Gweledigaetheu y Bardd Cwsc

Wynne, Ellis. Gweledigaetheu y Bardd Cwsc (Llundain: E. Powell, 1703), pp. 5-49, 54-77.

Cynnwys
Contents

I. Gweledigaeth y BYD. 5
II. Gweledigaeth Angeu yn ei Frenhinllys isa. 54


td. 5

I. Gweledigaeth y BYD.


AR ryw brydnhawngwaith têg o
hâ {~ haf } hir felyn tesog, cymmerais
hynt i ben un o Fynyddoedd
Cymru, a chyda mi Spienddrych
i helpu 'ngolwg {~ fy ngolwg } egwan, i weled pell yn
agos, a phetheu bychain yn fawr; trwy 'r
awyr deneu eglur a 'r tês ysplenydd tawel
canfyddwn ymhell bell tros Fôr y Werddon,
lawer golygiad hyfryd. O 'r diwedd wedi
porthi fy Llygaid ar bôb rhyw hyfrydwch
o 'm hamgylch, onid oedd yr Haul ar gyrraedd
ei gaereu 'n y Gorllewin; gorweddais
ar y gwelltglas, tan syn-fyfyrio decced
a hawddgared (wrth fy ngwlâd fy
hun) oedd y Gwledydd pell y gwelswn
gip o olwg ar eu gwastadedd tirion; a
gwyched oedd gael arnynt lawn olwg, a
dedwydded y rhai a welseint gwrs y byd
wrthifi a 'm bâth: Felly o hir drafaelio

td. 6
â 'm Llygad, ac wedi â 'm Meddwl daeth blinder,
ac ynghyscod Blinder daeth fy Meistr
Cwsc yn lledradaidd i 'm rhwymo; ac â 'i
goriadeu {~ agoriadau } plwm fe gloes ffenestri fy Llygaid
a 'm holl Synhwyreu eraill yn dynn ddiogel.
Etto gwaith ofer oedd iddo geisio
cloi 'r Enaid a fedr fyw a thrafaelio heb y
Corph: Canys diangodd fy Yspryd ar escill
Phansi allan o 'r corpws cloiedig: A chynta
peth a welwn i, yn f' ymyl dwmpath chwareu,
 â 'r fàth gâd-gamlan mewn Peisieu gleision
a Chapieu cochion, yn dawnsio 'n
hoew-brysur. Sefais ennyd ar fy nghyfyng
gyngor awn {~ a awn } i attynt ai peidio, oblegid
ofnais yn fy ffwdan mai haid oeddynt
o Sipsiwn newynllyd, ac na wnaent âs lai
na 'm lladd i i 'w swpper, a 'm llyncu yn ddihalen:
Ond o hir graffu, mi a 'u gwelwn
hwy 'n well a theccach eu gwedd na 'r
giwed felynddu gelwyddog honno. Felly
anturiais nesau attynt, yn ara' dêg fel iâr
yn sengi ar farwor, i gael gwybod beth
oeddynt; ac o 'r diwedd gofynnais eu cennad
fel hyn o hyd y nhîn {~ fy nhin }; Attolwg lan
gyn'lleidfa, 'r wy 'n deall mai rhai o bell
ydych, a gymmerech i Fardd i 'ch plith
sy 'n chwennych trafaelio? ar y gair distawodd
y trŵst, a phawb a 'i lygad arnai,
a than wichian, Bardd, ebr un, trafaelio eb
un arall, i 'n plith ni ebr y trydydd; erbyn
hyn mi adwaenwn rai oedd yn edrych

td. 7
arnai ffyrnicca o 'r cwbl: Yna dechreuasant
sibrwd o glust i glust ryw ddirgel swynion
ac edrych arnai, a chyda hynny torrodd
yr hwndrwd, a phawb a 'i afel yno' i, codasant
fi ar eu 'scwyddeu, fel codi Marchog
Sîr; ac yna ymaith â ni fel y Gwynt tros
Dai a Thiroedd, Dinasoedd a Thyrnasoedd,
a Moroedd a Mynyddoedd, heb allu dal
sulw ar ddim gan gyflymed yr oeddynt yn
hedeg. A phe' sy waeth, dechreuais ammeu
 nghymdeithion {~ fy nghymdeithion } wrth eu gwaith yn
gwrthuno ac yn cuchio arnai eisieu canu
dychan i 'm Brenin fy hun. Wel', ebr fi
wrthi fy hun, yn iâch weithian i 'm hoedl;
f' â 'r carn-witsiaid melltigedig hyn â mi
i fwytty neu seler rhyw Bendefig, ac yno
i 'm gadawant i dalu iawn gerfydd fy
nghêg am eu lledrad hwy: Neu gadawant
fi yn noeth lumman i fferri ar Forfa Caer
neu ryw Oerle anghysbell arall. Ond
wrth feddwl fod y wynebeu a adwaenwn
i wedi eu claddu, â rheini 'n fy mwrw ac eraill
yn fy nghadw uwchben pob Ceunant,
deellais nad Witsiaid oeddynt, ond mai rhai
a elwir y Tylwyth têg. Ni chawn i attreg
nad dyma fi 'n ymyl yr anferth Gastell tecca
'r a welais i 'rioed, a Lynn tro mawr o 'i
amgylch: yma dechreuasant roi barn arnai;
awn âg e 'n anrheg i 'r Castell, ebr
un; nage crogyn ystyfnig taflwn ef i 'r
Llynn, ni thâl mo 'i ddangos i 'n Twysog

td. 8
mawr ni, meddei 'r llall; a ddywed e' ei
Weddi cyn cyscu? ebr y trydydd. Wrth
iddynt sôn am Weddi, mi a riddfenais ryw
ochenaid tuac i fynu am faddeuant a help;
a chynted y meddyliais, gwelwn ryw Oleuni
o hirbell yn torri allan, oh mor brydferth!
fel yr oedd hwn yn nesau 'r oedd fy
nghymdeithion i 'n tywyllu ac yn diflannu;
a chwippyn dyma 'r Disclair yn cyfeirio
tros y Castell attom yn union, ar hyn
gollyngasant eu gafel, ac ar eu hymadawiad
troesant attai guwch uffernol; ac
oni basei i 'r Angel fy nghynnal, baswn
digon mân er gwneud pastai cyn cael daiar.
Beth, eb yr Angel, yw dy neges di yma?
Yn wîr, f' arglwydd ebr finneu, nis gwn
i p'le yw yma, na pheth yw fy neges, na
pheth wy fy hun, na pheth aeth a 'm rhan
arall i, yr oedd genni bedwar aelod a phen,
a pha un ai gartre y gadewais, ai i ryw
geubwll, canys cô {~ cof } 'genni dramwy tros lawer
o geunentydd geirwon, y bwriodd y
Tylwyth-têg fi, ys têg eu gwaith, nis gwn i
Syr, pe crogid fi. Têg eb ef y gwnaethent
 â thi oni bai 'nyfod {~ fy nyfod } i mewn pryd
i 'th achub o gigweinieu Plant Annwfn.
Gan fod cymmaint dy awydd i weled
cwrs y Byd bach, cês orchymyn i roi i ti
olwg arno, fel y gwelit dy wallco 'n anfodloni
i 'th stâd a 'th wlâd dy hunan.
Tyrd gyda mi, neu dro, eb ef, a chyda 'r

td. 9
gair, a hi 'n dechreu torri 'r wawr, f' a 'm
cippiodd i 'mhell bell tu ucha 'r Castell,
ac ar scafell o gwmmwl gwyn gorphwysasom
yn yr entrych, i edrych ar yr Haul
yn codi, ac ar fy nghydymaith nefol oedd
lawer discleiriach na 'r Haul, ond bod ei
lewyrch ef ar i fynu gan y llen-gêl oedd
rhyngddo ac i wared. Pan gryfhaodd yr
Haul rhwng y ddau ddisclair, gwelwn y
Ddaiar fawr gwmpasog megis pellen fechan
gron ymhell odditanom. Edrych
yrwan, eb yr Angel, ac a roes i mi ddrychyspio
amgen nac oedd genni fi ar y mynydd.
Pan yspiais trwy hwn, gwelwn betheu
mewn modd arall, eglurach nac erioed o 'r
blaen. Gwelwn un Ddinas anferthol o
faintioli, a miloedd o Ddinasoedd a Theyrnasoedd
ynddi; a 'r Eigion mawr fel Llynntro
o 'i chwmpas, a moroedd eraill fel afonydd
yn ei gwahanu hi 'n rhanneu. O hir
graffu, gwelwn Hi yn dair Stryd fawr tros
ben; a Phorth mawr discleirwych ymhen
isa pob Stryd, a Thwr teg ar bob Porth, ac
ar bob Tŵr yr oedd Merch landeg aruthr
yn sefyll yngolwg yr holl Stryd; a 'r tri
Thwr o 'r tu cefn i 'r Caereu 'n cyrraedd at
odre 'r Castell mawr hwnnw. Ar ohyd
i 'r tair anferthol hyn, gwelwn Stryd groes
arall, a honno nid oedd ond bechan a
gwael wrth y lleill, ond ei bod hi 'n lanwaith,
ac ar godiad uwch-law 'r Strydoedd

td. 10
eraill, yn mynd rhagddi uwch uwch tu a 'r
Dwyrein, a 'r tair eraill ar i wared tu a 'r
Gogledd at y Pyrth mawr. Ni fedrais i
ymattal ddim hwy heb ofyn i 'm cyfell a
gawn gennad i siarad. Beth ynteu, eb yr
Angel, ond siarad ti gwrando 'n ystyriol,
na orffo dywedyd yr un peth i ti ond unwaith.
Gwna' f' arglwydd, ac ertolwg,
ebr fi, ple yw 'r Castell draw yn y Gogledd?
Y Castell frŷ yn yr awyr, ebr ef, a pieu
Belial, Tywysog llywodraeth yr Awyr, a
Llywodraethwr yr holl Ddinas fawr obry,
fe 'i gelwir Castell Hudol, canys hudol mawr
yw Belial, a thrwy hudoliaeth y mae e 'n
cadw tan ei faner y cwbl oll a weli; oddieithr
y Stryd fechan groes accw. Twysog
mawr yw hwn, a miloedd o dwysogion
dano; Beth oedd Cæsar neu Alecsander fawr
wrth hwn? beth yw 'r Twrc a 'r hên Lewis o
Frainc ond gweision i hwn? Mawr, a mawr
tros ben yw gallu, a chyfrwysdra, a diwydrwydd
y t'wysog Belial a 'i luoedd hefyd sy
ganddo heb rifedi 'n y Wlâd isa. I ba beth
y mae 'r Merched yna 'n sefyll, ebr fi, a
phwy ydynt? Yn ara, eb yr Angel, un
cwestiwn ar unwaith; i 'w caru a 'u haddoli
y maent yna. Nid rhyfedd yn wir ebr fi,
a hawddgared ydynt, pettwn perchen traed
a dwylo fel y bûm, minneu awn i garu
neu addoli y rhain. Taw, taw, ebr ynte,
os hynny a wneit â 'th aelodeu, da dy fôd

td. 11
hebddynt: gwybydd ditheu yspryd angall,
nad yw 'r tair Twysoges hyn ond tair hudoles
ddinistriol. Merched y Twysog Belial,
a 'u holl degwch a 'u mwynder sy 'n
serenni 'r Strydoedd, nid yw ond wynebiad
ar wrthuni a chreulonder; mae 'r
Tair oddimewn fel eu Tâd, yn llawn o
wenwyn marwol. Och fi, ai possibl ebr
fi 'n athrist iawn, ar glwyfo o 'u cariad?
Rhy wir ysywaeth, ebr ef. Gwŷch gennit
y pelydru y mae 'r tair ar eu haddolwyr;
wel', ebr ef, mae yn y Pelydr accw lawer
swyn ryfeddol, mae e 'n eu dallu rhag gweled
bâch, mae e 'n eu synnu rhag ymwrando
a 'u perygl, ac yn eu llosci â thrachwant
diwala am ychwaneg o hono, ac ynte 'n
wenwyn marwol, yn magu ynddynt glefydon
anescorol, na ddichon un meddyg,
iè, nac angeu byth bythoedd ei hiachâu, na
dim oni cheir physygwriaeth nefol a elwir
edifeirwch, i gyfog y drwg mewn pryd cyn
y greddfo 'n rhybell, wrth dremio gormod
arnynt. Pam, ebr fi, na fynn Belial yr
addoliant iddo 'i hunan? Ond yr un peth
yw, eb ef: mae 'r hên Gadno yn cael ei addoli
yn eu ferched, oblegid tra bo dyn
ynglŷn wrth y rhain neu wrth un o 'r tair,
mae e 'n siccr tan nôd Belial, ac yn gwisco 'i
lifrai ef. Beth, ebr fi, y gelwch i 'r tair
Hudoles yna? Y bella draw, eb ef, a elwir
 Balchder, Merch hyna Belial; yr ail yw

td. 12
Pleser; ac Elw ydy 'r nesa yma; y Tair hyn
yw 'r Drindod y mae 'r Byd yn ei addoli. Atlygaf
henw 'r Ddinas fawr wallwfus hon,
ebr fi, os oes arni well henw na Bedlam
fawr? Oes ebr ef, he a elwir y Ddinas
ddihenydd. Och fi, ai Dynion dihenydd,
ebr fi, yw 'r cwbl sy ynddi? Y cwbl oll,
ebr ynte, oddieithr ymbell un a ddiango
allan i 'r Ddinas ucha frŷ, sy tan y Brenin
IMMANUEL. Gwae finneu a 'm heiddo,
pa fodd y diangant, a hwythe 'n llygadrythu
fyth ar y peth sy 'n eu dallu fwyfwy,
ac yn eu hanreithio yn eu dallineb? Llwyr
amhossibl, ebr ynte, fyddei i undyn ddianc
oddiyma, oni bai fod IMMANUEL oddifrŷ
yn danfon ei Gennadon hwyr a
boreu i 'w perswadio i droi atto Ef ei hunion
Frenhin oddiwrth y Gwrthryfelwr, ac yn
gyrru hefyd i ymbell un anrheg o ennaint
gwerthfawr a elwir ffydd, i iro 'u llygaid;
a 'r sawl a gaffo 'r gwir ennaint hwnnw,
canys mae rhîth o hwn fel o bob peth arall
yn y Ddinas ddihenydd, ond pwy bynnac a
ymiro â 'r iawn ennaint, fe wêl ei friwieu
a 'i wallco, ac nid erys yma funud hwy pe
rhoe Belial iddo 'i dair Merch, iè, neu 'r
bedwaredd, sy fwya oll, am aros. Beth y
gelwir y Strydoedd mawr hyn, ebr fi?
Gelwir, ebr ynte, bob un wrth henw 'r
Dwysoges sy 'n rheoli ynddi; Stryd Balchder
yw 'r bella, y ganol Stryd Pleser, y nesa

td. 13
Stryd yr Elw. Pwy ertolwg, ebr fi, sy 'n
aros yn y Strydoedd yma? pa Iaith? pa
Ffordd? pa Genedl? Llawer, ebr ef, o
bob Iaith, a Crefydd, a Chenedl tan yr
Haul hwn, sy 'n byw ymhôb un o 'r Strydoedd
mawr obry; a llawer un yn byw ymhôb
un o 'r tair Stryd ar gyrsieu, a phawb
nesa 'r y gallo at y Porth: a mynych iawn
y mudant heb fedru fawr aros yn y naill,
gan ddäed ganddynt Dwysoges Stryd arall:
A 'r hên Gadno tan ei scafell yn gado i bawb
garu ei ddewis, neu 'r tair os mynn, siccra'
oll yw ef o hono. Tyrd yn nês attynt,
eb yr Angel, ac a 'm cippiodd i wared yn
y llen-gêl, trwy lawer o fwrllwch diffaith
oedd yn codi o 'r Ddinas, ac yn Stryd
Balchder descynnasom ar ben 'hangle o Blasdy
penegored mawr, wedi i 'r Cŵn a 'r Brain
dynnu ei Lygaid, a 'i berchenogion wedi
mynd i Loegr, neu Frainc, i chwilio yno am
beth a fasei can haws ei gael gartre, felly
yn lle 'r hên Dylwyth lusengar daionus
gwladaidd gynt, nid oes rwan yn cadw
meddiant ond y modryb Dylluan hurt, neu
Frain rheibus, neu Biod brithfeilchion, neu 'r
cyffelyb i ddadcan campeu y perchenogion
presennol. Yr oedd yno fyrdd o 'r fâth blasau
gwrthodedig, a allasei oni bai Falchder,
fod fel cynt yn gyrchfa goreugwyr, yn
Noddfa i 'r gweiniaid, yn Yscol Heddwch
a phob Daioni, ac yn fendith i fil o Dai

