Barddoniaeth rydd allan o Lyfr Gwyn Mechell (NLW 832E) (1649–98 (ms. c/ 1730)), 302a–326b.

Cynnwys
Contents

2. Rhisiart Gray, Achwyn Gwr Ifangc ar Greulondeb ei Gariad (1649) Achwyn Gwr Ifangc ar Greulondeb ei Gariad, Y Gŵr oedd Rhisiart Gray. A.M. o Dre'r Go yn Llanbadrig, a r Ferch oedd Elsbeth Hughes Merch Huw Prisiart Griffith o'r Cefn Côch yn Llanfechell, yr hon a briodase Wiliam Roberts o Rôs Badrig, ag a ddug iddo Risiart Roberts yr hwn a werthodd y Cefn Côch i M.r Da. Llŵyd Person Mechell. 302a
3. Huw Wmphreys, Cân yn achwyn ar enllibwyr (1662) Cân yn achwyn ar enllibwyr. 303a
4. Cyngor Huw Wmphreys i'w Blant (1669) Cyngor Huw Wmphreys i w Blant Y Mesur Cwymp y Dail 304b
7. Owen Prichard Lewis, Ymddiddan rhwng Llangces Ivaengc a'r Hedŷdd (1668) Ymddiddan rhwng Llangces Ivaengc a'r Hedŷdd Yr achos oedd fal hŷnn: M.rs Margarett Goodman o Dal y Llŷnn wrth nithio yn amser Eira a ddaliase Hedŷdd, oddiwrth ba achos y mae'r Prydydd Owen ap Richard Lewis Taliwr o'r Aberffraw yn cymryd achlysur ei feddwl fôd y Llangces yn ymgynghori a r Aderyn pa fâth, neu pŵy ymŷsgc ei holl Gariadau oedd oreu iddi hi ddewis. Mae'r Prydŷdd yn Gwneuthŷr i r Aderŷn escluso pôb un a henwase hi, er maint ei rinwedda da, a i Cyfoeth, ag i ddewis Llangc Gwael heb ddim gantho, hwnnw oedd fâb iddo fo hun, sêf Richard Owen Tâd i Owen Owens o Dre-Ddavŷdd. Y Mesur. Lady Byram 307b
9. Rhŷs Gray, Ymddiddan rhwng Hên Ŵr a Llangc (1661) Ymddiddan rhwng Hên Ŵr a Llangc. 309a
10. Rhŷs Gray, Cân a wnaed i M.r Harri Bulkeley (1672) Cân a wnaed i M.r Harri Bulkeley, mâb i Arglŵydd Tomas Bulkeley o r Barn-Hill yr hwnn a amcanodd ddwyn trais ar Ellen Prŷs o Ben-Hwnllŷs, ag a rwystrŵyd gan un Michael Prŷs a ddigŵyddodd fôd yn clowed yr Ymadroddion. Y Mesur. Cŵymp y Dail. 309a
11. Edward Morus, Epithalamium (1673) Epithalamium. Neu Gerdd Priodas Hên Ŵr a Hên Wraig Y Mesur. Tromm Galon. 310a
12. Huw Morus (?), Cerdd i ofyn Coffor i Sion ap Huw Morus Cerdd i ofyn Coffor i Sion ap Huw Morus, lle mae pôb Braich i bôb penill yn Diwedd fal eu gilŷdd 310b
13. Huw Morus, Deisyfiad Priodas (1675) Deisyfiad Priodas. Y Mesur Trom Galon. neu Heavy Heart. 311b
14. Huw Morus, Cân a wnaed i ofŷn Ffidil (1680) Cân a wnaed i ofŷn Ffidil i Meister Salbri o Rug dros un Wiliam Probert yr hwnn a Fuase Ffidler Enwog yn ei Amser. Y Mesur Tromm Galon. 312a
15. Huw Morus, Cerdd a wnâed i Fwtler Glŷn Ceiriog (1667) Cerdd a wnâed i Fwtler Glŷn Ceiriog. Y Mesur Trom Galon neu Heavy heart 313a
16. Sion Prŷs: Y Breuddŵyd (1689) Y Breuddŵyd. Y Mesur Blodeu'r Dŵyran 313b
17. Sion Prŷs, Cyngor Hên Wraig i w Mâb (1669) Cyngor Hên Wraig i w Mâb. Y Mesur Cwympiad y Dail. 314a
18. Sion Prŷs, Cerdd o addŷsc mewn Carwriaeth (1675) Cerdd o addŷsc mewn Carwriaeth yr honn a yrrodd Sion Prŷs yn atteb i Sion Llŵyd Grwbi o Landrygan a yrrase ychydig Benhillion i ofŷn ei Gyngor Y Mesur. Triban. 314b
19. John Wiliams (Pont y Gwyddel), Cerdd yn Dychanu pôb Mâth ar Bobl (1665) Cerdd yn Dychanu pôb Mâth ar Bobl. 315a
21. Lewis Meyrig, Cyfflybiaeth Geirieu i w gilŷdd (1673) Cyfflybiaeth Geirieu i w gilŷdd ar Destŷn Carwr yn siarad a i Gariad 316b
22. Huw Morus, Cerdd i Ddiddanu Gwraig alarus (1681) Cerdd i Ddiddanu Gwraig alarus am farwolaeth ei Gŵr a dau o Blant Y Mesur Trom Galon. 317a
23. Huw Morus, Cerdd i ddiddanu Gŵr Clâf (1681) Cerdd i ddiddanu Gŵr Clâf. Y Mesur. Trom Galon 317b
24. Roger Wiliams, Galar Gŵr am ei Gariad a Gollase (1689) Galar Gŵr am ei Gariad a Gollase: Y Gŵr oedd Meister Roger Wiliams Person Aber a r Ferch oedd Meistres Alis Huws chwaer M.r Owen Huws o r Beaumares, yr honn oedd y Prŷd hynnŷ yn Wraig Weddw M.r Davŷdd Llŵyd Siencŷn o Lysdulas, a gorfod arni briodi M.r Tomas Fychan o dros yr Afon yn erbŷn ei hŵyllŷs. 318a
27. Wiliam Lewis et al., Ymddiddan rhwng Meister Wiliam Lewis o Gemlŷn, a i Fâb ynghyfraith... (1663) Ymddiddan rhwng Meister Wiliam Lewis o Gemlŷn, a i Fâb ynghyfraith M.r John Huws y Telyniwr a r Cantwr Mŵyn; ag Owen Lewis y Taliwr. Yr achos oedd fal hŷnn; Ni fynne M.r John Huws i Nêb i alw yn fachgen pann bassiodd o Bymtheg oed, ag am fod M.r Lewis yn ei alw yn fachgen, y tyfodd y ffray. 320b
28. Rhisiart Abraham, Cerdd yn achŵyn ar Ŵr Bonheddig (1673) Cerdd yn achŵyn ar Ŵr Bonheddig am dŵyllo'r Crwner o r Chwaen Ddu am ei Forwŷn 321b
29. Huw Bwccleu, Cân yn achŵyn ar Henaint (1660) Cân yn achŵyn ar Henaint 321b
31. Dafŷdd ap Huw, Cwmnhiaeth Merched Dinbech (1649) Cwmnhiaeth Merched Dinbech. 323a
32. Dafŷdd ap Huw, Ymddiddan rhwng Dŵy Chwaer (1657) Ymddiddan rhwng Dŵy Chwaer. 323b
33. Rhisiart Abraham, Senn i Forgan Sion o Benn y Groes Fawr yn Llanfechell, am gadw Puttain (1676) Senn i Forgan Sion o Benn y Groes Fawr yn Llanfechell, am gadw Puttain. 324a
35. Anon., Ymddiddan rhwng Hên Ŵr Musgrell ag anllad a Llanges Ievangc Nŵyfys Ymddiddan rhwng Hên Ŵr Musgrell ag anllad a Llanges Ievangc Nŵyfys Y Mesur. Follow your fancy. 324b
36. Ifan Jones, Cŵyn a Chyffes Gŵr am ei Fenŷw (1698) Cŵyn a Chyffes Gŵr am ei Fenŷw Y Mesur Triban Chwith. 325a
37. Anon., Cerdd yn Dychanu pôb mâth ar Bobl a gymmerase Arfeu ymhlaid Parliament Lloeger Cerdd yn Dychanu pôb mâth ar Bobl a gymmerase Arfeu ymhlaid Parliament Lloeger yn y Flŵyddŷn 1643 i ymddiffŷn Rhydddŷd y Bobl oedd yr amser hwnnw yn debŷg i gael i sengi lawr gann y Brenin Siarlas I. Y Mesur. Restauration: ond yn gyffredinol y gelwir. The King shall enjoy his right again: 326a
[td. 302a]

<2. Rhisiart Gray, Achwyn Gwr Ifangc ar Greulondeb ei Gariad (1649)> Achwyn Gwr Ifangc ar Greulondeb ei Gariad, Y Gŵr oedd Rhisiart Gray. A.M. o Dre 'r Go yn Llanbadrig, a 'r Ferch oedd Elsbeth Hughes Merch Huw Prisiart Griffith o 'r Cefn Côch yn Llanfechell, yr hon a briodase Wiliam Roberts o Rôs Badrig, ag a ddug iddo Risiart Roberts yr hwn a werthodd y Cefn Côch i M.r Da. Llŵyd Person Mechell.


Merch a 'm dug i 'r Bŷd drŵy ofŷd
Merch a 'm magodd bôb ychydig
A Merch sydd debyg oni 'styrria
i ddŵyn f' Enioes i o 'r Bŷd ymma

Merch a fu drŵy Gur a gofal
Ar ei Braich i 'm carrio 'i 'n ddyfal
Ac yr awrhon mewn un Ŵythnos
Merch i 'm Bêdd a 'm gyrrodd i agos

Mi fum Naw Mis yn goeg egwan
Ynghrôth Merch heb allu ymlwybran
A thri Seith Mis gwedi 'ngeni
Llaeth ei Bronn oedd ymborth imi

Onid ystŷr gwawr ddigynnwr
Wrth fy mhoenŷs glŵyfys gyflwr
Drŵy hawddgarwch blodau 'r Merched
Gwae fi 'n llŵyr yr Awr i 'm ganed

Och i 'r Famaeth, Ferch a 'm magodd
Och i 'r 'ffeiriad a 'm bedyddiodd
Och a chann och drŵy ochneidiau
Am na b'aswn heb laeth Bronnau

Rŵy 'n dymuno hŷnn yn ddiball
Cyn i 'r Cybŷdd Cerndew angall
Dy briodi 'nghangen hawddgar
Gael awr o 'r blaen fy Nghorph i 'r ddaiar

Os yn gŷnt y bydda i marw,
Yn rhodd; i 'm Bêdd n' adewch mo 'm bwrw
Dann y bo Briodas gwengu
Dyna 'r Dŷdd y mynna 'nghladdu

Yna gwelwch Wenn lliw 'r man od
A 'i holl ffrins yn Drŵp yn dyfod
A 'i Gwŷr wrth Gerdd, a 'i Miwsig odieth
Yn Chware 'flaen fy ngwawr Sidanbleth

i mewn pann ddelo pawb wrth ddawnsio
Doyded rhŷw un (rŵy 'n dymuno)
Gwiliwch, Gwiliwch ar eich Camra
Bêdd y Gŵr a 'r Gŵr Sŷdd yna.
[td. 302b]

Ag yno f' alle i 'm Cangen feindw
Pann grybwyllir am fy henw
Y bydd llŵyr edifar ganddi
Yn ddifarn heb Gwêst fy ngholli.

Cynn y rhoddo Meinir gannaid
Ei llâw fain i 'mglymmu a 'i Chariad
Er mŵyn Duw agorwch f' Amdo
Cewch weled Gwaed o 'm Corph yn llifo

Codwch, Cerddwch, Ceisiwch Grwner
Rhifwch Gwêst i 'xamnio 'r Matter
Coded rhŷw rai Nghorph i fyni
i edrŷch pa le mae o 'n gwaedi

Yno gweliff pawb yn eglur
P'le mae Nghûr a 'm poen a 'm dolur
Yn fy nghalon bâch o 'i deutu
Dan Saeth Ciwpŷd gwedi mrathu

Ac oddiyno Nghorph a gleddwch
A lliw 'r Eira chwi gomittiwch
Nedwch bŷth yn ôl dull Dynol
i 'm lloer burwen gael ei threiol

Ni fynnai fynd mo 'm bun gannaidwen
Nag i Lwdlo, nag i Lunden
Ond mi fynne gael 'i arrainio
Mewn Cŵrt sydd waeth dann gaeth Giwpeido

A phan ddêl hi gynta yno
Fe roir deuddeg arni i gwestio
Ag yn euog o 'm Marwolaeth
Mewn un awr fe ' bwrrir 'Soweth

Ha Ferch gwêl ba bêth a wnaethost
Dy ddrŵg weithred gwnn y gŵyddost
O dra serch a Chariad iti
Mâb a 'th gara ' roist di ' golli

Am dy hoedel dymma Derfŷn
Gwrando adrodd Barn i 'th erbŷn
O dra llîd, nid Cariad iti
Mâb ni 'th câr a 'th rhŷdd i 'th colli
[td. 303a]

Ef a esŷd yn dra amlwg
Rŷw Ŵr Ifangc glân ei olwg
Ddau Saeth plwmm yr Ustŷs digllon
Yn farwol iawn o bobtu ei Chalon

Rhowir, Rhowir am na charwn
Gwnn ni cha, ni cheisia Bardwn
Am na baswn yn ystyrrio
Wrth y Mâb a rois mewn amdo

Pôb Merch lân, pôb Geneth ddiofal
Ohonofi cymerwch siampal
A phôb Merch o ddrŵg Naturiaeth
Doed i 'w rhann yr un Farwolaeth.

Llannerch flîn ŷw Cŵrt Ciwpeido
Gwedi entrio unwaith yno
Nêb ni ddiangc heb ei farnu.
Ond dau well na hynn oedd caru?
Rhisiart Gray a 'i Cant 1649

<3. Huw Wmphreys, Cân yn achwyn ar enllibwyr (1662)> Cân yn achwyn ar enllibwyr.


Dymma Fŷd gwrthw'nebŷs creulon,
Digon ŷw er torri Calon
Y Dŷn gonest a fae 'n ceisio
Bŷw 'n ddiniwed tre fae ynddo

Mae gan rai falais a chenfigen
Gwradŵydd, Enllib a drŵg absen
Saeth mewn bŵa i seuthu atto
Gwnaed ei oreu, troed lle mynno.

Gwammal fŷdd, os llawen g'lonnog
Os Prudd, ma 'n gostog, Du, afrowiog
Os bŷdd cellweirgar a Pharablŷs
Mae 'n doydyd gormod, mae 'n siaradŷs

Os bŷdd iddo gyfarch Geneth
A 'i saliwtio a chusan afieth
Mae 'n Ddŷn anllad, waitiwch arno
'Mysc Merched nid ŷw o 'i goelio.

Os distaw fŷdd, yn brŷnn ei eirie
Neu 'n ŵyl ynghwmni glân Dduwiese
Ffei anifail mud, i ffordd ag efo
Ewnuwc ŷw, mae wedi ei gweirio

Os mynd a wneiff mewn harddwisg gynnes
Mae 'r Gŵr yn falch, mae 'n llawn o rodres
Os bŷdd ei wisc yn llomm, neu 'n garpiog
Ni thâl o ddim, mae 'n Feggar lleuog.
[td. 303b]

Os bŷdd lletteugar a chroesawŷs
Yn hael o 'i fŵyd, yn fŵyn, yn weddŷs
Fe geiff ogan Glân ei Galon
Mae 'n rhodresgar, mae 'n afradlon.

