Theophilus Evans (1693-1767). Drych y prif oesoedd (Y Mwythig: gan John Rhydderch tros yr Awdur, 1716), 64-102, 116-23, 230-49.

Cynnwys
Contents

PEN. IV. 64
[Rhan i., Pennod 5, 116-23.] 116
PEN. V. 230


td. 64


PEN. IV.


Yr achos y galwyd y Saeson i Frydain. LLythyr
y Brutaniaid attynt. Hwythau'n dyfod yn ewyllysgar,
ac ym mhen yspaid yn troi'n fradwyr.
Y Brutaniaid a'r hynny yn eu hymlid hwy adref.
 RHonwen y Saesones yn gwenwyno Gwrthefyr
fendigaid y Brenin. A'r Saeson a'r hynny
yn dyfod drachefn i Frydain. Twyll y Cyllill
hirion. Marwolaeth echryslawn y brenin
Gwrtheyrn. Y Saeson yn myned adref o'i gwir
fodd, Ac yn cael groesaw hagr a'r eu dyfodiad
eilwaith. LLadd Hengist eu Tywysog. Gosod
cebystr am wddf pob Sais. Gwrthryfel Pasgen.
Sais yn gwenwyno Emrys wledig y Brenin.
Y Drwg a wnaethpwyd ganddynt a'r hynny, ac
yn cael eu hymlid gan Uthr Bendragon. Anghyttundeb
ym mysc y Brutaniaid eu hun. Dynion

td. 65
drwg yn eu chwerwder yn gollwng Swyddogion
y Saeson yn rhyddion o'r Carchar, a hwythau
yn myned i Germani i godi gwyr. Yr ymddiddan
a fu rhyngddynt a'i cydwladwyr yno.
Yn dyfod a châd luosog i Frydain ac yn gwenwyno
 Uthr ben-dragon. Y modd y câs Arthur
y Goron. Ychydig hanes a'm ei weithredoedd. Y
Saeson yn goresgyn LLoegr wedi marwolaeth
Arthur. Tywysogion Cymru. Ychydigyn o gyfraith
 Howel-dda. Yr amser y daethant i ufuddhau
Cyfraith Loegr.


WEdi dangos eusys i ba gyflyrau gresynol
y dycpwyd ein Hynafiaid gan
y llofrudd-enaid hwnnw PECHOD,
bellach mi a âf rhagof i ddangos eu
hynfydrwydd di-gymmar wrth
ddeisyf porth gan y Saeson. Etto
nid oedd hyn onid y peth y mae Duw yn fwgwth
yn erbyn anufudd-dod. Oni wrandewi a'r lais yr
Arglwydd dy DDuw, Yr Arglwydd a'th dery di
ag ynfydrwydd, ac a dallineb, ac a syndod calon.
Deut. 28, 15, 28. Ofnasant y Saeson o'r blaen
yn fwy nag angau ei hun. Etto dallwyd hwy yn y
cyfryw fodd, fel y danfonasant gennadon attynt, i'w
gwahawdd hwy trosodd. Mae etto beth anghyttundeb
ym mysc Historiawyr am ba achos y galwyd y Saeson
yma gyntaf. 1, RHai a ddywedant ddarfod eu galw
yn borth yn erbyn y FFichtiaid, a hyn sydd debyccaf
i fod yn wirionedd, gan nad yw Gildas ei hun

td. 66
yn crybwyll am un achos arall. 2. Eraill a
ddywedant fod Amgylchiadau y Brutaniaid fal hyn
y pryd hwnnw. Fe ddescynnodd Coron y Deyrnas
i wr graslawn a elwid Constans, yr hwn a
ddycpwyd i fynu mywn Monachlog, ac o'r achos
hwnnw, yr oedd ef yn anghydnabyddus ag arferion
y LLŷs, a'r gyfraith wladol. Felly efe a
osododd DDistain, neu oruchel Stiwart tano i
lywodraethu'r Deyrnas. Y Distain hwnnw a elwid
 Gwrtheyrn, a dyn balch, rhodresgar aniwair
oedd efe. A gwedi cael awdurdod brenhinawl
yn ei law, efe a feddyliodd ladd ei feistir. Felly
efe a roddes aur ac arian i ryw ysgerbydiaid ofer,
a'r iddynt ruthro am ben ystafell y Brenhin a'i
ladd ef. Ac yn ddiattreg hwy a aethant, ac a waeddasant
hyd yr heolydd, Gwrtheyrn Sydd
Frenin Teilwng o deyrn-wialen ynys
Brydain, a CHonstans Sydd Anheilwng.
Ac yn ddianoed cychwyn a wnaethant
a'm ben ystafell y Brenin, a'i ladd a orugant,
a dwyn eu ben ger bron Gwrtheyrn. A
phan welodd ef hynny, tristau megis wylaw a
wnaeth, ac eusys ni bu erioed lawenach yn ei galon.
A gwedi ei eneinio ef yn Frenin, efe a alwodd
y Saeson atto, rhac i gyfnesyfiaid Constans
ymddial arno: Ond nid yw hyn wirionedd, gan
na bu Constans erioed yn Frenin ym Mhrydain,

td. 67
can's efe a laddwyd yn yr Ital. 3. Eraill a
ddywedant fod Amgylchiadau Gwrtheyrn fal hyn.
Ni bu dim trefn neu lywodraeth weddaidd ym
mysc y Brutaniaid wedi'r RHufeiniaid ddilyssu'r
deyrnged iddynt. Eneinid Brenin heddyw, ac a'i difreinid
ysgatfydd yr ail ddiwrnod, a dewisid un arall
yn ei le: Ac y mae'n ddiddadl eu bod yn anwadalfarn
jawn yn eu llywodraeth, canys y mae Gildas
(y Brittwn dysgedig hwnnw) yn siccrhau hynny.
Ac yno Gwrtheyrn (rhac y gwneid yr un castiau
ag ynteu) a fwriadodd i siccrhau ei orseddfaingc
yn gadarn fal y tygasai ef. Felly efe a alwodd
a'm y Saeson i amddiffyn ei goron, os cynnygid ei
ddifreinio ef. Hyn a allai fod yn ddiau yn
beth achlysur, ond i ymladd a'r FFichtiaid oedd
y prif ddiben i alw'r Saeson i Frydain, can's nid
yw Gildas (fal y dywedais eusys) yn crybwyll
am un achos arall.

Felly Gwrtheyrn a alwodd ei ben-cynghoriaid
a'i Uchel-Swyddogion atto, a gwedi eu dyfod, efe
a dywedodd wrthynt fal hyn, " CHwi wyddoch
f'Arglwyddi fod y RHufeiniaid wedi ein gommedd
er ys talm, a ninnau yn llwyr anigonol i
roddi câd a'r faes i'n gelynion, ynteu anghenrheidiol
ydyw i ni ddanfon at ryw genedl a'm
borth. Ac yr ydwyf fi yn barnu fod y Saeson
yn bobl wychr, lewion, galonnog. Ac os bydd
gwiw ganddynt i wneuthur ammod a ni, yr wyf
yn gobeithio y bydd raid i'r FFichtiaid
a'r Scotiaid gymmeryd eu Coryglau tua'r Iwerddon

td. 68
etto. (‡), A hwy a attebasant gan
ddywedyd, O Arglwydd frenin pwy all dy luddias
di rhac gwneuthur y peth sydd dda yn dy
olwg? Wele ni oll (fal y gweddai i ddeiliaid
ufuddhau gorchymmyn eu brenin) yn llwyrgyttuno
a thydi am y peth a ddywedaist, sef danfon
cennadwri at y Gwyr da y Saeson, os bydd
gwiw ganddynt ammodi a ni. Ac yno yr ysgrifennwyd
LLythyr i ddanfon at y Saeson yn yr ystyr
hyn nid amgen.

Y SAESON Ardderchoccaf.
Nyni y Brutaniaid truain wedi'n harcholli
a'n dugn-friwio gan hygyrch ruthr ein gelynion,
ydym yn danfon y llythyr hwn attoch chwi
y Saeson anrhydeddus (sŵn eich gweithredoedd
enwog sydd wedi ehangu cymmaint) i ddeisyf
porth gennych y cyfamser hwn. Ein gwlad
sydd ehang ddigon, fflwch mywn pob peth perthynasol
i'n cynhaliaeth, digon yw hi i ni a
chwithau. Hyd yn hyn y bu'r RHufeiniaid yn
ymgeleddwyr tirion i ni, nessaf at ba rai ni adwaenom
neb a ddangosodd brawf mo'r helaeth
o'i grymysdra a chwychwi. Boed 'ich harfau
ddatcan allan eich hanghyfartal galondid yn yr
ynys hon, ac ni fydd flin gennym ddwyn un
gwasanaeth a esyd eich hardderchawgrwydd
chwi arnom. Hoff a dymunol jawn a fu'r
wahawdd hon i'r Saeson: Felly attebasant, Gellwch
hyderu Frutaniaid anrhydeddus, y bydd
y Saeson yn gyfeillon cywir i chwi, ac yn barodol
i'ch cynnorthwyo yn yr ing a'r trallod
mwyaf.
Hengist a'i frawd Hors Arglwydi Germania.


td. 69
PAn ddychwelodd y Gennadwri adref i Frydain,
bu gorfoledd a llawenydd mawr ym
mhlith y Brutaniaid, ac yn ddiattreg hwy a
ddechreuasant arlwyo a pharottoi danteithion a
melus-bethau'r ynys i'w groesawi hwy i mywn.
Ac yn y flyddyn o oedran CHrist 449, y tiriasant
ym Mhrydain tan y ddau Gad-pen uchod Hengist
a'i frawd Hors. ‡ Derbynniwyd hwy yn
anrhydeddus gan y Brutaniaid, a gwedi iddynt
wledda a bod yn llawen dros yspaid, tynnwyd
Ammodau'r Gyngrair rhyngddynt, sef yw hynny,
y Saeson a addunedasant trwy lw i fod yn ffyddlon
gwas'naethgar ac ufudd i'r Brutaniaid: A'r Brutaniaid
hwythau a gymmerasant lŵ o'r tu arall i wobrywo
'r Saeson yn ol y cyttundeb. Ac ni bu'r
Saeson yn swrth neu legenraid a'r y cyntaf.
Canys ymladdasant yn hoyw-brysur, ac ynillwyd
trwy eu porth hwy, Fuddugoliaeth enwog a'r
y FFichtiaid a'r Scotiaid.

Ond ffyddlondeb y Saeson onest a wiwodd pan
welsont mo'r flodeuog oedd ein gwlâd. Felly
hwy a ddanfonasant adref at eu cyd-wladwyr i
gwahawdd hwythau trosodd i fod yn gyfrannogion
o'r un moethau da. Y wlad, (eb'r hwy)

td. 70
Sydd yn ffrwythlawn a llawn o bob danteithion
a'r a all calon dyn ewyllysio, ond y trigolion
ydynt lwrfion llesc a diofal. Os ydych gall,
na arhoswch gartref i newynu, ond deuwch i
Frydain i fod yn gyfrannogion o'n moethau da
ni. Canys ni a wyddom pa luniaeth sâl foldwyllog
sydd gartref ond chwi a gewch yma
eich digoni a'r Fara gwyn a chig a chwrwf da.
. . . . . Ond i draethu'n meddyliau wrthych
chwi'n ddirgel, yr ŷm yn bwriadu i ruthro
trwy frad a'r y trigolion diofal hyn, fal y byddo
y wlad yn eiddo ein hunain. Ac am hynny
deued y gwrolaf o honoch chwi trosodd, ond
gwybyddwch fod eich harfau yn gywrain ac yn
dacclus. Byddwch wych.

Pan ddarllenasant y llythyr hwn, prin na threngasant
gan lawenydd wrth glywed y fath hapusrwydd
a gadd eu cyd-wladwyr. Ond yn anad
dim pan ystyriasant eu diragrithiol ewyllysgarwch
i gwahawdd hwythau trosodd i gael rhan o'i
moethau da. Ac yn ddiattreg bryssio a wnaethant
ac a hwyliasant tua gwlad yr Addewid.
Gyd-a'r fyddin hon y daeth Merch Hengist trosodd
a elwid RHonwen, ac herlodes weddeidddlos
lân ydoedd hi. Ac yno y ceisiodd Hengist
y Sais gan Wrtheyrn y Brenin ryw Gastell neu
ddinas Fal y byddwyf [eb'r ef) yn anrhydeddus ym
mhlith y Tywysogion. Ond attebawdd Gwrtheyrn,
Ha ŵr da nid yw hynny weddus, canys estron a
PHagan ydwyt ti, a phe i'th anrhydeddwn di megis
Dluedog o'm gwlad fy hun, y Tywysogion
a gyfodent i'm herbyb. Ond Arglwydd [eb'r

td. 71
Hengist] caniattâ i'th wâs gymmaint o dir i adailadu
Castell ag yr amgylchyna Carrai. Di a gei
gymmaint a hynny yn rhwydd, eb'r Gwrtheyrn.
Ac yno y cymmerth Hengist groen tarw, ac a'i
holltodd yn un garrai, ac yn y lle cadarnaf, efe a
amgylchynodd gymmaint a chae gweddol o dir,
ac a adailadodd yno Gaer hoyw, yr hon a elwid
yn Gymraeg gynt Caer y garrai, eithr yn-awr
gan y Saeson, Dancastre, i. e. THong-chester.

Ac yno Hengist a wahoddodd Gwrtheyrn y Brenin
i weled y Castell a wnaethpwyd, a'r Marchogion
a ddaethai o Germani. A gwnaethpwyd
gwledd fawr yno, a gwybu Hengist fod Gwrtheyrn
y Brenin yn wr mursennaidd, felly efe a archodd i
Ronwen ei ferch, i wisgo'n wych odidog am dani,
ac i ddyfod i'r Bwrdd i lenwi gwin i'r Brenin.
A daeth ystryw Hengist fal yr ewyllysiodd, canys
Gwrtheyrn aniwair a hoffodd yr Enaith, ac a ddymunodd
gael cyscu gyd-a hi y noson honno, a phan
geryddwyd ef am hynny gan Esgob LLundain a
elwid Fodin, efe a'i trywanodd a'r cleddyf,
ac a gymmerth RHonwen yn gariad-ferch iddo,
yr hon er tecced oedd, oedd lawn o bob ystryw
drwg. Geiriau'r CHronicl sydd fal hyn, A Gwedi
meddwi Gwrtheyrn, neidiaw a orug Diawl yntho,
a pheri iddaw gytsynniaw a'r Baganes ysgymmun
heb fedydd arni.

A'r ol hyn y Saeson a geisiasant amser cyfaddas
i ruthro a'r y Brutaniaid, ac yn gyntaf hwy a
achwynasant i fod eu gwobr yn rhy brin, a chawsant
'chwaneg gan y Brutaniaid, yr hyn a'i

td. 72
distawodd dros ennyd. Ond canasant yr un
Dôn yn ebrwydd eilwaith (er nad oedd hynny
ddim ond lliw ac escus) ac a fwgythasant i anrheithio
'r cwbl o amgylch. A allwn ni [eb'r
hwy] ymddwyn y fath lafur a lludded am sothach
a ffylbri? A raid ini fentro'n hoedlau i'ch cadw
chwi'n ddiogel a difraw a'm fawach a choeg-bethau
di-fudd? Nid ym ni y cyfryw ffyliaid. Ac yno
heddychasant a'r FFichtiaid, cyd-ymgynnullasant
eu byddinoedd, a rhuthrasant dros yr Ynys or
Dwyrain i'r gorllewin. Prin y gall Tafod fynegi
Dywalder y LLaddfa echryslawn honno; cyffelyppach
oedd Gwedd yr ynys hon i Fynydd lloscedig
megis Etna nag i wlad ffrwythlawn mal y
buasai hi o'r blaen; canys y Saeson a gynneuasant
dan ym mhob LLannerch, yn y Dinasoedd, yn yr
ŷd, nes oedd y wlâd oll megis Goddaith; A'r
trigolion a leddid pa le bynnag y cyfarfyddid a
hwy, ac a'i gadewid yn dorfeydd rhyd y maesydd
yn borthiant i adar ysglyfaeth! Byddei'r
cestyll a'r tai annedd yn bentwr o gerrig, ac aelodau
drylliedig y Merthyron yn gymmysc a hwy!
Byddei'r Afonydd megis cynnifer gwythen goch
gan waed y lladdedigion oedd yn ffrydio iddynt!
Byddei'r Ogofau yn llawn o gelaneddau meirwon,
sef, y rhai a ffoesant yno, ac a drengasant
gan Newyn. A'r fyr eiriau Ni adawsant
na thŷ na thwlc heb ei losci, na dyn nac anifail
heb ei ladd y ffordd y cerddasant, Eu bwau a
ddrylliasant y gwyr ieuaingc, ac wrth ffrwyth

td. 73
bru ni thosturiasant, Eu llygaid nid eiriachasant
y rhai bach.