td. 14
bâch o 'u hamgylch. O ben y Murddyn
yma 'r oeddem yn cael digon o le, a llonydd
i weled yr holl Stryd o 'n deu-ty.
Tai têg iawn, rhyfeddol o uchder, ac o
wychder, ac achos da, o ran bod yno Ymerodron,
Brenhinoedd a Thwysogion 'gantoedd,
Gwŷr mawr a Bonheddigion fyrdd,
a llawer iawn o Ferched o bob gradd;
Gwelwn aml Goegen gorniog fel Llong ar
lawn hŵyl, yn rhodio megis mewn Ffrâm,
a chryn Siop Pedler o 'i chwmpas, ac wrth
eu chlustiau werth Tyddyn da o berlau:
a rhai oedd yn canu i gael canmol eu llais,
rhai 'n dawnsio i ddangos eu llun, eraill
oedd yn paentio i wellau eu lliw; eraill
wrth y Drŷch er's teir-awr yn ymbincio,
yn dyscu gwenu, yn symmud pinneu, yn
gwneud munudie' ac ystumieu. Llawer
mursen oedd yno, na wyddei pa sutt i agor
ei gwefuseu i siarad, chwaethach i
fwytta, na pha fodd o Wir ddyfosiwn i
edrych tan ei thraed; a llawer Yscowl
garpiog a fynnei daeru ei bod hi cystal
Merch fonheddig a 'r oreu 'n y Strŷd; a
llawer yscogyn rhygyngog a allei ridyllio
Ffâ wrth wynt ei gynffon. A mi 'n edrych
o bell ar y rhain a chant o 'r fâth,
dyma 'n dyfod heibio i ni globen o baunes
fraith ucheldrem ac o 'i lledol gant yn spio,
rhain 'n ymgrymmu megis i 'w haddoli,
ymbell un a roe beth yn ei llaw hi. Pan

td. 15
fethodd genni ddyfeisio beth oedd hi, gofynnais;
O ebr 'ynghyfaill, un yw hon sy
â 'i chynnyscaeth oll yn y golwg, etto gweli
faint sy o rai ffolion yn ei cheisio, a 'r
gwaela 'n abl, er sy arni hi o gaffaeliad;
hitheu ni fynn a gaffo ni cheiff a ddymuno, ac
ni sieryd ond a 'i gwell am ddywedyd o 'i
Mamm wrthi nad oes un gamp waeth ar
Ferch ieuanc na bod yn ddifalch wrth garu.
Ar hyn dyma baladr o ŵr a fasei 'n Alderman
ac mewn llawer o swyddeu yn dyfod
allan odditanom, yn lledu ei escill, megis
i hedeg, ac ynteu prin y gallei ymlwybran
o glun i glun fel ceffyl a phwn, o achos y
gêst a 'r Gowt ac amryw glefydon bonheddigaidd
eraill; er hynny ni cheiti ganddo
ond trwy ffafr fawr un cibedrychiad, a chofio
er dim ei alw wrth ei holl ditlau a 'i swyddau.
Oddi ar hwn trois yngolwg tu arall
i 'r Stryd lle gwelwn glamp o bendefig
ieuanc a lliaws o 'i ôl yn dêg ei wên, a llaes
ei foes i bawb a 'i cyrfyddei. Rhyfedd,
ebr fi, fod hwn a hwn accw 'n perthyn i 'r
un Stryd. O, yr un Dwysoges Balchder
sy 'n rheoli 'r ddau, ebr ynteu: Nid yw
hwn ond dywedyd yn dêg am ei neges, hèl
clôd y mae e 'r awron, ac ar fedr wrth hynny
ymgodi i 'r Swydd ucha 'n y Deyrnas;
hawdd ganddo wylo wrth y bobl faint yw
eu cam gan ddrwg swyddogion yn eu gorthrymmu;
etto ei fawrhâd ei hun, nid

td. 16
llesâd y Deyrnas yw corph y gainc. O hir
dremio canfûm wrth Borth y Balchder, Ddinas
dêg ar saith fryn, ac ar ben y Llys tra
ardderchog 'r oedd y Goron driphlyg a 'r Cleddyfeu
a 'r Goriadeu {~ agoriadau } 'n groesion: wel'dyma
Rufain, ebr fi, ac yn hon y mae 'r Pâp yn
byw? ie fynycha' eb yr Angel, ond mae
ganddo Lŷs ymhob un o 'r Strydoedd eraill.
Gyfeiryd â Rhufain, gwelwn Ddinas
a Llys teg iawn, ac arno wedi derchafu 'n
uchel hanner lleuad ar Faner aur, wrth hyn
gwybûm mai 'r Twrc oedd yno. Nesa at y
Porth ond y rhain, oedd lŷs Lewis XIV. o
Ffrainc, fel y deellais wrth ei arfau ef, y
tair Flour-de-lis ar Faner arian ynghrôg uchel.
Wrth selu ar uchder a mawredd y
Llysoedd hyn, gwelwn lawer o dramwy o 'r
naill Lŷs i 'r llall, a gofynnais beth oedd yr
achos; oh! llawer achos tywyll, eb yr
Angel, sy rhwng y tri Phen cyfrwysgry
hyn a 'u gilydd: Ond er eu bod hwy 'n eu
tybio 'u hunain yn addas ddyweddi i 'r tair
Twysoges frŷ, etto nid yw eu gallu a 'u
dichell ddim wrth y rheini. Ie ni thybia
Belial fawr mo 'r holl Ddinas (er amled ei
Brenhinoedd) yn addas i 'w Ferched ef. Er
ei fod e 'n eu cynnyg hwy 'n briod i bawb,
etto ni roes e 'r un yn hollawl i neb erioed.
Bu ymorchestu rhwng y Tri hyn am danynt;
y Twrc a 'i geilw ei hun Duw 'r
ddaiar, a fynnei 'r hyna 'n briod sef Balchder:

td. 17
Nagè, meddei Frenin Ffrainc, myfi
pieu honno sy 'n cadw fy holl ddeiliaid yn
ei Stryd hi, ac hefyd yn dwyn atti lawer o
Loegr a Theyrnasoedd eraill. Mynnei 'r
Spaen y Dwysoges Elw heb waetha i Holland,
a 'r holl Iddewon; Mynnei Loegr y Dwysoges
Pleser, heb waetha i 'r Paganiaid. Ond mynnei
'r Pâp y Tair, ar well rhesymmeu na 'r
lleill i gŷd: ac mae Belial yn ei gynnws
e 'n nesa attynt yn y tair Stryd. Ai am
hynny y mae 'r tramwy rwan, ebr fi? nagè
ebr ef, cyttunodd Belial rhyngddynt yn y
matter hwnnw er 's talm. Ond yr awron
fe roes y tri i wascu i penneu 'nghŷd, pa
fodd nesa y gallent ddifa y Stryd groes accw,
sef Dinas IMMANUEL, ac yn enwedig
un Llys mawr sy yno; o wir wenwyn
ei weled e 'n deccach Adeilad nac sy
yn y Ddinas ddihenydd oll. Ac mae Belial
yn addo i 'r sawl a wnêl hynny, hanner ei
Frenhiniaeth tra fo ef byw, a 'r cwbl pan fo
marw. Ond er maint ei allu a dyfned ei
ddichellion, er maint o Emprwyr Brenhinoedd
a Llywiadwyr cyfrwysgall sy tan ei
Faner ef yn yr anferth Ddinas ddihenydd,
ac er glewed ei fyddinoedd aneirif ef tu
draw i 'r Pyrth yn y Wlâd isa, etto, eb yr
Angel, cânt weled hynny 'n ormod o dâsc
iddynt: Er maint, er cryfed, ac er dichlined
yw 'r Mawr hwn, etto mae yn y Stryd
fâch accw Un sy Fwy nac ynteu. Nid oeddwn

td. 18
i 'n cael gwrando mo 'i resymmau angylaidd
ef yn iawn, gan y pendwmpian yr
oeddynt hyd y Stryd lithrig yma bob yn
awr; a gwelwn rai âg yscolion yn dringo
'r Twr, ac wedi mynd i 'r ffon ucha, syrthient
bendramwnwgl i 'r gwaelod: i ba le
y mae 'r ynfydion accw 'n ceisio mynd, ebr
fi? i rywle digon uchel, eb ef, ceisio y
maent dorri trysordy 'r Dwysoges. Mi
wrantaf yno le llawn, ebr fi. Oes, eb ef,
bob peth a berthyn i 'r Stryd yma, i 'w rhannu
rhwng y trigolion: Pob mâth o arfeu
rhyfel i orescyn ac ymledu; pob mâth o arfeu
 bonedd banerau, scwtsiwn, llyfreu acheu,
gwersi 'r hynafiaid, cywyddeu; pob
mâth o wiscoedd gwychion, storiâu gorchestol,
drychau ffeilsion; pob lliwieu a
dyfroedd i deccâu 'r wynebpryd; pob
uchel-swyddau a thitlau: ac ar fyrr iti, mae
yno bob peth a bair i ddyn dybio 'n well
o hono 'i hun, ac yn waeth o eraill nac y
dylei. Prif Swyddogion y Trysordy hwn
yw Meistred y Ceremoniau, Herwyr,
Achwyr, Beirdd, Areithwyr, Gwenieithwyr,
Dawnswyr, Taelwriaid Pelwyr, Gwniadyddesau
a 'r cyffelyb. O 'r Stryd fawr
hon, ni aethom i 'r nesa lle mae 'r dwysoges
 Elw yn rheoli, Stryd lawn a chyfoethog
aruthr oedd hon, etto nid hanner mor
wŷch a glanwaith a Stryd Balchder, na 'i
phobl hanner mor ehud wyneb-uchel, canys

td. 19
dynion llechwrus iselgraff oedd yma gan
mwyaf. Yr oedd yn y Stryd hon fyrdd o
Hispaenwyr, Hollandwyr, Venetiaid, ac Iddewon
yma a thraw; a llawer iawn o hên bobl
oedrannus. Attolwg Syr, ebr fi, pa ryw o
ddynion yw y rhain? Rhyw Siôn lygad y
geiniog, eb ynte, yw 'r cwbl. Yn y pen isa, cei
weled y Pâp etto, Gorescynnwyr Teyrnasoedd
a 'i Sawdwyr, Gorthrymwyr Fforestwyr,
Cauwyr y Drosfa gyffredin, Ustusiaid
a 'u Breibwyr, a 'u holl Sîl o 'r cyfarthwyr
hyd at y ceisbwl: O 'r tu arall, ebr ef,
mae 'r Physygwyr, Potecariaid, Meddygon;
Cybyddion, Marsiandwyr, Ceibddeilwyr
Llogwyr; Attalwyr degymeu, neu gyflogeu,
neu renti, neu lusenau a adawsid at Yscolion,
Lusendai a 'r cyfryw: Porthmyn,
Maelwyr a fydd yn cadw ac yn codi 'r
Farchnad at eu llaw eu hunain: Siopwyr
(neu Siarpwyr) a elwant ar angen, neu
anwybodaeth y prynwr, Stiwardiaid bob
gradd, Clipwyr, Tafarnwyr sy 'n yspeilio
Teuluoedd yr oferwyr o 'u dâ, a 'r Wlâd o 'i
Haidd at fara i 'r tlodion. Hyn oll o Garnlladron,
ebr ef; a mân-ladron yw 'r lleill,
gan mwya sy ymhen ucha 'r Stryd, sef
Yspeilwyr-ffyrdd, Taelwriaid, Gwehyddion,
Melinyddion, Mesurwyr gwlŷb a sŷch a 'r
cyffelyb. Ynghanol hyn, clywn ryw anfad
rydwst tu a phen isa 'r Stryd, a thyrfa
fawr o bobl yn ymdyrru tu a 'r Porth, a 'r

td. 20
fath ymwthio ac ymdaeru, a wnaeth i mi
feddwl fod rhyw ffrae gyffredin ar droed,
nes gofyn i 'm cyfaill beth oedd y matter;
Trysor mawr tros ben sy 'n y Tŵr yna, eb
yr Angel, a 'r holl ymgyrch sy i ddewis
Trysorwr i 'r Dwysoges yn lle 'r Pâp a drowyd
allan o 'r Swydd. Felly nineu aethom
i weled y 'Lecsiwn. Y Gwŷr oedd yn sefyll
am y Swydd oedd y Stiwardiad, y Llogwyr, y
Cyfreithwyr a 'r Maersiandwyr, a 'r cyfoethocca
o 'r cwbl a 'i cai: (oblegid pa mwya sy gennit,
mwya gei ac y geisi, rhyw ddolur diwala
sy 'n perthyn i 'r Stryd.) Gwrthodwyd y
Stiwardiaid y cynnyg cynta, rhag iddynt
dlodi 'r holl Stryd, ac fel y codaseint eu
Plasau ar furddynnod ei Meistred, felly
rhag iddynt o 'r diwedd droi 'r Dwysoges
ei hun allan o feddiant. Yna rhwng y tri
eraill yr aeth y ddadl; mwy o Sidaneu
oedd gan y Marsiandwyr, mwy o Weithredoedd
ar Diroedd gan y Cyfreithwyr, a
mwy o Godeu llownion, a Bilieu a Bandieu
gan y Llogwyr. Hai, ni chyttunir heno,
eb yr Angel, tyrd ymaith, cyfoethoccach
yw 'r Cyfreithwyr na 'r Marsiandwyr, a
chyfoethoccach yw 'r Llogwr na 'r Cyfreithwyr,
a 'r Stiwardiaid na 'r Llogwyr, a Belial
na 'r cwbl, canys ef a 'u pieu hwy oll a 'u
petheu hefyd. I ba beth y mae 'r Dwysoges
yn cadw 'r Lladron hyn o 'i chylch, ebr
fi? Beth gymmwysach, eb ynte, a hi 'n

td. 21
Ben-lladrones ei hun. Synnais ei glywed
e 'n galw 'r Dwysoges felly, a 'r Bon'ddigion
mwya yno, yn Garn-lladron; Attolwg
f' arglwydd, ebr fi, pa fodd y gelwch y
Pendefigion urddasol yna yn fwy Lladron
na 'Speilwyr-ffyrdd? Nid wyti ond ehud,
ebr ef: Onid yw 'r cnâ êl â 'i gleddy 'n ei
law a 'i reibwyr o 'i ôl, hyd y byd tan ladd,
a llosci, a lladratta Teyrnasoedd oddi ar eu
hiawn berch'nogion, ac a ddisgwyl wedi
ei addoli yn Gyncwerwr, yn waeth na Lleidryn
a gymer bwrs ar y Ffordd-fawr? Beth
yw Taeliwr a ddŵg ddarn o frethyn, wrth
Wr mawr a ddŵg allan o 'r Mynydd ddarn
o Blwy? Oni haeddei hwn ei alw 'n Garnlleidr
wrth y llall? ni ddûg hwnnw ond cynhinion
oddiarno ef, eithr efe a ddûg oddiar
y tlawd fywioliaeth ei anifail, ac wrth hyn-
ny, ei fywioliaeth ynteu a 'i weiniaid. Beth
yw dwyn dyrneid o flawd yn y Felin,
wrth ddwyn cant o hobeidieu i bydru, i
gael gwedi werthi un ymhrîs pedwar? Beth
yw Sawdwr lledlwm a ddycco dy ddillad
wrth ei gleddyf, wrth y Cyfreithwyr a
ddwg dy holl stât oddiarnat, â chwil gwydd,
heb nac iawn na rhwymedi i gael arno? A
pheth yw Pigwr-pocced, a ddygo bumpynt,
wrth gogiwr dîs, a 'th yspeilia o gantpunt
mewn traean nôs? A pheth yw Hwndliwr
ath siommei mewn rhyw hên geffyl,
methiant, wrth y Potecari a 'th dwylla o 'th

