Llyfr Gwyn Mechell, Hen Ganau Gymraeg (NLW ms. 832E)

[td. 302a]

[2. Rhisiart Gray, Achwyn Gwr Ifangc ar Greulondeb ei Gariad (1649)]


Achwyn Gwr Ifangc ar Greulondeb ei Gariad, Y Gŵr oedd Rhisiart
Gray. A.M. o Dre'r Go yn Llanbadrig, ar Ferch oedd Elsbeth Hughes
Merch Huw Prisiart Griffith o'r Cefn Côch yn Llanfechell, yr hon a
briodase Wiliam Roberts o Rôs Badrig, ag a ddug iddo Risiart
Roberts yr hwn a werthodd y Cefn Côch i M.r Da. Llŵyd Person Mechell.
1] Merch am dug ir Bŷd drŵy ofŷd
2] Merch am magodd bôb ychydig
3] A Merch sydd debyg oni 'styrria
4] i ddŵyn f' Enioes i or Bŷd ymma
5] Merch a fu drŵy Gur a gofal
6] Ar ei Braich im carrio'i 'n ddyfal
7] Ac yr awrhon mewn un Ŵythnos
8] Merch im Bêdd am gyrrodd i agos
9] Mi fum Naw Mis yn goeg egwan
10] Ynghrôth Merch heb allu ymlwybran
11] A thri Seith Mis gwedi 'ngeni
12] Llaeth ei Bronn oedd ymborth imi
13] Onid ystŷr gwawr ddigynnwr
14] Wrth fy mhoenŷs glŵyfys gyflwr
15] Drŵy hawddgarwch blodau'r Merched
16] Gwae fi'n llŵyr yr Awr im ganed
17] Och ir Famaeth, Ferch am magodd
18] Och ir 'ffeiriad am bedyddiodd
19] Och a chann och drŵy ochneidiau
20] Am na b'aswn heb laeth Bronnau
21] Rŵy'n dymuno hŷnn yn ddiball
22] Cyn i'r Cybŷdd Cerndew angall
23] Dy briodi 'nghangen hawddgar
24] Gael awr or blaen fy Nghorph ir ddaiar
25] Os yn gŷnt y bydda i marw,
26] Yn rhodd; im Bêdd n'adewch mo'm bwrw
27] Dann y bo Briodas gwengu
28] Dyna'r Dŷdd y mynna 'nghladdu
29] Yna gwelwch Wenn lliw'r man od
30] Ai holl ffrins yn Drŵp yn dyfod
31] Ai Gwŷr wrth Gerdd, ai Miwsig odieth
32] Yn Chware 'flaen fy ngwawr Sidanbleth
33] i mewn pann ddelo pawb wrth ddawnsio
34] Doyded rhŷw un (rŵy 'n dymuno)
35] Gwiliwch, Gwiliwch ar eich Camra
36] Bêdd y Gŵr ar Gŵr Sŷdd yna.
[td. 302b]
37] Ag yno f' alle im Cangen feindw
38] Pann grybwyllir am fy henw
39] Y bydd llŵyr edifar ganddi
40] Yn ddifarn heb Gwêst fy ngholli.
41] Cynn y rhoddo Meinir gannaid
42] Ei llâw fain i 'mglymmu ai Chariad
43] Er mŵyn Duw agorwch f' Amdo
44] Cewch weled Gwaed om Corph yn llifo
45] Codwch, Cerddwch, Ceisiwch Grwner
46] Rhifwch Gwêst i 'xamnio'r Matter
47] Coded rhŷw rai Nghorph i fyni
48] i edrŷch pa le mae o'n gwaedi
49] Yno gweliff pawb yn eglur
50] P'le mae Nghûr am poen am dolur
51] Yn fy nghalon bâch oi deutu
52] Dan Saeth Ciwpŷd gwedi mrathu
53] Ac oddiyno Nghorph a gled\d/wch
54] A lliw'r Eira chwi gomittiwch
55] Nedwch bŷth yn ôl dull Dynol
56] im lloer burwen gael ei threiol
57] Ni fynnai fynd mom bun gannaidwen
58] Nag i Lwdlo, nag i Lunden
59] Ond mi fynne gael 'i arrainio
60] Mewn Cŵrt sydd waeth dann gaeth Giwpeido
61] A phan ddêl hi gynta yno
62] Fe roir deuddeg arni i gwestio
63] Ag yn euog om Marwolaeth
64] Mewn un awr fe 'bwrrir 'Soweth
65] Ha Ferch gwêl ba bêth a wnaethost
66] Dy ddrŵg weithred gwnn y gŵyddost
67] O dra serch a Chariad iti
68] Mâb ath gara 'roist di 'golli
69] Am dy hoedel dymma Derfŷn
70] Gwrando adrodd Barn i'th erbŷn
71] O dra llîd, nid Cariad iti
72] Mâb ni'th câr a'th rhŷdd ith colli
[td. 303a]
73] Ef a esŷd yn dra amlwg
74] Rŷw Ŵr Ifangc glân ei olwg
75] Ddau Saeth plwmm yr Ustŷs digllon
76] Yn farwol iawn o bobtu ei Chalon
77] Rhowir, Rhowir am na charwn
78] Gwnn ni cha, ni cheisia Bardwn
79] Am na baswn yn ystyrrio
80] Wrth y Mâb a rois mewn amdo
81] Pôb Merch lân, pôb Geneth ddiofal
82] Ohonofi cymerwch siampal
83] A phôb Merch o ddrŵg Naturiaeth
84] Doed iw rhann yr un Farwolaeth.
85] Llannerch flîn ŷw Cŵrt Ciwpeido
86] Gwedi entrio unwaith yno
87] Nêb ni ddiangc heb ei farnu.
88] Ond dau well na hynn oedd caru?

Rhisiart Gray ai Cant 1649

[3. Huw Wmphreys, Cân yn achwyn ar enllibwyr (1662)]


Cân yn achwyn ar enllibwyr.
1] Dymma Fŷd gwrthw'nebŷs creulon,
2] Digon ŷw er torri Calon
3] Y Dŷn gonest a fae'n ceisio
4] Bŷw 'n ddiniwed tre fae ynddo
5] Mae gan rai falais a chenfigen
6] Gwradŵydd, Enllib a drŵg absen
7] Saeth mewn bŵa i seuthu atto
8] Gwnaed ei oreu, troed lle mynno.
9] Gwammal fŷdd, os llawen g'lonnog
10] Os Prudd, ma'n gostog, Du, afrowiog
11] Os bŷdd cellweirgar a Pharablŷs
12] Mae'n doydyd gormod, mae'n siaradŷs
13] Os bŷdd iddo gyfarch Geneth
14] A'i saliwtio a chusan afieth
15] Mae'n Ddŷn anllad, waitiwch arno
16] 'Mysc Merched nid ŷw o'i goelio.
17] Os distaw fŷdd, yn brŷnn ei eirie
18] Neu'n ŵyl ynghwmni glân Dduwiese
19] Ffei anifail mud, i ffordd ag efo
20] Ewnuwc ŷw, mae wedi ei gweirio
21] Os mynd a wneiff mewn harddwisg gynnes
22] Mae'r Gŵr yn falch, mae'n llawn o rodres
23] Os bŷdd ei wisc yn llomm, neu'n garpiog
24] Ni thâl o ddim, mae'n Feggar lleuog.
[td. 303b]
25] Os bŷdd lletteugar a chroesawŷs
26] Yn hael oi fŵyd, yn fŵyn, yn weddŷs
27] Fe geiff ogan Glân ei Galon
28] Mae'n rhodresgar, mae'n afradlon.
29] Os eiff ir Dafarn gida chwmni
30] Ni bŷdd o'n gwneuthur dim ond meddwi
31] Os gartre y trîg, cann gwaeth ŷw hynnŷ
32] Nid ŷw ond Clown a Bwmcin cegddu
33] Os C'lonnog fŷdd a stowt, mae'n geccrus
34] Os mŵyn a llonŷdd, llyfrgi ofnus.
35] Os hael oi Bwrs, afradlon ydi
36] Os cynnŷl fŷdd, mae'n Gybŷdd drewi.
37] Os tyngu a wneiff (ag iawn yr henwir)
38] Melltigedig Ddŷn f'ai gelwir.
39] Os gwilio a thyngu rhag ofn Melldith
40] Puritan ŷw, mae'n llawn o ragrith.
41] Os mynd ir Eglwys yn fucheddol
42] i wasanaethu Duw'n grefyddol,
43] Hela mae am glôd gann ddynion
44] Pharisead ŷw fo'n union
45] Gwnaed ei oreu, Gwnaed ei amcan
46] Fe fŷdd arno fai yn rhŷw fann
47] Ni cheiff orwedd gida 'i 'nwylddŷn
48] Ei wraig ei hun, heb rai'n gwarafŷn.
49] Hên Ddŷn gŷnt ei Assŷn rhŵymodd
50] a thros âllt y môr f'ai taflodd
51] Am na fedre 'r Hên ŵr Penffol
52] Wrth drafaelio foddio'r bobol
53] Ond Mi a fyddaf yn synhŵyrach
54] Ac ni ddilynai ffordd y Cleiriach
55] Gwradŵyddant hŵy, a gwelant Feue
56] Yn ôl fy meddwl y gwnâf inne
57] Byddaf lawen, Llonn a heini,
58] Prudd, os achos fŷdd yn peri
59] Cellwar a wnâf mewn Cwmni hynod,
60] Ac etto gwiliai siarad gormod.
61] Os deuaf at Dduwiese gwynion
62] Mŵynedd, moddus, glân o galon
63] Cellweirio a wnâf i ennŷll Cariad
64] Ac etto gwilied fod yn anllad.
[td. 304a]
65] Mi fydda'n ddistaw yn gymhedrol
66] Yn brŷnn fy ngeiria, yn ŵyl, yn foddol,
67] Bêth ai Ewnuwc ŵy, ai peidio,
68] Os bŷdd pleser, nhw gaen dreio.
69] Mi âf drŵy Dduw mewn harddwisc gynnes
70] Ac etto heb arnai'n gronŷn rhodres
71] Heb lâw'r henw o Feggar lleiog
72] Oer, a gwrthŷn ŷw gwisc garpiog.
73] Os dâw im Bŵth Gymdeithion hynod
74] Nhw gaen rann om bŵyd am diod
75] Yn ddirodres, o bur galon
76] Er hŷnn ni fyddai bŷw 'n afradlon
77] Mi âf ir Dafarn gida chwmni
78] i fôd yn llawen, nid i feddwi
79] Pawb a wneiff i Landdŷn groeso
80] Ni cheiff y Cybŷdd ond ei fflowtio
81] Ni byddai ofnus, ond yn G'lonnog
82] Wrth Gnâf yn stowt, wrth fŵyn yn rhowiog
83] Nid allai aros bôd yn llyfrgi
84] Bôd yn geccrus blinach hynnŷ.
85] Ni thyngai ddim, mi 'mgroesa beunydd
86] A dwng heb achos, ni haedda lonŷdd
87] Cann gwell genni ddiodde gwradŵydd
88] Na thrŵy dyngŷ ddigio'r Arglŵydd
89] Mi âf ir Demel yn fucheddol
90] A thrŵy nerth f' Arglŵydd, yn grefyddol
91] Ni phrisiai chwaith, drŵy foddio'r hael-dad
92] Er fy ngalw 'n Pharisead.
93] Gwna fy ngoreu, gwna fy amcan
94] Na bo arnai fai mewn un mann
95] Ond pe doe ddrŵg ar ffordd im rhŵystro
96] At f'Anwylddyn profai fentrio.
97] Yr ydŵy'n scornio gwradŵydd Dynion
98] Os Cae nghydŵybod yn heddychlon
99] Dŷn, er bygwth a fŷdd marw,
100] Ai Domm ei hun Cymynŷr hwnnw
101] Tôst oedd clywed ehud ddynion
102] yn barnu ar eu cŷd-Grist'nogion
103] Fel ped faen yn ddigon ysbus
104] Ar ddirgelion Duw, a'i ewyllys.
105] Rhag barnu nêb, mi brofa ymmattal
106] Duw pie barnu, Duw pie dîal
107] ffug a ffals ŷw barnad Dynion
108] Yr Arglŵydd Dduw a farna'n union.
[td. 304b]
109] Dŷn Sŷ'n barnu 'n ôl y golwg
110] Ni ŵyr ddim ond sŷdd yn yr amlwg,
111] A Duw sŷdd wîr chwiliedŷdd calon
112] Am hynnŷ bŷdd ei farn yn gyfion
113] Duw, barna fi a barn drugarog
114] Dy Gynddaredd sŷdd rŷ lidiog
115] Os berni ni yn ôl ein beie
116] Ni saif o'th flaen y Cristion gore.

Huw: Wmphreys Person Trefdraeth
ai Cant 1662.

[4. Cyngor Huw Wmphreys i'w Blant (1669)]