Wedi'r FFeilson digred o'r diwedd flino lladd a
llosci, y rhan fwyaf o honynt [ansicr am ba achos]
a ddychwelasant adref i Germani. Dywed
rhai mae'r achos o'i mynediad adref oedd, o herwydd
iddynt lwytho eu cylla yn rhy lawn, ac
iddynt ddewis, er mwyn cael eu cynnefinol jechyd,
fyned tuag adref er cael lheshad y Fôr-wybr. Ac
ni ddylai y rheswm hwn gael ei wawdio gan neb,
canys siccr ydyw fod * Gartrefol fuchedd y Saeson
yn arw-fŵyd Sâl ddigon, ond wedi cael prawf
o ddanteithion Brydain, pwy all dybied amgen
oni fwyttausant nes cael bolwst neu Surffet?
A arbedai y fath farbariaid newynog ddanteithion,
pethau amheuthun, a melus-fwydydd? Ac i ba
ddiben y dychwelent hwy i Germani y pryd hwnnw,
pe ni fuasent yn swrth a bol-gleifion? Ond
boed yr achos o'i mynediad adref beth a fynno,
mae'n sicr na chawsant onid groesaw hagr a'r eu
dyfodiad eilwaith i Frydain. Can's y Brutaniaid
a ddifreiniasant Wrtheyrn felltigedig, ac a etholasant
ei fâb a elwid Gwrthefyr yn frenin yn ei le;
a gŵr duwiol arafaidd, etto dwys a glew oedd
hwnnw, ac a gyfenwir o ran ei sancteiddrwydd,
Gwrthefyr Fendigaid. Felly'r Brutaniaid a
ddychwelasant yn edifeiriol at yr Arglwydd eu
Duw, gan alw arno yn egniol, yn wresog ac yn
ddifrifol. Ac yno hwy a ymgynnullasant at
eu gilydd o bob parth, fal y Gwenyn i'r cwch

td. 74
a'r dymmestl, a gwedi parhau yspaid mywn gweddi
ac ymbil, hwy a wersyllasant eu gŵyr, ac
a gyrchasant eu gelynion, ac nid allodd y Saeson
er lluosocced oeddynt eu gwrthsefyll, canys buan
y ffoesant, a'r Brutaniaid a'i herlidiasant ac a laddasant
nifer fawr o honynt. Cad-pen y Brutaniaid
yn y frwydr honno a elwid Emrys, yr hwn oedd
wr pwyllog arafaidd. Bl. yr Argl. 464, y bu hynny.

Y Saeson a ollyngasant eu pennau'n llibin
a'r hyn o aflwydd, Ond cymmerwn gyssur etto (eb
'r hwy) nid yw hyn ond damwain. Felly anfonasant
adref i Germani i ddeisyf a'r eu cyd-wladwyr
i'w cynnorthwyo a gŵyr ac arfau i oresgyn ynys
 Brydain; a danfonwyd iddynt yn ddianoed
lû mawr o wyr arfog cedyrn, ac a ymladdasant
bedeir brwydr a'r Brutaniaid, ond y Brutaniaid
trwy borth Duw a ynnillasant y maes ym
mhob un o honynt; canys Gwell yw Duw yn Gâr na
llu Daear. A gorfu a'r y Saeson fyned i Dîr eu
gwlâd, heb fwriad i ddychwelyd fyth drachefn i
Frydain. Bl. yr Argl, 467 y bu hynny.

Er gyrru y gŵyr arfog fal hyn a'r ffo, etto
chwith fu gan y Brutaniaid i ruthro a'r y gwragedd
a'r plant a adawodd y Saeson a'r eu hôl.
Eithr yr addfwynder hynny a fu achlysur o'i dinistr
hwy, sef y Brutaniaid. Canys pan wybu
RHonwen y Saesones felltigedig (LLys-fam Wrthefyr
y Brenin) i'r Saeson golli'r maes, a'i hymlid
adref, hi a lidiodd yn ddirfawr, ac a ddychymygodd
ynddi ei hun p'odd y gallai hi ladd
Wrthefyr y brenin. Ac o herwydd nad oedd bossibl
iddi hi ei hun gyflawni ei hystryw drwg, hi a
fynegodd ei bwriad, i un o'i gwas'naethwyr ffyddlonaf.

td. 75
Ac am Swm o arian efe a gyttunodd a hi,
a'r Melltigedig du a wenwynodd Wrthefyr clodfawryssaf
o holl frenhinoedd y Brutaniaid namyn
un sef Arthur ab Uthyr Bendragon. Pan
wybu Wrthefyr ddarfod ei wenwyno, efe a barodd
alw ei holl dywysogion atto a chyngori a orug
bawb o naddynt i amddiffyn eu gwlad, a'i gwir
ddlêd rhag estron-genhedl. A rhannu ei Swllt
[i. e. cyfoeth] a wnaeth i bawb o'r tywysogion,
a gorchymmyn llosci ei gorph ef, a rhoi y lludw
hwnnw mywn Delw o efydd a'r lûn gŵr yn y
porthladd lle bai estron-genedl yn ceisio dyfod i
dir, gan ddywedyd, Mae diau oedd na ddeuent
fyth tra gwelynt ei lun ef yno. Ond wedi marw
Gwrthefyr, ni wnaeth y Tywysogion megis yr
archasai efe iddynt, ond ei gladdu ef yng NGhaerLudd
yr hon ddinas a elwir heddyw LLundain.


LLyma RHonwen loyw-wen lon
Lawn ystryw o lin Estron.
Hwyr y tybir gwir gofiad
Mywn peth teg bod breg a brad!
Gorug [gwae ni] y Garan
Gwymp i ddynion glowion glân
Sorrodd y llances sarrug:
Torrodd hi wên llên a llug.

Naill yr ydoedd y Brutaniaid yn ffyliaid digymmar
y pryd hwnnw, neu Ynys Brydain oedd
wedi ei rhag-ordeinio i'r Saeson. Canys wedi
Wrthefyr fendigaid farw, hwy a etholasant

td. 76
Wrtheyrn felltigedig yn frenin eil-waith, yr hwn
a ddifreiniasant ychydig o'r blaen am ei ysgelerdr
a'i ddrygioni. Ac nid oedd RHonwen yn ewyllysio
ond hynny, canys wedi ei eneinio ef yn frenin
drachefn, hi a anfonodd Gennadon hyd yn Germani
i yspysu i'w thâd fod Gwrthefyr ei elyn
marwol wedi marw. Ha, ha eb'r Hengist wrth
ei ŵyr, Y mae i ni obaith etto. Ond attebasant
yn lled athrist, Gobaith ansiccr jawn ydyw, canys
ni a ddirmygasom ormod a'r y Brutaniaid eusys,
a phobl lewion ydynt hwythau wedi llidio. FFi,
FFi, ebe Hengist, na soniwch chwedl cyfryw a
hwnnw, yr ydym ni yn gyfrwysach na hwy, Pan
ballo nerth, ni a fedrwn wneud castieu. Ac yno
Hengist a gynullodd atto dri chan mil o ŵyr arfog,
ac a hwyliodd i Frydain; Ond pan welodd y Brutaniaid
y fath Lynges fawr yn hwylio parth ag attynt,
hwy a siccrhausant y Porthladd fal nad allent
dirio. Ac yno y gosododd Hengist arwydd tangneddyf
i siommi'r Brutaniaid, ac a ddanfonodd
gennadon i fynegi i'r Brenin, mae nid er molest
yn y bŷd y daeth efe i Frydain y waith honno
a'r fath lu ganddo, ond i gynnorthwyo'r Brenin i
ynnill ei Goron yr hon a gippiwyd yn anghyfiawn
oddiwrtho: Canys ni wyddem ni ddim amgen,
[eb'r hwy,] onid oedd Gwrthefyr dy fab yn fyw
etto. Cymmerodd Gwrtheyrn y brenin hoffder
yn yr ymadrodd hwnnw, ac a ddiolchodd
iddynt am eu cariad. Ac yno hwy a ofynnasant
i'r Brenin, o byddai gwiw gan ei Fawrhydi ef
i appwyntio rhyw ddiwrnod fal y cai Hengist eu
harglwydd siarad ag ef. Efe a gaiff yn rhwydd
hynny o ffafor, ebe Gwrtheyrn. Eithr o Arglwydd

td. 77
frenin [eb'r hwy etto] fal yr ymddangoso etto'n
eglurach ein bod ni yn wir ewyllysio tangneddyf
nid cynnen, deued pawb yn ddiarfog i'r lle gosodedig
a wêl eich mawrhydi chwi yn dda i'w
appwyntio. Da y dywedwch (ebe Gwrtheyrn)
ac ni a gyfarfyddwn ddydd calan-mai nessaf yng
wastadedd Caer-Caradoc.

Wedi hyn gymmeryd affaith Hengist a alwodd
ei farchogion atto ac a archodd iddynt i wneuthur
fal y cynghorai efe. A gwedi iddynt addaw
a'r wneuthur hynny, Hengist a aeth rhago
gan ddywedyd, Dydd calan-mai nessaf yr ŷm yn
cyfarfod y Brutaniaid tan rith i heddychu a hwy,
ond mywn gwirionedd i'w lladd. Canys wedi i ni
ladd y Pennaethiaid, ê ddyd hynny gymmaint o
fraw yn y Gwerinos, fal na bo gan un o naddunt
galon i'n gwrthsefyll. Ond i affeithio hyn o
orchwyl yn gyfrwys, Dygwch bob un o honoch
gyllell awch-lem flaen-fain (megis cyllill y cigyddion)
yn ei lawes; A phan ddywedaf i wrthych
Nemet eour Saxes lladded pawb y nessaf atto.
Hynny a fydd yr Arwydd. Ac a'r y dydd
'pwyntiedig cyfarfod a wnaethant yn heddychlon ac
yn gariadus, ac a eisteddasant Frittwn a Sais blith
draphlith o amgylch y byrddau: Ond wedi eu
myned yn llawen, cododd Hengist a'r ei draed,
ac a waeddodd Nemet eour Saxes. Ac yn ddiattreg
hwy a dynnasant eu cyllill hirion allan, ac a
laddasant ynghylch tri chant o bendefigion y
deyrnas yn dosturus jawn. Ac ni ddiangodd
neb o Dywysogion ynys Brydain ond Eidiol Jarll
Caer-loyw yr hwn a ddiangodd o nerth trosol a

td. 78
gafas ef dan ei draed, ac a'r trosol hwnnw, efe a
laddodd ddeng ŵr a thriugain o'r Saeson, canys
gŵr glew oedd hwnnw Ystyr y geiriau
Nemet eour Saxes, yw Cymmerwch eich cyllill.
Bl. yr Argl. 473 y bu hynny.

Fe ddamweiniodd i mi weled un o 'r cyllill hirion
hynny, ac un hagr hell ydoedd hi; Y llafn
oedd ynghylch 7 modfedd o hyd, ac yn 'chwaneg
na hanner modfedd o lêd, ac yn ddau finiog
5 modfedd o'r saith. Ei charn oedd
Elephant, a manyl-waith cywrain arno, a llun
gwraig noeth, a bŵl crwn yn y llaw afrwy, a'r
llaw ddeheu a'r ben ei chlun. Ac yr oedd llun
gwâs ieuangc wrth y tu deheu o honi, a'r Haul
o amgylch ei ben. Ei gwain oedd Elephant hefyd,
wedi ei gweithio yn gywrain jawn: Ac meddant
hwy, yr oedd y Gyllell hon yn un o'r rhai
fu gan y Saeson yn lladd Pennaethiaid y Cymru.
Ac wrth ystyried y drwg a wnaeth hi, nid allaf
lai na doydyd.


Gwae ni ddydd anedwydd Haf!
Gwell oedd blîn guch-hin gauaf:
Gwae rhag Gwrtheyr' gwr gwrthun!
A gwae fawr rhag gwe ei fun!
A gwae fwy etto tro trist!
Angau trwch rhag llafn Hengist!
Pa ddifriaeth gaeth geithiw
Haeddai'r gyllell hell ei lliw?
Mîn Judas yn lliasu;
Dant ci crôg cyndeiriog du;
Cilwg anfad y fad fawr;
Colyn sarphes gelain-sawr;


td. 79

Swch ellyll ddigellwair;
Saeth hagr hell fel cyllell wair;
Dagr garnwen, gethren gythrawl;
Neddai ddu a naddai DDiawl.

Er mwyn rhoddi i'ch ystyriaeth siampl hynod
o farnedigaeth y Goruchaf a'r Bechod a RHyfyg,
tybiais yn addas i osod yma hanes o farwolaeth
Echrys-lawn Gwrtheyrn y brenin, can's ni laddasant
mo'no ef yn y wledd waedlyd honno, eithr
cadwynasant ef dros ychydig ddyddiau, ac o herwydd
ei fod yn fab ynghyfraith i Hengist, gollyngasant
ef yn rhydd i fyned pa le y mynnei ei hun.
Ac yn ddiattreg efe a aeth a'r encil tua Gwynedd,
ac i ddeleu coffadwriaeth ei wynfydedigrwydd
gynt, a dugn-frad y Saeson, efe a fwriadodd i
adailadu o fywn Eryri yng Gwynedd Gastell i
fyw'n ddiogel tua ei Butteiniaid yno. * Ond
cymmaint a adailadid y Dydd a Syrthiai'r nos, ac
ni ellid mywn modd yn y bŷd i beri'r gwaith
sefyll. Synnu a wnaeth pawb yn ddirfawr i
weled y fath ddamwain ryfeddol a honno, ac o'r
diwedd y Brenin a ymgynghorodd a'i ddauddeg
prif-fardd am yr achos na safai'r gwaith. Ond
ni allent mywn modd yn y byd chwilio allan yr
achos. Ac yno y dywad y Synwyrolaf o honynt,
RHac i'n celfyddyd fod yn watworgerdd, dywedwn
beth amhossibl i fod Felly hwy a ddywedasant

td. 80
wrth y Brenin, Pe ceid gwaed mab heb
dad iddo, a phe cymmyscid hwnnw a'r dwfr ac
a'r calch, fe saif y gwaith. Ac yn ddianoed y
Brenin a anfonodd ei Swyddogion i bob man o
Gymru i ymofyn pa le y ganesid un mab heb Dad
iddo. A gwedi tramwyo gan mwyaf yr holl
wlâd, y daeth dau o'r cennadon i Dref a elwid
wedi hynny, Caer-fyrddin, ac ym mhorth y
y ddinas hwy a welynt ddau langc ieuangc yn
chwarau pêl; enw'r naill oedd Myrddin, ac enw'r
llall oedd Dunawt. A'r llangciau hyn (fal y mae
hi'n damweinio etto yn y fath achos) a ymryssonasant
a'i gilydd, a Dunawt a ddwad wrth
Myrddin, Pa achos ydd ymryssoni di a myfi ? Canys
dyn tynghetfenawl wyt ti, heb Dad, a minnau
sydd o lin brenhinawl o ran Mam a thâd. Pan glybu
y Cennadon yr ymadrodd hwnnw, hwy a
edrychasant yn graff a'r Myrddin, ac a ofynnasant
i'r dynion oedd yn sefyll o amgylch, pwy oedd
y gwas ieuangc hwnnw? Hwy a attebasant na
wyddent hwy pwy oedd ei Dâd, ond ei fam oedd
ferch i frenin Dyfet ac yn Fynaches yn y Dref
honno. Ac yn ddianoed hwy a aethant at Gwnstab
y ddinas, ac a archasant iddo trwy awdurdod y
Brenin anfon Myrddin a'i fam at ei Fawrhydi
yng-Wynedd.