td. 22
arian a 'th hoedl hefyd am ryw hên physygwriaeth
fethedig? Ac etto, beth yw 'r
holl Ladron hyn wrth y Pen-lladrones fawr
yna sy 'n dwyn oddiar y cwbl yr holl betheu
hyn, a 'u calonneu, a 'u heneidieu yn
niwedd y ffair. O 'r Strd fawaidd anrhefnus
hon, ni aethom i Stryd y Dwysoges
Pleser, yn hon gwelwn lawer o Fritaniaid,
Ffrancod, Italiaid, Paganiaid, &c. Twysoges
lân iawn yr olwg oedd hon, â gwîn
cymmysc yn y naill law, a chrŵth a thelyn
yn y llall: ac yn ei Thrysorfa aneirif
o blesereu a theganeu i gael cwsmeriaeth
pawb, a 'u cadw yn gwasanaeth ei Thâd,
Iè, 'r oedd llawer yn dianc i 'r Stryd fwyn
hon, i fwrw tristwch eu colledion a 'u dyledion
yn y Strydoedd eraill. Stryd lawn
aruthr oedd hon, o bobl ieuanc yn enwedig;
a 'r Dwysoges yn ofalus am foddio
pawb a chadw saeth i bôb nôd. Os sychedig
wyt, mae i ti yma dy ddewis ddiod:
Os ceri ganu a dawnsio, cei yma dy wala.
Os denodd glendid hon, di i chwantio
corph Merch, nid rhaid iddi ond codi bŷs
ar un o Swyddogion ei Thâd (sy o 'i hamgylch
bôb amser er nas gwelir) a hwy a
drosglwyddant iti fenyw yn ddiattreg;
neu gorph putten newydd gladdu, a hwytheu
 ânt i mewn iddo yn lle enaid, rhag i ti
golli pwrpas mor ddaionus. Yma mae tai
têg a gerddi tra hyfryd, perllannau llownion,

td. 23
llwyni cyscodol, cymmwys i bob dirgel
ymgyfarfod i ddal adar, ac ymbell gwnningen
wen: afonydd gloew tirion i 'w pyscotta,
meusydd maith cwmpasog, hawddgar
i erlid ceunach a chadno. Hyd y Strŷd
allan gwelit chwareuon Interlud, siwglaeth a
phob castieu hûg, pob rhyw gerdd faswedd
dafod a thant, canu baledeu, a phôb digrifwch;
a phob rhyw lendid o Feibion a
Merched yn canu ac yn dawnsio, a llawer
o Stryd Balchder yn dyfod yma i gael eu
moli a 'u haddoli. Yn y tai, gwelem rai ar
welâu sidanblu yn ymdrobaeddu mewn
trythyllwch: rhai 'n tyngu ac yn rhegu
uwchben y Dabler, eraill yn siffrwd y Disieu
a 'r Cardieu. Rhai o Stryd Elw a chanddynt
ystafell yn hon, a redeint yma a 'u harian iw
cyfry, ond ni arhoent fawr rhag i rai o 'r
aneirif deganeu sy yma eu hudo i ymadel â
pheth o 'u harian yn ddi-lôg. Gwelwn eraill
yn fyrddeidieu yn gwledda, a pheth o
bob creadur o 'u blaen; a chwedi i bob un
o saig i saig folera cymmaint o 'r dainteithion,
ac a wnaethei wledd i ddŷn cymmedrol
tros wythnos, na bytheirio oedd y
grâs bwyd, yna moeswch iechyd y brenin,
yna iechyd pob cydymaith da, ac felly
ymlaen i foddi archfa 'r bwydydd, a gofalon
hefyd: yna Tobacco, yna pawb a 'i Stori
ar ei gymydog, os gwir, os celwydd, nis
gwaeth, am y bo hi 'n ddigrif, neu 'n ddiweddar,

td. 24
neu 'n siccr, os bydd hi rhywbeth
gwradwyddus. O 'r diwedd rhwng ymbell
fytheiriad trwm, a bod pawb â 'i bistol pridd
yn chwythu mŵg a thân, ac absen iw
gymydog, a 'r llawr yn fudr eusys rhwng
colli diod a phoeri, mi ofnais y gallei gastie'
butrach na rheini fod yn agos, ac a ddeisyfiais
gael symmud. Oddi yno ni aethom
lle clywem drŵst mawr, a churo a dwndrio,
a chrio a chwerthin, a bloeddio a
chanu. Wel'dyma Fedlam yn ddiddadl,
ebr fi. Erbyn i ni fyned i mewn, darfasei 'r
ymddugwd, ac un ar y llawr yn glwtt, un
arall yn bwrw i fynu, un arall yn pendwmpian
 uwchben aelwyded o fflagenni tolciog,
a darneu pibelli a godardeu; a pheth erbyn
ymorol, ydoedd ond cyfeddach rhwng saith
o gymdogion sychedig, Eurych, a Lliwydd, a
Gof, Mwyngloddiwr, 'Scubwr-simneiau, a Phrydydd,
ac Offeiriad a ddaethei i bregethu sobrwydd,
ac i ddangos ynddo 'i hun wrthuned
o beth yw meddwdod; a dechreu 'r
ffrwgwd diweddar oedd dadleu ac ymdaeru
fasei rhyngddynt, p'run oreu o 'r seithryw
a garei bot a phibell; a 'r Prydydd
aethei â 'r maes ar bawb ond yr Offeiriad, a
hwnnw, o barch i 'w siacced, a gawsei 'r
gair trecha, o fod yn ben y cymdeithion
dâ, ac felly cloes y Bardd y cwbl ar
gân:


td. 25

O 'r dynion p'le 'r adwaenych,
A 'r ddaiar faith saith mor sych,
A 'r goreu o 'r rhain am gwrw rhudd,
Offeiriedyn a Phrydydd.

Wedi llwyrflino ar y môch abrwysc hyn,
ni aethom yn nês i 'r Porth i spio gwallieu i
ardderchog Lŷs Cariad y Brenhin cibddall,
lle hawdd mynd i mewn, ac anhawdd
mynd allan, ac ynddo aneirif o Stafelloedd.
Yn y Neuadd gyfeiryd a 'r drŵs, yr oedd
Cuwpid bensyfrdan â 'i ddwy saeth ar ei fŵa,
yn ergydio gwenwyn nychlyd a elwir
blys. Hyd y llawr gwelwn lawer o Ferched
glân trwsiadus yn rhodio wrth yscwîr,
ac o 'u lledol drueiniaid o Lancieu
yn tremio ar eu tegwch, ac yn erfyn bob
un am gael gan ei baunes un cil-edrychiad,
gan ofni Cuwch yn waeth nac Angeu;
ymbell un tan blygu at lawr, a roe Lythyr
yn llaw ei Dduwies, un arall Gerdd, a disgwyl
yn ofnus fel 'Scolheigion yn dangos
eu Tâsc i 'w Meistr; a hwytheu a roent ymbell
gip o Wên gynffonnog i gadw eu haddolwyr
mewn awch, ond nid dim ychwaneg,
rhag iddynt dorri eu blŷs, a mynd
yn iâch o 'r Clwy ac ymadel. Mynd ymlaen
i 'r Parlwr, gwelwn ddyscu dawnsio, a
chanu, â llais ac â llaw i yrru eu Cariadeu yn
saith ynfyttach nac oeddynt eusys: Mynd

td. 26
i 'r Bwytty, dyscu 'r oeddid yno wersi o gymhendod
mindlws wrth fwytta: Mynd i 'r
Seler, yno cymyscu Diodydd cryfion o
swyn-serch o greifion ewinedd a 'r cyffelyb:
Mynd i fyny i 'r Llofftydd, gwelem un mewn
'stafell ddirgel yn gwneud pob ystumieu
arno 'i hun i ddyscu moes boneddigaidd iw
Gariad; un arall mewn Drŷch yn dyscu
chwerthin yn gymmwys heb ddangos iw
Gariad ormod o 'i ddannedd; un arall yn
taccluso 'i chwedl erbyn mynd atti hi, ac yn
dywedyd yr un wers ganwaith trosti. Blino
ar y ffloreg ddiflas honno, a myned i
gell arall, yno 'r oedd Pendefig wedi cyrchu
Bardd o Strŷd Balchder, i wneud Cerdd
fawl i 'w angyles, a chywydd moliant iddo
'i hun; â 'r Bardd yn dadcan ei gelfyddyd,
mi fedraf, ebr ef, ei chyffelybu hi i bob
côch a gwyn tan yr Haul, a 'i gwâllt hi i gan
peth melynach na 'r aur; ac am eich Cywydd
chwitheu, medraf ddwyn eich Acheu
trwy berfedd llawer o Farchogion, a
Thywysogion, a thrwy 'r dw'r Diluw, a 'r
cwbl yn glîr hyd at Adda. Wel' dyma
Fardd, ebr fi, sy well olrheiniwr na mi:
Tyrd, tyrd, eb yr Angel, mae rhain ar fedr
twyllo 'r fenyw, ond pan elont atti, bid
siccr y cânt atteb cast am gast. Wrth ymadel
 â rhain, gwelsom gip ar gelloedd lle 'r
oeddid yn gwneud castieu bryntach nac y
gâd gwylder eu henwi, a wnaeth i 'm Cydymaith

td. 27
fy nghippio i 'n ddigllon o 'r Llŷs
penchwiban yma, i Drysordy 'r Dwysoges
(oblegid ni aem lle chwenychem er na
doreu na chloieu.) Yno gwelem fyrdd o
Ferched glân, pôb diodydd, ffrwythydd,
dainteithion, pob rhyw offer a llyfreu cerdd
dafod a thant, telyneu, pibeu, cywyddeu,
caroleu, &c. pôb mâth o chwareuon tawlbwrdd
ffristial, disieu, cardieu, &c. pôb
llunieu gwledydd, a threfi, a dynion, a
dyfeisieu, a chastieu digrif: pôb dyfroedd,
pêr-arogleu, a lliwieu, a smottieu i wneud
yr wrthun yn lân, a 'r hên i edrych yn
ieuanc, ac i sawyr y buttain a 'i hescyrn
pwdr fod yn beraidd tros y tro. Ar fyrr,
yr oedd yno bôb mâth o gysgodion pleser, a
rhîth hyfrydwch: ac o ddywedyd y gwir,
ni choelia 'i na walliasei 'r fan yma finneu,
oni basei i 'm Cyfeill yn ddiymannerch, fy
nghipio i ymhell oddiwrth y tri Thŵr hudol
i ben ucha 'r Strydoedd, am descyn i
wrth gastell o Lys anferthol o faint, a thirion
iawn yr olwg cynta, ond gwael a gwrthun
arswydus o 'r tu pella, etto ni welid
ond yn anhawdd iawn mor tu gwrthun; a
myrdd o ddryseu oedd arno a 'r holl ddoreu
'n wŷch y tu allan, ond yn bwdr y tu
mewn. Attolwg, f' Arglwydd, ebr fi, os
rhyngai 'ch bodd p'le yw 'r fan ryfeddol
hon? Hwn, ebr ef, yw Llŷs ail Ferch Belial,
a elwir Rhagrith: Yma mae hi 'n cadw

td. 28
ei Hyscol, ac nid oes na Mâb na Merch o
fewn yr holl Ddinas, na fu 'n 'Scolheigion
iddi hi, a rhan fwya 'n yfed eu Dysc yn odiaeth,
fel y gwelir ei gwersi hi wedi mynd
yn ail natur yn gyfrodedd trwy eu holl feddylieu,
geirieu a gweithredoedd agos er
ein blant. Wedi i mi spio ennyd ar ffalsder
pob cwrr o 'r Adeilad, dyma Ganhebrwng yn
mynd heibio, a myrdd o wylo ac ochain, a
llawer o ddynion a cheffyleu wedi eu hulio
mewn galarwiscoedd duon; ymhen ennyd,
dyma 'r druan Weddw, wedi ei mwgydu
rhag edrych mwy ar y byd brwnt
yma, yn dyfod tan leisio 'n wann, ac och'neidio
'n llêsc rhwng llesmeirieu: Yn wîr, ni
fedrais inneu nad wylais beth o dosturi:
Iè, iè, eb yr Angel, cedwch eich dagreu at
rywbeth rheitiach: Nid yw 'r lleisieu hyn
ond dŷsc Rhagrith, ac yn ei Hyscol fawr
hi, y lluniwyd y gwiscoedd duon yna.
Nid oes un o rhain yn wylo o ddifri: Mae 'r
Widw, cyn mynd corph hwn o 'i thŷ, wedi
gollwng Gwr arall eusys at ei chalon; pe
cai hi ymadel â 'r gôst sy wrth y corph, ni
waeth ganddi o frwynen pettei ei enaid ef
yn ngwaelod Uffern, na 'i geraint ef mwy
na hitheu; oblegid pan oedd gletta arno,
yn lle ei gynghori 'n ofalus, a gweddio 'n
daerddwys am drugaredd iddo, sôn yr oeddid
am ei Betheu, ac am ei Lythyr-cymmun,
neu am ei Acheu, neu laned, gryfed Gŵr

td. 29
ydoedd ef, a 'r cyffelyb: Ac felly rwan nid
yw 'r wylo yma, ond rhai o ran defod ac
arfer, eraill o gwmnhi, eraill am eu cyflog.
Prin yr aethei rhai'n heibio, dyma Dyrfa arall
yn dyfod i 'r golwg, rhyw Arglwydd
gwŷch aruthr, a 'i Arglwyddes wrth ei glun,
yn mynd yn araf mewn stât, a llawer o
Wyr cyfrifol yn eu gapio a myrdd hefyd
ar eu traed yn dangos iddo bôb ufudd-dod
a pharch; ac wrth y Ffafreu, deellais mai
Priodas ydoedd. Dyma Arglwydd ardderchog,
ebr fi, sy 'n haeddu cymmaint parch
gan y rhai'n oll. Ped ystyrid y cwbl, ti a
ddywedit rywbeth arall, eb ef: Un o Stryd
Pleser yw 'r Arglwydd yma, a Merch yw
hitheu o Strŷd Balchder; a 'r henddyn accw
sy 'n siarad âg ef, un ydyw o Stryd yr Elw,
sy ganddo arian ar hôll dîr yr Arglwydd agos,
a heddyw 'n dyfod i orphen taledigaeth:
ni aethom i glywed yr ymddiddan.
Yn wîr, Syr, meddei 'r Codog, ni fynnaswn
i er a feddai, fod arnoch eisieu dim a 'r
a allwn i at ymddangos heddyw 'n debyg
i chwi 'ch hunan, ac yn siccr gan ddarfod
i chwi daro wrth Arglwyddes mor hawddgar
odidog a hon; (a 'r Cottyn hên-graff
yn gwybod o 'r goreu beth oedd hi.) Myn,
myn, myn, eb yr Arglwydd, nesa pleser at
edrych ar degwch hon, oedd wrando 'ch
mwynion resymmeu chwi; gwell genni
dalu i chwi lôg, na chael arian yn rhâd gan

td. 30
neb arall. Yn ddiau, f' Arglwydd, ebr un
o 'r pen-cymdeithion a elwid Gwenieithiwr,
nid yw f' ewythr yn dangos dim ond a
haeddechi o barch, ond trwy 'ch cennad,
ni roes ef hanner a haeddei f' Arglwyddes
o glôd. Ni cheisiai, ebr ef, ond gwaetha
ungwr ddangos ei glanach hi 'n hôll Stryd
Balchder, na 'ch gwychach chwithe 'n hôll
Stryd Pleser, na 'ch mwynach witheu
f' ewythr yn Stryd yr Elw. O 'ch tŷb
dda chwi, eb yr Arglwydd, yw hynny,
ond ni choeliai fynd o ddau ynghŷd erioed
trwy fwy o gariad na ninneu. Fel yr
oeddynt yn mynd ymlaen, yr oedd y dyrfa
'n cynnyddu, a phawb yn deg ei wên,
ac yn llaes ei foes i 'r llall, ac yn rhedeg i
ymgyfwrdd a 'u trwyneu gan lawr, fel
dau Geiliog a fyddei 'n mynd i daro.
Gwybydd weithian, eb yr Angel, na welaisti
etto foes, ac na chlywaist yma air, ond
o wersi Rhagrith. Nid oes yma un wedi 'r
holl fwynder, a chanddo ffyrlingwerth o
gariad i 'r llall, iè, gelynion yw llawer o
honynt i 'w gilydd. Nid yw 'r Arglwydd
yma, ond megis cyffclêr rhyngthynt, a
phawb a 'i grab arno. Mae 'r Feinir a 'i
bryd ar ei fawredd a 'i fonedd ef, modd y
caffo hi 'r blaen ar lawer o 'i chymdogesau.
Y Cott sy a 'i olwg ar ei Dîr ef i 'w Fab ei
hun, y lleill i gyd ar Arian ei gynnyscaeth
ef, oblegid ei ddeiliaid ef ydynt oll, sef ei