Cyngor Huw Wmphreys iw Blant
Y Mesur Cwymp y Dail
1] Arwŷdd attoch' ŵy'n ei ddanfon
2] Nid o Aur nag arian Gwynion
3] Nid Twrci styff, nid Perl or India
4] Nid Em'rald Onyx Thus na Chasia
5] Nid rhôdd o Ddefaid, Mintau o Wartheg
6] Ond pêth ŷw brissio ganwaith chwaneg
7] Bŷw 'n grefyddol Dadol gyngor
8] Gwerthfawroccach na 'r hôll drysor
9] Ofnwch Dduw, ag ef gwasnaethwch
10] A hôll Nerth eich Calon weliwch
11] Er Da na Drŵg na ddigiwch mono
12] Yn ddiragrith glynwch wrtho
13] Yn ddyfal cedwch ei Orch'mynion
14] Nad ânt fŷth o'ch Co na 'ch Calon
15] Byddant i chwi 'n Riwl i weled
16] Bêth i wneuthŷd, bêth iw wilied
17] Hŵy a ddyscant i chwi allu
18] i adnabod Duw ai garu
19] Fal y galloch gael ymwared
20] Lle mae nawdd i gael, a Nodded
21] Ymarferwch weddi 'n ddyfal
22] Rhag Temtasiwn cymrwch ofal
23] Crŷ ag anial ŷw'r Gelynion
24] A Chwithe'n Ehud ag yn Wirion
25] Wrth ddŵys ystyried hŷnn, Gweddîwch
26] Yn ddibaid ar Dduw yr Heddwch
27] Cadarn ydi Gweddi wresog
28] A mawr yn Llyfrau 'r Hôll-alluog
29] Iago, Moses ysbŷs ydi
30] a dreisiasant Dduw a Gweddi
31] Ysbŷs hefŷd gadw o Weddi
32] Y Tri Llangc yn tân rhag llosgi
33] Grasol ŷw, a llawer ddichon
34] Taer ag ystig weddi'r Cyfion
35] Trywanu wneiff hi'r Nefoedd uchod
36] Ag ni ddescŷn heb ei cherdod.
[td. 305a]
37] Gair Duw 'n gyfan cofiwch wrando
38] Nad âed o'ch Co, myfyriwch arno
39] Fo fŷdd ichwi'ch cadw 'n Darian
40] Ag yn Gledde i frathu Satan
41] I'r Traed yn Llusern, goleu i'r llygaid
42] Ymborth bywiol, bŵyd ir Enaid
43] Mewn Ing a blinder, Cyssur parod
44] Rhybŷdd da i ochelŷd pechod
45] Rhinwedd ŷw i wneuthŷr mowrlles
46] Fal Dau-finiog Gledde Achilés
47] Taro a brifo a wneiff yn ffyrnig
48] Ag i Iachau'r un briw, mae'n Feddŷg
49] Fe bâir ddychrŷn, fe bâir Syndod
50] Ar y Galon, ar Gydŵybod
51] Dŵg Bechadur o wann obaith
52] iw achub oddiwrth Borth Marwolaeth
53] Ar ôl hynny f' ai bywocca
54] Cyfŷd, cynnal, llawnycha
55] Fo a hiachêiff ai addewidion
56] Sŷ'n rasol pêr o Ene inion
57] Na Arfer Gelwŷdd, rhag cael drygair
58] Nag o ddifri nag o gellwair
59] Y Celwyddog diras difri
60] O Ddiawl y mae, ei Blentŷn ydi
61] Ymhôb Stât gochelwch falchder
62] Rhyfŷg, Rhodres, Traha, uchder
63] A ymdderchafo, a ostyngŷr
64] Ar Gostyngedig a dderchefŷr
65] I'ch Gwell rhowch barch, i'ch Cydradd ynta
66] Rhowch iddo barch yn ôl yr haedda
67] Na ddiystyrwch mor Cardottŷn
68] Rhowch iddo barch dros Dduw yn echwŷn
69] Eich Gwell a ddisgwŷl eich anrhydedd
70] Rhowch i'ch Cydradd Barch yn weddedd
71] Rhowch ir Tlawd yn ôl eich gallu
72] Descynniff Bendith Duw 'chwi 'm hynnŷ
73] Na adewch i Satan Rudo monoch
74] i gymerŷd ond yr eiddoch
75] Os tlawd yn bŷw, os C'waethog fyddwch
76] Or eiddo arall dim na cheisiwch
77] Byddwch Onest, gwiliwch bechu
78] Drŵy Butteindra, a Godinebu
79] Na adewch arnoch eisie ymgroesi
80] Am air Gogan a Thylodi
81] Nid oes ond Mesur bŷrr o amser
82] i alw'r pechod hwnnw'n bleser
83] Ond y Gwarth a ddêl oddiwrtho
84] Ceiff yr heppil rann ohono
85] Gochel gyfle, cymmer Gyngor
86] Cyfle sŷ'n dŵyn Drŵg i Esgor
87] Dihareb wîr, a dwydiad hynod
88] Gochel gyfle, Gochel Bechod
[td. 305b]
89] Yn Fâb, yn Ferch Gochelwch yfed
90] ir naill ar llall y mae cin rheittiad
91] Yn Fâb yn Ferch ger bronn yr haeldad
92] Y mae Meddwdod yn fai anfad
93] Cynnwr Penn, anrheithiad Wyneb
94] A llawn dorriad gwîr ddiweirdeb
95] Terfŷsc Tafod, cochni llygaid
96] Anrhaith meddwl, lladdiad Enaid
97] Colled amser, C'wylŷdd buchedd
98] Bryntni Moeseu, gwarth anrhydedd
99] Difetha ei wraig ai Bland drŵy gamwedd
100] A wneiff y Meddw, brwnt ei fuchedd
101] I gadw nid ŷw 'r Meddw happlach
102] Nag ydi'r Gogor, ei Gyfrinach
103] Na gwasanaeth ni wneiff aelod
104] Llâw na Throed, na chlust na Thafod
105] Doede Homer fôd i Circes
106] Droi yn Fôch Gwmpeini Ulŷsses
107] Wits a troadd, bêth oedd hi 'nd Diod?
108] A Droes yn Fôch aflendid Pechod.
109] Alexander a wnaeth Lofruddiaeth
110] Yn ei Wîn, gann lâdd ei Frawdmaeth
111] Ond pann ddefrôdd or meddwdod allan
112] Or achos mynne lâdd ei hunan
113] Noah 'n Swrth ar Wîn a feddwodd
114] Ag yn ei Babell a ymddinoethodd
115] Lot gan feddwi anwarthus pechodd
116] Ac o'i ddŵy Ferch, dau Fâb a 'nillodd
117] Y Cynta or rheini y Bŷd a orchffygodd
118] A Noah rhag y Diliw ' ddiengodd
119] Rhag Tân Sodom, Lod a gadŵyd
120] Ar tri gann feddwdod a orchffygwyd
121] Cymrwch boen, gochelwch ddiogi
122] Ni bŷdd i Ddiog ddim daioni
123] Oni anŵyd Dŷn i lafur?
124] Y mae segurdra'n erbyn Natur
125] Er ir Arglŵydd blannu Eden
126] Yn llawn o ffrŵyth yn Nhîr y Dŵyren
127] Oni osododd o Adda ynddi
128] i Lafurio, ag nid i ddiogi?
129] Y mae segurdra yn dra enbŷd
130] Fo fŷnn y Segur waith i wneuthŷd
131] Eiste dann y Prenn 'r oedd Adda
132] Pann y temptiŵyd efo 'g Efa.
133] Na chynhyrfed bŷth mo'ch Calon
134] Er eich geni 'n Wenidogion
135] Ni roes Duw i Nêb mor Cyweth
136] Yn rhâd, heb iddynt wneuthŷr rhywbeth
137] Gwasnaethodd Iacob ddau saith mlynedd
138] Iw chwegrwn Laban am ei Wragedd
139] Dyna'r môdd y bu ir Hael Dad
140] Roi 'ddo Godiad, Parch a Chariad
141] O Garchar trîst, o drwmm gaethiwed
142] O Wasnaethu'n wâs dann Feistred
143] Y Daeth Ioseph i anrhydedd
144] Ag anferth rŵysg, a chodiad rhyfedd.
[td. 306a]
145] Bêth oedd Moses ond bugeilio
146] Praidd ei Dâd ynghyfraith Iethro
147] A dyna'r prŷd drŵy fawr lawenŷdd
148] Yr ymddangosodd Duw 'n y Mynŷdd
149] O Fugeilio 'r Defaid gwynion
150] O fewn Corlannau Iesse ffyddlon
151] Y dug Duw ei gu wâs Dafŷdd
152] O fôd ar Israel yn ben-llywŷdd
153] Bêth oedd Esther wenn ond alltud
154] Yn bŷw 'n y bŷd mewn Coegni ag adfŷd
155] Pann y cododd Duw gorucha
156] Hi 'n Frenhines Media a Phersia
157] Mae Duw etto yn 'r un allu
158] Hawdd y dichon o dderchafu
159] Y sawl a gwasnaetha 'n ffyddlon
160] Iw osod gida Phendefigion
161] Yfi sŷ'n mynd i ffordd fy Nhadau
162] Ag yno ar fyrder chwi ddowch chwithe
163] Attolwg gwnewch fy hôll orch'mynion
164] Gwasnaethwch Dduw, 'nrhydeddwch Ddynion

Huw Wmffreys Person Trefdraeth
ai Cant. 1669

[td. 307b]

[7. Owen Prichard Lewis, Ymddiddan rhwng Llangces Ivaengc a'r Hedŷdd (1668)]


Ymddiddan rhwng Llangces Ivaengc a'r Hedŷdd
Yr achos oedd fal hŷnn: M.rs Margarett Goodman
o Dal y Llŷnn wrth nithio yn amser Eira a ddaliase
Hedŷdd, oddiwrth ba achos y mae'r Prydydd Owen
ap Richard Lewis Taliwr o'r Aberffraw yn cymryd
achlysur ei feddwl fôd y Llangces yn ymgynghori
ar Aderyn pa fâth, neu pŵy ymŷsgc ei holl Gar=
iadau oedd oreu iddi hi ddewis. Mae'r Prydŷdd
yn Gwneuthŷr ir Aderŷn escluso pôb un a hen=
wase hi, er maint ei rinwedda da, ai Cyfoeth,
ag i ddewis Llangc Gwael heb ddim gantho, hwnnw
oedd fâb iddo fo hun, sêf Richard Owen Tâd i Owen
Owens o Dre-Ddavŷdd. Y Mesur. Lady Byram
1] Fal 'r oeddwn foreuddŷdd, mi gefais y Gâd
2] Yn rhodio fy hunan yn rhŷw gwrr ir Wlâd
3] Mi glown ymddiddanion ynghysgod têw Lŵyn
4] Rhwng Geneth ireiddwen, ar Hedydd bâch mŵyn
5] Pŵyso wneis attŷn i gyscod y Gwrŷch
6] i gweled nid oeddwn, eu clowed oedd wŷch
7] Clown adlais yr Hedŷdd yn Cŵynfan morr brŷdd
8] Dôd gwarters, di 'm deliast, O gollwng fi 'n rhŷdd
9] Bêr Heden, bur Odiaeth na chymmer mor brâw
10] Er digwydd ohonoti ddyfod im Llâw
11] Ni wna morr Niweidion i ti nag ith Rhŷw
12] Moes Gyngor (rŵy'n gofŷn) i mi tu 'g at fŷw?
13] Pa gyngor a fynnu di gael gann fy mâth
14] 'Rwy fal y Llygoden yngwinedd y Gâth
15] Am Calon yn Cleppian, ti glowi dy hûn
16] Rŵy 'n ofni am fy Einioes dann ddŵylo fy Mun
17] Am d' Einioes na ofala, gwrandawa 'r dy gŵyn
18] Cei hedeg yn hoywŷch i frîg y têw Lŵyn
19] Ond ynghynta moes wybod, a hynny 'n ddiffael
20] Pa ffasiwn Gywelu sŷdd oreu i mi gael?
21] Ni fedrai roi cyngor o ganol y dsêl
22] Ond coelia dy addewŷd, a doed i mi a ddêl
23] Am hynnŷ moes wybod dy feddwl yn frau
24] Pa ffasiwn Gariadeu yr ŵyt 'yw mawrhau?
[td. 308a]
25] Rŵy'n caru Gŵr Ivangc Bonheddig glân mŵyn
26] A hwnn nid 'wy 'n ammeu na wrendi fy nghŵyn
27] Ped fae gantho Gowaeth rhann a gawn i
28] Nid oes ond ychydig o ddoeydŷd i chwi
29] Gwŷr Ievangc Bon'ddigion sŷ'n Llownion o Serch
30] Ni adwaen moi ffittiach i 'mweled a Merch
31] Pan ddarffo'r Gynysgaeth, ar Power yn wann
32] Fe dderfydd y Mŵynder ar Caru 'n y mann
33] Mae Cerlŷn tra Ch'waethog mewn ewyllŷs da i mi
34] A Chantho dda bydol na ŵyr o mo'u rhi
35] Er maint ydi gowaeth, a'i Arian yn Bwnn
36] Ni ddâw at fy nghalon i garu mo hwnn
37] Os Cerlŷn a geri fo ddoydŷff yn Dêg
38] Cottyn cybyddedd ni wneiff o dda i neb
39] Fo'th rhydd di mewn gofal tra bo'ch ti 'n y Bŷd
40] Pan weloch di hynny fe altria dy brŷd
41] Gŵr Ievangc o Uchelwr Sŷ'n bŷw gida'i Dâd
42] A hwnn sŷ'n fy ngharu ni cheisia fŷth wâd
43] A minneu sŷdd weithieu o adde i chwi'r gwîr
44] Yn gweled yn ddedwŷdd gael Tyddŷn o Dir
45] Er maint ydi gowaeth, er daued iw Dîr
46] Gwilia gam-gymrŷd dy feddwl yn glîr
47] Ei Dâd sŷ'n uchelwr tra bo fo'n y Bŷd
48] A Wyddost ti a beru dy Einioes di Cŷd?
49] Secuttor tra Ch'waethog ynghyntedd y Wlâd
50] A hwnn sŷdd im caru ni cheisiai morr wâd
51] A phawb ar ai hedwŷn sŷ'n doydyd yn ffrom
52] i fod o'n Gyfoethog a chantho Gôd tromm
53] Odid secuttor na rŷdd o Gaw camm
54] Cyndŷn, anhydŷn, ni pherchiff moi Fam
55] Dwndrio'm y Cowaeth a gafodd wrth Siawns
56] Os dwedi dimm wrtho fo ddilia dy Bawns
57] Gŵr Gweddw pert C'waethog sŷ'n bŷw yn fy mhlŵy
58] Fo gladdodd yn barod o Wragedd Da ddŵy
59] A minneu 'di 'r Drydedd a fynuff o gael
60] Neu atteb y foru, a hynnŷ 'n ddiffael
61] Mi ddoeda 'ti chwedel os celu fy Mun
62] Gŵr Gweddw go anhydŷn gwna'i gyngor ei hun
63] A dwndrio'm y Gwragedd a roes yn y Bêdd
64] Pann glowoch di hynnŷ fo altria dy Wêdd
65] Un ffyddlon o Lengcŷn mewn Synwŷr ag Oed
66] A hwnn pe dymunwn, doe gida mi 'r Coed
67] Pe bae o C'waethogcach mi cerwn o'n gu
68] Dŷn Ievangc naturiol hawddgaredd mŵyn hu.
69] Na ddyro mo'th hyder ar Fwnws y Bŷd
70] Nyddu di ei feddwl yn wden o hŷd
71] Gwybŷdd hŷnn ymma, considria fy Ngwenn
72] Bŷdd anodd ei ŵyro pann êl o'n hên Brenn.
73] Ni roddai mom hyder ar fwnws difŷdd
74] Ond bellach gollyngai 'r Carcharor yn rhŷdd
75] Ag am dy Gynghorion ni 'nghofiais i 'r un
76] Mi rendri nhw o newydd pann gaffwy fy hun
77] Ag yno fo Hedodd yr Hedŷdd yn ffri
78] Rhoi ffarwel tybiase heb ŵybod i mi
79] iw Dseler Naturiol hawddgaredd myn Mair
80] Lle Base fo 'ngharchar dros ddwyawr neu dair
[td. 308b]
81] Yna mi godais o gyscod y tŵyn
82] Lle clowswn ir cwbwl ymddiddan tra mŵyn
83] M' Edrychais om Cwmpas ni welwn i'r un
84] Ond Geneth ireiddwen a minneu fy hun
85] Cyferchais well iddi y Gannaid Lân wenn
86] A Minneu 'n Ddŷn Ofer, da heuddwn gael Senn
87] Mi bwysas nes atti 'r arafedd Dlŵs Fun
88] Dymunais gael Cusan heb wybod i'r un.

Owen Prichard Lewis ai Cant
1668.

[td. 309a]

[9. Rhŷs Gray, Ymddiddan rhwng Hên Ŵr a Llangc (1661)]


Ymddiddan rhwng Hên Ŵr a Llangc.
1] Amfi'n rhodio ar foreuddŷdd
2] Dann fyfyrio, 'r lether Bronŷdd
3] C'arfum a Henwr mŵyn afieithŷs
4] Am Crosafau yn Gynghorŷs
5] Dŷdd da ir Glanddŷn pert ei foddeu
6] Duw'n rhŵydd f' Ewŷrth a fo i Chwitheu
7] Par a helŷnt sŷdd ith ymlyd?
8] Serch, a ffoledd ag Ieviengctŷd
9] Bu rhain gŷnt im trwblio inneu
10] Nhw allen fôd, nid ydŵy 'n ammeu
11] Ond yn awr mi rhois i fynŷ,
12] Pan elŵy 'n Hên gwna inne hynnŷ
13] Serch a laddodd Byramus, fawrgrŷ
14] Mâth ar ansiawns ydoedd hynnŷ
15] Ag a ddifethodd lawer Glanddŷn
16] Nid y fi mor un ohonŷn
17] Gwagedd sŷ'n cynhyrfu 'viengctŷd
18] i ba beth? rhowch atteb diwyd?
19] i bôb mâth ar annuwioldeb
20] Och! ni ddilynai fŷth ffolineb.
21] Amser sŷdd i bôb Masweidddra
22] Di ai cymeraist gida'r hŵya
23] Pa'm a doedwch f'Ewŷrth hynnŷ
24] Am fôd ffoledd i'th orchffygy
25] Bêth sŷdd oreu 'm gosbi ffoledd?
26] Synwŷr faith a Duwiol fuchedd
27] At bŵy mae mi geisio'r heini
28] Gann wneuthurwr pôb Daioni
29] Pa fôdd y Ceisiai gann fy ngheidwad?
30] Drŵy ddŷfn weddi a phur ddeisyfiad
31] A geidw'r Rhain fi 'ddiwrth bôb dialedd?
32] Os Di ai dilŷn hŷd y Diwedd.
33] Os dâw gofŷn pŵy yn gyson
34] A geisiodd lunio'r ymadroddion
35] Rhŷw Ddŷn Ievangc mŵyn cyfannedd
36] Sŷdd yn ffaelio barrio ffoledd.