Os eiff i 'r Dafarn gida chwmni
Ni bŷdd o 'n gwneuthur dim ond meddwi
Os gartre y trîg, cann gwaeth ŷw hynnŷ
Nid ŷw ond Clown a Bwmcin cegddu

Os C'lonnog fŷdd a stowt, mae 'n geccrus
Os mŵyn a llonŷdd, llyfrgi ofnus.
Os hael o 'i Bwrs, afradlon ydi
Os cynnŷl fŷdd, mae 'n Gybŷdd drewi.

Os tyngu a wneiff (ag iawn yr henwir)
Melltigedig Ddŷn f' ai gelwir.
Os gwilio a thyngu rhag ofn Melldith
Puritan ŷw, mae 'n llawn o ragrith.

Os mynd i 'r Eglwys yn fucheddol
i wasanaethu Duw 'n grefyddol,
Hela mae am glôd gann ddynion
Pharisead ŷw fo 'n union

Gwnaed ei oreu, Gwnaed ei amcan
Fe fŷdd arno fai yn rhŷw fann
Ni cheiff orwedd gida 'i 'nwylddŷn
Ei wraig ei hun, heb rai 'n gwarafŷn.

Hên Ddŷn gŷnt ei Assŷn rhŵymodd
a thros âllt y môr f' ai taflodd
Am na fedre 'r Hên ŵr Penffol
Wrth drafaelio foddio 'r bobol

Ond Mi a fyddaf yn synhŵyrach
Ac ni ddilynai ffordd y Cleiriach
Gwradŵyddant hŵy, a gwelant Feue
Yn ôl fy meddwl y gwnâf inne

Byddaf lawen, Llonn a heini,
Prudd, os achos fŷdd yn peri
Cellwar a wnâf mewn Cwmni hynod,
Ac etto gwiliai siarad gormod.

Os deuaf at Dduwiese gwynion
Mŵynedd, moddus, glân o galon
Cellweirio a wnâf i ennŷll Cariad
Ac etto gwilied fod yn anllad.
[td. 304a]

Mi fydda 'n ddistaw yn gymhedrol
Yn brŷnn fy ngeiria, yn ŵyl, yn foddol,
Bêth ai Ewnuwc ŵy, ai peidio,
Os bŷdd pleser, nhw gaen dreio.

Mi âf drŵy Dduw mewn harddwisc gynnes
Ac etto heb arnai 'n gronŷn rhodres
Heb lâw 'r henw o Feggar lleiog
Oer, a gwrthŷn ŷw gwisc garpiog.

Os dâw i 'm Bŵth Gymdeithion hynod
Nhw gaen rann o 'm bŵyd a 'm diod
Yn ddirodres, o bur galon
Er hŷnn ni fyddai bŷw 'n afradlon

Mi âf i 'r Dafarn gida chwmni
i fôd yn llawen, nid i feddwi
Pawb a wneiff i Landdŷn groeso
Ni cheiff y Cybŷdd ond ei fflowtio

Ni byddai ofnus, ond yn G'lonnog
Wrth Gnâf yn stowt, wrth fŵyn yn rhowiog
Nid allai aros bôd yn llyfrgi
Bôd yn geccrus blinach hynnŷ.

Ni thyngai ddim, mi 'mgroesa beunydd
A dwng heb achos, ni haedda lonŷdd
Cann gwell genni ddiodde gwradŵydd
Na thrŵy dyngŷ ddigio 'r Arglŵydd

Mi âf i 'r Demel yn fucheddol
A thrŵy nerth f' Arglŵydd, yn grefyddol
Ni phrisiai chwaith, drŵy foddio 'r hael-dad
Er fy ngalw 'n Pharisead.

Gwna fy ngoreu, gwna fy amcan
Na bo arnai fai mewn un mann
Ond pe doe ddrŵg ar ffordd i 'm rhŵystro
At f' Anwylddyn profai fentrio.

Yr ydŵy 'n scornio gwradŵydd Dynion
Os Cae nghydŵybod yn heddychlon
Dŷn, er bygwth a fŷdd marw,
A 'i Domm ei hun Cymynŷr hwnnw

Tôst oedd clywed ehud ddynion
yn barnu ar eu cŷd-Grist'nogion
Fel ped faen yn ddigon ysbus
Ar ddirgelion Duw, a 'i ewyllys.

Rhag barnu nêb, mi brofa ymmattal
Duw pie barnu, Duw pie dîal
ffug a ffals ŷw barnad Dynion
Yr Arglŵydd Dduw a farna 'n union.
[td. 304b]

Dŷn Sŷ 'n barnu 'n ôl y golwg
Ni ŵyr ddim ond sŷdd yn yr amlwg,
A Duw sŷdd wîr chwiliedŷdd calon
Am hynnŷ bŷdd ei farn yn gyfion

Duw, barna fi a barn drugarog
Dy Gynddaredd sŷdd rŷ lidiog
Os berni ni yn ôl ein beie
Ni saif o 'th flaen y Cristion gore.
Huw: Wmphreys Person Trefdraeth a 'i Cant 1662.

<4. Cyngor Huw Wmphreys i'w Blant (1669)> Cyngor Huw Wmphreys i 'w Blant Y Mesur Cwymp y Dail


Arwŷdd attoch' ŵy 'n ei ddanfon
Nid o Aur nag arian Gwynion
Nid Twrci styff, nid Perl o 'r India
Nid Em'rald Onyx Thus na Chasia

Nid rhôdd o Ddefaid, Mintau o Wartheg
Ond pêth ŷw brissio ganwaith chwaneg
Bŷw 'n grefyddol Dadol gyngor
Gwerthfawroccach na 'r hôll drysor

Ofnwch Dduw, ag ef gwasnaethwch
A hôll Nerth eich Calon weliwch
Er Da na Drŵg na ddigiwch mono
Yn ddiragrith glynwch wrtho

Yn ddyfal cedwch ei Orch'mynion
Nad ânt fŷth o 'ch Co na 'ch Calon
Byddant i chwi 'n Riwl i weled
Bêth i wneuthŷd, bêth i 'w wilied

Hŵy a ddyscant i chwi allu
i adnabod Duw a 'i garu
Fal y galloch gael ymwared
Lle mae nawdd i gael, a Nodded

Ymarferwch weddi 'n ddyfal
Rhag Temtasiwn cymrwch ofal
Crŷ ag anial ŷw 'r Gelynion
A Chwithe 'n Ehud ag yn Wirion

Wrth ddŵys ystyried hŷnn, Gweddîwch
Yn ddibaid ar Dduw yr Heddwch
Cadarn ydi Gweddi wresog
A mawr yn Llyfrau 'r Hôll-alluog

Iago, Moses ysbŷs ydi
a dreisiasant Dduw a Gweddi
Ysbŷs hefŷd gadw o Weddi
Y Tri Llangc yn tân rhag llosgi

Grasol ŷw, a llawer ddichon
Taer ag ystig weddi 'r Cyfion
Trywanu wneiff hi 'r Nefoedd uchod
Ag ni ddescŷn heb ei cherdod.
[td. 305a]

Gair Duw 'n gyfan cofiwch wrando
Nad âed o 'ch Co, myfyriwch arno
Fo fŷdd ichwi 'ch cadw 'n Darian
Ag yn Gledde i frathu Satan

I 'r Traed yn Llusern, goleu i 'r llygaid
Ymborth bywiol, bŵyd i 'r Enaid
Mewn Ing a blinder, Cyssur parod
Rhybŷdd da i ochelŷd pechod

Rhinwedd ŷw i wneuthŷr mowrlles
Fal Dau-finiog Gledde Achilés
Taro a brifo a wneiff yn ffyrnig
Ag i Iachau 'r un briw, mae 'n Feddŷg

Fe bâir ddychrŷn, fe bâir Syndod
Ar y Galon, ar Gydŵybod
Dŵg Bechadur o wann obaith
i 'w achub oddiwrth Borth Marwolaeth

Ar ôl hynny f' a 'i bywocca
Cyfŷd, cynnal, llawnycha
Fo a hiachêiff a 'i addewidion
Sŷ 'n rasol pêr o Ene inion

Na Arfer Gelwŷdd, rhag cael drygair
Nag o ddifri nag o gellwair
Y Celwyddog diras difri
O Ddiawl y mae, ei Blentŷn ydi

Ymhôb Stât gochelwch falchder
Rhyfŷg, Rhodres, Traha, uchder
A ymdderchafo, a ostyngŷr
A 'r Gostyngedig a dderchefŷr

I 'ch Gwell rhowch barch, i 'ch Cydradd ynta
Rhowch iddo barch yn ôl yr haedda
Na ddiystyrwch mo 'r Cardottŷn
Rhowch iddo barch dros Dduw yn echwŷn

Eich Gwell a ddisgwŷl eich anrhydedd
Rhowch i 'ch Cydradd Barch yn weddedd
Rhowch i 'r Tlawd yn ôl eich gallu
Descynniff Bendith Duw 'chwi 'm hynnŷ

Na adewch i Satan Rudo monoch
i gymerŷd ond yr eiddoch
Os tlawd yn bŷw, os C'waethog fyddwch
O 'r eiddo arall dim na cheisiwch

Byddwch Onest, gwiliwch bechu
Drŵy Butteindra, a Godinebu
Na adewch arnoch eisie ymgroesi
Am air Gogan a Thylodi

Nid oes ond Mesur bŷrr o amser
i alw 'r pechod hwnnw 'n bleser
Ond y Gwarth a ddêl oddiwrtho
Ceiff yr heppil rann ohono

Gochel gyfle, cymmer Gyngor
Cyfle sŷ 'n dŵyn Drŵg i Esgor
Dihareb wîr, a dwydiad hynod
Gochel gyfle, Gochel Bechod
[td. 305b]

Yn Fâb, yn Ferch Gochelwch yfed
i 'r naill a 'r llall y mae cin rheittiad
Yn Fâb yn Ferch ger bronn yr haeldad
Y mae Meddwdod yn fai anfad

Cynnwr Penn, anrheithiad Wyneb
A llawn dorriad gwîr ddiweirdeb
Terfŷsc Tafod, cochni llygaid
Anrhaith meddwl, lladdiad Enaid

Colled amser, C'wylŷdd buchedd
Bryntni Moeseu, gwarth anrhydedd
Difetha ei wraig a 'i Bland drŵy gamwedd
A wneiff y Meddw, brwnt ei fuchedd

I gadw nid ŷw 'r Meddw happlach
Nag ydi 'r Gogor, ei Gyfrinach
Na gwasanaeth ni wneiff aelod
Llâw na Throed, na chlust na Thafod

Doede Homer fôd i Circes
Droi yn Fôch Gwmpeini Ulŷsses
Wits a troadd, bêth oedd hi 'nd Diod?
A Droes yn Fôch aflendid Pechod.

Alexander a wnaeth Lofruddiaeth
Yn ei Wîn, gann lâdd ei Frawdmaeth
Ond pann ddefrôdd o 'r meddwdod allan
O 'r achos mynne lâdd ei hunan

Noah 'n Swrth ar Wîn a feddwodd
Ag yn ei Babell a ymddinoethodd
Lot gan feddwi anwarthus pechodd
Ac o 'i ddŵy Ferch, dau Fâb a 'nillodd

Y Cynta o 'r rheini y Bŷd a orchffygodd
A Noah rhag y Diliw ' ddiengodd
Rhag Tân Sodom, Lod a gadŵyd
A 'r tri gann feddwdod a orchffygwyd

Cymrwch boen, gochelwch ddiogi
Ni bŷdd i Ddiog ddim daioni
Oni anŵyd Dŷn i lafur?
Y mae segurdra 'n erbyn Natur

Er i 'r Arglŵydd blannu Eden
Yn llawn o ffrŵyth yn Nhîr y Dŵyren
Oni osododd o Adda ynddi
i Lafurio, ag nid i ddiogi?

Y mae segurdra yn dra enbŷd
Fo fŷnn y Segur waith i wneuthŷd
Eiste dann y Prenn 'r oedd Adda
Pann y temptiŵyd efo 'g Efa.

Na chynhyrfed bŷth mo 'ch Calon
Er eich geni 'n Wenidogion
Ni roes Duw i Nêb mo 'r Cyweth
Yn rhâd, heb iddynt wneuthŷr rhywbeth

Gwasnaethodd Iacob ddau saith mlynedd
I 'w chwegrwn Laban am ei Wragedd
Dyna 'r môdd y bu i 'r Hael Dad
Roi 'ddo Godiad, Parch a Chariad

O Garchar trîst, o drwmm gaethiwed
O Wasnaethu 'n wâs dann Feistred
Y Daeth Ioseph i anrhydedd
Ag anferth rŵysg, a chodiad rhyfedd.
[td. 306a]

Bêth oedd Moses ond bugeilio
Praidd ei Dâd ynghyfraith Iethro
A dyna 'r prŷd drŵy fawr lawenŷdd
Yr ymddangosodd Duw 'n y Mynŷdd

O Fugeilio 'r Defaid gwynion
O fewn Corlannau Iesse ffyddlon
Y dug Duw ei gu wâs Dafŷdd
O fôd ar Israel yn ben-llywŷdd

Bêth oedd Esther wenn ond alltud
Yn bŷw 'n y bŷd mewn Coegni ag adfŷd
Pann y cododd Duw gorucha
Hi 'n Frenhines Media a Phersia

Mae Duw etto yn 'r un allu
Hawdd y dichon o dderchafu
Y sawl a gwasnaetha 'n ffyddlon
I 'w osod gida Phendefigion

Yfi sŷ 'n mynd i ffordd fy Nhadau
Ag yno ar fyrder chwi ddowch chwithe
Attolwg gwnewch fy hôll orch'mynion
Gwasnaethwch Dduw, 'nrhydeddwch Ddynion
Huw Wmffreys Person Trefdraeth a 'i Cant. 1669

[td. 307b]

<7. Owen Prichard Lewis, Ymddiddan rhwng Llangces Ivaengc a 'r Hedŷdd (1668)> Ymddiddan rhwng Llangces Ivaengc a 'r Hedŷdd Yr achos oedd fal hŷnn: M.rs Margarett Goodman o Dal y Llŷnn wrth nithio yn amser Eira a ddaliase Hedŷdd, oddiwrth ba achos y mae 'r Prydydd Owen ap Richard Lewis Taliwr o 'r Aberffraw yn cymryd achlysur ei feddwl fôd y Llangces yn ymgynghori a 'r Aderyn pa fâth, neu pŵy ymŷsgc ei holl Gariadau oedd oreu iddi hi ddewis. Mae 'r Prydŷdd yn Gwneuthŷr i 'r Aderŷn escluso pôb un a henwase hi, er maint ei rinwedda da, a 'i Cyfoeth, ag i ddewis Llangc Gwael heb ddim gantho, hwnnw oedd fâb iddo fo hun, sêf Richard Owen Tâd i Owen Owens o Dre-Ddavŷdd. Y Mesur. Lady Byram


Fal 'r oeddwn foreuddŷdd, mi gefais y Gâd
Yn rhodio fy hunan yn rhŷw gwrr i 'r Wlâd
Mi glown ymddiddanion ynghysgod têw Lŵyn
Rhwng Geneth ireiddwen, a 'r Hedydd bâch mŵyn

Pŵyso wneis attŷn i gyscod y Gwrŷch
i gweled nid oeddwn, eu clowed oedd wŷch
Clown adlais yr Hedŷdd yn Cŵynfan morr brŷdd
Dôd gwarters, di 'm deliast, O gollwng fi 'n rhŷdd

Bêr Heden, bur Odiaeth na chymmer mo 'r brâw
Er digwydd ohonoti ddyfod i 'm Llâw
Ni wna mo 'rr Niweidion i ti nag i 'th Rhŷw
Moes Gyngor (rŵy 'n gofŷn) i mi tu 'g at fŷw?