td. 31
Farsiandwyr, ei Daelwriaid, ei Gryddion,
a 'i Grefftwyr eraill ef, au huliodd ac a 'i
maentumiodd e 'n yr holl wychder mawr
hwn, ac heb gael ffyrling etto, nac yn debyg
i gael, ond geirieu têg, ac weithieu fygythion
ondodid. Bellach, pa sawl tô, pa
sawl plŷg a roes Rhagrith yma ar wyneb y
Gwirionedd! Hwn yn addo mawredd iw
Gariad, ac ynteu ar werthu ei Dir; hithe 'n
addo cynnyscaeth a glendid heb feddu, ond
glendid gosod, a 'r hên gancr yn ei Chynnyscaeth
ai Chorph hefyd. Wel'dyma arwydd,
ebr fi, na ddylid fyth farnu wrth y
golwg. Iè, tyrd ymlaen, ebr ef, a dangosaf
i ti beth ychwaneg; ar y air f' a 'm
trosglwyddodd i fynu, lle 'r oedd Eglwysi 'r
Ddinas ddihenydd, canys yr oedd rhîth o
Grefydd gan bawb ynddi hyd yn oed y digrêd.
Ac i Deml yr anghred yr aethom
gynta, gwelwn yno rai yn addoli llun Dyn,
eraill yr Haul, eraill y Lleuad, felly aneirif
o 'r fath Dduwieu eraill, hyd at y Winwyn
a 'r Garlleg; a Duwies fawr a elwid Twyll, yn
cael addoliant cyffredinol; er hynny gwelit
beth ôl y Grefydd Grystianogol ymŷsc y
rhann fwya o 'r rhain. Oddi yno ni aethom
i gynulleidfa o rai Mudion, lle nid
oedd ond ochneidio, a chrynu, a churo 'r
ddwyfron. Dyma, eb er Angel, rith o
edifeirwch gostyngeiddrwydd mawr,
ond nid oes yma ond 'piniwn, a chyndynrhwydd,

td. 32
a balchder, a thywyllwch dudew;
er maint y soniant am eu Goleuni oddimewn,
nid oes ganddynt gymaint a Spectol natur pe
sy gan y digrêd y welaist gynneu. Oddiwrth
y cŵn mudion digwyddodd i ni droi
i Eglwys fawr benegored, a myrdd o escidieu
yn y porth, wrth y rhain deellais mai
teml y Tyrciaid ydoedd; nid oedd gan y
rhain ond Spectol dywyll a chymysclyd
iawn a elwid Alcoran; etto trwy hon 'r
oeddynt fyth yn spio 'mhen yr Eglwys am
eu Prophwyd a addawsei ar ei air celwydd,
ddychwel i ymweled â hwynt er's talm,
ac etto heb gywiro. Oddiyno 'r aethom i
Eglwys yr Iddewon, 'r oedd y rhain hwythe
'n methu cael y ffordd i ddianc o 'r
Ddinas ddihenydd, er bod Spectol lwydoleu
ganddynt, am fôd rhyw huchen wrth
spio 'n dyfod tros eu llygaid eisieu i hiro a 'r
gwerthfawr ennaint, ffydd. Yn nesa 'r
aethom at y Papistiaid; dyma, eb yr Angel,
yr Eglwys sy 'n twyllo 'r Cenhedloedd! Rhagrith
a adeiladodd yr Eglwys yma ar ei
chôst ei hun. Canys mae 'r Papistiaid yn
cynnws, ie 'n gorchymyn na chadwer llw
â Heretic, er darfod ei gymmeryd ar y
Cymmun: O 'r Ganghell ni aethom trwy
dylleu cloieu i ben rhyw gell neilltuol,
llawn o ganhwylleu ganol dydd goleu, lle
gwelem Offeiriad wedi eillio 'i goryn yn
rhodio, ac megis yn disgwil rhai atto; yn

td. 33
y man, dyma globen o Wraig a Llances
lân o 'i hôl, yn mynd ar ei glinieu o 'i flaen
ef, i gyfadde 'i phechodeu: Fy nhâd ysprydol
ebr y Wreigdda, mae arna 'i faich rhydrwm
ei oddef, oni châf eich trugaredd iw
yscafnhau; mi briodais un o Eglwys Loegr;
ac, pa beth, ebr y Corynfoel, priodi Heretic!
priodi Gelyn! nid oes fyth faddeuant
i 'w gael; ar y gair hwnnw hi a lesmeiriodd,
ac ynte 'n bugunad melltithion arni,
och a phe sy waeth, ebr hi, pan ddadebrodd,
mi a 'i lleddais ef! O, ho! a leddaisti
ef, wel'dyma rywbeth at cael cymmod
yr Eglwys, 'r wyfi 'n dywedyd itti,
oni bai ladd o honot ef, ni chawsit fyth
ollyngdod, na phurdan, ond mynd yn union
i Ddiawl wrth blwm. Ond p'le mae
'ch Offrwm chwi 'r Faeden, ebr ef, tan
'scyrnygu? Dyma, ebr hi, ac estynnodd
gryn-god o arian; wel, 'ebr ynte, 'bellach
mi wnâ 'ch cymmod, eich Penyd yw bôd
bŷth yn weddw, rhag i chwi wneud drwg-
Fargen arall. Pen aeth hi ymaith, dyma 'r
Forwyn yn dyfod ymlaen i draethu ei chyffes
hitheu: Eich pardwn y Nhâd-cyffeswr
ebr hi, mi a feichiogais, ac a leddais fy
Mhlentyn. Têg iawn yn wîr, ebr y Cyffeswr,
a phwy oedd y Tâd? Yn wîr, un
o 'ch Monachod chwi, ebr hi, ist, ist, eb ef,
dim anair i Wyr yr Eglwys: Ple mae 'r
iawn i 'r Eglwys sy gennych? Dyma, ebr

td. 34
hitheu, ac a estynnodd iddo euryn. Rhaid
i chwi edifarhau, a 'ch Penyd yw gwilied
wrth fy ngwelu i heno, ebr ef, tan gîlwenu
arni hi. Yn hyn, dyma bedwar o
rai moelion eraill yn llusco dynan at y cyffeswr,
ac ynte 'n dyfod mor 'wllyscar ac
at grogpren. Dyma i chwi geneu, ebr un
o 'r pedwar, i ddwyn ei benyd am ddadcuddio
dirgelion yr Eglwys Gatholic. Pa
beth, ebr y Cyffeswr, tan edrych ar ryw
siêl ddu oedd yno gerllaw? Ond cyffesa
filein beth a ddywedaisti? Yn wîr, eb y
truan, cymydog a ofynnodd i mi, a welswn
i 'r Eneidieu 'n griddfan tan yr Allor
Ddygwyl y Meirw, minneu ddywedais, glywed
y llais, ond na welswn i ddim. Aiè,
Syre, dywedwch y cwbl, ebr un o 'r lleill.
Ond mi attebais, ebr ef, glywed o hono 'i
mai gwneud castieu 'r ŷ chwi, â ni 'r anllythrennog,
nad oes yn lle Eneidieu ond
Crancod y Môr yn 'scyrlwgach tan y carbed.
O Fâb y Fall, o Wyneb y Felltith!
ebr y Cyffeswr, ond ewch ymlaen Fastiff;
ac mai weir oedd yn troi delw St. Pedr, ac
mai wrth weir yr oedd yr Yspryd Glân
yn descyn o lofft y grôg ar yr Offeiriad.
O etifedd Uffernol! eb y Cyffeswr, hai, hai,
cymrwch ef Boenwyr, a theflwch ef i 'r Simnei
fyglyd yna, am ddywedyd chwedleu.
Weldyma i ti 'r Eglwys a fyn Rhagrith ei
galw 'n Eglwys Gatholic, ac mai rhain yw 'r

td. 35
unic rai cadwedig, eb yr Angel: Bu gan y
rhain yr iawn Spectol, eithr torrasant hyd y
gwydr fyrdd o lunieu; a bu ganddynt wir
ffydd, ond hwy a gymyscasant yr ennaint
hwnnw a 'u defnyddieu newyddion eu hunain,
fel na welant mwy na 'r anghred.
Oddiyno ni aethom i 'Scubor, lle 'r oedd
un yn dynwared Pregethu ar ei dafod leferydd,
weithieu 'r un peth deirgwaith
olynol. Wel, 'eb yr Angel, mae gan y
rhain yr iawn Spectol i weled y petheu a
berthyn i 'w heddwch, ond bod yn fyrr yn
eu hennaint un o 'r defnyddieu anghenrheitia,
a elwir cariad perffaith. Mae amryw
achosion yn gyrru rhai yma; rhai o ran
parch i 'w hynafiaid, rhai o anwybodaeth, a
llawer er manteisieu bydol. Gwnaent iti
dybio 'u bôd yn tagu ar wyneb, ond hwy
a fedrant lyncu Llyffaint rhag angen: Ac
felly mae 'r Dwysoges Rhagrith yn dyscu
rhai mewn Scuboriau. Ertolwg, ebr fi,
p'le weithian y mae Eglwys Loegr? O, ebr ynteu,
mae honno yn y Ddinas ucha 'frŷ yn
rhann fawr o 'r Eglwys Gatholic. Ond, ebr
ef, mae 'n y Ddinas yma rai Eglwysi Prawf,
yn perthyn i Eglwys Loegr, lle mae 'r Cymru
a 'r Saeson tan brawf tros dro, i 'w cymmwyso
at gael eu henweu 'n Llyfr yr Eglwys Gatholic,
a 'r sawl a 'i caffo, gwyn ei fyd fyth!
Eithr nid oes sywaeth ond ychydig yn
ymgymmwyso i gael braint yn honno.

td. 36
O blegid yn lle edrych tuac yno, mae gormod
yn ymddallu wrth y tair Twysoges
obry, ac mae Rhagrith yn cadw llawer, ac
un llygad ar y Ddinas ucha, a 'r llall a'r yr
isa; iè, mae Rhagrith cyn lewed a thwyllo
llawer o 'u ffordd, wedi iddynt orfod y
tair Hudoles eraill. Tyrd i mewn yma,
cei weled ychwaneg, ebr ef, ac a'm cipiodd
i lofft y grôg, un o Eglwysi Cymru,
a 'r bobl ar ganol y Gwasanaeth, yno gwelem
rai 'n sisial siarad, rhai 'n chwerthin
rhai 'n tremio ar Ferched glân, eraill yn
darllen gwisciad eu Cymydog o 'r coryn i 'r
sowdl, rhai 'n ymwthio ac yn ymddanheddu
am eu braint, rhai 'n heppian, eraill
yn ddyfal ar eu dyfosiwn, a llawer o rheini
hefyd yn rhagrithio. Ni welaisti etto,
eb yr Angel, na ddo 'mysc yr anghred,
ddigywilydd-dra mor oleu-gyhoedd a
hwn; ond felly mae sywaeth llygriad y
peth goreu yw 'r llygriad gwaetha' oll. Yna
hwy a aethant i 'r Cymmun, a phob un yn
ymddangos yn syrn barchus i 'r Allor. Er
hynny (trwy ddrŷch fy nghyfeill) gwelwn
ymbell un gyda 'r bara yn derbyn iw
fol megis llun Mastiff, un arall Dwrchdaiar,
un arall megis Eryr, un arall Fochyn, un arall
megis Sarph hedegog; ac ychydig, o mor ychydig
yn derbyn pelydryn o oleuni disclair
gyda 'r bara a 'r gwin. Dyna, ebr ef,
Rowndiad sy 'n mynd yn Siri ac o ran,

td. 37
bod y Gyfraith yn gofyn cymmuno 'n yr
Eglwys cyn cael Swydd, ynte' ddaeth yma
rhag ei cholli: ac er bod yma rai 'n llawenu
ei weled ef, ni bu etto yn ein plith ni ddim
llawenydd o 'i droedigaeth ef; wrth hynny
ni throes ef sywaeth ond tros y tro: ac felly
ti weli fôd Rhagrith yn dra hŷ ddyfod at yr
Allor o flaen IMMANUEL ddisiommedig.
Ond er maint yw hi yn y Ddinas ddihenydd,
ni all hithe ddim yn Ninas IMMANUEL
tu ucha 'r Gaer accw. Ar y gair,
ni a droesom ein hwynebeu oddiwrth y
Ddinas fawr ddihenydd, ac aethom ar i
fynu, tu a 'r Ddinas fach arall; wrth fyned
gwelem ymhen ucha 'r Strydoedd lawer
wedi lled-troi oddiwrth hudoliaeth y Pyrth
dihenydd, ac yn ymorol am Borth y bywyd,
ond naill ai methent ei gael, ai blinent ar
y ffordd, nid oedd fawr iawn yn mynd
trwodd, oddieithr un dyn wynebdrist oedd
yn rhedeg oddifri a myrdd o 'i ddeutu 'n ei
ffoli, rhai 'n ei watwar, rhai 'n ei fygwth,
a 'i geraint yn ei ddàl ac yn ei greu i beidio
ai daflu ei hun i golli 'r holl fŷd ar unwaith.
Nid wyfi, ebr ynte 'n colli ond
rhan fechan o hono, a phe collwn i 'r cwbl;
Ertolwg pa'r golled yw? O blegid be' sy
yn y Byd mor ddymunol, oni ddymunei
ddyn dwyll a thrais, a thrueni, a drygioni,
a phendro, a gwallco? Bodlonrhwydd a
Llonyddwch, ebr ef, yw happusrwydd dyn,

td. 38
ond nid oes yn eich Dinas chwi ddim o 'r
fâth betheu i 'w cael. Oblegid pwy sy
yma 'n fodlon i 'w stât? uwch, uwch y cais
pawb o Stryd Balchder; moes, moes ychwaneg,
medd pawb yn Stryd yr Elw;
melus, moes etto yw llais pawb yn Stryd
Pleser. Ac am Lonyddwch, p'le mae? a
phwy sy 'n ei gael? Os Gŵr mawr, dyna
weniaith a chynfigen ar ei ladd; os tlawd,
hwdiwch bawb i 'w sathru a 'i ddiystyru.
Os mynni godi, dyro dy fryd ar fynd yn
Ddyfeisiwr, os mynni barch bydd Ffrostiwr
neu Rodreswr. Os byddi Duwiol
yn cyrchu i 'r Eglwys a 'r Allor, gelwir di
'n Rhagrithiwr, os peidi, dyna di 'n Anghrist
ne' 'n Heretic: Os llawen fyddi,
gelwir di 'n wawdiwr: os distaw, gelwir
di 'n gostog gwenwynllyd; os dilyni onestrwydd,
nid wyti ond ffŵl di-ddeunydd;
os trwsiadus, balch; os nadè, mochyn; os
llyfn dy leferydd, dyna di 'n ffals, neu ddihiryn
anhawdd dy ddirnad; os garw, cythrel
trahaus anghydfod. Dyma 'r BYD
yr ŷch i 'n ei fawrhau, ebr ef, ac ertolwg
cymrwch i chwi fy rhann i o hono, ac ar
y gair fe a ymescydwodd oddiwrthynt oll
ac ymaith âg e 'n ddihafarch at y Porth cyfyng,
ac heb waetha i 'r cwbl tan ymwthio
f' aeth drwodd a ninne' o 'i ledol; a llawer
o Wŷr duon ar y caereu o ddeutu 'r Porth
yn gwadd y Dyn ac yn ei ganmol. Pwy,