Rhŷs Gray ai Cant. 1661.

[10. Rhŷs Gray, Cân a wnaed i M.r Harri Bulkeley (1672)]


Cân a wnaed i M.r Harri Bulkeley, mâb i
Arglŵydd Tomas Bulkeley or Barn-Hill
yr hwnn a amcanodd ddwyn trais ar Ellen
Prŷs o Ben-Hwnllŷs, ag a rwystrŵyd gan un
Michael Prŷs a ddigŵyddodd fôd yn clowed
yr Ymadroddion. Y Mesur. Cŵymp y Dail.
1] Amfi'n myned (mi fynega)
2] Heibio i Lŵyn o Goed or tecca
3] Gwelwn Ferch 'r un liw ar Ewŷn
4] îs lâw'r Coed yn Medi Rhedŷn
5] Gwelwn Fâb yn llammu llŵyneu
6] Drŵy fawr frŷs yn torri cloddieu
7] Ag yn cyrchi'n inion atti
8] Ag yn doedŷd nôs dawch wrthi
[td. 309b]
9] Cynta golwg Gwelwn arno
10] A bereu ei hŵyneb grasol wrido
11] O wîr ddychryndod Och, O Druan!
12] i lawr o'i Llâw gollynga'r Crymman
13] Yn ei Gwen law ynteu 'mela
14] Dymma'r Sutt ar môdd a doeda
15] Llawer gwaith fy Ngwenn lliw'r Eira
16] Y dymunais dy gael di ymma
17] Gwae fi nyfod! Gwae fi ngeni
18] Och Dduw! bêth a wnewch a myfi?
19] Er mŵyn y Gŵr a'ch prynnodd chwithe
20] (Rŵy'n glâ iawn) a gae fynd adre?
21] Nid oes arnat di mor Dolur
22] Mae gennit ddigon o ddrŵg Nattur
23] Gwnn nad eid di'n Forwŷn weithan
24] Nes y Caffŵy Nghwbwl amcan
25] Duw! par amcan ydi hwnnw
26] A wnewch a Merch sŷ'n ymil marw?
27] Gwnn na byddwch chwi mor Anlan
28] Mae 'chwi Bedair Chwaer chw' hunan
29] Ped fae i mi Chwiorŷdd Ddeuddeg
30] O Gwnae undŷn iddŷn Niwed
31] Mynn y Diawl mi traetha iti
32] Mynnwn naill ai Lâdd neu Grogi
33] Er eich bôd yn Ŵr Bonheddig
34] Yn cael eich perchi bôb ychydig
35] Duw a safo gida Siarlas
36] Sŷ'n Rheolwr ar y Deyrnas
37] Well, Go to! fe ddarfu'r siarad
38] C'ôd a'th Lâw dy hun dy ddillad
39] Eich nawdd er Duw! a llai o'ch Geirieu
40] Na wna dros fy mrathu a Chleddeu
41] Myned yn ei chŷlch o ddifri
42] Yr oedd ar gael y Maes oddiarni
43] Min' attebais am y Terfŷn
44] Paid ar Ferch, tydi'r Gelŷn
45] Mae'n well ginnî na Mîl o Bunna
46] Fôd yn gwrando dy 'Fadrodda
47] Er afrowoccad ŵyt ti'r Ceneu
48] Hi geiff fynd yn Forwyn adreu
49] Os dâw gofŷn bŷth yn unlle
50] Aeth y Ferch yn Forwŷn adre
51] Na chaffŵy Gymmun ond a gefais
52] Ond aeth i yn y môdd y doedas.

Rhŷs Gray ai Cant 1672

[td. 310a]

[11. Edward Morus, Epithalamium (1673)]


Epithalamium.
Neu Gerdd Priodas Hên Ŵr a Hên Wraig
Y Mesur. Tromm Galon.
1] Yn ôl Crëu'r Bŷd ai Degwch,
2] Ein Tâd Adda trŵy ddedwyddwch
3] Ni bu heb gael ymgeledd gymmŵys
4] Amhriodol Ymharadŵys
5] Gwnaethŵyd hardd Gymares iddo
6] Un Naturiaeth, wiw happ helaeth i heppilio
7] Asgwrn oedd o Esgyrn Adda
8] Glân Briodas, cwlwm urddas, cael y Mawrdda
9] Fellŷ Heppil Adda ag Efa
10] Fal yr Hên Rieni cynta
11] Sŷ'n Cysylltu Gwrŷw a Benŷw
12] Ymhôb Oes Erioed hŷd heddŷw
13] Ac i Drî diben yn enwedig
14] Mor gyfaddas, gwnaed Priodas Gnawd puredig
15] Ynill Plant, Ymg'leddgar burdeb,
16] Ag iw ffrŵyno, a'th Cadŵyno rhag Godineb.
17] Ond Mae gormod y Blant Dynion
18] Yn croesi'r gwîr ar iawn ddibennion
19] Drŵy Anifeiliadd ymgyssylltu
20] Marchnad wael fal prynnu a gwerthu
21] Chwant y Cnawd a 'nafodd Nifer
22] Neu Chwant Arian, gwaith a 'liwian gwaeth o lawer
23] Hên ag Ievangc anystywall
24] Heb ddim Cariad, neu Henuriad a Hên arall
25] Dau fu Leni Difoliannus
26] Yn eu Hiëuo'n anghymarus
27] Gŵr Du wrth Wraig; Gŵr dŵy a Thrigiain
28] Yn anfelus ag yn filain
29] Ar Wraig yn Hanner Cant a Chweblŵydd
30] Trinied Weithan un yn oedran anynadrŵydd
31] Yr hên Gŷrph sŷdd wedi pallu
32] Darfu'r Nŵyfiant, er bôd trachwant yn eu trechu
33] Cybŷdd blin o chwant Cynhysgeth
34] Ar feder cael chwanegu 'gyweth
35] Ond erbyn gwneuthur inion gyfri
36] 'R oedd dyledion iw dylodi
37] Pann ddêl Dŷdd Tâl yr hawl ddyleddus
38] Bŷdd anynad, garw ei Driniad Gŵr Oedrannus
39] Tŵyllo'r Cybŷdd; yn lle mowrdda
40] Croesi 'feddwl, hynny, Fwdwl, ai hynfyda
41] Y Gŵr Têw, ar Geirieu tauog
42] Blina hugwd a blonhegog
43] Oedd feddylgar pann ddewiseu
44] Y Wraig dyner rowiog Deneu
45] Fal y bydde hawsach cydio
46] Cŷrph trachwantus, waith hîr dyrus a thorr Daro
47] Ni wnaethŷd fŷth wrth fynd ynghwpplws
48] Rhwng dau Dewion, iâch hŵyl fŵynion Orchŵyl Venus
49] Yr Hôll Briodas ni ddarllennodd
50] Y Parchedig Len a'th rhŵymodd
51] Oblegid (onid oedd y Gwrda)
52] Fôd y Wraig dros oedran planta
53] Ydŷw'r Cwlwm (wedi'r Coledd)
54] Yn gyfreithlon, bur naws inion, Barn y Senedd?
55] A Eill y Ddeuddŷn (os daw Cyffro)
56] Ag anghydfod, dorri'u hammod wedi rhwymmo?
[td. 310b]
57] Mae'n Nerthol Gwŷnt y Gŵr pann ddigio
58] Fal Penn Prês fe 'chwŷth oddiwrtho
59] Pêth anaddas oedd cadŵyno
60] Blaidd ag Oen heb Le iddi gŵyno
61] Llygoden êl ir Trapp i 'mlonni
62] Daw 'difeirwch rhŷw wareiddiwch rhowir iddi
63] Ar Eden êl ir Rhŵyd mewn penbleth
64] Er a wingo, nid 'ŵy'n coelio y diangc hi Eilwaith
65] Clymmu Esgŷrn Hên yn Suttiol
66] Mae'n waith anhawdd amherthynol
67] Ni Ddŵg Tîr morr ffrŵyth pann flino
68] Hwsmon Hên nid eill lafurio.
69] Trychu'r Gwynwŷdd trŵch wâg ana
70] Pann ddiflannodd, gwnn nid allodd gwann a dŵylla
71] Oeri wnaeth y Gwelŷ'n Rhybell
72] Ni Chynesir, un nôs difŷr yn eu Stafell
73] Deuddŷn Ievangc a Briodo
74] Diwall heddwch Duw a'th Llŵyddo
75] Ag na chlower drŵg ymddrysŷ
76] Fŷth fynd Hên at Hên ond hynnŷ
77] Dau Farr haiarn oer yn'r unlle
78] Bŷth nid Assian, un têw anian ag un Tene
79] Yn iâch Gariad pur diragrith
80] Yn eu hamser, yn iâch fwynder, yn iâch Fendith

Edward Morus or Perthi Llwydion yn
Sir Ddinbech ai Cant 1673.

[12. Huw Morus (?), Cerdd i ofyn Coffor i Sion ap Huw Morus]


Cerdd i ofyn Coffor i Sion ap Huw
Morus, lle mae pôb Braich i bôb penill
yn Diwedd fal eu gilŷdd
1] Sion ap Huw Morus sŷ'n barchus yn bôd
2] Hŷd Wledŷdd a Threfŷdd glân arwŷdd glain glôd
3] Gida chwi'n geidwad mae rhediad y Rhôd
4] Gwrandewch ar fy Nhestŷn Eglurŷn y Glôd
5] Y Chwi Sŷdd Ŵr mŵynlan da wiwlan di-wael
6] Creadur Caredig Bonheddig Baun hael
7] Eich ail ffordd yn rhodia y mŵyna i roi mael
8] O fewn y Deng milltir ple gellir ei gael?
9] Chwi gowsoch wêdd foddus oedd reunus dda ei Rîn
10] Fal Haul yr hawddgarwch gwîr harddwch yr Hîn
11] Mae 'wyllŷs eich Mynwes morr gynnes a Gwîn
12] A'ch Mŵynder a dastia fal Manna'r fy Mîn
13] Cydymaith afieuthus cellweurus call iawn
14] Synhŵyrol, Gŵybodol Bucheddol wŷch lawn
15] Fal cangen a blyge pann dyfe mewn dawn
16] Yn bur ag yn beredd i'ch cyrredd' ni'ch cawn
17] Eich Synwŷr a'ch Calon ail Solomon Sŷdd
18] Syberwŷd Siob hefŷd hôff hyfrŷd ei ffŷdd
19] Pigmalion o amcan pawb doedan pôb Dŷdd
20] Am waith eich Myfyrdod rhyfeddod a fŷdd
21] Pôb crefftwr a'ch barna yn benna lle bôn
22] Y Llâw ucha'i eiste wŷch raddci chwi 'rôn
23] Nid oes rhwng y Ddeufor a Faelor i Fôn
24] Yn Wâs nag yn Feister un Seiner ail Sion
25] I ddyscu'r Seineriad y Lluniad eich Llâw
26] Hîr-weithio gyflymwaith fanylwaith a Nâw
27] Yn Llifn gida'r llinin heb friwsin o frâw
28] i dorri Cerfiadeu yn ddeheu hi ddâw
29] Wrth glywed gann ddynion mawr foddion mor faith
30] Eich geirdadrŵy Gymru yn tyfu 'mhôb taith
31] Mi 'rois yr ymennŷdd ar 'wenŷdd ar waith
32] i'ch gyrru chwi i chwysu 'm werth chwe Swllt neu Saith
[td. 311a]
33] Hŷn ŷw fy hyder yn rhu daer f'm rhoed
34] Gael gennŷch Gîst gostus ar drefnus ddau droed
35] Cewch fawl am eich trafel yr Angel da 'rioed
36] Taith ole (oni thale) mi'ch care 'm eich Coed
37] Am roddi Aur ynddi mawr ydi fy mrŷd
38] Ond casglu cynghorion fy Nhgalon ynghŷd
39] Fe ddarfu mi ddiogi yn ddigon o hŷd
40] A phawb oedd yn credu mae methu wnae 'Mŷd
41] 'Rŵy'n gweled pôb Hunŷdd o Gybŷdd o'i Go
42] Yn cael y braint ucha yn benna lle bo
43] Er bôd y Gŵr anfŵyn morr ynfŷd a llo
44] Y Merched ai caran, ni fynnan ond fo
45] Finneu'n oferedd a fwriais yr ha
46] 'Rŵy'n ofal dâw Gaua yn Eira 'g yn iâ
47] Os llwybŷr y Cerlŷn i gychwŷn a ga
48] 'Rŵy'n gwybod mae'n Gybŷdd ŵr ufŷdd yr â
49] Os peru fy Einioes i fyned yn Hên
50] Ar f'Wyneb edrychwch ni welwch un Wên
51] Yn G'waethog mi goetha heb eu gwaetha'n eu Gên
52] Yn Gybŷdd da dedwŷdd pawb doedad Amen
53] Ni wnae morr Gerdd ofer o bleser i Blant
54] Nag unferch ar aned er mŵyned ei Mant
55] Yr awron 'rŵy'n myned cin sobred a Sant
56] A hŷnn oedd yn ammeu gwnn gynne ginn gant
57] Pann elŵy i gwmnhiaeth mewn afiaeth a Nŵy
58] Mi ddysge fynd heibio (gwnn tebŷg i bŵy)
59] Os Cariad â'n fychan, f'â f'Arian yn fŵy
60] Y ffyrling yn Ddimme, ar ddimme eiff yn ddŵy
61] Mi 'mgroesa rhag Crowsio, 'rŵy 'n addo rhoi Nâg
62] A yfo ormodedd ar diwedd fe dâg
63] Cynnes ŷw Ceiniog, ag oer ŷw'r Pwrs gwâg
64] Ond mawr oedd oferedd y Cynta wnaeth Frâg
65] Mae ganni gariad ir Arad ar Ôg
66] Mi'n mynne cin duwsul a Cheffŷl a chlôg
67] A Gwreigan fŵyn anllad a 'nillo i mi Lôg
68] i drwsio'i gonestrŵydd gwna Gowŷdd ir Gôg
69] Mi gadwa Dŷ tacclŷs morr drefnŷs ar Drŷw
70] Pŵy bynnag a geisio ffael iddo ffôl ŷw
71] Pann ddêl un i gnoccio, mi golla fy nghlŷw
72] Mae Males fy Mynwes ar fantes i fŷw
73] Dŷdd Sul y bore lle myned ir llann
74] Mi wna werth fy Nghinio wrth gwsnio'r Dŷn Gwann
75] Yn debŷg i Lŵynog mi lyna 'n fy rhann
76] A mŵy nag a haedda mi ai mynna 'mhôb mann
77] Pann elŵy 'farchnatta, mi dynga Lw dŵys
78] A Chalon ddichelgar, a moddgar air mŵys
79] A brynno ddim genni ceiff falc yn ei gŵys
80] Bŷdd siwr iddo fisio ar fesur a phŵys
81] Mi a'n gwla, mi a'n galed, mi a'n grabed mi a'n Grîn
82] Mi a'n benna Cribddeiliwr, mi a'n floeddiwr, mi a'n flîn
83] A bwrriad anynad, mi a'n anodd fy Nhrîn
84] Am undyn ni phrisia y lleia or hâd llîn
85] Ar Gaib, ag ar Crymman yn rhŵyddlan ar Rhâw
86] Mi Geibia, mi feda, mi gloddia'r y Glâw
87] Ymeulŷd ar golŷd im gwelir i drâw
88] Fal Gwraig a fae'n godro'n dyludo'i dŵy Lâw
89] Mi grafa, mi gasgla, mi rodda fy mrŷd
90] Yn chwannog yn dauog yn glyttiog yn glŷd
91] Pann ddarffo i mi feggio heb ango'n y bŷd
92] Mi â'r trysor yn sobor ir Coffor igŷd
93] Gweithiwch hi'n ddichlŷn 'rŵy'n erfŷn yn Awr
94] Yn hardd iawn ei gweled yn gowled i Gawr
95] Yn ddyfn ag yn grothog, yn foliog, yn fawr
96] Rhag ofn im trysor fynd trosodd i lawr.
[td. 311b]
97] Pann fyddo hi'n barod, rhŷw ddiwrnod mi ddo
98] Fe ddiolch yn ddiflin aur frigin ei fro
99] F'anwylŷd, mi ai nola yn gyfa 't y Gô
100] Dann lunio dau Englŷn ir Glanddŷn am Glô
101] Un pêth sŷ'n fy nhrwblio, im clŵyfo fal Clêdd
102] O chasglai wrth ddrŵg weithio heb huno mewn hêdd
103] 'Rŵy 'n ofni mae arall (oer angall ŷw'r Wêdd
104] Ai gwarria dann chwareu a minneu 'n y Mêdd
105] Er myned mewn uchder mŵy mowredd na Maer
106] Nid adwaen i'n unlle un tene ddŷn taer
107] Na Brawd, na Chyfnither, na Chefnder na chwaer
108] A digon o Synwŷr iw wneuthŷr yn Aer
109] Pan gaffŵy'r da'n grynno iw rhifo mewn rhôl
110] Mi gym'ra f'Esmŵythdra, mi Eistedda 'r fy Stôl
111] Ni waeth i mi am gwrw i gwarrio nhw'n ffôl
112] Na'i gadael nhw i chwithe i chwerthŷn ar f'ôl.

