni
yn Yscottland, dedwydd i ni.
RHaid i nine rhag cael barn
i 'w blaid yn gadarn godi.

Hwsm
Ai gwir iw hyn, y [~ fy] ngharwr ffyddlon?

Moris
Gwir, gwir, fe gadd ei goron.
Mae fo a chanddo armi grê
yn ymul trê Gaer-frangon [~ Gaerwrangon].

[td. 46]
Hwsmon
Dow bow, dow bow, mae nghalon [~ fy nghalon] y [~ yn] neidio.
Mi af yno i ymladd; mae nwylo [~ fy nwylo] yn merwino.
Er darfod dwyn y cledde a 'r gwn
mae geni bastwn etto.

Enter Huson.
Pwy sydd yma 'n dywedyd celwydd
ag yn plottio yn mysc ei gilydd?
A fynwch i frenin? Cewch yn haws
y cledde ar draws eich ysgwydd!

mynd ynghyd a 'r hwsmon a Moris yn diangc.

Hwsm
Nid oeddwn i ond siarad
ynghylch yr haul a 'r lleuad,
a sôn i roeddwn am rannu trêth;
fe godwyd peth ar fagad.

Huson
Onid oeddwn i yn eich clywed
yn son am frenin Dôn ag Scotied?

Hwsm
Celwydd y M.r ydi hyn.
Myfi oedd yn gofyn defed.
Deliwch y fo, gollyngwch y fine;
fe aeth att y Brenin i gym'ryd arfe.

Exit Moris.

Huson
RHyhwyr iddo fyned atto;
mae aer y goron newydd i guro.
I roedde [~ roeddech] chwi eich dau ar fedr myned
i godi arfe yn erbyn Rowndied.
Mi dyna y pedole oddi dana ti
am fod i mi cyn ffalsed.
Tyrd oddi yna i 'th roi mewn carchar.
Rwy [~ Rwyt] ti yn tywys yn an-wyllysgar.

Ymeylyd yn ei glyst yn ffast, ag Exit y 2.

Enter Brenin CHarles 2.

Brenin
Och! wel dyma anlwch greulon
wedi enill tre Gaer-frangon [~ Gaerwrangon]

[td. 47]
llabyddio y [~ fy] 'ngwyr a cholli ngwaed [~ fy ngwaed]
i lawr dan draed gelynion.

Saer yn cael y Brenin yn y coed.
Ni wn i ble tuedda;
syched mawr sydd arna;
a reble hwythe yn waeth na dim
yn barod i 'm difetha.

Enter.

Saer
I ble y rydech chwi yn trafaelio?

Brenin
Ni choeliai yr ai chwath heppell [~ nepell] heno.

Saer
I rydech yn fy meddwl i
yn barod wedi blino.
Ai ymladd y byoch wrth dre Gaerfrangon [~ Gaerwrangon]?

Bren
Ie, am hynny prŷdd iw fy 'nghalon.

Saer
Cymerwch gyssur, chwi gewch gyfrinach.
Mi wn mae [~ mai] ffrind y Brenin ydâch.

Bren
O ran eich rheswm rwy 'n ych leiccio.
A fedrwch chwi mo 'm cyfarwyddo
i ryw ffyddlon dirion dŷ
lle gallwi 'n hû orffwyso?

Saer
Medra 'n siwr; mi a 'ch cyfrwydda
att ŵr bonheddig o 'r gonesta.
Dyma ei ferch o 'n gweddio ar ddeilin;
mae hi yn gadarn gyd'a 'r Brenin.

Enter Jane Lân.
Ai Cabelier pur caredig
a ydych chwi, y gwr bonheddig?

Bren
Ie, bychan iw fy mharch
a mawr iw fy amarch oerddig.

Jane
A wyddoch i a ddiengodd y Brenin
o ddwylo 'r mwrdwyr oedd i 'w erbyn?

[td. 48]
Brenin
Do, fe ddiengodd am hyn o dro.