td. 39
ebr fi, yw 'r duon frŷ? Gwiliwyr y Brenin
IMMANUEL, ebr ynte, sy 'n enw eu Meistr
yn gwadd ac yn helpu rhai trwy 'r Porth
yma. Erbyn hyn 'roeddym ni wrth y
Porth; isel a chyfyng iawn oedd hwn, a
gwael wrth y Pyrth isa; O ddeutu 'r drws
'roedd y Deg Gorchymyn, y Llêch gynta o 'r
tu deheu; ac uwch ei phen, Ceri DDUW
a 'th holl Galon, &c. ac uwch ben, yr ail
Lêch; o 'r tu arall, Câr dy Gymydog fel ti dy
hun; ac uwch ben y cwbl, Na cherwch y
Byd, na 'r petheu sy 'n y byd, &c. Ni edrychaswn
i fawr nad dyma 'r Gwilwyr yn
dechreu gwaeddi ar y Dynion dihenydd,
ffowch, ffowch am eich einioes! ond ychydig
a droe unwaith attynt, etto rhai a ofynnent,
ffoi rhag pa beth? Rhag Twysog
y byd hwn, sy 'n llywodraethu ymhlant
yr anufudd-dod meddei 'r gwiliwr; rhag
y llygredigaeth sy 'n y byd trwy chwant
y cnawd, chwant y llygad a balchder y
bywyd; rhag y digofaint sy ar ddyfod arnoch.
Beth, ebr gwiliwr arall yw 'ch anwyl
Ddinas chwi ond Taflod fawr o boethfel
uwch ben Uffern, a phettei chwi yma,
caech weled y tân tu draw i 'ch caereu ar
ymgymeryd i 'ch llosci hyd Annwfn: Rhai
a 'u gwatwarei, rhai a fygythiei oni thawent
ai lòl anfoesol, etto ymbell un a ofynnei i
ba le y ffown? Yma, meddei 'r Gwilwyr,
ffowch yma at eich union Frenin sy etto

td. 40
trwom ni 'n cynnyg i chwi gymmod, os
trowch i 'ch ufudd-dod oddiwrth y Gwrthryfelwr
 Belial a 'i hudol-ferched. Er gwyched
yr olwg arnynt nid yw ond ffûg, nid
yw Belial ond Tywysog tlawd iawn gartre,
nid oes ganddo yno ond chwi 'n gynnud ar
y tân, a chwi 'n rhôst ac yn ferw i 'ch cnoi,
ac byth nid ewch i 'n ddigon, byth ni ddaw
torr ar ei newyn ef na 'ch poen chwitheu. A
phwy a wasanaethei 'r fâth Gigydd maleisddrwg
mewn gwallco ennyd, ac mewn
dirboeneu byth wedi, ac a allei gael byd
dâ tan Frenin tosturiol a charedig i 'w ddeiliaid,
heb wneud iddynt erioed ond y
Daioni bwygilydd, a 'u cadw rhag Belial i
roi teyrnas i bob un o 'r diwedd yn ngwlâd
y Goleuni! Oh, ynfydion! a gymerwch
i 'r Gelyn echryslawn yna sy â 'i gêg yn llosci
o syched am eich gwaed, yn lle 'r Twysog
trugarog a roes ei waed ei hun i 'ch achub?
Etto ni wyddit fod y rhesymmeu hyn a
feddalhae graig, yn llesio fawr iddynt hwy,
a 'r achos fwya oedd, nad oedd fawr yn cael
hamdden i 'w gwrando, gan edrych ar y
Pyrth, ac o 'r gwrandawyr nid oedd fawr
yn ystyried, ac o 'r rheini nid oedd fawr yn
eu cofio chwaith hir, rhai ni choelient mai
Belial yr oeddynt yn ei wasanaethu, eraill
ni fynnent mai 'r twll bach di-sathr hwnnw
oedd Borth y Bywyd, ac ni choelient mai
hudoliaeth oedd y Pyrth disclair eraill a 'r

td. 41
Castell i rwystro iddynt weled eu Destryw
nes mynd iddo. Yn hyn dyma drwp o
bobl o Stryd Balchder yn ddigon hŷ 'n curo
wrth y Porth, ond yr oeddynt oll mor
warsyth nad aent byth i le mor isel heb
ddiwyno 'u perwigeu a 'u cyrn, felly hwy
a rodiasant yn eu hol yn o surllyd. Ynghynffon
y rhai'n daeth attom ni fagad o
Strŷd Elw; ac, ebr un, ai dyma Borth y
bywyd? iè, ebr y Gwiliwr oedd uwch
ben. Be' sy i 'w wneud, ebr ef, at ddyfod
trwodd? darllenwch o ddeutu 'r drws,
cewch wybod; darllennodd y Cybydd y
Dêg-Gorchymmyn i gyd trostynt; pwy,
ebr ef, a ddyweid dorri o honofi un o 'r
rhain? ond pan edrychodd e 'n uwch a
gweled, Na cherwch y Byd, na 'r petheu sy 'n
y Byd, fe synnodd, ac ni fedrei lyncu mo 'r
Gair caled hwnnw; 'r oedd yno un piglas
cenfigennus a droes yn ôl wrth ddarllen,
Câr dy Gymydog fel ti dy hun, yr oedd yno
Gwestiwr ac Athrodwr a chwidr-droisant
wrth ddarllen, Na ddwg gam Dystioliaeth; pan
ddarllenwyd, Na Lâdd, nid yma i ni, eb y
Physygwyr. I fod yn fyrr, gwelei bawb
rywbeth yn ei flino, ac felly cyd-ddychwelasant
oll i 'studio 'r pwynt, ni welais i 'r
un etto yn dyfod wedi dyscu ei wers, ond
yr oedd ganddynt gymaint o Godeu a Scrif'nadeu
'n dynn o 'u cwmpas nad aethent
fyth trwy grau mor gyfyng pe ceisiasent.

td. 42
Yn y fan, dyma yrr o Stryd Pleser yn rhodio
tu a 'r Porth. Yn rhodd, ebr un wrth
y gwilwyr, i ba le mae 'r ffordd yma 'n
mynd? Dyma, ebr gwiliwr, y ffordd sy 'n
arwain i lawenydd a hyfrydwch tragywyddol,
ar hyn ymegniodd pawb i ddyfod
trwodd, ond methasant; canys yr oedd
rhai 'n rhŷ foliog i le mor gyfyng, eraill
yn rhy egwan i ymwthio wedi i Ferched
ei dihoeni, a rheini 'n eu hattal gerfydd eu
gwendid afiach. O, ebr gwiliwr oedd yn
edrych arnynt, ni wiw i chwi gynnyg
mynd trwodd â 'ch teganeu gyda chwi,
rhaid i chwi adel eich Pottieu, a 'ch Dyscleu,
a 'ch Putteinied, a 'ch hôll Gêr eraill o 'ch ol,
ac yna bryssiwch. Ebr Ffidler, a fasei
trwodd er's ennyd, oni bai rhagofn torri 'r
Ffidil, pa fodd y byddwn ni byw? O, ebr
y gwiliwr, rhaid i chwi gymmeryd gair y
Brenin am yrru ar eich ol gynnifer o 'r petheu
yna a 'r a fo da er eich llês. Rhoes
hynny 'r cwbl i ymwrando, Hai, hai, ebr
un, gwell aderyn mewn llaw na dau mewn
llwyn, ac ar hynny troesant oll yn unfryd
y eu hôl. Tyrd trwodd weithian, eb yr
Angel, ac a 'm tynnodd i mewn lle gwelwn
yn y Porth yn gynta Fedyddfaen mawr,
ac yn ei ymyl, Ffynnon o ddw'r hâllt; beth
a wnâ hon ar lygad y ffordd, ebr fi? Am
fod yn rhaid i bawb ymolchi ynddi cyn
cael braint yn Llŷs IMMANUEL, hi a

td. 43
elwir Ffynnon Edifeirwch; uwch ben gwelwn
yn scrifennedig, Dyma Borth yr Arglwydd,
 &c. Yr oedd y Porth a 'r Stryd hefyd
yn lledu ac yn yscafnhau fel yr elid
ymlaen; pan aethom ronyn uwch i 'r Strŷd,
clywn lais ara 'n dywedyd om hôl, Dyna 'r
Ffordd, rhodia ynddi. Yr oedd y Stryd ar
orufynu, etto 'n bur lân ac union, ac er
nad oedd y tai ond îs yma nac yn y Ddinas
ddihenydd, etto 'r oeddynt yn dirionach, os
oes yma lai o feddianneu mae 'ma hefyd lai o
ymryson a gofalon; os oes llai o seigieu, mae
llai o ddolurieu; os oes llai o drŵst, mae
hefyd lai o dristwch, a mwy 'n siccr o wir
lawenydd. Bu ryfedd genni 'r Distawrwydd
a 'r Tawelwch hawddgar oedd yma wrth i wared.
Yn lle 'r tyngu a 'r rhegu, a 'r gwawdio,
a phutteinio, a meddwi; yn lle balchder ac
oferedd, y syrthni 'n y naill cwrr, a thrawsni
'n y cwrr arall; iè, 'n lle 'r holl ffrio
ffair, a 'r ffrôst, a 'r ffrwst, a 'r ffrwgwd oedd
yno 'n pendifadu dynion yn ddibaid, ac
yn lle 'r aneirif ddrygeu gwastadol oedd
isod; Ni weliti yma ond sobrwydd mwynder
a sirioldeb, heddwch a diolchgarwch;
Tosturi, diniweidrwydd a bodlonrhwydd
yn eglur yn wyneb pôb Dyn; oddieithr
ymbell un a wylei 'n ddistaw o frynti fod
cŷd yn Ninas y Gelyn. Nid oedd yma
na châs, na llid, ond i bechod, ac yn siccr o
orchfygu hwnnw, dim ofn ond rhag digio

td. 44
'u Brenin, a hwnnw 'n barottach i gymmodi
nac i ddigio wrth ei ddeiliaid, na dim
sŵn ond Psalmau mawl i 'w ceidwad. Erbyn
hyn ni aethem i olwg Adeilad deg tros
ben, o mor ogoneddus ydoedd! ni fedd neb
yn y Ddinas ddihenydd na 'r Twrc, na 'r Mogul,
na 'r un o 'r lleill ddim elfydd i hon.
Wel' dyma 'r Eglwys Gatholic, eb yr Angel.
Ai yma mae IMMANUEL yn cadw 'i Lys,
ebr fi? Iè, ebr ef, dyma 'i unig Frenhinllys
daiarol ef. Oes yma nemor tano ef o benneu
coronog, ebr fi? ychydig, eb ynte;
mae dy Frenhines di a rhai Twysogion
Llychlyn a 'r Ellmyn, ac ychydig o fân Dwysogion
eraill. Beth yw hynny, ebr finneu,
wrth sy dan Belial fawr, wele Ymerodron
a Brenhinoedd heb rifedi? Er hynny i gyd
eb yr Angel, ni all un o honynt oll symmud
bŷs llaw heb gynnwysiad IMMANUEL;
na Belial ei hunan chwaith. Oblegid
 IMMANUEL yw ei union Frenin
ynte, ond darfod iddo wrthryfela, a chael
ei gadwyno am hynny 'n Garcharor tragwyddol;
eithr mae e 'n cael cennad etto tros
ennyd fâch i ymweled â 'r Ddinas ddihenyd,
ac yn tynnu pawb a 'r a allo i 'r un
Gwrthryfel ac i gael rhan o 'r gôsp; er ygŵyr
ef na wnâ hynny ond chwanegu ei
gôsp ei hun, etto ni âd malis a chynfigen
iddo beidio pan gaffo ystlys cennad; A
chan ddaed ganddo ddrygioni, fe gais ddifa

td. 45
'r ddinas a 'r Adeilad hon, er y gŵyr e 'n
hên iawn, fod ei Cheidwad hi 'n anorchfygol.
Ertolwg, ebr fi, f' Arglwydd a gawn
i nesau i gael manylach golwg ar y Brenhinlle
godidog hwn? canys cynnesasei
nghalon i wrth y lle (er y golwg cynta,)
Cei 'n hawdd, eb yr Angel, oblegid yna
mae fy lle a 'm siars a 'm gorchwyl inneu.
Pa nesa yr awn atti mwyfwy y rhyfeddwn
uched, gryfed a hardded, laned a hawddgared
oedd pob rhan o honi, gywreinied y
gwaith a chariadused y defnyddieu, Craig
ddirfawr, o waith a chadernid anrhaethawl
oedd y Sylfaen, a Meini bywiol ar
hynny wedi eu gosod a 'u cyssylltu mewn
trefn mor odidog nad oedd bossibl i un
maen fod cyn hardded mewn unlle arall ac
ydoedd e 'n ei le ei hun. Gwelwn un rhan
o 'r Eglwys yn tâflu allan yn Groes glandeg a
hynod iawn, a chanfu 'r Angel fi 'n spio
arno, a adwaenosti y Rhan yna, ebr ef? ni
wyddwn i beth i atteb. Dyna Eglwys Loegr,
ebr ef, mi gyffrois beth, ac wedi edrych i
fynu, mi welwn y Frenhines Ann ar ben yr
Eglwys, a Chleddy 'mhôb llaw, un yn yr
asswy a elwid Cyfiawnder i gadw ei deiliaid
rhag Dynion y Ddinas ddihenydd, a 'r llall yn
ei llaw ddeheu i 'w cadw rhag Belial a 'i
Ddrygau Ysprydol, hwn a elwid Cleddy 'r
Yspryd, neu Air Duw, o tan y Cleddyf
asswy 'r oedd Llyfr Statut Loegr, tan y llall 'r

td. 46
oedd Beibl mawr. Cleddy 'r Yspryd oedd
danllyd ac anferthol o hŷd, fe laddei
'mhellach nac y cyffyrddei 'r llall. Gwelwn
y Twysogion eraill â 'r un rhyw arfeu
'n amddeffyn ei rhan hwytheu o 'r Eglwys:
Eithr tecca gwelwn i Rann fy Mrenhines
fy hun a gloewa 'i harfeu. Wrth ei deheulaw
hi, gwelwn fyrdd o rai duon, Archescobion,
Escobion a Dyscawdwyr yn cynnal
gydâ hi yn Nghleddy 'r Yspryd: A rhai
Sawdwyr, a Swyddogion ond ychydig o 'r
Cyfreithwyr oedd yn cyd-gynnal yn y
Cleddyf arall. Cês gennad i orphwyso peth
wrth un o 'r dryseu gogoneddus, lle 'r oedd
rhai 'n dyfod i gael braint yn yr Eglwys Gyffredin,
ac Angel tàl yn cadw 'r drws a 'r
Eglwys oddi mewn mor oleu dambaid, nad
oedd wiw i Ragrith ddangos yno mo 'i
hwyneb, etto hi ymddangosei weithiau
wrth y drŵs er nad aeth hi 'rioed i mewn.
Fel y gwelais i o fewn chwarter awr, dyma
Bapist oedd yn tybio mai 'r Pâp a pioedd yr
Eglwys Gatholig, yn cleimio fod iddo ynte
fraint. Be sy gennych i brofi 'ch braint,
ebr y Porthor? Mae genni ddigon, ebr
hwnnw o Draddodiadeu 'r Tadau ac Eisteddfodau
'r Eglwys, ond pam y rhaid i mi fwy
o siccrwydd, ebr ef na gair y Pâp sy 'n
eiste 'n y Gadair ddisiomedig? Yna 'r egorodd
y Porthor lwyth o feibl dirfawr o
faint; Dyma, ebr ef, ein hunic Lyfr Statut

