Chidlaw, B[enjamin] W[illiams], 1811-1892. Yr American: yr hwn sydd yn cynnwys nodau ar daith o Ddyffryn Ohio i Gymru, golwg ar dalaeth Ohio, hanes sefydliadau Cymreig yn America, cyfarwyddiadau i ymofynwyr cyn y daith, ar y daith, ac yn y wlad. (Llanrwst: Argraffwyd gan John Jones, 1840), testun cyflawn.

Cynnwys
Contents

YR AMERICAN, &c. 3
CYNNWYSIAD Y PENNODAU. 3
PENNOD 1. 3
MORDAITH 3
PENNOD II. 12
GOLWG AR DALAETH OHIO. 12
LLYWODRAETH. 18
YSGOLION. 19
CREFYDD. 20
PENNOD III. 21
HANES PADDY'S RUN. 21
RADNOR. 23
NEWARK A'R WELSH HILLS. 24
COLUMBUS. 25
CINCINNATTI. 25
OWL CREEK. 26
PALMYRA. 26
GALIA A JACKSON. 26
PUTNAM A VANWERT. 27
UTICA. 28
DEERFIELD. 29
FFLOYD. 30
STEUBEN. 30
DINAS NEW YORK. 32
PITTSBURG. 33
EBENSBURG. 33
POTTSVILLE. 34
PENNOD IV. 35
Y DAITH. 41
CYFARWYDDYD O NEW YORK. 44
DYFFRYN MISSISSIPPI. 46
ENGLYN. 48

[td. 3]

YR AMERICAN, &c.

CYNNWYSIAD Y PENNODAU.

   
I. Dinas Cincinnati—Columbus—Carchardy—Cymanfa—Y Plains— Llyn Erie—Rhaiadr Niagara—Pentref yr Indiaid—Rochester—Syracuse —Indiaid Onandago—Utica—Y Llywydd—Cyfarfodydd Blynyddol— New York—Mordaith—Gweled Llong-ddrylliad—Claddu ar y Môr— Cyraedd y tir.
   
II. Talaeth Ohio—Eglurhad ar y gair Ohio—Rhaniadau—Poblogaeth— Ansawdd y tir—Cynnyrch—Glo—Haiarn—Halen—Cerrig—Camlasau —Ffyrdd—Climate—Trethi—Llywodraeth—Colegau ac Ysgolion— Crefydd.
   
III. Sefydliadau Cymreig—Paddy's Run—Radnor—Welsh Hills— Columbus—Cincinnatti—Owl Creek—Palmyra—Galia a Jackson— Putnam a Vanwert, yn Ohio—Utica—Deerfield—Ffloyd—Steuben— Remsen, a dinas New York, Pittsburg—Ebensburg a Pottsville—Pensylvania,
   
IV. Cyfarwyddiadau pa gymwysiadau sydd yn ofynol mewn pobl a fyddo yn debyg o lwyddo, a bod yn gysurus yn America—Liverpool—Cymeryd Llong—Newid arian—Dillad—Ymborth—Ymarweddiad ar y môr Cyrhaedd tir America—Teithio—Traul.

PENNOD 1.

MORDAITH

   
Nid hawdd amgyffred ysgogiadau y meddwl wrth ymadael â theulu anwyl, eglwys, a chynulleidfa garedig, i wynebu hir daith dros fôr a thir. Gyda theimladau na fedr neb eu mynegu, Awst 26, 1839, ymadewais âg ardal Paddy's Run, ac ar ol teithio 20ain milldir yn nghwmni hynaws gyfeillion, daethum i ddinas Cincinnati; y ffordd yn dda, ond y tywydd yn hynod o boeth. Yn yr hwyr, Areithiais ar Ddirwest, yn Nghapel y Cymry;—mae 'r achos ar gynydd, a llawer trwyddo wedi eu hachub o grafangau marwol meddwdod. Wrth adael y Capel, clywais adsain gorfoleddu yn treiddio o addoldy y Negroes Wesleyaidd: ar ol myned iddo, mawr oedd fy llawenydd wrth [td. 4] weled tyrfa o bobl dduon wrth eu bodd yn moli Duw, trwy daer weddio, canu, a gorfoleddu. Gofynwyd i mi ddweyd ychydig, ac arweiniwyd fi gan bregethwr dû at yr Areithfa; ac ar ol cael ychydig ddistawrwydd, dywedodd y dyn dû, “Come, dear bredren, try be still, de white broder going to talk to de sinners.” Mor hardd a dymunol oedd yr olygfa, hen blant duon Ethiopia yn mhellder y Gorllewin-fyd yn mwynhau rhyddid meibion Duw. Y mae 5 neu 6 mil o bobl dduon yn y ddinas, oll yn rhydd, ac yn byw yn gysurus. Y mae Cincinnati, ar lan Afon Ohio, yn cynnwys 50,000 o drigolion. Yn 1808, nid oedd ynddi ond 5,000; yn awr yn ddinas fawr, canol-bwynt masnachol y Gorllewin. Wrth sefyll ar y Landing, gwelir agerdd-fadau mawrion, rhai yn myned i fynu i Pittsburg, 500 milldir, ereill i lawr i New Orleans, 1,500, ac eraill i Raiadr St. Anthony, 1,800 o filldiroedd. Yn y Gauaf y mae o 4 i 5 can mil o foch tewion, yn pwyso o 2 i 3 chant, yn cael eu lladd a 'u halltu, a 'u hanfon i 'r gwahanol farchnadoedd, mewn agerdd-fadau; dyma sydd yn gwobrwyo yr amaethwyr am eu llafur; maent yn eu pesgi gyda 'r Indian Corn, ac yn eu gwerthu am o 2 i 3 ceiniog y pwys. Mae y tai yn gyffredin o briddfeini, yn hardd a helaeth; yr heolydd yn sythion ac yn llydain. Y mae yma 30 o gapeli, a 9 o ysgoldai mawrion. Y maent yn argraffu 20 o Newyddiaduron, rhwng dyddiol a wythnosol; 4 Ariandy, a 4 Marchnad-tŷ, lle y cynnhelir marchnadoedd bob dydd, ond ar y Sabboth, a dechreuant ar doriad y dydd, a diweddant am 9 neu 10 y boreu; 2 Goleg, un i feddygon, ac arall i gyfreithwyr; y mae un dan olygiad y Pab[td. 5]yddion; yn nghyda llawer iawn o adeiliadau defnyddiol a godidog eraill. Haner can mlynedd yn ol, yr oedd y lle yma yn anialwch hollol, trigfanau creaduriaid, ac Indiaid gwylltion; mawr y cyfnewidiad a wnaeth amser mor fyr. Awst 27, 1839, teithiais oddiyma mewn cerbyd drwy wlad hyfryd a ffrwythlon i Columbus, 115 milldir; yr oedd yr amaethwyr yn hau gwenith, a 'r meusydd o 'r Indian Corn yn dechreu addfedu; y trefydd yn lled aml, ac yn dangos eu bod ar gynnydd. Yn fore yr 28ain, cyrhaeddais Columbus, prifddinas y dalaeth, ar lan afon Scioto, yr hon sydd yn cynnwys 7 neu 8 mil o drigolion. Cynnhelir ynddi Eisteddfod y Llywodraeth. Y mae ynddi Noddfeydd (Assylums) i 'r deillion, mudion, byddariaid, a gwallgofion, yn adeiladau mawrion ac ardderchog o briddfeini a cherig nadd. Gerllaw y ddinas, ar lan yr afon, y mae carchardy y dalaeth, (Penitentiary). Wrth weled yr adeilad ardderchog hwn, a 'r gerddi o 'i amgylch, gellid meddwl mai palas boneddwr ydyw; ond wrth sylwi ar y drysau a 'r ffenestri heiyrn sydd arno, deallir yn fuan mai drwg-weithredwyr sydd ynddo. Yma yr anfonir yr holl ddrwg-weithredwyr yn mhlith 1,500,000 o drigolion sydd yn nhalaeth Ohio, i 'w cospi trwy weithio yn galed tros ystod eu carchariad, sef o flwyddyn hyd eu hoes, yn ol y drosedd. Yr oedd ynddo y pryd hwn 445 o garcharorion, rhai o bob Swydd (County) yn y dalaeth, o bob oedran, a phob gradd mewn cymdeithas. Bu gwaith y carcharorion y llynedd, ar ol talu traul y carchardy, yn ennill i 'r dalaeth £3,000, yr hyn a achubodd gymaint a hyny o dreth oddiar y dinasyddion. Yn y dydd y maent oll yn llafurio—neb yn cael siarad [td. 6] un gair; y nos mewn celloedd, heb ddim ond y Bibl i 'w difyru. Eu dillad yn frithion—cant ddigonedd o ymborth iachus, ond pob peth arall yn gosp i 'r eithaf. Y mae gweinidog yr efengyl yn llafurio yn eu plith, yn pregethu iddynt ar y Sabbothau, yn cadw dyledswydd deuluaidd yn ddyddiol, ac yn ymweled â hwy yn fynych yn eu cellau; ac y mae y moddion, dan fendith Duw, yn llwyddo i dynu dagrau o lawer llygad na wylodd erioed o 'r blaen, ac i ddryllio llawer calon adamentaidd. Y mae llawer ohonynt yn rhoddi arwyddion boddhaol o ddiwygiad a theyrnasiad gras yn yr enaid; a gellir dywedyd fod yr efengyl oedd a 'i chofnodau o fuddugoliaeth yn mhalas Nero, a 'i cholofnau byw o fewn muriau carchardy talaeth Ohio.
   