Jane
Oh Duw a fo i 'w amddiffyn!
Ydech chwi yn siwr na ddiengodd mono?

Bren
Myfi a 'i gwranta fo yn ddiargol [~ ddiargel] etto.

Jane
Pa fodd y gellwch chwi dystiolaethu hynny?

Bren
Credu rwy fod Crist i 'w helpu.

Jane
Gwyn ei fyd a gawse ei weled.

Bren
Edrychwch, i mae o flaen eich lluged.

Jane
Ai chwi ydi Brenin LLoegr fawrgu?

Bren
Myfi ydyw Tywysog Cymru.

Jane yn ymgrymu iddo.

Jane
CHychwi o radde reiol wreiddin
ger fy mronn iw fy mrenin.
Deuwch gyda myfi er llês;
mi a 'ch rhôf mewn achles ddichlin.

Bren
Nis gwn pa fodd y gallai 'n ddirgel
fynd o 'r deyrnas; blin iw 'r drafel.
Siwr a fyddai o dorri mhen [~ fy mhen]
os ai dan aden Crwmwel.

Jane
Myfi a fentra gyda chychwi
dros y môr, o cerwch y [~ fy] nghwmni,
y chwi yn wâs da ar ych llês
a mine yn feistres ichwi.

Bren
Pa fodd i 'ch gelwir, blodeu Europia?
Gwas ufuddol i chwi a fydda.

Jane
Jane Lân; i 'ch achub chwi
dros foroedd myfi a fentra.

Bren
Os mentrwch i, mi fentra yn fuan
naill ai cael ai colli 'r cyfan.

[td. 49]
Saer
Mine a waettia ar eich Grâs
i fynd o 'r deyrnas allan.

Bren
I chwi eich deuwedd mi ymddirieda
am fy mywyd; mi wn y galla.
Os doi byth i 'm braint na 'm bri,
yn deilwng i chw [~ i chwi] mi dala.

Jane
Er eich mwyn chwi, Frenin graslon,
myfi a golle [~ gollaf] waed y [~ fy] nghalon.

Bren
Tewch, tewch, siaredwch lai!
Wel daccw rai o 'r gelynion.
Enter Harris a CHrwmwel.
Oes neb a fedr chware hasard
nes dwad o hyd i CHarles Ystward?
Pwy bynnag a ddel ag efo i 'm magle
am ei ben ceiff fil o bynne.

Jane yn gollwn ei maneg i lawr, ynte yn ei chodi fyny, ei hystyn a 'i hett am ei ben iddi.

Jane
N' ad Duw mor anystwyth a gwnaethbwyd y chwi
Ymgrynnwch a chodwch fy maneg i mi.
Nid ydi hi y rwan yn wynt nag yn law.
Ai nid ellwch i ddal mo 'ch hett yn eich llaw?

Harris
I mae hwn yn rhy fynyddig
i fynd i dendio a 'r ferch fonheddig.

Jane
Nid yw fo a 'r peth ddim yn ymarfer.
Mi wna iddo brynny ei ddysc ar fyrder.

y hi yn ei daro fo a 'i llaw.

Exith y 3.

Crwm
Bellach y fi a pia y teyrnasoedd,
trêf a thyre, môr a thiroedd.
Cyn pen hir mi fyne [~ fynnaf] fyned
i gongcwerio cred ag angred.
Nid rhaid mwy mo 'r gofal yma;
mi yra y sawdwyr i Jamacca.

[td. 50]
Crwm
Er y byd ni roi ddraen;
mŵn aur o Spaen mi sbeilia.

Harris
CHychwi y rwan sydd orucha.
Cael un rhodd genych a ddymuna.

Crwm
FFyddlon jawn i mi a fuoch;
pam na chewch i y rhodd a fynoch?

Harris
Mi fyna i chwi gosbi 'r Cymru,
crogi y rhan fwya o 'r rheini
a 'i distrywio nhw yn egin.
Hwy wnant daly am ei Brenin.