A gwedi eu dyfod ger bron y Brenin, y gofynwyd
i Myrddin pwy oedd ei Dâd ef? A'i fam
a attebodd Na's gwyddai hi Pwy? Pa fodd y
gall hynny fod, eb'r Brenin? Un ferch oeddwn
[eb'r hi] i frenin Dyfet, a'n nhad a'm rhoddes i
yn Fynaches yng NGhaerfyrddin; Ac fal yr oeddwn
yn cyscu ryw noswaith rhwng fy nghyfeillesau mi a
dybiwn yn fy hûn fod rhyw was iefangc teccaf yn y byd

td. 81
yn ymgydio a mi, eithr pan dduhunais i nid oedd yno
neb namyn fi am cyfeillesau; A'r amser hwnnw y
beichogais i ac y ganwyd y mab rhaccw, ac i'm cyffes i
DDuw ni bu i mi achos gwyr ond hynny; A rhyfeddu
yn fawr a wnaeth y brenin i glywed hynny, ac a archodd
ddwyn Meugan ddewin atto, ac a ofynnodd
iddo, a allai hynny fod? A Meugan a attebodd,
Gall o Arglwydd frenin, ac a draethodd ei resymmau
i brofi hynny. Ac yno y dywad y
Brenin wrth Myrddin, Mae'n rhaid i mi gael dy
waed. Pa les a wna fy ngwaed i mwy na gwaed
dyn arall ebe Fyrddin? A'm ddywedyd o'm dauddeg
prif-fardd y pair dy waed di i'r gwaith sefyll
yn dragywydd, eb'r Brenin, Ac yno y gofynnodd
 Myrddin i'r prif-feirdd, Pa beth oedd yn
llestair y gwaith? Ac ni allasant roddi atteb
iddaw. Ac yno y galwodd Myrddin hwy yn,
Dywyllwyr, a Bradwyr celwyddog. Felly efe a barodd
gloddio y ddaear yno, ac yn ebrwydd y
cafwyd llyn o ddwfr, a gwedi dyhyspyddu'r llyn
trwy ei arch ef y cafwyd yn ei gwaelod ddeu
faen geuon, a dwy ddraig, un wen, a'r llall yn

td. 82
goch yn cyscu ynddynt. A hynny oedd yr achos
na safai'r gwaith. Felly y Brenin a roddes anrhydedd
mawr i Fyrddin, ond efe a laddodd y
Dauddeg Prif-fardd o herwydd iddynt eu siommi
ef, ac y mae eu beddau i'w gweled yno hyd heddyw
yn adnabyddus wrth enw Beddau'r Dewiniaid.
Pa un a wnaeth y Gwaith a sefyll gwedi'n
neu syrthio, ni's gwn i, ond y mae 'n siccr i'r Brenin
symmud oddi yno i DDeheubarth, ac a'r lan
Teifi y gorphwysodd mywn lle anial yno, ac a
wnaeth Gastell hoyw. Ond wedi iddo efe fwynhau
ei rodres aniwair tua ei Butteiniaid yno ryw
dalm o amser, y daeth Gwr duwiol * heibio yn
galon-ofidus jawn i weled y fath ddiystyr ac amharch
a'r gyfraith Duw ac ydoedd yn LLŷs y
Brenin Gwrtheyrn, ac efe a'i ceryddodd a'm
ei bechodau ffiaidd. Ond pan ddeallodd na thycciai
ei argyoeddiad, efe a weddiodd DDuw o ddifrif
na adawai efe y fath ffieidd-dra 'Sceler i lwyddo
rhac bod yn gwymp a thramgwydd i eraill. Ac
yno, gwedi iddo barhau dri niwrnod a thair nôs
mywn gweddi, y syrthiodd tân o'r wybr yn y
bedwaredd nôs, ac a loscodd y Castell a'r Brenin
a'i holl Gyfeillion yn ulw. Digwyddodd
y farnedigaeth hon Bl. yr Argl. 480. Ac y
mae Relyw y Castell yn weledig hyd heddyw yn
adnabyddus wrth enw Craig Wrtheyrn. Y lle
hwnnw sydd bedair milltir is-law LLan-petr PontStephan
yn Sîr Gaerfyrddin a'r Lan Teifi.


td. 83
Ond i ddychwelyd etto at amgylchiadau'r Brutaniaid
wedi lladd y Dluedogion. Bu hi gyfyng
arnynt dalm mawr o amser wedi hynny, ac nid
oedd nawdd ond y Diffaithwch a chromlechydd y
Mynyddoedd, canys cyn ffyrnicced oedd y Saeson,
fal na ddiangai neb a'i fywyd ganddo ag a ddeuai
o fywn eu crafangau. Ond y prif-achos o hyn oll,
oedd pechodau ffiaidd a drwg-fuchedd y Brutaniaid,
ac am hynny Pawb a'r a'i cawsant a'i difasant,
a'i gelynion a ddywedasant Ni wnaethom ni
a'r fai, canys hwy a bechasant yn erbyn yr Arglwydd,
trigle cyfiawnder sef yr Arglwydd gobaith
eu tadau. Jer. 5, 7. Ac o'r diwedd ein Hynafiaid
ninnau a ystyriasant hynny o ddifrif, ac a
ddychwelasant yn Edifeiriol at yr Arglwydd. Ac
yno, yr Etholasant Wr duwiol a elwid Emrys
wledig * yn Frenin arnynt, yr hwn a fuasai yn Gadpen
o'r blaen yn amser Gwrthefyr fendigaid, ac
a lwyddodd fal y darllenasoch eusys. Ond y
waith hon wedi ei goroni ef yn frenin, efe a ddyrchafodd
Fraint y Brutaniaid hyd y Nen, ac a ostyngodd
greulonder y Saeson hyd y llŵch. Canys
mywn brwydr a ymladdasai a hwy, y gwasgarwyd
eu holl lu, a daliwyd Hengist eu tywysog
yn garcharor; a'r Milwyr a'i llyscasant gerfydd
ei farf i'w ladd ef, eithr rhai o'r pennaethiaid
nid y gwyr callaf) a ewyllysiasant ei arbed ef,
ond yno y dywad Esgob a elwid Dyfrig, Pettai
bob un o honoch chwi am ei ryddhau ef, myfi, ie myfi,
ag wyf yn Esgob, a'i drylliwn ef yn chwilfriw,

td. 84
canys mi a ganlynwn Siampl y Prophwyd Samuel
yr hwn pan oedd Agag Brenin Abimelec yn ei law
a ddywedodd, Fal y diblantodd dy gleddyf di wragedd,
felly y diblentir dy fam ditheu ym mysc
gwragedd. A Samuel a ddarniodd Agag ger
bron yr Arglwydd yn Gilgal. 1. Sam. 15, 33.
Gwnewch chwitheu Anwylwyr yr un ffunud i
Hengist, yr hwn sydd megis ail Agag: Ac yno
Eidiol Jarll Caer-loyw brawd Dyfrig yr Esgob,
a ddrylliodd Hengist, yn dameidiau. A thyna
ddiwedd am y Bradwr hwnnw. Bl. yr Argl-
489 y bu hynny.

Pan ystyriwyf greulonder a ffalstedd anhygar y
Saeson, yr wyf yn rhyfeddu lariedd-dra'r Brutaniaid
y pryd hwnnw. Ond etto pan ystyriwyf eu
diffuant ewyllysgarwch i garu tangneddyf a hedd,
synnu nid wyf ddim. A diammeu ydyw iddynt
ddangos ffafor arbennig i'r Saeson y pryd hwnnw.
Canys wedi'r Brutaniaid gael buddugoliaeth gyffredinol,
ac yn eu gallu i wneud a hwy fal y
gwelynt yn dda, etto'r holl gospedigaeth a osodwyd
arnynt ydoedd, i bob Sais osod cebystr am ei
wddf, cydnabod ei fai, deisyf maddeuant am yr hyn
aeth heibio, ac ymrwymo trwy lŵ i fod yn Gaethwas
i'r Brutaniaid. Eithr i'm tyb i, y prif achos
o larieidd-dra'r Brutaniaid ydoedd gan mwyaf
yn oruwch-naturiol, Sef yw hynny, i'r Goruchaf
DDuw liniaru eu hysprydoedd fal na lwyrddifethent
y Saeson; a bod yn ei arfaeth dragywyddol
ef i ddewis Sainct ac Etholedigion o'r genhedl
honno. Ac amlwg ydyw eu bod mywn
dysc a duwioldeb yn cystadlu un genhedl tan Haul

td. 85
wedi iddynt dderbyn y Grefydd Grist'nogol, (yn
enwedig wedi adgyweiriad Crefydd.

Dros ennyd fechan y bu llonyddwch, tangneddyf
a diogelwch; ond wele gymmylau dryg-hin
etto'n cyfodi! Yr oedd mâb i Wrtheyrn a
wnaeth aflonyddwch mawr a elwid Pasgen, canys
hwnnw a wnaeth deyrn-frad yn erbyn y LLywodraeth.
Ond p'odd i ddwyn i ben ei amcan anhydyn
ni wyddai, a chalon-ofidus ac anesmwyth
a fu efe dalm o amser. Ond pan welodd Sais ef
mo'r brûdd a myfyriol, yspryd-blinderol ac
athrist, efe a ofynnodd iddo a'm ba achos yr oedd
cyn brûdded ac athrist? O herwydd fy mod
(ebe Pasgen) yn myfyrio a'r beth sydd agos yn
amhossibl i ddyfod i ben. Ha, Ha (eb'r Sais)
Swllt i Geiniog ond bwriadu yr ydwyt a'm fod yn
frenin. Ac os hynny sy'n dy flino dod dy galon a'r
esmwythdra, ni a wnawn o'r goreu. Ond gwrando
etto, pa beth a roddi di i mi, os yr anturiaf fy
hoedl i wenwyno Emrys wledig y Brenin? Ti a
gei [eb'r Pasgen] ddim anrhydedd a'r a elli ddymuno.
Mi a'th wnaf yn DDuwc, a thi fyddi'r
ail mywn anrhydedd yn y Deyrnas, o's byth y
coronir fi yn frenin. Ac yn yr amser hwnnw (fal
yr oedd gwaethaf y dynghedfen) Emrys wledig y
Brenin oedd yn glâf. A bryssio a orug y Sais i
lŷs y Brenin ac a gymmerodd arno i fod yn Feddyg.
Ac efe a ddywedodd wrth Weision y Brenin ei fod
efe yn Feddyg celfyddgar ac yn jachau pob math
o haint a chlefyd, Ac o bydd gwiw (eb'r ef) gan
ardderchoccaf fawrhydi y Brenin i gymmeryd o'r
Feddyginiaeth sydd gennyf i, fy mywyd i trosto oni
bydd cyn pen nemmawr o amser yn holl jach. A
mynegwyd hynny i'r brenin, ac efe a barodd alw
y Meddyg i'w stafell. Ond yn lle meddyginiaeth,

td. 86
rhoddes y Bradwr melldigedig iddo gwppanaid o
wenwyn marwol, yr hwn a'i gwenwynodd ef yn
ebrwydd, Ond y Sais a ddiangodd yn ddiarwybod
iddynt. Fe ddywedir i Seren gynffonnog
ymddangos a'r yr awr honno, y bu y Brenin farw,
ac i Myrddin (wedi manwl-graffu a'r y Seren)
ddywedyd fal hyn, O genhedl y Brutaniaid, ynawr
yr ydych chwi'n weddw ac yn ymddifaid am
Emrys Wledig. CHwi a gawsoch golled nad ellir ond
prin ei ynnill fyth drachefn.

Tost a gresynol a fu Gorthrymderau'r Brutaniaid
wedi marw y Brenin ardderchog hwnnw:
Canys er i'r Saeson (fal y darllenasoch eusys) osod
cebystrau am eu gyddfau, a chymmeryd llw i fod
yn gaeth-weision trag'wyddol i'r Brutaniaid, etto
wedi marw Emrys Wledig hwy a ddadleuasant
eu bod hwy yn-awr yn ŵyr rhyddion. Canys (eb'r
hwy) tyngu ffyddlondeb i Emrys Wledig yn unig
a wnaethom ni, nid i neb a'r ei ol. Ac yn ddiattreg
bryssio a wnaethant, ac a ddanfonasant i Germani,
a PHasgen ynteu i'r Iwerddon a'm borth.
Ac yn ddianoed y daeth Cilamwri brenin yr
Iwerddon i'r gorllewin, ac Arglwyddi Germani i'r
Dwyrain gyd-a llu mawr ganddynt. A'r Brutaniaid
hwythau a etholasant frawd i Emrys a elwid Uthur
bendragon yn frenin arnynt. Ond ysywaeth y gelynion
a diriasant yn ddiarwybod iddynt, ac ni
adawsant na thŷ na thwlc heb ei losci, na dyn na
llwdn heb ei ladd y ffordd y cerddasant: Yr oedd
y Saeson wedi difrodi y dwyrain ran o'r ynys hyd
yng NGaer-Efroc, a'r Gwyddelod hwythau wedi
dinystrio y cwbl y ffordd y cerddasant o'r Gorllewin
hyd yng NGhaer Baddon. A phan oedd y Saeson
yn dechreu ymladd a CHaer Efroc y daeth

td. 87
Uthur a'i lu yn borth i'r ddinas, ac yno y bu
Brwydr waedlyd, ond o'r diwedd y Saeson a ffoesant
ac a ddaethant at y Gwyddelod, y rhai oedd
y pryd hwnnw gar-llaw Caer baddon (neu'r Bath)
ac ni allwn fwrw amcan i fod yno Gad luosog rhwng
y ddwy blaid. Ond er lluosocced oeddynt, ni laesodd
gwrol-fryd y Brutaniaid i ymladd a hwy; ac
atti yr aethant yn lewion a dwys-gadarn, ac un-waith
yn ddiau y bwriadodd un asgell Câd y Brutaniaid
i ffoi, ond yno Arthur Mab y Brenin a'i cyssurodd
gan ddywedyd wrthynt O gyfeillion anwyl a adewch
chwi i'r Barbariaid digred melldigedig hyn i
draws-feddiannu ein gwlad? Ynteu Gobeithiwch
yn Nuw Holl-alluog, ac ymwrolwch Ac a'r
hynny hwy a gymmerasant galon o newydd, ac a
ergydiasant eu saethau cyn amled a chawod o Genllysc
at y Gelynion, ac ni laesodd y dewrder, yr
arial, a'r egni hwnnw ynddynt, nes ynnill Buddugoliaeth
enwog, Bl. yr Argl. 493 y bu hynny.
Arthur a ymddugodd yn wrol-wych ac yn ddwysgadarn
yn y frwydr honno; Felly y Beirdd a ymegniasant
i gyfansoddi Pennillion ac odlau i'w
foli: Ac ym mysc eraill Taliesin sy'n canu fal
hyn.

Gwae yntwy yr ynfydion * pan fu waith Faddon
Arthur ben-haelion y llafneu bu gochion
Gwnaeth a'r y alon gwaith gwyr gafynnion
Taliesin ben-Beirdd a'i cant.


td. 88
Wedi hyn y bu hi gyfyng jawn a'r y Saeson dalm
mawr o amser Canys eu Capteniaid a garcharwyd,
a'r milwyr cyffredin a fuont yn gaeth-weision i'r
Brutaniaid. Ond wedi Dô arall gyfodi, bu'r Brutaniaid
yn gaeth-weision, a'r Saeson yn Feistri.
Sic transit gloria mundi. Canys a'r ol talm o amser
y tyfodd anghyttundeb ac amrafael rhwng y
Brenin a'i ddeiliaid ei hun, ac yn eu chwerwder
a'i bustledd tu-ag atto y gollyngasant Bennaethiaid
y Saeson yn rhyddion o'r carchar [gwelwn yma
affaith llidiawgrwydd a Malais yn cymmell dynion
i niweidio, ie eu hunain] Ac yn ddianoed bryssio
a wnaethant, ac a fordwyasant tua thîr eu gwlad.
Ac yno y danfonasant eu deisyfiadau at Arglwyddi
Germani, i gael cennad i godi Gwyr i oresgyn
Ynys Brydain. Ond (eb'r hwy) yn lled-ddigofus,
pa sawl gwaith y buoch yma eusys a'r y neges
hwn? Dyna'ch chwedl yn wastadol, I oresgyn
ynys Brydain; i oresgyn ynys Brydain. Ond mae
'n debygol i chwi ofer-dreulio'ch amser yno mywn
gloddest a meddwdod, ped amgen, os ydyw'r trigolion
yn bobl mo'r lwrfion a llesc ag y dywedwch
chwi, chwi ynnillasech y wlâd er ys talm.


Milwyr) Na ddywedwch, Sirs, i ni ofer-dreulio
'r amser. Canys i ddwyn a'r gof i'wch ychydig
o lawer o'n cyfrwysdra. 1, Ni a dorrasom
ammod a hwy, ac a laddasom y pryd hwnnw fyrddiynau
o honynt. 2, Ni a wenwynasom Wrthefyr
3, Onid cyfrwys oeddem pan y lladdasom dri
chant o DDluedogion y Deyrnas tan rith heddychu
a hwy? 4, Ni a wenwynasom hefyd Emrys wledig
ein gelyn marwol yn dichellgar ddigon: P'odd

td. 89
gan hynny y gellwch ddywedyd i ni ofer-dreulio'n
hamser?

Arglwyddi Germani) Cyfrwys ddigon: Etto'r
ydym ni yn rhyfeddu beth ydyw'r achos yr ŷch
yn methu tyccio i oresgyn yr holl wlâd.