Pregethais yn yr hwyr yn y dref uchod, i gynnulleidfa Gymreig. Dranoeth, cyrhaeddais Radnor, yn swydd Delaware. Y mae yma lawer o Gymry, a 'u rhifedi yn cynnyddu yn barhaus. Cynnaliwyd cymanfa yma gan yr Annibynwyr, Medi 1, 1839, sef y gyntaf yn y lle hwn. Nid oedd yno ond ychydig o bregethwyr, sef Parchedigion H. R. Pryce, Worthington; S. Howells, Columbus; M. M. Jones, (gynt o Ebensburg,) a Rees Powell. Yr oedd y gwrandawyr yn lluosog, yr odfeuon yn wlithog, a gobeithiwn, er budd i 'n cydwladwyr mewn gwlad bellenig<.> Medi 4ydd, ymadewais â Radnor mewn cerbyd, trwy wlad wastad a ffrwythlawn, 85 milldir, i Sandusky, ar lan Llyn Erie. Y mae y tir yma yn isel, ac weithiau yn wlyb. Y mae llawer o 'r gwastadtir, a alwant hwy Plains, yn naturiol heb ddim coed. Mae rhai o 'r Plains yn 20 milldir o gwmpas, a gwellt gwyllt yn tyfu ar hyd-ddynt, yn borfa ac yn wair. Y mae y Plains [td. 7] sychion yn cael eu haredig, pa rai sydd yn hynod o ffrwythlawn: maent yn anhawdd iawn i 'w haredig y tro cyntaf. Gwelais un wedd yn cynnwys tair iau o ychain a dau o geffylau, yn aredig. Ar ol aredig y tro cyntaf, y mae yn rhydd fel lludw, ac yn hawdd ei drin. Cyfrifais ar un weirglawdd, dros gant o ddeisi gwair, o ddwy i dair tunell yr un, yn barod erbyn y gauaf yn ymborth i 'r anifeiliaid. Medi y 5ed, gadewais dalaeth Ohio, yn yr agerdd-fâd “Erie,” 230 o filldiroedd, i Buffaloe, yn nhalaeth New York. Yr oedd ar y bâd oddeutu 300 o deithwyr; cefais dywydd hyfryd, a daethum i Buffaloe y dydd canlynol. Y mae Llyn Erie yn 270 milldir o hyd, ac o 30 i 40 o led, yn ddwfr croyw, ac yn nofiadwy i longau 400 tunell; a rhyfedd y nifer o fâdau a llongau sydd yn mordwyo arno. Medi 6ed, cymerais eisteddfa yn y Rail Road Car, am 15 milldir, i ymweled a Rhaiadr Niagara, rhwng Llyn Erie ag Ontario, lle y mae holl ddyfroedd y llynoedd Gogleddol yn treiglo mewn ffrwst a mawredd annhraethol dros graig serth, 164 troedfedd o uchder. Dyma un o brif ryfeddodau cyfandir America, yr hwn sydd a 'i ddyfroedd rhuadwy fel mynegfys tragywyddol, yn dangos ardderchawgrwydd gweithredoedd y Bôd anfeidrol a 'i gosododd. Ar ol edrych arno oddifynu ac oddiwaered a 'm llygaid heb haner eu boddloni, ymadewais ar y Rail-Road i Lockport, ac oddiyno ar y gamlas i Utica. Gwelais ar y daith hon bentref a gwlad gyfaneddol gan lwyth o Indiaid, (y Tuscaroras,) wedi eu gwareiddio, ac yn byw fel eu cymydogion gwynion. Yn y pentref hwn y mae capel, a chenadwr yn llafurio yn eu plith, a 'r efengyl wedi gwneuthur iddynt bethau [td. 8] mawrion. Yr oeddynt unwaith yn llwyth enwog a lluosog, ond trwy ryfeloedd a meddwdod, y maent wedi myned gan lleied a 300 mewn rhifedi. Aethum ar y gamlas oddiyma i Utica, a chefais fy nghario a 'm hymborth am 10 swllt y can milldir: hon oedd y daith hyfrydaf o 'r holl ffordd y daethum i Utica, 234 o filldiroedd mewn 4 diwrnod. Y mae llawer o drefi mawrion i 'w gweled ar lenydd y gamlas; ac yn eu plith y mae tref Rochester; ar lan Afon Gennesse, yr hon sydd hynod am ei melinau; cyfrifais 16, ac yn mhob un o honynt o 6 i 12 pâr o gerig, yn malu gwenith, i 'w ddanfon ar y gamlas i New York. Yn Syracuse y mae gwaith halen helaethaf yn y wlad. Yma gwelais lawer o Indiaid wedi eu haner wareiddio, o lwyth yr Onandagos; y mae ganddynt dir yn agos i 'r dref, ond trwy eu bod wedi gwrthod yr efengyl a 'i chenhadau, nid oes cystal golwg arnynt a 'r lleill a welais; y mae ohonynt dros 400 dan hen benaeth a elwir Antioga, yr hwn sydd yn 90 mlwydd oed. Yr oedd y dynion yn eu gwisg yn debyg i 'r bobl wynion; ond y merched a 'r plant mewn dillad Indiaidd, sef Moccasons o grwyn am eu traed, peisiau o frethyn yn llawn o dlysau o wahanol ddefnyddiau a lliwiau, bed-gown callicco, gwrthban dros eu penau a 'u hysgwyddau, tlysau arian yn eu clustiau ac ar eu dwylaw. Cyfrifais haner cant o ddarnau arian fel cadwyn ar wddf bachgen 5 neu 6 oed. Yr oedd y mamau yn cario eu plant, y rhai oedd dan flwydd oed, yn rhwymedig ar ystyllen, fel y byddent yn uniawn ac yn hardd pan gyrhaeddant oedran dynion. Wrth fyned trwy y dref, gwelais nifer o 'r Indiaid, rhai o honynt yn lled afreolus gan waith yr Alchol, [td. 9] gelyn y coch, du, a 'r gwyn, yr hwn oedd a 'i fachau yn un ohonynt, ac yn cael ei gymeryd ymaith gan rai ag oedd yn fwy sobr. Gofynais i Indiad yn fy ymyl, pwy oedd y meddwyn. Atebodd, gan wenu, “He no Indian now, white man make him drunk.” Mae yr Indiaid, o ran maintioli, yn debyg i drigolion Ewrop; eu lliw fel copr, eu gwallt yn ddu, hir, a garw, fel rhawn ceffyl. Galarus yw meddwl am goch drigolion coedwigoedd ëang y Gorllewin, a fu gynt yn meddiannu y wlad, a 'i theg ddyffrynoedd yn dir helwriaeth ganddynt; ond yn awr y mae rhyfeloedd a gwirodydd wedi eu hysglyfaethu fel nad oes ond gweddillion gwael i 'w gweled, pa rai sydd yn diflanu fel niwl o flaen pelydrau tambaid yr haul: mae llawer o ymdrech yn cael ei wneyd gan y Cymdeithasau Cenhadol yn eu hachos; ond fel dynoliaeth yn gyffredin, derbyniad oeraidd sydd i 'r efengyl, a gwrthodiad o 'i chynghorion tirion; ei bendithion rhad yw eu maen-tramgwydd, a 'u rhwystr i fwynhau eu breintiau gwerthfawr yn y byd presenol, a 'r hwn a ddaw.
   
Yn Utica, gwelais Martin Van Buren, llywydd yr Unol Daleithiau, yn marchogaeth ar geffyl, heb un gwas yn ei ddilyn, yn edrych yn fwy tebyg i amaethydd cyffredin na llywydd 15,000,000 o drigolion. Yn swydd Oneida, treuliais amser hyfryd yn ardaloedd y Cymry, yn cynnorthwyo fy mrodyr i gynal eu Cyfarfodydd Blynyddol. Wrth weled lluosogrwydd y gwrandawyr, helaethrwydd yr addoldai, ac ysbryd y gwaith, braidd na feddyliaswn fy mod yn ngwlad fy ngenedigaeth. Ar ol mwynhau hyfrydlawn gyfeillach gyda hwy, a chyfranogi yn helaeth o garedigrwydd yr eglwysi, ymadewais oddiyma Medi 26ain, ar y Rail-Road, 96 [td. 10] milldir, i Albany; ychydig oriau a fu'm yn dyfod i ben y daith. Yn min yr hwyr, yn yr agerdd-fâd Dewit Clinton, ymadewais i fyned lawr Afon Hudson, 160 milldir, i New York; ac erbyn boreu dranoeth, gwelwn oddiar fwrdd y bâd, y ddinas yn ei hardderchogrwydd yn ymddangos o 'm blaen, yr hon sydd yn cynnwys 320,000 o drigolion. Pregethais yma i 'r Americaniaid, yn Pearl Street, ac i 'r Annibynwyr Cymreig, yn Broome Street. Treuliais yma ychydig ddyddiau, lle y cefais garedigrwydd anarferol.
   
Hydref 1af, ar y llong Columbus, (670 tunell,) yn rhwym i Liverpool, ymadewais, am 10 o 'r gloch yn y boreu, â thir America, i wynebu y geirwon dònau. Gan nad oedd dim gwynt pan oeddym yn cychwyn, bu orfod i agerdd-fâd lusgo ein llestr i lawr hyd Sandyhook. Yr oedd llawer o longau ereill yn cyd-gychwyn â ni, ac yn eu plith yr enwog agerdd-long, British Queen, yr hon oedd yn saethu heibio gyda chyflymdra y fellten fforchog. Ar ol cyrhaedd y môr mawr, a 'r bâd ein gollwng, cododd y gwynt—lledwyd yr hwyliau—a dechreuodd yr hen Columbus rwygo trwy y tònau ddeg milldir yn yr awr. Fel ag yr oedd llen y nos yn ein gorchuddio, collasom olwg ar y tir, heb ddim ond gwyrdd dònau a glas awyr i 'w gweled. Yr oedd yn y cabin dri ohonom o Ohio, un o New York, ac un o Pensylvania, yn cael pob ymborth ag ymgeledd addas er ein cysur. Yr oedd yn y Steerage o 70 i 80 o deithwyr, ac yn eu plith amryw yn afreolus ac anystyriol. Yn y cabin yr oeddym yn talu (trwy gael pobpeth oedd yn ofynol i 'r fordaith) £20 yr un. Yn y Steerage yr oeddynt yn talu, heb gael dim ond eu passage, eu dwfr, [td. 11] a 'u tân, £4. Hydref 3ydd, ymwelodd â myfi glefyd y môr, er fy mlino yn egniol dair mordaith o 'r blaen; eto ymwelodd â mi y pedwerydd gwaith; ond trwy gael ymgeledd addas, ni ddyoddefais gymaint ag a ddisgwyliais oddiwrtho.—Cymwynas mewn rhith anghymwynas ydyw,—drwg fel y daw da, am fod gwell iechyd i 'w fwynhau ar ei ol. Hydref 7fed, pan yn mhell ar y gwyrddlas eigion, clywais un o 'r morwyr yn gwaeddi o ben yr hwylbren, “Ship in distress.” Yn fuan ar ol hyn, gwelwn long dau hwylbren, a 'r tònau yn lluchio yn gynddeiriog-wyllt drosti, a phob peth wedi eu golchi oddiar y bwrdd. Ni wyddom ei henw— o ba le y daeth—i ba le yr oedd yn myned—na beth a ddigwyddodd i 'r morwyr. Efallai iddynt gael gwaredigaeth; ond mwy na thebyg iddynt oll suddo i 'r dyfrllyd fedd.
   
Hydref 14, clywais fod plentyn wedi marw yn y Steerage, unig blentyn ei fam, a hi yn weddw. Gwisgwyd y corff mewn darn o hen hwyl, a rhoddwyd careg wrth ei draed, a daeth un o 'r morwyr ag ef i 'r bwrdd, a gosododd ef ar ystyllen ar ochr y llong; a thra yr oeddwn yn darllen rhan o bennod y claddu, gollyngodd ef i 'r dyfnder mawr, i orphwys hyd y boreu y rhydd y môr i fynu ei feirw. Hydref 15, yn y nos, gwelwyd goleu Goleudy Cape Clear, yn yr Iwerddon; ac ar ol mordaith gysurus, ar foreu yr 20fed dydd, cyrhaeddasom Liverpool, heb un ddamwain anghysurus ein cyfarfod, wedi mordwyo yn agos i 3,500 o filldiroedd.
[td. 12]

PENNOD II.

GOLWG AR DALAETH OHIO.

   
Y mae yn hysbys i 'r rhan fwyaf o 'r Cymry fod llawer o 'u cyd-genedl yn trigianu yn y lle hwn. Y mae Ohio yn un o daleithiau yr Undeb, ac yn debyg o ran ei hansawdd i 'r taleithiau Gorllewinol ereill. Y mae yma ddyeithriaid o bob gwlad yn dyfod yn barhaus. Nid hawdd penderfynu ystyr y gair Ohio; enw ydyw sydd wedi ei roddi i 'r afon a 'r dyffryn hyfrydaf yn y Gorllewin. Dywedir fod Ohio yn arwyddo gwaedlyd, a 'i fod wedi ei briodoli i 'r afon, o herwydd y tywallt gwaed a 'r ymladdfeydd dychrynllyd a fu ar ei glanau gan yr Indiaid. Ereill a ddywedant mai oddiwrth arferiad yr Indiaid o waeddi “O-hi-o” wrth rwyfo eu badau.
   
Y mae talaeth Ohio yn gorwedd rhwng lledred 33° 30' a 42° 15' Gogleddol, ac hydred 80° a 40' a 85° Gorllewinol o Lundain. Y mae y dalaeth hon yn 220 milldir o hyd, a 200 o led, ac yn cynnwys 26,000,000 o Acrau o dir; wedi eu rhanu yn 75 o swyddi, a 'r swyddi yn blwyfydd. Yn 1790, nid oedd yn y dalaeth hon ond 700 o drigolion, heblaw yr Indiaid. Cynnyddodd y boblogaeth, yn y 50 mlynedd diweddaf, i rifedi, bron, yn annghredadwy. Eu rhifedi yn bressennol yw 1,500,000 o bobl wynion, 1,500 o Indiaid, ac o 15,000 i 20,000 o Negroes rhyddion. Y mae Ohio yw llywodraeth rydd, ac yn gymysgfa o drigolion yr hen daleithiau, a 'r gwahanol wledydd Ewropa. Saesonaeg yw iaith gyffredin y wlad, er fod llawer o ieithoedd ereill yn cael eu harferyd. Y mae y dyeithriaid yn arferyd iaith y Saeson, eu dull o [td. 13] fyw, a thrin y tir, ac yn syrthio i drefn y wlad; yn mwynhau rhyddid gwladol a chrefyddol; a mawr a gwerthfawr yw eu breintiau.
   