Huw Morus o Lansilŷn ai Cant mêdd rhai,
ond nid ŵyfi'n coelio fôd pêth mor drwscwl wedi
dyfod erioed oi Ene.

[13. Huw Morus, Deisyfiad Priodas (1675)]


Deisyfiad Priodas. Y Mesur Trom Galon.
neu Heavy Heart.
1] Y fun dyner f' Enaid Anwŷl
2] Euraid osgedd hîr ei disgwŷl
3] Nid ŷw addewid heb gowiro
4] Ond fal gweithred sâl heb selio
5] Sŵydd or Sala blina blinder
6] Ŷw gwasaneth gwirion afieth garu'n ofer
7] Madws bellach glymmu Cariad
8] Cwlwm ffyddlon, i'n rhoi'n gyson rowiog asiad
9] Mae fy hyder ar dy addewid
10] A'm serch ai Sylfaen ar dy Lendid
11] Mae dy fŵynder yn fy mhorthi
12] Ac etto heb gael mo'm llawn fodloni
13] Ŵyt yn berffaith Eneth unig
14] O rywogeth, fŵyn dêg odieth fendigedig
15] Dy gael dann Sêl mewn gafel gyfion
16] Am hawddgarwch, hafedd degwch, a ffŷdd digon
17] Er fy môd yn anhymoredd
18] Cawn Le i aros Meinael iredd
19] Yr hên ddaiar Lŵyd sŷ lydan
20] A rhann o honn i ninneu'n rhywfan
21] Mae Duw'n rhannu doniau a rhinwedd
22] A lle i aros (fal dŵy Eos) i ni'n deuwedd
23] Fe geir Tay a Thîr am Arian
24] Ond cael Priodas, fŵynedd addas i fŷw'n ddiddan
25] Cymmer Galon Gwenfron gynnes
26] Dda, fal finne'n ddiofal fynwes
27] Mae rhai mewn Plasau mawr yn Methu
28] A rhai mewn bythod bâch yn ffynnu
29] Od doi meinwen er dymuno
30] Di gei Gariad a thêg siarad i'th gysuro
31] Nid ŷw beryglŷs iti fentrio
32] Cyfell ffyddlon, gwŷch hael Galon gochel gilio
33] I mi'n fy Mywŷd mi'th ddewisa
34] A thrŵy'r dŷdd mi'th anrhydedda
35] Ni chymerwn Blŵy Llandrillo
36] Euraid Rosun er dy ruso

[td. 312a]
37] O chae dydi, mi ga'm bodlono
38] Gida'g Iechŷd (Dedwŷdd olŷd) doed a ddelo
39] Awn i glymmu'n gloyw ammod
40] Wiwddŷn weddedd, aur fîn beredd 'r ŵyfi'n barod.

Huw Morus ai Cant. 1675.

[14. Huw Morus, Cân a wnaed i ofŷn Ffidil (1680)]


Cân a wnaed i ofŷn Ffidil i Meister Salbri
o Rug dros un Wiliam Probert yr hwnn
a Fuase Ffidler Enwog yn ei Amser.
Y Mesur Tromm Galon.
1] Yr Esgwier ar Wîsg Euraid
2] Salbri Enwog Sail Barwnniaid
3] Ni bu, nid oes un Cymmer ichwi
4] Meister Wiliam yn Meistroli
5] Ni bŷdd bŷth am bôb daioni
6] O Dâd i Dâd o hir Gariad yn rhagori
7] Yn Llywodraeth clydwr clodwŷch
8] Mŵyn mawledig, deffoledig diffael ydŷch
9] Colofn Bonedd Mowredd Meirion
10] A Chadernid ŷ'wch Adernion
11] Eich Rhŷw odieth a'ch Mawrhydi
12] O flaen eraill i flaenori
13] Yn aned un o Enw downŷs
14] A Bonegeiddia o hâd Adda'n anrhydeddŷs
15] Chwi ŷw Brîf Bennaeth talaith teilwng
16] Dewr Gwladwrus mŵya Ustus 'rŵy'n ymostwng
17] Canu ar Redeg, cŵyno 'r ydŵy
18] Dros Hên Gerddor o Lann Dyfrdŵy
19] Wiliam Probert wrth ei henw
20] A fŷdd yn cynnig Miwsig masw
21] Goreu Dŷn a gweiria Danneu
22] Mewn Eisteddfod isel osod Eos leisieu
23] Yn Sîr Ymhwythig wlâd Seisnigedd
24] Ped arhoesa Aur a f'ase ar ei Fysedd
25] Ni wnaeth o'rio\e/d mor anonestrŵydd
26] Yn dŵyllodrus ond Anlladrŵydd
27] Ni bu mo'i fâth am Wincian llygaid
28] Golygŷn Gwlâd a Marchnad Merchaid
29] Goreu Dŷn ei Lâw ai Dafod
30] i dreuthu Nattŷr ofer Synwŷr i Fursennod
31] Mae o'n benchwiben er yn llengcŷn
32] Chwi ŵyddoch arno fôd y Bendro'n gŵryo'i Gorŷn.
33] Mae o rwan yn Heneiddio
34] Fe ddarfu'r grŷm ar gwrês oedd ynddo
35] Fe aeth y Ddeuben yn lledfeddod
36] Drŵg y mae o'n dal mewn Diod
37] Ar Benn pôb twmpath cael codymme
38] Syrthio'n glyder ar Fol y dyner Feiol dene
39] Da'r ymdrawodd dirŷm droead
40] Gadw'i Wddw, ar ôl ei Gwrw reiol Gariad
41] Dryllio'r Drebel sâl Gymale
42] llawer Archoll Sŷ'n ei ystlyse

[td. 312b]
43] Sigo ei Dyfron, torri ei Llengig
44] Anrheithio Osle Moese Miwsig
45] Ceisio Meddig, case moddion
46] Mae er ysdyddie, i drwsio Tanne Esgŷrn tynnion
47] Ei Lliw hi ai Llun a'i llais anynad
48] Sŷdd aflawen, ail i Hŵyaden wael ei hediad
49] Llais Hŵch ar Wŷnt, Llais Llu wrth hogi
50] Llais Padell Brês yn derbŷn defni
51] Llais Câth yn canu clŷl y Llygod
52] Neu ddefni diflas dann y Daflod
53] Llêsc iawn ydi Llais Ci'n udo
54] Neu Lais Olwŷn, neu Lais Morwŷn yn Llysmeirio
55] Mi gyfflybwn Fŵa ei Feiol
56] i Lais aniddig Gŵydd ar Farrig gwaedd arferol
57] Er bôd y Cerddor pêr laferŷdd
58] Yn Medru 'chanu a chwalu ei Cholŷdd
59] Mae Diffŷg anadl yn ei ffroene
60] Yn dŵyn ei Sŵn o dânn ei Assenne
61] Oer ei pharabl ŷw'r Offerŷn
62] Yn Llafaru, gwŷch i ganu 'Gyche Gwenŷn
63] 'Fe Wnae well llais a phricc Edafedd
64] Hai Lw-luan neu rŷw Driban ar y Drybedd
65] Ni wrendŷ Nêb mo'i llais anhawddgar
66] Ond Rhŷw Feddw, neu Rŷ Fyddar
67] Haws nag ynill Ceiniog wrthi
68] O fewn ei Blŵy gael dŵy am dewi
69] Di-ddeallus ŷw'r ddŵy ddellten
70] Ar wahanu yn llysgo canu llais Cacynen.
71] Erioed ni chlowed Gwrâch yn grwgnach
72] Pann fae'n tuchan, neu'n ystwttian anwasdatach
73] Caned ffarwel iw Gymdeithion
74] Darfu'r Goel, fe dŷrr ei Galon
75] Ni ddâw bŷth i Feiol Serchog
76] Oni ddâw drŵy'ch Llâw Alluog
77] A geir i Wiliam er ei Waeled
78] Drebel newŷdd, a llawenŷdd ynddi ' lloned
79] Fe ddâw'n y Mann o'i dwstan dristwch
80] Ond cael yn gelfŷdd Gâs da'i ddeunydd Gîst diddanwch
81] Mae'ch Calon hael o fael o filoedd
82] A'ch Mŵyn ddŵylo'n llŵyddo lluoedd
83] Eitha Gwrol a thrugarog
84] Gloyw ydŷch a golidog
85] A Rhowch i er Duw Blodeuŷn Cymru
86] Bur waed reiol iddo Feiol iw ddiofalu
87] A digon da ichwi rŵymo ir Heddwch
88] Rhag iddo ei llethu, mae'n hawdd i gyrru i hawddgarwch

Huw Morus ai Canodd 1680

[td. 313a]

[15. Huw Morus, Cerdd a wnâed i Fwtler Glŷn Ceiriog (1667)]


Cerdd a wnâed i Fwtler Glŷn Ceiriog.
Y Mesur Trom Galon neu Heavy [T: Heay] heart
1] Gŵr Ievangc aeth, ni waeth pŵy fotho
2] Lle 'r oedd ei Galon yn ewyllsio
3] i Siarad Awr neu ddŵyawr dduwiol
4] A mŵyn ei Chŵyn a main ei Chanol
5] Rhodio'r Nôs sŷdd Drât trafferthus
6] Weithie'n llŵyddo, weithie'n hippio'r waith anhappus
7] Weithie rhyddŷd sŷdd i Ladrad
8] Weithie rhŵystyr i ddŷn Cowŷr a fae'n dŵyn Cariad
9] Pann ddaeth o dann ei phared purwŷn
10] iw arefnio ir drŵs doe Dlŵs ei Chorphŷn
11] A'i arwen at y Tân yn fŵynedd
12] Rhag ei rynnu rowiog rinwedd
13] Ag ynte oedd ai Waed yn berwi
14] A hithe'n Anrheg Sêt oleudeg Sweet Lady
15] Gwell oedd y Gader Goed i garu
16] Na chael y ffenest iachus onest iw chusanu
17] Dechreu sôn am Serch a ffansi
18] Gwell nag Aur oedd cael ei Chwmni
19] Gwell na Miwsig blysig bleser
20] Oedd Cwmni honn a'i Geirieu tyner
21] Gwell oedd sippio i Mîn na Swpper
22] Gwell na chwrw oedd trîn y Feindw rowiog fŵynder
23] Gwell na Gwîn a Siwgwr ynddo
24] Oedd cael yr Ewig wŷch fawledig iw chowleidio
25] A phann oedden nhw Lawena
26] (Yn Dôst aruthr mi dosturia)
27] Yn torri rheswm angenrheidiol
28] Unig onest yn ei ganol
29] i grîo 'r aeth y Plentŷn bychan
30] Ag yno a gorfu ar Loer fŵyngu alw ar feingan
31] Fe gode'r feinwen groenwen grynno
32] Ddisglaer degwch, hi haedde heddwch iw ddyhuddo
33] Ag wrth Sîo gwnae Wasanaeth
34] i fodloni ei Famm ai Fammaeth
35] Pann ga' hi'r Babi i dewi, 'n dawel
36] Hi dro 'n ei hôl heb gŵyno 'i thrafel
37] i Eiste wrth Glun yr Impin purlan
38] Fal dŵy G'lomman, ddeuddŷn ddiwid yn ymddiddan
39] Grudd yngrudd ymgommio'n llawen
40] Ai fraich Deheu y môdd a mynneu am wddw meinwen
41] Llawn ŷw'r Merched o Fŵyneidddra
42] Llawn ŷw Gwragedd o Gyfrŵysdra
43] Gwraig y Tŷ a wela freuddŵyd
44] Fôd dau Angel ar ei haelŵyd
45] Lle nid oedd dim goleu gwiwlan
46] Ond eu Glendid ddeuddŷn ddiwid yn ymddiddan
47] Wrth gefn y Gŵr hi fi'n Clust feino
48] Lle ca'dd hi Bregeth o Garwrieth iw goreuro.
49] Hi roes ei Bendith ar ei Gorŷn
50] Yn ysgafn iawn heb blygu un blewŷn
51] Ag aeth a Hett y Gŵr Bonheddig
52] Am Drespas fechan ŵyl Nadolig
53] Oddiam ei benn hi cippia 'n droegar
54] Ag â'n ddifwgwth i ffordd yn chwimwth at ei chymar
55] i Dduw! a wnaeth na thrŵst na dirmŷg
56] Ond peri dychrŷn yn y ddeuddŷn oedd yn ddiddŷg
[td. 313b]
57] Meinwŷr Wenn fŵyn hafedd hefŷd
58] A redodd ar ei hôl gann ddoedŷd
59] Ai chwareu têg i chwi tafaela
60] Am Lettu noswaith ganol Gaua
61] Fe drigarhâdd y Wreigdda burlan
62] Hi f'ase'n Llangces gowir hanes garu 'hunan
63] Ni ddoedodd ddim, ond hwdiwch meinwen
64] Y Gaster gostus, wŷch a pharchus rhowch iw pherchen
65] Ped f'ase' ŵr a Hettan lippa
66] A thafod crâs ag atteb cwtta
67] Mynnase gyrchu'r Gwŷr ar Llangcie
68] i fynd ar Gwalch ir Buarth gwarche
69] Ond aruthr ydi Gwraig mewn towŷll
70] Hi edwŷn ffyliaid bennau gweiniaid heb ganwŷll
71] Hi edwŷn ŵr a haeddo'i groeso
72] Serchog Natur a fae'n dŵyn dolur dann ei dŵylo
73] Y Gŵr Ievangc hawddgar afiaeth
74] Oedd ddioddefgar da ei Naturiaeth
75] Gwell gantho dorri ei fŷs o lawer
76] Na thorri Cusan yn ei hanner
77] A hithe'r Ferch oedd dda'i rhinwedde
78] Rhag cael anglod am fŵyn osod; ni fynase
79] Fynd ir Glŷn o'r Mŵynddŷn minddoeth
80] Oedd lawn ffyddlonedd i drîn y Bonedd adre'n bennoeth.