Milwyr) I'n tyb ni, yr achosion ŷnt, o herwydd
eu bod ambell-waith yn cyhoeddi ympryd
ac yn gweddio eu Duw i ymladd trostynt: Ac er
eu bod y prydiau hynnny yn arafaidd, yn sobr,
yn bwyllog o ran eu hymwareddiad, etto, fal yr
ydym ni'n dal sulw hwy a fyddant siccr i dyccio
yn ein herbyn ni. Ac hefyd, math o ddynion rhyfeddol
ydynt, can's weithiau y maent mo'r llesgc
a methedig, fal y gall un Sais yrru ugain o naddynt
a'r ffô, ond yn y man, hwy a ymwrolant felly
yn eu chwerwder, fal nad yw'n ddiberygl i hanner
cant o honom ni y Saeson wynebu a'r un
Brittwn.

Argl. Germani.) Od oes gennych chwi fwriad
diyscog i ymladd o amser bwygilydd a'r Brutaniaid
nes eu llwyr orchyfygu hwy, yr ŷm ni'n tystio
wrthych, ni chaiff fod arnoch ddim eisiau
gwŷr nac arfau, deuwch cyn fynyched ac y fynnoch.

Ac yno hwy a gynnullasant lû mawr jawn o'i
dynion gwammal ac ysgerbydiaid ofer eu gwlad,
ac a ddaethant i Frydain. Ond ysywaeth yr oedd
Uthur Bendragon brenin y Brutaniaid yn glâf a'r
y cyfamser hwnnw: Eithr efe a orchymmynodd
i'w fâb ynghyfraith a elwid LLew ap Cynfarch i
fod yn Ben-ciwdod a'r frwydr y Brutaniaid. Ac
yn wîr ddiau ni fu efe ond trwch ac aflwyddiannus
jawn yn ei waith yn ymladd a chenawon Germani
Can's ni bu nemmawr rhyngddynt a goresgyn

td. 90
yr holl wlâd. Blin jawn ydoedd gan Uthur i
glywed y newyddion galarus hyn, a chan ei lîd,
efe a orchymmynodd i alw holl Foneddigion y wlâd
ger ei fron; a chwedi eu dyfod, efe a edliwiodd
iddynt eu llesgedd gan ddywedyd. Pe buaswn i
yn jach, yr wyf yn meddwl, na fuasai i'r barbariaid
hyn gymmaint achlysur gorfoledd a'r y sydd ganddynt
yr awr-hon. Eithr attolwg, dygwch fi a'r
elor o flaen y LLû, can's yr wyf yn gobeithio y
bydd i'r milwyr hwythau ymwroli, gan weled eu
Brenin yn diystyru ei hoedl er mwyn cadw allan
Estron genhedl. A hwy a wnaethant megis y
gorchymmynodd y Brenin iddynt, ond pan welodd
y Saeson hynny, hwy a'i gwatworasant, gan
weiddi a llêf groch, Wele accw y ffyliaid sy'n
ymddiried mywn dyn hanner marw! Ha'r FFyliaid!
Ac a'r hynny y Brutaniaid a chwerwasant
yn eu hysprydoedd, ac a ddywedasant, Pa genhedl
tan haul a all ddioddef y fath ddirmyg a'r ydym ni
tano gan y Barbariaid hyn, ynteu ymwrolwn ac
ymddialwn arnynt. Ac ar hynny hwy a ergydiasant
yn chwyrn at y Saeson, ac ni phallodd y calondid
hwnnw, nes lladd gan mwyaf eu holl elynion,
a gyrrasant y lleill a'r ffô. Ac yno y cododd
 Uthur yn ei eistedd a'r ei wely (a chyn hynny
ni allodd efe droi ond o nerth dau wyr gryfion)
gan ddywedyd, Ha'r twyllwyr! am galwent i hanner
gwr marw, gwell yw hanner gwr marw
a orfyddo, na gwr byw a orfydder: A
gwell yw marw yn glodfawr, na byw yn gywilyddus.
Ond ni fu Uthur odidog fyw nemmawr o
amser wedi hynny, canys y Saeson (o ran cynddeiriogrwydd
iddynt golli y fuddugoliaeth) a
fwriasant wenwyn i'r ffynnon, lle'r arferai efe

td. 91
yfed. Plant y fall ag oeddynt, dyna eu castiau
yn wastadol! Bl. Argl. 510 y bu hynny, sef yr
ymladdfa honno.

Wedi marw Uthur y bu ymrafael a dadl ym
mhlith y Brutaniaid ynghylch dewis brenin. Ac
fe ddywedir i Fyrddin alw Pendefigion y deyrnas
i Lundain, a gorchymmyn yr offeiriaid weddio
Duw o byddai gwiw ganddo yspysu trwy arwydd
weledig, pwy oedd frenin teilwng i deyrnasu arnynt.
 Ac erbyn y boreu dranoeth y cafwyd yno
garreg fawr bedair ochrog, ac yn ei chanol gyffelyb
i Einion ddur, ac yn yr Einion yr oedd cleddyf
yn sefyll erbyn ei flaen, a llythyrennau euraid
yn Scrifennedig arno; a'r geiriau oeddynt y
rhai hyn, Pwy Bynnag A Dynn Y
Cleddyf Hwn, Allan Or Einion,
Hwnnw Sydd Frenin Cyfiawn I
Ynys Brydain. A phan wybu y Pendefigion
a'r Offeiriaid hynny, hwy a roddasant y Gogoniant
i DDuw, am fod gwiw ganddo atteb eu
gweddiau. A rhai o honynt a brofasant i dynnu y
cleddyf allan, ond ni's gallent: Ac yno y dywedodd
yr Offeiriaid wrthynt, nad oedd yno neb yn
deilwng i gael y Goron. Ac o fywn ychydig amser,
pwy a ddeuai heibio ond Arthur: [Arthur
oedd fâb Uthur Ben-dragon, etto a ynnillasid cyn
priodas, a hynny oedd gwreiddyn yr ymrysson]
Pan welodd Arthur y cleddyf, a'r Scrifen euraid
arno, efe a ymaflodd ynddo, ac a'i tynnodd allan
yn ddi-rwystr. Ac yno Pendefigion y deyrnas a
ddaethant atto, ac a ddeisyfiasant arno i ddodi y
cleddyf yn y lle y buasai: Ac efe a wnaeth hynny;
Ac yno y profasant bob yn un ac yn un i dynnu y

td. 92
cleddyf allan, ond ni's gallent. Ond Arthur a'i
tynnodd ef allan drachefn yn eu gwydd hwynt oll.
Ac yn ddianoed yr Arch-esgob a'i heneiniodd ef
yn frenin ac a wisgodd Goron y deyrnas am ei
ben.

A'i stori wirioneddol neu chwedl dychymmygol
ydyw hon, ni's gwn i. Ond ys yw gennyf mae
Tywysog gwychr, godidog, clodfawr, a digymmar
oedd Arthur. Ac yr wyf yn credu'n hollawl,
nad yw'r CHronicl yn celwyddu pan y dywed
o'i blegid, Ac ny chlywyssit a'r neb cyn noc
ef yr ryw devodau a oed arnaw o nerth a chadernyt,
a glewder, a daeoni; a chymmeint o rât a rodassai
Duw idaw ac nat oedd neb ar ae clywai nys carei.
(*), Er nad wyf yn credu y cwbl a edrydd y
CHronicl am dano, sef iddo oresgyn deng teyrnas
a'r hugain a'i goroni yn Ymherawdr yn RHufain,
etto ys yw gennyf, iddo gadw ei wlâd ei hun yn
wrol-wych rhac y Saeson. Je, er iddynt fwriadu a
chyd-fwriadu trwy undeb a chyttundeb Arglwyddi,
Germani, na's diffygient fyth nes goresgyn ynys
Brydain, etto hi a fu gyfyng arnynt yn Amser
Arthur. Ond ni bu Arthur ond tra fu.

Y mae ein cymmydogion yn ddigofus wrthym
ein bod yn ymffrostio am Arthur. Ac ambell
geccryn a gais ddywedyd na fu erioed y cyfryw
wr ag ef yn y bŷd. Ond gwybydded y Darllenydd
hyn, a chreded ef megis gwirionedd disiommedig
nad oes gan y cyfryw un fwy sail i ddywedyd
hynny, na phe taerai dŷn na chododd yr Haul
erioed, o herwydd ei bod hi'n fachludiad Haul pan
yr ynfydai efe hynny. Y Gwirionedd ydyw, yr

td. 93
oedd Arthur yn casau y Saeson yn ddi-ragrithiol;
a hynny ydyw'r achos eu bod hwy yn ceisio lladd
ei enw, pan fethu arnynt ladd ei Berson. Ond ni
châf i wag-dreulio'r amser i wrth-brofi ynfydrwydd
neu enllib y dynionach hynny trwy resymmau
lawer, (oblegid fod y peth cyn eglured fal
nad oes ond ambell geccryn enllibus a ryfyga ddywedyd
hynny) ond ystyried y darllenydd cymmaint
a hyn, sef. 1. P'odd y buasai Beirdd yr
oes honno yn crybwyll mo'r Sathredig o'i blegid,
pe ni fuasai y fath Frenin yn teyrnasu arnynt.
Darllenasoch eusys tu dal. 87. Bennill Taliesin; Ac
os nid yw Awdurdod y Bardd melus-ber hwnnw
yn ddigonol, angwanegaf yma un arall, sef Pennill
o waith LLywarch hên yr hwn a scrifennodd
ynghylch y flwyddyn 590 Ei eiriau ŷnt.

Yn LLong-borth llas i Arthur,
Gwyr dewr cymmynynt a dur;
Amherawdr llywiawdr llafur,
LLywarch hên a'i cant.

Mae rhai yn tybied mae LLundain yw'r lle
hwnnw a elwir gan y Bardd LLong-borth. Ond
gwell gan eraill dybied mae lle o fywn Sîr Aberteifi
a elwir heddyw LLanborth yw efe. Ac nid
yw hynny anhebygol i fod yn wirionedd, Can's
1. Nid oes dim ond ychydigyn gwahaniaeth rhwng
y ddau air. 2, Mae lle yn gyfagos yno yr hwn
a elwir yn gyffredin Maes glâs, ond yr enw cyssefin
oedd Maes y llâs, neu ysgatfydd Maes galanas:
Ac yn y lle hwnnw drwy bob tebygoliaeth y lladdwyd
Gwyr Arthur. 3, Y mae man arall yn
agos yno sef o fywn Plwyf Penbryn a elwir Perth
Gereint, ac yno drwy bob tebygoliaeth y mae

td. 94
Beddrod Gereint yr hwn a lâs yn LLongborth fal y
dywed yr un Bardd.

Yn LLongborth y llâs Gereint,
Gwr dewr o goddir Dyfneint,
Hwynt-hwy yn lladd; gyd as lleddeint.
LLywarch hen a'i dywawt.

Fe gafwyd, ei feddrod ef tua diwedd teyrnasiad
Harri'r ail, a'r geiriau hyn oedd yn argraphedig a'r
groes blwm, yr hon oedd wedi ei hoelio wrth yr
Ysgrin, Yma Y Gorwedd Arthur
Brenin Enwog Y Brutaniaid, Yn
Yr Ynys Afallon * Hyn sydd yn dangos.
1, Fod y Fath ŵr ag Arthur ryw bryd.
2, Fod efe yn Frenin. 3, Fod efe yn Frenin Enwog.
Ac yn wîr ddiau ni fuasai'r Argraphydd
ddim yn celwyddu, pe gosodasai yno, Yma Y
Gorwedd Arthur Y Brenin Enwoccaf
A Fu Erioed Ym Mhrydain;
canys da yr haeddodd efe ei alw felly.

Y mae'n ormod tasc i mi geisio gosod yma hanes
neilltuol am Weithredoedd Arthur, y rhai ŷnt
cyn odidocced, fal prin y mae, onid ŷnt wedi dallu
fy llygaid i wrth graffu arnynt. Dywedir i Fyrddin
brophwydo o'i blegid fal hyn, Ei ddiwedd a
fydd petrus; yng ngeneuau y bobl ydd anrhydeddir,
a'i weithredoedd a fydd bwyd i'r neb a'i datcanant.
Ei ddiwedd a fu betrus, can's ni
choeliai'r Brutaniaid iddo farw oll, a hwy a fuont

td. 95
yn ei geisio ef lawer cant o flynyddoedd a'r ol ei
farwolaeth. Ac ys yw gennyf, ein bod ni etto
yn gwenu ac yn ymhyfrydu wrth glywed Sôn am
ei weithredoedd. Pa ham ynteu y gelwid Myrddin
y gau Brophwyd? Ac yma mi a derfynaf i
son ychwaneg am y RHyfel a fu rhyngom ar Saeson
ond yspysaf a'r fyr eiriau i'r matter fyned
yn waeth-waeth beunydd gyd a'r Brutaniaid wedi
Marwolaeth Arthur. Canys lluosowgrwydd o
bobl oedd yn Germani gwlâd y Saeson, a phob
amser y byddai raid wrthynt, hwy a ddeuent a'r
frŷs i Frydain i gynnorthwyo eu Brodyr.
Ac yno o herwydd y lliaws gwastadol hwnnw,
ac o herwydd amrafaelion gynhennau yn ein plith ein
hunain, ond yn bennaf dim o herwydd Digofaint
Duw arnom o ethryb ein pechodau, gyrrwyd ein
Hynafiaid i gyrrau salaf yr ynys sef Cymru a CHerniw.
P'le'r ydym yn cyfanneddu hyd heddyw.
A'r Saeson hwythau sy'n arglwyddiaethu arnom
y rhai er eu bod a'r y cyntaf yn ddugn-ormesol a
chreulon, etto er ys talm y maent) yn hygar ac
addfwyn. O bobtu Bl. yr Argl. 590 oedd amser
ein hymadawiad o Loegr. Gwel. RHan. II.
Pen. III.

YR hwn sy'n chwennych hanes gyflawn am helynt
Tywysogion Cymru, darllened Ghronicl
Caradoc o Lancarfan, yr hwn er nad yw wedi ei argraphu
etto yn Gymraeg, etto yr wyf yn gobeithio
y bydd wiw gan y Pendefig digymmar hwnnw
Mr. Wiliam Lewis o Lwynderw ganiattau i ryw
un ei osod ef mywn Print, canys ganddo ef y mae
'r coppi perffeithiaf a'r a welais i. Ac o'r achos

td. 96
hwnnw, ni chaf i ddywedyd ond ychydig yma am
helynt y Tywysogion. Un Tywysog oedd yn
rheoli a'r y cyntaf Gymru oll. Ond RHodri mawr
yr hwn a ddechreuodd ei Deyrnasiad Bl. yr Argl.
843, a rannodd Gymru yn dair rhan rhwng ei dri
maib. Gosododd un yng NGwynedd, un arall
ym Mhowis, a'r trydydd yn Neheubarth, ond
Tywysog Gwynedd oedd y pennaf. Brenin-llys
Tywysog Gwynedd ydoedd Aberffraw ym Môn.
Palas Tywysog Powys oedd ym Mathrafael, * A
PHencyfeistedd Tywysog Deheubarth ydoedd Castell
 Dinefwr a'r lan Tywy. Ynghylch y weithred
hon y cân y Bardd fal hyn.

Tri meib i Rodri mywn tremyn eu câd
Cadell, 'Narawd, Merfyn:
RHannu wnaeth yr hyn oedd yn
RHoddiad, holl Gymru rhy'ddyn?

Wyth cant llawn a'i wrantu, pen rhinwedd
Pan y rhannwyd holl Gymru,
A saith deg llawn waneg llu
Eisioes oedd oed Jesu.

RHannodd a gadodd er gwell, dawn ufudd,
Dinefwr, i Gadell,
Y mâb hunaf o'i stafell;
Pennaf o wyr pwy un well.

Anarawd gwastawd dan go' yn gyfan
A gâfas Aberffro:
A daioni Duw yno;
Fe biau breiniau a bro.


td. 97

Gwir, gwir a ddywedir i ddyn, Paun ieuangc,
Powys gafas Merfyn.
LLyna'r modd yr adroddyn'
Treiir rhwng y tri wyr hyn
Dafydd Nanmor a'i cant.

Ni wnaeth hyn ond gwanhychu ein gwlad ni,
canys yn lle cydymgynnull eu byddinoedd yn
erbyn y Saeson, hwy a syrthient allan a'i gilydd;
a chyn chwannocced oeddynt i'r castieu hagr hynny,
fal prin y gwladychodd un o honynt heb
frwydrau gartrefol. Ond yn gymmaint a mod [~ fy mod ]
i yn gobeithio y daw CHronicl Caradoc a'r gyhoedd,
mi a dawaf.