Haner can mlynedd yn ol, Indiaid ac anifeiliaid gwylltion oedd yn meddianu y dyffrynoedd Ohio, ac adsain eu bloeddiadau rhyfelgar, yn nghyda drwg-nadau bwystfilod rheibus yn unig oedd yn tori distawrwydd nattur. Ond nid felly yn awr; y gwylltfilod wedi eu difa, a 'r Indiaid wedi eu gwareiddio, neu gilio yn mhellach i 'r anialwch. Y mae yma wlad helaeth a ffrwythlawn, yn drigle i 1,500,000 o drigolion rhydd, moesol, a chysurus. Barna dynion deallus, cyfarwydd âg ansawdd y wlad, pe byddai yr holl dir sydd yn addas i 'w lafurio, wedi ei arllwyso a 'i drin fel tiroedd Ewrop, y byddai ei gynyrchiad yn ddigonol chwe gwaith i 'w thrigolion presenol; a gellir dywedyd yr un peth am yr holl daleithiau Gorllewinol. Diogi a meddwdod yn unig sydd yn achosi tylodi mewn gwlad mor helaeth a ffrwythlawn a hon. Y mae y rhan Ddeheuhol o 'r dalaeth yn gyffredin yn dir toredig; a 'r Gogledd yn wastadedd, ac yn lled laith, heb nemawr ohono yn rhy uchel i 'w aredig, neu yn rhy wlyb i 'w weirgloddi. Y mae coed yn tyfu yn naturiol ar y tir, (ond y Plains,) ac o wahanol rywogaethau, sef, derw, cyll ffrengig, ŷn, llwyfenau, cherry, hicory, ffawydd, poplars, &c., y rhai sydd o 40 i 50 troedfedd yn unionsyth at y canghenau. Weithiau nid oes dim llawer o fân-goediach i 'w gweled; a thro arall prin y gellir marchogaeth yn rhwydd drwyddynt. Y mae rhai o 'r derw yn 15 troedfedd o gwmpas, ac yn 100 o uchder: yn hyn y maent yn rhagori ar goed y wlad hon, ond nid cystal eu parhad. Coed yw tanwydd cyffredin [td. 14] y wlad, er fod digonedd o lo ar lan afon Ohio. Mae y tir, wrth osod treth arno, yn cael ei ranu yn dair gradd, fel y canlyn:—Y gyntaf yn cynnwys y tir brasaf, yr hwn sydd yn y dyffrynoedd, ac ar geulanau yr afonydd, yn bridd du, rhydd, a bras. Gwelais feusydd ohono wedi eu llafurio am 40 mlynedd heb wrtaith na gorphwysiad, a chystal golwg am gnwd eleni ag a welwyd erioed. Y mae yn hawdd adnabod tir da wrth y coed a fyddo yn tyfu arno; nid wrth eu maintioli neu eu rhifedi, ond wrth eu rhywogaeth; o herwydd wrthynt hwy y bernir brasder a ffrwythlonder y tir Indian Corn sydd yn ateb oreu yn y dyffrynoedd, yr hwn sydd yn dwyn o 80 i 100 bwsiel yr Acr. Yr ail radd: Y mae tir o 'r ail radd yn fwy cyffredin na 'r gyntaf, yn bridd tywyll, rhydd, ac yn lled fras, yn dwyn gwenith, haidd, ceirch, clover, &c., ac yn addas i 'r Indian Corn, ac yn rhoddi o 40 i 60 bwsiel yr Acr. Y drydedd radd: Gosodir y tir bryniog yn y drydedd radd, ac yn werthfawr am y coed sydd arno: weithiau am y glo, haiarn, cerig, &c. yr hwn sydd addas i fod yn dir gwair a phorfa, ac i ddwyn gwenith rhagorol; ac un peth arall, y mae yn well am ffynhonau ac iechyd na 'r gwastadedd. Os na bydd ffynon i 'w chael, ceir dwfr yn mhob man ond tori pydew o 10 i 50 troedfedd o ddyfnder. Felly, gwelwn fod mantais ac anfantais yn berthynol i bob gradd; cymysgedd o 'r graddau yw y goreu os gellir ei gael: dyffryn a bryn sydd yn gwneyd tyddyn yn gyfleus a gwerthfawr, yn hawdd ei drin, ac yn hir ei barhad. Ni welais erioed galchu tir yn Ohio; ond y mae gwrtaith yn llesol i hen dir, a 'r ail a 'r drydedd radd. Ar lenydd Afonydd Meeskingum a 'r Ohio, hyd at [td. 15] Portsmouth, y mae digonedd o lo, haiarn, halen, a cherig nâdd, yn nghrombil y ddaear, ac yn hawdd eu cael. Y mae cerig calch yma a thraw dros yr holl dalaeth. Nid llawer o weithio sydd eto gyda 'r glo, haiarn, a 'r halen. Rhwng y gwlân a 'r llîn, cynnyrch y maes, a 'r ardd, gwneyd sebon<,> siwgr, a chanhwyllau, nid rhaid i 'r amaethydd ymdrechgar a 'i deulu ofni, trwy fendith Duw, am ddigonedd o ymborth a gwisgoedd addas. Y mae yn Ohio lawer o afonydd yn rhoddi cyfleusderau i wneyd melinau, factories gwlân a chottwm, a gweithydd ereill. Ychydig o 'r afonydd hyn sydd yn fordwyol i agerdd-fadau, er fod llawer o rafts a badau eraill yn dyfod i lawr ar lifeiriant. Y mae afon Ohio yn golchi glanau y dalaeth am 450 o filldiroedd, ac yn nofiadwy i 'r badau mwyaf; braidd y mae awr yn y dydd nad oes rhai ohonynt yn rhwygo trwyddi; a syndod y fasnach sydd ar hyd-ddi. Y mae 150 o filldiroedd o Lyn Erie, yn gorwedd ar ei ffin Gogleddol, a llawer o borthladdoedd ar ei lan. Y mae yn Ohio lawer o gamlasau a ffyrdd haiarn, wedi eu gorphen, ac ar waith. Y mae camlas yn 334 milldir o hyd, sef o Cleaveland, ar lan Llyn Erie, trwy ganol y dalaeth, i Portsmouth, ar lan afon Ohio; ac un arall o Cincinnatti ar hyd dyffryn Miami, i ben Gogleddol y Llyn Erie, ac Afon Maumee, 190 o filldiroedd; mae y gamlas yma yn myned trwy y wlad newydd, lle mae y Cymry yn sefydlu, sef Putnam a Vanwert, yr hon, pan ei gorphenir, a fydd yn gyfleustra nid bychan i 'r holl wlad. Mae yr anifeiliaid gwylltion wedi darfod neu gilio draw, ac nid rhaid ofni nadroedd na bwystfilod rheibus. Y mae yno geffylau, gwartheg, defaid, moch, [td. 16] gwyddau, hwyaid, a ieir, megys yn y wlad hon. Gan fod y wlad mor wastad, hawdd yw gwneyd camlasan a ffyrdd trwyddi; fel y mae trigolion yn cynyddu, y maent yn myned yn mlaen. Y mae ansawdd yr hin a 'r climate yn wahanol i 'r wlad hon; gwres yr Haf, ac oerfel y Gauaf yn fwy; yr Haf yn hwy, a 'r gauaf yn fyrach nag yma. Y cynhauaf yn Mehefin a Gorphenaf; y tywydd sych sydd weithiau am ddau fis heb fawr o wlaw. Y Gauaf yn sych a rhewllyd, heb ond ychydig o eira: nid oes bron neb yn rhwymo eu gwartheg, ond yn eu porthi allan y maent.
   
Yn mhob gwlad y mae dynoliaeth yn agored i ddamweiniau, clefydau, a marwolaethau, ac yn fynych yn eu cyfarfod mewn gwlad ddyeithr, a hyny o herwydd cam-arferiad ac anwybodaeth. Yr oedd Ohio yn llawer mwy afiachus ychydig o flynyddau yn ol nac ydyw yn bresenol; eto, nid ydyw mor iachus a 'r hen Gymru fynyddig. Y mae y dyeithriaid yn fwy agored i 'r afiechyd na 'r gwladyddion genedigol; felly y mae yn ofynol iddynt fod yn hynod o ofalus am eu hiechyd, trwy beidio yfed gormod o ddwfr oer ar amser cynes, pan yn chwys; arferyd a gwisgo dillad ysgafn y yr Haf, a chynes yn y Gauaf; i beidio eistedd na gorwedd ar y ddaear, a bod heb ddillad addas hwyr a boreu yn y tywydd cynes. Y clefydau mwyaf cyffredin ydynt, y cryd, y billious, a 'r intermitting fever, plurisy, rhumatism, a 'r darfodedigaeth. Mewn afiechyd, y mae y cymydogion yn hynod o gymwynasgar a ffyddlon, a meddygon yn hawdd eu cael; a phan ddygwyddo marwolaeth, y mae yr un cydymdeimlad a 'r caredigrwydd yn cael ei ddangos. Bydd y marw yn cael ei gladdu yr ail [td. 17] dydd; ac yn ei ddilyn i 'r dystaw fedd, dyrfa ar draed, ar geffylau, ac mewn cerbydau, gyda phob symlrwydd a pharch; a gwasanaeth crefyddol, addas i 'r amgylchiad, yn cael ei gyflawni: nid oes ond ychydig o alar-wisgoedd i 'w gweled yma. Y mae cyfreithiau hynod o dda yma mewn perthynas i eiddo y trancedig—cyfiawnder i bawn yn ol deddf natur a rheswm. Os bydd ewyllys wedi cael ei gwneyd, hono fydd yn sefyll; os heb yr un, y weddw fydd yn cael, dros ei hoes, y drydedd ran, a 'r ddwy ran arall yn cael eu rhanu yn gyfartal rhwng y plant, pan ddelo yr ieuengaf i gyrhaedd oedran gwr. Y mae priodasau yn cael eu gweinyddu gan bregethwyr yr efengyl, neu Ynad heddwch, yn nhŷ y ferch ieuanc, heb wahaniaeth amser, hwyr neu foreu. Nid yw yn arferiad cyffredin gan rieni roddi llawer o feddiannau i 'w plant wrth ddechreu eu byd; rhoddant ychydig iddynt i gychwyn, ac wedi hyny cant ymdrechu drostynt eu hunain. Y mae hyn yn fendith fawr i bobl ieuainc, ac yn unol â nattur y wladwriaeth, ac egwyddorion ymdrechgar yr Americaniaid, sef dysgu iddynt ymddybynu arnynt eu hunain, ac nid i ddisgwyl wrth ereill, ond iawn ddefnyddio eu meddianau trwy wybod eu gwerth.
   
Oddiwrth natur y llywodraeth, nid oes ond trethi ysgafn. Ychydig sydd yn ofynol at draul y wladwriaeth; ond at wneuthur camlesau a ffyrdd y mae y rhan fwyaf o 'r trethi yn cael eu gosod, yr hyn oll sydd er lleshad y cyffredin. Nid oedd cyflog ein <l>lywodraethwyr, a thraul y llywodraeth, y flwyddyn ddiweddaf, ond £35,000, yr hyn oedd yn cael eu casglu oddiwrth 1,500,000 o drigolion<.> Y mae pawb yn talu treth yn ol eu meddianau; yr [td. 18] amaethwr sydd ganddo 300 o Acrau o dir, a 'r stock yn gyflawn, ni bydd arno ond £5, ac ychydig o ddyddiau o waith ar y ffordd fawr. Y mae hefyd ychydig o dreth, yn ol yr eiddo, at ysgolion; yn hyn y mae y cyfoethog yn cynnorthwyo y tylawd, i roddi dysg i 'w blant. Os bydd arian gan un ar y llôg, rhaid talu punt y cant o dreth; ond ceir o 6 i 12 punt y cant yn hawdd am arian ar dir, neu feichniaeth diogel. Am dreth y tylodion, anaml yn Ohio y clywir sôn amdani; ond am y degwm ni chrybwyllir amdano ond mewn diolchgarwch nad oes y fath orthrymwr yn ein plith. Y mae plwyfydd yn mhob swydd, ac addas ymgeledd i 'r tylawd: ond anfynych y mae achos am hyn. Y mae yma le, trwy gael iechyd, a byw yn sobr a diwyd, fel y gall pawb gael eu digonedd o bob peth angenrheidiol, heb ofyn dim i blwyf.

LLYWODRAETH.

   
Yn Ohio y mae cyfreithiau taleithiol yn cael eu gwneyd gan 36 o Seneddwyr, a 75 o Gynnrychiolwyr, y rhai sy 'n cael eu dewis gan y wladwriaeth. Y mae y gynghorfa yn eistedd yn flynyddol am 2 neu 3 mis, yn Columbus, a phob aelod yn cael 15 swllt y dydd, ar ei draul ei hun. Nid helaethrwydd meddianau sydd yn codi dynion i 'r gynghorfa hon, ond cymhwysderau; nid un gŵr mawr yn pleidio y llall, ond rhydd ddewisiad pob dinasydd, y tylawd fel y cyfoethog. Y mae Rhaglaw Ohio yn cael ei ddewis yr un modd, bob yn ail blwyddyn; ac nid yw yn cael ond £300 yn flynyddol. Nid yw holl draul llywodraeth Ohio, er ei maint a 'i phoblogaeth, yn fwy na thraul ambell fonheddwr yn y wlad hon: dyma sydd yn achosi fod y trethi [td. 19] mor isel. Y mae hawl a chyfleusderau i bawb i sicrhau eu hiawnderau cyfreithlawn, trwy fod Ustus heddwch yn mhob plwyf, a llys gwladol yn chwarterol yn mhob swydd, i brofi troseddwyr, ac i drefnu pob achos arall. Y mae pob prawf gerbron y barnwr a 'r rheithwyr, megys yn y wlad hon, ac eithaf cyfiawnder yn cael ei weinyddu.

YSGOLION.