td. 47
ni yma, profwch eich hawl o hwn, neu
ymadewch; ar hyn fe 'madawodd. Yn
hyn, dyma yrr o Gwaceriaid a fynei fynd i
mewn a 'u hettieu am eu penneu, eithr
trowyd hwy ymaith am fod cynddrwg eu
moes. Wedi hynny, dechreuodd rhai o
dylwyth y 'Scubor a safasei yno er's ennyd,
lefaru. Nid oes gennym ni, meddent,
ond yr un Statut a chwitheu, am
hynny dangoswch i ni 'n braint. Arhowch,
ebr y Porthor discleirwyn gan graffu ar eu
talcennau hwy, mi a ddangosa i chwi rywbeth;
D'accw, ebr ef, a welwch i ôl y
rhwyg a wnaethoch i 'n yr Eglwys i fynd
allan o honi heb nac achos nac ystyr? ac
y rwan a fynnech chwi le yma? Ewch yn
ôl i 'r Porth cyfyng ac ymolchwch yno 'n
ddwys yn Ffynnon Edifeirwch i edrych a
gyfogoch i beth gwaed Brenhinol a lyncasoch
gynt, a dygwch beth o 'r dwfr hwnnw
i dymmeru 'r clai at ail uno y rhwyg
accw, ac yna croeso wrthych. Ond cyn
i ni fynd rŵd ymlaen tu a 'r Gorllewin, mi
glywn si oddi fynu ymysc y Pennaethiaid,
a phawb o fawr i fâch yn hèl ei arfeu, ac
yn ymharneisio, megis at Ryfel: a chyn i
mi gael ennyd i spio am le i ffoi, dyma 'r
Awyr oll wedi duo, a 'r Ddinas wedi tywyllu
'n waeth nac ar Ecclips, a Taraneu 'n
rhuo a 'r Mêllt yn gwau 'n dryfrith, a Chafodydd
di-dorr o saetheu marwol yn cyfeirio

td. 48
o 'r Pyrth isa at yr Eglwys Gatholic; ac
oni bai fod yn llaw pawb darian i dderbyn
y piccellau tanllyd, a bod y Graig sylfaen
yn rhygadarn i ddim fannu arni gwnelsid
ni oll yn un goelceth. Ond och! nid
oedd hyn ond Prolog neu dammeid prawf
wrth oedd i galyn: Oblegid ar fyrr, dyma
'r tywyllwch yn mynd yn saith dduach a
Belial ei hun yn y cwmmwl tewa, a 'i benmilwyr
daiarol ac uffernol o 'i ddeutu, i
dderbyn ac i wneud ei wllys ef, bawb o 'r
neilltu. Fe roesei ar y Pâp a 'i Fab arall o
Ffrainc ddinistrio Eglwys Loegr a 'i Brenhines,
ar y Twrc a 'r Moscoviaid daro y rhanneu
eraill o 'r Eglwys a lladd y bobl, yn enwedig
y Frenhines a 'r Twysogion eraill, a
llosci 'r Bibl yn anad dim. Cynta gwaith
a wnaeth y Frenhines a 'r Seinctieu eraill
oedd droi ar eu glinieu, ac achwyn eu cam
wrth Frenin y Brenhinoedd yn y geirieu
yma, Mae estyniad ei adenydd ef yn lloneid lled
dy dir di oh IMMANUEL! Is. 8. 8. yn
ebrwydd dyma lais yn atteb, Gwrth'nebwch
Ddiawl ac fe ffy oddi wrthych; ac yna dechreuodd
y maes galluocca a chynddeiriocca'
 fu 'rioed ar y ddaiar, pan ddechreuwyd
gwyntio Cleddy 'r Yspryd, dechreuodd Belial
a 'i luoedd uffernol wrthgilio, yn y man
dechreuodd y Pâp lwfrhau, a Brenin Ffrainc
yn dàl allan, ond yr oedd ynte ymron digalonni,
wrth weled y Frenhines a 'i deiliaid

td. 49
mor gyttunol, ac wedi colli ei Longeu
a 'i Wŷr o 'r naill tu, a llawer oi ddeiliaid
yn gwrthryfela o 'r tu arall; a 'r Twrc ynte
'n dechreu llaryeiddio: yn hyn, och! mi
welwn f' anwyl gydymaith yn saethu oddiwrthifi
i 'r entrych, at fyrdd o Dwysogion
gwynion eraill, a dyna 'r pryd y dechreuodd
y Pâp a 'r Swyddogion daiarol eraill lechu
 a llewygu, a 'r Penaethiaid uffernol syrthio
o fesur y myrddiwn, a phob un cymaint
ei sŵn yn cwympo (i 'm tŷb i) a phe
syrthiasei fynydd anferth i eigion y môr.
A rhwng y sŵn hwnnw a chyffro goll fy
nghyfeill mineu a ddeffrois om cŵsc; a
dychwelais o 'm llwyr anfodd i 'm tywarchen
drymluog, a gwyched hyfryded
oedd gael bod yn Yspryd rhydd, ac yn siccr
yn y fath gwmnhi er maint y perygl. Ond
erbyn hyn, nid oedd genni nêb i 'm cyssuro
ond yr Awen, a honno 'n lled-ffrom, prin
y cês ganddi frefu i mi y hyn o Rigymmeu
sy 'n canlyn.


td. 54

II. Gweledigaeth Angeu yn ei Frenhinllys isa.


PAN oedd Phœbus un-llygeidiog ar
gyrraedd ei eithaf bennod yn y
deheu, ac yn dàl gŵg o hirbell ar
Brydain fawr a 'r holl Ogledd-dir; ryw hirnos
Gaia dduoer, pan oedd hi 'n llawer
twymnach yn nghegin Glynn-cywarch nac ar
ben Cadair Idris, ac yn well mewn stafell
glŷd gydâ chywely cynnes, nac mewn
amdo ymhorth y fonwent; myfyrio 'r
oeddwn i ar ryw ymddiddanion a fasei
wrth y tân rhyngo'i a Chymydog, am fyrdra
hoedl Dyn, a siccred yw i bawb farw,
ac ansiccred yr amser; a hyn newydd roi
'mhen i lawr ac yn llêd-effro, mi glywn
bwys mawr yn dyfod arnai 'n lledradaidd
o 'm coryn i 'm sowdl, fel na allwn symmud
bŷs llaw, ond y tafod yn unic, a gwelwn
megis Mâb ar fy nwyfron, a Merch

td. 55
ar gefn hynny. Erbyn craffu, mi adwaenwn
y Mâb wrth ei arogleu trwm a 'i gudynneu
gwlithog a 'i lygaid môl-glafaidd
mai fy Meistr Cwsc ydoedd. Ertolwg, Syr,
ebr fi, tan wichian, beth a wneuthum i 'ch
erbyn pan ddygech y wyddan yna i 'm nychu?
Ist, ebr ynte, nid oes yma ond fy
chwaer Hunlle, mynd yr ŷm ni 'n dau i
'mweled a 'n brawd Angeu: eisieu trydydd
sy arnom, a rhag i ti wyrth'nebu daethom
arnat (fel y bydd ynte') 'n ddirybudd. Am
hynny dyfod sy raid i ti, un ai oth fodd ai
oth anfodd. Och, ebr finneu, ai rhaid i mi
farw? Na raid, eb yr Hunlle, ni a 'ch arbedwn
hyn o dro. Ond trwy 'ch cennad,
ebr fi, nid arbedodd eich braw Angeu nêb
erioed etto, a ddygid i 'w ergyd ef, y gwr
a aeth i ymaflyd cwymp âg Arglwydd y
Bywyd ei hun, ond ychydig a 'nillodd
ynte' ar yr orchest honno. Cododd Hunlle
ar y gair yma 'n ddigllon ac a 'madawodd.
Hai, ebr Cwsc, tyrd ymaith, ni bydd i ti
ddim edifeirwch o 'th siwrnai. Wel', ebr fi,
na ddêl byth nôs i Lan-gwsc, ac na chaffo 'r
Hunlle byth orphws ond ar flaen mynawyd
oni ddygwch fi 'n ôl lle i 'm cawsoch. Yna
i ffordd yr aeth â mi tros elltydd a thrwy
goedydd, tros foroedd a dyffrynoedd tros
Gestyll a Thyrau, Afonydd a Chreigiau, a
ph'le y descynnem ond wrth un o Byrth
Merched Belial, o 'r tu cefn i 'r Ddinas ddihenydd,

td. 56
lle gwelwn fod y tri Phorth dihenydd
yn cyfyngu 'n un o 'r tu cefn, ac yn
agor i 'r un lle: lle mwrllwch oerddu
gwenwynig, llawn niwl afiach a chwmylau
cuwchdrwm ofnadwy. Attolwg, Syr,
ebr fi, p'le yw 'r fangre hon? Stafelloedd
Angeu, ebr Cwsc. Ni chês i ond gofyn, na
chlywn i rai 'n crio, rhai 'n griddfan, rhai
'n ochain, rhai 'n ymleferydd, rhai 'n dàl i
duchan yn llêsc, eraill mewn llafur mawr,
a phôb arwyddion ymadawiad dyn, ac
ymbell un ar eu ebwch mawr yn tewi, a
chwapp ar hynny, clywn droi agoriad
mewn clo, minneu a drois wrth y sŵn i
spio am y drŵs, ac o hir graffu, gwelwn
fyrdd fyrddiwn o ddrysau 'n edrych ymhell,
ac er hynny yn f' ymyl. Yn rhodd,
Meistr Cwsc, ebr fi, i ba le mae 'r drysau
yna 'n egor? Maent yn agor, ebr ynte, i
Dîr Ango, Gwlâd fawr tan lywodraeth fy
mrawd yr Angeu, a 'r Gaer fawr yma, yw
Terfyn yr anferth Dragwyddoldeb. Erbyn
hyn, gwelwn Angeu bâch wrth bôb drŵs,
heb un 'r un arfeu, na 'r un henw a 'i gilydd,
etto, gwyddid arnynt mai Swyddogion
yr un Brenin oeddynt oll: Er y byddei
aml ymryson rhyngddynt am y cleifion;
mynnei 'r naill gipio 'r clâ 'n anrheg
trwy ei ddrŵs ei hun, a 'r llall a 'i mynnei
trwy ei ddrŵs ynte. Wrth nesâu canfûm
yn scrifennedig uwchben pôb drŵs henw 'r

td. 57
Angeu oedd yn ei gadw, ac hefyd wrth bôb
drŵs ryw gant o amryw betheu wedi eu
gadel yn llanastr, arwydd fod brŷs ar y
rhai a aetheint trwodd. Uwchben un
drŵs gwelwn Newyn, ac etto ar lawr yn ei
ymyl byrseu a chodeu llownion, a thryncieu
wedi eu hoelio. Dyma, ebr ef, borth
y Cybyddion. Pwy, ebr fi pioedd y carpieu
yna? Cybyddion, eb ef, gan mwyaf: Ond
mae yna rai 'n perthyn i Segurwyr a Hwsmyntafod,
ac i eraill tlawd ymhôb peth ond yr
Yspryd, oedd well ganddynt newynu na
gofyn. Yn y drŵs nesa 'r oedd Angeu
anwyd, gyfeiryd â hwn clywn lawer hyd-
yd-ydyd-eian; wrth y drŵs yma 'r oedd llawer
o lyfreu, rhai pottieu a fflagenni, ymbell
ffon a phastwn, rhai cwmpaseu, a chyrt,
a chêr Llongeu. F' aeth ffordd yma 'Scolheigion,
ebr fi, do, ebr ynte, rai unic a dihelp
a phell oddiwrth ymgeledd a 'u carei;
wedi dwyn hyd yn oed y dillad oddiarnynt.
Dyna, ebr ef, (am y pottieu) weddillion
y cymdeithion da, a fydd a 'u traed
yn fferri tan feincieu, tra bo eu penne 'n
berwi gan ddiod a dwndwr: a 'r petheu
draw sy 'n perthyn i drafaelwyr mynyddoedd
eiryog, ac i Farsiandwyr y Gogleddfor.
Y nesa oedd scerbwd teneu a
elwid Angeu Ofn, gellid gweled trwy hwn
nas medde 'r un Galon; ac wrth ddrŵs
hwn hefyd godeu a chistieu, a chloieu, a

td. 58
chestyll. I hwn yr ai 'r Llogwyr, a Drwgwladwyr,
a Gorthrymwyr, a rhai o 'r Mwrdrwyr,
ond 'r oedd llawer o 'r rheini yn
galw heibio i 'r drŵs nesa lle 'r oedd Angeu
a elwid Crôg, a 'i gortyn parod am ei
wddf. Nesa i hynny oedd Angeu Cariad,
ac wrth ei draed fyrdd o bob offer a llyfreu
muwsic, a cherdd, a llythyreu mwynion
ac ysmottieu a lliwieu i harddu 'r
wyneb, a mîl o ryw sciabas deganeu ir
pwrpas hwnnw, a rhai cleddyfeu; â rhain,
ebr ef, y bu 'r herwyr yn ymladd am y
feinwen, a rhai 'n eu lladd eu hunain: mi
a welwn nad oedd yr Angeu yma ond cibddall.
Y drŵs nesa 'r oedd yr Angeu
gwaetha 'i liw o 'r cwbl a 'i afu wedi diflannu,
fo 'i gelwid Angeu Cynfigen; hwn, ebr
Cwsc, a fydd yn cyrchu colledwyr, athrodwyr,
ac ymbell farchoges a fydd yn ymwenwyno
wrth y Gyfraith, a barodd i
Wraig ymddarostwng i 'w Gŵr. Attolwg
Syr, ebr fi, beth yw marchoges? Marchoges,
ebr ef, y gelwir yma, y Ferch a
fynn farchogaeth ei gwr, a 'i chymdogaeth,
a 'i gwlâd os geill, ac o hir farchogaeth, hi
a ferchyg ddiawl o 'r diwedd o 'r drŵs yna
hyd yn Annw'n. Yn nesa 'r oedd drŵs
Angeu Uchel-gais, i 'r sawl sy 'n ffroenio 'n
uchel, ac yn torri eu gyddfau eisieu edrych
tan eu traed, wrth hwn 'r oedd coronau,
teyrnwiail, banerau a phob papureu am

td. 59
swyddeu, pob arfeu bonedd a rhyfel. Ond
cyn i mi edrych ychwaneg o 'r aneirif ddryseu
hynny, clywn lais yn peri i minneu
wrth fy henw ymddattod, ar y gair mi 'm
clywn yn dechreu toddi fel caseg-eira yn
gwrês yr Haul, yna rhoes fy Meistr i mi
ryw ddiod-gŵsc fel yr hunais, ond erbyn
i mi ddeffro f' am dygasei i ryw ffordd allan
o bellder y tu arall i 'r Gaer; mi 'm
gwelwn mewn Dyffryn pygddu anfeidrol
o gwmpas ac i 'm tŷb i nid oedd diben
arno: ac ymhen ennyd wrth ymbell oleuni
glâs fel canwyll ar ddiffodd, mi welwn
aneirif oh! aneirif o gyscodion Dynion,
rhai ar draed, a rhai ar feirch yn gwau
trwy eu gilydd fel y gwynt, yn ddistaw
ac yn ddifrifol aruthr. A gwlâd ddiffrwyth
lom adwythig, heb na gwêllt na gwair, na
choed nac anifail, oddieithr gwylltfilod
marwol a phryfed gwenwynig o bôb mâth;
seirph, nadroedd, llau, llyffaint, llyngyr, locustiaid,
prŷ 'r bendro, a 'r cyffelyb oll sy 'n
byw ar lygredigaeth Dyn. Trwy fyrddiwn
o gyscodion ac ymlusciaid, a beddi,
a Monwentau, a Beddrodau, ni aethom ymlaen
i weled y Wlâd yn ddirwystr; tan na
welwn i rai 'n troi ac yn edrych arnai; a
chwippyn er maint oedd y distawrwydd
o 'r blaen, dyma si o 'r naill i 'r llall fod yno
Ddyn bydol; Dyn bydol, ebr un, Dyn bydol,
eb y llall! tan ymdyrru attai fel y

td. 60
lindys o bob cwrr. Pa fodd y daethoch,
Syre, eb rhyw furgyn o Angeu bâch oedd
yno? Yn wîr, Syr, ebr fi, nis gwn i mwy
na chwitheu. Beth y gelwir chwi, ebr
ynte? Gelwch fi yma fel y fynnoch yn eich
gwlâd eich hun, ond fe 'm gelwid i gartre,
Bardd Cwsc. Ar y gair, gwelwn gnap o
henddyn gwargam a 'i ddeupen fel miaren
gen lawr, yn ymsythu ac yn edrych arnai
'n waeth na 'r Dieflyn côch, a chyn dywedyd
gair, dyma fe 'n taflu penglog fawr heibio
i 'm pen i diolch i 'r Garreg fedd a 'm
cyscododd. Llonydd, Syr, ertolwg, ebr fi,
i Ddyn dieithr na fu yma 'rioed o 'r blaen,
ac ni ddaw byth pe cawn unwaith ben y
ffordd adre. Mi wnâ 'i chwi gofio 'ch bod
yma, eb ef, ac eilwaith âg ascwrn morddwyd
gosododd arna 'i 'n gythreulig, a
mineu 'n oscoi 'ngoreu. Beth, ebr fi, dyma
wlâd anfoesol iawn i ddieithriaid, Oes yma
un Ustus o heddwch? Heddwch! ebr
ynte, pa heddwch a haedditi na adewit lonydd
i rai yn eu beddi? Attolwg, Syr,
ebr fi, a gawn ni wybod eich henw chwi, oblegid
nis gwn i flino ar neb o 'r Wlâd yma
'rioed. Syre, ebr ynte, gwybyddwch mai
Fi, ac nid chwi, yw 'r Bardd Cwsc, ac a gês
lonydd yma er's naw cant o flynyddoedd,
gan bawb ond chychwi, ac a aeth i 'm cynnyg
i drachefn. Peidiwch ymrawd, ebr
Merddyn oedd yn agos, na fyddwch ryboeth;

td. 61
diolchwch iddo 'n hytrach am gadw
coffadwriaeth parchus o 'ch henw ar y Ddaiar.
Yn wir, parch mawr, eb ynte, oddiwrth y
fâth bembwl a hwn; A fedrwch wi, Syre,
ganu ar y pedwar mesur ar hugain, a fedrwch
wi ddwyn acheu Gog a Magog, ac acheu
 Brutus ap Sylvius hyd ganmlwydd cyn
difa Caer-Troia? A fedrwch wi frutio pa
bryd, a pheth a fydd diwedd y rhyfeloedd
rhwng y Llew a 'r Eryr, ac rhwng y Ddraig
a 'r Carw coch? ha! Hai, gadewch i minneu
ofyn iddo gwestiwn, ebr un arall, oedd
wrth fyddan fawr yn berwi, soc, soc, dygloc,
dy-gloc. Tyrd yn nês, ebr ef, beth
yw meddwl hyn?