Yr enwoccaf o holl Dywysogion Cymru oedd
Hywel DDa, yr hwn a ddechreuodd ei Deyrnasiad
Bl. yr Argl. 940. Efe a drefnodd gyfreithiau da
i'w cadw drwy holl Gymru, y rhai a arferid gan
mwyaf hyd yn amser Harri yr wythfed: Pan
welodd Hywel (eb'r CHronicl) gam-arfer defodau
ei wlâd, efe a anfones am Arch-esgob Mynyw
[Tŷ DDewi] a'r holl Esgobion eraill a oeddynt
yng NGhymru, a'r holl brif eglwyswyr a oedd
tanynt, y rhai oeddynt i gyd yn saith ugeint. Ac
holl Arglwyddi, Baryniaid a PHendefigion
y wlâd. Ac a beris i chwech o'r rhai doethaf ym
mhob Cwmmwd ddyfod ger ei fron ef, yr rhai a
a orchymmynodd efe iddynt ymgyhwrdd oll
ynghyd yn ei lŷs ef yn y Ty gwyn ar Daf. LLe y
daeth efe ei hunan ac a arhosodd yno, gyd a'i Bendefigion,
Esgobion, Eglwyswyr a'i DDeiliaid drwy'r
grawys mywn ympryd a gweddiau am gymmorth
yr yspryd Glân, a'i drysglwyddiad, modd y gallai
adferu ac adgyweiriaw Cyfreithiau a defodau

td. 98
gwlad Cymru, er anrhydedd i DDuw, ac er llywodraethu
'r bobloedd mywn heddwch a chyfiawnder.
Ac ym mhen diwedd y grawys, efe a
ddetholodd ddauddeg o'r rhai doethaf o'r cwbl,
gyd-a'r Doctor enwog o'r gyfraith Blegwyryd,
gwr doeth dyscedig jawn, ac a orchymmynodd
iddynt chwilio yn fanwl holl gyfreithiau a defodau
Cymru, a chynnull allan y rhai oeddynt fuddiol,
ac Esponi y rhai a oeddynt dywyll ac amheuys,
a diddymmu y rhai a oeddynt arddigonaidd.
Ac felly yr ordeiniodd efe dair rhyw
a'r gyfraith, sef yn gyntaf, Cyfraith ynghylch llywodraeth
y LLŷs, a theulu y Tywysog: Yr ail
ynghylch y Cyfoeth cyffredinol: A'r drydedd
ynghylch y prif ddefodau, a breiniau neilltuol.
Ac yna, gwedi eu darllen a'i cyhoeddi, y peris
efe yscrifennu tri llyfr o'r gyfraith, sef un i'w arfer
yn oestadol yn ei Lŷs, a'r ail i'w gadw yn
ei Lŷs ef yn Aberffraw, a'r Trydydd yn LLŷs
Dinefwr modd y gallai y tair talaith eu harfer
a'i mynychu pan fyddai achosion; Ac i gymmell
ufudd-dod iddynt, efe a beris i Arch-esgob Mynyw
gyhoeddi ysgymmyndod yn erbyn y Sawl oll o'i
ddeiliaid a'i gwrth-laddei hi. Yr wyf yn
meddwl na fyddai lwyr anghymmwys ped angwanegwn
yma ryw ychydigyn o'r Gyfraith honno,
yr hon a gefais gan y Periglor dysgedig, a'r Cymreigydd
cywreiniaf hwnnw, Mr. Samuel Wiliams,
Person LLangynllo yng NGheredigion.

“Barnwr a ddylai wrando yn llwyr, dyscu yn
graff, datcanu yn wâr, a barnu yn drugarog.
A llyma yr oed y dylyir gwneuthur dyn yn
farnwr, pan fo pum mhlwydd a'r hugeint oed.

td. 99
Sef achos yw hynny, wrth na bydd cyflawn o
synwyr a dysc, hyd pan fo barf arno; ac ni bydd
gŵr neb, hyd pan ddel barf arno: Ac nid teg
gweled mâb yn barnu a'r wr hên.

“A oes dau frodyr, y rhai ni ddylyant gael
mwy na rhan un brawd, un-dad un-fam? Oes.
O genir dau fâb yn un dorllwyth y wraig,
ni ddylai y ddau hynny, eithr rhan un etifedd.

“O derfydd bod ymrysson, pwy a ddylyai warchadw
etifedd cyn y dêl i oedran gwr; a'i
cenhedl ei dad, a'i cenhedl ei fam? Cyfraith a
ddywed, mae gwr o genhedl ei fam a ddylai,
rhac i neb o genhedl ei dad wneuthur brad am
y tîr, neu ei wenwyno.

“Os ymrwym gwraig wrth ŵr heb gyngor
ei chenedl, y plant a ynniller o honaw, ni chânt
ran o dir gan genhedl eu mam o gyfraith.

“Os gwr a gwraig a ysgarant cyn pen y saith
mhlynedd, taler iddi ei hegweddi, *
a'i hargyffreu ‡ a'i chowyll, †,
os yn forwyn y daeth hi. Ond
os cyn pen y saith mhlynedd yr
ymedy hi a'i gŵr, hi a gyll y
cwbl ond ei chowyll.

“Tri phrifrei gwraig y sydd, ei chowyll, ei
hargyffreu, a'i hwynebwerth, nid amgen y
gwarthrudd; sef yw gwarthrudd, pan gydio
gwr a gwraig arall; y waith gyntaf y tâl chweigeint
iddi, a'r ail-waith punt, a'r trydedd waith
ysgar a eill a'i gwr heb golli dim o'r eiddi.

“O derfydd bod deu ddyn yn cerdded trwy
goed, ac esgynniaw gwrysgen a'r lygad yr olaf
gan y blaenaf, onis rhybuddia, taled iddo ei lygad
os cyll, ac os rhybuddia, ni thal ddim.


td. 100
"O derfydd bod deu yn cerdded ffordd, a chaphael
o'r naill denot; Os y blaenaf a'i caiff,
rhanned a'r olaf. Os yr olaf a'i caiff, ni's
rhan a'r blaenaf.

"Ni pherthyn dau boen am yr un weithred.

"Y neb a ddywetto air garw, neu air hagr
wrth y brenin, taled * gamlwrw iddo.

"O derfydd i ddyn roddi bonclust i ddyn arall,
ac na's gwatto, taled iddaw y sarhâd herwydd ei
fraint, a phedair a'r hugeint arian dros y bonclust.


"Pwy bynnag a gwyno rhac arall, ac a fo
gwell gantho tewi na chanlyn, cennad yw iddo
tewi,, a thaled gamlwrw i'r brenin, ac yn oes y
brenin hwnnw ni wrandewir.

"O derfydd fod da yng nghyd rhwng deu ddyn,
a threulio o'r naill y da hwnnw yn ddiwahardd,
ni ddylai colli dirwy na chamlwrw, namyn ynnill
i'r dyn ei eiddo.

"O derfydd i ddyn brynu anifail gan arall, a
gwedi ei brynu bod dannedd iddo yn eisiau, a
mynnu eu difwyn: Cyfreith a ddywed, na
ddiwygir, canys Anaf eithyr y croen yw: A
ph' le bynnag ni thorro na chig na chroen, Anaf
eithyr y croen yw.

Dyma ychydigyn o Gyfraith Hywel DDa, ê
fyddai yn glamp o lyfr mawr ped ei hysgrifennid
i gyd oll. Hi a barhaawdd mywn grym ynghylch
tri chant a deg a deugain o flynyddoedd. Can's
yr amser y diddymmwyd hi ydoedd ynghylch Bl.
yr Argl. 1293, (ond hi a barhaawdd gan mwyaf
hyd yn amser Harri'r wythfed) ym mha amser
y dycpwyd ein Hynafiaid trwy ddichell a ffalsder
tan gyfraith Loegr yn gyntaf. Can's pan fu farw
LLywelyn ap Gruffydd (yr hwn a fu y tywysog

td. 101
diweddaf yng NGhymru) y danfonodd Brenin
Edwart y cyntaf, at Bennaethiaid y Cymru i
erchi iddynt ufuddhau i'w lywodraeth ef. Ond
yno yr attebasant, na ymddarostyngent hwy fyth
i neb ond un o'i cenedl eu hun. Ac y byddai
raid i hwnnw fod o ymarweddiad a Moesau da, Ac
heb air o saesonaeg ganddo. Ac yno'r Brenin,
pan ddeallodd na thycciai eu bygylu, a ddychymygodd
ffalsder i'w siommi. Yn y cyfamser hwnnw
yr oedd gwraig y brenin yn feichiog, ac efe
a'i danfones hi i drêf Caernarfon i esgor. A
phan anwyd iddi fachgen, y danfonodd Edw ffals
eilwaith at Bennaethiaid y Cymru, gan ofyn iddynt,
A oeddynt o'r un bwriad ac or blaen? A hwy
a ddywedasant eu bod, Ac yno y dywad y Brenin
wrthynt, Mi a enwaf Dywysog o'r cyneddfau
pa rai ydych chwi'n ewyllysio. Ganwyd i mi fâb
yng NGhaernarfon, a hwnnw a gaiff fod yn Dywysog
i chwi. Un ydyw ni wyr air o Saes'neg, ac nid
all fod dim bai a'r ei ymarweddiad. Prin y buont
fodlon i dderbyn y Baban, ond ni wn i pa
fodd, hwy a gyttunasant. Ac o hynny allan y
cyfenwyd mab hunaf Brenin lloegr Tywysog
Cymru.

LLywelyn ap Gruffydd oedd y Tywysog diweddaf
(o waed diledryw y Brutaniaid) a fu'n llywiaw
Cymru. Ac ys yw gennyf nad yw'r Bardd yn
celwyddu pan y dywed o'i blegid.

Colles Cymru fawr gwawr gwreiddiaf,
Cyweithlon esgud gloywddydd glewaf;
Gwreiddlyw nid byw ba wnaf o'i golled!
Gwreiddlew hyged rhoddged rhwyddaf.

Gwr a lâs drosom gwr o oedd drosaf,
Gwr oedd dros Gymru hy y henwaf.


td. 102

Gwrawl Lywelyn gwraf o Gymro:
Gwr ni charodd ffô i'r ffordd nessaf.

Gwr gwrdd yn cyrchu llu lledeithaf:
Gwr gwrdd ei bebyll gwersyll gorsaf.
Gwreiddfab Gruffydd digraffaf; am reg,
Yn ddeddfau mawrdeg Nudd a Mordaf.

Gwr gayw-rudd gwr prudd fegis Priaf;
Gwr gwin yn frenin fyddin falchaf;
Gwr hylwydd ei glod gwr haelaf am draul;
Hyd y cerddai'r Haul i'r fan bellaf.

Gwr dig i ddistryw llyw llyseiddiaf;
Gwr dygn i alar, câr cywiraf;
Gwr cywirgoeth doeth detholaf o Fôn
Hyd yng NGhaerlleon y lle teccaf.
Bleddyn fardd a'i cant.

Efe a lâs ym Muellt yn y flwyddyn 1282, sef,
un mil dau cant, a dau a phedwar ugain, dydd
gwener y trydydd o Idiau RHagfyr, sef yw hynny,
yr unfed dydd a'r ddeg o RHagfyr. Gosodwyd
ei ben anwyl ef a'r ben pawl haiarn cas a'r dŵr
LLundain, fal y dywed Bardd melusber arall fal hyn.

Pôb cantref pôb tref ynt yn treiddiaw,
Pôb tylwyth pôb llwyth y sy'n llithraw,
Pôb gwan pôb cadarn cadwed o'i law.
Pôb mâb yn ei grud y sy'n udaw;
Bychan lles oedd i'm am fy'n twyllaw,
Gadel pen arnaf heb pen arnaw;
Pen pan lâs ni bu gas Gymraw,
Pen pan lâs oedd lesach peidiaw.
Pen milwr pen moliant rhag llaw,
Pen dragon pen draig oedd arnaw.
Pen LLywelyn deg, dygn a braw,
I'r byd fod pawl haiarn trwyddaw
Gruffydd ap yr Ynad côch a'i cant.




td. 116

RHan i., Pennod 5, 116-23.


Sonniwn bellach ryw ychydigyn am y Jaith.
Ac ys nid allaf siarad llawer, oblegid nad wyf yn
deall ei chywrainrwydd fal y dymunwn, etto'r wyf
yn deall cymmaint a hyn, sef, nad oes jaith (hyd
y gwn i) yn cadw y purdeb cyssefin cystal a hi,
yr hon a sieredir yn gyffredin ym mysc y Gwerinos.
Can's beth yw jaith ein cymmydogion gan
mwyaf (mi wn y gallaf enwi tair cenhedl) ond
lladin wedi gymmysgu ag ambell air o'i hên jaith
eu hun? Ac y mae y lladin hwnnw wedi anafu yn
y fath fodd ganddynt, fal prin y gall neb ei ddeall
ond hwynt-hwy eu hunain: Ond eu geiriau eu hun
sydd yn newid agwedd cymmaint (ym mhob oes
agos) fal pettai eu Hynafiaid yn eu clywed yn siarad
heddyw, y rhai a fuont fyw ynghylch wyth
cant o flynyddoedd a aethant heibio, diau ydyw,
na ddeallent hwy ond ychydig neu ddim o'r hyn
a ddywedent. Ond mi a brofaf y deall pob un,
a'r a fo ond ychydig o DDarllenydd, waith ein
scrifennyddion ni yn sathredig, er eu bod wedi
scrifennu er ys 'chwaneg na mîl o flynyddoedd.
Ond er hynny gyd yr ydys yn diystyru y Jaith
odidog hon yn dra ysgeler heddyw gan ŵyr o'n
gwlâd ein hun, y rhai ŷnt, oddigerth hynny, yn
ŵyr call dysgedig. Ac oni fuasai iddi gael rhai

td. 117
achleswyr da, hi a aethai drwy bob debygoliaeth
yn llwyr-ddiystyr gan bawb. Gwnaeth y Brittwn
uchel-ddysg hwnnw, Sîon Dafydd Rŷs M. D. ei
ran ef yn hoyw-odidog, ac iddo ef yn unig y mae
'r Beirdd yn rhwym am Reol eu Celfyddyd.
Gwnaeth y byth tra enwog Sîon Dafies D. D. ei
ran ynteu yn odiaeth, ac yn odidog rhagorol, trwy
gyfansoddi Gramadeg a Geir-lyfr i hyfforddi ei
gydwladwyr i ddysgu cywrainrwydd eu hiaith.
Ac yr awr-hon y mae'r Parchedig Mr. Moses
Wiliams B. A. trwy lafurus boen a diwydrwydd
wedi chwilio allan berffeithrwydd y cwbl, a'r y
sydd bossibl i gael y ffordd honno: Canys mi
allaf ddywedyd yn hŷ, na fydd wiw i neb ddisgwyl
am ychwaneg o berffeithrwydd mywn Geir-lyfr a
Gramadeg, nag y fydd yn y gwaith y mae efe yn
ei osod allan. Uno avulso, non deficit alter, Qui
spartam quam nactus est ornavit.

Nid wyf anhyspys fod llawer o eiriau LLadin
yn ein Jaith ninnau, ond y mae llawer o ŵyr dysgedig
yn tybied, iddynt hwy fenthygio mwy oddi
wrthym ni, nag a fenthycciasom ni oddi wrthynt
hwy. Ac yn wir ddiau y mae rhai yn tybied,
mae o'r un cyff y daethom allan o'r cyntaf. Ond
pa fodd bynnag yw hynny, ys yw gennyf, mae nid
oddiar y RHufeiniaid neu'r LLadinwyr, ybenthycciasom
ni yr holl eiriau cydystyrol a'r LLadin
y rhai sydd yn ein Hiaith, er nad wyf yn
amheu i'n Hynafiaid echwyna ambell un.
Ond yr hyn oeddwn ar oddeu ddywedyd ydyw
hyn, sef, fod y Jaith Gymraeg yn cadw ei phurdeb

td. 118
cyssefin yn hollol dda, fal yr ymddengys wrth
y tystoliaethau hyn.

Dychymmyg di pwy greawdr cread cyn Duliw,
Creawdr cadarn heb gig heb asgwrn.
Heb wythen heb waed heb pen heb traed:
Ac ef ni aned, ac ef ni weled:
Ef a'r fôr, ef a'r Dîr, ni wyl ni welir;
Ac ef yn anghywir ni ddaw pan ofynnir.
Ef yn anamlwg, canys ni's guyl golwg;
Ef yn ddrwg ef yn dda, ef hwnt ac yma.
Taliesin ben-beirdd a'i cant i'r Gwynt.
Ac efe a scrifennodd ynghylch Bl. yr Argl. 556.