Crwm
Yn arâ dêg mi a 'i gostega
mewn caethiwed hyd yr eitha;
ar hyder iddynt allu troi
ni fynai mo 'i difetha.

Enter Hamper.
Mi ddyble [~ ddyblaf] ei trethi yn fil o ddyble
ag a ddyga ei meirch a 'i harfe.
Ni chânt hefyd, tra bwy byw,
mo fedydd yr eglwyse.

Haris
Oni ddygwch i ei hoedl hwythe
mewn caethiwed hyd yr eithe,
ni orphwysant hwy fyth nes dial gwaed;
nhw fynant aed o rywle.

Hamp
Nyni rwan dan yr awyr
sydd yn curo pob rhyfelwyr.
Aed i Frenin o ble a dônt
oni ddont o 'r wybyr?

Crwm
Na thyrd i 'm golwg i, yr hên gowart,
oni ddeli di CHarles Ystwart.

Hamp
Pâr fodd y gallwn, gadewch glywed,
ddal y gwr heb ei weled?

[td. 51]
Hamp
Edrych amdano nid yw bwrpas;
fe aeth yn barod allan o 'r deyrnas.
Mae iddo lwcc yn ddigon siwr
i fentro 'r dwr fel Johnass.

Crwm
RHyfedd gen i pa fodd y diengodd.

Hamp
RHyw ferch fonheddig a 'i cnafeiddiodd.

Harris
Mi a 'i canfûm hwy, pei gwybaswn;
a 'm llaw 'n ddwysedd mi a 'i lladdaswn.
Gwae oedd i 'r gangen a 'i confeie.
Och, na bae hi ar flaen y ngheledde [~ fy nghleddyf]!

Crwm
O frynted ei fynd o 'r deyrnas allan;
pwy nad ymgroga ohono ei hunan?
Os daw o fyth i Loegr etto,
ni fynwn roddi waich i waittio.

Exit ôll.

Enter Huson.
i settlio cyfraith yr eglwysi.
Huson yn Gomitti.
Mi fedra hynny, fe wŷr pawb,
yn well nag esgawb gwisgi.
Ni cheiff neb mo 'r bod yn swyddog
ond yr Independant's rhywiog.
Na ddisgwiliwch fyth mo 'r ffydd a fu
Ni fynwn ein ffydd ein hunen
dros wyneb y ddaiaren.
I lawr ni rown ni a 'i trown o 'i três
bob math yn Bres'bitterien.
y gwŷdd [~ gwëydd] a 'r eurach [~ eurych] minddu
a 'r gôf a geiff bregethu
a phawb a fu 'n colli ei gwaed
a 'r person aed i ddyrnu.

[td. 52]
Huson
Ni cheir na chymun na chrefydd,
nag ofer fiwsic, cerddor na phrydydd,
na brenin byth yn LLoegr wenn,
ond pawb ymhen ei gylydd.
Yr Justus sydd ar osteg
yn priodi 'r merched glandeg.
Ni cheir mwy fedyddio rûn [~ yr un]
nes i'r elo hi yn un ar bymtheg.

Ffwl
Gyd'a 'ch cenad, y gwŷr sy 'n cowrttrio!

Huson
O ba wlad y rwyt i yn rhodio?

Ffwl
Myfi a rodiais bart o 'r hollfyd
ag a dreiais bob celfyddyd.
Ond y rwan rwy 'n amcanu
peidio a gweithio a mynd i bregethu.

Huson
A fedri di ddarllain llyfre?

Ffwl
Medre [~ Medraf] 'r wyddor Gymraeg o 'r gore;
na ffendiwch arnai ormod bai
er misio rhai llythrenne.

Huson
Oni chyfarfuost di a 'r yspryd,
ni fedri di yn jawn mo 'r gelfyddyd.

Ffwl
Roeddwn i neithiwr yn ddigon chwannog
yn troi ngheffyl [~ fy ngheffyl] i gae fy nghymydog.
RHyngddwy a 'r clawdd mi welwn ryw huttan;
rwy 'n tybiad mae [~ mai] 'r yspryd roedd o 'n croppian.
Ond tebyccach ei ystym ydoedd i chwi
nag i mi fy hunan.

Huson
Dangos dy waith, beth a fedri?

Ffwl
Gwrandewch-ithe yn ddyfal ar y [~ fy] ngweddi:

[td. 53] Ffwl
Yn Arglwydd Prottector a 'r Comitti,
FFlittwd a Lambart a 'r holl armi,
Cymru a LLoegr, Gwlad yr Hâ
a fyddo gyda nyni.
Wel dyna i chwi weddi weddus.
Gwrandewch ar dext y bregeth felus:
Edrychwch, cewch weled yn y rebel
mae [~ mai] peth daionus ydi rhyfel
i gael ei fyd wrth ei fodd,
a hynny a gododd Grwmwel.
Pwy a fydde mor anrhesymol
a chadw meibion yn yr ysgol
i ddarllen Ladin, Groeg, hên chwedle,
jaith anweddol fel jaith hen wydde,
a 'n brodur ni heb fedr ei habsi
yn wyr grasol mewn eglwysi.
Beth a wneir a CHamridge [~ Cambridge] a RHyd-Ychen
pa 'n waeth Gwrexam neu Lan-gollen?
Ni gawn yno ormod o ddysc
yn ein mysc ein hunen!
Cewch weled yn LLyfr y Cybyddion
mae [~ mai] drwg iw chware ddyddie gwylion.
CHware a bair werthu tir;
wrth weithio fe gesglir digon.
Peth llwyddiannus ydi trawster
i 'r sawl a fedro ei drin a 'i arfer
i gael ei fyd yn jawn i' w fodd;
hyn yma a gododd Grwmwel.
Edrych yn LLyfr y Mawr Draha

[td. 54]
Ffwl

yn y bennod faleusus a 'r wers nesa,
mae [~ mai] trawster a gododd i fynu 'n rhwydd
yr Justus brydswydd Bradsa-w.
Bydd rhai pobl yn ymgroesi;
ynfydion cattyliaid ydi y rheini.
Wrth godi ei bodie att ei penne,
mae nhw yn sigo bôn ei breichie.
Edrychwch ym henod [~ mhennod] yr Anghyfiawnder
ag chwi beidiwch a dywedyd eich pader.
Madde i ni ein dyledion fel y maddeuwn ni i 'n dyledwyr.
Wel dyna air heb ronun [~ ronyn] o synwyr.
Dyled y wlad yw taly i ni ein trethi;
nid ym ni mor ffol ag y maddeuwn i y rheini.
Yn enw 'r Arglwydd a 'r Prottector,
mi a 'i tyna nhw o groen y clector [~ colector].
Mi dorra ar fyr — mae 'r dydd yn pasio —
rhag ych dal chwi yn rhy hir heb eich cinio.

Huson
Mi a 'th wele [~ welaf] di 'n bregethwr odieth;
mae geni [~ gennyt] ti ormod o ddysgeidieth.
Di gei rent eglwys geni yn rhywle
am bregethu hyd y teie.
O chai 'r fan i rwy 'n ei ddewis,
trowch i ffordd y ficcar Jervis. —
gweddi-ai [~ gweddïai] am rent LLan Silin —
mae fo 'n gweddio gyd'a 'r Brenin.

Enter Hamper.
RHedwch am yr hoedel
i hebrwng corph Oliver Cwrwmwel!
Fe ddarfu i 'r ange i daro i lawr,
reolwr mawr o ryfel.

Ffwl
A fu farw y Prottector

[td. 55]
Ffwl

yn jâch bregeth mewn esgybor?
Mi dafla fy llyfre i ficcer y plwy;
ni phoenai mwy yn ei hagor.

Huson
Ond rhyfedd ag ystowtiad fydde
yn rheoli ei wyr a 'i arfe.
Pa fodd y dichon ange gwan - pa
fentro dan ei gledde?

Hamp
Fo fwried o 'i lawr yn un llam;
mae 'n ddrwg i holl Gomitti Gwrexam.
Awn i 'w gladdu; ni welir dridie
un wên lawen ar y [~ fy] ngene.

Ffwl
Mae 'n chwith jawn gan ine amdano;
mi gymrwn ychydig ag ochneidio.

Exit oll.

Enter Hwsmon a 'r Cabelir P. Moris.
Oes neb a bryn nag ôg nag ared [~ aradr],
jau na thîd, rhaw na hatched?
Mi gymres ormod y boen yn methu;
nid ai i lafurio tir ond hyny.
Er ys ugain mlynedd rydwi yn poeni,
a 'r sawdwyr segur sy 'n gwresogi,
mynd a 'm gwair a mynd a 'm hŷd,
a 'm harian i gŷd yn drethi;
dwyn yr wŷn a 'r mynnod,
y gwydde a 'r jeir a 'r clomennod [~ colomennod].
Nid allai fagu dim ond chwain
oddi gerth brain neu lugod.
Gwaetha dim sy 'n torri y [~ fy] nghalon
eisio cael ei galw yn lladron
plundrio a dwŷn fy holl dda 'n glîn
oer ddiwedd i 'r Jddewon!
Er pan rhyw beth a 'r Protector

[td. 56]
Hwsmon

nid oes arnynt hwy mor ordor
o ffydd i ffydd yn gwau trwy ei gilydd
yn dweyd yn deg a thyngu celwydd.
Mab Crwmwel sy dda ei gydwybod;
mae fo ar swydd yn ymwrthod.
Pe cae fo i wllys, fe roe i goron
yn wir cofus i 'r aer cyfion.
Y rwan un Hasrig a FFlittwd
ag un Lambart gefell gofrwd
ydyw fo 'n erbyn Rwmp o Lundain.

Cabelir
Mi glywais ei fod gan Bresbiteriain.

Hwsm
Os dechre Mwngc a 'i armi daro,
mina fentrwn gyd ag efo.
Hai how, Wyddelod a CHymru,
gwell i ni 'n lladd yn lân na nychu.
Mi a fine o nerth y [~ y] nhraed tuag adre
i chwilio 'r clawdd a 'm cledde.

Cabelir
Aros, aros, cymer gwmni;
mi ddôf fine gyda thydi.

Exit y 2.
Enter y 2 FFlitwd.
Fy ffrind Hasrig, rwy mewn trymder.
Hasrig.
Fy ffrind FFlittwd, beth iw 'r matter?

FFlittw
Rwy 'n ofni mae gwell a fase i ni
gadw Lambert gyda nyni
rhag ofn bod General Mwngc mewn males;
pwy wyr pa feddwl sy 'n i fynwes?

Hasrig
Os oes ond hynny, byddwn lawen.
Gadewch iddo ddwad i Lunden.
Oni wneiff o 'r peth a fynwn,
mewn cur chwerwedd ni a 'i carcharwn.

[td. 57]
Enter Mwngc.
FFlittwd a Hasarig, aedwyr penna,
chychwi ei deuwedd a gyfarcha.

FFlittwd
General Mwngc, a ddarfu i chwi flino?
I Citti Lundain mae i chwi groeso.

Mwngc
Mi drafaelias yma attoch
i edrych pa ddiffyg a fu arnoch.
Mi glywais eich bod chwi heb jawn gyttuno;
yn gandryll jawn pwy all ych coelio?

FFlittw
A sefwch i gyd'a nyni yn jawn-wych
i chwilio 'r deyrnas yn gadarn-wych?
Dywedwch eich meddwl i ni 'n rhydd,
pa ffordd i 'r ffydd sŷ genych?

Mwngc
Dirgelwch gwr ydyw [celu ei] [~ ] feddwl.
Mi ddyweda i chwi beth, ni ddweydai mo 'r cwbbwl.
Pa'r ymrafel sydd yn LLundain
rhyngoch chwi a 'r Presbitterian?

Hasrig
Gwyr North Cymru oedd yn gweinio;
yng-Haer [~ yng NGhaer] y byont hwy 'n rubelio.
Os sefwch chwithe gyda nyni,
ni wnawn ein rhann am guro y rheini.
Mae prentisiad LLundain hefyd
a haeddent gosbedigaeth waedlyd.
Mae nhw yn ymgodi yn gyttun
ag yn an ufudd yn ein herbyn.

Mwng
FFri Parliament i yn gynta
i ddadwreiddio 'r anwiredda.
Nes cael gwybod ar bwy mae 'r beie,
mi a 'ch carchara chwi a nhwythe.

[td. 58]
Mwngc
Yr ydwi yn comittio FFlittwd a Hasarig
ac yn comittio pob ffenattig
ag yn ufuddhau i bob gofernor
a fy 'n rhwyda 'r hên Brottector.
Pob gofernor, pob capteiniad a phob offis
dan y Rwmp sy 'n byw 'n gariss.
Gildio, rhoddwch i lawr eich arfe
ag ewch yn fuan i 'ch trigfanne.

Enter Ffwl.
Mr Mwngc, Duw a 'ch cattwo;
myfi yn gynta sydd yn ildio.
Mi flinais yn plundrio gyd'a Rowndied;
i rydwi 'n leiccio troi fy siecced.

Mwngc
Mae i tti groeso. Glŷn yn ei harfe
a dyro y gwyr gerfydd ei sodle.

Ffwl
FFlittwd a Hasrig, y ddau rebel,
seccuttorion Oliver Crwmwel,
dowch yn fuan gyda mi
i ofun mersi i 'r marsiel.

Exit y 3.

Mwngc
Gwrandewch drwy 'r deyrnas, bonedd a gwerin!
I riwlio 'ch bonedd chwi gewch ych Brenin.
Myfi sy 'n ei ddethol a Duw sy 'n ei mddiffin [~ amddiffin]
ag yn ei blannu lle 'r oedd yr hên wreiddin.
CHarles; CHarles a fydd reolwr,
aer y goron, wiw-lan gongcweriwr.
Ni chewch i weled mwy o 'r trattur
o hên dreftadaeth Owen Tudur.

[Exit Mwngc].

Enter 4
1 FFlitwd a
2 Hasarig a
3 Hamper a
4 Huson.

FFlitwd
FFei, ffei, ni aethon yn ffylied;
Mwngc a 'n tywyllodd o flaen ein llyged.

[td. 59]
Ei ollwng a wnaethon i dre Lundain
a rhoi iddo ein harfe i 'n lladd ein hunain.
Och, na chawson dirion derfyn
cyn clywed proclaimio 'r Brenin!
LLawenach a fase gan y [~ fy] nghalon
fy mrathu a chledde dan y [~ fy] nwy fron.

Hasrig
Gwaeth na dim mae 'r Cabeliers
gwedi myned yn ffri howlders,
uwch ein penne ni yn 'swagrio
a nine tan ei traed ar syrthio.
FFei, ffei ini fod mor feddal!
FFei, o lid am fedru ymddial,
am na basem ni yn ei fwrdrio,
pan oedd dialedd dan ein dwylo.
Diymadferth iawn a fuom nine
a digoel jawn a digalonne
am golli 'r trefydd mawr a 'r cestyll
ni lesen o 'i hanfodd fyth mo 'i henyll.

Hamper
Roeddem ni ei gyd wedi diffrwytho;
roedd rhyw beth yn dal ein dwylo.
Er maint ein serch i golli ein gwaed,
nid alle ein traed symudo.

FFlittwd
Er bod ympiniwn yn ein penne,
ni fedrwn droi mo 'n tafode,
nag i ddywedyd gair i 'n safio,
pan ddaeth y matter i 'n comuttio.

Hasrig
Na ymrowch i farw cyn eich condemio.
Mae geni newydd i 'ch confforddio;
rhag colli ych parch a 'ch uchel râdd,

[td. 60]
Hasrig

ni ymrown i ymladd etto.
Nyni a 'scrifennwn lythyr
drwy dir Brydain att ein brodur.
Ni ddown fel eirth ei gyd ar unwaith
i 'w mwrdrio yn ei gwlaŷ [~ gwelyau] ryw noswaith.

Huson
Hynny a wnawn a byddwn barrod.
Ni fynwn bowdwr gwyn ryw ddiwrnod,
ag a ymladdwn yn ddisŵn
yn waeth na 'r cŵn cynddeiriogod.

Enter Ffwl.
Ai yma 'r ydych i gyd yn plottio?
Ewch att y marsiel, rwy 'n rhybiddio.

FFlittwd
Pam y rhaid i ti ein cyhyddo?
Nyni a 'th gododd di i falchio.

Ffwl
Mi a 'ch gadawaf i chwithe, y gwyr bonddigion,
pan ddarffo i 'r coedydd dyfu digon.

Huson a Hamper yn cychwyn ymaith.

Ffwl
Arhoswch yma etto!
Mae geni awdurdod i 'ch disbandio.
Moeswch arfe, ladron breision!

Hasarig
Cymer iti ynhŵ; yn boeth a bothon.

RHoi 'r arfe i lawr.
Pa beth a gawn ni i 'n maentaenio
gan fod y matter i 'n comuttio?

Ffwl
Dydd a nôs, hai, dos di
o nerth dy wythi i weithio.

Huson
Os rhaid i ni sydd wedi pesgi
deithio a gweithio o nerth y gwythi
ymado a 'r bir a 'r cwrw croyw-deg,
yr ydwi yn ofni y tawdd y [~ fy] mloneg.

Ffwl
Mi a 'th wele [~ welaf] di wedi casglu braster,
yn din dew jawn ag yn dender

[td. 61]
Ffwl
ag yn barod jawn i 'r hatched
a fynd di nôl y gigydd attad?

Hampr
Nid wy abl byth i weithio;
nid all y [~ fy] nghefn i mo 'r ystwytho.

Ffwl
Ow, paham iw hynny 'n rhodd?
Ai pawl a dyfodd drwŷddo?

Hamper
Wrth gael cymaint o seguryd,
mi ollyngais dros gô fy 'nghelfyddyd.
Nid oes geni ond gweddio;
bid byan yr êl hi yn rhyfel etto.

Ffwl
Ofer iti roi dy weddi;
dysg wers arall rhag dy grogi.

Hamp
Nis gwn i ple ar ddeu pen daiar
i gadewais i fy hampar.

Ffwl
Di a 'i gadewaist hi yn LLandderfel,
yngwystl cwrw wrth fynd i rhyfel.

Huson
Pe cawn i fenthyg manawed,
mi awn i drwsio sodle 'r merched.
Os medrai ddim o 'r hên gelfyddyd,
mi ai i chwilio am hemp i wneythr pwyntryd.

Ffwl
Ni chei di hempen yleni,
pe rhoi [~ rhoddet] ti aur amdani.
Nid ei i goblerieth i blygu garra
nes darfod naw mis y cebysta.

Huson
Gofyn i Fwngc a gawn i fynd tano;
ni drown yn Gabeliers etto.

Ffwl
FFwrdd, ffwrdd a chwi ffalswyr!
Ni wnewch fyth wasan'eth cywir.

[td. 62]
Huson
Awn, ni chawn mo 'r aros yma.

Ffwl
Gwared ohonoch gore pan [~ po 'n] bella.

