[Williams, Mathew. Hanes holl grefyddau'r byd, yn enwedig y grefydd Grist'nogol: ymha un y gosodir allan ddarluniad cywir o'r holl wahanol sectau, opiniynau, a daliadau proffeswyr yr oes bresennol, ag sydd adnabyddus wrth yr enwau canlynol, sef, atheistiaid, deistiaid, Iuddewon ... (Caerfyrddin, Aberhonddu: I. Daniel, Messrs. North, 1799), 11-58.]



[td. 11]


Am y Grefydd Iuddewig.


YR Iuddewon o ran eu dechreuad sy 'n deilliaw
o hiliogaeth yr hen batriarc, sef Abraham;
dyn ag oedd yn fawr ei anrhydedd, a chwedi ei
ddewis gan Dduw amser byr ar ol y diluw, i gynnal
adnabyddiaeth o 'r dwyfol undeb ymhlith cenhedloedd
eilun-addolgar y byd. Y grefydd Iuddewig
a welir yn ei llawn berffeithrwydd yn
mhum llyfr Moses, sylfaenwr eu cyfreithiau gwladol
ac eglwysig; yr hwn hefyd oedd eu harweinydd

[td. 12]
o dir y caethiwed yng wlad yr Aipht, i 'w dwyn i feddiannu
'r addawedig wlad (ag oedd i fod yn gysgod
o 'u tragywyddol ddedwyddwch) sef gwlad Canaan.

Barn y bobl hynny ag oedd yn byw yn yr oesoedd
cyntaf wedi 'r diluw, ymddengys fod yn syml, yn
barchus, ac yn ddidwyll; yr oeddynt hwy yn edrych
ar Dduw fel eu Creawdwr, ac yn hollol gredu yn
ei ragluniaethau, trwy gyfeirio eu golwg ymlaen at
y Person hwnnw ag oedd i fod yn offrwm dros bechod,
neu yn gyfryngwr drostynt at Dduw. Ni
welwn hefyd, mai mewn ychydig amser ar ol gwasgariad
plant Noa, rhannu 'r teuluoedd, a chymmysgu
'r ieithoedd, i lawer iawn o ddynol ddychymygiadau
newyddion gymmeryd lle mewn crefydd,
yr hyn fu 'n achos o alw Abraham o Ur y Caldeaid,
fel y byddai iddo ef a 'i dylwyth gadw addoliad ac
adnabyddiaeth o 'r gwir Dduw.

Mewn trefn i ddangos gwreiddiol egwyddorion y
grefydd Iuddewig, ni a gawn yn y lle nesaf osod i
lawr o flaen y darllenydd swm eu ffydd, yr hon a
gynhwysir mewn tair ar ddeg o erthiglau, y rhai
ydynt y fath a all un genedl neu Grist'nogion eu
harddel, ond honno yn unig mewn perthynas i ddyfodiad
y Mesia.

I. Yr wyf yn credu, trwy ffydd berffaith, mai
Duw yw Creawdwr pob peth, ei fod ef yn tywys ac
yn cynnal ei holl greaduriaid; mai efe a 'u gwnaeth;
a 'i fod ef yn wastadol weithredu, ac yn parhau felly
i bob tragywyddoldeb.

II. Yr wyf yn credu fod un Duw, ac nad oes
undeb ond efe: efe yn unig oedd, sydd, ac a fydd i
bob tragywyddoldeb yn Dduw i ni.

III. Yr wyf yn credu, nad yw Duw yn beth corphorol;
na all fod ganddo un naturiol briodoledd;
ac nad oes un hanfod gorpholaidd i 'w gydmaru ag
ef.

IV. Yr wyf yn credu, mai Duw yw dechreuad
a diweddiad pob peth.

V. Yr ydwyf yn credu, mai Duw yn unig a

[td. 13]
ddylid ei wasanaethu, ac na ddylid addoli dim arall
ond efe.

VI. Yr wyf yn credu beth bynnag a ddysgwyd i
ni gan y prophwydi, ei fod yn wirionedd dwyfol.

VII. Yr wyf yn credu, fod athrawiaeth a phrophwydoliaethau
Moses yn wir; mai efe yw tad a
phennaeth y doctoriaid, yr holl rai a fuant fyw o 'i
amser ef hyd yn hyn, ac a fydd o hyn allan.

VIII. Yr wyf yn credu, fod y gyfraith yn anghyfnewidiol,
ac na roddir un arall yn ei lle.

IX. Yr wyf yn credu, fod y gyfraith ag sydd
gennym yn bresennol, yr un ag a roddwyd i Moses.

X. Yr wyf yn credu, fod Duw yn gwybod holl
feddyliau dynion a 'u gweithredoedd.

XI. Yr wyf yn credu, y bydd i Dduw wobrwyo
gweithredoedd pob un a gadwo ei orchymynion, a
phoeni troseddwyr ei gyfraith.

XII. Yr wyf yn credu, fod y Messia i ddyfod; ei
fod yn oedi; mi a arosaf ac a ddisgwyliaf beunydd
am ei ddyfodiad.

XIII. Yr wyf yn credu adgyfodiad y meirw, yr
hyn a fydd pan welo Duw fod yn dda. A bendigedig
fyddo enw ein Creawdwr yn dragywydd.

O ddeutu amser ein Iachawdwr, yr oedd yr Iuddewon
wedi ymrannu yn amryw sectau; ond y
rhai mwyaf nodedig o honynt oedd y Phariseaid, y
Saduseaid, yr Esseniaid, a 'r Herodiaid.

Phariseaid, sect nodedig, a elwid felly oddiwrth y
gair Hebraeg (Pharesh) yr hwn sy 'n arwyddo ymraniad
neu ymneillduad, o herwydd eu bod hwy yn
cymmeryd arnynt i gadw 'r gyfraith a thraddodiadau,
a rhodio yn fwy perffaith a sanctaidd nag eraill o 'r
Iuddewon. Mae 'n rhy anhawdd gwybod yn iawn
pa bryd y dechreuodd y sect hon; ond mae 'n ddigon
tebygol iddynt godi fynu pan ddechreuodd traddodiadau
ddyfod mewn ymarferiad yn lle cyfraith Dduw.
Yr oedd y Phariseaid yn groes i opiniynau 'r Saduseaid,
trwy ddala adgyfodiad y meirw, a 'r hanfod o
angylion ac ysprydion, Act. xxiii. 8. Ond yn ol

[td. 14]
hanes Josephus, nid oedd yr adgyfodiad yma ddim
yn 'chwaneg {~ ychwaneg } nag athrawiaeth y Pythagoriaid; sef,
fod yr enaid yn cael ei symmud o un corph i 'r llall,
a 'i eni o newydd. Oddiwrth yr adgyfodiad hyn yr
oeddynt yn cau allan y rhai drygionus, gan gredu
fod eneidiau 'r cyfryw yn cael eu trosglwyddo i dragywyddol
drueni. Ond am droseddiadau bychain yr
oeddynt yn meddwl fod y rhei'ny i gael eu poeni yn
y cyrph ag oedd yr eneidiau hynny (ag oedd yn euog
o 'r trosedd) i gael eu danfon iddynt nesaf. Yn ol y
farn hon, yr oedd disgyblion Crist yn gofyn mewn
perthynas i 'r dyn dall, (Ioan ix. 2.) Pwy a bechodd,
ai hwn neu ei rieni, fel y genid ef yn ddall? A phan
y dywedodd y disgyblion wrth Grist, fod rhai yn dywedyd,
mai Elias, Jeremia, neu un o 'r prophwydi
oedd ef, (Mat. xvi. 14.) nid ydynt yn meddwl dim arall,
ond eu bod hwy yn tybied fod enaid Elias, Jeremia,
neu un o 'r hen brophwydi, wedi ei ddanfon ynddo.
Gyd â 'r Eseniaid yr oeddynt yn dal rhag-arfaethiad
ddiammodol, a chyd â 'r Saduseaid ewyllys rydd:
ond pa fodd y gallent ostegu dwy athrawiaeth mor
groes y naill i 'r llall, nid yw yn hawdd i eglurhau.

Gwahanol nodau 'r Phariseaid oedd eu sel dros
draddodiadau 'r henafiaid; yr oeddynt hwy yn haeru,
eu bod yn deilliaw o 'r un gwreiddyn a 'r gyfraith
ysgrifenedig ei hun. Yr oeddynt hefyd yn cymmeryd
arnynt gadw cyfraith Dduw i 'r manylwch
mwyaf; etto yn euog o 'r troseddiadau creulonaf
mewn nattur, dan allanol liw o grefydd. Mae 'n
Iachawdwr yn fynych yn eu galw 'n rhagrithwyr,
o herwydd eu bod yn gwneuthur cyfraith Dduw yn
ddieffaith trwy eu traddodiadau.

Saduseaid, sect ymhlith yr Iuddewon a elwir felly,
oddiwrth un Sadoc ei sylfaenwr. Hwy a ddechreuasant
yn amser un Antigonus, o Socho, rhaglaw o 'r
Sanhedrim, dysgawdwr cyfraith a difinyddiaeth y
brif ysgol yn ninas Jerusalem. Fe fu farw yn amser
Ptolomy Philadelphus, brenin yr Aipht. Yr
Antigonus yma oedd yn mynych athrawiaethu ei
ysgolheigion, nad o ofn slafaidd, nac er mwyn gwobr

[td. 15]
y dylid gwasanaethu Duw, ond yn unig trwy fabwysiadol
gariad a dyledus barch. Dau o 'i ysgolheigion,
Sadoc a Baithus, a gasglasant oddiwrth hyn,
nad oedd un gwobrwyad i ddisgwyl ar ol y bywyd
hwn; ac am hynny hwy a ymneillduasant oddiwrth
eu hathraw, ac a ddysgasant i 'r bobl, nad oedd y
fath beth ag adgyfodiad y meirw, na chyflwr tragywyddol;
ac nid hynny yn unig, ond hefyd yr oeddynt
yn gwadu 'r bod o angylion ac ysprydion, ac
yn arddel ond Duw yn unig; felly yn agos o 'r un
farn a 'r Epicuriaid, ond eu bod hwy yn addef mai
gallu Duw a greodd y byd, ac mai wrth ei ragluniaeth
ef yr oedd bob peth yn cael ei lywodraethu,
yr hyn oedd yr Epicuriaid yn ei wadu.

Mae 'n anhawdd deall, pa fodd y gallent wadu 'r
bod o angylion, gan eu bod hwy yn derbyn llyfrau
Moses, lle mae son yn fynych am angylion a 'u hymddangosiadau.
Mae rhai 'n meddwl nad oeddynt yn
edrych ar angylion fel bodau neillduol, neu hanfod o
honynt eu hunain, ond megis galluoedd yn dylifo
oddiwrth y Bod dwyfol, fel ag y mae llewyrch yn
beth gwahanol oddiwrth yr haul. Neu, f'allai, eu
bod yn dal, nad oedd angylion ac ysprydion ond rhai
marwol; fel ag yr oeddent yn tybied am y defnydd
sy 'n bywhau cyrph dynion, ac yn marw gyd â hwynt.
Mae llawer o 'r sect hon etto ymhlith yr Iuddewon
gwasgaredig; ond y mae 'r Phariseaid, y rhai mwyaf
aml, yn eu galw hwynt yn Hereticiaid.

Esseniaid, sect o bobl ag oedd ymhell tu hwnt i 'r
Phariseaid am y manylwch i gadw 'r gyfraith. Mae
rhai yn meddwl, a hynny yn ddigon tebygol, i 'r sect
hon godi i fynu yn amser herledigaeth Antiogus
Epiphanus, pan giliodd rhifedi mawr o 'r Iuddewon
i 'r anialwch, lle y darfu iddynt arfer eu hunain i bob
caled-fyd o fywiolaeth. Yr oedd dau fath o honynt,
rhai yn byw yn gymdeithasol, yn priodi, ac yn cyfaneddu
mewn dinasoedd, ac yn arferyd eu hunain
mewn hwsmonaeth a rhyw gelfyddydau diniwaid
eraill; yr oedd y rhai'n yn cael eu galw 'r ymarferol.

[td. 16]
Y lleill oeddent yn arferyd eu hunain i fyfyrdodau,
am hynny yn cael eu galw yr Esseniaid myfyrdodol.
Yr oedd y rhai'n yn gochelyd byw mewn trefydd,
rhag ofn i hynny dynnu ymaith eu myfyrdodau duwiol,
a 'u dwyn dan amryw fath o brofedigaethau.
Yr oedd pob un o honynt yn dilyn yr un defodau.
Nid oedd neb yn yfed gwin yn eu plith; yr oedd
pob peth yn gyffredin yn eu mysg, yn llettygar i
ddieithriaid, yn anghydmarol am eu diweirdeb, ac i
bob math o bleserau yn llwyr ddieithriaid. Yr oeddent
yn credu anfarwoldeb yr enaid a bywyd tragywyddol,
ond yn gwadu adgyfodiad y corph.

Er bod ein Iachawdwr yn argyhoeddi yr holl
sectau Iuddewig eraill, etto, ni ddywedodd ef ddim
am yr Esseniaid, ac nid oes air o son am danynt yn
y Testament Newydd; yr achos o hyn oedd, mae 'n
debyg, o herwydd eu neillduolrwydd oddiwrth bawb
eraill ond y rhai a fyddai o 'r un farn a hwynt eu
hunain. Yr oeddent yn derbyn dieithriaid, ac
llettygar i drafaelwyr; nid oeddent byth yn newid
eu dillad ne's byddent wedi eu llwyr dreulio; yr
oeddent ymhob peth yn grefyddol. Nid oeddent
byth yn chwedleua cyn codi haul, oddieithr gweddio
ar Dduw, am iddo wneuthur i 'r haul godi arnynt.
Yr oeddent yn manol chwilio 'sgrifenadau {~ ysgrifenadau } 'r henuriaid;
yn gyfarwydd i wella doluriau, ac yn adnabyddus
ag amryw lysieuau meddyginiaethol. Rhai o honynt
oedd yn cymmeryd arnynt ragfynegi pethau i
ddyfod.

Herodiaid, sect ag sy 'n cael ei henwi 'n fynych yn
yr efengyl, er nad yw Josephus na Philo yn son dim
am dani. Mae 'r disgedigion yn ymrannu 'n fawr
mewn perthynas i 'r sect hon; ac fe ellir cyfrif naw
gwahanol opiniwn mewn perthynas i 'w gwreiddiol
ddechreuad. Mae rhai 'n barnu i 'r Herodiaid gymmeryd
Herod yn lle 'r Messia; ond fel ag y bu llawer
Herod yn llywodraethu ar yr Iuddewon, maent
etto yn ymrannu mewn perthynas i ba un o honynt
oedd yn cael ei adael yn Fessia. Mae y rhan fwyaf yn

[td. 17]
meddwl mai Herod y mwyaf, mab i Antipater, yr
hwn a fu farw ychydig fisoedd wedi geni ein Iachawdwr.
Fe ymddangosodd mewn amser pan oedd
yr holl fyd yn disgwyl am y Messia. Yr oedd ef
yn dywysog galluog, yn ddyn ardderchog, ac yn
rhyfelwr enwog. Fe ddywedir iddo gasglu cof-resau
cenhedlaethau tŷ Ddafydd, a 'u llosgi, fel na allai
neb brofi nad oedd ef yn dyfod o 'r hiliogaeth hynny,
o ba un y gwyddid fod y Messia i ddyfod. Yn ddiweddaf,
fe ddywed Persius, fod gwledd fawr i frenin
Herod yn Rhufain ymhlith yr Iuddewon, ynghyd â
goleuadau gorfoleddus. Eraill sydd o 'r meddwl,
mai Herod II. a gyfenwir Antipas, a Thetrac o
Galilea, oedd pen yr Herodiaid. Yr oedd ef yn
dywysog glân, ac yn ddigon trachwantus; canys
mae 'n Iachawdwr yn ei alw ef yn gadno, Luc xiii. 32.
Fe ellid yn hawdd feddwl ei fod ef yn drachwantus,
i gymmeryd arno mai ef oedd y Messia. Heblaw
hyn, mae llawer o opiniynau eraill mewn perthynas
i 'r sect hon, ond yr hwn a fynegwyd uchod, sy 'n
cael fwyaf o dderbyniad gan ddifinyddion.