Afallen bren beraf ei haeron,
A dyf yn Argel yn argoed Celyddon;
Cyd ceisier, ofer fydd herwydd ei haddon,
Oni ddel Cadwaladr i gynal rhyd rheon.
Cynan yn erbyn cychwyn a'r saeson:
Cymru a orfydd cain fyddai Dragon:
Caffant bawb ei deithi llawen fu Brithon;
Cantor cyrn elwch cathl heddwch a hinon
Myrddin Wyllt a'i cant; yr hwn
A scrifennodd o bobtu'r flwyddyn 570.

Y dref wen ym mron y coed,
Y sef yw y hefras erioed;
A'r wyneb y gwellt y gwaed.
Dyn dewis a'r fy meibion
Pan gyrchai pawb ei alon
Oedd Pyll -----------
LLywarch hen a'i cant; yr hwn a
Scrifennodd ynghylch Bl. Argl. 590.


td. 119
Mi a wn y gall pawb ddeall y pennillion hyn
fel Cymraeg sathredig. Gwelwn ynteu brawf
eglur mae'r un Jaith sydd gennym ni fyth, er ei
bod er ys talm wedi dirywio ennyd, trwy gymmyscu
Saesoneg a hi. Ond camsynniad ydyw tybied
mae oddi wrth y Saeson y cawsom ni yr holl eiriau
cydystyrol a'r Saes'neg, y rhai sydd yn ein
Jaith ni. Nage, hwynt-hwy yn wir ddiau a'i benthycciasant
oddi wrthym ni; a hynny a brofaf
allan o Gywyddau Dafydd ap Gwilym, yr hwn oedd
ŵr o Lanbadarn fawr yng NGheredigion. Mi a
ddewisais y Bardd hwn yn hyttrach nag un arall,
o herwydd fod Dr. Dafies ei hun yn arddel pob
gair y mae efe yn arfer, yn lle Cymraeg gywrain
ddiledryw. Ac yn ddi-ddadl efe yw'r Bardd
hoywaf a'r a scrifennodd erioed (dodir heibio faswedd
ei destunau gan mwyaf) Ac fe all pawb
a'r a wyddant ddim mywn Cerdd Dafod, wybod
na arferodd ond Cymraeg lân loyw yn ei Gerdd.
Can's ê fuasai Saes'neg, yn edrych cyn haccred
yn yr amser hwnnw mywn cerdd, a barf ddu fawr
a'r langces fonheddig ieuangc. Ac y mae hi'n
ddadl pa un a'i fod efe yn gwybod dim Saes'neg,
a'i nad oedd; Can's ni wn i fod dim hoffder mywn
Bonheddig na gwrêng i siarad Saesoneg yn yr amser
hwnnw, er eu bod yn deall eu gwala o Ladin, Groeg,
ac Hebraeg; fal y mae'n amlwg wrth y siampl
nodedig hon. Yr oedd Pendefig urddasol o Sîr
Fon a elwid Owen Tudur wedi priodi y Frenhines
 Catherin yr hon a fuasai yn briod gynt a
Henri y pummed, Brenin LLoegr. Ni wyddai'r
Frenhines Catherin (gan ei bod yn wraig o FFraingc
ddim gwahaniaeth rhwng y Cymru a'r Saeson, cyn
iddi briodi Owen Tudur, yr hyn a wnaeth iddi
chwennych yn fawr i weled rhyw nifer o gydwladwyr

td. 120
ei PHriod, i edrych a oeddynt cyn sâled dynion
ac oedd y Saeson yn ddywedyd eu bod. Ond
yn y cyfamser y daliwyd Owen Tudur a'i Frenhines
yn garcharorion, ac a ddycpwyd yn rhwym i
Gaer-lleon a'r Wysc, yr hyn a wnaeth i Owen i
anfon at eu gyfnesyfiaid i ddyfod i ymweled ag ef.
Ac allan o law y daeth atto ynghylch cant o Wyr
Boneddigion Gwynedd, y rhai oeddynt oll yn wyr
hoywion tacclus, ond heb wybod gair o Saes'neg
na FFrangeg; Canys pan lefarodd y Frenhines
wrthynt mywn amryw Jeithoedd, ni allent roddi
gair o atteb iddi, yr hyn a wnaeth iddi ddywedyd,
Mae'r Creaduriaid mudion hoywaf oeddynt a'r
a welsai hi erioed. Hyn sydd yn dangos yn eglur
nad oedd na Bonheddig na gwrêng yn medru
Saes'neg yn yr amser hwnnw, ac am hynny ni allwn
gasglu yn dra rhesymmol nad oedd Dafydd ap
Gwilym yn gwybod dim. Ond os oedd efe yn
deall Saesonaeg, mi a wn na osododd efe un gair
seisnig yn ei gerdd. Y geiriau, pa rai ydys yn
dybied eu bod yn Saes'neg, a osodir yn y Margent,
fal y galloch eu canfod yn ebrwyddach, ac a
wahenir a llythyrennau breision oddiwrth y geiriau
yn y Pennill.


Un Anghwrteis yn lleisio,
Yn greiau bycclau y bo.
Beth a dâl i't anwadalu
Wedi'r hen fargen a fu ?
Dod chwap dan ei gap gwedd,
Er duw a'r ei war dewedd.
Yn is fy nghlap anhappys
I'm bryd ar beidio am brys.


td. 121

A meistrawl ar fawl wiw lamp,
A'r gost lle bu gorau'r gamp,
Gwaith anorphen sydd gennyf,
Caru crefft er curio cryf.
Nid oes Sadler crwpper crach
Neu Deiler anwadalach.
Yn gwcwallt salw i'm galwant
Wb o'r nad am wedd berw nant.
Cerais un dyn cwrs hindeg
Cariad y teirgwlâd teg.
LLym ei ruthr llammwr eithin,
LLewpart a dart yn ei dîn.
LLyn gwin egr llanw gwineugoch,
LLoches lle'r ymolches moch.
Bydd di ffrom n'âd dy siommi,
Glyn heb ffael yn d'afael di.
A'i chrochwaedd aml ei chrechwen
A'i ffals gywyddoliaeth o'i phen.
Wybren wen heb'r un anair
A chwmmwl yw ffwl y ffair.
A'r grân megis y manod,
A'r ael fel ingc a'r liw'r od.
Nid egor hon un gronyn,
Ymddiddan odd' allan ddyn.
Eraill a rydd deunydd dig,
Am y tâl im' het helig.
Noeth hyd twyn, cyd nithyd tal
Ni hittia neb i'th attal.
Dan fy swydd lawer blwyddyn,
Dêl i'm o hap dâl am hyn.
Dy lifrai o'r mwtlai main;
Dy lewys di o liain.
Pan glywais hoyw falais hon,
Tybiais ddalld ei hattebion.


td. 122

Myfi yw ffraethlyw ffrwythlawn,
Maer dy dda mawr yw dy ddawn.
Fy nuwies bert Fenws ber.
Afal Awst o felyster.
Esgyd ei phlâs a'r lasrew,
Ysgwd o'i flaen esgid flew.
Ystyr di Gruffudd rudd-lwm
Fod blaen dy dafod yn blwm.
Ci glew llafarflew llwfrwlad,
Cawn ddrwg sen cynddeiriog Sad.
Sych nattur creawdur craff
Sereniawg wybr Siwrnai gobraff.
Ac ar ystryd o gyrs drain;
Siopau lawnd fel Siep Lundain.
Haws gennyt drwy naws gynnydd
A'r dasg bôb amser o'r dydd.
Da ufudd hwyl ddisgwyl farn,
Dyfod yn frwysg o Dafarn.
Cariad fel plwm trwm y trig
Cadi mywn twr caedig.
Teyrnaidd waith twrn oedd wiw.
Tyrau troellau fal trilliw.

Dafydd ap Gwilym o Lanbadarn
fawr a'i cant hwy oll; Am ba un y Prophwydodd
Taliesin.

Y genid ym mro Ginin,
Brydydd a'i gywydd fal gwîn.

Nid yw hyn ddim wrth y lliaws a fenthycciodd y
Saeson o amser bwygilydd oddi wrth genhedloedd
eraill, i gyfoethogi eu hiaith: LLadin a FFrangeg
yw y rhan fwyaf o honi, ynghyd ag ambell air
bychan ar antur o'i hen jaith gynt, etto wedi newid

td. 123
agwedd yn ddirfawr o'r hyn a fu a'r y cyntaf.
Ac nid yw hynny ryfedd, ped ystyrid fod y Gwerinos
yn cydffurfio eu hunain (megis ym mhob
peth arall agos) felly at jaith y Pendefigion hyd y
gallont, a FFrangeg oedd y Pendefigion yn siarad
o hyd er amser Gwilym gwncwerwr. Canys (eb
'r CHronicl) yn amser y Cwncwerwr nid oedd
Swyddog o Sais yn LLoegr: A Gwradwydd
mawr oedd alw un yn Sais, neu ymgyfathrachu
ag un or genedl honno, canys hwy a gasheid
yn ddirfawr. Ac wrth hynny y mae'n amlwg
nad oes un Pendefig yn LLoegr, eithr o hiliogaeth
un a'i 'r Normaniaid, a'i o'r FFrangcod,
a'i ynteu o'r Brutaniaid; Ac yno yr ydoedd yn
DDihareb: Jack would be a Gentleman, but
that he can speak no French.




td. 230


PEN. V.


Gweinidogaeth y ddau Sacrafen, sef Bedydd, a
Swpper yr Arglwydd yn y Brif Eglwys. Deiliaid
Bedydd o ddau ryw. Plant bychain, a
rhai mywn oedran. Profir fod yr Eglwys Gatholic
yn bedyddio plant RHiêni crediniol ym
mhob Oes er amser yr Apostolion. Tadau
Bedydd. Arwydd y Grôg. Y modd y gweinyddid
Bedydd. Trochiad gan mwyaf. Taenelliad
hefyd. Ystori nodedig ynghylch gwr a elwid
Athanasius. Yr Heretic cyntaf a ryfygodd i
ail fedyddio. Y Wisg wen y gwisgid y rhai newydd
fedyddio. Gweinidogaeth y Sacrafen arall,
sef Swpper yr Arglwydd yn y Brif Eglwys.


ER na cheir y fath air a Sacrafen yn
yr holl Destament Newydd, etto
efe a gymhwysir mywn ystyr berthynasol
i arwyddoccau y ddau Ordinhâd
sanctaidd, Bedydd a Swpper
yr Arglwydd. Canys Sacrafen a
gymmerwyd gan y RHufeiniaid yn y tair ystyr
hyn. 1, Gwystl a roddai gŵr a gwynid arno
mywn cyfraith i'w rwymo ef i atteb tan berygl
o golli'r gwystl. 2, LLŵ a gymmerai'r Milwyr
er bod yn gywir a ffyddlon i'r Câd-pen. 3,

td. 231
Toccyn, neu Lifrai gwahanol, fal yr adnabyddid
Milwyr pob Câd-pen wrth eu LLifrai. Ac y mae
rhai yn tybied y gellir galw Bedydd a Swpper yr
Arglwydd yn Sacrafennau yn y tair ystyr hynny.
Canys. 1, Y mae Duw, pan y byddom megis
yn cwyno arno a'r ei Addewidion, yn siccrhau i
ni trwy arwyddion gweledig oddi allan, megis
trwy Wystlon sanctaidd, ei Râs, a'i Drugaredd.
Ac 2, Ninnau a gymmerwn Lŵ (ein Hadduned
Fedydd) i fod yn Filwyr cywir i Ghrist ein
Cad-pen, a'n Tywysog. Ac 3, Nyni a wahenir
wrth y nodau hyn (Arddangosiadau'n Proffes)
oddi wrth bawb eraill, y rhai nid ŷnt yn proffesu
CHrist.

Ped ymostyngai dynion i farnu pyngciau dadleugar
wrth Reol yr Ysgrythur, neu wrth Arfer y
Brif Eglwys (cyn i neb llygredigaethau ddyfod
iddi) yr wyf yn meddwi y byddai'r DDadl ddiweddar
hon ynghylch Deiliaid Bedydd yn ddiddadl;
Sef yw hynny, na ddylai neb betruso (a'r
y sy'n dirnad y 'Sgrythurau, neu yn darllen am
DDisgyblaeth y Brif Eglwys) a ddylid bedyddio
plant bychain, onid ŷnt yn chwennych fyned
yn Gyssegr-ladron, ac i wrthwynebu Ordinhâd
Duw ei hun. Canys y Cyfammod a wnaeth
Duw ag Abraham oedd yn gyfammod dragywyddol,
nid terfynnedig wrth Hâd Abraham yn unig
yn ôl y Cnawd, ond y Cenhedloedd hefyd a ddycpwyd
i mywn, wedi'r byth bendigedig Jesu dorri
'r canol-fur rhyngddynt. Gwybyddwch felly mae
y rhai hynny sy o ffydd, y rhai hynny yw plant

td. 232
Abraham Gal. 3. 7. Ynteu, gan fod Plant bychain
y Cenhedloedd crediniol yn y cyfammod
ac yn Blant i Abraham trwy ffydd, oni ddylid
rhoddi Sêl y Cyfammod iddynt? Sef yw hynny,
oni ddylid eu bedyddio hwy yn-awr tan yr Efengyl,
megis ac yr Enwaedwyd plant yr Israeliaid tan y
DDeddf? Canys y mae Bedydd yn canlyn Enwaediad,
fal y profir yn helaeth gan holl hên Athrawon
yr Eglwys.

Yn ganlynol i hyn y mae Scrifennadau'r hen
Deidau yn dangos yn eglur, hynny ydyw, cyn amlycced
ac all Tafod fynegi, fod Bedydd plant yn
arferedig yn Eglwys DDuw er Amser yr Apostolion.
Y mae Origen Sanctaidd (yr hwn a Scrifennodd
ynghylch Bl. yr Argl. 230) yn dywedyd fal
hyn. Plant bychain a fedyddir er maddeuant pechodau:
Pa bechodau? Canys pa bryd y pechasant?
Neu pa fodd y gall Bedydd gymmodi a PHlant bychain,
ond yn yr ystyr a ddywedais eusys, Pa beth
yw dŷn i fod yn lân, a'r hwn a aned o DDŷn i
fod yn gyfiawn? Job. 15. 14. Ynteu gan y purir
aflendid ein Genedigaeth trwy Fedydd, y bedyddir
plant bychain. Ac y mae'r un Tad duwiol
yn ei Esponiad a'r Ps. 51. 5. yn dywedyd etto fal
hyn, O herwydd hyn (eb'r ef), sef y pechod
gwreiddiol hwn, y câdd yr Eglwys Draddodiad oddi
wrth yr Apostolion i fedyddio Plant bychain.
A'r Traddodiad hwnnw oedd un o'r rhai y mae'r

td. 233
Apostol yn orchymmyn i'r THessaloniaid lynu
wrthynt, pan yw yn dywedyd, Am hynny, Frodyr,
sefwch, a deliwch y Traddodiadau a ddyscasoch,
pa un bynnag a'i trwy ymadrodd, a'i trwy
ein Epistol ni. 2. THess. 2. 15. Wrth ba destun y
mae'n amlwg, mae nid dychymmyg dyn yw pob
Traddodiad, ond Egwyddor FFydd a gafwyd oddi
wrth yr Apostolion Sanctaidd eu hun. Ac medd
S. Paul mywn lle arall, A'r pethau a glywaist
gennyf trwy lawer o dystion, traddoda y rhai hynny
i ddynion ffyddlon, y rhai a fyddant gymmwys i
ddysgu eraill hefyd. 2 Tim. 2. 2.

Yn Amser y Merthyr Sanctaidd hwnnw Syprian,
y bu dadl (nid ynghylch a ddylid bedyddio
plant bychain, canys yr oedd hynny yn ddi-ddadl)
ond ynghylch yr Amser y dylid eu bedyddio.
Canys yr oedd rhyw Esgob a'i enw FFidus yn petruso
a ellid yn gyfreithlawn fedyddio plant bychain
cyn yr wythfed Dydd? Yn-awr rhac bod
hynny yn achos Amrafael a Schism yn yr Eglwys,
fe gynhaliwyd Cymanfa yn Affrica, Bl. yr
Argl. 254 ynghylch hynny, lle'r ymgynnullodd
tri ugain a chwech o Esgobion uniown-gred;
A'i Barn hwy oll un ac arall ydoedd, Na ddylid
cadw Plant bychain cyhyd a'r wythfed Dydd rhac
Bedydd. Yr wyf yn meddwl, na fyddai anghymmwys
pe cymreigwn ryw ran o'r LLythyr a anfonasant
at y FFidus hwnnw, yr hwn sydd fal y
canlyn.