Pa gyngor a fynnu di gael gann fy mâth
'Rwy fal y Llygoden yngwinedd y Gâth
A 'm Calon yn Cleppian, ti glowi dy hûn
Rŵy 'n ofni am fy Einioes dann ddŵylo fy Mun

Am d' Einioes na ofala, gwrandawa 'r dy gŵyn
Cei hedeg yn hoywŷch i frîg y têw Lŵyn
Ond ynghynta moes wybod, a hynny 'n ddiffael
Pa ffasiwn Gywelu sŷdd oreu i mi gael?

Ni fedrai roi cyngor o ganol y dsêl
Ond coelia dy addewŷd, a doed i mi a ddêl
Am hynnŷ moes wybod dy feddwl yn frau
Pa ffasiwn Gariadeu yr ŵyt 'y 'w mawrhau?
[td. 308a]

Rŵy 'n caru Gŵr Ivangc Bonheddig glân mŵyn
A hwnn nid 'wy 'n ammeu na wrendi fy nghŵyn
Ped fae gantho Gowaeth rhann a gawn i
Nid oes ond ychydig o ddoeydŷd i chwi

Gwŷr Ievangc Bon'ddigion sŷ 'n Llownion o Serch
Ni adwaen mo 'i ffittiach i 'mweled a Merch
Pan ddarffo 'r Gynysgaeth, a 'r Power yn wann
Fe dderfydd y Mŵynder a 'r Caru 'n y mann

Mae Cerlŷn tra Ch'waethog mewn ewyllŷs da i mi
A Chantho dda bydol na ŵyr o mo 'u rhi
Er maint ydi gowaeth, a 'i Arian yn Bwnn
Ni ddâw at fy nghalon i garu mo hwnn

Os Cerlŷn a geri fo ddoydŷff yn Dêg
Cottyn cybyddedd ni wneiff o dda i neb
Fo 'th rhydd di mewn gofal tra bo'ch ti 'n y Bŷd
Pan weloch di hynny fe altria dy brŷd

Gŵr Ievangc o Uchelwr Sŷ 'n bŷw gida 'i Dâd
A hwnn sŷ 'n fy ngharu ni cheisia fŷth wâd
A minneu sŷdd weithieu o adde i chwi 'r gwîr
Yn gweled yn ddedwŷdd gael Tyddŷn o Dir

Er maint ydi gowaeth, er daued i 'w Dîr
Gwilia gam-gymrŷd dy feddwl yn glîr
Ei Dâd sŷ 'n uchelwr tra bo fo 'n y Bŷd
A Wyddost ti a beru dy Einioes di Cŷd?

Secuttor tra Ch'waethog ynghyntedd y Wlâd
A hwnn sŷdd i 'm caru ni cheisiai mo 'rr wâd
A phawb a 'r a 'i hedwŷn sŷ 'n doydyd yn ffrom
i fod o 'n Gyfoethog a chantho Gôd tromm

Odid secuttor na rŷdd o Gaw camm
Cyndŷn, anhydŷn, ni pherchiff mo 'i Fam
Dwndrio 'm y Cowaeth a gafodd wrth Siawns
Os dwedi dimm wrtho fo ddilia dy Bawns

Gŵr Gweddw pert C'waethog sŷ 'n bŷw yn fy mhlŵy
Fo gladdodd yn barod o Wragedd Da ddŵy
A minneu 'di 'r Drydedd a fynuff o gael
Neu atteb y foru, a hynnŷ 'n ddiffael

Mi ddoeda 'ti chwedel os celu fy Mun
Gŵr Gweddw go anhydŷn gwna 'i gyngor ei hun
A dwndrio 'm y Gwragedd a roes yn y Bêdd
Pann glowoch di hynnŷ fo altria dy Wêdd

Un ffyddlon o Lengcŷn mewn Synwŷr ag Oed
A hwnn pe dymunwn, doe gida mi 'r Coed
Pe bae o C'waethogcach mi cerwn o 'n gu
Dŷn Ievangc naturiol hawddgaredd mŵyn hu.

Na ddyro mo 'th hyder ar Fwnws y Bŷd
Nyddu di ei feddwl yn wden o hŷd
Gwybŷdd hŷnn ymma, considria fy Ngwenn
Bŷdd anodd ei ŵyro pann êl o 'n hên Brenn.

Ni roddai mo 'm hyder ar fwnws difŷdd
Ond bellach gollyngai 'r Carcharor yn rhŷdd
Ag am dy Gynghorion ni 'nghofiais i 'r un
Mi rendri nhw o newydd pann gaffwy fy hun

Ag yno fo Hedodd yr Hedŷdd yn ffri
Rhoi ffarwel tybiase heb ŵybod i mi
i 'w Dseler Naturiol hawddgaredd myn Mair
Lle Base fo ' ngharchar dros ddwyawr neu dair
[td. 308b]

Yna mi godais o gyscod y tŵyn
Lle clowswn i 'r cwbwl ymddiddan tra mŵyn
M' Edrychais o 'm Cwmpas ni welwn i 'r un
Ond Geneth ireiddwen a minneu fy hun

Cyferchais well iddi y Gannaid Lân wenn
A Minneu 'n Ddŷn Ofer, da heuddwn gael Senn
Mi bwysas nes atti 'r arafedd Dlŵs Fun
Dymunais gael Cusan heb wybod i 'r un.
Owen Prichard Lewis a 'i Cant 1668.

[td. 309a]

<9. Rhŷs Gray, Ymddiddan rhwng Hên Ŵr a Llangc (1661)> Ymddiddan rhwng Hên Ŵr a Llangc.


A m 'fi 'n rhodio ar foreuddŷdd
Dann fyfyrio, 'r lether Bronŷdd
C'arfum a Henwr mŵyn afieithŷs
A 'm Crosafau yn Gynghorŷs

Dŷdd da i 'r Glanddŷn pert ei foddeu
Duw 'n rhŵydd f' Ewŷrth a fo i Chwitheu
Par a helŷnt sŷdd i 'th ymlyd?
Serch, a ffoledd ag Ieviengctŷd

Bu rhain gŷnt i 'm trwblio inneu
Nhw allen fôd, nid ydŵy 'n ammeu
Ond yn awr mi rhois i fynŷ,
Pan elŵy 'n Hên gwna inne hynnŷ

Serch a laddodd Byramus, fawrgrŷ
Mâth ar ansiawns ydoedd hynnŷ
Ag a ddifethodd lawer Glanddŷn
Nid y fi mo 'r un ohonŷn

Gwagedd sŷ 'n cynhyrfu 'viengctŷd
i ba beth? rhowch atteb diwyd?
i bôb mâth ar annuwioldeb
Och! ni ddilynai fŷth ffolineb.

Amser sŷdd i bôb Masweidddra
Di a 'i cymeraist gida 'r hŵya
Pa'm a doedwch f' Ewŷrth hynnŷ
Am fôd ffoledd i 'th orchffygy

Bêth sŷdd oreu 'm gosbi ffoledd?
Synwŷr faith a Duwiol fuchedd
At bŵy mae mi geisio 'r heini
Gann wneuthurwr pôb Daioni

Pa fôdd y Ceisiai gann fy ngheidwad?
Drŵy ddŷfn weddi a phur ddeisyfiad
A geidw 'r Rhain fi 'ddiwrth bôb dialedd?
Os Di a 'i dilŷn hŷd y Diwedd.

Os dâw gofŷn pŵy yn gyson
A geisiodd lunio 'r ymadroddion
Rhŷw Ddŷn Ievangc mŵyn cyfannedd
Sŷdd yn ffaelio barrio ffoledd.
Rhŷs Gray a 'i Cant. 1661.

<10. Rhŷs Gray, Cân a wnaed i M.r Harri Bulkeley (1672)> Cân a wnaed i M.r Harri Bulkeley, mâb i Arglŵydd Tomas Bulkeley o 'r Barn-Hill yr hwnn a amcanodd ddwyn trais ar Ellen Prŷs o Ben-Hwnllŷs, ag a rwystrŵyd gan un Michael Prŷs a ddigŵyddodd fôd yn clowed yr Ymadroddion. Y Mesur. Cŵymp y Dail.


A m 'fi 'n myned (mi fynega)
Heibio i Lŵyn o Goed o 'r tecca
Gwelwn Ferch 'r un liw a 'r Ewŷn
îs lâw 'r Coed yn Medi Rhedŷn

Gwelwn Fâb yn llammu llŵyneu
Drŵy fawr frŷs yn torri cloddieu
Ag yn cyrchi 'n inion atti
Ag yn doedŷd nôs dawch wrthi
[td. 309b]

Cynta golwg Gwelwn arno
A bereu ei hŵyneb grasol wrido
O wîr ddychryndod Och, O Druan!
i lawr o 'i Llâw gollynga 'r Crymman

Yn ei Gwen law ynteu 'mela
Dymma 'r Sutt a 'r môdd a doeda
Llawer gwaith fy Ngwenn lliw 'r Eira
Y dymunais dy gael di ymma

Gwae fi nyfod! Gwae fi ngeni
Och Dduw! bêth a wnewch a myfi?
Er mŵyn y Gŵr a 'ch prynnodd chwithe
(Rŵy 'n glâ iawn) a gae fynd adre?

Nid oes arnat di mo 'r Dolur
Mae gennit ddigon o ddrŵg Nattur
Gwnn nad eid di 'n Forwŷn weithan
Nes y Caffŵy Nghwbwl amcan

Duw! par amcan ydi hwnnw
A wnewch a Merch sŷ 'n ymil marw?
Gwnn na byddwch chwi mor Anlan
Mae 'chwi Bedair Chwaer chw' hunan

Ped fae i mi Chwiorŷdd Ddeuddeg
O Gwnae undŷn iddŷn Niwed
Mynn y Diawl mi traetha iti
Mynnwn naill ai Lâdd neu Grogi

Er eich bôd yn Ŵr Bonheddig
Yn cael eich perchi bôb ychydig
Duw a safo gida Siarlas
Sŷ 'n Rheolwr ar y Deyrnas

Well, Go to! fe ddarfu 'r siarad
C'ôd a 'th Lâw dy hun dy ddillad
Eich nawdd er Duw! a llai o 'ch Geirieu
Na wna dros fy mrathu a Chleddeu

Myned yn ei chŷlch o ddifri
Yr oedd ar gael y Maes oddiarni
Min' attebais am y Terfŷn
Paid a 'r Ferch, tydi 'r Gelŷn

Mae 'n well ginnî na Mîl o Bunna
Fôd yn gwrando dy 'Fadrodda
Er afrowoccad ŵyt ti 'r Ceneu
Hi geiff fynd yn Forwyn adreu

Os dâw gofŷn bŷth yn unlle
Aeth y Ferch yn Forwŷn adre
Na chaffŵy Gymmun ond a gefais
Ond aeth i yn y môdd y doedas.
Rhŷs Gray a 'i Cant 1672

[td. 310a]

<11. Edward Morus, Epithalamium (1673)> Epithalamium. Neu Gerdd Priodas Hên Ŵr a Hên Wraig Y Mesur. Tromm Galon.


Yn ôl Crëu 'r Bŷd a 'i Degwch,
Ein Tâd Adda trŵy ddedwyddwch
Ni bu heb gael ymgeledd gymmŵys
Amhriodol Ymharadŵys
Gwnaethŵyd hardd Gymares iddo
Un Naturiaeth, wiw happ helaeth i heppilio
Asgwrn oedd o Esgyrn Adda
Glân Briodas, cwlwm urddas, cael y Mawrdda

Fellŷ Heppil Adda ag Efa
Fal yr Hên Rieni cynta
Sŷ 'n Cysylltu Gwrŷw a Benŷw
Ymhôb Oes Erioed hŷd heddŷw
Ac i Drî diben yn enwedig
Mor gyfaddas, gwnaed Priodas Gnawd puredig
Ynill Plant, Ymg'leddgar burdeb,
Ag i 'w ffrŵyno, a 'th Cadŵyno rhag Godineb.

Ond Mae gormod y Blant Dynion
Yn croesi 'r gwîr a 'r iawn ddibennion
Drŵy Anifeiliadd ymgyssylltu
Marchnad wael fal prynnu a gwerthu
Chwant y Cnawd a 'nafodd Nifer
Neu Chwant Arian, gwaith a 'liwian gwaeth o lawer
Hên ag Ievangc anystywall
Heb ddim Cariad, neu Henuriad a Hên arall

Dau fu Leni Difoliannus
Yn eu Hiëuo 'n anghymarus
Gŵr Du wrth Wraig; Gŵr dŵy a Thrigiain
Yn anfelus ag yn filain
A 'r Wraig yn Hanner Cant a Chweblŵydd
Trinied Weithan un yn oedran anynadrŵydd
Yr hên Gŷrph sŷdd wedi pallu
Darfu 'r Nŵyfiant, er bôd trachwant yn eu trechu

Cybŷdd blin o chwant Cynhysgeth
Ar feder cael chwanegu ' gyweth
Ond erbyn gwneuthur inion gyfri
'R oedd dyledion i 'w dylodi
Pann ddêl Dŷdd Tâl yr hawl ddyleddus
Bŷdd anynad, garw ei Driniad Gŵr Oedrannus
Tŵyllo 'r Cybŷdd; yn lle mowrdda
Croesi ' feddwl, hynny, Fwdwl, a 'i hynfyda

Y Gŵr Têw, a 'r Geirieu tauog
Blina hugwd a blonhegog
Oedd feddylgar pann ddewiseu
Y Wraig dyner rowiog Deneu
Fal y bydde hawsach cydio
Cŷrph trachwantus, waith hîr dyrus a thorr Daro
Ni wnaethŷd fŷth wrth fynd ynghwpplws
Rhwng dau Dewion, iâch hŵyl fŵynion Orchŵyl Venus

Yr Hôll Briodas ni ddarllennodd
Y Parchedig Len a 'th rhŵymodd
Oblegid (onid oedd y Gwrda)
Fôd y Wraig dros oedran planta
Ydŷw 'r Cwlwm (wedi 'r Coledd)
Yn gyfreithlon, bur naws inion, Barn y Senedd?
A Eill y Ddeuddŷn (os daw Cyffro)
Ag anghydfod, dorri 'u hammod wedi rhwymmo?
[td. 310b]

Mae 'n Nerthol Gwŷnt y Gŵr pann ddigio
Fal Penn Prês fe ' chwŷth oddiwrtho
Pêth anaddas oedd cadŵyno
Blaidd ag Oen heb Le iddi gŵyno
Llygoden êl i 'r Trapp i 'mlonni
Daw 'difeirwch rhŷw wareiddiwch rhowir iddi
Ar Eden êl i 'r Rhŵyd mewn penbleth
Er a wingo, nid 'ŵy 'n coelio y diangc hi Eilwaith

Clymmu Esgŷrn Hên yn Suttiol
Mae 'n waith anhawdd amherthynol
Ni Ddŵg Tîr mo 'rr ffrŵyth pann flino
Hwsmon Hên nid eill lafurio.
Trychu 'r Gwynwŷdd trŵch wâg ana
Pann ddiflannodd, gwnn nid allodd gwann a dŵylla
Oeri wnaeth y Gwelŷ 'n Rhybell
Ni Chynesir, un nôs difŷr yn eu Stafell

Deuddŷn Ievangc a Briodo
Diwall heddwch Duw a 'th Llŵyddo
Ag na chlower drŵg ymddrysŷ
Fŷth fynd Hên at Hên ond hynnŷ
Dau Farr haiarn oer yn 'r unlle
Bŷth nid Assian, un têw anian ag un Tene
Yn iâch Gariad pur diragrith
Yn eu hamser, yn iâch fwynder, yn iâch Fendith
Edward Morus o 'r Perthi Llwydion yn Sir Ddinbech a 'i Cant 1673.