Yn gymmaint a bod y gyfraith Iuddewig yn fygythiadau
tymhorol, mae 'n gwestiwn, pa un a oedd
ganddynt wybodaeth am gyflwr tragywyddol ar ol y
bywyd hwn; mae 'r opiniwn yma wedi cael ei ymddiffyn
yn ddysgedig gan Doctor Warburton, a 'i
wrthwynebu gan Doctor Sykes, a rhai awdwyr
cymmeradwy eraill.

Mae 'r Phariseaid a 'r Saduseaid yn mynych gael
eu henwi yn y Testament Newydd; adnabyddiaeth
o 'u hegwyddorion a 'u harferiadau a all fod o fawr
wasanaeth i oleuo llawer o ymadroddion a hanesion
ysgrythurol.

Yn bresennol mae 'r Iuddewon wedi ymrannu yn
ddwy sect; sef, Carasists, y rhai na fynnant derbyn
un rheol o grefydd ond cyfraith Moses yn unig, a 'r
Rabbiniaid ag sydd yn chwanegu at y gyfraith, fel y
dywedwyd uchod, amryw draddodiadau 'r Talmud.
Ond gan nad oes fawr yn gwybod beth yr ydys yn

[td. 18]
ei feddwl wrth y gair Talmud, yn y lle nesaf ni a
gawn roi ychydig o eglurhad o hono.

Cynhulliad o athrawiaethau crefyddol a moesol
yr Iuddewon yw 'r Talmud. Mae dau fath ag
sy 'n myned dan yr enw hwn; y cyntaf a elwir y
Talmud o Jerusalem; a 'r llall, y Talmud o Babilon;
mae pob un o 'r rhai'n wedi eu cyfansoddi yn
ddau ran, y * Misna a 'r Gamara.

Mae 'r Talmud o Jerusalem yn fyrrach ac yn dywyllach
nâ hwnnw o Babilon, ond yn henach o ran
amser. Mae 'r Iuddewon yn dewis y Talmud a
gyfansoddwyd yn Babilon o flaen hwnnw o Jerusalem,
am ei fod yn fwy goleu, ac yn helaethach. Y
Talmud o Jerusalem a 'r Misna, yn ol dehongliad
y Caldeaid, Onkelos, a Jonathan, yw 'r llyfrau hynaf
o athrawiaeth ag sydd gan yr Iuddewon, ond yr
awdwyr sanctaidd eu hunain. Mae Lightfoot wedi
tynnu llawer iawn o oleuni o honynt at eglurhau
amryw ymadroddion yn y Testament Newydd,
trwy gydmaru geiriau 'r Misna a 'r apostolion â 'r
efangylwr.

Pan ddinystriwyd Jerusalem gan Titus ymmerawdwr
Rhufain, yr hyn a ddigwyddodd yn y flwyddyn
70 o oedran Crist, fe gafodd yr Iuddewon eu gwasgaru
dros wyneb yr holl ddaear, fel nad oes braidd
un wlad na thalaith heb rai o honynt yn ei chrwydro;
maent hyd heddyw yn disgwyl y Messia, yr
hwn yn y iaith Hebraeg sy 'n arwyddo Eneiniog.—
Crist a elwir felly, canys efe yw 'r gwir Fesia, yr
hwn sy 'n Frenin, Offeiriad, ac yn Brophwyd; ac o 'i
herwydd ef y cafodd brenhinoedd, offeiriaid, a phrophwydi
eu heneinio, yr hyn oedd yn cael ei wneud
yn ffiguraidd neu 'n gysgodol o hono, oddiwrth y
gair Mesach, fe eneiniwyd. Felly Saul, Dafydd,
Solomon, Joash, a brenhinoedd Juda, a dderbyniasant
y frenhinol eneiniad, Aaron a 'i feibion yr
* Misna sy 'n arwyddo ail adroddiad, neu, ail gyfraith
Gamara, math o agoriad ar y Misna.

[td. 19]
offeiriadol wisgoedd cyssegredig, Elisha, disgybl Elija,
y brophwydol eneiniad.

Mae 'r Crist'nogion yn credu, mai Iesu Grist
yw 'r gwir Fesia, ymha un y mae 'r holl brophwydoliaethau
wedi cael eu llwyr gyflawni. Ond y
mae 'r Iuddewon etto, yn eu hynfydrwydd, yn parhau
i ddysgywl am Fesia tymhorol, yr hwn, meddant
hwy, a ddarostwng y byd, ac a osod i fynu un
lywodraeth gyffredinol; felly yn credu yn ei ddyfodiad.
Rhai mwy diweddar o honynt sy 'n tybied ei
fod eisoes wedi dyfod, ond ei fod heb wneuthur
ei hun yn amlwg, o herwydd mawr bechodau 'r
Iuddewon: eraill yn meddwl fod dau Fesia i ddyfod,
y naill ar ol y llall; un mewn cyflwr o ymddarostyngiad,
a 'r llall mewn anrhydedd, godidowgrwydd,
a gallu. Ond bydded i bob Cristion gofio,
fod Iesu wedi dywedyd yn rhagflaenol, er ein rhybuddio,
 'Os dywed neb wrthych, Wele dyma Grist,
neu dyna, na chredwch; canys cyfyd gau gristiau
a gau brophwydi lawer.' Ac wrth y wraig o Samaria,
 'Myfi yr hwn wyf yn ymddiddan â thi yw
hwnnw.'

Yn ol y brophwydoliaeth hon, yr ydym yn cael
hanes am lawer o dwyllodwyr a gymmerasant arnynt
enw 'r Mesia. Pob oes ymysg yr Iuddewon sydd
wedi bod yn hynod am ryw gau gristiau, neu gau
brophwydi, y rhai oedd yn dra llwyddianus i dwyllo'r
bobl. Y cyntaf, a 'r mwyaf enwog, oedd Simon
Magus, yr hwn a gyhoeddodd ei hun yn Samaria,
mai efe oedd gallu Duw. Yn yr oes ganlynol, un
Barchochobas, trwy ei dwyll, a dynodd erledigaeth
echryslawn ar yr Iuddewon. Yr ydys yn dywedyd iddo
ef gymmeryd yr enw hwn, ag sy 'n arwyddo yn Hebraeg,
 Mab y Seren, o herwydd fod prophwydoliaeth
Balaam yn dywedyd, y deuai seren allan o lwyth
Jacob; yr hyn ag oedd ef yn ei osod iddo ei hun,
gan roi allan, mai efe oedd y Mesia. Fe dynnodd
yr Iuddewon i wrthryfela yn erbyn llywodraeth
Adrian. Mae hanesion yn dywedyd fod ganddo

[td. 20]
25,000 o ddisgyblion; i Dduw ddatguddio amryw
bethau iddo ef, ag a gadwodd yn guddiedig oddiwrth
Moses; ac na allasai un llyfr gynnwys ei holl weithredoedd
a 'i ymadroddion ynddo.

O ddeutu 'r flwyddyn 434, fe ymddangosodd yn
ynys Candy gau Fesia a elwid Moses; yr oedd hwn
yn dywedyd mai efe a roddodd y gyfraith gyntaf i 'r
Iuddewon, iddo ddyfod i lawr o 'r nef i waredu 'r
Iuddewon o 'r ynys honno, trwy wneuthur iddynt
basio dros y môr yn eu hol i dir yr addewid: fe fu 'r
Iuddewon mor ddwled a 'i gredu, a llawer o honynt
a neidiasant i 'r môr gan debyg y caent ffordd agored
i fyned trwyddo. Llawer o honynt a foddasant, a 'r
lleill a ddaethant allan fel y gallent; pan aed i ymofyn
am y twyllwr, yr oedd ef wedi diflannu, am
hynny hwy a dybiasant mai yspryd ydoedd ar ddull
dyn wedi dyfod i amharchu 'r Iuddewon.

Yn yr oes ganlynol, 530, fe ymddangosodd gau
Fesia yn Palestina, a elwid Julian; fe roddodd hwn
ei hun i maes yn goncwerwr i wared yr Iuddewon
o ddwylaw gorthrymedig y Crist'nogion trwy nerth
arfau. Hwy a gymmerasant eu camarwain trwy 'r
addewidion hyn; fe gymmerodd yr Iuddewon i fynu
eu harfau, ac a dorrasant yddfau llawer o 'r Crist'nogion;
ond fe ddarfu i 'r ymmerawdwr Justinian
ddanfon byddyn i 'w cynnorthwyo: Julian a gymmerwyd,
ac a ddihenyddwyd, a 'i ganlynwyr a wasgarwyd.


Yn y flwyddyn 714, Iuddew a elwid Serenus, a
osododd ei hun i maes i 'r Iuddewon yn Yspain, mai
ef oedd i 'w harwain i Palestina, ac i osod i fynu ymmerodraeth
yno. Llawer (a gredasant mai efe
oedd y Mesia,) a adawsant eu gwlad a 'u gorchwylion
i 'w ganlyn. Ond hwy a ddeallasant yn ebrwydd
nad oedd ef ond twyllwr, ac a gawsant amser ddigon
i edifarhau am eu ffolineb a 'u crediniaeth.

O ddeutu 'r ddeuddegfed oes yr oedd yr amser yn
bur ffrwythlon am dwyllwyr o 'r fath hyn; fe ymddangosodd
ynghylch saith neu wyth o honynt yn

[td. 21]
Ffraingc, Yspaen, Persia, &c. un nodedig yn Morafia,
yr hwn, meddant hwy, a allai wneuthur ei hun
yn anweledig pryd y mynnai, trwy swyno llygaid ei
ganlynwyr. Yn yr oes ddiweddaf fe ymddangosodd
twyllwr nodedig a elwid Sabatai Tzevi, a osododd ei
hun i fynu yn lle Mesia, ond yn groes i ddisgwyliad
yr Iuddewon, fe a drodd yn Fahometan, yn 1666.

Yn olaf, fe ymddangosodd un Rabby Mordecai o
ddeutu 'r flwyddyn 1682, yr hwn a gymmerodd arno
yr enw o Fesia, ac a dwyllodd beth mawr o 'r Iuddewon
yn Itali a Germany i 'w ganlyn; ond fe gafodd
hwn ei gymmeryd i fynu gan yr Inquisition a 'i
drin fel twyllwr, yn ol ei haeddiant. Fel hyn y
mae 'r Iuddewon ymhob oes wedi bod yn gosod i fynu
gau gristiau, y naill ar ol y llall, er amser ein Iachawdwr
hyd yn awr, nid i un diben arall ond i ddangos
eu ffolineb a 'u angrhediniaeth.

Y pethau mwyaf neillduol a ddigwyddodd yn
amser neu hanes yr Iuddewon yw, galw Abraham o
wlad y Caldeaid, arwain yr Israeliaid o wlad
yr Aipht trwy 'r môr coch; rhoddi y gyfraith i
Moses ar fynydd Sinai, eu sefydlu yng wlad Canaan
dan lywodraeth Josua, adeiladu teml Salomon;
rhannu 'r llwythau, eu caethgludiad yn Babilon, eu
hadymchweliad dan Zorobabel i adeiladu 'r deml yr
ail waith, dinystrio hon drachefn gan Titus, a
gwasgariad yr Iuddewon dros yr holl fyd. Mae 'n
ddiammeu mai llyfrau 'r Hen Destament yw 'r hanesion
goreu a 'r hynaf ag ydym ni yn adnabyddus o
honynt. Yn dystiolaeth o hyn, edryched y darllenydd
i waith Josephus, un o 'u haneswyr goreu, o ba
waith y mae llawer cyfieithad yn Saesonaeg.

Pob dyn ag sy 'n caru 'r gwirionedd, ac yn chwennych
cael iawn dystiolaeth o 'i grefydd, nid oes achos
i Gristion fyth gael gwell nâ 'r hyn a welir mewn
perthynas i gyflwr yr Iuddewon yn bresennol! Duw,
er hynny, sy 'n ein gwarafun i wneuthur cam-ddefnydd
o 'r tystion hyn, a 'u sarnu dan draed, ond yn
hytrach i ddangos ein hynawsedd drugaredd tu ag
at y bobl annedwydd yma, y rhai sydd a 'u calonnau

[td. 22]
yn awr wedi caledi mewn tywyllwch ac angrhediniaeth.


Nid yw yn adnabyddus i ni, pa mor belled y
byddai i 'r bobl hyn ganiattau rhydd-did i Grist'nogion,
pe byddai 'r llywodraeth yn eu dwylo; ond
hyn a wyddom, nad oes gan Grist'nogion un hawl
i erlid; canys arfau ein milwriaeth ni nid ydynt
gnawdol, ond nerthol trwy Dduw, i ddyfod ag
eneidiau yn ddarostyngedig i Grist.


Am Eilun-Addoliaeth yn gyffredinol.


EILUN neu ddelw-addoliaeth yw gwasanaeth
grefyddol a roddir i ddelwau a gau dduwiau;
ac yn gyffredinol a ddeallir am bob annuwioldeb a
phob math o goel-grefyddau. Nid yw awdwyr
yn gallu llwyr gyttuno mewn perthynas i wreiddiol
ddechreuad na 'r achos o eilun-addoliad. Lucretius
oedd yn meddwl y gallai dyn o fwriadau terfysglyd,
a fyddai 'n deilliaw oddiwrth ofn, ddarlunio rhyw
ddychymmyg o dduwiau iddo ei hun.

Yr wrthddrych gyntaf o eilun-addoliaeth a ellir
feddwl, oedd yr haul, lleuad, a 'r ser, ac yn gysgodol
o honynt, y tân. Eraill oedd yn credu fod yr addoliad
yn y dechreuad yn cael ei wneuthur i angylion.
Ffosius sy 'n gosod allan, pan ddarfu i ddynion gyntaf
ymadael â 'r gwasanaeth ag oedd yn ddyledus i 'r
gwir Dduw, iddynt roddi dwyfol anrhydedd i ddau
egwyddor, sef, y da a 'r drwg.

Mae rhai awdwyr yn meddwl bod eilun-addoliad
yn henach nâ 'r diluw, ac yn credu iddo ddechreu
cyn amser Enos; a hyn y maent yn ei brofi trwy
ddyfynnu yr adnod olaf o 'r bedwaredd bennod o
Genesis, lle y dywedir, yn ol y cyfieithad cyffredin,
'I ddynion ddechreu galw ar enw 'r Arglwydd.'—
Ond yn ol rhai awdwyr, y maent yn ei gyfieithu,
'Pryd hynny dechreuodd dynion halogi enw 'r Arglwydd.'