"Am yr hyn a ddywedaist ynghylch perthynas
Plant, na ddylid eu bedyddio a'r yr ail neu'r
trydydd Dydd, wedi eu genedigaeth, ond a'r
yr wythfed Dydd, megis tan y DDeddf, Ein
Cymanfa ni a farnodd yn llwyr wrthwyneb.

td. 234
Ac ni chyttunodd un o honom a thydi ynghylch
hynny, ond barnasom oll un ac arall,
na ddylid naccau trugaredd a grâs Duw i neb
rhyw ddyn. Canys yn gymmaint ac i'n Harglwydd
ddywedyd yn ei Efengyl, Na ddaeth
Mab y dyn i ddestrywio Eneidiau dynion, ond i'w
cadw. Luc. 9. 56. Felly y mae'n rhaid i ni edrych
attom ein hunain rhag bod un Enaid yn golledig
hyd y mae ynom ni. Canys pa beth sydd yn fyrr
yn yr hwn a luniwyd un-waith trwy allu Duw
yn y Groth? ¶ F'ymddengys [~ fe ymddengys ] i ni fod Plant yn
tyfu, fal y maent yn cynnyddu mywn Oedran:
Ond pa bethau bynnag a greawdd Duw, ydynt
yn berffaith trwy waith a mawrhydi Duw eu
gwneuthurwr.---- Er fod cynnydd corphorol yn
peri gwahaniaeth mywn perthynas i DDynion,
ond nid yw ê ddim mywn perthynas i DDuw,
oddigerth fod y grâs hwnnw a roddir i'r rhai
wedi eu bedyddio, yn fwy neu yn llai o ran
oedran dynion. Ond yr Yspryd glan a roddir
yn ddiwahan i bawb, nid yn ôl maintioli dynion, ‡
ond yn ol trugaredd ac ewyllys y Tâd nefol.
Canys megis nad yw Duw yn DDerbynniwr
wyneb, felly nid yw efe chwaith yn dderbynniwr
Oedran. Y mae efe yn cynnyg i bawb, fawrion
a bychain, fwynhâd o'i Râs nefol:---- O herwydd
pa ham, ein hanwyl Frawd, ein Barn ni ydyw,
na ddylid llestair un dyn a fo'n addas rhac cael
Bedydd. Ond yn anad neb, bydded i ni ofalu
tros Blant bychain newydd eni, y rhai sy'n

td. 235
megis yn ymbil arnom, wrth eu gwaith yn
wylo, ac yn gweiddi, a'r i ni dosturio wrthynt.


Y LLythyr hwn a Ysgrifennwyd, pan oedd Oedran
CHrist 254, ac fe osododd tri-ugain Esgob a
chwech eu dwylaw wrtho: A'r achos nad yw'r
Tadau hyn yn amddiffyn Bedydd Plant trwy Resymmau
Sgrythurol, ydyw o herwydd nad oedd
neb yn yr Amser hwnnw yn petruso a ddylid
Bedyddio Plant bychain. Amheuaeth y FFidus
hwnnw oedd ynghylch Amser, nid ynghylch Deiliaid
Bedydd; Ac i hynny y mae hwythau yn
atteb yn unig. Ac nid oedd hyn ddim peth newydd,
neu weithred a ddychymygasant eu hunain,
ond Cadernid Gwirionedd amlwg a gâdd yr Eglwys
oddi wrth yr Apostolion, fal y mae'r Tad
digymmar hwnnw (o ran dysg a Duwioldeb) S.
Awstin Esgob Hippo, yn traethu'n helaeth.
Ac y mae'r un Tâd Duwiol yn dywedyd yn
eglur, ac yn profi trwy Resymmau di-amheuol
fod yr Eglwys Gatholic yn bedyddio Plant bychain
hyd ei Amser ef ym mhôb gwlâd Ac
efe a Sgrifennodd ynghylch Bl. yr Argl. 408.

Ynghylch Bl. yr Argl. 370 yr ysgrifennodd
Tâd parchedig a elwid Gregori Nazianzen, ac efe
a ddywed fal hyn; Pa beth a ddywedi am Blant
bychain, y rhai ni allant wybod trwy brofiad, y
llesâd sydd o Fedydd, na'r colled trwy ei eisiau. A

td. 236
fedyddiwn ni hwynt hwy? Bedyddiwn yn wîr ddiau,
Canys gwell yw iddynt gael eu Sancteiddio, er na
bônt deimladwy o hynny, na myned allan o'r Bŷd
heb sêl CHrist'nogaeth. Digon yw y tystiolaethau
hyn i brofi fod Eglwys DDuw yn bedyddio
Plant RHiêni CHrist'nogol er Amser yr Apostolion;
A Digon ŷnt hefyd i wrthbrofi anwybodaeth ac
ynfydrwydd y Dynionach gwrthun hynny, y rhai
a welsant mywn Breuddwyd (neu ysgatfydd mywn
LLesmeir ysprydol) nad oedd yr Eglwys Gatholic
yn bedyddio Neb Plant bychain, hyd yn Amser
Pabyddiaeth. Mi a ewyllysiwn iddynt edrych
attynt eu hunain, ac edifarhau o herwydd eu cyfeiliornad.
 Mywn addfwynder yn dyscu y rhai
gwrthwynebus i edrych a roddo Duw iddynt hwy
ryw Amser Edifeirwch i adnabod y Gwirionedd. 2
Tim 2. 25.

Nid wyf anhyspys fod rhai (a gymmerant arnynt
fod yn Historiawyr da) yn yscrifennu, mae Dychymmyg
a gafwyd allan yn ddiweddar, sef ynghylch
 Bl. yr Argl. 405 yw Tadau Bedydd
Ond y maent yn wir ddiau yn colli yn rhy hagr
yn eu cyfrifon; canys y mae'n orchwyl hawdd i
brofi fod Tadau bedydd yn atteb dros Blant er ys
'chwaneg na thri chant o flynyddoedd cyn yr Amser
hwnnw, hynny ydyw, er Amser yr Apostolion,
fal yr ymddengys oddiwrth dystiolaeth hên
Athraw a elwid Tertulian, yr hwn a scrifennodd
ynghylch Bl. yr Argl. 180. Pa raid i Dadau Bedydd
(eb'r efe) ddwyn eu hunain i berygl, y rhai
allant farw cyn cyflawni yr Addewidion a wnaethant;
neu fe all y rhai y maent yn addaw trostynt,

td. 237
fyned yn ddynion ysgeler, gwneler a fynnir iddynt.


Gwir jawn y mae efe yn Scrifennu yn erbyn
Tadau Bedydd, a hynny am ddau achos, fal y
mae'n amlwg wrth ei Eiriau. Etto f'ymddengys
fod Tadau Bedydd yn atteb tros Blant yn yr Amser
hwnnw, ped amgen ni allasai efe ddywedyd
dim yn eu herbyn. Y gwirionedd ydyw, fe wyrodd
yr hen Athraw godidog hwn tua diwedd ei
hoedl oddiwrth y ffydd Apostolic, ‡ ac am hynny
efe a ddyrchafa ei Dŷb neilltuol ei hun o flaen
Athrawiaeth yr Eglwys Gatholic. Felly y gwnaeth
efe ynghylch Bedydd plant hefyd, canys efe
a ddywed, Pa ham y mae'r Oes ddiniweid yn bryssio
i dderbyn maddeuant pechodau, Deuent i'w Bedyddio
wedi iddynt ddyfod i Oedran, &c.
Gwraidd y cyfeiliornad oedd ei anwybodaeth o
Bechod gwreiddiol, canys efe a eilw Plant bychain
yr Oes ddiniweid; Ac am hynny nid oedd raid
iddynt wrth Fedydd yn ei Dŷb ef: Etto y mae
hyn yn dangos fod Bedydd Plant a THadau Bedydd
yn arferedig yn yr Eglwys Gatholic yn ei Amser
ef, ac am hynny er Amser yr Apostolion.

Wedi'r Tadau bedydd hyn ddyfod ynghyd,
Yr Offeiriad a'i cynghorai hwy i edrych a'r gyflawni
'r Addewid ac oeddynt yn myned i'w wneuthur,
sef a'r iddynt ymegnio hyd eithaf eu gallu i addysgu
'r Plentyn yn y FFydd Grist'nogol, a'i ddwyn

td. 238
i fynu yn Ofn Duw. Ac yno, gwedi gweddio
am nerth yr Yspryd Glân, yr Offeiriad a gymmerai
'r plentyn yn ei Freichiau, a gwedi cael ei
Enw gan y Tadau bedydd, efe a'i trochai dair
gwaith yn y Dwfr yn enw'r Drindod, ond os
byddai'r Plentyn yn wan, efe a daenellid dwfr
arno. A gwedi gorphen hynny, yr Offeiriad a
wnai Groes yn nhalcen y dyn bach, gan arwyddoccau
trwy hynny ei fod efe yn DDisgybl i Ghrist,
ac yn dwyn ei nod ef arno. Nid yw ef ond gwaith
afreidiol i brofi fod yr hen Grist'nogion, (er
Amser yr Apostolion) yn arfer y Seremoni honno
wrth fedyddio, canys cyn amlycced ydyw hynny,
fal nad all neb a'r a ddarllenodd ond rhyw ychydigyn
yng ngwaith y Teidau fod yn anwybodol o
honaw. Ie y mae Tertulian ei hun yn mawrygu
y Seremoni honno, er ei fod mywn
llawer o bethau eraill yn gwyro. Ac o hynny y
bu dihareb ganddynt, Talcen wedi nodi ag arwydd y
Grôg, * hynny ydyw, CHristion wedi ei fedyddio.

Er fod yr hen Grist'nogion yn wir-ddiau gan
mwyaf yn trochi yr holl gorph tan y Dwfr, etto
ni chyfrifwyd un trochiad ddim yn Fedydd oll, fal
yr ymddengys oddi wrth eiriau hen Historiawr a
elwid Sozomen, yr hwn a Scrifennodd hannes yr
Eglwys ynghylch Bl. yr Argl. 430. Canys efe
ddywed, Fod y sawl a drochwyd onid un-waith yn
ei farn ef yn yr unrhyw berygl, a'r Sawl na châdd
Fedydd erioed. Ond Taenelliad dair gwaith a

td. 239
gyfrifid cystal a thair trochiad, canys S. Syprian a
ddywed, Nad allai efe ddirnad fod y Dawn nefol
yn cael ei attal ddim llai y ffordd honno, trwy
Daenelliad, nac yn y ffordd arall, o hydd FFŷdd i'w
dderbyn. Canys ein pechodau trwy Fedydd (eb'r ef)
a olchir mywn modd amgen, na budreddi ein Cyrph
mywn FFynnon. Ac na ryfedded neb ein bod yn bedyddio
y rhai gweinon trwy daenellu Dwfr arnynt,
gan fod yr Yspryd Glân yn dywedyd, Ac a daenellaf
arnoch ddwfr glân, fal y byddoch lân, oddi
wrth eich holl frynti Ezec. 36. 25. Ac hefyd
Num. 8. 7. Ac fel hyn y gwnei iddynt i'w glanhau,
taenella ddwfr puredigaeth. Wrth hyn y mae'n
amlwg (ebr ef) fod Tanelliad cystal a throchiad.


Pa un a'i yn Faban, a'i mywn Oedran, trwy
Daenelliad, neu Drochiad y bedyddid neb, ni ailfedyddid
hwnnw drachefn, canys yr holl hên
Grist'nogion a lynasant yn ddi-yscog wrth Reol yr
Apostol Un Arglwydd, un FFydd, un Bedydd.
Eph. 4. 5. Yr ŷm yn cael Ystori nodedig ynghylch
LLangc a Elwid Athanasius, yr hon sydd fal y
canlyn. "Yr oedd Alexander Esgob Alexandria
yn cadw dydd Gwyl S. Petr, yn ôl Arfer yr
Eglwys, a thra fu efe yn aros ei Henuriaid atto,
wedi gorphen yr Wŷl, efe a rodiodd allan i'r
Maesydd, lle y gwelai langciau jeuaingc yn
chwareu; Ond o'r diwedd efe a welai un o honynt
yn tywys y lleill at Afon, ac yn eu bedyddio
hwy yno, fal pe buasai Offeiriad. Pan ddychwelodd
 Alexander adref, efe a fynegodd yr hyn
a welsai i'w Henuriaid, y rhai a synnasant yn
fawr i glywed hynny, ac felly y danfonwyd am

td. 240
y LLangciau, a gwedi eu dyfod, y gofynnwyd
iddynt ynghylch yr hyn ag oeddynt yn wneuthur
wrth chwareu yn y Maes. A hwy a ddywedasant,
mae y LLangc a elwid Athanasius a
gymmerodd arno ddynwared yr Offeiriad yn
bedyddio. Ac yno'r Esgob wedi clywed hynny
a ymgynghorodd a'i Henuriaid ynghylch y weithred,
a'i Barn hwy oll, un ac arall oedd, na
ddylid ail-fedyddio mo'nynt, gan fod y ffurf yn
enw'r Drindod yn uniawn.

Yn wîr ddiau nid ellir naccau onid oedd rhai
Hereticiaid aflan yn ail-fedyddio yn y prif Amser
gynt; A'r pennaf o'r gŵyr da hynny a Elwid
Eunomius, yr hwn a wyrdroawdd Draddodiad yr
Apostolion, ac a ddychymygodd FFurf amgen
wrth fedyddio, nag a orchymmynodd ein Hiachawdwr;
Canys efe a daerodd na ddylid bedyddio
neb yn Enw'r Tâd a'r Mâb a'r Yspryd Glân, ond
y FFurf a ddylai fod, Yr wyf yn dy fedyddio di i
farwolaeth CHrist A pha broselytiaid bynnag
a allai'r Heretic hwnnw i ynnill, efe a'i hail-fedyddiai
(megis y mae ei DDisgyblion yn gwneuthur
etto) er eu bod wedi eu bedyddio o'r blaen,
pa un a'i yn Fabanod, a'i ynteu mywn Oedran.
A'r un Heretic oedd y Cyfaill a newidiodd
gyntaf y tair trochiad, canys efe a daerodd fod un
yn ddigonol. Ac er ei fod yn Araithydd da, ac yn

td. 241
lew mywn ffraethder Ymadrodd, etto efe a gyfrifwyd
gan y Jawn-ffyddiog yn Heretic, ac ni lanheir
yr Enw gwrthun hwnnw oddi wrtho fyth,
canys yn Heretic y cyfrifir ef, tra fo


Gwynt yn chwythu; Dwr yn tarddu;
Sêr yn harddu, sy ran urddas:
Mawn yn llosgi; Mêr yn hoffi;
Môr yn heli, Mawr jawn hylas.

Myfi a dybygwn wrth eiriau Justin y Merthyr,
(yr hwn a Scrifennodd ynghylch Bl. yr Argl.
155) eu bod hwy yn bedyddio y rhai a gredent,
sef y rhai a ddychwelid o eilun-addoliaeth, yn
ddiattreg wedi iddynt ddyfod i gredu. Canys efe
a ddywed, "Pwy bynnag, wedi addyscir iddynt
byngciau'r ffydd, a'r sydd yn ewyllysgar i
fyw yn ôl RHeol (yr Efengyl) a gynghorir i
ymprydio a gweddio, er cael maddeuant pechodau
[sef pechodau eu hanghrediniaeth gynt]
Ac nyni a weddiwn ac a ymprydiwn gyda
hwy. Ac yno, nyni a'i dygwn lle bo Dwfr,
ac fal yr adgenhedlwyd ni, felly yr adgenhedlir
hwythau. Ond tua'r Drydedd oes,
ac o hynny allan yr appwyntiwyd i weinyddu
Bedydd a'r ddau Amser o'r flwyddyn yn unig,
sef y Pasg, a'r Sulgwyn; etto os byddai dim perygl
marwolaeth a'r un, efe a fedyddid y pryd
hwnnw, digwydded hynny a'r ba amser bynnag
o'r Flwyddyn. Ac a'r ddydd yr Arglwydd a
elwir Sulgwyn, y gwisgid y rhai newydd-fedyddio
mywn Gwisg-wen. Ac o'r achos hwnnw

td. 242
y galwyd y Sul hwnnw Sul-gwyn, oblegid y byddai
torfeydd o'r rhai newydd-fedyddio yn myned
i'r Eglwys yn eu Gwisgoedd gwynnion y Dydd
hwnnw; A hyn yw meddwl y Bardd, pan yw yn
canu.