<12. Huw Morus (?), Cerdd i ofyn Coffor i Sion ap Huw Morus > Cerdd i ofyn Coffor i Sion ap Huw Morus, lle mae pôb Braich i bôb penill yn Diwedd fal eu gilŷdd


Sion ap Huw Morus sŷ 'n barchus yn bôd
Hŷd Wledŷdd a Threfŷdd glân arwŷdd gla<in> glôd
Gida chwi 'n geidwad mae rhediad y Rhôd
Gwrandewch ar fy Nhestŷn Eglurŷn y Glôd

Y Chwi Sŷdd Ŵr mŵynlan da wiwlan di-wael
Creadur Caredig Bonheddig Baun hael
Eich ail ffordd yn rhodia y mŵyna i roi mael
O fewn y Deng milltir ple gellir ei gael?

Chwi gowsoch wêdd foddus oedd reunus dda ei Rîn
Fal Haul yr hawddgarwch gwîr harddwch yr Hîn
Mae 'wyllŷs eich Mynwes morr gynnes a Gwîn
A 'ch Mŵynder a dastia fal Manna 'r fy Mîn

Cydymaith afieuthus cellweurus call iawn
Synhŵyrol, Gŵybodol Bucheddol wŷch lawn
Fal cangen a blyge pann dyfe mewn dawn
Yn bur ag yn beredd i 'ch cyrredd' ni 'ch cawn

Eich Synwŷr a 'ch Calon ail Solomon Sŷdd
Syberwŷd Siob hefŷd hôff hyfrŷd ei ffŷdd
Pigmalion o amcan pawb doedan pôb Dŷdd
Am waith eich Myfyrdod rhyfeddod a fŷdd

Pôb crefftwr a 'ch barna yn benna lle bôn
Y Llâw ucha 'i eiste wŷch radd<c>i chwi 'rôn
Nid oes rhwng y Ddeufor a Faelor i Fôn
Yn Wâs nag yn Feister un Seiner ail Sion

I ddyscu 'r Seineriad y Lluniad eich Llâw
Hîr-weithio gyflymwaith fanylwaith a Nâw
Yn Llifn gida 'r llinin heb friwsin o frâw
i dorri Cerfiadeu yn ddeheu hi ddâw

Wrth glywed gann ddynion mawr foddion mor faith
Eich geirdadrŵy Gymru yn tyfu 'mhôb taith
Mi ' rois yr ymennŷdd a 'r 'wenŷdd ar waith
i 'ch gyrru chwi i chwysu 'm werth chwe Swllt neu Saith
[td. 311a]

Hŷn ŷw fy hyder yn rhu daer f'm rhoed
Gael gennŷch Gîst gostus ar drefnus ddau droed
Cewch fawl am eich trafel yr Angel da 'rioed
Taith ole (oni thale) mi 'ch care 'm eich Coed

Am roddi Aur ynddi mawr ydi fy mrŷd
Ond casglu cynghorion fy Nhgalon ynghŷd
Fe ddarfu mi ddiogi yn ddigon o hŷd
A phawb oedd yn credu mae methu wnae 'Mŷd

'Rŵy 'n gweled pôb Hunŷdd o Gybŷdd o 'i Go
Yn cael y braint ucha yn benna lle bo
Er bôd y Gŵr anfŵyn morr ynfŷd a llo
Y Merched a 'i caran, ni fynnan ond fo

Finneu 'n oferedd a fwriais yr ha
'Rŵy 'n ofal dâw Gaua yn Eira 'g yn iâ
Os llwybŷr y Cerlŷn i gychwŷn a ga
'Rŵy 'n gwybod mae 'n Gybŷdd ŵr ufŷdd yr â

Os peru fy Einioes i fyned yn Hên
Ar f' Wyneb edrychwch ni welwch un Wên
Yn G'waethog mi goetha heb eu gwaetha 'n eu Gên
Yn Gybŷdd da dedwŷdd pawb doedad Amen

Ni wnae mo 'rr Gerdd ofer o bleser i Blant
Nag unferch a 'r aned er mŵyned ei Mant
Yr awron 'rŵy 'n myned cin sobred a Sant
A hŷnn oedd yn ammeu gwnn gynne ginn gant

Pann elŵy i gwmnhiaeth mewn afiaeth a Nŵy
Mi ddysge fynd heibio (gwnn tebŷg i bŵy)
Os Cariad â 'n fychan, f' â f' Arian yn fŵy
Y ffyrling yn Ddimme, a 'r ddimme eiff yn ddŵy

Mi 'mgroesa rhag Crowsio, 'rŵy 'n addo rhoi Nâg
A yfo ormodedd ar diwedd fe dâg
Cynnes ŷw Ceiniog, ag oer ŷw 'r Pwrs gwâg
Ond mawr oedd oferedd y Cynta wnaeth Frâg

Mae ganni gariad i 'r Arad a 'r Ôg
Mi'n mynne cin duwsul a Cheffŷl a chlôg
A Gwreigan fŵyn anllad a 'nillo i mi Lôg
i drwsio 'i gonestrŵydd gwna Gowŷdd i 'r Gôg

Mi gadwa Dŷ tacclŷs morr drefnŷs a 'r Drŷw
Pŵy bynnag a geisio ffael iddo ffôl ŷw
Pann ddêl un i gnoccio, mi golla fy nghlŷw
Mae Males fy Mynwes ar fantes i fŷw

Dŷdd Sul y bore lle myned i 'r llann
Mi wna werth fy Nghinio wrth gwsnio 'r Dŷn Gwann
Yn debŷg i Lŵynog mi lyna 'n fy rhann
A mŵy nag a haedda mi a 'i mynna 'mhôb mann

Pann elŵy ' farchnatta , mi dynga Lw dŵys
A Chalon ddichelgar, a moddgar air mŵys
A brynno ddim genni ceiff falc yn ei gŵys
Bŷdd siwr iddo fisio ar fesur a phŵys

Mi a 'n gwla, mi a 'n galed, mi a 'n grabed mi a 'n Grîn
Mi a 'n benna Cribddeiliwr, mi a 'n floeddiwr, mi a 'n flîn
A bwrriad anynad, mi a 'n anodd fy Nhrîn
Am undyn ni phrisia y lleia o 'r hâd llîn

A 'r Gaib, ag a 'r Crymman yn rhŵyddlan a 'r Rhâw
Mi Geibia, mi feda, mi gloddia 'r y Glâw
Ymeulŷd a 'r golŷd i 'm gwelir i drâw
Fal Gwraig a fae 'n godro 'n dyludo 'i dŵy Lâw

Mi grafa, mi gasgla, mi rodda fy mrŷd
Yn chwannog yn dauog yn glyttiog yn glŷd
Pann ddarffo i mi feggio heb ango 'n y bŷd
Mi â 'r trysor yn sobor i 'r Coffor igŷd

Gweithiwch hi 'n ddichlŷn 'rŵy 'n erfŷn yn Awr
Yn hardd iawn ei gweled yn gowled i Gawr
Yn ddyfn ag yn grothog, yn foliog, yn fawr
Rhag ofn i 'm trysor fynd trosodd i lawr.
[td. 311b]

Pann fyddo hi 'n barod, rhŷw ddiwrnod mi ddo
Fe ddiolch yn ddiflin aur frigin ei fro
F' anwylŷd, mi a 'i nola yn gyfa 't y Gô
Dann lunio dau Englŷn i 'r Glanddŷn am Glô

Un pêth sŷ 'n fy nhrwblio, i 'm clŵyfo fal Clêdd
O chasglai wrth ddrŵg weithio heb huno mewn hêdd
'Rŵy 'n ofni mae arall (oer angall ŷw 'r Wêdd
A 'i gwarria dann chwareu a minneu 'n y Mêdd

Er myned mewn uchder mŵy mowredd na Maer
Nid adwaen i 'n unlle un tene ddŷn taer
Na Brawd, na Chyfnither, na Chefnder na chwaer
A digon o Synwŷr i 'w wneuthŷr yn Aer

Pan gaffŵy 'r da 'n grynno i 'w rhifo mewn rhôl
Mi gym'ra f' Esmŵythdra, mi Eistedda 'r fy Stôl
Ni waeth i mi am gwrw i gwarrio nhw 'n ffôl
Na 'i gadael nhw i chwithe i chwerthŷn ar f' ôl.
Huw Morus o Lansilŷn a 'i Cant mêdd rhai, ond nid ŵyfi 'n coelio fôd pêth mor drwscwl wedi dyfod erioed o 'i Ene.

<13. Huw Morus, Deisyfiad Priodas (1675)> Deisyfiad Priodas. Y Mesur Trom Galon. neu Heavy Heart.


Y fun dyner f' Enaid Anwŷl
Euraid osgedd hîr ei disgwŷl
Nid ŷw addewid heb gowiro
Ond fal gweithred sâl heb selio
Sŵydd o 'r Sala blina blinder
Ŷw gwasaneth gwirion afieth garu 'n ofer
Madws bellach glymmu Cariad
Cwlwm ffyddlon, i 'n rhoi 'n gyson rowiog asiad

Mae fy hyder ar dy addewid
A 'm serch a 'i Sylfaen ar dy Lendid
Mae dy fŵynder yn fy mhorthi
Ac etto heb gael mo 'm llawn fodloni
Ŵyt yn berffaith Eneth unig
O rywogeth, fŵyn dêg odieth fendigedig
Dy gael dann Sêl mewn gafel gyfion
Am hawddgarwch, hafedd degwch, a ffŷdd digon

Er fy môd yn anhymoredd
Cawn Le i aros Meinael iredd
Yr hên ddaiar Lŵyd sŷ lydan
A rhann o honn i ninneu 'n rhywfan
Mae Duw 'n rhannu doniau a rhinwedd
A lle i aros (fal dŵy Eos) i ni 'n deuwedd
Fe geir Tay a Thîr am Arian
Ond cael Priodas, fŵynedd addas i fŷw 'n ddiddan

Cymmer Galon Gwenfron gynnes
Dda, fal finne 'n ddiofal fynwes
Mae rhai mewn Plasau mawr yn Methu
A rhai mewn bythod bâch yn ffynnu
Od doi meinwen er dymuno
Di gei Gariad a thêg siarad i 'th gysuro
Nid ŷw beryglŷs iti fentrio
Cyfell ffyddlon, gwŷch hael Galon gochel gilio

I mi 'n fy Mywŷd mi 'th ddewisa
A thrŵy 'r dŷdd mi 'th anrhydedda
Ni chymerwn Blŵy Llandrillo
Euraid Rosun er dy ruso [td. 312a]
O chae dydi, mi ga 'm bodlono
Gida'g Iechŷd (Dedwŷdd olŷd) doed a ddelo
Awn i glymmu 'n gloyw ammod
Wiwddŷn weddedd, aur fîn beredd 'r ŵyfi 'n barod.
Huw Morus a 'i Cant. 1675.

<14. Huw Morus, Cân a wnaed i ofŷn Ffidil (1680)> Cân a wnaed i ofŷn Ffidil i Meister Salbri o Rug dros un Wiliam Probert yr hwnn a Fuase Ffidler Enwog yn ei Amser. Y Mesur Tromm Galon.


Yr Esgwier a 'r Wîsg Euraid
Salbri Enwog Sail Barwnniaid
Ni bu, nid oes un Cymmer ichwi
Meister Wiliam yn Meistroli
Ni bŷdd bŷth am bôb daioni
O Dâd i Dâd o hir Gariad yn rhagori
Yn Llywodraeth clydwr clodwŷch
Mŵyn mawledig, deffoledig diffael ydŷch

Colofn Bonedd Mowredd Meirion
A Chadernid ŷ'wch Adernion
Eich Rhŷw odieth a 'ch Mawrhydi
O flaen eraill i flaenori
Yn aned un o Enw downŷs
A Bonegeiddia o hâd Adda 'n anrhydeddŷs
Chwi ŷw Brîf Bennaeth talaith teilwng
Dewr Gwladwrus mŵya Ustus 'rŵy 'n ymostwng

Canu ar Redeg, cŵyno 'r ydŵy
Dros Hên Gerddor o Lann Dyfrdŵy
Wiliam Probert wrth ei henw
A fŷdd yn cynnig Miwsig masw
Goreu Dŷn a gweiria Danneu
Mewn Eisteddfod isel osod Eos leisieu
Yn Sîr Ymhwythig wlâd Seisnigedd
Ped arhoesa Aur a f'ase ar ei Fysedd

Ni wnaeth o 'rioed mor anonestrŵydd
Yn dŵyllodrus ond Anlladrŵydd
Ni bu mo 'i fâth am Wincian llygaid
Golygŷn Gwlâd a Marchnad Merchaid
Goreu Dŷn ei Lâw a 'i Dafod
i dreuthu Nattŷr ofer Synwŷr i Fursennod
Mae o 'n benchwiben er yn llengcŷn
Chwi ŵyddoch arno fôd y Bendro 'n gŵryo 'i Gorŷn.

Mae o rwan yn Heneiddio
Fe ddarfu 'r grŷm a 'r gwrês oedd ynddo
Fe aeth y Ddeuben yn lledfeddod
Drŵg y mae o 'n dal mewn Diod
Ar Benn pôb twmpath cael codymme
Syrthio 'n glyder ar Fol y dyner Feiol dene
Da 'r ymdrawodd dirŷm droead
Gadw 'i Wddw, ar ôl ei Gwrw reiol Gariad

Dryllio 'r Drebel sâl Gymale
llawer Archoll Sŷ 'n ei ystlyse [td. 312b]
Sigo ei Dyfron, torri ei Llengig
Anrheithio Osle Moese Miwsig
Ceisio Meddig, case moddion
Mae er ysdyddie, i drwsio Tanne Esgŷrn tynnion
Ei Lliw hi a 'i Llun a 'i llais anynad
Sŷdd aflawen, ail i Hŵyaden wael ei hediad

Llais Hŵch ar Wŷnt, Llais Llu wrth hogi
Llais Padell Brês yn derbŷn defni
Llais Câth yn canu clŷl y Llygod
Neu ddefni diflas dann y Daflod
Llêsc iawn ydi Llais Ci 'n udo
Neu Lais Olwŷn, neu Lais Morwŷn yn Llysmeirio
Mi gyfflybwn Fŵa ei Feiol
i Lais aniddig Gŵydd ar Farrig gwaedd arferol

Er bôd y Cerddor pêr laferŷdd
Yn Medru ' chanu a chwalu ei Cholŷdd
Mae Diffŷg anadl yn ei ffroene
Yn dŵyn ei Sŵn o dânn ei Assenne
Oer ei pharabl ŷw 'r Offerŷn
Yn Llafaru, gwŷch i ganu 'Gyche Gwenŷn
' Fe Wnae well llais a phricc Edafedd
Hai Lw-luan neu rŷw Driban ar y Drybedd

Ni wrendŷ Nêb mo 'i llais anhawddgar
Ond Rhŷw Feddw, neu Rŷ Fyddar
Haws nag ynill Ceiniog wrthi
O fewn ei Blŵy gael dŵy am dewi
Di-ddeallus ŷw 'r ddŵy ddellten
Ar wahanu yn llysgo canu llais Cacynen.
Erioed ni chlowed Gwrâch yn grwgnach
Pann fae 'n tuchan, neu 'n ystwttian anwasdatach

Caned ffarwel i 'w Gymdeithion
Darfu 'r Goel, fe dŷrr ei Galon
Ni ddâw bŷth i Feiol Serchog
Oni ddâw drŵy 'ch Llâw Alluog
A geir i Wiliam er ei Waeled
Drebel newŷdd, a llawenŷdd ynddi ' lloned
Fe ddâw 'n y Mann o 'i dwstan dristwch
Ond cael yn gelfŷdd Gâs da 'i ddeunydd Gîst diddanwch

Mae 'ch Calon hael o fael o filoedd
A 'ch Mŵyn ddŵylo 'n llŵyddo lluoedd
Eitha Gwrol a thrugarog
Gloyw ydŷch a golidog
A Rhowch i er Duw Blodeuŷn Cymru
Bur waed reiol iddo Feiol i 'w ddiofalu
A digon da ichwi rŵymo i 'r Heddwch
Rhag iddo ei llethu, mae 'n hawdd i gyrru i hawddgarwch
Huw Morus a 'i Canodd 1680