Mi fyddaf hyd Ddyddbrawd,
Ar wyneb daiarbrawd,
Ac ni wyddis beth yw nghnawd,
Ai Cîg ai Pyscawd.

Dymunaf eich henw, Syr, ebr fi, fel i 'ch
attebwy 'n gymwysach. Myfi, ebr ef, yw
Taliessin ben-beirdd y gorllewin, a dyna beth
a 'm difregwawd i. Nis gwn i, ebr finneu,
beth a allei 'ch meddwl fod, onid allei 'r
Fâd-felen a ddifethodd Faelgwn Gwynedd,
eich lladd chwitheu ar y feisdon a 'ch rhannu
rhwng y Brain a 'r Pyscod. Taw ffŵl, ebr
ef, brutio 'r oeddwn i am fy nwy alwedigaeth,
Gwr o Gyfraith a Phrydydd: A

td. 62
ph'run meddi di rwan debycca ai Cyfreithiwr
i Gigfran reibus, ai Prydydd i Forfil? Pa
sawl un a ddi-giga un Cyfreithiwr i godi ei
grombil ei hun, ac oh! mor ddifatter y
gollwng e 'r gwaed, a gadel Dyn yn lledfarw!
A 'r Prydydd, ynte, p'le mae 'r Pyscodyn
sy 'r un lwnc ag ef, ac mae hi 'n fôr
arno bob amser, etto ni thyrr y Môr-heli
moi syched ef. Ac erbyn y bai Ddyn yn
Brydydd ac yn Gyfreithiwr, pwy a ŵyr p'run
ai Cîg ai Pyscod fyddei: ac yn siccr, os
byddei 'n un o Wŷr Llŷs fel y bum i, ac
yn gorfod iddo newid ei flas at bob geneu.
Ond dywed i mi, ebr ef, a oes y rwan nemor
o 'r rheiny ar y Ddaiar? Oes, ebr fineu,
ddigon, os medr un glyttio rhyw fâth ar
ddyri, dyna fe 'n Gadeir-fardd. Ond o 'r
lleill, ebr fi, mae 'r fâth blâ yn gyfarthwyr,
yn fân-Dwrneiod a Chlarcod nad oedd locustiaid
yr Aipht ddim pwys ar y Wlâd
wrth y rhain. Nid oedd yn eich amser
chwi, Syr, ond bargeinion bol clawdd, a
llêd llaw o scrifen am dyddyn canpunt, a
chodi carnedd neu goeten Arthur yn goffadwriaeth
o 'r pryniant a 'r terfyneu: Nid
oes mo 'r nerth i hynny rwan, ond mae
chwaneg o ddichell ddyfeisddrwg, a chyfled,
a chromlech o femrwn scrifennedig i siccrhau
'r fargen; ac er hynny odid na fydd
neu fe fynnir ryw wendid ynddi. Wel',
wel', ebr Taliessin, ni thalwn i yno ddraen,

td. 63
ni waeth genni lle 'r wyf: ni cheir byth
Wir lle bo llawer o Feirdd, na Thegwch lle
bo llawer o Gyfreithwyr, nês y caffer
Iechyd lle bo llawer o Physygwyr. Yn hyn,
dyma ryw swbach henllwyd bâch a glywsei
fod yno Ddyn bydol yn syrthio wrth fy
nhraed, ac yn wylo 'n hidl. Och o druan,
ebr fi, beth wyti? Un sy 'n cael gormod
o gam yn y byd beunydd, ebr ynte, fe
gai 'ch enaid chwi fynny i mi uniondeb.
Beth, ebr fi, y gelwir di? F' a 'm gelwir i
Rhywun, ebr ef, ac nid oes na llatteiaeth
nac athrod, na chelwyddeu na chwedleu, i
yrru rhai benben, nad arna 'i y bwrir y
rhan fwya o honynt. Yn wir, medd un,
mae hi 'n Ferch odiaeth, ac hi fu 'n eich
canmol chwi wrth rywun, er bod rhywun
mawr yn ei cheisio hi. Mi a glywais rywun,
medd y llall, yn cyfri naw cant o bunneu
o ddlêd ar y stât honno. Gwelais
rywun ddoe, medd y Cardottyn, a chadach
brith fel moriwr a ddaethei â llong fawr o
yd i 'r borth nesa; ac felly pob cerpyn am
llurgunia i i 'w ddrŵg ei hun. Rhai a 'm
geilw i 'n Ffrind; mi gês wybod gan
Ffrind, medd un, nad oes ymryd hwn a
hwn adel ffyrling i 'w Wraig, ac nad oes
dim di-ddigrwydd rhyngthynt; rhai eraill
a 'm diystyrant i mhellach gan 'y ngalw 'n
Frân, fe ddywed Brân i mi fod yno gastieu
drŵg meddant. Iè, rhai a 'm geilw ar

td. 64
henw parchediccach yn Henwr, etto nid
eiddo fi hanner y coelion, a 'r brutieu, a 'r
cynghorion a roir ar yr Henwr; ni pherais
i erioed ddilyn yr henffordd, os byddei
'r newydd yn well, ac ni feddyliais i erioed
warafun cyrchu i 'r Eglwys wrth beri,
Na fynych dramwy lle bo mwya dy groeso, na
chant o 'r fath. Ond Rhywun yw fy henw
cyffredina i, ebr ef, hwnnw a gewchwi
glywed fynychaf ymhob mawrddrwg; oblegid
gofynnwch i un lle y dywedpwyd y
mawr gelwydd gw'radwyddus, pwy a 'i
dyweid; yn wir, medd ynte, nis gwn i
pwy, ond fo 'i dyweid Rhywun yn y
cwmnhi, holi pawb o 'r cwmpeini am y
chwedl, fe 'i clybu pawb gan rywun, ond nis
gŵyr nêb gan bwy. Onid yw hyn yn
gamm cywilyddus, ebr ef? Ertolwg, a hyspyswchwi
i bawb a glywoch yn fy henwi,
na ddywedais i ddim o 'r petheu hyn, ni ddyfeisiais
ac ni adroddais i gelwydd erioed i
wradwyddo nêb, nac un chwedl i yrru ceraint
bendramwnwgl ai gilydd; nid wy 'n
dyfod ar eu cyfyl, nis gwn i ddim o 'u
storiâu, na 'u masnach, na 'u cyfrinach felltigedig
hwy, na wiw iddynt fwrw mo 'u
drygeu arna 'i, ond ar eu 'menyddieu llygredig
eu hunain. Ar hyn, dyma Angeu
bâch, un o scrifenyddion y Brenhin, yn gofyn
i mi fy henw, ac yn peri i Meistr Cwsc
fy nwyn i 'n ebrwydd ger bron y Brenin.

td. 65
Gorfod mynd o 'm llwyr anfodd gan y
nerth a 'm cippiodd fel corwynt, rhwng
uchel ac isel, filoedd o filltiroedd yn ein
hôl ar y llaw asswy, oni ddaethom eilwaith
i olwg y Wàl derfyn, ac mewn congl
gaeth ni welem glogwyn o Lŷs candryll
penegored dirfawr, yn cyrraedd hyd at y
Wàl lle 'r oedd y drysau aneirif, a rheiny
oll yn arwain i 'r anferth Lŷs arswydus
hwn: â phenglogeu Dynion y gwnelsid y
murieu, a rheini 'n 'scyrnygu dannedd yn
erchyll; du oedd y clai wedi ei gyweirio
trwy ddagreu a chwŷs, a 'r calch oddi allan
yn frith o phlêm a chrawn, ac oddifewn o
waed dugoch. Ar ben pôb twr, gwelit
Angeu bach â chanddo galon dwymn ar
flaen ei saeth. O amgylch y Llŷs 'r oedd
rhai coed, ymbell Ywen wenwynig, a Cypres-wydden
farwol, ac yn y rheini 'roedd
yn nythu ddylluanod, Cigfrain ac Adar y
Cyrph a 'r cyfryw, yn creu am Gîg fŷth,
er nad oedd y fangre oll ond un Gigfa fawr
ddrewedig. O escyrn morddwydydd Dynion
y gwnelsid holl bilereu 'r Neuadd, a
Philereu 'r Parlwr o escyrn y coeseu, a 'r
llorieu 'n un walfa o bôb cigyddiaeth. Ond
ni chês i fawr aros nad dyma fi yngolwg
Allor fawr arswydus lle gwelwn y Brenin
Dychrynadwy yn traflyncu cîg a gwaed
Dynion, a mil o fân angheuod o bob twll
yn ei borthi fyth, â chîg îr twymn: Dyma,

td. 66
eb yr Angeu, a 'm dygasei i yno walch a
gês i ynghanol Tîr Ango, a ddaeth mor
yscafn-droed, na phrofodd eich mawrhydi
dammeid o hono 'rioed. Pa fodd y gall
hynny fod, ebr y Brenin, ac a ledodd ei
hopran cyfled daiargryn i 'm llyncu. Ar
hyn, mi a drois tan grynu at Gwsc; Myfi,
ebr Cwsc, a 'i dygais ef yma. Wel', ebr y
Brenin cul ofnadwy er mwyn fy mrawd
Cwsc, chwi ellwch fynd i droi 'ch traed am
y tro yma; ond gwiliwch fi 'r tro nesa.
Wedi iddo fod ennyd yn bwrw celanedd
i 'w geubal ddiwala, parodd roi dyfyn iw
ddeiliaid, ac a symudodd o 'r Allor i Orseddfainc
echryslawn dra-uchel, i fwrw 'r carcharorion
newydd ddyfod. Mewn munyd,
dyma 'r meirw fwy na rhi o finteioedd
yn gwneud eu moes i 'r Brenin, ac
yn cymryd eu lle mewn trefn odiaeth.
A 'r Brenhin Angeu yn ei frenhinwisc o
Scarlad gloewgoch, ac hyd-ddi lunieu
Gwragedd a Phlant yn wylo, a Gwŷr yn
ochneidio; ac am ei ben gap dugoch trichonglog
(a yrrasei ei gâr Lucifer yn anrheg
iddo) ar ei gonglau scrif'nasid Galar
a griddfan a gwae uwch ei ben 'r oedd
myrdd o lunieu rhyfeloedd ar fôr a thîr,
trefi 'n llosci, y ddaiar yn ymagor, ar Dw'rdiluw;
a than ei draed nid oedd ond coroneu
a theyrnwiail yr holl Frenhinoedd a
orchfygasei fe 'rioed. Ar ei law ddeheu

td. 67
'r oedd Tynged yn eiste, ac â golwg ddu
ddèl yn darllen anferth Lyfr oedd o 'i flaen:
Ac ar y llaw asswy 'r oedd henddyn a elwid
 Amser, yn dylifo aneirif o edafedd aur,
ac edafedd arian, a chopr, a haiarn lawer
iawn, ac ymbell edy 'n prifio 'n well at ei
diwedd a myrddiwn yn prifio 'n waeth;
hyd yr edafedd yr oedd orieu, diwrnodiau, a
blynyddoedd; a Thynged wrth ei Lyfr yn
torri 'r edafedd einioes, ac yn egor dryseu 'r
Wàl derfyn rhwng y ddau Fyd. Ni chawswn
i fawr edrych na chlywn alw at y barr
bedwar o ffidleriaid oedd newydd farw.
Pa fodd, ebr Brenin y Dychryn, a daed
gennych lawenydd na ddaliasechwi o 'r
tu draw i 'r Agendor, canys ni fu o 'r tu
yma i 'r Cyfwng lawenydd erioed? Ni
wnaethom ni, ebr un Cerddor, ddrwg i
nêb erioed, ond eu gwneud yn llawen, a
chymeryd yn distaw a gaem am ein poen.
A gadwasoch i nêb, ebr Angeu, i golli eu
hamser oddiwrth eu gorchwyl, neu o fynd
i 'r Eglwys, ha? Na ddo, ebr un arall,
oddieithr bod ymbell Sul wedi gwasanaeth
yn y tafarn-dy tan dranoeth, neu amser hâ {~ haf }
mewn twmpath chwarae, ac yn wîr, yr
oeddym ni 'n gariadusach, ac yn lwccusach
am gyn'lleidfa na 'r Person. Ffwrdd, ffwrdd
â 'r rhain i Wlâd yr Anobaith, ebr y Brenin
ofnadwy, rhwymwch y pedwar gefn-gefn,
a theflwch hwy at eu cymeiriaid, i ddawnsio

td. 68
'n droednoeth hyd aelwydydd gwynias,
ac i rygnu fyth heb na chlôd na chlera. Y
nesa a ddaeth at y barr, oedd rhyw Frenin
agos i Rufein: Cyfod dy law garcharor, ebr
un o 'r Swyddogion: gobeithio, ebr hwnnw,
fôd gennych beth gwell moes a ffafr i
Frenin. Syre, ebr Angeu chwitheu ddylasech
ddàl y tu arall i 'r Agendorr lle mae
pawb yn Frenhinoedd; ond gwybyddwch
nad oes o 'r tu yma 'r un ond fy Hunan,
ac un Brenin arall sydd i wared obry, a
chewch weled na phrisia hwnnw na minneu
yn ngraddeu 'ch mawrhydi eithr yngraddeu
'ch drygioni, i gael cymmwyso
'ch côsp at eich beieu, am hynny attebwch
i 'r holion. Syr, ebr ynte, gwybyddwch
nad oes gennych ddim awdurdod i 'm dàl,
nac i 'm holi: Mae genni faddeuant o 'm
hôll bechodeu tan law 'r Pâp ei hun, am i
mi ei wasanaethu e 'n ffyddlon, ynte roes i
mi gynnwysiad i fynd yn union i Baradwys,
heb aros funud yn y purdan: Wrth hyn,
dyma 'r Brenin a 'r holl gegeu culion yn
rhoi oer-yscyrnygfa i geisio dynwared
chwerthin; a 'r llall yn ddigllon wrth y
chwerthin yn eu gorchymyn i ddangos
iddo 'i ffordd. Taw ffŵl colledig, ebr Angeu,
tu draw i 'r Wàl o 'th ôl y mae 'r purdan,
canys yn dy fywyd y dylasit ymburo:
Ac ar y llaw ddeheu tu hwnt i 'r Agendor
yna, y mae Paradwys. Ac nid oes