   
Mae haelioni y wladwriaeth wedi rhoddi drws agored o flaen pawb, yn ddiwahaniaeth, i gael dysg angenrheidiol i 'w gwneyd yn addas ddinasyddion rhydd lywodraeth, ac i ymdrin â phob masnach gyffredin. Ar wybodaeth a moesoldeb y werin y mae colofnau y llywodraeth yn sefyll; os gwna anwybodaeth ac annuwioldeb deyrnasu, fe ddaw terfysg ac annhrefn, yn lle heddwch a llwyddiant; am hyny y mae yr holl wlad yn ymdrechu i roddi dysg i 'r ieuenctyd; a thra parhao yr ymdrech o blaid dysg a moesau da, fe saif rhyddid gwladol a chrefyddol, yn yr Unol Daleithiau, yn gadarn a diysgog. Y mae yn Ohio 1,280 o blwyfydd, ac ynddynt yn barod 7,500 o ysgolion dan nawdd y llywodraeth. Y mae yr arian yn dyfod oddiwrth y tir, a 'r dreth yn cael ei rhanu yn mhob plwyf, yn ol rhifedi y plant: yn ein plwyf ni, y mae naw o ysgoldai, a 756 o ieuenctyd rhwng 4 ac 20 oed, ac ysgol yn mhob un ohonynt y rhan fwyaf o 'r flwyddyn; y mae athrawon da, dysgedig, a diwyd yn cael o 4 i 6 phunt y mis; athrawesau addas, o 3 i 4 bunt y mis, ar eu traul eu hunain. Y mae yn Ohio lawer o athrofau, i feibion a merched i gael helaethach dysg nag yn yr ysgolion cyffredin; heblaw amryw o golegau gan y gwahanol bleidiau [td. 20] crefyddol; a dwy brif athrofa dan awdurdod y llywodraeth. Yn yr ysgolion yma y mae lle i bawb, os bydd ganddynt arian at y draul, sef o 30 i 50 punt yn y flwyddyn; ac ar ol iddynt fod yno 4 blynedd, maent yn cael y gradd A. B.; ac ar ol bod 7 mlynedd, cant y gradd A. M. Barnaf fod yn yr athrofeydd hyn yn bresenol o 800 i 1,000 o fyfyrwyr, a 'u rhifedi yn cynnyddu yn barhaus.

CREFYDD.

   
Ymffrost yr Unol Daleithiau ydyw, fod crefydd yn llwyddo heb gynnorthwy sefydliadau gwladol; fod capeli yn cael eu hadeiliadu, a gweinidogion yn cael eu cynnal, heb dreth eglwys na degwm, ond rhydd ac ewyllysgar gyfraniadau y bobl. Yn sicr, nid oes digon o bregethwyr, na chapeli, i ateb gofyniadau y trigolion; y mae yno lawer o annuwioldeb yn uchel ei ben; eto, y mae cynnydd crefydd, undeb a brawdgarwch y gwahanol enwadau, yn rhoddi lle i ddysgwyl y bydd têg ddyffrynoedd y Gorllewin cyn hir, megys gardd yr Arglwydd. Y mae llawer o gyhoeddiadau crefyddol (yn Saesonaeg) yn cael eu cyhoeddi yn wythnosol a misol, gair Duw, a llyfrau buddiol, yn ymledaenu dros yr holl wlad. Y pleidiau crefyddol mwyaf lluosog yn Ohio, yw y Trefnyddion Wesleyaidd, Bedyddwyr, Presbyteriaid Annibynwyr, Eglwys Esgobawl, Dutch Reformed, Lutheriaid, a 'r Pabyddion; er fod yno lawer o bleidiau crefyddol ereill, sef y Shaking Quakers, Campeliaid, Universalists, os teilwng eu galw yn enwadau crefyddol. Y mae llawer o eglwysi yn weiniaid, a thrwy hyny dan anfantais i gynnal gweinidogion; ond os bydd cynnorthwy yn ofynol, [td. 21] y mae gan y gwahanol enwadau gymdeithasau at gynnal gweinidogion ffyddlawn yn y fath eglwysi; ac yn mhen ychydig flynyddoedd, trwy fendith Duw, byddant yn alluog i gynal pregethwyr eu hunain, heb ofyn dim i neb, ac yn eu tro yn cyfranu at angenrheidiau eglwysi gweiniaid ereill. Y mae yr Ysgol Sabbothol, Cymdeithas Dirwest, y Beibl, Traethodau, a 'r Antislavery, yn cael eu pleidio yn wresog, ac felly yn gwneyd llawer o ddaioni.

PENNOD III.

HANES PADDY'S RUN.

   
Dyma 'r sefydliad Cymreig hynaf yn Ohio, yr hwn sydd 20 milldir o Cincinnatti, yn swydd Butler. Dywedir i 'r enw gwyddelig yma gael ei osod ar y sefydliad hwn, o herwydd i Wyddel, pan yn rhyfela â 'r Indiaid, syrthio i nant sydd yn rhedeg trwy y dyffryn, a bron foddi ynddi; ac o ganlyniad galwyd y nant a 'r dyffryn yn Paddy's Run. Ezekiel Hughes, Edward Bebb, John Roberts, ac Ann Rowlands, (y Gymraes gyntaf a aeth i wlad Ohio,) o Lanbrynmair, William a Morgan Gwilym, o Langiwc, Morganwg, a ymadawsant â Chymru, Awst 4, 1795, y rhai a gawsant lawer iawn o drafferth a helbul y blynyddoedd cyntaf yma, trwy lafurio yn ddiflino i orchfygu yr anialwch: ac y mae yn debyg mai hwy, a 'r rhai a 'i canlynasant i 'r Gorllewin pell, sydd wedi cael y tir goreu o 'r holl Gymry sydd yn America. Y mae y dyffryn hwn yn dir rhagorol, a 'r bryniau yn llawn o goed a cherig. Y mae, bron, bob tyddyn yn dir gwastad a bryniog. Y mae y tir yn addas i [td. 22] bob math o ŷd, ond yn neillduol i 'r Indian Corn. Prif waith yr amaethwyr yw codi Indian Corn, a phesgi moch; rhai ohonynt o 40 i 150 yn flynyddol, yn ol maint ac ansawdd eu tyddynod. Y mae yma lawer o feusydd o 10 i 25 o Acrau yn cynnyrchu Indian Corn am o 30 i 40 mlynedd, heb orphwysiad na gwrtaith. Y mae y tir bryniog yn well at wenith, ceirch, a chloron, na 'r gwastadedd. Y mae yr ardal hon yn un o 'r rhai iachaf yn y dalaeth, ac wedi bod felly er ei sefydliad. Nid oes ond o 200 i 250 o Gymry yn y lle, ac oll bron yn amaethwyr yn meddianu eu tyddynod, y rhai sy 'n cynwys o 80 i 400 Acrau, ar ba rai y mae digonedd o goed tu ag at danwydd a fences. Y mae y tir yn ddrud ac yn anhawdd ei gael ar werth yma; a dyna yr achos na b'ai y Cymry yn cynnyddu yn fwy. Y mae y tyddynod yma yn werth o 6 i 18 punt yr Acr; yn cael eu rhentu am o bunt i ddeg swllt ar hugain y flwyddyn; gweision yn cael o 25 i 36 punt y flwyddyn, a 'r morwynion o 15 i 20. Y mae cynnyrch y tir a 'r anifeiliaid yn hawdd eu gwerthu am brisiau da. Yn 1804, sefydlwyd eglwys yma gan yr Annybynwyr, er nad ydoedd ond 5 ohonynt rhwng Cymry a Saeson. Yn 1817, y dechreuwyd pregethu Cymraeg gyntaf yma gan y diweddar Barch. Rees Lloyd. Y mae un o 'r nifer fechan a ddechreuodd yr achos yma, eto yn fyw, Mrs. Bebb, (chwaer y diweddar Barch. J. Roberts, Llanbrynmair,) yr hon sy 'n addurn hardd i 'r achos. Mai 26, 1836, neillduwyd i gyflawn waith y weinidogaeth, y Parch. B. W. Chidlaw, A. M. o brif ysgol Miami, yr hwn sy 'n enedigol o 'r Bala, Meirionydd, ond wedi ei fagu yn Ohio. Wrth ddechreu ei weinidogaeth [td. 23] nid oedd yma ond o 25 i 30 o aelodau, â 'r gwrandawyr yn anaml, ond yn awr y mae dros 100 o aelodau, a chynydd mawr ar bob rhan o 'r gwaith.

RADNOR.

   
Enw plwyf yn swydd Delaware, ar Afon Scioto, 32 milltir o Columbus, ac 8 o dref Delaware. Y mae y wlad yn wastad, ac yn dir da, ond braidd yn isel a llaith. Dechreuwyd y sefydliad yma yn 1804. Clywais rai o 'r hen sefydlwyr yn darlunio eu dechreuad yma yn y coed—heb ddim crefftwyr, masnach-dai, melinau, na chapeli—eu dillad a 'u hymborth oedd ffrwyth llafur eu dwylaw eu hunain. Cyn hir, ar ol llawer o ymdrechiadau, daeth y goedwig afluniaidd yn gartref hyfryd iddynt hwy a 'u plant. Y mae yma fwy o Gymry nag un lle arall yn Ohio<.> Y mae y tir yn addas i godi pob math o ŷd, ac yn rhagorol am wair a phorfa. Gellir prynu tyddyn a rhan ohono wedi ei arllwyso, a thŷ ac ysgubor arno, o 4 i 6 phunt; y mae tir gwyllt am yr haner neu lai. Gwell i ddyeithriaid, os gallant, brynu tyddyn wedi ei arllwyso yn barod, os na byddant yn gyfarwydd a hyny, fel y caffont fywioliaeth yn uniongyrchol ohono. Y mae y Cymry sydd yma, y rhan fwyaf, o swyddi Trefaldwyn a Brycheiniog. Y mae yma ddigonedd o ysgolion yn nghyraedd yr holl drigolion, a phob mantais i ddysgu eu plant. Y mae prisiau da i 'w cael yn y marchnadoedd am bob peth a fyddo i 'w gwerthu. Y mae gan y gwahanol enwadau crefyddol eglwysi a chapeli. Y mae diwygiad mawr wedi bod yma yn ddiweddar gan yr Annybynwyr; eu gweinidog yw y Parch. R. Powell. Y mae y Bedyddwyr a 'r Wesleyaid Cymreig, wedi uno [td. 24] â 'r Saeson, er fod pregethwyr Cymreig yn eu plith, sef y Parch. D. Cadwalader ac Elias George. Y mae yma le da i amaethwyr i fagu anifeiliaid, codi ŷd, a gwneuthur enllyn, o herwydd fod tiroedd yn hawdd i 'w cael, a 'r marchnadoedd mor gyfleus.

NEWARK A 'R WELSH HILLS.

   
Y mae Newark yn dref ar gynydd mawr, ar lan y gamlas sy 'n arwain o Lyn Erie i Afon Ohio. Y mae llawer o grefftwyr o Gymry yn trigianu yma, ac yn byw yn hynod o gysurus. I 'r Gogledd-Orllewin oddiyma y mae y Welsh Hills, lle y mae rhai canoedd o 'r Cymry yn preswylio. Y mae y wlad hon yn lled agored ac iachus, a phob digonedd o ddwfr rhedegog ynddi. Dechreuwyd y sefydliad hwn gan Theophilus Rees ac ereill, yn 1803, a chodwyd achos crefyddol gan y Bedyddwyr, yr hwn sy 'n llwyddo dan weinidogaeth y Parch. Thomas Hughes. Yn 1832, unodd yr Annybynwyr a 'r Trefnyddion Calfinaidd, i godi achos crefyddol, ac i adeiladu capel—y mae llwyddiant yn dilyn eu hymdrechiadau—y Parch. W. Parry, (Calfiniad) sydd yn llafurio yn eu plith, ac yn yr ardaloedd oddiamgylch, lle y mae Cymry yn cyfaneddu. Amaethwyr yw y bobl yn gyffredin. Y mae y tir yn uchel o bris, ac yn anhawdd ei gael, sef o 5 i 10 punt yr Acr. Wrth feddwl am amgylchiadau presenol y Cymry sydd yn Ohio, y rhai sydd wedi byw yn sobr, diwyd, ac ymdrechgar, y mae cyfnewidiadau mawr yn eu sefyllfaoedd, ac arnynt fawr achos i ddiolch am diriondeb Duw tuag atynt. Y mae llawer ohonynt wedi dechreu heb ddim, ond yn awr yn perchen tyddyn o dir da, a golwg am fywioliaeth gysurus.
[td. 25]

COLUMBUS.

   
Y mae yma lawer o ieuenctyd Cymru yn gwasanaethu, ond nid llawer o deuluoedd, ac y maent yn dyfod yma yn barhaus. Y mae yma ddigonedd o waith i bawb, a chyflogau da; y gweision o 3 i 5 punt y mis, a 'r morwynion o 7 i 10 swllt yr wythnos; y crefftwyr yn ol eu gwaith a 'u medrusrwydd, 4s a 6d i 6s y dydd, a 'u bwyd. Y mae gan yr Annybynwyr a 'r Bedyddwyr achos yma, ond yn lled isel, a phregethu Cymraeg.