[td. 313a]

<15. Huw Morus, Cerdd a wnâed i Fwtler Glŷn Ceiriog (1667)> Cerdd a wnâed i Fwtler Glŷn Ceiriog. Y Mesur Trom Galon neu Heavy heart


Gŵr Ievangc aeth, ni waeth pŵy fotho
Lle 'r oedd ei Galon yn ewyllsio
i Siarad Awr neu ddŵyawr dduwiol
A mŵyn ei Chŵyn a main ei Chanol
Rhodio 'r Nôs sŷdd Drât trafferthus
Weithie 'n llŵyddo, weithie 'n hippio 'r waith anhappus
Weithie rhyddŷd sŷdd i Ladrad
Weithie rhŵystyr i ddŷn Cowŷr a fae 'n dŵyn Cariad

Pann ddaeth o dann ei phared purwŷn
i 'w arefnio i 'r drŵs doe Dlŵs ei Chorphŷn
A 'i arwen at y Tân yn fŵynedd
Rhag ei rynnu rowiog rinwedd
Ag ynte oedd a 'i Waed yn berwi
A hithe 'n Anrheg Sêt oleudeg Sweet Lady
Gwell oedd y Gader Goed i garu
Na chael y ffenest iachus onest i 'w chusanu

Dechreu sôn am Serch a ffansi
Gwell nag Aur oedd cael ei Chwmni
Gwell na Miwsig blysig bleser
Oedd Cwmni honn a 'i Geirieu tyner
Gwell oedd sippio i Mîn na Swpper
Gwell na chwrw oedd trîn y Feindw rowiog fŵynder
Gwell na Gwîn a Siwgwr ynddo
Oedd cael yr Ewig wŷch fawledig i 'w chowleidio

A phann oedden nhw Lawena
(Yn Dôst aruthr mi dosturia)
Yn torri rheswm angenrheidiol
Unig onest yn ei ganol
i grîo 'r aeth y Plentŷn bychan
Ag yno a gorfu ar Loer fŵyngu alw ar feingan
Fe gode 'r feinwen groenwen grynno
Ddisglaer degwch, hi haedde heddwch i 'w ddyhuddo

Ag wrth Sîo gwnae Wasanaeth
i fodloni ei Famm a 'i Fammaeth
Pann ga' hi 'r Babi i dewi, 'n dawel
Hi dro 'n ei hôl heb gŵyno 'i thrafel
i Eiste wrth Glun yr Impin purlan
Fal dŵy G'lomman, ddeuddŷn ddiwid yn ymddiddan
Grudd yngrudd ymgommio 'n llawen
A 'i fraich Deheu y môdd a mynneu am wddw meinwen

Llawn ŷw 'r Merched o Fŵyneidddra
Llawn ŷw Gwragedd o Gyfrŵysdra
Gwraig y Tŷ a wela freuddŵyd
Fôd dau Angel ar ei haelŵyd
Lle nid oedd dim goleu gwiwlan
Ond eu Glendid ddeuddŷn ddiwid yn ymddiddan
Wrth gefn y Gŵr hi fi 'n Clust feino
Lle ca'dd hi Bregeth o Garwrieth i 'w goreuro.

Hi roes ei Bendith ar ei Gorŷn
Yn ysgafn iawn heb blygu un blewŷn
Ag aeth a Hett y Gŵr Bonheddig
Am Drespas fechan ŵyl Nadolig
Oddiam ei benn hi cippia 'n droegar
Ag â 'n ddifwgwth i ffordd yn chwimwth at ei chymar
i Dduw! a wnaeth na thrŵst na dirmŷg
Ond peri dychrŷn yn y ddeuddŷn oedd yn ddiddŷg
[td. 313b]

Meinwŷr Wenn fŵyn hafedd hefŷd
A redodd ar ei hôl gann ddoedŷd
A 'i chwareu têg i chwi tafaela
Am Lettu noswaith ganol Gaua
Fe drigarhâdd y Wreigdda burlan
Hi f'ase 'n Llangces gowir hanes garu ' hunan
Ni ddoedodd ddim, ond hwdiwch meinwen
Y Gaster gostus, wŷch a pharchus rhowch i 'w pherchen

Ped f'ase' ŵr a Hettan lippa
A thafod crâs ag atteb cwtta
Mynnase gyrchu 'r Gwŷr a 'r Llangcie
i fynd a 'r Gwalch i 'r Buarth gwarche
Ond aruthr ydi Gwraig mewn towŷll
Hi edwŷn ffyliaid bennau gweiniaid heb ganwŷll
Hi edwŷn ŵr a haeddo 'i groeso
Serchog Natur a fae 'n dŵyn dolur dann ei dŵylo

Y Gŵr Ievangc hawddgar afiaeth
Oedd ddioddefgar da ei Naturiaeth
Gwell gantho dorri ei fŷs o lawer
Na thorri Cusan yn ei hanner
A hithe 'r Ferch oedd dda 'i rhinwedde
Rhag cael anglod am fŵyn osod; ni fynase
Fynd i 'r Glŷn o 'r Mŵynddŷn minddoeth
Oedd lawn ffyddlonedd i drîn y Bonedd adre 'n bennoeth.
Huw Morus a 'i Canodd 1667. i Fwtler Glŷn Ceiriog a ddaethe i garu ei Forwŷn o.

[td. 313b]

<16. Sion Prŷs: Y Breuddŵyd (1689)> Y Breuddŵyd. Y Mesur Blodeu 'r Dŵyran


Fal yr oeddwn i dann rŷw gyscod
Yn dechreu Cysgu
Gwelwn freuddŵyd go ddrŷch anial
i 'm dychrynnu
Bum fellŷ dros awr
Ac yn fy Mreuddwŷd mi welwn rŷw guttog
yn Dyfod tuag atta
O Ferch ddigwilŷdd at Erchŵyn fy Gwelŷ
Yn Chwennŷch ei gwala
O Gala go fawr
Hi dynne oddi amdani fal hòbi go hên
Er Maint oedd ei thyre hi leibiodd fy ngên
Hi ymele 'n fy nganol, hi 'm gwasga 'n o dŷnn
Od oes gin ti galon gwâsc finneu fal hŷnn
Gann faint oedd hi'mscryttio, fy screttan oedd flîn
Hi fynne per ynfydwn fynd rhwng fy nau Lîn
Ymhle mae dy Galon, ai cwla ŵyt i 'r Dŷn?
Nid haws i mi heno gael oeri fy Ngwŷn.

O wîr lyfrdra dechreua 'r Chwŷs dorri
i gerdded o 'm dŵyrŷdd
Rhag morr anferth yr oedd hi 'n fy ngholeth
O 'r penn bŵy gilŷdd
Dann gyrchu at fy ffwrch
A minneu oedd yn gorwedd dani, a 'm gŵedd yn o dene
Yn ceisio nadŷ Llydan ei Llowdl fynd rhwng y Nglinie
Mi 'mdrewais fal Iwrch
Ymgurwn yngwaethe, hi fynne gael brâth
A Minne fal llygod dann hergod y Gâth
Heb allu mo 'rr chimiad, na doydŷd chwaith fawr
A hithe 'n hŷll anial fal Gwyddan neu Gawr
Yr oedd hi morr Landeg a Chaseg o Brŷd
A 'i Gwinedd a 'i Dannedd yn fodfedd o hŷd
Fy Nhrŵyn i 'n un tammed a fynne hi gnoi
A chŷnn iddi mrathu, mi gefais ddeffroi
Sion Prŷs y Canu a 'i gwnaeth 1689.

[td. 314a]

<17. Sion Prŷs, Cyngor Hên Wraig i 'w Mâb (1669)> Cyngor Hên Wraig i 'w Mâb. Y Mesur Cwympiad y Dail.


Happiodd i mi wrth Drafaelio
Syrthio i 'r fann lle bum yn gwrando
Ar gyf'rwyddŷd Gwraig yn dysgu
Ag yn 'fforddio ei Mâb i garu

Yn gynta pêth dechreua 'i holi
Fy Mâb, bêth sŷdd yn ddarfod iti?
Minneu fedrwn dy Gyfflybu
I un fae Gariad i 'w roi fynu

Ag os hynnŷ ŷw dy gyflwr
Na thro bŷth mo 'th Gefn fal Anwr
Pann fo'ch di ar y Gobaith gwaetha
Dal di wrthi hi fanyla

Mi fum ennyd yn dal wrthi
Hi roes im atteb na chawn moni
Ni lafasai mŵy ymgymmell
Rhag ofn i mi ' digio 'n rhybell

Y Nêb a fo morr llwfr ag ofni
Treio ei Nattur cin Priodi
Siwr i hwnnw gwedi ymglymmu
Bŷdd arno fŵy ei hofn, na 'i Charu

Nattur Halen mewn Dŵr doddi
Nattur Brân ar Dês ymolchi
Nattur Llangces Wenn i dreio,
Roi atteb siwrl i 'r mŵya ' garo

Nattur Merch sŷdd ddigon tebŷg
I Ebol Ievangc dychrynedig
Os eiff Dŷn yn Anhŷ atto
Fe rŷdd Naid ymhell oddiwrtho

Lle bo Merch yn llawn Serchogrŵydd
Ni fŷnn honno mo 'rr Medrysrŵydd
Ni Chrêd hi fôd o 'r Tân mo 'rr digon
Nes y Gwêl hi bêth o 'r Gwreichion

Pôb Gŵr Ievangc llonŷdd llednais
Gŵyl a gweddol, distaw Cwrtais
Nyni 'r Merched a 'i canmolwn
Yn ddau Cimmint ag y Cerwn

Parr y fôdd y Cafodd Vulcan
Venus yn ei Haur a 'i Sidan?
Heb iddo lendid na dim coweth
Ond i fôd yn Gwrtiwr odieth.

Nid o brŷd y Câr hi 'r glana
Nid o Gorph a Câr hi' Tala
Nid y mŵya 'i rŵysc a 'i Renti
Ond y Tosta a ddalio wrthi.

Os dâw gofŷn pŵy a ganodd
Gwraig i 'w Bachgen fal y medrodd
Oni wneiff yn ôl fy Ngeiria
Gelliff fôd yn hîr heb Wreigca.
Sion Prŷs y Canu a 'th gwnaeth. 1669.

[td. 314b]

<18. Sion Prŷs, Cerdd o addŷsc mewn Carwriaeth (1675)> Cerdd o addŷsc mewn Carwriaeth yr honn a yrrodd Sion Prŷs yn atteb i Sion Llŵyd Grwbi o Landrygan a yrrase ychydig Benhillion i ofŷn ei Gyngor Y Mesur. Triban.


Gyrasoch attai weithan
Fal pettwn Brydŷdd gwiwlan
O 'ch monwes gynnes ganniad ffel
Ar Annel trebel Triban

Eich Llythŷr mŵyn a gefais
A 'ch meddwl a ddehelltais
Ceisio cyngor ar rŷw drô
Pa fôdd i ledio lodes

Nid oeddŷch ond ffôl am geisio
Gann Ŵr sŷdd wedi llŵydo
Megis gweled Breuddŵyd gŷnt
Sŷdd genni 'r Helŷnt honno

Ond etto 'r ŵy 'n meddylio
Yn sydŷn wrth gonsidrio
Fynd llawer Gŵr a Chudŷn crŷch
Yn Gapten gwŷch wrth fentrio

Ag fellŷ gellwch chwithe
Os dowch i gymŵys gyfle
Oni fyddwch yn rhŷ Swrth
Gael Parch oddiwrth eich arfe

Os ewch at Ferch Fonheddig
A Phorsiwn da Nodedig
Bŷth na 'felwch têg ei Bronn
Am gadw honn yn ddiddig

Pann gaffoch drŵy hawddgarwch
Y Fun dann gyscod, gwescwch
Ag er ymado 'ch dau mewn dîg
Dâw etto 'n ddiddig, coeliwch.

Os Ewch i garu Aeres
Edrychwch at eich busnes
Ag n'adewch i berchen Gwâllt
Yn hynod ddâllt mo 'ch Hanes.

Meddyliwch yn y Cynta
Am Selio 'r Fferem Leia
Bŷdd siwr ichwi er digio sant
Gael meddiant yn y fŵya

Os Ewch at Ferch i Gerlŷn
A Miloedd o Aur Melŷn
Cenwch bennill i liw 'r tonn
A Rhŵydwch honn i 'r Rhedŷn

Ymeulŷd ynddi 'n helaeth
Nid siarad am Hwsmonaeth
Ag os oes Synwŷr yn Eich siol
Rhwbia ei Bol hi a rhywbeth

Nid ydi 'n weddus imi
yn hynod chwaith mo 'i henwi
Ni ffaelia Nêb ddychmygu 'r pêth
A wneiff i 'r Eneth hoffi.
[td. 315a]

Ond am 'r Hafodwraig fŵynlan
Gadewch i honno i 'r Lleban
Oni leicciwch ar rŷw drô
Fynd yno i sippio Soppan

Os Ewch i 'r Gegin gwedi
A dwedŷd Chwedel digri
Ni chewch yno 'r draws eich Penn
Ond Lab ar llien llestri

Gochelwch fynd i 'r lledre
Ar Hogen wann ei hegle
Rhag ofniddi brifio 'n Swrth
Ymhell oddiwrth y Cartre

Er Cael eich carrio 'n ufŷdd
Yn fynŷch drŵy afonŷdd
Wrth hîr dramŵy hŷd y Traeth
Mae llaccia gwaeth na 'i gilŷdd

Wel dyna i chwi Gynghorion
O 'wyllŷs cilie Calon
Os canlynwch hŵy ar eu hŷd
Chwi ddowch i olud ddigon
Sion Prŷs y Canu a 'i gwnâeth. 1675.

<19. John Wiliams (Pont y Gwyddel), Cerdd yn Dychanu pôb Mâth ar Bobl (1665)> Cerdd yn Dychanu pôb Mâth ar Bobl.