Huw Morus ai Canodd 1667. i Fwtler
Glŷn Ceiriog a ddaethe i garu ei Forwŷn o.

[td. 313b]

[16. Sion Prŷs: Y Breuddŵyd (1689)]


Y Breuddŵyd. Y Mesur Blodeu'r Dŵyran
1] Fal yr oeddwn i dann rŷw gyscod
2] Yn dechreu Cysgu
3] Gwelwn freuddŵyd go ddrŷch anial
4] im dychrynnu
5] Bum fellŷ dros awr
6] Ac yn fy Mreuddwŷd mi welwn rŷw guttog
7] yn Dyfod tuag atta
8] O Ferch ddigwilŷdd at Erchŵyn fy Gwelŷ
9] Yn Chwennŷch ei gwala
10] O Gala go fawr
11] Hi dynne oddiamdani fal hòbi go hên
12] Er Maint oedd ei thyre hi leibiodd fy ngên
13] Hi ymele'n fy nganol, hi'm gwasga'n o dŷnn
14] Od oes gin ti galon gwâsc finneu fal hŷnn
15] Gann faint oedd hi'mscryttio, fy screttan oedd flîn
16] Hi fynne per ynfydwn fynd rhwng fy nau Lîn
17] Ymhle mae dy Galon, ai cwla ŵyt i'r Dŷn?
18] Nid haws i mi heno gael oeri fy Ngwŷn.
19] O wîr lyfrdra dechreua'r Chwŷs dorri
20] i gerdded o'm dŵyrŷdd
21] Rhag morr anferth yr oedd hi'n fy ngholeth
22] Or penn bŵy gilŷdd
23] Dann gyrchu at fy ffwrch
24] A minneu oedd yn gorwedd dani, am gŵedd yn o dene
25] Yn ceisio nadŷ Llydan ei Llowdl fynd rhwng y Nglinie
26] Mi 'mdrewais fal Iwrch
27] Ymgurwn yngwaethe, hi fynne gael brâth
28] A Minne fal llygod dann hergod y Gâth
29] Heb allu morr chimiad, na doydŷd chwaith fawr
30] A hithe 'n hŷll anial fal Gwyddan neu Gawr
31] Yr oedd hi morr Landeg a Chaseg o Brŷd
32] Ai Gwinedd ai Dannedd yn fodfedd o hŷd
33] Fy Nhrŵyn i'n un tammed a fynne hi gnoi
34] A chŷnn iddi mrathu, mi gefais ddeffroi

Sion Prŷs y Canu ai gwnaeth 1689.

[td. 314a]

[17. Sion Prŷs, Cyngor Hên Wraig iw Mâb (1669)]


Cyngor Hên Wraig iw Mâb. Y Mesur
Cwympiad y Dail.
1] Happiodd i mi wrth Drafaelio
2] Syrthio i'r fann lle bum yn gwrando
3] Ar gyf'rwyddŷd Gwraig yn dysgu
4] Ag yn 'fforddio ei Mâb i garu
5] Yn gynta pêth dechreua'i holi
6] Fy Mâb, bêth sŷdd yn ddarfod iti?
7] Minneu fedrwn dy Gyfflybu
8] I un fae Gariad iw roi fynu
9] Ag os hynnŷ ŷw dy gyflwr
10] Na thro bŷth mo'th Gefn fal Anwr
11] Pann fo'ch di ar y Gobaith gwaetha
12] Dal di wrthi hi fanyla
13] Mi fum ennyd yn dal wrthi
14] Hi roes im atteb na chawn moni
15] Ni lafasai mŵy ymgymmell
16] Rhag ofn i mi 'digio 'n rhybell
17] Y Nêb a fo morr llwfr ag ofni
18] Treio ei Nattur cin Priodi
19] Siwr i hwnnw gwedi ymglymmu
20] Bŷdd arno fŵy ei hofn, na'i Charu
21] Nattur Halen mewn Dŵr doddi
22] Nattur Brân ar Dês ymolchi
23] Nattur Llangces Wenn i dreio,
24] Roi atteb siwrl ir mŵya ' garo
25] Nattur Merch sŷdd ddigon tebŷg
26] I Ebol Ievangc dychrynedig
27] Os eiff Dŷn yn Anhŷ atto
28] Fe rŷdd Naid ymhell oddiwrtho
29] Lle bo Merch yn llawn Serchogrŵydd
30] Ni fŷnn honno morr Medrysrŵydd
31] Ni Chrêd hi fôd or Tân morr digon
32] Nes y Gwêl hi bêth o'r Gwreichion
33] Pôb Gŵr Ievangc llonŷdd llednais
34] Gŵyl a gweddol, distaw Cwrtais
35] Nyni'r Merched ai canmolwn
36] Yn ddau Cimmint ag y Cerwn
37] Parr y fôdd y Cafodd Vulcan
38] Venus yn ei Haur ai Sidan?
39] Heb iddo lendid na dim coweth
40] Ond i fôd yn Gwrtiwr odieth.
41] Nid o brŷd y Câr hi'r glana
42] Nid o Gorph a Câr hi' Tala
43] Nid y mŵya'i rŵysc ai Renti
44] Ond y Tosta a ddalio wrthi.
45] Os dâw gofŷn pŵy a ganodd
46] Gwraig iw Bachgen fal y medrodd
47] Oni wneiff yn ôl fy Ngeiria
48] Gelliff fôd yn hîr heb Wreigca.

Sion Prŷs y Canu a'th gwnaeth.
1669.

[td. 314b]

[18. Sion Prŷs, Cerdd o addŷsc mewn Carwriaeth (1675)]


Cerdd o addŷsc mewn Carwriaeth
yr honn a yrrodd Sion Prŷs yn atteb
i Sion Llŵyd Grwbi o Landrygan a
yrrase ychydig Benhillion i ofŷn ei Gyngor
Y Mesur. Triban.
1] Gyrasoch attai weithan
2] Fal pettwn Brydŷdd gwiwlan
3] O'ch monwes gynnes ganniad ffel
4] Ar Annel trebel Triban
5] Eich Llythŷr mŵyn a gefais
6] A'ch meddwl a ddehelltais
7] Ceisio cyngor ar rŷw drô
8] Pa fôdd i ledio lodes
9] Nid oeddŷch ond ffôl am geisio
10] Gann Ŵr sŷdd wedi llŵydo
11] Megis gweled Breuddŵyd gŷnt
12] Sŷdd genni'r Helŷnt honno
13] Ond etto 'r ŵy 'n meddylio
14] Yn sydŷn wrth gonsidrio
15] Fynd llawer Gŵr a Chudŷn crŷch
16] Yn Gapten gwŷch wrth fentrio
17] Ag fellŷ gellwch chwithe
18] Os dowch i gymŵys gyfle
19] Oni fyddwch yn rhŷ Swrth
20] Gael Parch oddiwrth eich arfe
21] Os ewch at Ferch Fonheddig
22] A Phorsiwn da Nodedig
23] Bŷth na 'felwch têg ei Bronn
24] Am gadw honn yn ddiddig
25] Pann gaffoch drŵy hawddgarwch
26] Y Fun dann gyscod, gwescwch
27] Ag er ymado'ch dau mewn dîg
28] Dâw etto 'n ddiddig, coeliwch.
29] Os Ewch i garu Aeres
30] Edrychwch at eich busnes
31] Ag n'adewch i berchen Gwâllt
32] Yn hynod ddâllt mo'ch Hanes.
33] Meddyliwch yn y Cynta
34] Am Selio'r Fferem Leia
35] Bŷdd siwr ichwi er digio sant
36] Gael meddiant yn y fŵya
37] Os Ewch at Ferch i Gerlŷn
38] A Miloedd o Aur Melŷn
39] Cenwch bennill i liw'r tonn
40] A Rhŵydwch honn ir Rhedŷn
41] Ymeulŷd ynddi'n helaeth
42] Nid siarad am Hwsmonaeth
43] Ag os oes Synwŷr yn Eich siol
44] Rhwbia ei Bol hi a rhywbeth
45] Nid ydi'n weddus imi
46] yn hynod chwaith moi henwi
47] Ni ffaelia Nêb ddychmygu'r pêth
48] A wneiff ir Eneth hoffi.
[td. 315a]
49] Ond am 'r Hafodwraig fŵynlan
50] Gadewch i honno ir Lleban
51] Oni leicciwch ar rŷw drô
52] Fynd yno i sippio Soppan
53] Os Ewch ir Gegin gwedi
54] A dwedŷd Chwedel digri
55] Ni chewch yno 'r draws eich Penn
56] Ond Lab ar llien llestri
57] Gochelwch fynd i'r lledre
58] Ar Hogen wann ei hegle
59] Rhag ofniddi brifio 'n Swrth
60] Ymhell oddiwrth y Cartre
61] Er Cael eich carrio'n ufŷdd
62] Yn fynŷch drŵy afonŷdd
63] Wrth hîr dramŵy hŷd y Traeth
64] Mae llaccia gwaeth nai gilŷdd
65] Wel dyna i chwi Gynghorion
66] O 'wyllŷs cilie Calon
67] Os canlynwch hŵy ar eu hŷd
68] Chwi ddowch i olud ddigon

Sion Prŷs y Canu ai gwnâeth.
1675.

[19. John Wiliams (Pont y Gwyddel), Cerdd yn Dychanu pôb Mâth ar Bobl (1665)]

Cerdd yn Dychanu pôb Mâth ar Bobl.
1] I ba bêth y gwnaed y Bŷd
2] Ag y cynhaliŵyd Hwnn o hŷd
3] Er dechreuad hŷnn o brŷd
4] Ni bum ond ennŷd ynddo
5] Nid ŵyf ond gwirion Duw'n fy rhann
6] Ond gwelais hŷnn am Synwŷr wann
7] Mae mŵya Arfer ymhôb mann ŷw Coggio
8] Nid oes un Deyrnas dann y Nê
9] Nid oes na Gwlâd, na Thrâd na Thrê
10] Nid oes na Mann na Llann na Llê
11] Na Chyfle ond i chwilio
12] Nid oes nag Oes na Blŵyddŷn faith
13] Na Mîs na Dŷdd na Munyd chwaith
14] Na bo nhw ôll yn dâllt y gwaith i Gogio
15] Y Cowrtiwr glân a haeddeu glôd
16] Ond mŵyn ŷw fe am fynnŷ ei fôd
17] Yn carrio ei Gŵch yn uwch na'r Nôd
18] Yn Alamode De Quirpo
19] Ai Lofty Gait, ai State, ai Stir
20] Ai Sidan Main, ai Fan ag ai Fur
21] Chwi gewch eich Humble Servant Sir yn Cogio
22] Yr Arglwŷdd sŷdd yn riwlio'r Sîr
23] Ar Marchog Mawr, ar Noble Squire
24] Pôb Gŵr Bonheddig Perchen Tîr
25] Sŷdd dda a difŷrr gantho
26] Gadw Footman, Dŷn dirâs
27] Neu Gî, neu Geiliog, neu'r Nagg Glâs
28] Neu dreulio'r Bowl, neu'r hên Seis âs i Gogio
29] Yr Eglŵyswr Doctor Mawr
30] Ai Own ai Gasog llaes hŷd llawr
31] Chwi cewch o'n dwndrio fal y Cawr
32] Tra botho'r Awr yn passio
33] Yn dangos beuiau gimmin un
34] Tŵyll a Malais Calon Dŷn
35] Er a Gŵyr o'r ffordd ei hun i Gogio
[td. 315b]
36] Y Gŵr Gownog Enwog iawn
37] Am ei wîsg ai Ddŷsg ai ddawn
38] Ai Ymadroddion llonn yn llawn
39] Ag am ei Gyfiawn Bledio
40] Os na roddŷr Aur oi flaen
41] Fe chwerŷ Hwnn Legerdemaen
42] Wel dyna Perdue ffrensh yn blaen am Gogio
43] Y Pysygwr Câs ir crŷ
44] Gŵr gwŷch ir Gwann ar Methiant Lu
45] Ymhle bynnag y bo ei Dŷ
46] Bŷdd Dŵr yn cyrchu atto
47] Cewch Gyfferieu loned Sâch
48] Gantho i'ch gwneuthŷr ôll yn iâch
49] Ond ymhôb un, bŷdd ANA bâch o Gogio
50] Yr Uchelwr Cottŷn clŷd
51] Sŷdd ai 'Scuborriau 'n llawn o Ŷd
52] Yn disgwil gweled blŵyddŷn ddrŷd
53] A hŷnn sŷdd hyfrŷd gantho
54] Os eiff o i werthu ŷd neu wair
55] Neu Hên Gyffyle rhŷd y Ffair
56] Bŷdd siwr y ceiff a goelia'i air, i Gogio
57] Bêth am Daliwr, bêth am Wŷdd?
58] Bêth am y Gô, ar Pannwr prŷdd?
59] Bêth am y Gowper, bêth am Grydd?
60] Heb lâw'r Melinŷdd crynno
61] Am y rhein nid oes morr wâd
62] Eu hunig waith mewn Trê a Gwlâd
63] Au Dŵylo traws yn dilŷn Trâd i Gogio
64] Y Gweinidogion ymhôb mann
65] A ofŷn gyflog mawr iw rhann
66] Pôb rhywogaeth, Crŷ a Gwann
67] A hŷnn am wiwlan weithio
68] Os eir oddi\w/rth y rhain ymhell
69] Chwilotta a wnân or Tân . Gell
70] Nid ŷw hŷn un gronŷn gwell na Chogio
71] Bêth am y Glwfer gwlŷb ar sŷch
72] Ar Barber gweisgi yn y Drŷch
73] Sŷ'n Powdrio'r Berwig Glaerwen Grŷch
74] A thann ei mynŷch mendio
75] Gwell nid ydŷw'r rhain o ddraen
76] Na'r Gwŷr eraill aeth or blaen
77] Mae ganthŷnt gastie Ffrainc a Spain i Gogio
78] Y Marsiandwr cefnog gwŷch
79] Ar Moriwr braisg ar wyneb brŷch
80] Sŷdd yn croesu'r Cefnfor crŷch
81] Yn cyrchu mynŷch Gargo
82] Os Edrychŷr 'mŷsc eu wâr
83] Pôb Pasc, pôb Bwndel (mawr eu bâr)
84] Pa bêth ŷw'r Marc, pa bêth ŷw'r Târ ond Cogio?
85] Gwaith y Porthmŷn hŷd y Ffeirie
86] Gwaith y Gwŷr Sŷ'n cadw Sioppe
87] Gwaith Gwragedd y Tafarne
88] A gwaith Clarcie Llwdlo
89] Gwaith trino llîn a gwlân
90] A gwaith caru Llangces lân
91] A gwaith Priodi Sion a Sian ŷw Cogio
92] Afraid im fynegi mŵy
93] Am Wŷr cleifion or un clŵy
94] Om rhann fy hun Conffessu'r ŵy
95] (ag Ni wâeth pŵy ai gŵypo)
96] Am ddiniwed gastie Mân
97] Ni cheisia fôd fy hun morr lân
98] Na ŵy. y Gŵr a wnâeth y Gân bêth Cogio

Meister John Wiliams o Bont y Gwyddel ai cant 1665
Y Mesur Spanish Bavin.