CINCINNATTI.

   
Gellir dywedyd yr un peth am y ddinas hon ag a ddywedwyd am Columbus, ond fod yma lawer mwy o Gymry yn byw. Yr unig anhawsder y mae dyeithriaid yn wynebu arno wrth ddyfod i le fel hyn, ydyw, i gael gwaith a chartref i ddechreu; ac ar ol cael lle, a dangos eu hunain yn deilwng a ffyddlon, nid rhaid ofni mwy. Mae y gweithydd mawrion sydd yn y ddinas hon yn rhoddi cyfleusderau i bob celfyddydwyr, a chyflogau uchel, yn ol y gwaith, sef o 6 i 8 swllt y dydd; cant ymborth a llety am o 10 i 16s. yr wythnos. Adeiladant yma agerdd-fadau, a thai helaeth; adeiliadwyd yma 400 o dai pridd-feini y flwyddyn ddiweddaf, ac y mae y ddinas ar gynydd yn barhaus. Y mae yma addoldai perthynol i 'r Cymry. Y mae rhai o 'r ieuenctyd, sef crefftwyr, ar ol cynnhilo ychydig o arian, yn prynu tiroedd â hwynt mewn gwlad newydd, ac yn myned iddynt i fyw; ereill a 'u gosodant, ac a ddilynant eu galwedigaeth yn y ddinas. Y mae yn Newport a Corington, yn Kentucky, yr ochr arall i Ohio, weithydd haiarn, a llawer o Gymry yn byw yno.
[td. 26]

OWL CREEK.

   
Enw afon yn Swydd Knox, 36 o filldiroedd o Columbus, lle y mae amrywiol o deuluoedd Cymreig yn byw. Y mae yr amaethwyr yma yn gwneyd yn dda; y tir yn lled isel, ac yn dwyn ŷd a gwair lawer; a marchnad dda i gynnyrch y tir. Y mae yma achos gan y Bedyddwyr, a 110 o aelodau, a chapel helaeth; y Parch. John Thomas yw eu gweinidog, yr hwn sydd yn pregethu yn Gymraeg a Saesonaeg. Mae y tir wedi codi yn ei bris yn ddiweddar; ac ychydig o dir coediog sydd i 'w gael yma.

PALMYRA.

   
Plwyf yn Swydd Portage, 40 milldir o Lyn Erie, a 22 o gamlas Ohio. Ni ddechreuodd y Cymry yma yn yr anialwch, ond prynasant eu tir ar ail law, ni roddasant y pryd hyny ond o 1 i 3 punt yr Acr amdano; ond yn awr y mae yn werth o 3 i 8 punt. Y Cymro cyntaf a ddaeth yma oedd John Davies, yn 1829. Nid yw ansawdd y tir yma cystal a llawer o 'r sefydliadau ereill, ond ei agosrwydd at y camlas a Llyn Erie, sydd yn ei wneyd yn fanteisiol iawn. Y mae gan y gwahanol enwadau crefyddol Cymreig, addoldai ac eglwysi yma, a 'u hachos ar gynydd.

GALIA A JACKSON.

   
Yn y Swyddi yma y mae llawer o Gymry wedi sefydlu yn ddiweddar, sef o 20 i 30 o filldiroedd o Ohio; y mae y tir yn hynod o doredig a chleiog. Dyma y wlad a 'r tir salaf a ddewisodd y Cymry yn Ohio. Daeth yma ganoedd o Swydd Aberteifi yn y blynyddau diweddaf; ond gwell o lawer a [td. 27] fuasai iddynt fyned 1,000 o filldiroedd yn mhellach, i ddyffryn Mississipi, i gael tir o werth i 'w arlwyso. Y mae yma ddigonedd o gerig a glo yn y bryniau; ond tylawd am ŷd a phorfa. Er nad yw y wlad yn wastad a brâs, y mae yn lle hynod o iachus, a 'r trigolion yn cael bywioliaeth gysurus<.>

PUTNAM A VANWERT.

   
“Saith mlynedd yn ol Indiaid oedd yn meddianu ag yn gwladychu yn y siroedd yma, yn y gongl Ogledd-Orllewinol o 'r dalaeth. Gwerthodd yr Indiaid y tir i 'r llywodraeth, a 'r llywodraeth ar ol ei fesur, yn ei werthu i bwy bynag a ewyllysio ei brynu am 6 swllt a 9 ceiniog yr acr. Yn bresenol hawdd cael tyddynod wedi dechreu ei agoryd—tŷ wedi ei godi ag o 10 i 30 acr wedi ei arlwyso am o 2 i 4 punt yr acr, mae tyddynod yn cynnwys o 80 i 320 neu 640 acr yn gyffredin er fod rhai Cymry wedi prynu o 800 i 1600 o acre. Y mae yn gorwedd ar Afon y Maumee, yr hon sydd yn rhedeg i ben Gogleddol y Llyn Erie; y mae camlas yn cael ei gwneyd trwyddi, o ddinas Cincinnatti i Lyn Erie; ac y mae y wlad yn goediog, a 'r tir yn frâs, a 'r gwastadedd braidd yn wlyb. Yn 1834, daeth amrywiol o Deuluoedd Cymreig o sefydliad Paddy's Run, i ddechreu yma yn y coed; ac ar ol dyoddef ychydig o galedi, a llawer o lafur, y mae ganddynt yn awr ffermydd agored, a digon o bob peth at eu gwasanaeth er eu cysur. Y mae yma yn bresenol o 40 i 50 o deuluoedd Cymreig, a llawer yn dyfod yn barhaus. Y mae y tir yn codi, ac nid llawer o dir y llywodraeth sydd i 'w gael, ond y mae yma wlad o dir da, a gellir ei brynu ar yr ail law heb wneuthur dim iddo, neu ac ychydig o [td. 28] agoriad arno am o 15 swllt i 2 bunt yr acr. Mae yma gyfleusderau da i brynu tir i 'w adael i godi pris, neu i fyned i fyw arno. Nid oes treth ar dir y llywodraeth am bum mlynedd, felly, nid oes traul wrth adael y tir i sefyll; ac fe fydd yn sicr o ddyblu ei werth yn yr amser. Gan fod y tir mor isel, a 'r camlesydd mor gyfleus, y mae yn debygol y bydd yma yn fuan fwy o Gymry nac un dalaeth arall yn Ohio. Y mae yma beth o dir y llywodraeth eto heb ei werthu; ond nid yw o 'r radd oreu. Y mae yn hawdd cael tyddynod a pheth diwygiad arnynt; ac os gall dyeithriaid eu cael, dyma y rhai goreu iddynt i 'w prynu. Y mae yma lawer o bobl grefyddol, ond gan fod y wlad mor newydd, nid oes eglwysi wedi eu ffurfio eto, nac addoldai wedi eu cyfodi; y mae gan yr Annybynwyr bregethwr yma, ac y maent yn paratoi i sefydlu achos.

UTICA.

   
Yn y ddinas hon, yn cynnwys 11,000 o drigolion, y mae lluoedd o Gymry yn byw, a golwg gysurus a llwyddianus arnynt, yn gymeradwy fel cenedl, ac yn ddiwyd a defnyddiol yn eu galwedigaethau. Y mae y cyfryw ag sydd yn y ddinas yn fasnachwyr, celfyddydwyr, ac mewn gwasanaeth; ond yn y wlad oddiamgylch, y maent yn amaethwyr, yn trin y tir, ac yn cadw gwartheg. Y mae y ddinas hon ar wastadedd ar lan Afon Mohawk, mewn dyffryn yr hwn sy 'n dir da; ond yn mhell oddiwrth yr afon, y mae y wlad yn doredig, heb fod yn gwbl mor ffrwythlon, ond yn well am weirgloddiau a phorfaoedd nag am ŷd. Dechreuodd y Cymry sefydlu yma yn 1800. Yr Annybynwyr [td. 29] Cymreig a agorodd yr addoldy cyntaf yn y ddinas hon, sef yn y flwyddyn 1802; er nad oeddynt ond 13 mewn rhifedi y pryd hwnw, y mae ganddynt yn awr gapel o bridd-feini hardd a helaeth, a 250 o aelodau, dan weinidogaeth y Parch. J. Griffiths. Y mae yma achos gan y Bedyddwyr, wedi dechreu yn 1803, a chanddynt gynnulleidfa luosog, ac ar gynydd. Y mae yma gan y Trefnyddion Calfinaidd gapel o bridd-feini, a llawer o wrandawyr, a 'r achos yn cael ei gynal yn ffyddlon ganddynt. Y mae gan yr enwadau uchod ysgolion, a phregethu Cymraeg pob Saboth. Hyfrydwch mawr oedd genyf weled fy nghydwladwyr, mewn gwlad bellenig, yn mwynhau y fath freintiau crefyddol a thymhorol. Y mae y tymhor haf yn gysurus iawn yma, ond y Gauaf yn oer a maith—bydd eira ar y ddaear am bedwar mis. Mae y tir yn ddrud, ac yn anhawdd i 'w gael; y mae yma well lle i gelfyddydwyr a gwasanaethwyr, nac i 'r amaethwyr. Y mae yma alwad mawr am gelfyddydwyr a gwasanaethwyr; y mae cyflogau y celfyddydwyr yn 4s a 6c y dydd, a 'u bwyd; gwasanaeth-ddynion o 3s i 4s; morwynion o 6s i 10s yn yr wythnos. Y mae y dillad yn llawer drutach yma nag yn Nghymru.

DEERFIELD.

   
Enw plwyf, ychydig i 'r Gogledd o Utica, lle y mae llawer o Gymry yn trigianu, a 'r rhan fwyaf ohonynt yn meddianu tir, ac yn gwneuthur caws, ymenyn, &c., ac yn cael bywioliaeth gysurus. Y mae y wlad yn doredig, a 'r tir yn ganolig o dda, ac wedi ei phoblogi yn aml. Ychydig o dir coediog sydd yma, ond a berthyn i 'r tyddynod sydd [td. 30] wedi eu harllwyso. Y mae gan y gwahanol enwadau crefyddol gapeli, a phregethu yn Saesoneg. Y Parch. J. Griffiths, Utica, yw gweinidog yr Annybynwyr yn y lle hwn; a rhifedi yr aelodau yw 50 neu 60; eu capel sydd o goed.

FFLOYD.

   
Plwyf, sydd 12 milldir o Utica, lle y mae llawer o Gymry yn byw. Amaethwyr ydynt yn gyffredin, yn ddiwyd ac ymdrechgar yn y pethau a berthynant i 'r bywyd hwn, a 'r hwn a fydd. Mae yma ddau gapel Cymraeg, un gan y Trefnyddion Calfinaidd, a 'r llall gan yr Annybynwyr. Bethesda yw enw capel yr Annybynwyr: yr Aelodau sydd o 40 i 50, dan weinidogaeth y Parch. Hugh Lewis.

STEUBEN.