I ba bêth y gwnaed y Bŷd
Ag y cynhaliŵyd Hwnn o hŷd
Er dechreuad hŷnn o brŷd
Ni bum ond ennŷd ynddo
Nid ŵyf ond gwirion Duw 'n fy rhann
Ond gwelais hŷnn a 'm Synwŷr wann
Mae mŵya Arfer ymhôb mann ŷw Coggio

Nid oes un Deyrnas dann y Nê
Nid oes na Gwlâd, na Thrâd na Thrê
Nid oes na Mann na Llann na Llê
Na Chyfle ond i chwilio
Nid oes nag Oes na Blŵyddŷn faith
Na Mîs na Dŷdd na Munyd chwaith
Na bo nhw ôll yn dâllt y gwaith i Gogio

Y Cowrtiwr glân a haeddeu glôd
Ond mŵyn ŷw fe am fynnŷ ei fôd
Yn carrio ei Gŵch yn uwch na 'r Nôd
Yn Alamode De Quirpo
A 'i Lofty Gait, a 'i State, a 'i Stir
A 'i Sidan Main, a 'i Fan ag a 'i Fur
Chwi gewch eich Humble Servant Sir yn Cogio

Yr Arglwŷdd sŷdd yn riwlio 'r Sîr
A 'r Marchog Mawr, a 'r Noble Squire
Pôb Gŵr Bonheddig Perchen Tîr
Sŷdd dda a difŷrr gantho
Gadw Footman, Dŷn dirâs
Neu Gî, neu Geiliog, neu 'r Nagg Glâs
Neu dreulio 'r Bowl, neu 'r hên Seis âs i Gogio

Yr Eglŵyswr Doctor Mawr
A 'i Own a 'i Gasog llaes hŷd llawr
Chwi cewch o 'n dwndrio fal y Cawr
Tra botho 'r Awr yn passio
Yn dangos beuiau gimmin un
Tŵyll a Malais Calon Dŷn
Er a Gŵyr o 'r ffordd ei hun i Gogio
[td. 315b]

Y Gŵr Gownog Enwog iawn
Am ei wîsg a 'i Ddŷsg a 'i ddawn
A 'i Ymadroddion llonn yn llawn
Ag am ei Gyfiawn Bledio
Os na roddŷr Aur o 'i flaen
Fe chwerŷ Hwnn Legerdemaen
Wel dyna Perdue ffrensh yn blaen am Gogio

Y Pysygwr Câs i 'r crŷ
Gŵr gwŷch i 'r Gwann a 'r Methiant Lu
Ymhle bynnag y bo ei Dŷ
Bŷdd Dŵr yn cyrchu atto
Cewch Gyfferieu loned Sâch
Gantho i 'ch gwneuthŷr ôll yn iâch
Ond ymhôb un, bŷdd ANA bâch o Gogio

Yr Uchelwr Cottŷn clŷd
Sŷdd a 'i 'Scuborriau 'n llawn o Ŷd
Yn disgwil gweled blŵyddŷn ddrŷd
A hŷnn sŷdd hyfrŷd gantho
Os eiff o i werthu ŷd neu wair
Neu Hên Gyffyle rhŷd y Ffair
Bŷdd siwr y ceiff a goelia 'i air, i Gogio

Bêth am Daliwr, bêth am Wŷdd?
Bêth am y Gô, a 'r Pannwr prŷdd?
Bêth am y Gowper, bêth am Grydd?
Heb lâw 'r Melinŷdd crynno
Am y rhein nid oes mo 'rr wâd
Eu hunig waith mewn Trê a Gwlâd
A 'u Dŵylo traws yn dilŷn Trâd i Gogio

Y Gweinidogion ymhôb mann
A ofŷn gyflog mawr i 'w rhann
Pôb rhywogaeth, Crŷ a Gwann
A hŷnn am wiwlan weithio
Os eir oddiwrth y rhain ymhell
Chwilotta a wnân o 'r Tân <.> Gell
Nid ŷw hŷn un gronŷn gwell na Chogio

Bêth am y Glwfer gwlŷb a 'r sŷch
A 'r Barber gweisgi yn y Drŷch
Sŷ 'n Powdrio 'r Berwig Glaerwen Grŷch
A thann ei mynŷch mendio
Gwell nid ydŷw 'r rhain o ddraen
Na 'r Gwŷr eraill aeth o 'r blaen
Mae ganthŷnt gastie Ffrainc a Spain i Gogio

Y Marsiandwr cefnog gwŷch
A 'r Moriwr braisg a 'r wyneb brŷch
Sŷdd yn croesu 'r Cefnfor crŷch
Yn cyrchu mynŷch Gargo
Os Edrychŷr 'mŷsc eu wâr
Pôb Pasc, pôb Bwndel (mawr eu bâr)
Pa bêth ŷw 'r Marc, pa bêth ŷw 'r Târ ond Cogio?

Gwaith y Porthmŷn hŷd y Ffeirie
Gwaith y Gwŷr Sŷ 'n cadw Sioppe
Gwaith Gwragedd y Tafarne
A gwaith Clarcie Llwdlo
Gwaith trino llîn a gwlân
A gwaith caru Llangces lân
A gwaith Priodi Sion a Sian ŷw Cogio

Afraid im fynegi mŵy
Am Wŷr cleifion o 'r un clŵy
O 'm rhann fy hun Conffessu 'r ŵy
(ag Ni wâeth pŵy a 'i gŵypo)
Am ddiniwed gastie Mân
Ni cheisia fôd fy hun morr lân
Na ŵy<.> y Gŵr a wnâeth y Gân bêth Cogio
Meister John Wiliams o Bont y Gwyddel a 'i cant 1665 Y Mesur Spanish Bavin.

[td. 316b]

<21. Lewis Meyrig, Cyfflybiaeth Geirieu i 'w gilŷdd (1673)> Cyfflybiaeth Geirieu i 'w gilŷdd ar Destŷn Carwr yn siarad a 'i Gariad


Hi aeth fy 'nŵylyd yn Glann Gaua
Di weli wrth y Rhêw a 'r Eira
Dwed i mi 'n ddigyfrinach
Pamm na wisgi Lewis bellach?

Pann ddêl y Rhîn yn oer aneuri
A 'r Cynfase 'r Nôs i rewi
Gwubŷdd Gwenn mae dyna 'r Amser
A gwna Lewis iti Bleser.

Dy Hên Sircŷn pe ceit gynnig
Gwnn y gwerthŷt am ychydig
Ped eit unwaith yn ymarfer
Ni chymrŷt am dy Lewis lawer

Llawer Llangces Wenn ni rusa
Yn ei Llewis blannu pinna
Tithe fuost yn fŵy dibris
Saetheu a blennaist yn dy Lewis

Rhai rŷdd Lewis am eu breichiau
A rhai Lewis wrth eu Cefnau
I 'r gwrthŵyneb tro di 'n inion
Gosod Lewis wrth dy ddŵyfron

Arfer ŷw i bôb Merch weddis
Am ei Breichieu wisgo Llewis
Cymmer ffasiwn newŷdd Ditheu
Am dy Lewis gwîsg dy Freichieu

Minneu welais Lewis Gwnion
Gann Gyffredŷn a Bon'ddigion
Pe gwelwn dithe (mi rown fowrbris)
yn dda dy Le, yn Ddu dy Lewis

Tro yma d' wyneb attai 'n inion
Paid ag edrŷch arnai 'n ddiglon
Rhag ofn dyfod Angeu dibris
Ag ymeulŷd yn dy Lewis
[td. 317a]

Di gei Own o 'r Sidan Sioppe
Di gei Grŷs o 'r Holant gore
Di gei 'r ffasiwn a ddymunech
Di gei Lewis fal y mynnech

Er Meined ŷw dy Grŷs di Gwenfron
A gwynned ydi 'nghŷlch dy ddŵyfron
Gormod Pechod iti rŵystro
Na chae Lewis aros wrtho

Y mae dy Siwt i gŷd yn grynno
Ond un pêthe sŷ 'n ddiffŷg etto
Nid ŷw hynnŷ chwaith morr llawer
Ond un Llâth o Lewis ofer

Oer ŷw 'r Tŷ heb Dân y Gaua
Oer ŷw 'r Cenllŷsc, oer ŷw 'r Eira
Oer ŷw 'r Hîn pann fo hi 'n rhewi
Oerach Merch heb Lewis wrthi.
Meister Lewis Meyrig y Cyffreithiwr a 'i Cant 1673. yr hwnn oedd y prŷd hynnŷ yn caru Meistres Mari Llŵyd o Ligŵy, Gwraig Weddw Meister Bodychen o Fodychen. Y Mesur Cŵympiad y Dail.

<22. Huw Morus, Cerdd i Ddiddanu Gwraig alarus (1681)> Cerdd i Ddiddanu Gwraig alarus am farwolaeth ei Gŵr a dau o Blant Y Mesur Trom Galon.


Pa ham yr ŵyt ti 'r Weddw weddus
Mari Lariadd morr alarus?
Cymmer galon, paid ag ŵylo
Galw 'r Dduw, fe ddâw i 'th helpio
Nid ŷw 'r Bŷd igŷd ond gwagedd
Na 'r hôll Ddynion, mân a mawrion yma 'nd marwedd
Ni cheiff nêb ŵybod ei Awr derfŷn
Cyrredd Angeu rai bôb dyddieu, heb ŵybod iddŷn

Am dy Ŵr a 'th Blant a gleddaist
Gloyw arŵyl a galeraist
Nid elli ddoydŷd (Cymmer chwippŷn
Well amynedd) golli monŷn.
Y Duw a rhoes mewn Einioes unwaith
I ti 'n flode, dêg wêdd ole a 'th dygodd Eilwaith
A 'th Llâw dy hun di ge'st eu 'mgleddu
A thrŵy Gariad da dueddiad eu diweddu.

Crist a 'th prynnodd cin eu llunio
Amynedd it, a 'th Mynnodd atto
Lle nid oes dim anesmŵythder
Nag awr dristwch, nag oer drawsder
Llan ŷw 'r Bŷd o anwiredde
Diolch i 'th Arglŵydd, mewn diniweidrwŷdd i dwyn adre
A Duw a dal it am eu magu
Mae dy gyflog yn lluosog yn llâw Iesu

Marw a wnaeth ein Tadau 'n Teudieu
Y foru 'r awn y feirw Ninneu
Yr hôll Brophwydi a 'r Apostolion
Mawredd nerthol marw ' wnaethon [td. 317b]
Ni bu 'n y bŷd heb dristwch weithie
Er bôd yn ddedwŷdd, mae rhŷw gerŷdd i 'r rhai gore
A fo ddioddfgar i fodloni
Troi wna 'i dristwch trŵy ddiddanwch yn ddaioni

Iôb oedd un o 'r Gwŷr C'waethocca
Efe a ga'dd y Golled fŵya
Colli a fedde, mynd yn Adŷn
Heb fôd gantho 'n grynno un gronŷn
A dŵyn ei Blant o 'r Bŷd i 'r Bedde
Dann ei gerŷdd, drŵy Lawenŷdd fo fodlone.
Gann ddoydŷd, Duw a roes or'chafiath
Yr Un Duw Sanctaidd yn ddi-gamwedd a ddŷg ymath

Mae Llawer Gwraig yn magu Meibion
Yn Fawr ei choel, i friwo 'i Chalon
Ac yn meithrin Merched hoyw
I gael diben gwaeth na Meirw
Dydi welaist o 'r Duwiola
Gladdu a geraist yn iach Onest, mŵy na chŵyna
Nid rhaid it mŵy ofalu drostŷn
Dywed Mari 'n ufydd weddi, Nefoedd iddŷn.
Huw Morus a 'i Cant 1681.

<23. Huw Morus, Cerdd i ddiddanu Gŵr Clâf (1681)> Cerdd i ddiddanu Gŵr Clâf. Y Mesur. Trom Galon


Fy Anwŷl Gâr ufyddgar foddion
Pur yn traethu toraeth tirion
Pam y mae e<ich> mŵyn gorph heini
Oedd dêg lân yn digalonni?
Eich Grudd a 'ch Gwrîd rhŷw ofid rhyfedd
A welai 'n pallu, tôst ŷw hynnŷ, tŷst anhunedd.
Lle bo 'r Galon yn <P>enydio
Gwedd a ddengŷs yn gyhoeddŷs i 'w gyhuddo

Er Duw doydwch pa Gaethiwed
Sŷ 'n eich gwneuthŷr chwi cin brudded
Pa un ai dirgel drwbwl meddwl
Sŷ 'n eich dal fal Haul dann gwmwl
Ai 'ch Corph sŷ 'n diodde clŵy a Dolur
Ai 'ch Cyrhaeddŷd a wnaeth Ciwpŷd, ergid oergur
Bêth bynnag sŷdd, na 'dewch i bruddder
Mo 'ch gorffygu, wrth hîr dyfu weithred ofer.

Cymmerwch fŵynder a llawenŷdd
Yn eich Mynwes a 'ch ymennŷdd
Na'dewch i bruddder a gofalon
Fŷth feddiannu gwelŷ 'r Galon
Nid ŷw 'r Bŷd a 'r Cwbwl sŷ' ynddo
Ôll ond Gwagedd, fwyfwy oferedd o 'i fyfyrio
Bôd yn fodlon i bôb cyflwr
Ydŷw 'wyllŷs dawn cariadus Duw 'n Creawdwr.

Mae 'r Iacha ei Oes ar frŷs yn dirwŷn
A 'r Clâ 'n cael Einioes lawer Blŵyddŷn
Cymerwch Galon Filwr Mentrus
Gnewch eich Enaid yn gyssurus
Trowch eich trymder di-orfoledd
I fordd o 'ch Meddwl, yn dra manwl drŵy amynedd
Ffŷdd ŷw 'r Physic oreu ' gymrwch
I 'ch cwmfforddio, dêl a ddelo, Duw addolwch.
[td. 318a]

Ewch at Grîst, a byddwch lawen
Ei Air fu Eli i wâs y Capten
Ffŷdd ei Feister a 'i Grediniaeth
A wnaeth y gwirfawr Physigwriaeth
Chwi gewch Iechŷd yn dragŵyddol
Ond gwîr gredu, drŵy help Iesu hael happusol
Os marw ' wnewch fe 'ch cyfŷd eilwaith
Rhaid i 'r hôll fŷd ar fŷrr ennŷd feirw unwaith

Nid rhaid i Gristion Da 'i Grediniaeth
Bŷth bruddhau rhag ofn Marwolaeth
Pêth daionus ydŷw Angeu
I ryddhau Dynion o 'u blindereu
Fe 'n rhyddhâ oddiwrth bôb rhŵydau
Maglau Satan, a phôb aflan ddrogan ddrygau
Fe 'n Dŵg o Ddyffrŷn y trueni
I Seion Sanctaidd, lle mae 'r anrhydedd a 'r mawrhydi

Fe 'n dŵg o bruddder i lawenŷdd
O Sodom i Gaersalem Newŷdd
Lle mae Duw a 'i Dêg Angylion
Hîr ei ddonieu 'n mawrhau ' Ddynion
Mae mŵy hyfrydwch yngwlâd Iesu
Nag eill undŷn ei ddŵys ofŷn na 'i ddeusyfu
Pôb Perffeithrŵydd wrth orchymmŷn
Nefol bleser, dd<wi>d arfer yn ddi-Derfŷn

Derbyniwch hŷnn o Anrheg Fechan
I 'ch difyrru a 'i chanu 'ch hunan
Fe wnaeth yr Arglŵydd fŵy o wrthieu
Na 'ch gwneud chwi morr iâch a minneu
I fŷw 'n ddedwŷdd fŵynaidd odiaith
'Rŵy 'n gweddîo i chwi delo Iechŷd eilwaith
Teflwch Sŷnn fyfyrdod heibio
Fal y Caffoch, ffŷdd tra byddoch trŵy obeithio
Huw Morus a 'i Cant 1681.

<24. Roger Wiliams, Galar Gŵr am ei Gariad a Gollase (1689)> Galar Gŵr am ei Gariad a Gollase: Y Gŵr oedd Meister Roger Wiliams Person Aber a 'r Ferch oedd Meistres Alis Huws chwaer M.r Owen Huws o 'r Beaumares, yr honn oedd y Prŷd hynnŷ yn Wraig Weddw M.r Davŷdd Llŵyd Siencŷn o Lysdulas, a gorfod arni briodi M.r Tomas Fychan o dros yr Afon yn erbŷn ei hŵyllŷs.