[td. 316b]

[21. Lewis Meyrig, Cyfflybiaeth Geirieu iw gilŷdd (1673)]


Cyfflybiaeth Geirieu iw gilŷdd
ar Destŷn Carwr yn siarad ai Gariad
1] Hi aeth fy 'nŵylyd yn Glann Gaua
2] Di weli wrth y Rhêw ar Eira
3] Dwed i mi 'n ddigyfrinach
4] Pamm na wisgi Lewis bellach?
5] Pann ddêl y Rhîn yn oer aneuri
6] Ar Cynfase'r Nôs i rewi
7] Gwubŷdd Gwenn mae dyna'r Amser
8] A gwna Lewis iti Bleser.
9] Dy Hên Sircŷn pe ceit gynnig
10] Gwnn y gwerthŷt am ychydig
11] Ped eit unwaith yn ymarfer
12] Ni chymrŷt am dy Lewis lawer
13] Llawer Llangces Wenn ni rusa
14] Yn ei Llewis blannu pinna
15] Tithe fuost yn fŵy dibris
16] Saetheu a blennaist yn dy Lewis
17] Rhai rŷdd Lewis am eu breichiau
18] A rhai Lewis wrth eu Cefnau
19] Ir gwrthŵyneb tro di'n inion
20] Gosod Lewis wrth dy ddŵyfron
21] Arfer ŷw i bôb Merch weddis
22] Am ei Breichieu wisgo Llewis
23] Cymmer ffasiwn newŷdd Ditheu
24] Am dy Lewis gwîsg dy Freichieu
25] Minneu welais Lewis Gwnion
26] Gann Gyffredŷn a Bon'ddigion
27] Pe gwelwn dithe (mi rown fowrbris)
28] yn dda dy Le, yn Ddu \dy/ Lewis
29] Tro yma d' wyneb attai 'n inion
30] Paid ag edrŷch arnai'n ddiglon
31] Rhag ofn dyfod Angeu dibris
32] Ag ymeulŷd yn dy Lewis
[td. 317a]
33] Di gei Own or Sidan Sioppe
34] Di gei Grŷs or Holant gore
35] Di gei'r ffasiwn a ddymunech
36] Di gei Lewis fal y mynnech
37] Er Meined ŷw dy Grŷs di Gwenfron
38] A gwynned ydi 'nghŷlch dy ddŵyfron
39] Gormod Pechod iti rŵystro
40] Na chae Lewis aros wrtho
41] Y mae dy Siwt i gŷd yn grynno
42] Ond un pêthe sŷ'n ddiffŷg etto
43] Nid ŷw hynnŷ chwaith morr llawer
44] Ond un Llâth o Lewis ofer
45] Oer ŷw'r Tŷ heb Dân y Gaua
46] Oer ŷw'r Cenllŷsc, oer ŷw'r Eira
47] Oer ŷw'r Hîn pann fo hi 'n rhewi
48] Oerach Merch heb Lewis wrthi.

Meister Lewis Meyrig y Cyffreithiwr
ai Cant 1673. yr hwnn oedd y prŷd hynnŷ
yn caru Meistres Mari Llŵyd o Ligŵy, Gwraig
Weddw Meister Bodychen o Fodychen.
Y Mesur Cŵympiad y Dail.

[22. Huw Morus, Cerdd i Ddiddanu Gwraig alarus (1681)]


Cerdd i Ddiddanu Gwraig alarus
am farwolaeth ei Gŵr a dau o Blant
Y Mesur Trom Galon.
1] Pa ham yr ŵyt ti'r Weddw weddus
2] Mari Lariadd morr alarus?
3] Cymmer galon, paid ag ŵylo
4] Galw'r Dduw, fe ddâw i'th helpio
5] Nid ŷw'r Bŷd igŷd ond gwagedd
6] Na'r hôll Ddynion, mân a mawrion yma'nd marwedd
7] Ni cheiff nêb ŵybod ei Awr derfŷn
8] Cyrredd Angeu rai bôb dyddieu, heb ŵybod iddŷn
9] Am dy Ŵr a'th Blant a gleddaist
10] Gloyw arŵyl a galeraist
11] Nid elli ddoydŷd (Cymmer chwippŷn
12] Well amynedd) golli monŷn.
13] Y Duw a rhoes mewn Einioes unwaith
14] I ti'n flode, dêg wêdd ole a'th dygodd Eilwaith
15] A'th Llâw dy hun di ge'st eu 'mgleddu
16] A thrŵy Gariad da dueddiad eu diweddu.
17] Crist a'th prynnodd cin eu llunio
18] Amynedd it, a'th Mynnodd atto
19] Lle nid oes dim anesmŵythder
20] Nag awr dristwch, nag oer drawsder
21] Llan ŷw'r Bŷd o anwiredde
22] Diolch i'th Arglŵydd, mewn diniweidrwŷdd i dwyn adre
23] A Duw a dal it am eu magu
24] Mae dy gyflog yn lluosog yn llâw Iesu
25] Marw a wnaeth ein Tadau'n Teudieu
26] Y foru'r awn y feirw Ninneu
27] Yr hôll Brophwydi ar Apostolion
28] Mawredd nerthol marw 'wnaethon

[td. 317b]
29] Ni bu'n y bŷd heb dristwch weithie
30] Er bôd yn ddedwŷdd, mae rhŷw gerŷdd ir rhai gore
31] A fo ddioddfgar i fodloni
32] Troi wna'i dristwch trŵy ddiddanwch yn ddaioni
33] Iôb oedd un o'r Gwŷr C'waethocca
34] Efe a ga'dd y Golled fŵya
35] Colli a fedde, mynd yn Adŷn
36] Heb fôd gantho'n grynno un gronŷn
37] A dŵyn ei Blant or Bŷd ir Bedde
38] Dann ei gerŷdd, drŵy Lawenŷdd fo fodlone.
39] Gann ddoydŷd, Duw a roes or'chafiath
40] Yr Un Duw Sanctaidd yn ddi-gamwedd a ddŷg ymath
41] Mae Llawer Gwraig yn magu Meibion
42] Yn Fawr ei choel, i friwo'i Chalon
43] Ac yn meithrin Merched hoyw
44] I gael diben gwaeth na Meirw
45] Dydi welaist or Duwiola
46] Gladdu a geraist yn iach Onest, mŵy na chŵyna
47] Nid rhaid it mŵy ofalu drostŷn
48] Dywed Mari'n ufydd weddi, Nefoedd iddŷn.

Huw Morus ai Cant 1681.

[23. Huw Morus, Cerdd i ddiddanu Gŵr Clâf (1681)]


Cerdd i ddiddanu Gŵr Clâf.
Y Mesur. Trom Galon
1] Fy Anwŷl Gâr ufyddgar foddion
2] Pur yn traethu toraeth tirion
3] Pam y mae eich mŵyn gorph heini
4] Oedd dêg lân yn digalonni?
5] Eich Grudd a'ch Gwrîd rhŷw ofid rhyfedd
6] A welai'n pallu, tôst ŷw hynnŷ, tŷst anhunedd.
7] Lle bo'r Galon yn Penydio
8] Gwedd a ddengŷs yn gyhoeddŷs iw gyhuddo
9] Er Duw doydwch pa Gaethiwed
10] Sŷ'n eich gwneuthŷr chwi cin brudded
11] Pa un ai dirgel drwbwl meddwl
12] Sŷ n eich dal fal Haul dann gwmwl
13] Ai'ch Corph sŷ'n diodde clŵy a Dolur
14] Ai'ch Cyrhaeddŷd a wnaeth Ciwpŷd, ergid oergur
15] Bêth bynnag sŷdd, na 'dewch i bruddder
16] Mo'ch gorffygu, wrth hîr dyfu weithred ofer.
17] Cymmerwch fŵynder a llawenŷdd
18] Yn eich Mynwes a'ch ymennŷdd
19] Na'dewch i bruddder a gofalon
20] Fŷth feddiannu gwelŷ'r Galon
21] Nid ŷw'r Bŷd ar Cwbwl sŷ' ynddo
22] Ôll ond Gwagedd, fwyfwy oferedd oi fyfyrio
23] Bôd yn fodlon i bôb cyflwr
24] Ydŷw 'wyllŷs dawn cariadus Duw'n Creawdwr.
25] Mae'r Iacha ei Oes ar frŷs yn dirwŷn
26] A'r Clâ'n cael Einioes lawer Blŵyddŷn
27] Cymerwch Galon Filwr Mentrus
28] Gnewch eich Enaid yn gyssurus
29] Trowch eich trymder di-orfoledd
30] I fordd o'ch Meddwl, yn dra manwl drŵy amynedd
31] Ffŷdd ŷw'r Physic oreu 'gymrwch
32] I'ch cwmfforddio, dêl a ddelo, Duw addolwch.
[td. 318a]
33] Ewch at Grîst, a byddwch lawen
34] Ei Air fu Eli i wâs y Capten
35] Ffŷdd ei Feister ai Grediniaeth
36] A wnaeth y gwirfawr Physigwriaeth
37] Chwi gewch Iechŷd yn dragŵyddol
38] Ond gwîr gredu, drŵy help Iesu hael happusol
39] Os marw 'wnewch fe'ch cyfŷd eilwaith
40] Rhaid ir hôll fŷd ar fŷrr ennŷd feirw unwaith
41] Nid rhaid i Gristion Da'i Grediniaeth
42] Bŷth bruddhau rhag ofn Marwolaeth
43] Pêth daionus ydŷw Angeu
44] I ryddhau Dynion o'u blindereu
45] Fe'n rhyddhâ oddiwrth bôb rhŵydau
46] Maglau Satan, a phôb aflan ddrogan ddrygau
47] Fe'n Dŵg o Ddyffrŷn y trueni
48] I Seion Sanctaidd, lle mae'r anrhydedd a'r mawrhydi
49] Fe'n dŵg o bruddder i lawenŷdd
50] O Sodom i Gaersalem Newŷdd
51] Lle mae Duw ai Dêg Angylion
52] Hîr ei ddonieu 'n mawrhau 'Ddynion
53] Mae mŵy hyfrydwch yngwlâd Iesu
54] Nag eill undŷn ei ddŵys ofŷn na'i ddeusyfu
55] Pôb Perffeithrŵydd wrth orchymmŷn
56] Nefol bleser, ddwid arfer yn ddi-Derfŷn
57] Derbyniwch hŷnn o Anrheg Fechan
58] I'ch difyrru ai chanu'ch hunan
59] Fe wnaeth yr Arglŵydd fŵy o wrthieu
60] Na'ch gwneud chwi morr iâch a minneu
61] I fŷw'n ddedwŷdd fŵynaidd odiaith
62] 'Rŵy'n gweddîo i chwi delo Iechŷd eilwaith
63] Teflwch Sŷnn fyfyrdod heibio
64] Fal y Caffoch, ffŷdd tra byddoch trŵy obeithio

Huw Morus ai Cant 1681.

[24. Roger Wiliams, Galar Gŵr am ei Gariad a Gollase (1689)]


Galar Gŵr am ei Gariad a
Gollase: Y Gŵr oedd Meister
Roger Wiliams Person Aber
ar Ferch oedd Meistres Alis
Huws chwaer M.r Owen Huws
or Beaumares, yr honn oedd
y Prŷd hynnŷ yn Wraig Weddw
M.r Davŷdd Llŵyd Siencŷn o
Lysdulas, a gorfod arni briodi M.r
Tomas Fychan o dros yr Afon yn
erbŷn ei hŵyllŷs.
1] Cerais Lodes gynnes geinwedd
2] Feinir Ifangc fŵyn arafedd
3] Dygais nychdod gwastad gystŷdd
4] Fal Dŷn Gwirion dann ei gerŷdd
5] Yr oedd fy Meddwl ar ei Meddu
6] Na chae Dwstan fariath Lydan mo'm colledu
7] Mae'n rhaid Diodde pôb Digwyddiad
8] Heb drugaredd yn y diwedd ymadawiad
[td. 318b]
9] Nid oedd Nemmawr chwaith yn ammeu
10] Nad oedd Meinir bur i Minneu
11] Serch ag 'wyllŷs cofŷs Cyfan
12] Galleu honn ai Llâw ei hunan
13] Ond bôd eraill yn ei gyrru
14] I le amgen rhai a goethan i phregethu
15] Am fy Seren Irwen Eurwawr
16] Och i Gyweth a hudolieth fŷth hŷd Elawr
17] Fe aeth y Geiniog fechan weithie
18] Gann lawer un yn Gant o Bunne
19] A rhai eraill er bôd mawrdda
20] Yn Mynd o Ganpunt i gardotta
21] Ffynnŷ a Ychydig, methu a llawer
22] Ffôl anianol, a mawr hudol roi morr hyder
23] Ar y Bŷd na dim sŷdd ynddo
24] Golŷd ammal a ddŵg ofal gida'g efo
25] Tra gallŵyf ar y Ddaiar Symmŷd
26] Yr ŵy'n dŵyn alar am fy 'nwylŷd
27] Och ir sawl a luniodd athrod
28] Yhi 'n Bur a minneu'n barod!
29] Am na chowsom drŵy Lawenŷdd
30] Yn ddigwerylon, roi'r ddŵy Galon gida'i gilŷdd
31] Ni wnn i mhlê gwahenŷr bellach
32] O Glŵy traserch bŷth ar Lannerch ddau ffyddlonach
33] Deled iddi 'r ŵy 'n Dymuno
34] Fôd iw ffortŷn Loyw-ddyn lŵyddo
35] Nid yhi oedd yn fy llysu
36] Ond ei Chynghorwŷr, am fy ngharu
37] O Eisieu 'môd yn Perchen golŷd
38] A Mawr Gyweth, o naws barieth ansyberŵyd
39] Y Sawl a Gretto yn ei Galon
40] Ir Goruchal, yn ddiogal fe geiff ddigon
41] Ped fae genni Loned Crochan
42] O Ragorol Aur ag Arian
43] A Hitheu yn ei Chrŷs ai Ffedog
44] Rhannu a wnawn hŷd at y Geiniog
45] Nid Dâ'r Bŷd ŵy yn ei Chwennŷch
46] Ond ei Chorph Iredd, Meinir Luniedd Lân lawenwŷch
47] Iw Gowleidio drŵy Hawddgarwch
48] Y Mâb a'i caffo, nid rhaid iddo mŵy Dedwyddwch
49] Nid Gwiw i mi ddisgwil bellach
50] Gael mo'm hwllŷs fynd yn holliach
51] Am y Gefais o'i Chwmpeini
52] Melus oedd y Gwenwŷn imi
53] Tromm uchenaid wrth ymadel
54] Am Winwdden gain hôff Irwen ganu ffarwel
55] Geirie Pŵysol diwedd Passio
56] Cwlwm hirfaith oer iâs ymdaith aros amdo
57] Nid ar fy Mun yr ydŵy'n beuo
58] Gann fôd Ceraint iw phrocurio
59] Dewis golud mŵy y Galle
60] Calon inion oedd gin inne
61] Ond y rwan hi aeth yn Blymmen
62] Drom boenydiol anfesurol am fy Seren
63] Gwayw foddion heb gyfaddeu
64] Nid ŵy'n gweled fôd un Dynged imi ond Angeu.