td. 69
dim ffordd bossibl i ti ddianc weithian, na
thros yr Agendor i Baradwys, na thrwy 'r
Wàl-derfyn yn d' ôl i 'r Byd: Canys, pe
rhoit dy frenhiniaeth (lle ni feddi ddimmeu
i roi) ni cheit gan borthor y drysau
yna, spio unwaith trwy dwll y clo. Y
Walddiadlam y gelwir hon, canys pan ddeler
unwaith trwyddi, yn iâch fyth ddychwelyd.
Ond gan eich bod cymmaint yn
llyfreu 'r Pâp, cewch fynd i gyweirio 'i
wely ef at y Pâp oedd o 'i flaen, ac yno
cewch gusanu 'i fawd ef byth, ac ynte fawd
Lucifer. Ar y gair, dyma bedwar o 'r mân
angheuod yn ei godi, ag ynte erbyn hyn
yn crynu fel dail yr aethnen, ac ai cippiasant
fel y mêllt allan o 'r golwg. Yn nesa
at hwn daeth Mâb a Merch: Ef a fasei 'n
gydymaith da, a hithe 'n Ferch fwyn, ne 'n
rhwydd o 'i chorph: Eithr galwyd hwy
yno wrth eu henwau noethion, Meddwyn a
Phuttain. Gobeithio, ebr y Meddwyn, y
câfi gennych beth ffafr, mi yrrais i chwi
lawer ysclyfaeth dew mewn llifeiriant o
gwrw da; a phan fethais yn lladd eraill,
daethum fy hun yn 'wyllyscar i 'ch porthi.
Trwy gennad y Cŵrt, nid hanner a yrrais
i iddo, ebr y Butten, wedi eu hoffrwm yn
ebyrth llôsc, yn Gîg rhôst parod i 'w fwrdd.
Hai, hai, ebr Angeu, er eich trachwanteu
melltigedig eich hunain, ac nid i 'm porthi
i y gwnaed hyn oll: Rhwymwch y ddau,

td. 70
wyneb yn wyneb, gan eu bod yn hên gyfeillion,
a bwriwch hwy i Wlâd y tywyllwch,
a chwyded ef i 'w chêg hi, pised hitheu dân
i 'w berfedd ynte hyd Ddyddfarn; yna cippiwyd
hwytheu allan a 'u penne 'n isa. Yn
nesa i 'r rhain, daeth saith Recordor: peri
iddynt godi eu dwylo ar y barr, ni chlywid
mo hynny, canys 'r oedd y cledreu 'n
ireiddlyd; ond dechreuodd un ddadleu 'n
hyfach, ni ddylasem gael dyfyn teg i barotoi
'n hatteb, yn lle 'n rhuthro 'n lledradaidd.
O nid ŷm ni rwymedig i roi i
chwi 'r un dyfyn pennodol, ebr Angeu, am
eich bod yn cael ymhôb lle, bôb amser
o 'ch einioes rybudd o 'm dyfodiad i. Pa
sawl pregeth a glywsoch am farwoldeb
dyn? Pa sawl llyfr, pa sawl bedd, pa
sawl clul, pa sawl clefyd, pa sawl cennad
ac arwydd a welsoch? Beth yw 'ch
Cŵsc ond fy mrawd i? Beth yw 'ch penglogeu
ond fy llun i? Beth yw 'ch bwyd
beunyddiol ond creaduriaid meirwon? Na
cheisiwch fwrw mo 'ch aflwydd arna fi,
chwi ni fynnech sôn am y dyfyn er ei gael
ganwaith. Ertolwg, ebr un Recordor coch,
be sy gennych i 'n herbyn? Beth, ebr Angeu?
Yfed chwŷs a gwaed y tlodion, a
chodi dwbl eich cyflog. Dyma wr gonest,
eb ef, gan ddangos Cecryn oedd o 'u hôl, a
ŵyr na wnaethum i 'rioed ond tegwch: ac
nid têg i chwi 'n dàl ni yma heb gennych

td. 71
un bai pennodol i 'w brofi i 'n herbyn. Hai,
hai, ebr Angeu, cewch brofi 'n eich erbyn
eich hunain: Gosodwch, ebr ef, y rhain
ar fin y Dibyn ger bron Gorsedd Cyfiawnder,
hwy a gânt yno uniondeb er nas
gwnaethant. Yr oedd yn ôl etto saith o
Garcharorion eraill, a rheiny 'n cadw 'r fâth
drafferth a thrŵst, rhai 'n gwenieithio,
rhai 'n ymrincian, rhai 'n bygwth, rhai 'n
cynghori, &c. Prin y galwasid hwy at y
barr, nad dyma 'r Llŷs oll wedi duo 'n
saith hyllach nac o 'r blaen, a grydwst, a
chyffro mawr o gylch yr Orseddfainc a 'r
Angeu 'n lasach nac erioed. Erbyn ymorol
un o gennadon Lucifer a ddaethei â Llythyr
at Angeu, ynghylch y saith garcharor
hyn ac ymhen ennyd parodd Tynged ddarllen
y Llythyr ar osteg, ac hyd yr wy 'n
cofio dyma 'r geirieu:
Lucifer Brenin Brenhinoedd y Byd, Twysog
Annw'n a Phrif-Reolwr y Dyfnder at
Ein naturiol Fâb, y galluoccaf Ddychrynadwy
Frenin Angeu, cyfarch a goruchafiaeth
ac yspleddach dragwyddol.
Yn gymaint a darfod i rai o 'n cennadon
cyflym sy 'n wastad allan ar Yspî, yspysu i
ni ddyfod gynneu i 'ch Brenhinllys, saith
Garcharor o 'r saith rywogaeth ddihira 'n y
Byd, a pherycla, a 'ch bod chwi ar fedr eu

td. 72
hyscwyd tros y Geulan i 'm Teyrnas i:
Eich cynghori 'r wyfi i brofi pôb ffordd
bossibl i 'w gollwng hwy 'n eu hôl i 'r Byd:
gwnânt yno fwy o wasanaeth i chwi am
ymborth ac i mineu am well cwmnhi:
Canys, gwell gennym eu lle na 'u cwmpeini,
cawsom ormod o heldrin gyda 'u
cymmeiriaid hwy er's talm, a 'm Llywodraeth
i 'n cythryblus eusys. Am hynny
trowch hwy 'n ei hôl, neu gedwch gyda
chwi hwynt. Oblegid myn y Goron Uffernol
os bwri hwy yma, mi a faluriaf tan
Seiliau dy Deyrnas di hyd oni syrthio 'n
un a 'm Teyrnas fawr fy hun.
O 'n Brenhinllys ar sugnedd yn y Fall-gyrch
eirias yn y Flwyddyn o 'n Teyrnasiad
5425.
Safodd y Brenin Angeu a 'i wep yn wyrdd
ac yn lâs ennyd ar ei gyfyng-gyngor. Ond
tra bu e 'n myfyrio, dyma Dynged yn troi
atto 'r fath guwch haiarn-ddu a wnaeth
iddo grynu. Syre, ebr ef, edrychwch beth
a wneloch: Ni feiddia fi ollwng neb yn
ol trwy Derfyn glawdd Tragwyddoldeb y
Wàl ddiadlam, na chwitheu eu llochi hwy
yma; am hynny, gyrrwch hwynt ymlaen
i 'w destryw heb waetha i 'r Fall fawr; Fe
fedrodd drefnu llawer dalfa o fil neu
ddengmil o eneidieu bôb un i 'w le mewn

td. 73
munud, a pha 'r gledi fydd arno rwan gyda
saith er eu perycled? Pa ddelw bynnac, pe
troent y llywodraeth uffernol tros ei cholyn,
gyrr di hwynt yno 'n sydyn, rhag
ofn i mi gael gorchymyn i 'th daro di 'n
ddim cyn d' amser. Am ei fygythion ef,
nid ŷnt ond celwyddog: Canys er bod dy
ddiben di a 'r henddyn draw (gan edrych
ar Amser) yn nesau o fewn ychydig ddalenneu
'n fy Llyfr disommiant i; Etto nid
rhaid i ti uno'n {~ unofn } soddi at Lucifer, er daed fyddei
gan bawb yno dy gael di, etto byth
nis cânt: Oblegid mae 'r Creigieu dûr
a diemwnt tragwyddol sy 'n toi Annwn
yn rhy gedyrn o beth i 'w malurio. Ar
hynny galwodd Angeu 'n gyffrous am un
i sgrifennu 'r atteb fel hyn:
Angeu, Frenin y Dychryniadau, Cwncwerwr
y Cwncwerwyr at ein Parchediccaf Gâr a 'n
Cymydog Lucifer Brenin Hirnos, Penllywodraethwr
y Llynclyn Diphwys annerch.

Ar ddwfn ystyried eich brenhinol ddymuniant
hwn, gwelsom yn fuddiolach nid
yn unic i 'n Llywodraeth ni, eithr hefyd
i 'ch Teyrnas helaeth chwitheu, yrru 'r carcharorion
hyn bella, bai bossibl, oddiwrth
ddryseu 'r Wal ddiadlam, rhag i 'w Sawyr
drewedig ddychrynu 'r holl Ddinas ddihenydd,

td. 74
fel na ddêl dyn byth i Dragwyddoldeb
o 'r tu yma i 'r Agendor, ac felly ni
chawn i fyth oeri ngholyn, na chwitheu
ddim cwsmeriaeth rhwng Daiar ac Uffern.
Eithr gadawaf i chwi eu barnu a 'u bwrw
i 'r celloedd a welochwi gymmwysaf a siccraf
iddynt.
O 'm Brenhinllys isa yn y Goll-borth fawr
ar Ddistryw. Er blwyddyn adnewyddiad
fy Nheyrnas, 1670.
Erbyn clywed hyn oll, 'r oeddwn inne 'n
ysu am gael gwybod pa ryw bobl allei 'r
Seithnyn hynny fod, a 'r Diawliaid eu hunain
yn eu harswydo cymmaint. Ond cyn
pen nemor, dyma Glarc y Goron yn eu
galw hwy wrth eu henwau fel y canlyn.
Meistr Medleiwr, aliàs Bys ym hôb brywes,
'roedd hwn mor chwidr a phrysur yn
fforddio 'r lleill nad oedd e 'n cael mor
ennyd i atteb trosto 'i hun nes i Angeu
fygwth ei hollti a 'i saeth. Yna Meistr
Enllibiwr, aliàs Gelyn y geirda, dim atteb:
mae e 'n orchwylus glywed ei ditlau, eb y
trydydd, nis gall aros mo 'r llysenwau.
Ai tybied, eb yr Enllibiwr, nad oes ditlau i
chwitheu? Gelwch, ebr ef, Meistr Rhodreswr
mel-dafod, aliàs, Llyfn y llwnc, aliàs, Gwên
y gwenwyn. Redi! ebr Merch oedd yno
tan ddangos y Rhodreswr. O, ebr ynte,

td. 75
Madam Marchoges! eich gwasanaethwr tlawd,
da genni 'ch gweled yn iâch ni weles i
'rioed ferch harddach mewn clôs; ond
o'ch feddwl druaned yw 'r Wlâd ar eich
ôl am lywodraethwraig odiaeth, etto 'ch
cwmnhi hyfryd chwi a wnâ Uffern ei
hun yn beth gwell. O Fâb y Fall fawr,
ebr hi, nid rhaid i nêb gyda thi 'r un
Uffern arall, 'r wyti 'n ddigon. Yna galwodd
y Criwr Marchoges, aliâs, Meistres y
Clôs! Redi, eb rhywun arall, ond hi ni
ddywedodd air, eisieu ei galw hi Madam.
Yn nesa, galwyd Bwriadwr Dyfeisieu, aliàs,
Siôn o bob Crefft. Ond ni attebei hwnnw
chwaith, 'r oedd e 'n prysur ddyfeisio 'r
ffordd i ddianc rhag Gwlâd yr Anobaith.
Redi, redi, ebr un oi ôl, dyma fo 'n spio lle
i dorri 'ch brenhinllys, ac oni wiliwch, mae
ganddo gryn ddyfais i 'ch erbyn. Ebr y
Bwriadwr, gelwch ynte 'n rhodd, Meistr
Cyhuddwr, ei frodyr, aliàs, Gwiliwr y gwallieu,
 aliàs, Lluniwr Achwynion. Redi,
redi, dyma fo, ebr Ceccryn cyfreithgar,
canys gwyddei bob un henw 'r llall, ond ni
addefei neb mo 'i henw ei hunan. Gelw
chwitheu, ebr Cyhuddwr, Meistr Ceccryn
cyfreithgar, aliàs, Cwmbrus y cyrtieu: Tystion,
tystion o honoch, fel y galwodd y cnâ fi,
ebr Cecryn. Hai, hai, ebr Angeu, nid wrth
y Bedyddfaen, ond wrth y Beieu 'r henwir
pawb yn y Wlad yma, a thrwy 'ch

td. 76
cennad, Meistr Ceccryn, dyna 'ch henweu
a sai arnoch o hyn allan byth. Aie, ebr
Ceccryn, myn Diawl, mi wnâ 'n hâllt i
chwitheu, er y galleich fy lladd, nid oes
gennych ddim awdurdod i 'm llysenwi.
Mi rôf gydcwyn am hynny, ac am gamgarchariad
arnoch wi ach câr Lucifer ynghwrt
 Cyfiawnder. Erbyn hyn, gwelwn
fyddinoedd Angeu wedi ymdrefnu, ac ymarfogi,
a 'u golwg ar y Brenin am roi 'r gair.
Yna, ebr y Brenin, wedi ymsythu ar ei frenhinfainc,
Fy lluoedd ofnadwy anorchfygol
na arbedwch ofal a phrysurdeb i hebrwng
y Carcharorion hyn allan o 'm Terfyneu i
rhag diwyno Ngwlâd; a bwriwch hwy
'n rhwym tros y Dibyn diobaith, au penne
'n isa. Ond yr wythfed y gwr cwmbrus
yna sy 'n fy mygwth i, gedwch ef yn
rhŷdd uwchben y Geulan tan Gwrt Cyfiawnder,
i brofi, gwneud ei gwyn yn ddâ
i 'm herbyn i, os geill. A chyda 'i fod e 'n
eistedd, dyma 'r holl Fyddinoedd marwol
wedi amgylchu a rhwymo 'r Carcharorion,
ac yn eu cychwyn tu a 'u lletty. A minneu
wedi mynd allan, ac yn lled-spio ar
eu hôl, Tyrd yma, ebr Cwsc, ac a 'm cippiodd
i ben y Tŵr ucha ar y Llŷs. Oddiyno,
gwelwn y Carcharorion yn mynd
rhagddynt i 'w dihenydd tragwyddol: A
chyn pen nemor, cododd pwff o gorwynt,
ac a chwalodd y Niwl pygdew cyffredin

td. 77
oedd ar wyneb Tir Ango, onid aeth hi 'n
llwyd oleu, lle gwelwn i fyrdd fyrddiwn
o ganhwylleu gleision, ac wrth y rheiny,
cês olwg o hirbell ar fin y Geulan ddiwaelod:
Ond os golwg dra echryslawn oedd
honno, 'roedd yno uwchben olwg erchyllach
na hitheu, sef, Cyfiawnder ar ei Gorseddfainc
yn cadw drws Uffern, ar Frawdle
neilltuol uwchben y safn i roi barn ar y
Colledigion fel y delont. Gwelwn daflu
'r lleill bendramwnwgl, a Checcryn ynteu
yn rhuthro 'i daflu ei hun tros yr ymyl
ofnadwy, rhag edrych unwaith ar Gwrt
Cyfiawnder, canys och! 'r oedd yno olwg
rydost i wyneb euog. Nid oeddwn i ond
yspio o hirbell, etto mi a welais fwy o erchylldod
arswydus, nac a fedrai rwan ei
draethu, nac a fedrais i 'r pryd hynny ei
oddef; canys, ymdrechodd a dychlammodd
f' yspryd gan y dirfawr ddychryn, ac ymorchestodd
mor egniol, oni thorrodd holl
gloieu Cŵsc, a dychwelodd f' enaid iw
chynnefin swyddeu: A bu lawen iawn
genni 'ngweled {~ fy ngweled } fy hun etto yn ymŷsc y
rhai byw; a bwriedais fyw well-well, gan
fod yn esmwythach genni gan mlynedd o
gystudd yn llwybreu sancteiddrwydd, na
gorfod gweled cip arall ar erchylldod y Noson
honno.
Gwnaethpwyd â / Made with Concordance