Cerais Lodes gynnes geinwedd
Feinir Ifangc fŵyn arafedd
Dygais nychdod gwastad gystŷdd
Fal Dŷn Gwirion dann ei gerŷdd
Yr oedd fy Meddwl ar ei Meddu
Na chae Dwstan fariath Lydan mo 'm colledu
Mae 'n rhaid Diodde pôb Digwyddiad
Heb drugaredd yn y diwedd ymadawiad
[td. 318b]

Nid oedd Nemmawr chwaith yn ammeu
Nad oedd Meinir bur i Minneu
Serch ag 'wyllŷs cofŷs Cyfan
Galleu honn a 'i Llâw ei hunan
Ond bôd eraill yn ei gyrru
I le amgen rhai a goethan i phregethu
Am fy Seren Irwen Eurwawr
Och i Gyweth a hudolieth fŷth hŷd Elawr

Fe aeth y Geiniog fechan weithie
Gann lawer un yn Gant o Bunne
A rhai eraill er bôd mawrdda
Yn Mynd o Ganpunt i gardotta
Ffynnŷ a Ychydig, methu a llawer
Ffôl anianol, a mawr hudol roi morr hyder
Ar y Bŷd na dim sŷdd ynddo
Golŷd ammal a ddŵg ofal gida'g efo

Tra gallŵyf ar y Ddaiar Symmŷd
Yr ŵy 'n dŵyn alar am fy 'nwylŷd
Och i 'r sawl a luniodd athrod
Yhi 'n Bur a minneu 'n barod!
Am na chowsom drŵy Lawenŷdd
Yn ddigwerylon, roi 'r ddŵy Galon gida 'i gilŷdd
Ni wnn i mhlê gwahenŷr bellach
O Glŵy traserch bŷth ar Lannerch ddau ffyddlonach

Deled iddi 'r ŵy 'n Dymuno
Fôd i 'w ffortŷn Loyw-ddyn lŵyddo
Nid yhi oedd yn fy llysu
Ond ei Chynghorwŷr, am fy ngharu
O Eisieu ' môd yn Perchen golŷd
A Mawr Gyweth, o naws barieth ansyberŵyd
Y Sawl a Gretto yn ei Galon
I 'r Goruchal, yn ddiogal fe geiff ddigon

Ped fae genni Loned Crochan
O Ragorol Aur ag Arian
A Hitheu yn ei Chrŷs a 'i Ffedog
Rhannu a wnawn hŷd at y Geiniog
Nid Dâ 'r Bŷd ŵy yn ei Chwennŷch
Ond ei Chorph Iredd, Meinir Luniedd Lân lawenwŷch
I 'w Gowleidio drŵy Hawddgarwch
Y Mâb a 'i caffo, nid rhaid iddo mŵy Dedwyddwch

Nid Gwiw i mi ddisgwil bellach
Gael mo 'm hwllŷs fynd yn holliach
Am y Gefais o 'i Chwmpeini
Melus oedd y Gwenwŷn imi
Tromm uchenaid wrth ymadel
Am Winwdden gain hôff Irwen ganu ffarwel
Geirie Pŵysol diwedd Passio
Cwlwm hirfaith oer iâs ymdaith aros amdo

Nid ar fy Mun yr ydŵy 'n beuo
Gann fôd Ceraint i 'w phrocurio
Dewis golud mŵy y Galle
Calon inion oedd gin inne
Ond y rwan hi aeth yn Blymmen
Drom boenydiol anfesurol am fy Seren
Gwayw foddion heb gyfaddeu
Nid ŵy 'n gweled fôd un Dynged imi ond Angeu.
Roger Wiliams a 'i Cant 1689

[td. 320b]

<27. Wiliam Lewis et al., Ymddiddan rhwng Meister Wiliam Lewis o Gemlŷn, a 'i Fâb ynghyfraith... (1663)> Ymddiddan rhwng Meister Wiliam Lewis o Gemlŷn, a 'i Fâb ynghyfraith M.r John Huws y Telyniwr a 'r Cantwr Mŵyn; ag Owen Lewis y Taliwr. Yr achos oedd fal hŷnn; Ni fynne M.r John Huws i Nêb i alw yn fachgen pann bassiodd o Bymtheg oed, ag am fod M.r Lewis yn ei alw yn fachgen, y tyfodd y ffray.


Nid ewch yn Ŵr er maint eich Gwŷn
Nes bôd yn un ar hugian
Nid ŷw Pymtheg gŵyr pôb Gwann
Un flŵydd ond oedran Bachgan
J.H.

Mae rhai 'n un ar hugian Llawn
Fal Bechgin mewn Maentioli
A Minneu 'n f' oedran doydai 'n siwr
Bôb Dŷdd sŷdd Wr yn profi
[td. 321a]
W.L.

Chwi ellwch fôd yn Ŵr mewn prŷd
Nid oes Nêb yn doydyd amgen
Ond nid ydŷch John yn awr
Ond Llabwst mawr o Fachgen
Taliwr

Ni fynne 'Nhâd mo 'm galw 'n awr
Ond Llabwst mawr o Fachgen
R'ŵy prwfio 'n Ŵr fal Hector dêg
O Bymtheg hŷd yn Nhrigien.
W.L.

Fe eiff i wneuthur Gŵr stowt ffrî
O Dalwŷr Drî neu Chwaneg
Ag fellŷ lle bo garw Drîn
Yr eiff o Fechgcŷn Bymtheg.
Taliwr

Yn Daliwr Gwnn fal 'r oeddwn gŷnt
Yn dda fy helŷnt hoywlan
Mewn garw Drîn yn prifio 'n siwr
Yn Ŵr o 'm Nerth fy hunan

Os rhowch chwi Meister Lewis Lân
Im Ogan heb ei Phrwfio
Mae John i 'ch atteb Brydŷdd ffel
'R'ŵy finneu 'n abel etto
W.L.

A Glowch chwi 'r Taliwr lledpen Hŵch
Attolwg byddwch lonŷdd
Y'marn y Wlâd mi ddoyde 'n siwr
Nad y'ch na Gŵr na Phrydydd
J.H.

Y Sawl a ddoyto hŷnn yn Siwr
Nad ydŵy 'n Ŵr diammeu
Er Hên, nag Ievangc, gwann na chrŷ
Mi wna 'ddo wadu 'r Geirieu
W.L.

Rhwng dŵy glun Merch mae ffynnon Lonn
Cael gwaelod honn os Medrwch
Cewch fôd yn Wr gann Lug a Llen
Os Methwch; Bachgcen fyddwch.
J.H.

Bêth a wna pan elŵy 'n Hên
A 'm penn a 'm Gên i Lŵydo
Ai ni fyddai 'n Ŵr mewn Oedran maith
Nes treio 'r Gwaith ffordd honno?
W.L.

Os bŷdd Gŵr heb ddim o 'r Serch
Na wneiff i Ferch Wasanaith
Digon Siwr pann êl o 'n Hên
A bŷdd o 'n Fachgen eilwaith
J.H.

Er Dŷn yn fŷw, er dim a fo
Er Maint a ddoyto ungwr
Ni byddai 'n Fachgen myn dail ôd
Ped f'arnai fôd yn Sawdwr.
Ar Redeg y gwnaed y Gân, yn Eistedd wrth y bwrdd lle 'r oedd y Taliwr yn gweithio, a Chyd rhyngddynt y gwnaed y Gan. 1663.

[td. 321b]

<28. Rhisiart Abraham, Cerdd yn achŵyn ar Ŵr Bonheddig (1673)> Cerdd yn achŵyn ar Ŵr Bonheddig am dŵyllo 'r Crwner o 'r Chwaen Ddu am ei Forwŷn


Mae 'r Crwner yn cwyno 'm y dŵyll a wnaed iddo
Am Forwŷn o 'r eiddo wawr raddol ei bri
Gann ddoedŷd o 'i wirfodd i 'r Gŵr a 'i Cyflogodd
Mae 'r fŵyna 'r y bisodd ŷw Besi

Y Forwŷn ddifarwedd a 'gore iddo 'n g'wiredd
Pann ddoe at ei Annedd yn Niwedd y Nôs
Os Oer, os têg fyddeu yr Hîn yn ddiameu
Ni chae ar fŷrr Eirieu fawr aros

Darllenad Paun Cemlŷn y Degfed orchymŷn
Mae yno 'n gwarafŷn drŵy Grefŷdd glau
Bôd yn rhŷ Chwannog i forwŷn ' Gymydog
Sŷdd Bechod afrowiog ei friwiau

Nid rhyfedd i 'r Forwŷn chwenychu bŷw ' Nghemlŷn
Dymma iawn Destŷn a dystieu pa hamm
Pe cerddit Tîr Holl Gred am Farchwr i Ferched
Nid ellid bŷth weled bâth Wiliam

Na uwsiwch mo Fesi yn ail i Ferch Sladi
Os happiwch feichiogi 'r Fun weisgi fŵyn wêdd
Na rowch mo 'i Melys-fun er tolwg aur Dilŷn
I Lipprin fal Gwigin Fol gwagedd.

Cyflogi Gwawr Serchog heb fôdd i Pherchennog
Oedd Dŵyll am Weinidog i 'r Bowiog ŵr Bâch
Ond ei throi heibio heb achos, a 'i rhuso
Ei Hudo, a 'i thŵyllo oedd waith hyllach.
Rhisiart Abraham a 'i Cant 1673.

<29. Huw Bwccleu, Cân yn achŵyn ar Henaint (1660)> Cân yn achŵyn ar Henaint


Fy nglân Gymdeidion gweddol
A 'm gwelodd gŷnt yn 'r ysgol
Nis gwnn i amcan bêth a wnâ
'm eich Cyngor Dâ Naturiol

Mi gollais lân Gydymaith
Amdano 'r ŵy 'n dŵyn Hiraith
Gweddol, grasol, mŵyn di lîd
Hwnn ŷw Ieviengctid Perffaith

Yr oedd o 'n Landdŷn hefŷd
Hawddgarwch oedd ei Benprŷd
Ymlhe bynnag ar y bâe
'R oedd gantho Gampau hyfrŷd

Fe gerdde 'n Lystu 'r Ffeiriau
B'âe 'n Droedsŷch iawn drŵy 'r Pyllau
Ar ei ysgŵydd dŵyn Ffonn Bîg
Fe Hede 'n ddiddig Gloddiau

Fe gare Lendid Geneth
Fe waria 'mhôb Cwmnhieth
Nid Arsŵyde Nôs na Dŷdd
Gwnâe beunŷdd rŷw Wrolieth

Yn Sydŷn swrth fo gollodd
Ni wnn i Bêth a 'i perodd
Rhŷw Westwr Brwnt nis gwnn o b'le
A ddâeth i 'w Le fo 'm hanfodd.
[td. 322a]

A hwnn ŷw Henaint Difrŷ
Ni Châr ond rhai mo 'i Gwmni
Gwedi Grogi y bo fo 'n ffast
Gwnaeth a m 'fi Gast o Gnafri

Am wylltio Glanddŷn ymaith
A f'ase imi 'n Gydymaith
Y mae o 'n pŵyso arnai 'n drwmm
Ffei hono Horswm diffaeth

Os awn at Glawdd i 'w ddringo
Ar feder Myned trosto
Y Naill Droed ai yn glîr ddiball
Ni wnâ y llall ond llithro

Os awn at Langces Serchog
A 'i Llygad Du Cynffonnog
Teimlo 'r Fun pa bêth a wnâ?
I Dduw a ch<w>imia 'r Falog

Fy Ffrins oes môdd yn unlle
Mewn Sessiwn neu mewn Dadle
I gospi Henaint drŵy fawr Lîd
I gael f' Ieviengctid adre?

Am hŷnn nid gwiw mo 'rr gwingo
Rhaid im ag e gyttuno
Ffei o Henaint brwnt ei Fâr
Ffarwel a 'm câr dros heno.
Huw Bwccleu o Lanfechell a 'i Cant. 1660.

[td. 323a]

<31. Dafŷdd ap Huw, Cwmnhiaeth Merched Dinbech (1649)> Cwmnhiaeth Merched Dinbech.


Gwrandewch hanes tair o Ferched
Aeth mewn môdd ufŷdd i gŷd yfed
Sôn am waith y rhain yn fynych
Y Mae Bagad o Wŷr Dinbŷch
Mynd i 'r Tŷ lle 'r oedd eu hamcan
Eiste ' wnae 'r ddŵy ag ar y ddau Bentan
A 'r llall alwe 'n ddiwan am ddîod
Llenwi 'r Chwart fal pette fo Bligŷn
Doyda i 'r Chwedel bôd y Tippŷn
Mae Gwinedd rhŷ gethŷn ginn Gathod

Ar ôl eiste yno Ennŷd
Gwraig y Tŷ yn cael ei Gwynfŷd
Dechreu Sôn am Gwrs Carwriaeth
Fal y Meibion wrth Gwmnhiaeth
Fe ddoeda 'r Drydŷdd, o ddaead oedd ginni
Gael pêth Cyssur fal Llangcesŷ
G'dewch inni rowiogi wrth y Bragod
Uwch benn y Tân hi lleda ei Llowdwr
Dann droi ei Brattieu i fynu 'n Bentwr
A Dangos ei Chwthwr i 'r Cathod.

Y Gâth Ievangc pan i cannŷ
Rhŷw bêth towŷll ar i fynŷ
Hitheu a neidia o dann y Gader
Yno, os happie i gael ei Swpper
Cyrchu a wnae at Arffed Meinwen
Yn lle cydio at Lygoden
Cael C'lommen rhwng Dolen dau aelod
Hitheu a wasga ynghŷd ei Deulin
Brathe 'r Dittw Bedwar Cimmin
Mae Gwinedd rhŷ gethin ginn Gathod

Hitheu dynna 'r Gâth o 'i Gaflach
A 'i Llâw burwen yn ddi'meiriach
Ag a 'i trawe hi wrth y Pentan
Hŷd onid oedd ei 'Mennŷdd hi allan
Doeda 'r Wreigdda fŵyn ddigynnwr
Llâdd fy Nghatt mi af att Gyfreithiwr
Gwna it' dalu am hôll Lygwr y Llygod
Hitheu a ddoeda, pŵy a wneiff gimmin
A thalu am Giwrio fy Mriwia gerwin?
Mae Gwinedd rhy gethin ginn Gathod
Dafŷdd ap Huw 'r Gô o Fodedern a 'i Cant 1649

[td. 323b]

<32. Dafŷdd ap Huw, Ymddiddan rhwng Dŵy Chwaer (1657)> Ymddiddan rhwng Dŵy Chwaer.


Gwrandewch ymadroddion pur tirion pêr taer
O achos Priodi, fy rhwng y ddŵy Chwaer
Un o 'r Ddŵy rheini ni fynna hi 'n Gŵr
A 'r llall a 'i cynghorodd i gymryd o 'n Siwr

Codwch a cherddwch fy Mhroppor Chwaer Dlŵs
Drŵy foliant anrhydedd a rhodiwch i 'r Drŵs
Mae accw rŷw Henddŷn fal Ewŷn Dŵr llî
Yn dyfod drŵy 'ch Cennad a Chariad i chwi

Codwch, a Cherddwch a Chym'rwch o i chwi
Am ffoledd a Maswedd na Soniwch wrth i
Er maint o Genadeu rhwng Tiroedd a Dŵr
Siaradan a fynan, ni fynne i un Gŵr

Ni choeliwn i monoch, pe tyngech fy Chwaer
Eich Corph chwi sŷdd Nŵyfus, a 'r Meibion sŷ' daer
Mi 'ch gwelais chwi 'n caru er 'styddie; ffei tewch!
Ai tybied mae 'n Lleuan, lliw 'r Wylan yr Ewch?

Yn Lleuan 'r ŵy 'n myned, er gwaetha 'r hôll wlâd
Ag fellŷ mi 'm gwela yn rhŷ dda fy Stâd
Nhw ddoedan gann hynnŷ fôd ginni Ffŷdd Grê
Ynghyflwr Merch Ievangc mi a 'n inion i 'r Nê.

Nage, nid ŷw Bosibl; y Prenn na ddŵg ffrŵyth
Fe teflir i Uffern, fe llosgir yn llŵyth
Rhowch fŵynder am fŵynder ar fyrder yn frau
Pann gaffoch chwi gynnig, gochelwch naccau.

Nid ydi Priodas bŷth ginni 'nd pêth gwael
Bargen difantas ŷw 'r Feiats S'ŷw gael
Casglu gofalon i 'm Calon igŷd
Mi arhose 'n Ferch Ievangc tra bŵy yn y Bŷd

Mi ddaliaf ath ydi y byddi di 'nglŷn
Yn Brîod a rhŷw Ddŷn cinn bo'ch di fawr hŷn
Fe 'th Drwssia, fe 'th daccla, fe Lunia iti Lês
Di Ildi 'Mun Lariedd fal Eira 'mronn Tês

Gwedi i Fâb unwaith gael ei 'wyllŷs ar Ferch
Derfŷdd ei Afieth, a 'i fŵynder a 'i Serch.
Siwrl ag afrowiog, yn donnog mae 'n Dŷnn
Gwell na phriodi, bŷw 'n heini fal hŷnn

Nid Possibl mo hynnŷ drŵy 'mpiniwn y Pâb
Mi fedrwn yn ddirgel henwi i chwi 'r Mâb
A 'ch troe fal y Mynne wrth ei Lewŷrch a 'i Lun
Di ceru cinn bured a 'th Enaid dy hun

Yr Y'ch yn gwenheithio i geisio fy Nhroi
Eich Dwndwr a 'ch Dadwrdd sy wedi ' nghyffroi
Os ydŷch yn tybied ' gwnae ŵr i mi Lês
Cyrchwch yr Henddŷn a 'i 'nwylddŷn yn Nês

Cerdda Di 'r Llattai, Canlyn dy Daith
Drŵy 'r Boen a gymerais, mi luniais y gwaith
Nôs da fo iti heno, darfu fy Nghân
Canlynwch y Twmned, mae 'r Haiarn yn Tân.
Dafŷdd ap Huw 'r Gô o Fodedern a 'i Cant 1657.

[td. 324a]

<33. Rhisiart Abraham, Senn i Forgan Sion o Benn y Groes Fawr yn Llanfechell, am gadw Puttain (1676)> Senn i Forgan Sion o Benn y Groes Fawr yn Llanfechell, am gadw Puttain.


Annwr ŷw Morgan; na Lleban yn llai
Ymwrthod a 'i Brîod Sŷdd ormod o Fai
Er gwnned ŷw Dorti Liw 'r Weilgi Loer Wenn
Gwell iddo fo Farged, er ffoled ŷw Phenn

Ceiff weled, dilyned ei Gowled ddigwrs
Yr Arian yn Genlli ni pheri 'n ei Phwrs
Danfon am Farged, er Hyned ŷw Hi
Mae Hi 'n rhydda Swccwr Butteinwr iti

Os Cym'rŷd dy Gariad Anynad a wnei
I 'w gwneuthŷr yn ffolog, Fŵch oriog ni chei
Gwna 'r Fargen a fynnŷch am Dîr Penn y Groes
Hi gerriff ei Thraean yn llawn am ei Hoes

Mae Honn yn rhagorol a Nefol ei Naws
Am wneuthŷr Ymenŷn wŷch Enllŷn a Chaws
Am fagu glân Loea, a meithrin Hŵy Dsiâ
Nid oes un Wraig o 'r Gwledŷdd mawr ddedwŷdd mor dda
Cymmer dy Briod ymerod ei Mawl
A Glŷn wrth ei Hasen, gâd Ddolen i Ddiawl.
Rhisiart Abraham a 'i Cant 1676. Y Mesur Jinni Jin-nî

[td. 324b]

<35. Anon., Ymddiddan rhwng Hên Ŵr Musgrell ag anllad a Llanges Ievangc Nŵyfys > Ymddiddan rhwng Hên Ŵr Musgrell ag anllad a Llanges Ievangc Nŵyfys Y Mesur. Follow your fancy.


Nôs da i 'r Fun, y lana ' luniŵyd
Nôs da i Chwithe 'r Henwr Penllŵyd
I b'le Meinir yr ŵyt ti 'n Myned?
Lhe mae goreu cael fy Ngweled.
I b'le gann hynnŷ 'r ei di heno?
Lle bum i Neithiwr 'rŵy 'n gobeithio
Oes Cydnabyddiaeth iti 'n agos?
Nid ŵy Dierth, lle 'r ŵy 'n aros

Ŵyt di 'n Sengal Gangen gu, ag heb Briodi 'n rhagor?
Ydw 'r Henwr da 'r ei Lês, ag ni fenthygies Nemmor
Bêth ŷw 'ch Oed Wynwdden dêg, Ireidddeg liwdeg Lodes?
Tair ar ddêg er Mîs o Hâ, llawn oedran Gwra gwiwres.
'R'ŵyt di 'n anial Ievangc iawn, Di dyfŷ 'n llawn mewn afieth
Yr ydŵy 'n ddigon hên fy rhŷw, gann Daerad ŷw Naturieth
Prinn y gŵyddost têg ei phlêth, bêth ŷw 'r Naturieth Daera
'R'ŵy Gyfarŵyddach f' Ewŷrth bâch na chwi sŷ 'n Gelach Gwla.

Gwell a gŵyr yr Hên er hynnŷ
Bêth a dâl gŵybod pŵyll, heb allu?
Mae ginni allu i ddal allan
Efo gwrâch (ni chŵyrach) fal chwi 'ch hunan
Gwell ŷw 'r gwydŷn Hên, na 'r Ievangc Meddal
Gwell ŷw 'r îr a ddeil, na 'r Crîn nis cynnal
Mi gynhaliwn yn y Gwelŷ
Os Caech chwi ennŷd ginn Bysychŷ

Mae ginni Aur ag arian Gwenn, Stocc diddiben ddwbwl
Mae gennŷch ddŷll sŷ' orchŷll gaeth, Cybŷdd gwâeth na 'r Cwbwl
Mi fyddwn hael pe cawn liw 'r cann o Wreigan, hi 'm rhowioga
Byddach donnog chwannog chwi, i chware hên Gi 'chena.
Mi fyddwn rowiog fal yr Oen heb arnai boen na phenŷd
Fal chwerw Flaidd chwi roddech floedd, creulonech oedd bôb Munŷd
Mae hynnŷ 'n gam-gymeriad pur, Dôd i mi o Gyssur Gusan
Erioed ni fynnodd yn gwâs glân Cymera hwnnw ei hunan

Oes nemmawr eurdro o ffordd iti adre?
Oes lîd Cae, neu ddau oddiymm<e>.
Ai bŷw eich Tâd a 'ch Mam lloer oleu?
Yr oedd pôb un yn iach y boreu
. . .
. . .
. . .
. . .
[td. 325a]

A rowch chwi gennad gangen ffrî
A lle 'mi 'orphwyso <h>eno?
O 'ch blaen mae Tafarn fawr neu Inn
Cewch am eich arian groeso
Gwell na Gwîn na Bîr gan i
A'th Di 'mgynhesu Noswaith
Mae 'n well gann inne 'ch gweled ffrind
Mewn Munŷd yn Mynd ymaith
Bêth ŷw Cynhysgaeth Eneth fŵyn
Naturiol fŵynedd Fenws
Corph Di-ana Stout as steel
Sŷdd well na Mêl o 'r Mwnws
Os dyna 'r Cyfan gwiwlan gnawd
'R'ŵyt di 'n dylawd fy Lodes
Nid oes mo 'rr Help, y Môdd yr Ŵy
A mŵy o Nŵy 'n fy Monwes

Y fi ydi 'r Degfed o 'r Plant Tylodion
Rhoed eich Tâd a 'ch Mam chwi 'r Person
Nhw 'm rhôn i chwi Sŷ 'n Hên Ddŷn hawddgar
Yn Wîr yr Ŵyt ti 'n Gowen gynnar
Cym'rwch fi drŵy draserch heb ddim o 'r trysor
Tâw a 'th ffôl auen, yr ŵyt ti 'n hawdd dy hepcor
Ar lês eich Enaid gwnewch Eluseni
Tâw, gâd lonŷdd, na wna y Leni
Bwytta 'r Bara Gwynn yn Sŷch
Gwnn gellwch, nid yw galad
Er garwad y bô 'r Dorth lliw 'r Hâ
Gŷrr Enllŷn da hi gerdded
Ni fynnwch chwi ynte mono i
'n un Gelach ddigri 'ch canlŷn
Na fynne uwch benn fo hôll dda Bŷd
Etto heb olŷd attŷn
'R ŵy finneu 'n unferch Tâd a Mam
Heb drais na chamm na chymmell
Mi allwn ddyblu 'ch Da chwi hŷd lawr
Y Cybŷdd mawr ei ddichell
Di ge'st fy Nghefn lliw blodeu 'r drain
Gâd i mi ail ymofŷn
Ni roe 'm brŷd, tra bô i 'n y bŷd
Ar fynd tann Gwrlid Cerlŷn.

<36. Ifan Jones, Cŵyn a Chyffes Gŵr am ei Fenŷw (1698)> Cŵyn a Chyffes Gŵr am ei Fenŷw Y Mesur Triban Chwith.


I bawb o 'r Bŷd mae pur wybodaeth
Mae trêch Natur, na Dysgeidiaeth
Naturiaeth Pôb Gŵr Ievangc llawen
Yw hoffi i 'w fynwes Eneth feinwen
Tentasiwn ŷw Cynhesrŵydd caru
Cynhyrfu 'r Cŷrph wrth hîr ymwasgu
A hŷnn Sŷ 'n anafu 'r rhai nŵyfus
Weithie Ffŵl a ynill fowrdda
Weithie colli a wneiff y calla
Wrth fynd ar eu hucha 'n rhŷ awchŷs

O rann tegwch fy Nghymdoges
Ei Pherl ei hun i 'r Fun a ' fynnais [td. 325b]
Y Gair Sŷ 'n llydan hŷd y Gwledŷdd
Fy môd i 'n Llannerch ei Llawenŷdd
Darfu i Nghariad i Feichiogi
Bêth bynnag a ge's nis gwades i gwedi
Gann Lili gnŵd heini gnawd hynod
Holed pawb ei hun yn gynta
I fôd yn ddi-fai, myfi a faddeua
Ceiff roi Cerŷdd arnai cur ddyrnod.

Ni ŵyr un Ferch o 'r Bŷd mo 'i thynged
Ni ŵyr chwaith un Mâb a 'r Aned
Rhai Sŷ 'r Ddoldir têg yn trippio
A 'r lleill ar Lwybŷr Serth heb syrthio
Wrth fynŷch sippio ei Mîn Melysber
A wnaeth i mi hoffi Cyflawn bleser
Bodlonder, a mŵynder y Feindw
Mae 'r un Ffasiwn mi Gonffessa
Yn trîn y Trâd yngwlâd Europa
Erioed, er oes Adda, i 'r Oes Heiddŷw

Y mae Part a farnant arna
Fal goganu 'r Bŵyd a 'i Fŵyta
Pe Cae 'n Nhw Langces Wenn mewn Cyfle
Ni ymgosbant hŵy ddim mŵy na Minne
Nid oes ond Ffŵl o Ddŷn di-ddeunŷdd
Dwl ei Anian di-lawenŷdd
A rŷdd i mi gerŷdd am garu
Nid y Fi mo 'rr Campiwr Cynta
Mêdd Gwŷr Doethion, na 'r Diwaetha
A roes Ferch yn Isa 'i Chynnesu.

Am a wneuthŷm i 'r Wenithen
Tŷst a ddengŷs, tôst oedd Angen
Nid 'ŵy 'n gwneuthŷr Bôst o 'r Weithred
Rhaid i Bawb groeshafu 'i Dynged
Mae 'n ddrŵg ginni dros fy Mun Garedig
Ag am ei Mŵynder yr 'ŵy 'n rhŵymedig
Ni byddai 'n aniddig 'r ŵy 'n addo
Ag am y fu, rhaid imi Ddoydŷd
Mae trŵy Ffansi a Ffortun hefŷd
Pŵy yn ei hôll Fowŷd all feio?

Na farned Nêb y Lodes liwdeg
Am iddi daro ei Throed wrth Garreg
Ag wrth geisio 'r Briffordd ddeheu
Syrthio i 'r llwybŷr chwithig Nhŵytheu
Mi ddygaswn fôd fy Nghariad
Morr Sownd a 'r Dur, morr Bur ei bwriad
Daeth iddi ddigŵyddiad i ogŵyddo
A Minne wrth gael ychydig fantais
Yn Calonnog, mi a ganlynais
Ar y Neges a gefais i 'w gofio
[td. 326a]

Pe gŵybaswn fôd Llangcesu
Pêr yn prifio ond prinn ei Profi
Ni b'ase fy Meddwl bŷth morr Fentrŷs
A Bargeinio Bargen Nŵyfŷs
Bŷth nid alle i cinn hyfed
Yn fy Mreichie drîn mo 'rr Merched
Os byddan gain addfed gynheddfol
Pôb Gwâs glân a gâr gowleidio
Rhag digŵyddo 'r un pêth iddo
Rhaid iddo Fo beidio 'n Wybodol.
Ifan Jones o 'r Berth Ddu a wnaeth y Gân ar Gyffes. 1698.

<37. Anon., Cerdd yn Dychanu pôb mâth ar Bobl a gymmerase Arfeu ymhlaid Parliament Lloeger > Cerdd yn Dychanu pôb mâth ar Bobl a gymmerase Arfeu ymhlaid Parliament Lloeger yn y Flŵyddŷn 1643 i ymddiffŷn Rhydddŷd y Bobl oedd yr amser hwnnw yn debŷg i gael i sengi lawr gann y Brenin Siarlas I. Y Mesur. Restauration: ond yn gyffredinol y gelwir. The King shall enjoy his right again:


Fe aeth y Ddair gronn yn graith
Pa hamm rhaid mŵy mo 'rr sôn am waith?
Fe aeth y Gweision bôb yn Fîl
A 'r Morwynion yn eu sgîl
A phawb a 'th brâd ar gôst y Wlâd
Yn rheoli 'n anial draws
Yn well eu hŷnt na 'th Meistrŷd gŷnt
Y mae nhw 'n gweled hynnŷ 'n haws.

Y Mae 'r Dyrnwr truan Prŷdd
A ddyrna gŷnt am ddimme 'r Dŷdd
Y rwan taflu 'r ffŷst ymhell
A 'i Rapper fawr yn Nrŵs ei Gell
De-ffŵg De-ffaeg, heb ddim Gymraeg
Yn Cornelu Gwrachan Hên
Tann dyngu 'n dôst y mynn Gîg rhôst
Ag onide, fe 'scyttie ei Gên.

Y mae 'r Brettŷn Bigael Môch
Yn ei scarff a 'i Sgarlat côch
Ag yn tyngu ofer Lŵ
Er ni ddâw i 'w Go fo. Hwy-dsa-hw.
A 'i Hunger gamm, fo lladde ei Famm
Am un geiniog heb ddim chwŷth
Gwae Asgwrn Penn yr Hên Iâr Wenn
Fe a 'i difetha oddiar ei Nŷth

Y Mae 'r Go a 'r Siecced Lomm
' Fu 'n sychŷ traed y Meirch o 'r Domm
A 'i ddau Lygad fal y Tân
Yn bygwth llâdd ei Ostes Lân
Moes im' Dobâg, a dîod frâg
A Chais arian Chwipp i mi
Onidê Mynn Diawl, mi dafla 'r Cawl
Am benn Cŷrn dy Gwccwalld di

Y mae 'r Gwehydd seimlŷd ei Dîn
A 'i farclodŷn croenŷn crîn [td. 326b]
A welais i gŷnt yn wael ei stâd
Yn dŵyn Melldithion Gwragedd Gwlâd
Ni chae fo fŷth mo 'i wal o Sŷth
I wneuthŷr brwchan da 'r ei Lês
Mae o a 'i gledde o hŷd, a 'i Fwtties clŷd
Yn lle gwennol Pistol Prês

Y Mae 'r Pannwr troedtraws trwmm
A fu gŷnt yn cneifio 'n llwmm
Ag a gweiria glyttŷn glâs
I bôb Hên wrâch o frethin brâs
Y Roring Boy fal Iarll Montjoy
Yn hoyw rwan myn fy ffŷdd
Yr Arrant Rôg sŷ 'n gwisgo Clôg
A fu gŷnt yn lleidr fal y Gwehydd

Y mae 'r Taitiwr Simple siw
A fu 'n ystitsio am ffordd i fŷw
Os cae o fŵyd ag Ede lîn
Fe roe glyttŷn ar eich Glîn
Fe drwsia 'r Hwrdd cin mynd i ffwrdd
Ar Gŵd halen Gwraig y Tŷ
Fe gneua 'r Cî os mynna Hi
Mae 'n awr mewn Siwt o Sattŷn Du.

Diweddarwyd: 5 Awst 2020
Last update: 5 August 2020