Hamp
Awn, ni chawn ddim o 'r croeso
ffordd y bŷon gynt yn cwarttio
am ein castie pam y cawn
och Huw, i ble 'r awn heno?

Ffwl
Canlynwch eich trwyn tua 'r Nordd
i dreio 'r drâtt i sbeilio pen ffordd.

Huson
Am ein bod ni cŷd yn y sbeilio,
mi ro i ti fflagen wrth ymado.

Hamp
Mi ddo gyda thi yn y man
i geisio rhan ohono.

Exit ôll.
Enter 2 Mwngc.
Fy Mrenin CHarles o reiol waed cyfan,
mae 'n groeso wrthych i' ch eiddo eich hunan,
a dilynwch eich jawn ffŷdd
ag impiwch newydd winllan!
a Brenin.
I chwi rwy' yn rhwymedig,
fy amddiffynwr Mwngc garedig.
Mi alla eich cyfri yn ddiwâd
yn anwyl dad nodedig.

Mwngc
Gwyr gonest y deyrnas, bonedd a gwerin,
ufuddhewch, chwi gewch eich Brenin
i gael troi 'r ffanattig ymaeth
a raglyniodd y gelyniaeth.

Brenin
CHwi wyddoch y cam a wnaethont a myfi,
dwyn y teyrnasoedd a 'r cwbl oedd geni.
Hynny oedd yn peri i chwi gael pwŷs
a 'ch llwytho yn ddwŷs a threthi.
Nid wy 'n 'wllysio cosbi undyn
a fy 'n ymladd yn fy erbyn,

[td. 63]
Brenin
ond dial ar y rhai a dore heb derfysc

Mwng
CHwi ddywedasoch wreiddin fy meddwl:
y nhw a haeddant anferth drwbl,
y cigyddion a wnaeth gam;
can ddiodde am y cwbl.
Mi ddaethim unwaith etto i Lundain
lle bym a 'm llywydd yn byw 'n llawen.
Gwae fi; gwae hwythe dreigie drygfodd
pen grynion dwysion a 'i diosodd.

Enter Frenhines.

Mwngc
Yr Urddas Frenhines Mari,
mae 'n groeso wrthych i Lundan Citti.
CHwi ellwch bellach ddydd a nôs
yn ddiofal aros ynddi.

Brenin
CHwi, General Mwngc gywirlan,
i mae i mi ddiolch am y cyfan.
CHwi godasoch ar ei draed
o reiol waed y rwan.

Frenhines
Fy mab, fy mab, na byddwch ry feddal!
Nid ellwch i fod un awr yn ddiofal
nes ichwi grogi yr holl dratturied
a fu i 'ch erlyd mewn caethiwed.

Brenin
RHaid i mi fod yn drugaroccach
a chymryd y matter yn arafach
nes i 'r Parliament yn gyfion
farnu 'r drwg a chadw 'r gwirion.

[td. 64]

Ffwl
Oes yma neb yn ofni y Rowndied?
Doed i 'r tir gole, dim hwy nag ymguddied!
Mae 'r Cabelir yn mynd yn frâs
drwy jawn wych urddas chwardded!
A welodd neb yr Justus Brodsa?
A fu'o er ystalwm ddim fordd [~ ffordd] yma?
Gwr synhwyrol jawn oedd hwnw;
fo fu farw ddoe rhag ei grogi heddyw.
CHwi gewch yr un fath ar gyfreithie
ag oedd yn amser eich hen dade
a 'ch teidie wnae gadw diwrnod gwyl.
Wel dyna 'r gorchwyl gore:
rhag ofn penyd nid eill undyn
o fewn y deyrnas fyned ar'nyn.
Pan edrychwi ar ei thegwedd,
mi glywa sŵn y gynffon senedd.
Pob un sy 'n caru hawddgarwch
yn well na 'r trwst na 'r tristwch,
gan fod ein Brenin yn ein brô
fe ddarfu cwyno. Cenwch!

Gwnaethpwyd â / Made with Concordance