Jôr Nef a Daear, Gwel y rhai hygar
A fu'n ddiweddar tan yr Elfen:
Gwel y frwydr-lan sy'n myned allan
O'r Aipht i Ganan, mywn gwisg bur-wen.

Mae peisiau gwynnion y glan DDyniadon
Yn rhoi Arwyddion meddwl dien:
Hyn sydd lawenydd, a chyssur hylwydd
I'r Bugail jawn-ffydd, Dorf ddisglair-wen.

Fe dybygai dŷn anghyfarwydd fod yr Athraw
a grybwyllwyd ddiweddaf, sef Justin y Merthyr,
yn yscrifennu, fal pe ni fuasent yn bedyddio neb
plant bychain yn ei amser ef. Ond nid yw efe
ddim; Canys. 1, Y rhai a droawdd o Eilun-addoliaeth
y mae efe yn feddwl a dderbynnid felly i'r
Eglwys, fal y mae'n amlwg wrth ei eiriau. 2, Y
mae efe yn crybwyll ei hun mywn lle arall ynghylch
Bedydd plant megis peth arferedig yn ei Amser
ef ym mhob gwlâd. Ac am hynny, ni ddylir
gwyr-droi y fath ymadroddion a'r rhai hynny i
amddiffyn Opiniynau gwrthun. Ond ysywaeth y
mae'r Anyscedig a'r anwastad yn gwyr-droi y
Scrythrau, chwaethach yscrifennadau dynol, i'w dinystr
eu hunain. 2 Pet. 3, 16.


td. 243
SOnniwn bellach ryw ychydig ynghylch y Sacrafen
arall, sef, Swpper yr Arglwydd. Ac yma,
mi a ganlynaf y Drefn hon. 1, Yr amser y derbynnid.
2, Y Personau a farnwyd yn gymmwys i'w dderbyn.
3, Y modd yr oeddid yn ei dderbyn.

1, Yr Amser cyffredinolaf a mwyaf arferedig
ydoedd wedi gorphen y Gwasanaeth yn yr Eglwys,
a'r DDydd yr Arglwydd. Canys Justin y
Merthyr a ddywed, mae'r Amser yr arferent i
fwytta'r Cymmun oedd wedi iddynt, ddarllen,
canu mawl, pregethu, a gweddio. Ond yn wîr
ddiau y mae'n anhawdd i wybod yn berffaithgwbl,
ym mha amser o'r dydd yr oedd yr hen
Grist'nogion yn cymmuno; Mae'n Eglur i'n
Hiachawdwr bendigedig ei ordeinio liw nôs yn
ôl yr amser y cedwid y Pasg Iddewig; Ond a oedd
yr Apostolion, a'r CHrist'nogion a'r ôl eu
dyddiau hwy, yn cadw'r un amser, fydd anhawdd
i siccrhau. Etto y mae'n ddiau fod yr Arfer
mywn ambell fan i gymmuno a'r yr amser hwnnw,
sef, Liw nôs. Ond mi a dybygwn mae
Anghenrhaid oedd yn eu cymmell i wneuthur
hynny yn amser Erlidigaeth, pryd ni byddai rydd
iddynt, ymgynnull liw Dydd. Canys y mae'r Teidau
a yscrifennasant tua'r drydedd Oes yn sicrhau
mae yn y boreu y derbynnient y Cymmun:
Ac felly y parhawyd o hynny allan, i ganlyn yr un
amser, oddigerth mywn rhyw leoedd o'r Aipht
gerllaw Alecsandria, p'le yr arferent i gymmuno

td. 244
yn yr llwyr, wedi iddynt fwytta ac yfed eu
llonaid.

Yn y Prif Amser yr oedd Yspryd Crist'nogaeth
yn fywiog yng nghalonnau ei PHroffeswyr, a'i
Cariad hwythau oedd yn wresog at eu Harglwydd;
Ac felly hwy a farnasant pa fynyched y deuent i
Fwrdd yr Arglwydd, well-well y byddent, a galluoccach
i wrthsefyll holl Ruthrau'r Fall. Ac
am hynny hwy a dderbynniasant y Cymmun bob
Dydd trwy'r Flwyddyn, yn bendifaddau mywn
Dinasoedd a THrefi, lle byddai pawb yn agos, fal
y mae'n amlwg, oddi wrth eiriau S. Syprian, yr
hwn a ddywed, Yr ŷm yn derbyn y Cymmun bob
dydd, megis Ymborth sŷdd yn ein meithrin i Jechydwriaeth.
Yr arfer hwn i dderbyn y
Cymmun bob dydd a barhaodd yn 'chwaneg na
phedwar Cant o Flynydoedd, yn enwedig yn Eglwysi
'r Gorllewin, oblegid y mae S. Awstin Esgob
 Hippo yn dywedyd yn eglur fod y CHrist'nogion
yn cymmuno bob dydd yn ei Amser ef,
hynny ydyw, ynghylch Bl. yr Argl. 415.
Canys Bl. yr Argl. 430, y bu'r Tâd parchedig
hwnnw farw. Ond ym mhen talm o amser wedi
hynny, y cwttogwyd yr amser i fod bedair gwaith
yn yr Wythnos, ac a'r ôl hynny bob Wyth-nos, ac
yno bob Mîs, &c. Pan ballod y Zêl, y cryfhaodd
Diofalwch, pan oerodd y Cariad, y brydiodd amharch,
a phan sychodd grym dwywolder, y ffrydiodd
ysgelerdr a phechod.


td. 245
2, Am y Personau a farnwyd yn gymmwys
i dderbyn y Cymmun. Nid pob un a fyddai ag
Enw CHristion arno, a dderbynnid i Fwrdd yr
Arglwydd, Canys medd un o'r hen Deidau, Ni
pherthyn i bob un fwytta'r Bara hwn, ac i yfed
o'r Cwppan hwn. Wrth hyn y mae'n canlyn,
nad oedd rydd i Bechaduriaid nodedig, megis
Anudonwyr, LLofruddiaid, Meddwon, &c ddynessau
at fwrdd yr Arglwydd yn y Brif Eglwys;
Eithr yn unig. 1, Y rhai a fyddai o ymarweddiad
da. 2, Yn credu holl byngciau sylfaenol y
Grefydd Grist'nogol. 3, O gynnulleidfa'r Eglwys
Gatholic. 4, Wedi derbyn Bedydd. 5, Wedi
cael Conffirmasiwn gan yr Esgob, neu Fedydd
Esgob, fal y dywedir yn gyffredin. Yr wyf yn
meddwl nad oes neb, a'r a wŷr ddim, a ryfyga
ddywedyd fod Conffirmasiwn yn DDychymmyg
dyn, gan fod y 'Scrythur lan yn rhoddi tystiolaeth
ddisiommedig fod yr Apostolion eu hunain yn arfer
Arddodiad dwylaw i roddi'r Yspryd Glân
i'r neb a fedyddid. Act. viii. 14, 15, 16, 17.
Ac ni bu'r Esgobion yn yr Oesoedd canlynol yn
ddiffygiol i gyflawni'r Arfer Efangylaidd hon,
fal y gallwn yn hawdd brofi trwy liaws o dystiolaethau
'r hen Athrawon. Ac yn wir ddiau
ni chyfrifwyd neb yn Gristion perffaith ganddynt,
nes cael Conffirmasiwn gan yr Esgob, oblegid eu bod
yn edrych a'r hynny, megis peth hanffodol i Grist'nogaeth.
Y rhai mywn oedran a gonffirmid yn

td. 246
ddiattreg wedi eu bedyddio, a phlant bychain,
pan y delent i oedran Gŵyr.

O byddai neb o'r FFyddloniaid yn gleifion, neu
o byddai rhyw fethiant, neu ddamwain yn eu hattal
rhac dyfod i'r Eglwys, fe ddanfonid Diacon,
a thammaid o'r Bara Cyssegredig wedi wlychu yn
y Gwîn attynt hwy adref; Canys felly y dywed
Justin y Merthyr, Y Diaconiaid a roddant y bara
a'r Gwîn i'r rhai presennol, ac a'i danfonant
adref i'r rhai Absennol. Ond nid pawb
o'r rhai Absennol a gaent y ffafor hwnnw. Canys
gorchymmynwyd mywn Cymanfa a gynhaliwyd
Bl. yr Argl. 314. Yn FFraingc, na chai un Apostat
(neu'r hwn a ymadawodd a'r ffydd) ei dderbyn
mywn Cymmundeb, os syrthiai yn glâf, ond
y dylid edrych a fyddai gwellhâd Buchedd ynddo.
Ac yn yr un Gymanfa y gorchymmynwyd
hefyd, y dylid attal y sawl a ddygent gam dystiolaeth
yn erbyn eu Cymmydogion, tra fyddent hwy
byw rhac y Cymmun. Gwel Pen. 2. tu. dal. 158.

3, Ynghylch y modd y derbynnid y Cymmun.
Yn gyntaf y Diacon a ddygai ddwfr i'r Esgob
a'i Henuriaid, y rhai a safent o bobtu'r BwrddCymmun,
i olchi eu Dwylaw, gan arwyddoccau
trwy hynny y Purdeb a ddylai fod yn y rhai
hynny sy'n nessau at DDuw, megis y dywed
y Salmydd, Golchaf fy nwylaw mywn diniweidrwydd;
a'th Allor o Arglwydd a amgylchynaf,
Ps. xxvi. 6. Ac yno'r Diacon, a groch-waeddai
Cussenwch eich gilydd. Yr oedd yr arfer hwn o
gussanu eu gilydd, yn gynnar jawn yn yr Eglwys,

td. 247
a hynny medd rhai, yw meddwl yr Apostol pan
yw yn dywedyd, Anherchwch yr holl frodyr a chusan
sancteiddiol. THess. v. 26. A hynny a wnaethant
i arwyddoccau eu bod mywn cariad perffaith
a'i gilydd, a bod pob atgasrwydd a malais wedi
diweddu, yn ôl cynghor ein Hiachawdwr, Gan
hynny, os dygi dy rodd i'r Allor ac yno dyfod i'th gof
fod gan dy frawd ddim yn dy erbyn, Gad yno dy
rôdd ger bron yr Allor, a dos ymaith: Yn gyntaf
cymmoder di a'th frawd, ac yno tyred, ac offrwm
dy rôdd. Mat. v. 23, 24.

A'r ôl hyn hwy a aent i weddio eu Gweddi
gyffredin am dangneddyf ac undeb gyffredinol yn
yr Eglwys, am lonyddwch a hêdd yn y deyrnas,
am lwyddiant yr Oes, am hîn dymmerus, tros
bob math o ddynion, Brenhinoedd, Ymherodron,
a phawb mywn Awdurdod, tros y LLû, a'r Milwyr,
 tros y rhai Credadwy, ac anghredadwy, tros
gyfeillion, a chydymdeithion, tros y cleifion a'r
blinderus, a'r fyrr eiriau, tros bawb mywn diffyg
ac eisiau cymmorth. [Y weddi gyffredin hon
oedd FFurf weddi, ac nid yw raid wrth ychwaneg
i brofi hynny, nag y ddau Reswm hyn. 1, Y
mae'r Teidau yn dywedyd mae FFurf ydoedd,
yr hon sydd i'w chael etto yn eu gwaith.
2, Yr oedd yr holl Gynnulleidfa yn canlyn yr
Offeiriad wrth weddio, yr hyn a fuasai yn amhossibl
iddynt, pe nid ffurf osodedig a fuasai'r
Weddi.

Wedi gorphen hynny, y Gweinidog a ddywedai,
Yr Arglwydd a fô gyda chwi: A'r Bobl a attebai,

td. 248
 A chyd-a'th Yspryd ditheu. Yr Offeiriad
a ddywedai drachefn, Dyrchefwch eich calonnau.
Y Bobl a attebai, Yr ydym yn eu dyrchafael
i'r Arglwydd. Yr Offeiriad a ai rhago,
gan ddywedyd y drydedd waith, Diolchwn i'n
Harglwydd DDuw. Ac attebid efe gan y Gynulleidfa,
 Mae yn addas, ac yn gyfiawn gwneuthur
hynny. Ac yno, wedi'r Offeiriad gyssegru
y Bara a'r Gwîn, y rhoddid ef i'r Cymmunwyr,
y rhai fyddent naill yn sefyll, a'i ynteu a'r
eu dau-lin. Ond ni chlybuwyd erioed etto
fod neb o'r hên Grist'nogion yn eistedd wrth
dderbyn, oblegid i fod ganddynt fwy o barch at
yr Arglwydd Jesu, nag y deuent i goffau ei farwolaeth
yn y fath fodd anweddaidd. Ond Pâb
RHufain yn wir sydd yn eiftedd wrth dderbyn
y Cymmun, oblegid fod chwith ganddo benlynio,
etto y mae hyn (ym mysc nodau eraill) yn dangos
yn eglur mae Anghrist ydyw.

RHac i neb wrthddadleu fod ein Hiachawdwr
yn eistedd pan yr ordeiniodd efe ei Swpper
Sanctaidd: Yr wyf yn atteb mae dygn-gamsynniad
ydyw tybied hynny: Canys ein Hiachawdwr a
ddilynodd arfer yr Juddewon yn bwytta'r Pasc,
pa rai a orweddent o'r wlaû; byddai tri a'r bob
gwely, a thri gwely, gan mwyaf, a fyddai o amgylch
pob bwrdd. Ond gan na roddes ein
Harglwydd un Gorchymmyn ynghylch hynny, y
CHrist'nogion yn ddiattreg a farnasant, mae'r modd

td. 249
gostyngeiddiaf a fyddai'r modd cymmeradwyaf;
Ac y mae Histori yn tystio'n eglur eu bod yn
derbyn y Cymmun yn wastadol yn yr un modd ac
y byddent yn gweddio, ac yn gymmaint a bod
arfer ganddynt i weddio bob Dydd Sul gan
mwyaf o'i sefyll, felly hwy a gymmunasant hefyd
o'i sefyll gan mwyaf y Suliau; Ond pa
bryd bynnag y byddent yn gweddio a'r eu daulin,
hwy a dderbynnient y Cymmun yn wastadol yn
yr un modd. Gwelwn ynteu wall-synwyr ac ynfydrwydd
ddigymmar y dynionach hynny y rhai
a welsant (mywn breuddwyd yn ddiammau,
Canys nid oes mo'r fath beth mywn un Histori)
na chlybuwyd sôn erioed am y fath beth a phenlinio
wrth dderbyn y Cymmun cyn y flwyddyn
1226.


Nodiadau gan yr awdur
Notes by the author


Td. 78, ll. 27 RHonwen oedd honno
Td. 87, ll. 25 * [ Saeson
Td. 99, ll. 20 *Gwaddol
Td. 99, ll. 21 ‡Dodrefn ty.
Td. 99, ll. 22 †Dillad priodas.
Td. 100, ll. 7 * ffîn.
Td. 120, ll. 25 Anghwrteis.
Td. 120, ll. 26 Byclau.
Td. 120, ll. 28 Bargen.
Td. 120, ll. 29 Cap.
Td. 120, ll. 31 Clap.
Td. 120, ll. 32 Anhappus
Td. 121, ll. 1 Cost.
Td. 121, ll. 4 Crefft.
Td. 121, ll. 5 Crwpper.
Td. 121, ll. 6 Sadler. Teiler,
Td. 121, ll. 7 Cwcwallt.
Td. 121, ll. 9 Cwrs.
Td. 121, ll. 11 Dart.
Td. 121, ll. 12 LLewpart.
Td. 121, ll. 13 Egr.
Td. 121, ll. 16 FFael.
Td. 121, ll. 17 FFals.
Td. 121, ll. 19 FFwl.
Td. 121, ll. 20 FFair.
Td. 121, ll. 21 Grân.
Td. 121, ll. 22 Ingc.
Td. 121, ll. 23 Gronyn
Td. 121, ll. 25 Het.
Td. 121, ll. 27 Hittia
Td. 121, ll. 29 Hap.
Td. 121, ll. 31 Lifrai.
Td. 121, ll. 33 Malais
Td. 122, ll. 1 Maer.
Td. 122, ll. 3 Pert.
Td. 122, ll. 5 Plâs
Td. 122, ll. 7 Plwm.
Td. 122, ll. 9 Sad.
Td. 122, ll. 11 Siwrnai
Td. 122, ll. 13 Ystryd
Td. 122, ll. 14 Siop.
Td. 122, ll. 15 Tasc.
Td. 122, ll. 17 Tafarn.
Td. 122, ll. 19 Plwm.
Td. 122, ll. 20 Tŵr
Td. 122, ll. 21 Twrn.
Td. 241, ll. 4 Rhupunt hîr.
Gwnaethpwyd â / Made with Concordance