Roger Wiliams ai Cant 1689

[td. 320b]

[27. Wiliam Lewis et al., Ymddiddan rhwng Meister Wiliam Lewis o Gemlŷn, ai Fâb ynghyfraith... (1663)]


Ymddiddan rhwng Meister Wiliam
Lewis o Gemlŷn, ai Fâb ynghyfraith
M.r John Huws y Telyniwr ar Cantwr
Mŵyn; ag Owen Lewis y Taliwr. Yr achos
oedd fal hŷnn; Ni fynne M.r John Huws i
Nêb i alw yn fachgen pann bassiodd o
Bymtheg oed, ag am fod M.r Lewis yn ei
alw yn fachgen, y tyfodd y ffray.
1] Nid ewch yn Ŵr er maint eich Gwŷn
2] Nes bôd yn un ar hugian
3] Nid ŷw Pymtheg gŵyr pôb Gwann
4] Un flŵydd ond oedran Bachgan

J.H.
5] Mae rhai'n un ar hugian Llawn
6] Fal Bechgin mewn Maentioli
7] A Minneu'n f' oedran doydai 'n siwr
8] Bôb Dŷdd sŷdd Wr yn profi
[td. 321a]
W.L.
9] Chwi ellwch fôd yn Ŵr mewn prŷd
10] Nid oes Nêb yn doydyd amgen
11] Ond nid ydŷch John yn awr
12] Ond Llabwst mawr o Fachgen

Taliwr
13] Ni fynne 'Nhâd mo'm galw'n awr
14] Ond Llabwst mawr o Fachgen
15] R'ŵy prwfio 'n Ŵr fal Hector dêg
16] O Bymtheg hŷd yn Nhrigien.

W.L.
17] Fe eiff i wneuthur Gŵr stowt ffrî
18] O Dalwŷr Drî neu Chwaneg
19] Ag fellŷ lle bo garw Drîn
20] Yr eiff o Fechgcŷn Bymtheg.

Taliwr
21] Yn Daliwr Gwnn fal 'r oeddwn gŷnt
22] Yn dda fy helŷnt hoywlan
23] Mewn garw Drîn yn prifio'n siwr
24] Yn Ŵr o'm Nerth fy hunan
25] Os rhowch chwi Meister Lewis Lân
26] Im Ogan heb ei Phrwfio
27] Mae John i'ch atteb Brydŷdd ffel
28] 'R'ŵy finneu'n abel etto

W.L.
29] A Glowch chwi'r Taliwr lledpen Hŵch
30] Attolwg byddwch lonŷdd
31] Y'marn y Wlâd mi ddoyde'n siwr
32] Nad y'ch na Gŵr na Phrydydd

J.H.
33] Y Sawl a ddoyto hŷnn yn Siwr
34] Nad ydŵy'n Ŵr diammeu
35] Er Hên, nag Ievangc, gwann na chrŷ
36] Mi wna 'ddo wadu 'r Geirieu

W.L.
37] Rhwng dŵy glun Merch mae ffynnon Lonn
38] Cael gwaelod honn os Medrwch
39] Cewch fôd yn Wr gann Lug a Llen
40] Os Methwch; Bachgcen fyddwch.

J.H.
41] Bêth a wna pan elŵy 'n Hên
42] Am penn am Gên i Lŵydo
43] Ai ni fyddai'n Ŵr mewn Oedran maith
44] Nes treio'r Gwaith ffordd honno?

W.L.
45] Os bŷdd Gŵr heb ddim or Serch
46] Na wneiff i Ferch Wasanaith
47] Digon Siwr pann êl o'n Hên
48] A bŷdd o'n Fachgen eilwaith

J.H.
49] Er Dŷn yn fŷw, er dim a fo
50] Er Maint a ddoyto ungwr
51] Ni byddai'n Fachgen myn dail ôd
52] Ped f'arnai fôd yn Sawdwr.

Ar Redeg y gw\n/aed y Gân, yn
Eistedd wrth y bwrdd lle'r oedd y
Taliwr yn gweithio, a Chyd rhyng=
ddynt y gwnaed y Gan. 1663.

[td. 321b]

[28. Rhisiart Abraham, Cerdd yn achŵyn ar Ŵr Bonheddig (1673)]


Cerdd yn achŵyn ar Ŵr Bonheddig am
dŵyllo'r Crwner or Chwaen Ddu am ei Forwŷn
1] Mae'r Crwner yn cwyno 'm y dŵyll a wnaed iddo
2] Am Forwŷn or eiddo wawr raddol ei bri
3] Gann ddoedŷd oi wirfodd i'r Gŵr ai Cyflogodd
4] Mae'r fŵyna'r y bisodd ŷw Besi
5] Y Forwŷn ddifarwedd a 'gore iddo'n g'wiredd
6] Pann ddoe at ei Annedd yn Niwedd y Nôs
7] Os Oer, os têg fyddeu yr Hîn yn ddiameu
8] Ni chae ar fŷrr Eirieu fawr aros
9] Darllenad Paun Cemlŷn y Degfed orchymŷn
10] Mae yno'n gwarafŷn drŵy Grefŷdd glau
11] Bôd yn rhŷ Chwannog i forwŷn 'Gymydog
12] Sŷdd Bechod afrowiog ei friwiau
13] Nid rhyfedd ir Forwŷn chwenychu bŷw 'Nghemlŷn
14] Dymma iawn Destŷn a dystieu pa hamm
15] Pe cerddit Tîr Holl Gred am Farchwr i Ferched
16] Nid ellid bŷth weled bâth Wiliam
17] Na uwsiwch mo Fesi yn ail i Ferch Sladi
18] Os happiwch feichiogi 'r Fun weisgi fŵyn wêdd
19] Na rowch mo'i Melys-fun er tolwg aur Dilŷn
20] I Lipprin fal Gwigin Fol gwagedd.
21] Cyflogi Gwawr Serchog heb fôdd i Pherchennog
22] Oedd Dŵyll am Weinidog ir Bowiog ŵr Bâch
23] Ond ei throi heibio heb achos, a'i rhuso
24] Ei Hudo, a'i thŵyllo oedd waith hyllach.

Rhisiart Abraham ai Cant 1673.

[29. Huw Bwccleu, Cân yn achŵyn ar Henaint (1660)]


Cân yn achŵyn ar Henaint
1] Fy nglân Gymdeidion gweddol
2] Am gwelodd gŷnt yn 'r ysgol
3] Nis gwnn i amcan bêth a wnâ
4] 'm eich Cyngor Dâ Naturiol
5] Mi gollais lân Gydymaith
6] Amdano 'r ŵy 'n dŵyn Hiraith
7] Gweddol, grasol, mŵyn di lîd
8] Hwnn ŷw Ieviengctid Perffaith
9] Yr oedd o'n Landdŷn hefŷd
10] Hawddgarwch oedd ei Benprŷd
11] Ymlhe bynnag ar y bâe
12] 'R oedd gantho Gampau hyfrŷd
13] Fe gerdde 'n Lystu 'r Ffeiriau
14] B'âe 'n Droedsŷch iawn drŵy'r Pyllau
15] Ar ei ysgŵydd dŵyn Ffonn Bîg
16] Fe Hede'n ddiddig Gloddiau
17] Fe gare Lendid Geneth
18] Fe waria 'mhôb Cwmnhieth
19] Nid Arsŵyde Nôs na Dŷdd
20] Gwnâe beunŷdd rŷw Wrolieth
21] Yn Sydŷn swrth fo gollodd
22] Ni wnn i Bêth ai perodd
23] Rhŷw Westwr Brwnt nis gwnn o b'le
24] A ddâeth iw Le fo'm hanfodd.
[td. 322a]
25] A hwnn ŷw Henaint Difrŷ
26] Ni Châr ond rhai mo'i Gwmni
27] Gwedi Grogi y bo fo'n ffast
28] Gwnaeth amfi Gast o Gnafri
29] Am wylltio Glanddŷn ymaith
30] A f'ase imi 'n Gydymaith
31] Y mae o'n pŵyso arnai 'n drwmm
32] Ffei hono Horswm diffaeth
33] Os awn at Glawdd iw ddringo
34] Ar feder Myned trosto
35] Y Naill Droed ai yn glîr ddiball
36] Ni wnâ y llall ond llithro
37] Os awn at Langces Serchog
38] Ai Llygad Du Cynffonnog
39] Teimlo'r Fun pa bêth a wnâ?
40] I Dduw a chwimia'r Falog
41] Fy Ffrins oes môdd yn unlle
42] Mewn Sessiwn neu mewn Dadle
43] I gospi Henaint drŵy fawr Lîd
44] I gael f' Ieviengctid adre?
45] Am hŷnn nid gwiw morr gwingo
46] Rhaid im ag e gyttuno
47] Ffei o Henaint brwnt ei Fâr
48] Ffarwel am câr dros heno.

Huw Bwccleu o Lanfechell
ai Cant. 1660.

[td. 323a]

[31. Dafŷdd ap Huw, Cwmnhiaeth Merched Dinbech (1649)]


Cwmnhiaeth Merched Dinbech.
1] Gwrandewch hanes tair o Ferched
2] Aeth mewn môdd ufŷdd i gŷd yfed
3] Sôn am waith y rhain yn fynych
4] Y Mae Bagad o Wŷr Dinbŷch
5] Mynd i'r Tŷ lle'r oedd eu hamcan
6] Eiste ' wnae'r ddŵy ag ar y ddau Bentan
7] Ar llall alwe 'n ddiwan am ddîod
8] Llenwi'r Chwart fal pette fo Bligŷn
9] Doyda i'r Chwedel bôd y Tippŷn
10] Mae Gwinedd rhŷ gethŷn ginn Gathod
11] Ar ôl eiste yno Ennŷd
12] Gwraig y Tŷ yn cael ei Gwynfŷd
13] Dechreu Sôn am Gwrs Carwriaeth
14] Fal y Meibion wrth Gwmnhiaeth
15] Fe ddoeda'r Drydŷdd, o ddaead oedd ginni
16] Gael pêth Cyssur fal Llangcesŷ
17] G'dewch inni rowiogi wrth y Bragod
18] Uwch benn y Tân hi lleda ei Llowdwr
19] Dann droi ei Brattieu i fynu'n Bentwr
20] A Dangos ei Chwthwr ir Cathod.
21] Y Gâth Ievangc pan i cannŷ
22] Rhŷw bêth towŷll ar i fynŷ
23] Hitheu a neidia o dann y Gader
24] Yno, os happie i gael ei Swpper
25] Cyrchu a wnae at Arffed Meinwen
26] Yn lle cydio at Lygoden
27] Cael C'lommen rhwng Dolen dau aelod
28] Hitheu a wasga ynghŷd ei Deulin
29] Brathe'r Dittw Bedwar Cimmin
30] Mae Gwinedd rhŷ gethin ginn Gathod
31] Hitheu dynna'r Gâth oi Gaflach
32] Ai Llâw burwen yn ddi'meiriach
33] Ag ai trawe hi wrth y Pentan
34] Hŷd onid oedd ei 'Mennŷdd hi allan
35] Doeda'r Wreigdda fŵyn ddigynnwr
36] Llâdd fy Nghatt mi af att Gyfreithiwr
37] Gwna it' dalu am hôll Lygwr y Llygod
38] Hitheu a ddoeda, pŵy a wneiff gimmin
39] A thalu am Giwrio fy Mriwia gerwin?
40] Mae Gwinedd rhy gethin ginn Gathod

Dafŷdd ap Huw'r Gô o Fodedern ai Cant 1649

[td. 323b]

[32. Dafŷdd ap Huw, Ymddiddan rhwng Dŵy Chwaer (1657)]


Ymddiddan rhwng Dŵy Chwaer.
1] Gwrandewch ymadroddion pur tirion pêr taer
2] O achos Priodi, fy rhwng y ddŵy Chwaer
3] Un or Ddŵy rheini ni fynna hi 'n Gŵr
4] Ar llall ai cynghorodd i gymryd o'n Siwr
5] Codwch a cherddwch fy Mhroppor Chwaer Dlŵs
6] Drŵy foliant anrhydedd a rhodiwch ir Drŵs
7] Mae accw rŷw Henddŷn fal Ewŷn Dŵr llî
8] Yn dyfod drŵy 'ch Cennad a Chariad i chwi
9] Codwch, a Cherddwch a Chym'rwch o i chwi
10] Am ffoledd a Maswedd na Soniwch wrth i
11] Er maint o Genadeu rhwng Tiroedd a Dŵr
12] Siaradan a fynan, ni fynne i un Gŵr
13] Ni choeliwn i monoch, pe tyngech fy Chwaer
14] Eich Corph chwi sŷdd Nŵyfus, ar Meibion sŷ' daer
15] Mi'ch gwelais chwi'n caru er 'styddie; ffei tewch!
16] Ai tybied mae'n Lleuan, lliw'r Wylan yr Ewch?
17] Yn Lleuan 'r ŵy'n myned, er gwaetha'r hôll wlâd
18] Ag fellŷ mi'm gwela yn rhŷ dda fy Stâd
19] Nhw ddoedan gann hynnŷ fôd ginni Ffŷdd Grê
20] Ynghyflwr Merch Ievangc mi a'n inion ir Nê.
21] Nage, nid ŷw Bosibl; y Prenn na ddŵg ffrŵyth
22] Fe teflir i Uffern, fe llosgir yn llŵyth
23] Rhowch fŵynder am fŵynder ar fyrder yn frau
24] Pann gaffoch chwi gynnig, gochelwch naccau.
25] Nid ydi Priodas bŷth ginni 'nd pêth gwael
26] Bargen difantas ŷw'r Feiats S'ŷw gael
27] Casglu gofalon i'm Calon igŷd
28] Mi arhose 'n Ferch Ievangc tra bŵy yn y Bŷd
29] Mi ddaliaf ath ydi y byddi di 'nglŷn
30] Yn Brîod a rhŷw Ddŷn cinn bo'ch di fawr hŷn
31] Fe'th Drwssia, fe'th daccla, fe Lunia iti Lês
32] Di Ildi 'Mun Lariedd fal Eira 'mronn Tês
33] Gwedi i Fâb unwaith gael ei 'wyllŷs ar Ferch
34] Derfŷdd ei Afieth, ai fŵynder ai Serch.
35] Siwrl ag afrowiog, yn donnog mae'n Dŷnn
36] Gwell na phriodi, bŷw 'n heini fal hŷnn
37] Nid Possibl mo hynnŷ drŵy 'mpiniwn y Pâb
38] Mi fedrwn yn ddirgel henwi i chwi'r Mâb
39] A'ch troe fal y Mynne wrth ei Lewŷrch ai Lun
40] Di ceru cinn bured a'th Enaid dy hun
41] Yr Y'ch yn gwenheithio i geisio fy Nhroi
42] Eich Dwndwr a'ch Dadwrdd sy wedi 'nghyffroi
43] Os ydŷch yn tybied ' gwnae ŵr i mi Lês
44] Cyrchwch yr Henddŷn ai 'nwylddŷn yn Nês
45] Cerdda Di'r Llattai, Canlyn dy Daith
46] Drŵy'r Boen a gymerais, mi luniais y gwaith
47] Nôs da fo iti heno, darfu fy Nghân
48] Canlynwch y Twmned, mae'r Haiarn yn Tân.

Dafŷdd ap Huw'r Gô o Fodedern ai Cant 1657.

[td. 324a]

[33. Rhisiart Abraham, Senn i Forgan Sion o Benn y Groes Fawr yn Llanfechell, am gadw Puttain (1676)]


Senn i Forgan Sion o Benn y Groes Fawr yn Llanfechell, am gadw Puttain.
1] Annwr ŷw Morgan; na Lleban yn llai
2] Ymwrthod ai Brîod Sŷdd ormod o Fai
3] Er gwnned ŷw Dorti Liw'r Weilgi Loer Wenn
4] Gwell iddo fo Farged, er ffoled ŷw Phenn
5] Ceiff weled, dilyned ei Gowled ddigwrs
6] Yr Arian yn Genlli ni pheri 'n ei Phwrs
7] Danfon am Farged, er Hyned ŷw Hi
8] Mae Hi 'n rhydda Swccwr Butteinwr iti
9] Os Cym'rŷd dy Gariad Anynad a wnei
10] Iw gwneuthŷr yn ffolog, Fŵch oriog ni chei
11] Gwna'r Fargen a fynnŷch am Dîr Penn y Groes
12] Hi gerriff ei Thraean yn llawn am ei Hoes
13] Mae Honn yn rhagorol a Nefol ei Naws
14] Am wneuthŷr Ymenŷn wŷch Enllŷn a Chaws
15] Am fagu glân Loea, a meithrin Hŵy Dsiâ
16] Nid oes un Wraig or Gwledŷdd mawr ddedwŷdd mor dda
17] Cymmer dy Briod ymerod ei Mawl
18] A Glŷn wrth ei Hasen, gâd Ddolen i Ddiawl.

Rhisiart Abraham ai Cant 1676.
Y Mesur Jinni Jin-nî

[td. 324b]

[35. Anon., Ymddiddan rhwng Hên Ŵr Musgrell ag anllad a Llanges Ievangc Nŵyfys]


Ymddiddan rhwng Hên Ŵr Musgrell
ag anllad a Llanges Ievangc Nŵyfys
Y Mesur. Follow your fancy.
1] Nôs da ir Fun, y lana 'luniŵyd
2] Nôs da i Chwithe'r Henwr Penllŵyd
3] I b'le Meinir yr ŵyt ti'n Myned?
4] Lhe mae goreu cael fy Ngweled.
5] I b'le gann hynnŷ'r ei di heno?
6] Lle bum i Neithiwr 'rŵy'n gobeithio
7] Oes Cydnabyddiaeth iti'n agos?
8] Nid ŵy Dierth, lle'r ŵy 'n aros
9] Ŵyt di'n Sengal Gangen gu, ag heb Briodi'n rhagor?
10] Ydw'r Henwr da'r ei Lês, ag ni fenthygies Nemmor
11] Bêth ŷw'ch Oed Wynwdden dêg, Ireidddeg liwdeg Lodes?
12] Tair ar ddêg er Mîs o Hâ, llawn oedran Gwra gwiwres.
13] 'R'ŵyt di'n anial Ievangc iawn, Di dyfŷ'n llawn mewn afieth
14] Yr ydŵy 'n ddigon hên fy rhŷw, gann Daerad ŷw Naturieth
15] Prinn y gŵyddost têg ei phlêth, bêth ŷw'r Naturieth Daera
16] 'R'ŵy Gyfarŵyddach f'Ewŷrth bâch na chwi sŷ'n Gelach Gwla.
17] Gwell a gŵyr yr Hên er hynnŷ
18] Bêth a dâl gŵybod pŵyll, heb allu?
19] Mae ginni allu i ddal allan
20] Efo gwrâch (ni chŵyrach) fal chwi'ch hunan
21] Gwell ŷw'r gwydŷn Hên, na'r Ievangc Meddal
22] Gwell ŷw'r îr a ddeil, na'r Crîn nis cynnal
23] Mi gynhaliwn yn y Gwelŷ
24] Os Caech chwi ennŷd ginn Bysychŷ
25] Mae ginni Aur ag arian Gwenn, Stocc diddiben ddwbwl
26] Mae gennŷch ddŷll sŷ' orchŷll gaeth, Cybŷdd gwâeth na'r Cwbwl
27] Mi fyddwn hael pe cawn liw'r cann o Wreigan, hi'm rhowioga
28] Byddach donnog chwannog chwi, i chware hên Gi 'chena.
29] Mi fyddwn rowiog fal yr Oen heb arnai boen na phenŷd
30] Fal chwerw Flaidd chwi roddech floedd, creulonech oedd bôb Munŷd
31] Mae hynnŷ'n gam-gymeriad pur, Dôd i mi o Gyssur Gusan
32] Erioed ni fynnodd yn gwâs glân Cymera hwnnw ei hunan
33] Oes nemmawr eurdro o ffordd iti adre?
34] Oes lîd Cae, neu ddau oddiymme.
35] Ai bŷw eich Tâd a'ch Mam lloer oleu?
36] Yr oedd pôb un yn iach y boreu
37] . . .
38] . . .
39] . . .
40] . . .
[td. 325a]
41] A rowch chwi gennad gangen ffrî
42] A lle 'mi 'orphwyso heno?
43] O'ch blaen mae Tafarn fawr neu Inn
44] Cewch am eich arian groeso
45] Gwell na Gwîn na Bîr gan i
46] A'th Di 'mgynhesu Noswaith
47] Mae'n well gann inne 'ch gweled ffrind
48] Mewn Munŷd yn Mynd ymaith
49] Bêth ŷw Cynhysgaeth Eneth fŵyn
50] Naturiol fŵynedd Fenws
51] Corph Di-ana Stout as steel
52] Sŷdd well na Mêl or Mwnws
53] Os dyna'r Cyfan gwiwlan gnawd
54] 'R'ŵyt di 'n dylawd fy Lodes
55] Nid oes morr Help, y Môdd yr Ŵy
56] A mŵy o Nŵy'n fy Monwes
57] Y fi ydi'r Degfed or Plant Tylodion
58] Rhoed eich Tâd a'ch Mam chwi'r Person
59] Nhw'm rhôn i chwi Sŷ'n Hên Ddŷn hawddgar
60] Yn Wîr yr Ŵyt ti'n Gowen gynnar
61] Cym'rwch fi drŵy draserch heb ddim or trysor
62] Tâw ath ffôl auen, yr ŵyt ti'n hawdd dy hepcor
63] Ar lês eich Enaid gwnewch Eluseni
64] Tâw, gâd lonŷdd, na wna y Leni
65] Bwytta 'r Bara Gwynn yn Sŷch
66] Gwnn gellwch, nid yw galad
67] Er garwad y bô 'r Dorth lliw'r Hâ
68] Gŷrr Enllŷn da hi gerdded
69] Ni fynnwch chwi ynte mono i
70] 'n un Gelach ddigri 'ch canlŷn
71] Na fynne uwch benn fo hôll dda Bŷd
72] Etto heb olŷd attŷn
73] 'R ŵy finneu'n unferch Tâd a Mam
74] Heb drais na chamm na chymmell
75] Mi allwn ddyblu'ch Da chwi hŷd lawr
76] Y Cybŷdd mawr ei ddichell
77] Di ge'st fy Nghefn lliw blodeu'r drain
78] Gâd i mi ail ymofŷn
79] Ni roe'm brŷd, tra bô i'n y bŷd
80] Ar fynd tann Gwrlid Cerlŷn.

[36. Ifan Jones, Cŵyn a Chyffes Gŵr am ei Fenŷw (1698)]


Cŵyn a Chyffes Gŵr am ei Fenŷw
Y Mesur Triban Chwith.
1] I bawb or Bŷd mae pur wybodaeth
2] Mae trêch Natur, na Dysgeidiaeth
3] Naturiaeth Pôb Gŵr Ievangc llawen
4] Yw hoffi iw fynwes Eneth feinwen
5] Tentasiwn ŷw Cynhesrŵydd caru
6] Cynhyrfu'r Cŷrph wrth hîr ymwasgu
7] A hŷnn Sŷ'n anafu'r rhai nŵyfus
8] Weithie Ffŵl a ynill fowrdda
9] Weithie colli a wneiff y calla
10] Wrth fynd ar eu hucha 'n rhŷ awchŷs
11] O rann tegwch fy Nghymdoges
12] Ei Pherl ei hun ir Fun a ' fynnais

[td. 325b]
13] Y Gair Sŷ'n llydan hŷd y Gwledŷdd
14] Fy môd i'n Llannerch ei Llawenŷdd
15] Darfu i Nghariad i Feichiogi
16] Bêth bynnag a ge's nis gwades i gwedi
17] Gann Lili gnŵd heini gnawd hynod
18] Holed pawb ei hun yn gynta
19] I fôd yn ddi-fai, myfi a faddeua
20] Ceiff roi Cerŷdd arnai cur ddyrnod.
21] Ni ŵyr un Ferch or Bŷd moi thynged
22] Ni ŵyr chwaith un Mâb ar Aned
23] Rhai Sŷ'r Ddoldir têg yn trippio
24] Ar lleill ar Lwybŷr Serth heb syrthio
25] Wrth fynŷch sippio ei Mîn Melysber
26] A wnaeth i mi hoffi Cyflawn bleser
27] Bodlonder, a mŵynder y Feindw
28] Mae'r un Ffasiwn mi Gonffessa
29] Yn trîn y Trâd yngwlâd Europa
30] Erioed, er oes Adda, ir Oes Heiddŷw
31] Y mae Part a farnant arna
32] Fal goganu'r Bŵyd ai Fŵyta
33] Pe Cae'n Nhw Langces Wenn mewn Cyfle
34] Ni ymgosbant hŵy ddim mŵy na Minne
35] Nid oes ond Ffŵl o Ddŷn di-ddeunŷdd
36] Dwl ei Anian di-lawenŷdd
37] A rŷdd i mi gerŷdd am garu
38] Nid y Fi morr Campiwr Cynta
39] Mêdd Gwŷr Doethion, na'r Diwaetha
40] A roes Ferch yn Isa 'i Chynnesu.
41] Am a wneuthŷm ir Wenithen
42] Tŷst a ddengŷs, tôst oedd Angen
43] Nid 'ŵy'n gwneuthŷr Bôst o'r Weithred
44] Rhaid i Bawb groeshafu'i Dynged
45] Mae'n ddrŵg ginni dros fy Mun Garedig
46] Ag am ei Mŵynder yr 'ŵy 'n rhŵymedig
47] Ni byddai 'n aniddig 'r ŵy 'n addo
48] Ag am y fu, rhaid imi Ddoydŷd
49] Mae trŵy Ffansi a Ffortun hefŷd
50] Pŵy yn ei hôll Fowŷd all feio?
51] Na farned Nêb y Lodes liwdeg
52] Am iddi daro ei Throed wrth Garreg
53] Ag wrth geisio'r Briffordd ddeheu
54] Syrthio ir llwybŷr chwithig Nhŵytheu
55] Mi ddygaswn fôd fy Nghariad
56] Morr Sownd ar Dur, morr Bur ei bwriad
57] Daeth iddi ddigŵyddiad i ogŵyddo
58] A Minne wrth gael ychydig fantais
59] Yn Calonnog, mi a ganlynais
60] Ar y Neges a gefais iw gofio
[td. 326a]
61] Pe gŵybaswn fôd Llangcesu
62] Pêr yn prifio ond prinn ei Profi
63] Ni b'ase fy Meddwl bŷth morr Fentrŷs
64] A Bargeinio Bargen Nŵyfŷs
65] Bŷth nid alle i cinn hyfed
66] Yn fy Mreichie drîn morr Merched
67] Os byddan gain addfed gynheddfol
68] Pôb Gwâs glân a gâr gowleidio
69] Rhag digŵyddo 'r un pêth iddo
70] Rhaid iddo Fo beidio'n Wybodol.

Ifan Jones or Berth Ddu a wnaeth y
Gân ar Gyffes. 1698.

[37. Anon., Cerdd yn Dychanu pôb mâth ar Bobl a gymmerase Arfeu ymhlaid Parliament Lloeger]


Cerdd yn Dychanu pôb mâth ar Bobl a
gymmerase Arfeu ymhlaid Parliament
Lloeger yn y Flŵyddŷn 1643 i ymddiffŷn
Rhydddŷd y Bobl oedd yr amser hwnnw
yn debŷg i gael i sengi lawr gann y Brenin
Siarlas I. Y Mesur. Restauration: ond
yn gyffredinol y gelwir. The King shall
enjoy his right again:
1] Fe aeth y Ddair gronn yn graith
2] Pa hamm rhaid mŵy morr sôn am waith?
3] Fe aeth y Gweision bôb yn Fîl
4] Ar Morwynion yn eu sgîl
5] A phawb a'th brâd ar gôst y Wlâd
6] Yn rheoli 'n anial draws
7] Yn well eu hŷnt na'th Meistrŷd gŷnt
8] Y mae nhw 'n gweled hynnŷ'n haws.
9] Y Mae'r Dyrnwr truan Prŷdd
10] A ddyrna gŷnt am ddimme'r Dŷdd
11] Y rwan taflu'r ffŷst ymhell
12] A'i Rapper fawr yn Nrŵs ei Gell
13] De-ffŵg De-ffaeg, heb ddim Gymraeg
14] Yn Cornelu Gwrachan Hên
15] Tann dyngu'n dôst y mynn Gîg rhôst
16] Ag onide, fe 'scyttie ei Gên.
17] Y mae'r Brettŷn Bigael Môch
18] Yn ei scarff ai Sgarlat côch
19] Ag yn tyngu ofer Lŵ
20] Er ni ddâw iw Go fo. Hwy-dsa-hw.
21] A'i Hunger gamm, fo lladde ei Famm
22] Am un geiniog heb ddim chwŷth
23] Gwae Asgwrn Penn yr Hên Iâr Wenn
24] Fe ai difetha oddiar ei Nŷth
25] Y Mae'r Go ar Siecced Lomm
26] 'Fu 'n sychŷ traed y Meirch or Domm
27] Ai ddau Lygad fal y Tân
28] Yn bygwth llâdd ei Ostes Lân
29] Moes im' Dobâg, a dîod frâg
30] A Chais arian Chwipp i mi
31] Onidê Mynn Diawl, mi dafla'r Cawl
32] Am benn Cŷrn dy Gwccwalld di
33] Y mae'r Gwehydd seimlŷd ei Dîn
34] Ai farclodŷn croenŷn crîn

[td. 326b]
35] A welais i gŷnt yn wael ei stâd
36] Yn dŵyn Melldithion Gwragedd Gwlâd
37] Ni chae fo fŷth mo'i wal o Sŷth
38] I wneuthŷr brwchan da'r ei Lês
39] Mae o ai gledde o hŷd, ai Fwtties clŷd
40] Yn lle gwennol Pistol Prês
41] Y Mae'r Pannwr troedtraws trwmm
42] A fu gŷnt yn cneifio'n llwmm
43] Ag a gweiria glyttŷn glâs
44] I bôb Hên wrâch o frethin brâs
45] Y Roring Boy fal Iarll Montjoy
46] Yn hoyw rwan myn fy ffŷdd
47] Yr Arrant Rôg sŷ'n gwisgo Clôg
48] A fu gŷnt yn lleidr fal y Gwehydd
49] Y mae'r Taitiwr Simple siw
50] A fu'n ystitsio am ffordd i fŷw
51] Os cae o fŵyd ag Ede lîn
52] Fe roe glyttŷn ar eich Glîn
53] Fe drwsia 'r Hwrdd cin mynd i ffwrdd
54] Ar Gŵd halen Gwraig y Tŷ
55] Fe gneua'r Cî os mynna Hi
56] Mae'n awr mewn Siwt o Sattŷn Du.