   
Enw plwyf sydd 20 milldir i 'r Gogledd o Utica, lle na welir ond epil Gomer yn ei boblogi yn gyffredin. Pan mewn cymanfa yma, wrth edrych ar y dyrfa luosog a siriol oedd yn gwrandaw, eu gwynebau gwrid-coch iachus, a 'r bryniau gwyrddleision oddiamgylch, meddyliais fy mod wedi cyrhaedd gwlad Gwalia. Y mae yr amaethwyr, yn gyffredin, yn byw ar eu tiroedd eu hunain. Nid ydynt yn codi llawer o ŷd, ond gweirgloddiau a phorfäu yw eu tiroedd yn gyffredin. Y mae caws ac ymenyn yr ardaloedd hyn yn uchel eu clod yn mhell ac yn agos. Y maent yn cadw yr ymenyn mewn tybiau o 100 i 120 pwys yr un, ac yn ei werthu yn yr Hydref, yn Utica, am o 9c. i swllt y pwys; oddiyno anfonant ef ar y gamlas i New York. Y mae yr amaethwyr yn cadw o 10 i 40 o wartheg godro, yn ol helaethrwydd eu [td. 31] tyddynod. Y cŵn sydd yn corddi y llaeth â 'r peiriant, (machine;) y mae hyn i 'w gael yn mhob tŷ, ac yn arbed llawer o lafur i 'r merched; nid yw yn costio ond ychydig, sef o ddwy i dair punt. Y mae y teuluoedd sydd yn y wlad er's blynyddoedd, wedi llwyddo yn fawr yn y byd—hwy a 'i plant yn meddianu tir, ac yn byw yn y mwynhad o bob bendith angenrheidiol i wneyd bywyd yn ddymunol. Y mae plwyf arall, a elwir Remsen, i 'r Dwyrain oddiyma, wedi ei boblogi gan y Cymry, ac yn debyg o ran gwlad a manteision i Steuben. Y peth mwyaf annghysurus yn y gymydogaeth hon yw y tywydd oer a 'r eira mawr yn y Gauaf, yr hwn sydd yn parhau o bedwar i bum mis. Y mae y wlad hon yn iachach na 'r sefydliadau Cymreig yn Ohio: nid yw y tir mor ffrwythlon, a thymorau y flwyddyn mor gysurus. Yn Ohio, ychydig sydd yn rhwymo eu gwartheg yn y Gauaf; ond yma y maent yn gofalu am eu hanifeiliaid megys yn Nghymru. Y mae yma ddigonedd o waith i 'w gael yn yr Haf, ond nid cymaint yn y Gauaf. Y mae gwasanaeth-ddynion yn cael o ugain i ddeg punt ar hugain yn y flwyddyn, a 'r merched o ddeg i bymtheg punt. Y mae y tir yn anhawdd iawn i 'w gael yma: y mae y tyddynod wedi eu harllwyso, ac adeiliadau da arnynt, o wyth i ddeuddeg punt yr Acr. Y mae adeiliadau da i 'w gweled ar bob tyddyn, a chyfleusderau da i wneyd melinau, &c.; a marchnadoedd yn gyfleus iawn. Y mae crefydd a dirwest yn llwyddo yn yr ardaloedd hyn. Y mae gan yr Annybynwyr ddau o gapeli helaeth; yn un ohonynt y mae 220 o aelodau, ac yn y llall 50, o dan weinidogaeth y Parch. R. Everett. Hefyd, [td. 32] yn Remsen, y mae ganddynt ddau o gapeli, ac yn un ohonynt 150 o aelodau, dan weinidogaeth y Parch. Morris Roberts. Yn y flwyddyn ddiweddaf, bu diwygiad mawr a grymus yn mhlith yr Annybynwyr, ac y mae y gwaith yn llwyddo yn barhaus. Y mae ganddynt ysgoldai, a manau ereill i bregethu, heblaw a enwyd uchod. Y mae yr Ysgol Sabbothol, a 'r Cymdeithasau Crefyddol, Cartrefol a Thramor, yn derbyn eu cynnorthwy. Y mae yma lawer o Fedyddwyr yn yr ardaloedd hyn; y mae ganddynt bedwar o addoldai, sef, Bethesda, yn yr hwn y mae 110 o aelodau—Capel y Bont 46—y ddau o dan weinidogaeth y Parch. Jesse Jones—Bethel, yn Remsen, 50 o aelodau, o dan weinidogaeth y Parch. David Michael— Capel South Trenton, o dan weinidogaeth y Parch. J. Richards. Methais gael gwybod rhifedi aelodau a phregethwyr y Trefnyddion Calfinaidd; y mae ganddynt bump o addoldai yn y gwahanol gymydogaethau Cymreig. Mae gan y Wesleyaid un capel ac agos 100 o aelodau; y Parch. J. Jones sydd yn gweinidogaethu arnynt. Y mae yma bob cyfleusderau crefyddol, ac ysgolion da i blant, yn y sefydliadau hyn. Er nad ydyw y tir mor wastad a brâs ag yn Ohio, y mae golwg byw yn gysurus ar y miloedd o drigolion Cymreig sydd yn cartrefu yn y wlad hon.

DINAS NEW YORK.

   
Y mae yma lawer iawn o Gymry yn byw; ond nid cymaint o deuluoedd ag sydd o bobl ieuainc. Y mae llaweroedd wedi gorfod aros yn y ddinas hon o herwydd prinder arian i fyned yn mhellach; ond ar ol iddynt ddyfod mewn gallu, y maent yn [td. 33] ymsymud yn mhellach i 'r Gorllewin: gweithwyr, celfyddydwyr, a masnachwyr, yw y cyffredin o honynt; ac y mae y rhai sydd yn llafurus, ymdrechgar, a sobr, a golwg gwych arnynt, a digonedd o waith, a chyflogau da. Y mae yma beth anhawsdra i ddyeithriaid i gael gwaith ar y cyntaf, ond ar ol iddynt ddechreu, a dyfod yn gymeradwy, nid rhaid iddynt ofni. Y mae yma gapel helaeth, a chynulleidfa luosog, gan yr Annybynwyr, dan weinidogaeth y Parch. J. S. Jones. Hefyd y mae yma addoldai Cymreig gan y Bedyddwyr a 'r Trefnyddion Calfinaidd. Yn gyffredin, os bydd modd, gwell i 'r dyeithriaid fyned ymlaen i 'r wlad nag aros yn y dinasoedd ar lan y môr, yn neillduol bawb ag sydd a theuluoedd ganddynt.

PITTSBURG.

   
Gelwir y ddinas hon yn gyffredin Birmingham. Y mae yn y ddinas yma a 'i hamgylchoedd, amryw filoedd o Gymry, a 'r rhan fwyaf ohonynt yn dyfod o ddeheudir Cymru. Gweithfeydd glo, a haiarn, a gwydr, sydd yma yn fwyaf neillduol. Y mae golwg gwneuthur yn dda ar y rhan fwyaf o 'n cydwladwyr, er fod meddwdod yn llwyr ddyfetha llawer yma fel yn Mrydain. Y mae yma gynnulleidfa luosog, ac achos blodeuog, gan yr Annybynwyr, dan weinidogaeth y Parch. Thomas Edwards. Hefyd, y mae yma eglwysi Cymreig gan y Bedyddwyr a 'r Trefnyddion Calfinaidd.

EBENSBURG.

   
Y mae uchelderau mynyddoedd Allegany yn breswylfod i lawer o Gymry<.> Dechreuwyd y [td. 34] sefydliad hwn yn 1796, a chan fod y tir yn lled dylawd a 'r wlad yn fynyddig, nid oes yma fawr o gynydd. Y mae yn debyg iawn i Gymru, ond ei bod yn fwy coediog, yn iachus a hyfryd yn yr Haf. Nid ydynt yn codi llawer o lafur, ond yn cadw gwartheg a gwneyd enllyn. Y mae gan yr Annybynwyr achos Cymreig yma, ac addoldai yn y dref a 'r wlad, dan weinidogaeth y Parch. W. Williams. Yma bu y Parch. George Roberts yn ffyddlon lafurio am hir o flynyddoedd, ne's i 'w hen ddyddiau, i raddau ei anghymwyso i 'r gwaith; ac y mae yn gorphen ei fywyd defnyddiol yn barchus yn ngolwg byd ac eglwys; a gobeithio y bydd i haul ei fywyd fyned i lawr yn ddi-boen, i wawrio am byth yn ardaloedd anfarwoldeb. Y mae gan y Bedyddwyr achos a gweinidog yma, er fod rhai ohonynt wedi troi yn ddilynwyr i Alexander Campell.

POTTSVILLE.

   
Y mae Pottsville yn y rhan Ddwyreiniol o dalaeth Pensylvania. Y mae yma, ac yn Minersville, a Corbendale, lawer o weithfeydd glo a haiarn. Nid oes yma amaethwyr, ond gweithwyr ydynt, a 'r rhan fwyaf ohonynt yn dyfod o Ddeheudir Cymru. Y mae gan y Cymry dri o addoldai, a gweinidogion ymdrechgar perthynol iddynt. Y mae y Parch. Evan B. Evans, yn llafurio yn dderbyniol a llwyddiannus yn mhlith yr Annybynwyr.
   
Nid hawdd gwybod cryfder y gwahanol enwadau crefyddol yn yr Unol Daleithiau, ond, mor agos ag y gallwn ddyall, eu bod yn debyg fel y canlyn:— [td. 35]

[1] Annybynwyr 16 o Eglwysi 15 o Weinidogion.
[2] Bedyddwyr 13 --------- 9
[3] Trefn. Calfinaidd 12 --------- 10
[4] Wesleyaid 3 --------- 3
[5] Eglwys Loegr 2 --------- 1

PENNOD IV.