[td. 23]
Yn fuan ar ol y diluw, fe aeth yr holl fyd yn
benwan mewn eilun-addoliad; canys p'le bynnag y
trown ein llygaid, er a chyn amser Abraham, ni chair
gweled dim ond gau-addoliad ac eilunod trwy 'r
holl ddaear. Tad Abraham, ac Abraham ei hun,
a fuant yn euog o wasanaethu duwiau eraill tu hwnt
i 'r afon Euphrates. Mae 'n ddigon eglur fod delwau
gan Laban, pan yr y'm yn cael hanes i Rachel,
o gariad iddynt, fyned â hwynt gyd â hi. Y rhai'n,
ynghyd ag eraill ag oedd yn cael eu cadw yn y teulu,
a guddiodd Jacob dan dderwen yn Sechem, fel na
chaent eu defnyddio mwyach.

Delwau eraill a sonier am danynt yn yr ysgrythurau,
yw 'r Teraphim, y llo aur, Baal, Bel, Baalpeor,
Baal-perith, Beelzebub, Meloc, Anam-melec
Adramelec, Repham, Dagon, Nergal, Ashima, Nibaas,
Tartac, Rimmon, Nisroc, Tammus, Sheshac,
Nebo, Meni, Gad, Mahussin, Duw 'r pwerau, neu 'r
duwiau cadwedigol gan y Papistiaid, Asharoth, a
Succoth-benoth. Ond llawer o 'r rhai'n oedd yr
un peth dan wahanol enwau. Mewn amser dynion
ardderchog, neu frenhinoedd wedi marw, anifeiliaid
o bob rhyw, megis teirw, elephantiaid,
llysiau, cerrig, a phob peth a allai daro yn eu pennau,
oedd yn cael eu galw yn dduwiau a 'u haddoli.
Dynion a 'u meddyliau wedi gwibio oddiwrth y wir
orphwysfa yn y goruchel fod, ac heb gael dim gorphwysfa
mewn delw, a chwanegasant eraill attynt.
Yma, pan oedd pob gwlad a chenedl a delwau
neillduol iddynt eu hunain, yr oeddent yn barod i
dderbyn y rhei'ny perthynol i 'w cymmydogion. Ac
er cymmaint oedd eu hawl i philosophi, nid oedd
hynny yn yr hyn lleiaf yn gwella dim ar y wlad.
Yr Aiphtiaid, er cymmaint oeddent hwy yn ei glaimio
o ddoethineb, a wasanaethent deirw brithion,
adar, cennin, winwyns, &c. Yr oedd hefyd gan
y Groegiaid ynghylch deng mil ar hugain o dduwiau.
Y Gomeriaid a wnaethant dduwiau o 'u
brenhinoedd a gwir ardderchog eraill; ac nid oedd

[td. 24]
y Caldeaid, y Rhufeiniaid, a 'r Chinesiaid, yn well
nâ hwythau am eu ffolineb: ac nid hyn yn unig,
canys nid oeddent yn edrych dim ar dorri cyfraith
nattur, trwy fwrddro lluoedd o 'u cymmydogion a 'u
plant, i 'w hoffrymmu i 'w duwiau. Yr oedd rhai
cenhedlaethau yn Germani, Scandinafia a Thartari,
yn meddwl fod marwolaeth ddisyfed mewn rhyfel,
neu hunan-laddiad, yn ffordd happus o ddiweddiad,
at gael tragywyddol ddedwyddwch gyd â 'u duwiau.
Yn ddiweddar amser yr offrymwyd ynghylch 64,080
o ddynion, wrth gyssegru teml i eilunod, mewn yspaid
pedwar diwrnod, yn America.

Ni fu gan yr Hebreaid erioed ddelwau o 'u gwaith
eu hunain; ond yr oe'nt {~ oeddent } hwy yn dderbyniol o rhai
ag oedd gan y cenhedlaethau o 'u hamgylch. Y parodrwydd
i addoli 'r llo aur wrth fynydd Sinai, sy 'n rhoi achos
i feddwl eu bod yn euog o 'r un ffieidd-dra yng wlad
yr Aipht: wedi hynny hwy a wasanaethasant ddelwau
'r Moabiaid, Ammoniaid, Canaaneaid, y Syriaid,
 &c. Ac yn yr 862 o flynyddau y buant yn
aros yng wlad Canaan, cyn eu caethiwo gan y Caldeaid,
hwy a lithrasant bedair gwaith ar ddeg o leiaf
i eilun-addoliaeth. Dan deyrnasiad y deg llwyth,
yr oedd eilun-addoliad yn sefydledig yn eu plith; ac
anfynych oedd teyrnas Juda yn cael ei phuro oddiwrthi.
Gwedi 'r Iuddewon ddyfod yn eu hol o Babilon,
yr oeddent yn llwyr wrthwyneb i addoli delwau,
ac am hynny a oddefasant lawer o galedi o 'u
hachos.

Y Mahometaniaid ydynt hefyd yn cymmeryd arnynt
fod ganddynt sel fawr yn erbyn eilun-addoliaeth.
Y gwasanaeth y mae 'r Papistiaid yn ei roddi i 'r
Forwyn Fair, i 'r seintiau eraill, ac i angylion heb
rifedi, traws-sylweddiad yr elfennau yn y cymmun,
y rhelywiau a 'u delwau, sy 'n drosedd nid bychan yn
eu golwg, ac yn peri iddynt (nid yn ddiachos) edrych
ar Grist'nogion yn eilun-addolwyr. Ac yn
wir, nid yw Crist'nogion eglwys y Groeg ddim gwell,
a 'u cymmeryd yn gyffredinol; y maent yn fwy tueddol
nâ 'r Papistiaid i eilun-addoliaeth.


[td. 25]


Dechreuad Paganiaeth ac  Eilun-Addoliaeth
 wedi 'r Diluw.


ER bod eilun-addoliaeth wedi dechreu yn fuan ar
ol y diluw, etto gallwn ddeall fod y grefydd
honno a draddododd Noa i 'w hiliogaeth, yr hon
hefyd a arferwyd gan rai o 'r Patriarciaid hyd amser
Abraham, sef, addoliad o un gwir Dduw, Penllywodraethwr
a Chreawdwr pob peth, a gobeithio yn ei
drugaredd trwy Gyfryngwr. Canys yr angenrheidrwydd
o Gyfryngwr rhwng Duw a dyn oedd,
fel y gellid meddwl, yn farn gyffredinol, wedi gwreiddio
yng nghalonnau holl ddynolryw mor fore a 'r
dechreuad. Dynion, trwy lygredigaeth nattur, a ddechreuasant
edrych arnynt eu hunain yn rhy wael, aflan
ac amherffaith, i wneuthur eu herfyniadau at fod
mor fawr, sanctaidd, a gogoneddus, ag oedd y Duw
hwnnw, Creawdwr nef a daear. Hwy a feddyliasant
ei fod yn rhy uchel ac ardderchog; eu hunain yn rhy
isel, llygredig, ac anheilwng, i wneuthur cyfathrach
ag ef; am hynny hwy a benderfynent fod yn angenrheidiol
wrth Gyfryngwr neu Gyfryngwyr, trwy
deilyngdod y cyfryw rai y gallent gyflwyno eu
gweddiau a 'u deisyfiadau i gael eu cymmeradwyo
ganddo.

Yn ganlynol, hwy a gymmerasant mewn llaw
ddychymmyg pwy a allsai fod yn fwyaf perthynol i 'r
pwrpas; ymhlith y goleuadau nefol yr haul, lleuad,
a 'r planedau, a darawsant gyntaf yn eu meddyliau;
hwy a wyddent wrth nattur fod yr haul a 'r lleuad
yn rhagori ar yr holl gyrph wybrennol eraill; ac
heblaw hyn, hwy a dybiasant fod y goleuadau rhagorol
yma 'n bebyll, neu yn drigfannau i ryw fath o
ysprydion ardderchog ag oedd, o ran eu nattur, yn
nes ac yn fwy teilwng o gymdeithas y Goruchaf nâ
hwy. Yr oeddent hefyd yn credu, fod rhyw ysprydion
yn cyfaneddu ynddynt yn yr un dull ag y mae
eneidiau dynion yn cyfaneddu yn eu cyrph daearol;
ac yn eu dwyn trwy eu holl ysgogiadau tymhorol o

[td. 26]
amgylch y ffurfafen, ac nid yn unig i lywodraethu 'r
cyrph hynny lle 'r oeddynt yn preswylio, ond hefyd,
fod ganddynt awdurdod fawr ar bethau daearol;
yn ganlynol, hwy a dybiasant mai y rhai'n oedd y
bodau mwyaf addas at fod yn gyfryngwyr i ddwyn
eu deisyfiadau a 'u gweddiau at Dduw. Yn y lle
nesaf, hwy a ddechreuasant roi enwau ar y goleuadau
hyn: Sadwrn hwy a alwent Cronos; Iau, Jove;
Mawrth, Maros; Haul, Apollo; Gwener, Prosperina;
Mercher, Hecat; a 'r Lleuad, Diana; ynghyd
â llawer o enwau eraill perthynol i 'r pethau neu 'r
lleoedd ag oeddent hwy yn ei dybied fod dan ei
hawdurdod. Dyma y rhai a wnaeth y cenhedloedd
gyntaf yn dduwiau; i 'r cyfryw yr oeddent yn offrymmu
ac yn talu eu haddunedau, i 'r diben iddynt
hwythau fod yn genhadon ffyddlon drostynt at
Dduw.

Etto nid oedd hyn ddim digon; hwy a aethant i
gredu, fod gan ddynion da ac ardderchog, pan y
byddent farw, allu mawr, o herwydd eu ffafr gyd â
Duw o fod yn gyfryngwyr i eirioli drostynt; am
hynny, fe ddarfu iddynt dduwio llawer o ddynion ag
oedd wedi bod yn enwog yn eu bywyd, a chwedi
haeddu mwy o glod nag eraill, naill ai am eu helusenau
a 'u hathrawiaethau, neu o ran rhagorfraint eu
hawdurdodau. Ond nid hyn yn unig; ni fuant
hwyrach ne's iddynt gyssegru amryw eraill o is radd;
hwy a lanwasant y byd o honynt, gan osod rhai i
lywodraethu moroedd, rhai 'r coedydd, afonydd, mynyddau,
taranau, tymhestlau, &c. Ac yn y diwedd,
hwy a aethant i addoli eu lluniau, eu delwau, a phob
math o greaduriaid gwylltion a dofion, glân ac aflan,
rheibus a gwenwynog; delwau o aur ac arian,
coed a cherrig, o 'u gwaith eu hunain; i ba rai yr
oeddent ac y maent, mewn rhai mannau, yn rhoi
dwyfol anrhydedd ac addoliad iddynt hyd y dydd
heddyw.

Mae 'n ddiammeu i 'r grefydd hon o eilun-addoliaeth
ddechreu ymhlith y Caldeaid; eu gwybodaeth

[td. 27]
mewn seryddiaeth a 'u cynnorthwyodd hwynt iddi;
ac o herwydd hyn y cafodd Abraham ei neillduo,
pan ddaeth ef allan o honi; oddiwrth y Caldeaid hi
a dannodd ei hun dros holl wledydd y dwyrain, lle
cafodd ei phroffeswyr yr enw o Sabiaid. Oddi yma
hi aeth trosodd i wlad yr Aipht, ac oddi yno i blith
y Groegiaid, y rhai a 'i tannodd trwy holl genhedlaethau
gorllewinol y byd.

Mae gweddill o 'r sect hon fyth yn parhau yn y
dwyrain, dan yr enw Sabiaid; yr hon, fel y dywedant
hwy, a dderbyniasant oddiwrth Sabas mab Seth.
Ymhlith eu llyfrau, ag sy 'n cynnwys athrawiaeth eu
sect, y mae un llyfr a elwir Seth, yr hwn, meddant
hwy, a gyfansoddwyd gan y Patriarc hwnnw.


Ychydig mewn perthynas i 'Stad {~ Ystâd } bresennol  EilunAddoliaeth
 ymhlith y Paganiaid, yn enwedig
y Chinese.


YR ydym yn cael hanes fod y Chinese yn gyffredinol
yn addoli un goruchaf Dduw, Brenin
nef a daear, neu yn hytrach yr hwn y maent yn alw
Y Meddwl Tragywyddol, yr hwn, yn ol eu hathrawiaeth
hwy, yw bywyd yr holl greadigaeth: ond ymhellach,
y maent yn credu ei fod ef yn llywodraethu
pob peth trwy raglawiad, ac y maent hwy yn ei alw
Laocon Tzanty; a thrwy 'r haul, yr hwn y maent
yn ei gyfrif yn yspryd tragywyddol; a thrwy un
dwyfol arall a elwir Chansay, yr hwn, meddant, sy
ag awdurdod ar bob peth dan y lleuad. I 'r tri gradd
hyn o ysprydion, ac i dri * arall o lywodraethwyr
danynt, y llu nefol, ac eneidiau rhyw henafiaid ardderchog,
y maent hwy yn talu eu haddoliadau a 'u
gwasanaeth crefyddol; ond yn unig bod hyn o wahaniaeth,
sef bod y brenin yn offrymmu i 'r cyrph
nefol, megis yr haul, y lleuad, a 'r ser; yr arglwyddi,
* Tangwam, llywodraethwr yr awyr a 'r gwlaw. Teiguam,
dros genhedliad ffrwythau, ac anifeiliaid. Tzingwam,
pennaeth y moroedd, &c.

[td. 28]
a 'r rhai mwyaf ardderchog i bethau daearol; sef, i 'r
mynyddau, gelltydd, llynoedd, a bryniau; boneddigion
a swyddwyr i 'r gwlaw, taranau, a thymhorau 'r
flwyddyn; a 'r bobl gyffredin i ddelwau neu dduwiau
teuluaidd, ac i 'r angylion addysgiadol. Y wlad helaeth
hon sy 'n llawn o demlau a monachlogydd,
wedi eu llenwi â delwau, y rhai y mae 'r offeiriaid
dichellgar yn porthi ag anwedd y bwyd, eithr yn
bwyta 'r sylwedd eu hunain. Mae gan yr offeiriaid
yma gymmaint o awdurdod ar y duwiau, fel ag y
maent yn eu cospi a 'u chwipio pan na fyddont yn
atteb eu dibenion. Mae ganddynt un ddelw a thri
phen yn perthyn i 'r un corph, i 'r hon y maent yn
rhoddi mawr barch: y mae hon yn personoli tri
philosophydd mawr, Confusius, Xequiam, a Tanzu.
Maent yn dala athrawiaeth y Pythagoriaid, neu
drawsglwyddiad yr enaidiau i ryw greaduriaid eraill;
am hynny mae rhai o honynt na laddant gymmaint
ag un creadur mwyaf distadl. I 'r pwrpas yma mae
parc yn Quinsay, wedi ei furio oddiamgylch, yn
perthyn i Fonachlog, lle mae 'r Monachod yn porthi
pedair mil o greaduriaid byw o bob math ar elusennau,
er lles i eneidiau rhai pobl fawrion ag sydd
wedi myned i mewn i gyrph y creaduriaid hyn i
gyfaneddu. Nid oes neb yma yn cael ei rwymo at
un addoliad neillduol, ond gallant ddewis y sect a
fynnont. Am eu gwybodaeth mewn perthynas i
ddedwyddwch nefol, neu boenau uffernol, nid yw
ond ychydig neu ddim i son am dano: maent yn ofnus
iawn pan welont ddiffyg ar yr haul neu 'r lleuad,
y rhai y maent yn eu hystyried fel gwr a gwraig, ac
yn meddwl eu bod yn ddig wrthynt ar y cyfryw
amser. Mae yma lawer o seremoniau mewn perthynas
i wyliau, newydd leuadau, genedigaethau, ac
angladdau eu perthynasau, dros y rhai y maent yn
fynych yn myned i lawer o draul. Nid oes neb o
honynt heb eu Jos, neu dduw teuluaidd, y rhai y
maent yn eu cospi yn lled ddrwg: canys os bydd
iddynt weddio arnynt am ryw beth, ac heb gael dim

[td. 29]
effaith oddiwrth eu gweddi, hwy nid yn unig ddannodant
iddynt y diofalwch, ond hefyd hwy a lusgant
y ddelw trwy 'r lleoedd mwyaf drewllyd a diffaith ar
hyd yr heolydd: etto os digwydd ar y pryd hynny
iddynt gael eu herfyniad, hwy a osodant y ddelw yn
ei lle, ac a syrthiant o 'i blaen i ddeisyf maddeuant,
ac at ei heddychu, hwy a 'i golchant, ac a 'i paentiant
hi yn ardderchog o 'r newydd.


Am Grefydd y Paganiaid yn y Carnatic, Colconda,
Bisnagar, Decan, &c.


MAE 'r bobl hyn, medd hanesion, yn addoli yr
un duwiau, er eu bod dan wahanol enwau,
a 'r Bramiaid; yr ydys yn galw eu crefydd Banian,
a 'r bobl Baniaid. Nid yw hwn ddim titl o waradwydd,
ond gair ag sy 'n arwyddo dwysder, anrhydedd,
a nodedigrwydd, mewn perthynas i 'r gerwindeb
a 'r creulondeb y maent yn arferyd yn eu temlau
a 'u bywydau.

Mae 'r Baniaid, megis y rhan fwyaf o 'r Paganiaid,
yn credu fod un Duw goruchaf, ac yn ei alw Parabrama,
yr hyn yn eu iaith hwy sy 'n arwyddo perffaith;
ei fod ef o hono ei hun yn anllygredig, ac yn
anfarwol. Maent hwy 'n dywedyd iddo orchymyn
pob peth perthynol i grefydd Brama ei fab hynaf; i
Winstow, mab arall iddo, roddi gofal dros angenrheidiau
a chyfiawnderau ei bobl; i 'r trydydd, dros
yr elfennau a chyrph dynion. Mae y rhai'n yn
cael eu haddoli ar ddull delw fawr, ac iddi dri phen.
Ond o ran eu bod hwy 'n credu i Dduw greu 'r diafol,
er mwyn tormento a gwneuthur rhyw ddrwg i
ddynolryw, maent yn ei addoli yntef, nid o gariad,
ond rhag ei ofn; ac y mae ganddynt ddelw o hono
ar ddull hagr ac ofnadwy. Mae 'r bobl hyn yn arferyd
puro eu hunain trwy offrymmau ac ymolchiadau,
ac yn rhoddi llawer o 'u heiddo i 'r Braminiaid
a fo 'n attendo arnynt. Mae 'n beth rhyfedd yr

[td. 30]
hybarch sydd gan y bobl hyn i 'r afon Ganges;
maent yn ymolch ynddi o bur addoliad, ac yn mynych
daflu iddi fel yn offrwm, ddarnau o aur ac arian.
Llawer iawn o ymdeithyddion sy 'n wastadol
yn dyfod i ymweled â 'r afon ardderchog hon; a thra
maent yn ymdrochi ynddi, maent yn dala gwellten
fer rhwng eu bysedd. Ar ol i 'r ymdeithwyr ymolchi
eu hunain, a chyflawni eu seremoniau, maent
yn cael eu derbyn gan y Bramins, a 'u dwyn i mewn
i 'w padogau, lle maent yn cynnyg arian a reis.—
Tra fo 'r seremoniau hyn yn cael eu gwneuthur,
mae 'r ymdeithwyr yn ail adrodd llawer o weddiau;
a hwy a ddywedant, fod pechod pob un wedi eu
maddeu, trwy ymolchi yn y Ganges.


Crefydd y Bobl sy 'n trigfannu yn Japan.


MEWN perthynas i 'r Japanîs, nid oes fawr o
wahaniaeth rhyngddynt hwy a 'r Chinese;
maent yn cyfaddef fod un goruchaf Dduw, ag sy 'n
byw yn y nefoedd, a bod llawer o dduwiau eraill o
is radd, ag sy 'n trigfannu ymhlith y ser; ond etto ni
ellir meddwl eu bod yn addoli un o 'r rhai'n; eithr
y duwiau y maent hwy yn addoli yw llywodraethwyr
a fu 'n byw ryw amser ar y ddaear, ac a gawsant
yr anrhydedd yma trwy ryw weithredoedd
rhagorol; trwy rinwedd y rhai'n maent yn barnu y
gallant fod yn ddedwydd neu 'n druenus yn y bywyd
hwn, a thrwy eu cynnorthwy a 'u cyfryngdod, y
cânt eu gwobrwyo yn ol eu gweithredoedd yn y byd
a ddaw. Maent yn meddwl fod llawer paradwys,
lle mae pob un o 'u duwiau yn cario eu haddolwyr;
i 'r fath ddychymygol ddedwyddwch a hyn y mae 'r
bobl ddwlon yma mewn cariad, fel ag mae rhai yn
myned i foddi, eraill yn torri eu gyddfau, neu 'n taflu
eu hunain dros greigiau uchel; i hyn y maent yn
cael eu hannog gan eu hoffeiriaid trachwantus,
oddiwrth y cyfryw rai y maent hwy yn ymgyfoethogi.

[td. 31]
Mae yma beth aneirif o Badogau; ymhlith y
cyfryw, yn nheml Macca, mae un ddelw wedi ei
gwneuthur o bres, ac yn cyrraedd hyd gronglwyd y
deml; mae 'r gadair, medd Sir Thomas Herbert, yn
drugain a deuddeg troedfedd o uwchder, ac yn bedwar
ugain o led; ei phen yn ddigon mawr i ddala pumtheg
o ddynion, a 'i fawd-fys yn ddeugain modfedd
oddi amgylch.

Maent yn cadw gŵyl, ymha un y maent yn llosgi
peth aneirif o lampau wrth eu drysau, ac yn
rhodio i fynu ac i wared ar hyd yr heolydd, i gyfarfod
ag eneidiau eu cyfeillion a fuasant feirw 'n
ddiweddar, o flaen pa rai y maent yn gosod bwyd a
diod, ac yn eu gwawdd i 'w tai i orphwys, fel na
ddiffygient yn eu siwrnai i baradwys, yr hyn meddant
hwy, sy 'n daith tair blynedd o leiaf.

Pan fyddo dyn marw, mae ei dylwyth yn gorfod
dwyn dau neu dri o dystion, i brofi nad oedd ef ddim
yn gristion ar amser ei farwolaeth, ac y maent yn
myned mor belled a holi pa un a bu ef felly yn holl
ystod ei fywyd; os deuir i wybod ei fod, mae ei
gorph yn cael ei daflu i ryw dommen fel ci.


Crefydd y Bobl sy 'n trigfannu yn Pegu.


PEGU yw un o 'r taleithau ag sydd tu hwnt i 'r
afon Ganges; eu crefydd sefydlog yma yw
Paganiaeth. Yn eu barn, mae 'r bobl yn meddwl
yr un peth a 'r Crist'nogion hereticaidd, sef, y Manicheans;
canys maent hwy 'n dala fod dau ben-llywodraethwr,
un da a 'r llall yn ddrwg; ac am hynny
y maent yn offrymmu i 'r diafol, fel yn awdwr o
bob drwg; ac nid i 'r un da, am nad yw ef yn dymuno
dim niwed iddynt: felly y maent yn addoli 'r
diafol am gael ei ffafr a 'i diriondeb; ac iddo ef, trwy
wahanol ddull o ddelwau, y maent yn cyfeirio eu
haddunedau a 'u gweddiau. Maent yn credu mewn
tragywyddol barhad o fydoedd, ac mor gynted y

[td. 32]
byddo un yn cael ei losgi, fod un arall yn codi o 'r
lludw. Mae 'r fath barch anrhydeddus ganddynt i 'r
crocadil, fel ag y maent yn credu, pwy bynnag a
ddifethir ganddo, fod ei enaid yn cael ei ddwyn yn
uniawn i 'r nef. Y maent hefyd yn credu fod gan
yr epaid enaid dynol, a 'u bod gynt yn ddynion; ond
at eu poeni, am ryw ddrwg weithredoedd a wnaethant,
i 'r duwiau eu troi ar y dull hynny. Ond y
creadur mwyaf ag sy 'n cael ei anrhydeddu yn eu
plith hwy, yw 'r elephant wen; ac un o deitlau brenin
Pegu yw, Arglwydd yr Elephant wen. Mae 'r
creaduriaid hyn yn cael eu gwasanaethu ar ddisglau
arian; a phan maent yn cael eu harwain allan i gael
aer, mae cerddorion yn canu o 'u blaen ar lawer
math o offerynau; a phan ddelont adref, mae un o
weision y brenin yn golchi eu traed â dwfr o ddisgl
arian.

Mae yma rai temlau o faintioli mawr, ac fe ddywedir
fod un o honynt yn cynnwys ynghylch chwech
ugain mil o ddelwau; ond fe allai nad yw rhai o
honynt ond bychain, neu fath o hieroglyphics, yr hyn
sy 'n beth cyffredin yng wledydd y dwyrain. Ymhyrth
y temlau hyn y mae ffont neu lestr mawr â
dwfr, yn yr hon y mae 'r ymdeithyddion yn golchi
eu traed cyn myned i mewn. Y rhan gyntaf o 'u
haddoliad yw gosod eu dwylo ar eu pennau, yn arwydd
o barch dyledus i wrthddrych eu haddoliad.
Trwy 'r holl deyrnas hon, dydd Llun y maent hwy
yn ei osod o 'r neilldu at addoliad crefyddol; ac ar y
diwrnod hwnnw mae eu hoffeiriaid, neu 'r talapoins,
yn pregethu i 'r dynion yn eu temlau.


Crefydd Pobl Siam.


MAE 'r wlad helaeth hon tu draw i 'r Ganges;
ond eu crefydd sydd yn agos yr un peth a 'r
rhai a soniwyd am danynt eisoes yn y taleithau rhagflaenol.
Mewn ychydig o bethau maent yn wahanol;

[td. 33]
yn hyn ni gawn ddala rhyw gymmaint o sylw.
Mae eu holl gyfraith foesol yn gynhwysedig yn y
pump gorchymyn canlynol, sef, na ladd, na wna un
fath o aflendid; na ddwg gam-dystiolaeth; na ladratta;
ac na ŷf un math o ddiod i feddwi.

Mae y rhai'n yn agos yr un peth ag sy 'n ysgrifenedig
yng nghyfraith Moses, yr hyn a ddengys,
fod crefydd nattur yn oestad yr un peth, ymhob oes,
ac ymhlith pob cenhedlaeth, er ei bod yn cael ei
dirywio trwy ymarferiadau a seremoniau o ddyfais
dynolryw.

Y duw y maent hwy yn ei addoli trwy fawr anrhydedd,
yw Sommona Codon, am yr hwn y mae
ganddynt yr hanes ddychymygol hon; mai efe yw
brenin Seylon, ac iddo adael ol ei droed mewn tri
man o 'r byd, sef yn nheyrnas Siam, Pegu, a 'r ynys
ragddywededig Seylon. I 'r lleoedd hyn mae llawer
o bererinion yn tramwyo bob blwyddyn, i roddi i
fynu eu gweddiau iddo. Mae 'r pererinion yma yn
cael cennad i weled esgyrn Sommona Codon, y rhai
a ddywedant eu bod yn llewyrchu mor danbaid, fel
na allant edrych arnynt dros un funud o amser.

Yr oedd gan Sommona Codon ddau ddisgybl
neillduol, delwau pa rai sy 'n sefyll o 'r tu iddo ar
ei allor, ond nid cymmaint ag ef ei hun; enwau y
rhai'n yw, Pra Molga, a Phra Scarabout; Pra
Molga, yr hwn sy 'n sefyll ar ei law ddeheu, wrth
ddeisyfiad rhai o 'r ysprydion damnedig, a drodd y
ddaear â 'i hwyneb i lawr, ac a gymmerodd dân uffern
yng nghledr ei law; ond er cymmaint ei chwennychiad,
ni allai mewn modd yn y byd ei ddiffodd:
am hynny fe ddeisyfodd gael cynnorthwy Sommona
Codon i wneuthur hyn o gariad drosto; ond fe
wrthododd y duw hwn wneuthur hyn o gymmwynas,
gan ddywedyd wrtho, pe b'ai {~ bai } poenau uffern
unwaith yn cael eu symmud oddiwrth ddynolryw,
ni fyddai dim ond drygioni ac anlladrwydd yn y
byd. Mae rhyw beth yn y farn hon yn ddigon tebyg
i 'r hyn sy 'n gynhwysedig mewn crefydd nattur;

[td. 34]
a 'r dull yr ydym ni, greaduriaid darfodedig, yn farnu
am gyfiawnder ac anghyfiawnder.


Crefydd y Gaurs neu 'r Gueres yn Persia.


MAE 'r bobl hyn mor grefyddol, ag na enwant
eu duw ar un achos, heb lawer iawn o anrhydedd
a pharch. Maent yn addef iddo yr un
priodoliaethau a ninnau; ac yn edrych arno ef yn
farnwr goruchel, gwobrwywr haelionus, cyfiawn,
a thrugarog, ac yn barod i roi maddeuant; bod
angylion a diafliaid yn wasanaethwyr dano, ac yn
gweinyddu drosto dda a drwg. Mae 'r Gaurs hefyd
yn meddwl bod dau angel yn perthyn i bob dyn
yn neillduol; ac eraill i bob mis a phob diwrnod
trwy 'r flwyddyn; ac i 'r rhai'n y maent yn cyfeirio
eu gweddiau, yn ol y dull a 'r drefn y maent wedi
eu gosod i lawr yn eu cyfraith; canys er eu bod yn
credu fod un Duw ag sy 'n llywodraethu pob peth,
etto, megis Paganiaid eraill, y maent yn cyfeirio eu
gweddiau at dduwiau o is radd, y rhai y maent yn
gyfrif fel yn gyfryngwyr ac eiriolwyr drostynt. Ni
welwn i 'r ddefod hon gael ei harferyd gan y Groegiaid
yn gystal a 'r Rhufeiniaid; ac onid ê, pa ham y
maent yn gweddio ar y seintiau i fod yn eiriolwyr
drostynt at Dduw?

Mae 'r Gaurs yn haeru bod eu crefydd hwy wedi
cael ei chynnal yn ddirwystr er amser Noa; ond
os collodd y bobl hyn eu llywodraeth wladol, hwy
a allant ymfalchio fod ganddynt ganlynoliad o offeiriaid
a dull sefydledig o wasanaeth grefyddol er
dyddiau Zoroaster; ac y maent yn addef fod Duw,
neu egwyddor uwchlaw da a drwg; yr hyn yr oedd
yr hen Bersiaid yn ei ddala fod yn awdwr goleuni
a thywyllwch.

Maent yn credu, yn ol athrawiaeth Zoroaster, i 'r
byd gael ei greu mewn chwech o dymhorau, pob un
yn cynnwys hyn a hyn o ddyddiau; sef, yn y 45 diwrnod

[td. 35]
cyntaf i Dduw greu 'r nefoedd; yn y 60 nesaf,
iddo greu 'r dyfroedd; mewn 75 iddo greu 'r ddaear;
yn y 30 nesaf y llysiau a 'r ffrwythau; mewn 80 yr
holl greaduriaid ond dyn; ac yn y 75 diwrnodau
nesaf, y creodd ef deidau holl ddynolryw, yr hyn sy 'n
gwneuthur i fynu 365, sef blwyddyn gyfan.

Mae eu hoffeiriaid yn gorfod gwilied ddydd a nos
i gadw ar gyn y tân cyssegredig yn y temlau, yr
hwn, meddant hwy, nid yw byth yn cael ei ddiffodd;
ac os hynny a ddigwydd, mae ef yn cael ei ennyn
drachefn oddiwrth y pethau mwyaf pur, megis
mellt, ignus fatus, neu rwbian dau bren ynghyd
hyd ne's ennynont yn dân goleu.

Mae 'r Gaurs hefyd yn dala, fel ag yr oedd y byd
i gael ei liosogi a 'i drigfannu gan ddau ddyn yn
unig, i Dduw ordeinio i Efa ddwyn dau efyll bob
dydd i 'r byd, ac nad oedd i angeu gael awdurdod ar
eu had dros fil o flynyddau; i satan demtio 'n teidau
cyntaf, er mwyn eu gwneuthur hwy yn atgas yng
olwg Duw eu Creawdr; fod Duw yn gydwybodol
o falais yspryd y tywyllwch; ni thybiodd yn gyfleus
dynnu hynny o ddrwg yn llwyr oddi wrtho, ond a
gymmerodd y drefn ganlynol i rwystro 'r effaith o
hono:—Fe sefydlodd ryw nifer o angylion i fod yn
fugeiliaid ac yn amddiffynwyr i 'w greaduriaid; fe
wnaeth Hamael yn olygwr dros y nefoedd; Acrob
yn oruchwiliwr dros angylion yr haul, y lleuad, y
ddaear, y dyfroedd, dynion, llysiau, a holl greaduriaid
y byd. Er hyn i gyd fe gynhyddodd drygioni,
ac fe aeth dynion yn waeth ac yn fwy gwrthwyneb
yn ymhob ffordd, ne's i Dduw ddanfon llifeiriaint
o ddyfroedd i 'w difetha oddiar wyneb y ddaear.


Crefydd yr Indiad o fewn i 'r Ganges.


ER bod yma lawer o grefyddau wedi eu gosod i
fynu gan y bobl ag sy 'n cymmeryd arnynt
enw crist'nogion, ni wn i a ydynt hwy yn yr ymweddiad

[td. 36]
lawer yn well nâ 'r Indiaid. Maent yn
credu fod llawer o fydoedd wedi bod y naill ar ol y
llall, heb un achos o greadigaeth, ac hefyd aneirif o
dduwiau yn eu llywodraethu; i 'r olaf o 'r rhai'n y
maent hwy weithiau yn cynnyg eu herfyniadau;
ond ymhob adfyd y maent yn gwneuthur eu cyfarchiad
cyntaf i 'r diafol, yn addunedu iddo, ac yn eu
cwplau yn ddiesgeulusdod; ac wrth fwytta, cyn y
profont dammaid eu hunain, maent yn taflu rhan o
hono dros eu hysgwyddau mewn ffordd o offrwm.
Y bobl hynny sy 'n byw o ddeutu Bengal a addolant
yr afon Ganges; ac fel y dywedwyd o 'r blaen,
cymmaint yw ffolineb y bobl ddwlon hyn, eu bod
yn meddwl pe b'ai {~ bai } ddyn ar bwynt marwolaeth, ond
cael yfed rhyw ychydig o 'r dwfr hyn, y cai ei enaid
yn uniawn ei ddwyn i baradwys.

Yn Goa, heblaw llawer o ddelwau dychrynedig
i 'r olwg, hwy a addolant y peth cyntaf a gyfarfyddant
yn y boreu dros yr holl ddiwrnod hwnnw, yn
enwedig os mochyn a fydd; a phob lleuad newydd
maent yn y gyfarch â rhyw ddeisyfiadau ar ben eu
dau-lin. Ond i ddiweddu 'r hanes yn y parthau
hyn—Mae gan pobl Narising a Bisnagar ddelw, at
yr hon y mae llawer iawn o bererinion yn tramwy
â rhaffau am eu gyddfau, a chyllill wedi sticco yn eu
coesau a 'u breichiau; ac os digwydd i 'r rhai'n fyned
yn sicrach, y mae hynny yn cael ei gyfrif yn sancteiddrwydd.
Mae 'r ddelw hon bob blwyddyn yn
cael ei chario o ddeutu gan liaws o bobl, morwynion
 â cherddorion yn myned o 'i blaen: os digwydd
i bererin gael ei wasgu, neu ei lethu i farwolaeth,
dan droellau 'r cerbyd fo 'n ei chario, y mae ei ludw
yn cael ei gadw fel peth sanctaidd. Mae 'r eiddynwyr
gwallgofus hyn yn gollwng eu gwaed mewn
ffordd o offrwm, a rhai o 'r benywod mor haelionus
a phutteinio eu hunain i gael arian at gadwraeth y
ddelw, neu yn hytrach i 'r offeiriaid.


[td. 37]


Crefydd y Tartariaid, Suberiaid, a 'r  Tibetiaid
.


MAE crefydd y Tartariaid ryw beth yn debyg
i 'w cyfraith wladol, ac yn gyffredin wedi ei
haddasu at hynny o 'u cymmydogaethau; canys mae
yma rai Mahometaniaid, Gentws, Groegiaid, a 'r
grefydd Babaidd. Rhai o honynt yw 'r gwaethaf o
eilun-addolwyr, ac yn addoli delwau bychain wedi
eu gwisgo i fynu â hen garpiau. Mae gan bob un
dduw iddo ei hun, ac yn gwneuthur â hwynt fel y
mynnont, os na fydd pob peth yn myned wrth eu
bodd. Ond crefydd a llywodraeth teyrnas y Tibetiaid
a 'r Lasiaid, ynghyffiniau China, yw 'r mwyaf
hynod o honynt oll. Mae 'r Tibetiaid yn cael eu
llywodraethu gan ddyn, neu dduw-dyn, yr hwn y
maent yn ei alw Dalai Lama, i 'r hwn y maent yn
talu 'r fath wageddol barch ac anrhydedd, fel ag y
mae ymmerawdwr China, a 'r holl arglwyddi mwyaf,
yn edrych arnynt eu hunain yn ddedwydd, trwy roi
anrhegion gwerthfawr, i gael rhyw beth oddiwrtho
at wisgo am eu gyddfau, fel yn ymddiffyniad rhag
amryw drallodion ac adfyd. Mae 'r duw-dyn hwn
yn cael ei gadw mewn palas ardderchog ar ben
mynydd Patuli, yr hwn sydd wedi ei addurno â
pheth aneirif o berlau a meini gwerthfawr, ac yn
cael ei oleuo â rhifedi mawr o lampau. Mae 'r duwdyn
yma yn cael ei ddangos yn eistedd ar orsedd
ardderchog, a chwedi ei ddialladu mewn gwisg  gostfawr
at dderbyn addoliad gan y bobl, y rhai sydd yn
ymgynnull atto o bob cwr o 'r wlad helaeth hon, i
ymostwng o 'i flaen, ac yn ei weled yn anrhydedd
mawr i gael cusanu ei draed.

Meddyliau y rhai ag sydd yn cael eu cyfrif yn
bobl fwyaf deallus ymhlith y Tibetiaid yw, pan
fyddo 'r Grand Lama mewn wyneb i farw, naill ai o
ran oedran neu o ryw glefyd, nad yw ei enaid ond
gadael ei hen sych gyfanneddiad i edrych am un
arall mwy ifangc a gwell i drigfannu ynddo, yr hyn

[td. 38]
sy 'n cael ei ganfod yn fynych gan rai o 'r Tayshoo
Lama mewn un arall. Yn y dull hyn maent yn
peri i 'r bobl gredu ei fod yn parhau yn dragywyddol,
o herwydd y mae 'r offeiriaid, ag sydd
â 'r holl awdurdod yma yn eu dwylo, yn gosod un
arall yn ei le mor debyg iddo a fo bossibl; a phan y
byddo ef marw, maent yn ei gladdu mor ddirgel, fel
nad yw 'r bobl yn gyffredin yn deall dim llai nad
yw ef yn byw byth.

Mae crefydd arall yn arddeladwy ymhlith y Tartariaid,
a elwir Schamanism. Mae proffeswyr y sect
hon yn cyfaddef fod un goruchaf Dduw, gwneuthurwr
a chynhaliwr pob peth; ei fod ef yn caru ei
greadigaeth a 'i greaduriaid; yn gwybod pob peth,
ac yn hollalluog; ond nad yw ef ddim yn edrych
cymmaint ar weithrediadau dynion, o herwydd ei
fod yn rhy fawr iddynt wneuthur dim yn ei erbyn,
neu chwanegu dim at ei anrhydedd. Ond y maent
hwy 'n meddwl ei fod wedi rhannu awdurdodau 'r
byd hwn dan amryw swyddwyr eraill o îs radd, yn
enwedig i un a elwir Itoga, yr hwn, meddant hwy,
yw duw 'r ddaear, i ba un y rhoddant eu holl addoliad.
Maent yn credu fod bywyd ar ol hwn, a bod
diafliaid ac ysprydion drwg, y rhai sy 'n fynych yn
drygu ac yn poeni dynion yn y bywyd; am hynny
y maent yn ceisio heddychu â hwynt trwy offrymmau,
a rhoi gwobrwyon gwerthfawr iddynt.


Hanes y Grefydd Baganaidd yn America.


O 'r dwyrain ni gawn droi 'n hwynebau i barthau
gorllewinol y byd; ac os cymmerwn olwg fer
ar rai o 'r cenhedlaethau mwyaf nodedig ymhlith yr
Indiaid, ni gawn weled fod eilun-addoliaeth yn eu
plith hwynt yn agos o 'r un lliw. Yn Firginia y
mae 'r trigolion ag sydd etto heb gael eu hymchwelyd
yn grist'nogion, a chanddynt ryw idea am y
goruchaf Dduw, yr hwn, meddant hwy, sydd er pob

[td. 39]
tragywyddoldeb; maent yn dweud, pan greodd Duw
y byd, iddo ef wneuthur llawer o dduwiau o îs radd,
at fod yn offerynau yn y greadigaeth; ac ar eu hol
hwynt iddo greu 'r haul, y lleuad, a 'r sêr, trwy
effaith y rhai y mae 'r byd yn cael ei lywodraethu.
Nid oes ganddynt un meddwl am ragluniaeth, am
hynny nid ydynt yn rhoi un addoliad i 'r dwyfol
Fod. Am y diafol, maent yn meddwl fod yn angenrheidiol
i ymheddychu ag ef, rhag iddo ddinystrio
eu hiechyd a 'u cyfoeth, neu ymweled â hwynt
mewn taranau ac ystormydd dychrynllyd; yn yr
achos hyn maent yn offrymmu plant bychain iddo
er mwyn ei radloni. Mae gan y rhai'n beth aneirif
o ddelwau, ond y rhan fwyaf o 'u haddoliadau
yw dawnsio a lleisio o ddeutu 'r tân, a chlindarddad
rhyw degan yn eu dwylo, ffystio 'r daear â cherrig,
ac offrwm tobacco, gwêr, a gwaed, ar allorau, wedi
eu gwneuthur o gerrig. Eu meddyliau mewn perthynas
i fyd arall, sy 'n debyg i 'r Mahometaniaid, canys
mae eu hoffeiriaid yn addo iddynt bob pleserau,
benywod glân, gerddi hyfryd, a thragywyddol gynhuddiad
o honynt; ond i 'r rhai drwg maent yn bygwth
y cânt eu taflu i lynoedd o dân, a 'u poeni gan
fath o hen fenywod, o ddull anferth a dychrynedig.

Yn Canada mae 'r trigolion yn credu fod un Duw
hollalluog, creawdwr a chynhaliwr bob peth, yr
hwn maent yn ei alw, Yspryd mawr y bywyd; maent
yn tybied ei fod ef yn gynhwysedig ymhob peth, yn
gweithredu, ac yn peri symmudiad a chynhuddiad
i holl fywiolion a ffrwythau 'r ddaear; am hynny
maent yn cymmeryd arnynt ei addoli mewn pob
gwrthddrych ag sy 'n ymddangos yn hardd, yn enwedig
pethau glân a chiwrain, megis yr haul, y sêr,
a 'r cyfryw oleuadau nefol. Pob dim ag sydd tu
hwnt i 'w deall, maent yn tybied mai ysprydoedd
ydynt; o 'r cyfryw maent yn credu fod dau fath, sef,
rhai da, ag sy 'n achos o bob llywddiant, a 'r lleill yn
ddrwg awdwyr o bob aflwyddiant a ddigwyddo
iddynt. Nid ydynt yn offrymmu dim creaduriaid

[td. 40]
byw i 'r ysprydion drwg, ond rhyw feddiannau ag y
maent hwy yn eu derbyn oddiwrth eu gelynion; a
phan y bont yn offrymmu, mae 'n rhaid bod yr awyr
yn glir: yna mae pob un yn gosod ei offrwm ar garn
o goed, a phan ddel yr haul yn ddigon uchel, mae 'r
plant yn ei dano oddiamgylch, ac yn ei losgi, tra
mae 'r milwyr yn dawnsio ac yn canu, yr hen bobl
yn bloeddio ar yr ysprydion drwg, ac yn cynnyg
iddynt bibau o thybacco; yn y modd hyn maent yn
parhau dawnsio, canu, a bloeddio, hyd ne's machludo
'r haul, oddieithr ambell gettyn y maent yn eistedd
i lawr i smocco.

Yn Florida, yr haul yw 'r ddelw fwyaf, yr hon
maent yn addoli unwaith bob blwyddyn fel hyn:—
Hwy a gymmerant groen bwch, ac a 'i llanwant â
phob math o ffrwythau a llysiau peraidd, ac addurnant
ei gyrnau a 'i wddf â rhybanau, gan ei osod ar
gorph o hen bren, a 'i ben at yr haul; yna, hwy a
benlyniant, ac a weddiant am i 'r haul eu bendithio
hwynt, a 'r cyfryw ffrwythau ag y maent yn eu hoffrymmu
iddo. Cyn yr elont i ryfel, y maent yn troi
gyd â pharch mawr at yr haul, ac yn dymuno arno
roddi llwyddiant a buddugoliaeth iddynt ar eu gelynion;
yn hyn, os digwydd iddynt fod yn llwyddianus,
maent yn talu mawr ddiolchgarwch am dano;
ac mewn ffordd o offrwm, maent yn lladd iddo rai
o 'u plant hynaf, trwy eu llabyddio â rhyw ddelbren,
a churo allan eu 'mhennyddiau {~ ymenyddiau }.

Yn Peru, y mae 'r bobl yn gyffredin yn addef fod
un goruchaf-lywodraethwr ab bob peth, ac yn ei alw,
Pacacamac, neu Greawdwr rhyfeddol y nef a 'r
ddaear. Iddo ef y maent yn offrymmu y pethau
mwyaf gwerthfawr yn eu meddiant, ac yn talu iddo
y fath barch ac anrhydedd, yn gymmaint a bod eu
brenhinoedd a 'u hoffeiriaid yn myned i mewn i 'w
temlau a 'u cefnau at yr allor, ac felly i maes drachefn,
am nad ydynt yn beiddio gymmaint ag edrych
ar ei ddelw sanctaidd. Ond heb law hwn y
maent yn addoli 'r haul, o herwydd y bendithion y

[td. 41]
mae 'r byd yn ei dderbyn oddiwrtho; y maent yn
edrych ar y lleuad, fel yn chwaer, neu 'n wraig i 'r
haul, a 'r sêr, fel merched neu wasanaethwyr y tŷ.
Ymhlith y sêr y mae ganddynt barch mawr i 'r blaned
gwener, fel y maent yn tybied ei bod hi yn un
o genhadon yr haul. Mae 'r Indiaid yma yn ofnus
iawn o fellt a tharanau, ac yn edrych arnynt fel yn
ddialeddwyr drygioni; ond mae ganddynt barch hynod
i fwa 'r glaw, ac y mae eu brenhinoedd yn eu
gwisgo yn eu coat of arms. Nid ydynt yma fyth
yn offrymmu dynion ond ar ryw achosion pwysfawr
a nodedig, megis clefyd, coroniad brenin, neu
wrth fyned i ryfel, a chyhoeddus erfyniadau am lwyddiant
mewn rhyw bethau neillduol; ar y cyfryw
amser y maent yn aberthu plant o bedair i ddeng
mlwydd oed.

Yn Mexico mae 'r hen Baganiaid sy 'n cyfaneddu
y wlad hon yn credu fod un Duw, gwneuthurwr
a chynhaliwr y cwbl oll: etto y maent yn rhoddi
eu holl addoliad i ddelwau, o ba rai y mae ganddynt
beth aneirif, rhai o goed, eraill o gerrig; ond eu
delwau pennaf ydynt wedi eu gwneuthur o aur, neu
o ryw fettel gwerthfawr. Ymhlith y rhai'n mae
dau ryw neillduol, sef, un o bren, wedi ei addurno
ag aur a pherlau, i arwyddo 'r haul, am hynny yn
eistedd mewn cadair o liw 'r wybr, yn arwyddo 'r
ffurfafen, a phlu ar ei phen, yn arwyddo ei llewyrch
bendigedig a gogoneddus. Y llall y maent yn ei
alw yn dduw 'r edifeirwch; mae hon wedi ei gwneud
o garreg ddû ddisglair, ac yn ei law asswy mae 'n
dala disgl aur, yn loyw fel gwydr, ymha un y maent
yn tybied ei bod yn gweled eu holl weithredoedd
daearol. Yn y llaw ddehau y mae gwialen, bwa, a
phedair saeth, i ddial ar y troseddwyr; am hynny y
maent mewn ofn mawr, rhag i 'r ddelw hon weled eu
beiau, a gosod rhyw gosp neu aflwydd arnynt am y
cyfryw. Pan fyddo diffyg ar yr haul, maent yn
meddwl ei fod yn ddig wrthynt, ac yn cymmeryd
arnynt wybod am beth, wrth edrych ar ei hwyneb;

[td. 42]
ond pan fo 'r lleuad dan ddiffyg, maent yn tybied ei
bod yn glaf; os digwydd iddo fyned drosti, maent
yn meddwl ei bod yn marw; ac os cwympa hi i 'r
ddaear, y bydd diwedd ar y byd; mewn trefn i ochelyd
hyn, mor gynted ag y dechreuo 'r diffyg, maent
yn cadw 'r fath 'stwr {~ ystŵr } â drwmmau, udgyrn, a phob
peth arall o 'r cyfryw nattur; ac hefyd, yn clymmu
cwn wrth goed a 'u chwipio, hyd ne's gwnelont y
lleisiau mwyaf echryslawn yn y byd, at ddihuno 'r
lleuad, yr hon, meddant hwy, sydd ar y pryd hynny
mewn llewig. Mae 'r trigolion ag sydd yn nhaleithau
Manta, yn addoli 'r môr, pysgod, teigrod, a phob
math o greaduriaid gwylltion. Maent yn lladd eu
carcharorion rhyfelgar, yn llanw eu crwyn â phridd
a lludw, ac yn eu hongian i fynu yn eu temlau, fel
math o orfoledd i 'w duwiau.


Hanes y Grefydd Baganaidd yng Ngogleddol Barthau
 Ewrop.


YN Lapland, a gwledydd gogleddol eraill, yr
ydym yn cael hanes, er pan gynhyddodd y
grefydd gristnogol, fod Atheistiaeth ac eilun-addoliaeth
wedi lleihau mewn amryw fannau; ond etto,
mae peth o honi yn sefyll yn ei llawn rym ymhlith
rhai o 'r hen drigolion: canys mae rhai pobl yn credu
na ddarfu iddynt erioed yn iawn dderbyn y grefydd
gristnogol o wir ewyllys calon; o herwydd eu bod
yn addoli Crist a 'u delwau 'n gymmysgedig, y naill
fel y llall, ac yn yr un dull. Maent fel eraill o 'r
Paganiaid, yn addef un Duw goruchaf, yr hwn y
maent yn ei arfogi â tharanau, a chanddynt yr un
meddyliau am dano ag oedd gan yr hen Baganiaid
am eu Jupiter. Mae gan y bobl hyn dduw arall o
îs radd, i 'r hwn y maent yn tybied eu hunain yn
ddyledus am bob bendithion yn y bywyd hwn. A
thrachefn, mae ganddynt barch mawr i 'r haul, yr
hon a alwant Baifa, o herwydd yr effaith sydd ganddi

[td. 43]
ar gyrph dynion ac anifeiliaid. Mae yma lawer
o demlau wedi eu cyssegru i bob un o 'u duwiau a 'u
delwau, wedi eu gwneuthur o gerrig, neu fonion
hen goed, wedi eu cerfio 'n lled drwsgl; a phan y
maent yn eu haddoli, maent yn eu hiro â gwaed yr
offrwm a roddir iddynt; a chwedi gorwedd i lawr
ar eu boliau, maent yn mwmlan rhyw fath o weddiau
i 'r ddaear, dan yr hon y maent yn meddwl fod
y diafol yn cyfanneddu.

Nid oes un bobl neu genhedlaeth mor nodedig
am swynion a swyngyfaddefwyr a 'r wlad hon. Yma
mae 'r teidiau 'n dysgu eu plant yn y celfyddydau
diawledig hyn, ac fel yn rhan o 'u hetifeddiaeth, yn
gorchymmyn iddynt y cyfryw ysprydion, y rhai,
meddant hwy, a fuasai fwyaf gwasanaethgar iddynt
eu hunain. Mae gan bob teulu eu hysprydion,
(demons) â pha rai y maent mor gyfeillgar, a 'u bod
yn myned i gyfarfod â hwynt mewn coedydd a rhodfaoedd
dirgel, i ddysgu iddynt fath o ganuau, y rhai
pan eu cenir, a fydd yn sicr o beri iddynt ymddangos
yn ol eu haddewid: y maent yn danfon y rhai'n
ar ddull clêr gleision at eu gelynion, i wneuthur
rhyw niwed i 'w hanifeiliaid neu eu plant; ac y mae
yn fynych ymdrech rhwng dau deulu, pa un a fydd
drechaf yn y gelfyddyd hon. Mae gan rai o honynt
ryw art neillduol o ddeutu werthu 'r gwynt i 'r morwyr.
Y Norwegiaid, ag sy 'n byw o du 'r gogledd
i Lapland, yn enwedig y bobl sy 'n cyfaneddu o
ddeutu gaingc o fôr a elwir y Gulph of Bothina, yw
y rhai mwyaf hynod yn y gelfyddyd hon; yma y
maent yn perswadio 'r morwyr a fo 'n hwylio yn y
parthau hynny, y gallant, trwy dalu swm o arian,
gael y gwynt a fyddont yn ei ddewis. I hyn hwy a
roddant iddynt raff, ac arni dri chwlwm; yr ydys
yn dywedyd pan agorir un cwlwm, bod gwynt
hwylus yn codi; os agorant yr ail, mae gwynt cadarn
yn codi, ac yn llanw 'r hwylau; ond os byddant
mor fentrus ag agor y trydydd cwlwm, mae 'r fath
ystormydd yn codi, y môr yn cynhyrfu, a 'r holl wybr

[td. 44]
yn duo, fel na byddant mwyach yn gallu rheoli eu
llongau, ond mewn perygl bob munud o longddrylliad.


Heblaw hyn, fe roddir hanes fod gan y Laplanders
fath o offerynau swynedig, ag y maent yn ei alw
Tyre, y rhai sydd ryw beth yn debyg i bellenau neu
afalau lled fychain, wedi eu gwneuthur o blu rhyw
greadur, ac mor ysgafn, fel y gellir meddwl eu bod
yn gou; mae rhai'n o bob lliwiau, peth o honynt yn
wyrdd, melyn, glas, &c.

Mae 'r Laplanders, meddant hwy, yn gosod y rhai'n
ar werth, ac yn edrych arnynt fel rhyw beth byw,
yn gymmaint ag y gall eu prynwyr eu danfon i 'r
lle, ac at y sawl a fynnont; maent yn eu symmudiad
yn debyg i droead-wynt, a 'u heffaith mor greulon,
bid at bwy bynnag y byddir yn pwrpasu eu danfon,
hwy a ant gyd â 'r fath nerth a chyflymdra, fel y
cwympant y creadur cyntaf a fyddo yn eu ffordd.

Ond yr offeryn pennaf y maent hwy yn ei ddefnyddio
mewn ffordd o ddewinyddiaeth yw 'r drwm,
ar yr hwn y maent yn gosod rhifedi mawr o fodrwyau
pres, yr hwn y mae 'r swynwr yn ei ffysto,
ac yn mwmlan rhyw eiriau swyniol wrtho, ne's yn
y diwedd y byddo ef yn cwympo mewn llewig; yr
holl amser hyn y mae pawb a fo 'n bresennol yn codi
i fynu ac yn canu. Mae 'r swynwr yma ar ol dihuno
yn cymmeryd arno, beth bynnag a ofynir iddo,
y gall ef roddi llawn hanes am dano, pa mor belled,
neu ymha wlad, neu ran o 'r byd y bydd hynny 'n
bod; gan roddi tystiolaeth eglur fod ganddo ryw
beth yn fwy nâ chyffredin o wybodaeth. Yn fyr,
mae 'r bobl yma 'n cael eu twyllo 'n fawr iawn gan y
diafol, yr hwn yn ddieu sy 'n eu cadw yn offerynau
truenus dan ei lywodraeth, at 'chwanegu {~ ychwanegu } ei ewyllys
yn eu dinystr eu hunain. Nid yw 'r bobl hyn yn
credu dim am adgyfodiad y corph, a 'r hyn o wybodaeth
sydd ganddynt am fyd arall sy 'n bur dywyll.
Pan fyddo un farw, maent yn gosod yn ei goffin
garreg dân a hernyn, fel na byddo yn ddiffygiadol o

[td. 45]
oleu yn y byd nesaf, bwyall at dorri 'r coed a 'r drysni
yn ei ffordd i 'r nef, trwy 'r gelltydd a 'r anialwch,
ynghyd â bwa, a saethau, a bwyd, fel y gallont fod
yn barod i sefyll yn erbyn pob gwrthwynebiad, ac i
ymladd eu ffordd yn eu blaen heb lewygu.


Am y Grefydd Baganaidd yn Affrica.


ER bod y grefydd Fahometanaidd wedi rhedeg
dros ran fawr o 'r wlad hon; etto yn Gini, a
lleoedd eraill, ag y mae gan ein morwyr ni beth
masnach â hwynt, ni wyddom fod y rhan fwyaf o 'r
trigolion yn cadw wrth eu hen feddyliau Paganaidd.
Mae y rhai mwyaf gwybodus o honynt yn credu
fod un Duw ag sydd goruwch y cwbl, ac yn cyfrif
iddo waith y greadigaeth, a llywodraeth pob peth
ag sydd ynddi; ond mae 'n ddigon tebyg fod yr opiniwn
hyn yn deillio oddiwrth y cyfeillach sydd beunydd
rhyngddynt hwy a 'r Ewropiaid, yn hytrach,
nag oddiwrth ddim traddodiadau yn eu plith eu hunain;
canys yn lle galw ar Dduw am help, maent
yn wastadol yn gweddio ar y duw teuluaidd, yr hwn
y maent yn ei alw Ffetche, sef rhyw gau dduw, am
eu cynnorthwyo ymhob achos. Eu barn mewn
perthynas i greadigaeth dyn sy 'n rhyw dyb neillduol;
maent yn dywedyd i Dduw wneuthur ar y cyntaf
ddyn gwyn, a dyn dû, ac iddo roi cynnyg iddynt
ar ddwy rodd, sef aur a disgeidiaeth; i 'r dyn dû, yr
hwn a gafodd y cynnyg cyntaf, ddewis aur, a
gwrthod adnabyddiaeth o lythrenau a dysgeidiaeth;
am hynny i Dduw ddigio 'n fawr wrth y dyn dû, fel
yr ordeiniodd ef y bobl wynion yn feistri, ar bobl dduon
i fod yn slafiaid iddynt. Pa fath dybiau sydd ganddynt
am eu duwiau, mae 'n anhawdd gwybod; ond
hyn sy 'n adnabyddus, fod rhifedi mawr o honynt,
pob dyn, neu o leiaf pob penteulu sy 'n berchen ar
un, yr hwn, meddant hwy, sy 'n edrych yn fanol ar
eu gweithredoedd, yn gwobrwyo rhai, trwy roi

[td. 46]
iddynt lawer o wragedd a slafiaid, ac yn cospi 'r lleill,
trwy eu cadw mewn diffyg o honynt. Am eu barn
mewn perthynas i wobr a phoenau yn y byd nesaf,
nid oes ganddynt fawr iawn o idea am dano, oddieithr
bod rhai o honynt yn tybied pan fyddont farw,
eu bod yn cael eu dwyn wrth ryw afon ardderchog,
a elwir Bosmanque, yr hon sy 'n rhedeg trwy ganol
gwlad helaeth; yma y maent yn cael eu holi gan eu
duw, pa fath fywyd a ddarfu iddynt arwain; a oeddent
wedi cadw eu haddunedau y dyddiau gwyl, ac
ymgadw odddiwrth bob bwydydd gwaharddedig;
os byddant wedi gwneuthur hyn, y maent yn cael
eu cario tros yr afon, i dir ag sy 'n llawn o bob
ffrwythau hyfryd a diddanwch; ond os na wnaethant
felly, mae eu duw yn eu foddi yn yr afon hon, ac
yn eu boddi fel na byddo son am danynt yn dragywydd.


Er bod gan y bobl hyn ar hyd yr amrywiol barthau
o Affrica rifedi mawr o dduwiau, etto ar gyffiniau
'r môr mae 'n hyspys eu bod yn addoli delwau;
ac er eu bod yn credu fod diawlaid ag sy 'n fynych
yn eu drygu 'n fawr lawer pryd, ni allwn ddeall nad
ydynt ddim yn eu haddoli, nac yn offrymmu iddynt;
yn y gwrthwyneb, maent yn ddangos fod yn gas
ganddynt am dano, ac ar rai diwrnodiau a gwyliau
blynyddol, mae ganddynt arfer i hela 'r diafol i maes
o 'u trefydd, yr hyn sy 'n cael ei wneuthur gyd â
llawer iawn o seremoniau.

Mor belled a hyn fe ddarfu i ni ddangos dechreuad
eilun-addoliaeth, ac arolygu 'r mannau mwyaf
neillduol o 'r ddaear lle mae 'r pechod a 'r annuwioldeb
yma yn cymmeryd lle; golwg wael a dychrynedig!
ond i wneuthur cyfiawnder yn y matter hwn, ni a
gawn gario ein cyfarchwyliad ychydig ymhellach,
gan edrych beth yw barn y rhan oreu o 'r cenhedloedd
yn gystal a 'r rhai gwaethaf, y philosophyddion
megis y cyffredin bobl ymhob oes.


[td. 47]


Ynghylch y Rhan oreu o 'r Grefydd Baganaidd.


Y Rhei'ny ag sydd wedi ystyried nattur y grefydd
Baganaidd, er mwyn ei detholi oddiwrth y
sorod, ydynt yn gyffredinol yn ei dwyn dan y rhagosodiadau
canlynol.

1. Nad oes ond un Duw goruchaf, yr hwn yw
crewr a chynhaliwr pob peth. 2. Mai 'r Duw hwn
yn unig a ddylai gael ei addoli. 3. Y dylid ymarfer
rhinwedd a duwioldeb. 4. Y dylid edifarhau
am bechod, ac ymwrthod â phob drygioni. 5. Fod
Duw yn farnwr cyfiawn, yn gwobrwyo y daionus,
ac yn poeni y drygionus, nid yn unig yn y byd hwn,
ond hefyd yn y byd a ddaw.

Wrth edrych yn fanol i 'r pethau hyn, ni gawn
weled yn amlwg, nad oes, ac na fu erioed, bobl neu
genhedlaeth o ddynion mor anfoesol ac mor farbaraidd,
nad oeddent yn cyfaddef ac yn addoli un goruchaf
Dduw, yr egwyddor gyntaf, a llywodraethwr
pob peth. Ond beth bynnag fu 'r achos o gynhyddiad
cymmaint o dduwiau; etto, mae 'n ddiammeu
fod ganddynt un, yr hwn oeddent yn edrych arno
goruwch y lleill, yn rhoi iddo addoliadau dirgel a
chyhoeddus, yn gweddio ac yn addunedu, ac yn ei
wneuthur yn wrthddrych o 'u holl ddyledswyddau a
gwasanaeth crefyddol, a hynny yn y modd mwyaf
neillduol. Ymhlith y Rhufeiniaid yr oedd eu Jupiter
yn cael ei gyfrif yn dad y duwiau a dynion, neu 'r
optimus maximus, sef y duw mwyaf a 'r cyntaf, llywodraethwr
yr holl fyd, a brenin yr holl fodau rhesymol.

Yn arwydd o 'r mawr barch oedd ganddynt i bob
moesoldeb, hwy adeiladent demlau, ac a 'u cyssegrent
i ddiniweidrwydd, ffyddlondeb, caderndid, &c. Mae
Cicero yn ei ail lyfr De Legibus, yn rhoi hanes fer
am grefydd yr henafiaid, ac yn dangos yn eglur, nad
oedd gan ddynion un ffordd arall i 'w dwyn i 'r nef,
ond trwy feddyliau pur a didwyll, ffydd sanctaidd,
gwir dduwioldeb, a phob rhyw o rinweddau eraill
yn gynhulliadol. Seneca sydd hefyd yn haeru, fod

[td. 48]
rhinwedd yn mawrhau 'r enaid, yn ei barottoi i wybodaeth
o bethau nefol, ac yn ei wneuthur yn deilwng
o gyfeillach a derbyniad gyd â Duw.

Yr oedd y bobl yma yn cyfrif edifeirwch, ynghyd
â phob rhyw rinwedd, yn rai o 'r perffeithrwydd
mwyaf mewn nattur, ag a allai wneuthur dyn yn
ddedwydd; am hynny maent yn gosod allan annogaethau
a rheolau i bob math o ddynion i ymwrthod
â phechod, a byw 'n rhinweddol, fel ag y dylai creaduriaid
rhesymol wneuthur. Yr oeddent hwy hefyd
yn meddwl fod pechod, a phob rhyw ddrwg arall,
yn deillio naill ai trwy ymgyfeillachu â dynion o
dueddiadau drwg, anwybodus o 'r hyn ag oedd yn
ddrwg, megis llid a thrachwantau cnawdol, neu
ynte trwy ryw dueddiadau a phleserau ag oedd yn eu
meddyliau eu hunain; am hynny yr oeddent yn barnu
bod yn angenrheidiol i ymgadw rhag ymgyfeillachu
â 'r cyfryw bobl ag oedd felly, o herwydd bod cyfeillion
drwg yn llygru moesau da; ac felly y dylent
geryddu 'r fath drachwantau a nwydau afreolaidd,
yr hyn sy 'n dueddol i bob dyn wrth wendid nattur,
a gweddio ar Dduw am gymmorth i wrthryfela yn
erbyn y cyfryw dueddiadau llygredig, ac i buro eu
cydwybodau, fel na fyddai honno yn eu cyhoeddi yn
euog, a 'u condemnio mewn ystad ysprydol.

Yr oeddent yn meddwl nad yw dyn, a 'i ystyried
yn ei nattur ei hun, na da na drwg, ond yn dueddol
i 'r naill neu 'r llall, yn ol cael o hono ef ei ddwyn yn
y blaen a 'i addysgu; ac nad yw pechod yn gwreiddio
ynddo mor belled, fel na's gellid trwy iawn drefn
ac arferiad ei lwyr chwynnu a 'i ddiwreiddio ymaith
o hono, os na fydd yr enaid yn llwyr wrthwyneb:
felly nid oeddent yn gweled un rheswm, pa ham na
allasai dyn gael ei ddwyn i gyflwr difeius (wedi
iddo gael ei halogi gan bechod) trwy fewnol buredigaeth;
yr oeddent yn gydwybodol o aflendid a
drwg effaith pechod, ac mor groes oedd hyn gan
Dduw; ond etto, trwy ystyried mai cariad oedd
gwir briodoledd y dwyfol Fod, a ph'le bynnog yr

[td. 49]
oedd cariad yn aros, ni allasai digofaint a digllonedd
hir barhau; yn hyn yr oeddent yn cyssuro eu hunain
mewn gobaith o heddwch, ar gyfaddefiad o 'u tristwch
a 'u blinder am yr hyn a wnaethant ar fai: eu
bod hwy yn ddiragrith yn eu hedifeirwch, a ymddengys
yn amlwg oddiwrth eu haddunedau a
wnaethant; yr amrywiol ymbiliau a osodasant; y
temlau cyssegredig a adeiladasant, ynghyd â 'r holl
seremoniau ag oeddent yn arferyd i heddychu eu
duwiau.

Rhai o 'r philosophyddion mwyaf doeth oedd yn
addef, mai 'r Duw goruchaf yn unig a ddylasid ei
addoli er ei fwyn ei hun; fod y nattur ardderchoccaf
yn haeddiannol o 'r anrhydedd mwyaf; ond heblaw
hyn, yr oeddent yn addo iddynt eu hunain daliad
neu wobr, os nid yn y byd hwn, fod hyn yn sicr
iddynt yn y byd nesaf, am eu gwasanaeth a 'u dioddefiadau.
Yn y byd hwn yr oeddent yn gweled
anghyfartal gyfraniad mewn pethau naturiol, y dynion
da yn fynych yn goddef llawer o flinderau a
thrallodion, a 'r rhai drygionus yn ymlawenhau mewn
pleserau a meddiannau bydol; ac ar hyn, oddiwrth
gyfiawnder a daioni Duw, yr oeddent yn barnu, fod
i 'r cyfiawn gael eu gwobrwyo, a 'r drygionus eu
poeni yn dragywyddol; canys nid oedd yn eu meddyliau
ddim llai, nâ bod bywyd ar ol y byd hwn;
bod y fath greadur ardderchog ag yw dyn, wedi
cael ei gynnysgaeddu â galluoedd mor rhagorol i
weled ac i ddeall holl weithredoedd nattur a 'i rhagluniaeth,
i addoli ac i ryfeddu anfeidrol ddoethineb
ei Greawdwr, i edrych yn ol ar yr amserau annechreuol,
ac ymlaen ar amserau ag sydd etto heb ddyfod.
Wrth hyn yr oeddent yn ystyried fod yr enaid
yn anfarwol, ac nad oedd angeu ond i drosglwyddo
o un cyflwr i 'r llall, a hynny er llawenydd i 'r rhai
rhinweddol, ac o boenau annioddefol i 'r rhai drygionus.
Mor belled a hyn oedd eu barn hwy, a
hynny yn bur uniawn; ond pan y byddent yn siarad
am y lleoedd hynny a 'u sefyllfaoedd, megis yr Elusian

[td. 50]
Fields, neu 'r caeau dedwydd; Tartarus, Erebus,
ac Orcus, sef y llynnoedd a 'r afonydd uffernol;
yr oeddent yn rhedeg i gamsyniadau cywilyddus
eraill, heb un fath o angenrheidrwydd, o herwydd
hwy a allasent yn hawdd berswadio 'r bobl i gredu,
fod Dwyfol Gyfiawnder wedi parottoi lleoedd o
happusrwydd ac anhappusrwydd i bob un yn ol ei
haeddiant. Stackhouse, Corph o Ddifinyddiaeth.


Am y Grefydd Grist'nogol.


Y Grefydd Grist'nogol yw 'r oruchwiliaeth ddiweddaf
a mwyaf perffaith o bob datguddiad
a welodd Duw fod yn dda i roddi i ddynolryw.
Mae hon yn cael ei galw felly oddiwrth Iesu Grist,
y gwir Fesia, unig Fab Duw, yr hwn a ymddangosodd
yn Judea o ddeutu deunaw cant o flynyddau
yn ol; a anwyd yn Bethlehem, a ddygwyd i fynu
yn Nazareth, ac a groeshoeliwyd gan ei ddewisedig
bobl yr Iuddewon yn Jerusalem. Ei hiliogaeth a 'i
genhedliad, ei enedigaeth, ei fywyd, a 'i farwolaeth,
yngyd â 'i holl ddioddefiadau a ragfynegwyd yn fanol,
gan ol-yn-ol brophwydi Iuddewaidd, a 'i grefydd
sydd yn awr wedi ymdannu dros ran fawr o 'r ddaear.

Yn dystiolaeth o 'r Grefydd Grist'nogol, hi a
grybwyllir trwy hanesion anamheuol, prophwydoliaethau,
gwyrthiau, tufewnol brofiadau, awdurdodol
athrawiaethau, a chyflymdra ei hymlediad ymhlith
Iuddewon a chenhedloedd. Er bod dynion
ymhob oes wedi gwahaniaethu yn eu meddyliau
mewn perthynas i ryw ran o athrawiaethau 'r grefydd
hon, etto y maent oll yn llawn gyttuno yn y
dwyfol wreiddiad, ac yn ei haelionus dueddiad.

Pan edrychom i nattur a dwyfol dueddiad y grefydd
hon a ddysgir i ni gan Grist a 'i Apostolion, ni
gawn weled ei bod yn deilwng o Dduw. Yma
y cynhwysir holl ardderchawgrwydd yr Hen Destament;
canys ni ddaeth ein Iachawdwr i dorri 'r gyfraith

[td. 51]
a 'r prophwydi, ond i 'w cwplau; ac i gario 'r
dull o grefydd sydd yn cael ei gosod yno i uwch
radd o odidawgrwydd; yr idea a roddir yma am
Dduw, sy 'n dangos i ni ei anghydmarol allu, ei
ddoethineb, a 'i berffeithrwydd; fod ei lywodraeth yn
cyd-uno â 'i ragluniaeth, fel ag mae ef yn oestadol
ofalu am ei holl greaduriaid, ond yn fwy neilltuol
tu ag at ddynolryw; a hynny yn y dull mwyaf ardderchog,
ac yn y ffordd fwyaf cymmwys at ennill
tueddiadau a serch ei bobl tu ag atto.

Bod y fath ddyn a 'r Iesu o Nazareth, sydd mor
anamheuol a bod y fath dywysog ag Augustus Cæsar,
yn amser a than lywodraeth yr hwn y cafodd ef
ei eni. Ei fywyd a brofir trwy 'sgrifenadau {~ ysgrifenadau } ei ddisgyblion,
y rhai oeddent yn llygad-dystion o 'r hyn y
maent yn ei adrodd, ac yn cyd-uno â 'r hyn a dystiolaethir
gan hanesyddion Iuddewaidd a Phaganaidd;
ac am nad yw hanes ein Iachawdwr (megis Moses)
wedi ei 'sgrifennu {~ ysgrifennu } ganddo ef ei hun, ond gan eraill
sef gan bedwar o 'i efangylwyr; y mae gennym y
rhesymmau mwyaf cadarn i gredu, fod y dystiolaeth
hon a roddasant i 'r byd yn wir; a 'i bod wedi cael
ei thraddodi i lawr i ninnau, heb fawr wahaniaeth
na chyfnewidiad.

Mewn perthynas i athrawiaethau 'r grefydd Grist'nogol,
y maent yn ddiamheuol yn sanctaidd ac yn
ardderchog. Moesoldeb sydd yma 'n cael ei osod allan
a 'i ddysgu yn ei holl uniondeb hyd eithaf cyrhaeddiad
nattur, trwy gymmeryd i mewn y cyfan o ddyledswyddau
perthynol tu ag at Dduw, at ein cymmydogion,
ac attom ein hunain.

Am ein dyledswydd i Dduw, mae 'r idea a roir yno
yn barchus, yn anrhydeddus, ac yn ddymunol; yma
yr ydym yn cael ein dysgu, y dylem garu Duw, nid
trwy ofn slafaidd a gormesol, ond trwy fabwysiadol
barch, anrhydedd, a gostyngeiddrwydd. Yma hefyd
yr ydym yn cael ein hannog, i gyflwyno ein
gweddiau a 'n deisyfiadau atto ef, yn unig fel ein
Tad nefol, trwy deilyngdod Iesu Grist unig Fab ei

[td. 52]
gariad, ac yn ei enw ef i offrwm ein calonnau, a
rhoddi pob clod, mawrhygiad, a diolchgarwch, gyd
â 'r gostyngeiddrwydd mwyaf, perthynol i greaduriaid
adnabyddus o 'u anheilyngdod; ond etto, gyd â
llawn ymddiried ffydd, gobaith, a llawenydd. Fel
hyn y dylai 'r cristion bob amser roi ei hun i fynu
yn ostyngedig ac yn barchus i Dduw ein Harglwydd
a 'n llywodraethwr, ymddwyn yn weddus ac yn
foddlongar dan ei ddoeth ragluniaeth, gan feddwl
yn wastadol ei fod ef yn trefnu pob peth yn y ffordd
oreu; i rodio bob amser yn ol ei ewyllys, ond uwchlaw
'r cyfan, i 'w garu â 'n holl galon, â 'n holl feddwl,
ac â 'n holl nerth; ac i ddangos hyn trwy gadw ei
orchymynion, a chyd-ymffurfio ag ef yn ei annilynol
berffeithrwydd, a thrwy wneuthur ein goreu
mor belled ag y gallom, ei glodfori yn y byd hwn,
dan obaith o feddiannu tymhorol happusrwydd yn y
bywyd yma, ac anherfynol ddedwyddwch yn y byd
a ddaw.

Mae 'n debyg, mai yn Antioc y derbyniodd y disgyblion
yma 'r titl o Grist'nogion gyntaf, pan oedd
Paul a Barnabas yn pregethu: hwy fuant hefyd yn
cael yr enw Nasareaid, Galileaid, a Jasseaniaid,
gan yr Iuddewon, mewn dull o wawd.


Am y Grefydd Fahometanaidd.


MAHOMET, Sylfaenwr y grefydd hon, a
anwyd yn Mecca, yn y flwyddyn 571, yr
hwn o ran gwaedoliaeth oedd yn un o 'r Corasiaid,
y rhai fuant gynt yn bobl gymmeradwy: ei ewythr
Abuteleg, marsiandwr mawr yn Mecca, a 'i cymmerodd
atto, ac a 'i danfonodd yn edrychwr dros y
carafan ag oedd yn trafaelu i Syria, Palestina, a 'r
Aipht, i farchnatta drosto; trwy hyn fe ddaeth yn
adnabyddus â llawer o Iuddewon a Christ'nogion,
trwy gynnorthwy y rhai yr ydys yn dywedyd iddo
osod allan y rhan fwyaf o 'i Alcoran. Ymhen

[td. 53]
ychydig amser ar ol hyn, ei ewythr a 'i cyflwynodd i
wasanaeth gwidw gyfoethog, a elwid Cadiga; dros
hon fe gariodd draffig hynod i Damascus, a rhai
lleoedd eraill; a chan fod y widw hon yn ieuangc,
fe a 'i priododd, ac a aeth yn ddyn cyfoethog, ie, yn
un o 'r rhai mwyaf yn Mecca.

Mahomet, wedi dala sulw manol ar yr amrywiol
sectau, a 'r ymraniadau ag oedd rhwng yr Iuddewon
a 'r Crist'nogion, a feddyliodd ynddo ei hun fod yn
dra hawdd, trwy ychydig o ddeheurwydd, godi crefydd
newydd, a gwneuthur ei hun yn archoffeiriad o
honi i lywodraethu 'r bobl. I 'r diben hyn fe gymmerodd
arno ddiwygio 'r hen ddull o addoliad, er
mwyn ei gosod allan mewn gwell trefn a phurdeb.

Felly, y peth cyntaf a ddarfu i Mahomet wneuthur
at dynnu gwrthddrych y trigolion, oedd arwain
bywyd dychlynaidd, ac ymddangos yn fwy sanctaidd:
i hyn fe ymneillduai bob boreu i ogof a elwid Hira,
gerllaw Mecca, yn yr hon y cymmerai arno dreulio
ei amser mewn gweddiau, ymprydiau, a myfyrdodau
eraill: y nos, pan dychwelai adref, fe adroddai wrth
ei wraig a 'i dylwyth y gweledigaethau, a 'r lleisiau
rhyfeddol a glywsai yn amser ei neillduad. Wedi
iddo barhau yn yr arferiad yma dros ddwy flynedd,
a chael cymmeriad mawr am ei sancteiddrwydd, fe
ddechreuodd gyhoeddi ei hun yn brophwyd, gan
gymmeryd arno ei fod wedi cael ei ddanfon gan
Dduw i ddiwygio ei gyd-wladwyr, a 'u galw oddiwrth
eu heilun-addoliaeth. Yr athrawiaeth gyntaf
a ddysgodd, nad oedd ond un Duw; yn ail, iddo ef
gael ei ddanfon gan Dduw; yn drydydd, i ymarfer
ymolchiadau yn fynych, ac ymburo; yn bedwarydd,
i weddio ar yr amser gosodedig; yn bummed, i roi
elusennau; yn chwechfed, i ymprydio yn mis Ramazen;
yn seithfed, i fyned unwaith yn y bywyd ar
bererindod i Mecca; yn wythfed, i ymwrthod â
phob chwaryddiaeth a diod gadarn; yn nawfed, i
briodi dan bump ar hugain oed; ond nid i gael ychwaneg
nâ phedair gwraig; yn ddegfed, rhydd-did i

[td. 54]
bob caeth-was a broffesai 'r grefydd Fahometanaidd;
am y benywod, ni waeth o ba sect y bont.

Y sawl a gadwai 'r gorchymynion hyn, efe a
addawai iddo baradwys, lle mae llawer math o wisgoedd
sidanaidd, afonydd teg, coed ffrwythlon, benywod
glân, cerddorion, a phob llawenydd; digonedd
o win, helaethrwydd o aur, a llestri arian, meini
gwerthfawr, ac felly yn y blaen. Ond i 'r rhei'ny
ni chadwent ei gyfraith, yr oedd uffern wedi cael ei
darparu, a saith o byrth, ymha un yr oeddent i fwyta
ac yfed tân, eu dodi mewn cadwynau, a 'u poeni
â dwfr poeth. Mae ef yn profi 'r adgyfodiad trwy
hanes am saith cysgadur a gysgasant 360 o flynyddau
mewn ogof.

Heblaw yr hyn a ddywedwyd uchod, y mae ef
wedi rhoi gorchymynion yn erbyn bwyta cig moch,
gwaed, a 'r fath greaduriaid a fyddai marw ei hunain.
Mae ef yn annog i edifeirwch, yn gwahardd
tyngu a rhegu, yn canmol cyfeillgarwch, ac yn erbyn
perswadio dynion i un grefydd yn erbyn eu hewyllys;
nid yw ef yn dewis rhoi dim trugaredd i
elynion. Mae 'n annog ei bobl i fod yn gefnog ac
yn wrol mewn brwydr, ac yn dangos na all neb
farw cyn eu hamser apwyntiedig, a chwedi'n nid
oes dim a 'u safia.

Opiniwn y Mahometaniaid yw, fod lluniau mewn
eglwysi yn eilun-addoliaeth; maent yn credu fod
pawb ag sy 'n marw mewn brwydr yn myned yn
uniawn i baradwys, yr hyn sy 'n peri iddynt ymladd
mewn calondid; maent yn tebyg y bydd pawb sy 'n
byw 'n dda yn sicr o fod yn gadwedig, o bwy grefydd
bynnag y byddont; am hynny maent yn dywedyd,
y bydd Moses, Crist, a Mahomet, yn yr adgyfodiad,
a chanddynt dair baner, at y rhai y bydd eu holl
broffeswyr yn ymgynnull. Y maent yn dala fod
gan ddyn ddau angel gyd ag ef yn gweinyddu, un
ar y llaw ddeheu, a 'r llall ar yr aswy. Maent yn
dywedyd, y bydd i 'r angel Israphil, ar y dydd diweddaf
swno ei udgorn, wrth lais yr hwn yr holl

[td. 55]
greaduriaid, hyd yn oed yr angylion, fyddant marw
yn union, ac y syrth y ddaear yn dywod ac yn llwch.
Ond pan y cano 'r angel hwn ei udgorn yr ail dro,
eneidiau 'r holl rai meirwon a adfywiant drachefn;
yna y bydd i 'r angel Michael bwyso 'r holl eneidiau
mewn clorian.

Mahomet a gyhoeddodd ei Alcoran, bibl y Mahometaniaid,
 yn y flwyddyn 626, yr hwn a gynnwys 124 o bennodau;
y mae ganddynt gymmaint o barch iddo ag
sydd gan y Crist'nogion i 'r Testament Newydd. Yr
oedd ef yn perswadio 'r bobl fod y llyfr hwn yn cael ei
gadw yn un o drysor-dai 'r nef, ac i 'r angel Gabriel
ddyfod ag ef i Mahomet, bennod ar ol pennod, fel
yr oedd yn cael ei ysgrifennu, yr hyn a wnaed gyntaf
ar ddalenau o esgyrn camelod gan un Amanuensis,
o herwydd na all'sai {~ allasai } Mahomet na darllen na
'sgrifennu {~ ysgrifennu }.

Nid yw 'r Mahometaniaid yn Baganiaid, Iuddewon,
na Christ'nogion; nid Paganiaid, am nad
ydynt yn addoli delwau; nid Iuddewon, am nad
ydynt yn dilyn deddfau Moses; ac nid Crist'nogion,
am nad ydynt yn credu 'r efengyl. Beth gan
hynny a ellir eu galw? Mae 'r atteb yn ddigon amlwg,
dynion ag sydd yn wrthddrych o drueni, wedi
cymmeryd eu harwain allan o 'r ffordd gan dwyllwr
cyfrwys, a hwythau hyd heddyw yn ei gredu.

Yn bresennol mae amryw sectau ymhlith y Mahometaniaid,
megis y gwelir ymysg y Crist'nogion;
ac mae rhifedi mawr o brophwydi wedi codi o bryd
bwy gilydd yn eu plith, o gymmaint eu hawdurdod
a Mahomet ei hun. Mae 'r grefydd yma wedi ymdannu
dros ran fawr o 'r ddaear, yr hyn a ymddengys
yn fwy amlwg wrth y cenhedlaethau a 'r tywysogion
sy 'n ei phroffesu. Yn Ewrop, holl wlad y Twrciaid,
a 'r Cham o 'r Crim Tartary. Yn Asia, Indiaid,
Arabiaid, Persiaid, ymmerodraeth Mogul, Fisapwr,
Colconda, Malabar, Cham o Tartary fawr, teyrnas
Sumatra, Jafa, ac ynysoedd y Maldefiaid. Yn Affrica,
Barbary, Tripoli, Tunis, Moroco, a 'r Aipht.

[td. 56]
Yr ydym yn cael hanes nad oes dim llai nâ 73 o
wahanol sectau yn eu plith.

WEDI rhoddi hyn o hanes yn rhagflaenol
mewn perthynas i feddyliau Atheistiaid,
Deistiaid, Paganiaid, Mahometaniaid, Iuddewon, a
Christ'nogion, ni gawn yn y lle nesaf fyned yn y
blaen, i gymmeryd golwg ar bob cyfenwad o ddyn
ion yn y byd crist'nogol. Yn yr oesoedd gynt o
grist'nogrwydd, yr oedd amryw sectau, pa rai sy er
ys hir amser wedi eu llwyr abergofi, fel nad oes yn
awr ond eu henwau i 'w cyfarfod mewn hanesion
eglwysig. Nid yw ein meddwl yn bresennol i ol
rain llawer ar yr hen sectau hyn, ond yn unig gym
meryd golwg fer arnynt mor belled ag y maent yn
perthyn i grefydd yn yr amser presennol. Y mwyaf
neillduol o 'r rhai'n ellir ei gynnwys yn y dosparthiad
canlynol, sef, opiniynau mewn perthynas i berson
Crist; meddyliau perthynol i ddynion gael derbyn
iad o ffafr Duw a 'i ragluniaeth, &c.


Amryw Opiniynau, mewn perthynas i Berson IESU
GRIST.


MAE 'r Trinitariaid yn gosod allan, yn ol eu
hathrawiaeth hwy, fod tri o wahanol ber
sonau yn y Duwdod, sef, Tab, Mab, ac Yspryd Glân.
Mae 'n dra adnabyddus i 'r dysgedigion, nad oedd y
gair Drindod yn cael ei arferyd yn yr eglwys cyn
amser Origen: canys mae Dupîn yn dywedyd, mai
Theophilus, esgob Antioc, oedd y cyntaf a arferodd
y gair Trinitas, neu Ddrindod, i arwyddo tri o ber
sonau; ac y mae ef yn sylwi, ei fod yn galw 'r
trydydd Doethineb, (Sagesse) yr hyn sydd yn fwyaf
tebygol, am nad oedd yr Yspryd Glân yn cael ei
gyfrif yn berson dwyfol mor gynnar a hynny, ond

[td. 57]
yn hytrach yn briodoledd; ac y mae 'n debygol na
chafodd yr Yspryd ei addef yn berson dwyfol cyn yr
ail Gymmanfa gyffredinol, yr hon a gynhaliwyd yn
y flwyddyn 1381.

Mae 'r athrawon mwyaf dysgedig yn amrywio yn
eu barn mewn perthynas i 'r ddirgelwch hon, fel y
mae 'n anhawdd gwybod i bwy y mae 'r athrawiaeth
yma 'n fwyaf perthynol; pa un ai Waterland,
Howe, Sherlock, Pearson, Burnet, Beveridge,
Wallis, neu i Watts. Mae gan bob un o honynt
wahanol farn ar y pwngc dyrus hwn; ond beth
bynnag, mae Dr. Priestley yn meddwl y gellir dy
fod â 'r Trinitariaid dan un o 'r ddwy blaid hyn, sef
y rhei'ny sydd yn credu nad oes un ddwyfol nattur
yng Nghrist heblaw honno o eiddo 'r Tad; a 'r Tri
theistiaid, ag sydd yn amddiffyn tri gogyfuwch a
gwahanol dduwiau. Evans.

Yn agos o fod yn berthynol i 'r blaid olaf yw 'r
Athanasiaid, enw ag sy 'n deillio oddiwrth Athana
sius, un o deidiau 'r egwlys, yr hwn a fu 'n llew
yrchu yn y bedwaredd oes. Mae rhai yn dywedyd,
mai ei waith ef yw 'r gredo ag sy 'n cael ei galw
felly yn y llyfr gweddi cyffredin, yr hon, meddant
hwy, yw 'r uniawn ffydd, lle y dangosir fod tri gwa
hanol sylwedd i 'r Tad, Mab, a 'r Yspryd Glân; yr
hyn sy 'n gynhwysedig yn y Drindod, a bod y tri hyn
yn cael eu huno â 'u gilydd trwy emperichoresis, neu
fel rhaff o dair caingc, yr hyn sy 'n eu gwneuthur
yn un; felly fod yr undeb yn y Duwdod yn gyfan
gwbl yn yr emperichoresis, yr hyn sy 'n clymmu tair
sylwedd ynghyd: am hynny, Ambrose, Basil, Je
rome, &c. oeddent yn meddwl iddynt gwrdd â 'r
dirgelwch hwn yn y bedwaredd bennod a 'r ddeu
ddegfed adnod o 'r Ecclesiastes, lle dywedir am raff
dair caingc, mai nid hawdd ei thorri. Ben Mordecai.

Mewn perthynas i 'r gair Drindod, mae 'n ddigon
hyspys, nad yw hwn ei cael ei arferyd mewn un
man yn y 'sgrythurau {~ ysgrythurau }; ac mae 'n rhaid cyfaddef ei
fod yn cael ei wrthwynebu 'n fawr gan y diwygwyr,

[td. 58]
y rhai oeddent yn edrych arno fel yn weddill o ba
byddiaeth. Martin Luther a ddywedai, fod y gair
Drindod yn swno 'n chwythig, ac mai rhyw ddy
chymmyg ddynol ydoedd. Calfin a ddywed, Nid
wyf yn hoffi 'r weddi hon, o sanctaidd, fendigedig, a
gogoneddus Ddrindod; mae hyn yn archwaethu 'n
farbaraidd. Mae 'r gair Drindod yn ddiflas, yn
gabledd, yn ddychymmyg ddynol, yn ansylfaenol
ar dystiolaeth Duw, ac yn ddieithr i 'r apostolion a 'r
prophwydi.

Ond fe ellir rhoi atteb i hyn oll; hyd ag y mae 'r
gair yn cael ei ddeall mewn ystyr ag sy 'n gyttunol
ag undeb y Jehofa, ac ar sylfaenol egwyddorion y
grefydd grist'nogol, ni all yr ymarferiad o hono
mewn un mesur fod yn ble yn erbyn gwirionedd y
grefydd honno.

Mae 'r Sabeliaid yn haeru, nad yw tri pherson
yn y Drindod ond tri nod neu berthynas. Mae 'r
sect hon wedi dechreu ynghylch canol y drydedd
oes gan Sabelius, philosophydd o wlad yr Aipht.
Am ei ddaliadau mae amryw hanesion; rhai a ddy
wedant iddo ef ddysgu fod y Tad, Mab, a 'r Yspryd
Glân, o 'r un hanfod, ac yn un person, fel ag mae
dyn yn cael ei gyfrif o dair sylwedd, sef, cnawd, ys
pryd, a chorph, yn gwneuthur i fynu un dyn.
Eraill a feddyliant mai ei farn ef oedd, fod Duw yn
yr Hen Destament yn rhoddi 'r gyfraith fel Tad, ac
yn y Newydd yn byw ymhlith dynion fel Mab, ac
iddo ddisgyn ar yr apostolion fel Yspryd Glân.
Mae 'r opiniwn hyn, medd rhai, yn ennill tir ymhlith
y Cymru.

Gwnaethpwyd â / Made with Concordance