   
Peth pwysig a difrifol yw ymadael â gwlad ein genedigaeth, ein cartref, a 'n cyfeillion—teithio miloedd o filldiroedd dros fôr a thir, a bod yn estroniaid mewn gwlad bell a dyeithr<.> Peth anaddas iawn i neb fod yn ddifeddwl, ac mewn anwybodaeth, wynebu taith annghynefin a hirbell; y mae yn angenrheidiol ceisio cyfarwyddyd gan yr Arglwydd, a difrifol ystyried y peth cyn cychwyn. Y mae llawer o drigolion Cymru wedi myned i America er llesiant mawr iddynt hwy a 'u hiliogaeth, wedi cyfnewid tylodi am ddigonedd o bob bendithion ag sydd yn gwneyd bywyd yn ddymunol, ond nid heb lawer o anhawsderau, a llawer o ymdrechiadau diflino i 'w mwynhau. Y mae ereill drwy gyfnewid gwlad, wedi gwaethygu eu sefyllfaoedd; eu holl ddisgwyliadau hyfrydlawn wedi troi allan yn siomedigaeth a thor-calon iddynt. Y mae America mor ëang, ac o 'r fath amrywiaethau o dir a manteision, y sefydliadau Cymreig mor annhebyg i 'w gilydd, fel na bydd darluniad cywir o un rhan, neu un sefydliad, ddim yn ateb i 'r cwbl. Fel y mae gwahaniaeth mawr rhwng dyffrynoedd ar lenydd Hafren, â mynyddig wlad Meirionydd; felly yn gymwys yn yr Unol Daleithiau, a 'r sefydliadau Cymreig yn y Dwyrain a 'r Gorllewin. Dynion a theuluoedd, y rhai sydd yn byw yn gysurus, a golwg am yr un fendith i 'w [td. 36] plant ar eu hol, afreidiol iddynt symud o wlad eu genedigaeth, o herwydd nad allant ddysgwyl yn amgen mewn un wlad arall. Nid hawdd-fyd a chyfoeth, gyda diogi a diota, sydd i 'w ddysgwyl wrth fyned i America. Cofier nad oes yno loches glyd i 'r rhai sydd yn ffoi o afael y gyfraith wladol, ond gallant fod yn sicr “y goddiwedda eich pechod chwi.” Nid ffoi o gyrhaedd gofid, ymdrech, a llafur y maent, ond i gyrhaedd gwell cyfleusderau i lafurio, os bydd gwroldeb a chalon i 'w defnyddio, nag sydd yn gyffredin yn y wlad hon. Cynghoraf y rhai sydd heb arferyd â gweithio, ac heb fawr o awydd at hyny, i beidio a chroesi y dyfnder mawr. Ymroad a diwydrwydd yw cymeriad pawb sydd yn llwyddo yn America, a hwy yn unig sydd a hawl i ddisgwyl am fod yn gysurus a llwyddiannus yn eu hamgylchiadau. Er fod y cyflog yn fawr, nid oes yno le da i fyw wrth lafur dynion ereill heb wneyd dim eu hunain. Y mae pob Freeholder yno, os yn iach, ac yn trin tir, yn gofalu ac yn llafurio ar ei dyddyn. Mae y plant yn cael eu dysgu i lafurio, ac felly rhwng ymdrech rhieni a 'u plant, y mae golud yn cynnyddu yn mhob gwlad. “Deisyfiad y diog a 'i lladd; canys ei ddwylaw a wrthodant weithio: ond llaw y diwyd a gyfoethoga.” Y mae rhai pobl yn myned i America, gan feddwl y bydd pob peth yn dylifo iddynt, yn dysgwyl am ddim ond llwyddiant a hyfrydwch parhaus, ond yn ddiameu y cânt eu siomi yn hyn yn ddirfawr. Ni weddai i neb fyned i America, sydd yn “cyfeiliorni trwy win, ac yn ymryfysu trwy ddiod gadarn,” ni waeth iddynt warth, dirmyg, bywoliaeth, a bedd y meddwyn yma nag yno. Pob un ag sydd yn meddwl treulio [td. 37] ei amser mewn segurdod a diota, na ddysgwylied gysur na llwyddiant yn y wlad lle y mae y diodydd meddwawl mor rhadlawn a digonol. Dymunaf ar bob un ag sydd am wynebu America, am fod o egwyddor ac arferiad yn llwyr-ymataliwr oddiwrth bob math o 'r diodydd meddwawl, gan nad ydynt o ddim lles i gyfansoddiad, ond y mawr ddrwg i bob dyn. Pobl, wedi cyrhaedd oedran mawr a hen ddyddiau eu goddiweddyd, cynghoraf hwynt gyda golwg ar eu cysur personol, i aros yn ngwlad eu genedigaeth: ond os ydynt am wneuthur daioni i 'w plant, trwy aberthu peth o 'u cysur wrth newid eu gwlad, gwell iddynt hwy a 'u teulu fyned i America, yr hyn a fydd yn sicr yn fendith fawr i 'w hiliogaeth. Ond yn awr pwy sydd yn debyg o wella eu hamgylchiadau wrth gyfnewid gwlad? Nid allaf ddywedyd yn benderfynol, ac anffaeledig, am fod hyny dan fendith yr Arglwydd, yn ymddybynu arnynt eu hunain: ond gallaf ddywedyd hyn, nad ydyw myned yn unig i wlad dda, yn gwneyd neb yn gyfoethog na chysurus. Y mae yn ofynol iddynt ddysgwyl gwynebu peth caledi, ac ymddifadrwydd o lawer o bethau, ac i fod yn llafurus a diwyd, onide byddant yn yr un amgylchiad ac yr oeddynt cyn cychwyn. Rhieni, y rhai sydd yn magu teuluoedd, a chanddynt eiddo yn eu meddiant, ac yn methu, bron, a thalu eu ffordd, er gwneyd pob ymdrech tuag at hyny, byddai yn llawer iawn gwell i 'r cyfryw fyned i America, lle y caent, yn ddiamau, cyn hir, weled cyfnewidiad mawr ar eu byd, a hyny er gwell; y mae yno, ar ol eu llafur a 'u hymdrech, lawer gwell lle iddynt ddysgwyl cael mwynhau eu gwobr. Y mae llawer o anhawsderau yn goddiweddyd [td. 38] dyeithriaid mewn gwlad bell—anadnabyddiaeth o waith, ac iaith y lle; weithiau afiechyd a siomedigaethau; ond er y cwbl, ar ol dyoddef, a diflin ymdrechu, fe fydd i 'r teulu well taledigaeth: ac yn mhen y flwyddyn, gallant lawenhau fod gwenau Duw arnynt, a 'u bod yn mhell o gyrhaedd yr House of Industry, ac fod ganddynt gartref cysurus, a golwg am yr unrhyw gynysgiaeth i 'w plant, pan y byddant hwy yn pydru yn y graian oer. Pobl ieuainc, sobr, diwyd, a ffyddlawn, morwynion a gweision, yn nghyd a chelfyddydwyr cyffredin, gweithgar, a medrus, sydd addas i fyned i America. Y mae traul am ddilladu yn llawer mwy yno nag yma, er hyny, ond iddynt fod yn gynnil, gallant gadw llawer o 'u henill. Yn mhell yn y Gorllewin, sef, Ohio, Indiana, ac Illinois, a 'r taleithiau newydd, Jowa a Wisconsen, ydyw y lle goreu i gael tir da am ychydig o arian. Y mae llaweroedd yn oedi newid eu gwlad hyd ne's byddo eu meddianau bron wedi darfod, a braidd y bydd digon ganddynt i 'w dwyn i dir, a thrwy hyny yn aros yn yr hen daleithiau, neu yn dechreu mewn gwlad newydd, dan lawer o anfanteision. Peth lled galed yw i deulu ddechreu gydag ychydig o foddion mewn gwlad estronol; ond gallaf ddweyd fod llawer wedi gosod eu traed ar dir America heb ddim, ond yn awr yn esmwyth eu hamgylchiadau, wedi gwneyd eu hunain, trwy ymdrech, yn gysurus eu byd. Ond eto, nid pawb sydd felly. Gwlad dda y mae miloedd o hen Gymry wedi cael yr Unol Daleithiau; a bydd gan eu plant achos priodol i ddiolch yn barhaus am wrolder eu tadau yn gwynebu y geirwon dònau, i sefydlu yn yr anialwch, a throsglwyddo iddynt etifeddiaeth hyfryd, [td. 39] a mwynhad o iawnderau dynol i farnu drostynt eu hunain mewn pethau gwladol a chrefyddol. Ychydig ar ol bod yn America, a dychwelyd i 'w hen wlad, sydd yn dewis aros ynddi; eu tyniad sydd yn ol i fyw a marw dan gysgod canghenau y Tree of Liberty. Pobl ieuainc sydd wedi arfer â gweithio, a chanddynt arian, y mae yn America bob cyfleusdra iddynt i gael llôg da amdanynt; neu brynu tir mewn gwledydd newyddion, yr hwn, trwy ei adael am ychydig flynyddau, fydd wedi codi, a dyfod yn werthfawr iawn. Gormod o duedd sydd yn y Cymry i aros yn yr hen sefydliadau, neu i ddewis tir uchel a thoredig; ar ol gadael cartrefi, a chyfleusderau crefyddol, oedd unwaith yn eu meddiant; ni waeth iddynt ymdrechu i gael lle da, a thir ffrwythlawn, fe fydd i 'r wlad gynnyddu, a breintiau crefyddol i 'w chanlyn. Ond iddynt hwy gadw gyda 'r arch yn bersonol a theuluaidd, fe fydd moddion gras yn fuan yn eu cyraedd. Nid oes yn bresenol lawer o 'r dir y llywodraeth heb ei werthu, yr hwn sydd yn 6s a 6c yr acr; ond y mae digonedd yn mhellach i 'r Gorllewin, yr hwn sydd yn lle manteisiol iawn i brynu, gyda golwg ar gael tyddynod mewn amser dyfodol, neu i 'w hail-werthu.
   
Pan ar y môr, clywais hen Sais o Loegr, wrth ddychwelyd i 'w wlad, wedi cael ei siomi yn America, yn dywedyd ei wrthwynebiadau yn ei herbyn fel y canlyn:—1. Fod yno ormod o gydradd rhwng y gwas a 'r meistr, y ddau yn cyd-weithio, yn cyd-fwyta, ac yn cyd-gyfeillachu —merch i Independent Freeholder yn codi oddiwrth y ford i wneyd lle i 'r gwas: a fu erioed y fath beth?—ni allaswn ei ddyoddef.—2. Ni's gall [td. 40] Gentleman Farmer fyw yn America, y mae pawb yno yn gweithio, ac heb hyn nid oes llwyddo. Gyru fy ngweision, ac edrych arnynt, a bod yn ddiymdrech fy hun, yw fy ffordd i; ond ni etyb hyny yno; y mae yn rhaid i bawb weithio; ni allaswn i byth blygu i hyn.—3. Dynion sydd am gael cysuron yn eu bywyd, trwy dreulio eu hamser mewn segurdod, diota, a chwmni difyr, hela, a rhedeg ceffylau, er fod ganddynt ddigonedd o arian, nid ydynt yn cael y parch sydd yn ddyledus iddynt, nac ychwaith gyfleusderau i fwynhau bywyd difyr.—4. Nid ydyw eu cwrw a 'u gwirod cystal!! Y mae yn rhaid cyfaddef fod llawer o wirioneddau yn y gwrthddywediadau hyn, eto dymunaswn fod mwy. Wrth weled a chlywed y dyn siomedig, braidd nad ofnais ei fod ar y ffordd i fyned i ddiweddu ei ddyddiau o fewn muriau yr House of Industry; neu, o leiaf, heb fod yn Gentleman Farmer. Dyna angraifft dda o ddynion, y rhai sydd yn anaddas i fyned i America; canys hyn fydd eu rhan, naill ai bod yn annedwydd yno, neu ddychwelyd adref wedi cael eu siomi. Y dynion sydd a chymhwysderau addas i 'r daith hon, ydynt y rhai sydd yn dysgwyl cael dail surion, a chwpaneidiau chwerwon, yn gymysgedig â 'r melus win; dyna y rhai na chânt eu siomi wrth gyfnewid eu gwlad. Wrth fyned i America y mae llawer o anhawsderau i 'w gwynebu, sef gadael gwlad, teithio dros fôr a thir, iaith ac arferiadau newyddion i 'w dysgu, a dechreu y byd drachefn—mewn gair, y mae myned i America yn chwyldröad mewn bywyd dyn.
[td. 41]

Y DAITH.

   
Ychydig o bethau sydd yn talu y draul a 'r drafferth i 'w cludo i America, am eu bod mor isel eu pris, a hawdd i 'w cael yno fel yma. Dillad o frethyn a lliain wedi eu gwneyd, gwelyau (y rhai fydd barod ar y daith) ac ychydig o fân bethau ereill, sydd o werth eu cludo mor bell. Da fyddai rhoddi gorchudd o liain bras am y gwelyau i 'w cadw yn ddiogel ar y daith. Ceir llestri addas at y fordaith, a chyfarwyddiadau beth fydd yn ofynol, yn Liverpool; rhwystr ac anhwylusdod parhaus fydd i 'r teithwyr oddiwrth eu luggage; goreu pwy leiaf fydd ohonynt. Y mae pob math o ddillad, llestri pridd, a chyllill a ffyrch, yn llawer drutach yno nag yma; ni cheir myned a dim, ond yr hyn a fyddo angen ar y teulu, heb dalu teyrnged (duty) amdanynt. Yn gyffredin, byddaf yn gweled fod arian yn well na llawer o luggage, ar ol cyrhaedd tir America. Mewn perthynas i gyfnewid arian, os bydd aur Lloegr, (Sovereigns) ni raid eu cyfnewid, am eu bod yn gymeradwy trwy yr holl Unol Daleithiau. Bydd yn well i deuluoedd, ar ol cyrhaedd Liverpool, gymeryd ystafell, (room) a byw ynddi ar eu hymborth eu hunain, hyd nes y byddo y llong yn barod i gychwyn. Liverpool yw y lle goreu i gymeryd llong i fyned i America, am fod yno rai yn hwylio yn wythnosol, ac weithiau yn ddyddiol, a thrwy hyny yn rhoddi llawer o le i ddewis. Mewn trefydd mawrion, fe fydd i 'r teithwyr gyfarfod â phob math o ddynion; gwelant lawer mewn rhith-gyfeillion, yn ymddangos yn hynod o barod i 'w cynnorthwyo, trwy gymeryd llong, a pharotoi ymborth iddynt; ond dylai pawb fod yn wiliadwrus, i beidio a chredu pob peth a [td. 42] glywant, ond edrych a siarad drostynt eu hunain, wrth gymeryd llong: ond fe fydd cynnorthwy dynion ag sydd deilwng o ymddiriediad, ac yn gyfarwydd â llongau, a pharotoi erbyn mordaith, yn llawer o leshad a boddlonrwydd; dylai pawb fod yn ofalus rhag iddynt gael eu cam-arwain a 'u twyllo. Yr arwydd oreu fod llong yn myned i hwylio yn ddioed, ydyw, pan y byddo wedi ei llwytho; ac nid geiriau teg am gychwyn, ond cael golwg ar y llwyth ; dyna y ffordd sicraf i wybod ei hagosrwydd i gael codi ei hwyliau. Y mae rhai, ar ol cymeryd llong, wedi gorfod aros yn Liverpool, weithiau, am amser maith, heb gael cychwyn yn ol y cytundeb. Gan fod y llongau yn aros yn Liverpool yn hwy na 'r addewid heb gychwyn, byddai yn ddoethach i 'r teithwyr fynu cael eu cytundeb yn ysgrifenedig ganddynt; ac addewid am hyn a hyn y dydd, am bob diwrnod y byddant yn gorfod aros am y llong tros yr amser penodedig. Y draul am gario gyda 'r Packets, (yn y Steerage) ydyw o 4 i 5 punt; yn y Cabin am £25. Ceir myned gyda llongau Marsiandwyr da a chyflym, am o 3 i bedair punt, yn y Steerage; yn y Cabin am o 15 i 20 punt. Y mae llongau yr America yn rhagori yn fawr ar rai Brydain i fyned yno; ac y maent i 'w cael yn barhaus yn Liverpool. Y mae Packets yn wastad yn gadael y porthladd ar y dydd pennodedig, os bydd y tywydd yn caniatau; ond nid oes cymaint o ddal ar y lleill. Ar ol cymeryd llong, gwell cael pob peth yn brydlawn ar ei bwrdd; gosod y luggage a 'r ymborth yn ddyogel cyn cychwyn, fel na byddo dim yn rhydd i gael ei daflu yma a thraw ar y môr; gwell i 'r Cymry barotoi bara, a blawd ceirch, ymenyn, caws, [td. 43] a chig, cyn gadael eu cartref—dyma yr ymborth iachaf, a goreu ar y fordaith; ceir tê, coffi, siwgr, triagl, halen, &c., yn Liverpool. Dyna yr ymborth sydd yn angenrheidiol, er y gall pawb fyned a ddewisant. Rhaid parotoi ymborth gogyfer a 6 neu 8 wythnos; gwell gormod na rhy fach: ond fe fydd y gweddill yn fuddiol ar ol cyrhaedd New York. Gwell i ddyeithriaid, am ychydig amser ar ol myned yno, ddilyn eu harferiad cyffredin o fyw, fel y byddo eu hiechyd yn well. Nid oes angen am wirodydd ar y fordaith; os byddant yn ofynol fel meddyginiaeth, byddant i 'w cael gan y Cadben; cadw y corff yn dymherus sydd yn beth da iawn tuag at fwynhau iechyd ar y môr: am hyny bydd ychydig o Epsom salts neu Rhubarb yn llesol, os bydd angen am hyny. Iselder meddwl, difaterwch, a segurdod, yw haner afiechyd y môr; myned ar y bwrdd, a cherdded oddiamgylch, a chyfeillach siriol gyda 'u gilydd, yw y meddyg goreu i gadw rhagddo, ac hefyd i 'w wellhau. Ar y môr, dylai pawb ymdrechu i gydymddwyn â 'u gilydd, ac i fod yn gariadus a chymwynasgar, fel y byddo eu taith yn gysurus, a phawb i ymadael mewn tangnefedd. Ar ol cyrhaedd y tir, os yn aros yn y porthladd, gwell iddynt ymdrechu am waith yn ddioed; a bod yn ofalus am eu hiechyd, eu cymeriad, a 'u llwyddiant, trwy beidio segura, diota, a myned i gwmni afreolus. Dyma sydd wedi drygu canoedd o ddynion ar ol cyrhaedd America. Y mae yma le da i weision, a morwynion, a chrefftwyr, yn y dinasoedd mawrion; ond nid cystal i deuluoedd; gwell lle i 'r cyfryw mewn gwlad neu bentrefi.
[td. 44]

CYFARWYDDYD O NEW YORK.

   
Na wrandewch ar ffug-gyfeillion yma yn fwy nag yn Liverpool; ceir digon yn barod i 'ch cyfarwyddo, ond gwell chwilio a barnu drostoch eich hunain. Y mae Offices yn New York i gael gwybodaeth am y daith; yma ceir clywed a gwybod pob peth, fel y gall pawb wybod y ffordd oreu i fyned yn eu blaen. Os am fyned i Utica, neu y rhanau Gogleddol o Ohio, gofyner am y fan lle mae yr agerdd-fadau i Albany yn cychwyn; yno fe wêl pawb drostynt eu hunain; felly am bob man arall. Gan mai arian America a droir yma, rhoddaf y prisiau yn ddolars—pob dolar yn cyfateb i 4s a 6d. Y daith a 'r prisiau fel y canlyn:—

[15] O New York i Albany, 160 mill. (agerdd-fad)...... 2 ddolar
[16] O Albany i Utica 110 mill. (camlas).............. 1 ½ eto
[17] O Utica, i Buffalloe, 254 mill. (camlas)............ 3 ¾ eto
[18] O Buffalloe i Cleaveland, 193 mill. (agerdd-fâd).... 2 ½ eto
[19] O Cleaveland i Newark, 171 mill. (camlas)........ 2 eto
[20] O Newark i Columbus, 40 mill. (camlas) ........ ¾ eto
[21] O Columbus i afon Ohio, 82 mill. (camlas)........ 1 ¼ eto
[22] O Afon Ohio i Cincinnatti, 100 mill. (agerdd-fâd).. 1 eto
[23] Y daith oll yn 1,110 milldir.—Y draul oll yn 14 ¾ dollars.
   
Gwybydded pawb nad ydynt i gael eu hymborth a 'u cludiad am y prisiau uchod, ond eu gwelyau a 'u cludiad yn unig. Os byddis yn cymeryd y Cabin Passage, bydd o 42 i 50 dollars. Gorphenir y daith uchod gyda rhwyddineb cyffredin, mewn o 15 i 18 o ddyddiau. Y ffordd i fyned i Putnam a Vanwert, yn Ohio, ydyw o Cleaveland i Perrysburg, ar Afon Maumee; ac oddiyno i Kalida, neu Lima, mewn gwageni.
   
Taith arall i Cincinnatti, trwy Pensylvania:—

[td. 45]
[34] O New York i Philadelphia, 100 mill. (agerdd-fâd) 1 ½ dol.
[1] O Philadelphia i Columbia. 81 mill. (Rail-Road).... 1 ½ eto
[2] O Columbia i Pittsburg, 313 mill. (camlas)........ 4 ½ eto
[3] O Pittsburg i Cincinnatti, 500 mill. (agerdd-fâd).... 3 eto
[4] Y daith oll yn 994 milldir.—Y draul oll yn 10 ½ dollars.
   
Y Cabin Passage o 40 i 45 dollars. Gorphenir y daith mewn o ddeg i ddeuddeg diwrnod. Y mae yn ofynol i dalu am y luggage wrth y cant, os bydd mwy na deugain pwys.
   
Y neb a fyddo am fyned i Palmyra, dylent ymadael â 'r gamlas yn Akron, 39 milldir o Cleaveland; os i Radnor, gadael y gamlas yn Columbus; os i Ebensburg, gadael y gamlas yn Johnstown, 285 milldir o Philadelphia; os i Galia, neu Jackson, gadael Afon Ohio yn Galliopolis, 270 milldir o Pittsburg. Gellir dyfod y ffordd hon i Cincinnatti, ac oddiyno, ar y gamlas, i Piqua, 90 milldir; ac oddiyno, 40 neu 50 milldir, i Putnam a Vanwert, mewn gwagen. Os am fyned i Indianna, Illinois, Wisconsin, neu Iowa, i lawr Afon Ohio ydyw y ffordd oreu.
   
Wrth deithio, gofaled pawb am beidio yfed dwfr oer pan yn chwys; i beidio aros allan yn y nos; ac o fwyta ymborth iachus yn brydlawn; a thrwy wneuthur felly, ni byddant mor debyg o gael afiechyd. Ar ol cyrhaedd pen y daith, cymeryd amser, a gwrandaw ar gynghorion cyfeillion sydd wedi bod yn hir yno, sydd beth hynod o lesiol. Os bydd arian ganddynt, gwell iddynt brynu tir wedi ei arlwyso; ond os na fydd ganddynt, gwell iddynt brynu tir coed, o 20 i 40 o Acrau, a 'u crino, trwy dori eu rhisgl hwynt, a 'u gadael am dair blynedd, wedi hyny bydd yn hawdd i 'w arlwyso. Ar ol iddynt brynu tir coediog, a thori eu rhisgl, gwell iddynt gymeryd tir ar rent am dair blynedd, [td. 46] a chodi stock dda arno, wedi hyny bydd y coed wedi crino, ac yn hawdd i 'w llosgi, a 'r tir yn barod i 'w arlwyso. Nid da i ddyeithriaid fyned yn uniongyrchol i agoryd tir coediog, am fod cymaint yn fwy o waith gydag ef na phe baent yn aros iddynt grino.

DYFFRYN MISSISSIPPI.

   
Dyma yr enw a roddir i 'r rhan hono o 'r Unol Daleithiau sydd yn cael ei ddwfrhau gan Afon Mississippi, a 'i holl ganghenau, yr hwn sydd yn gorwedd rhwng yr Allegany a 'r Mynyddoedd Creigiog, yn 1,400 milldir o 'r De i 'r Gogledd; ac yn 1,500 o 'r Dwyrain i 'r Gorllewin; yn cynwys 833,000,000 o gyfeiriau o dir. Yn y dyffryn helaeth hwn y mae taleithiau Ohio, Indiana, Illinois, Missouri, Mechigan, Kentucky, Tennessee, Mississippi, Alabama, Arkansas, Louisiana, Jowa, a Wisconsin; yn nghyda gwlad helaeth sydd yn feddiannol gan yr Indiaid. Yn y flwyddyn 1790, nid oedd yno ond 100,000 o bobl wynion; ond yn bresenol y mae mwy na 7,000,000. Meddylir nad oes un rhan o 'r byd yn cynwys y fath helaethrwydd o dir da a ffrwythlawn a hwn. Y mae pob rhan o 'r dyffryn yn cael ei ddwfrhau gan afonydd mawrion a mordwyol; ac yn addas i wneyd camlasau a ffyrdd. Nid oes ynddo un mynydd i 'w weled; y tir yma a thraw yn fryniog; ond yn gyffredin yn wastadedd. Y mae yn cael ei ranu yn ddwy ran, sef yr Isaf a 'r Uchaf. Y mae yr Isaf yn y Deheudir, islaw arllwysiad Afon Ohio i 'r Mississippi, yr hwn sydd yn cynwys saith o daleithiau, sef, Kentucky, Tennessee, Alabama, Mississippi, Louisiana, Arkansas, a Missouri, yn mha rai y [td. 47] maent yn codi cottwm, siwgr, tobacco, a rice: y mae y gaethfasnach yn flodeuog yma hefyd. Mae y tir yn wastad, ac yn hynod o fras a ffrwythlawn. Ei afonydd ydynt y Mississippi, Missouri, y Goch, Cumberland, Arkansas, Tazoo, Jabine, Alabama, Ossage, &c. Cyfrifir Mississippi yn un o 'r afonydd penaf yn y byd; y mae yn cario yr holl ddyfroedd ag sydd yn rhedeg drwy y dyffryn anferth hwn i 'r môr. Y mae ei chychwyniad o 'r Llyn Ceder Coch Uchaf, (Upper Red Ceder Lake,) ac yn ymarllwys i gyfyngfor Mexico. Y mae ei rhediad oddeutu tair mil o filldiroedd. Y mae ei lled, gyferbyn a 'r Afon Missouri, o ddwy fil i ddwy fil a phum cant o latheni. Yn New Orleans, a thu isaf i hyny, y mae hi oddeutu chwech ugain o droedfeddi o ddyfnder. Y mae ynddi lifeiriaint mawrion ddwy neu dair gwaith yn y flwyddyn; y cyntaf ohonynt oddeutu dechreu y flwyddyn newydd; a 'r olaf yn yr wythnos gyntaf yn mis Gorphenaf, pryd y bydd lled yr Afon yn New Orleans o 80 i 100 milldir o led.
   
Y mae y Dyffryn Uwchaf yn cynwys chwech o daleithiau, sef Ohio, Indiana, Illinois, Michigan, Jowa, a Wisconsin. Nid oes yma ddim caethion —ond pawb yn rhyddion—a mawr yw y fendith i 'r wladwriaeth yn gyffredinol, canys y mae y taleithiau rhyddion yn cynnyddu mewn pob peth, yn llawer mwy na 'r taleithiau caeth. Y mae y tir yn dda, ac yn dwyn cnydau helaeth o Indian Corn, gwenith, haidd, rhyg, ceirch, cloron, &c. Ei afonydd ydynt Ohio, Wabash, Illinois, Rock, Kaskaskia, Miami, Sciotio, Muskingum, &c. Y mae yr hin yma yn fwy tymherus ac yn iachach nag yn y Dyffryn Isaf. Y mae glo, plwm, halen, [td. 48] a haiarn i 'w cael mewn llawer o fanau yma. Y mae gweithfeydd plwm helaeth yn Illinois a Missouri; a haiarn, glo, a halen yn Ohio. Y mae yma goed o bob rhywogaeth. Yn y fath ddyffryn anferth a hwn y mae amrywiaeth o dywydd— poeth ac oer—gwlyb a sych—iach ac afiach. Yn y Dyffryn Isaf y mae poethder yn yr Haf, ac ychydig o rew ac eira yn y Gauaf—braidd yn Wanwyn a Haf parhaus. Yn Ohio, Indiana, &c., y mae yn fwy tymherus yr Haf, ond yn oerach y Gauaf—y pedwar tymhor fel yn y wlad hon; ond fod yr Haf yn gynnesach ac yn hwy; a 'r Gauaf yn fyrach. Nid yw y tywydd poeth neillduol yn para ond am ychydig ddyddiau; ac felly y tywydd oeraf. Yn ardaloedd Cincinnatti, gwelais lawer Gauaf heb braidd ddigon o eira i orchuddio y ddaear. Y mae Afon Ohio yn rhewi yn gyffredin bob Gauaf—Ond nid yw y Mississippi byth felly. Anaml y gwelir gwartheg dan dô, ond yn cael eu porthi allan. Y mae llawer o wahaniaeth rhwng trigolion y ddau ddyffryn uchod—Yn yr Isaf y maent yn cynnal y gaethfasnach—yn byw ar lafur annghyfreithlawn—yn ddiog—yn ddiymdrech—yn falch—yn anfoesol—yn caru pob oferedd—ac yn gyffredin yn ddiofn Duw. Ond yn yr Uchaf, y maent yn gyffredin yn gwbl groes i 'r nodweddiad<.>

ENGLYN.

TEITHIAF—hwyliaf fôr heli—ar antur— Mi w'rantaf rhag siomi; Caf yno waith maith i mi, Ag Arian sy 'n rhagori.

Mervinian.

   
LLANRWST: ARGRAFFWYD GAN J. JONES.
© University of Cambridge 2004
Diweddarwyd: 
Last update: