Y Beibl Cyssegr-lan (1588)

LLyfr cyntaf Moses yr hwn a elwir Genesis

[td. 16v.a]

PEN. XXXVII.

2 Ioseph yn achwyn ar ei frodyr wrth ei dâd. 5 Efe yn breuddwydio, ai frodyr yn ei gasau. 28 Ac yn ei [td. 16v.b] werthu ef i'r Ismaeliaid. 34 Galar Iacob am Ioseph.

1 A Thrigodd Iacob yng-wlâd ymddaith ei dâd sef yng-wlâd Canaan.
2 Dymma genhedlaethau Iacob: Ioseph yn fab dwy flwydd ar bymthec oedd fugail gyd ai frodyr ar y praidd: ac efe oedd yn llangc gyd a meibion Bilha, a chyd a meibion Zilpha gwragedd ei dâd ef: yna Ioseph a ddygodd eu drwg enllib hwynt at eu tâd hwynt.
3 Ac Israel oedd hoffach ganddo Ioseph nai holl feibion, o blegit efe ai cawse ef yn ei henaint: ac efe a wnaeth siacced fraith iddo ef.
4 Pan welodd ei frodyr, fod eu tâd yn ei garu ef yn fwy nai holl frodyr: yna hwy ai casasant ef, ac ni fedrent ymddiddan [ag] ef yn heddychol.
5 Ac Ioseph a freuddwydiodd freuddwyd, ac ai mynegodd iw frodyr: am hynny y casasant ef etto yn ychwaneg.
6 O blegit dywedase wrthynt, gwrandewch atolwg y breuddwyd hwn, yr hwn a freuddwydiais [T: frenddwy|diais] .
7 Ac wele rhwymo ysgubau 'r oeddem ni yng-hanol y maes, ac wele fy yscub mau fi a gyfododd, ac a safodd hefyd, ac wele eich yscubau chwi a ddaethant o amgylch ac a ymgrymmasant i'm hysgub mau fi.
8 Yna ei frodyr a ddywedasant wrtho ef, ai gan deyrnasu y teyrnesi arnom ni? ai gan arglwyddiaethu 'r arglwyddieithi arnom ni? etto am hynny y chwanegasant [T: chawnegasant] ei gasau ef, o blegit ei freuddwydion, ac o blegit ei eiriau ef.
9 Hefyd efe a freuddwydiodd etto freuddwyd arall, ac ai mynegodd iw frodyr, ac a ddywedodd: wele yr haul, a'r lleuad, ac vn ar ddec o sêr yn ymgrymmu i mi.
10 Ac efe ai mynegodd iw dâd, ac iw frodyr, ai dâd a feiodd arno ef, ac a ddywedodd wrtho ef pa freuddwyd yw hwn, yr hwn a freuddwydiaist? ai gan ddyfod y deuwn ni, mi a'th fam a'th frodyr, i ymgrymmu i lawr i ti?
11 Ai frodyr a genfigennasant wrtho ef, ond ei dâd a gadwodd y peth [mewn côf:]
12 Yna ei frodyr ef a aethant i fugeilio praidd eu tâd yn Sichem.
13 Ac Israel a ddywedodd wrth Ioseph, onid [yw] dy frodyr yn bugeilio yn Sichem? tyret, a mi a'th anfonaf attynt: yntef a ddywedodd wrtho ef, wele fi.
14 Yna y dywedodd ei [dâd] wrtho ef, dos weithian, edrych [pa] lwyddiant [sydd] i'th frodyr, a [pha] lwyddiant [sydd] ir praidd, a dŵg eilchwael air [i] mi: felly efe ai hanfonodd ef o lynn Hebron, ac efe a ddaeth i Sichem.
15 Yna y cyfarfu gŵr ag ef: ac wele efe yn cyrwydro yn y maes, a'r gŵr a ymofynnodd [ag] ef, gan ddywedyd, pa beth yr ydwyt yn ei geisio?
16 Yntef a ddywedodd ceisio fy-mrodyr yr ydwyf fi: mynega atolwg i mi pa le y maent hwy yn bugeilio?
[td. 17r.a] 17 A'r gŵr a ddywedodd  cychwnnasant oddi ymma, o blegit clywais hwynt yn dywedyd, awn i Dothan: yna Ioseph a aeth a'r ôl ei frodyr, ac ai cafodd hwynt o fewn Dothan.
18 Hwythau ai canfuant ef o bell, a chyn ei ddynessu attynt hwy 'r ymfwriadasant hefyd [yn] ei [erbyn] ef, iw ladd ef.
19 A dywedasant bôb vn ŵrth ei gilydd, wele accw y breuddwyd-wr yn dyfod.
20 Deuwch gan hynny yn awr, a lladdwn ef, a thaflwn ef yn vn o'r pydewau, a dywedwn, bwyst-fil drwg ai bwyttaodd ef: yna y cawn weled beth fydd ei freuddwydion ef.
21 A Ruben a glybu, ac ai hachubodd ef, oi llaw hwynt, ac a ddywedodd, na laddwn ef yn farw.
22 Ruben a ddywedodd hefyd wrthynt, na thywelltwch waed: bwriwch ef i'r pydew hwn, yr hwn [sydd] yn yr anialwch, ac nac e stynnwch law arno ef: fel yr achube ef oi llaw hwynt iw ddwyn eil-waith at ei dâd.
23 A phan ddaeth Ioseph at ei frodyr, yna y gwnaethant i Ioseph ddiosc ei siacced [sef] y siacced fraith 'r hon [ydoedd] a'm dano ef.
24 Yna y cymmerasant ef, a thaflasant ef i'r pydew, a'r pydew [oedd] wâg hêb ddwfr ynddo.
25 Yna 'r eisteddasant i fwytta bwyd, ac a dderchafasa{n}t eu llygaid, ac a edrychasant: ac we le fintai o Ismaeliaid yn dyfod o Gilead yn myned i wared i'r Aipht, ai camelod yn dwyn llyssiau, a balm, a myrr.
26 Yna y dywedodd Iuda wrth ei frodyr, pa lesaad [a fydd,] ôs lladdwn ein brawd, a chêlu ei waed ef?
27 Deuwch a gwerthwn ef i'r Ismaeliaid, ac na fydded ein llaw ni arno ef: o blegit ein brawd ni a'n cnawd ni ydyw efe: ai frodyr a gytunasant.
28 A phan ddaeth y marchnad-wyr o Midian heibio, y tynnasant, ac y cyfodasant Ioseph i fynu o'r pydew, ac a werthasant Ioseph i'r Ismaeliaid, er vgain darn o arian: hwyntau a ddygasant Ioseph i'r Aipht.
29 Wedi hynny Ruben a ddaeth eil-waith i'r pydew, ac wele nid [ydoedd] Ioseph yn y pydew: ac yntef a rwygodd ei ddillad.
30 Ac a ddychwelodd at ei frodyr, ac a ddy wedodd, y llangc nid [ydyw] accw: a minne i ba le 'r âf fi?
31 Yna hwy a gymmerasant siacced Ioseph, ac a laddasant lwdn gafr, ac a drochasant y siacced yn y gwaed.
32 Ac a anfonasant y siacced fraith, ac ai dugasant at eu tâd hwynt, ac a ddywedasant, honn a gawsom, mynn ŵybod weithian ai siacced dy fâb [yw] hi, ai nad e.
33 Yntef ai hadnabu hi, ac a ddywedodd, siacced fy mab [yw hi] bwyst-fil drwg ai bwyttaodd ef: gan larpio y llarpiwyd Ioseph.
34 Ac Iacob a rwygodd ei ddillad, ac a oso[td. 17r.b] dodd sach-len am ei lwynau, ac a alarodd am ei fâb ddyddiau lawer.
35 Ai holl feibion, ai holl ferched a godasant iw gyssuro ef, ond efe a wrthododd gymmeryd cyssur, ac a ddywedodd: yn ddiau descynnaf yn alarus at fy mâb i'r beddrod, ai dâd a wylodd [am dano] ef.
36 A'r Midianiaid [T: Madiniaid] ai gwerthasant ef i'r Aipht i Putiphar tywysog Pharao, [a'r] distain.
[td. 17v.b]

PEN. XXXIX.

1 Gwerthu Ioseph i Putiphar. 2 Gwraig Putiphar yn ei demptio ef. 13 Ac yn achwyn arno ef. 20 Ei garchar ef. 21 Ymgeledd Duw iddo ef.

1 FElly Ioseph a ddygwyd i wared i'r Aipht, a Phutiphar yr Aipht-wr tywysog Pharao [ai] ddistain ai prynnodd ef o law 'r [T: r'] Ismaeliaid, y rhai ai dygasent ef ei wared yno.
2 Ac yr oedd yr Arglwydd gyd ag Ioseph, ac efe oedd ŵr llwyddiannus: tra fu efe yn nhŷ ei feistr yr Aiphtiad.
3 Ai feistr ef a welodd mai yr Arglwydd [oedd] gyd ag ef, a [bod] yr Arglwydd yn llwyddo yn ei law ef yr hyn oll a wnele efe.
4 Felly Ioseph a gafodd ffafor yn ei olwg ef, ac ai gwasanaethodd ef, yntef ai gwnaeth ef yn ben-golygwr ar ei dŷ ef, ac a roddes [yr hyn] oll oedd eiddo dan ei law ef.
5 Ac er pan wnaethe efe ef yn ben-golygwr ar ei dŷ, ac ar yr hyn oll [oedd] eiddo ef, darfu i'r [T: 'ir] Arglwydd fendithio tŷ 'r Aiphtiad er mwyn Ioseph: ac yr oedd bendith yr Arglwydd ar yr hyn oll oedd eiddo ef yn y tŷ, ac yn y maes.
6 Am hynny y gadawodd efe yr hyn oll [oedd] ganddo tan law Ioseph, ac nid adwaene ddim ar [a oedd] gyd ag ef, oddi eithr y bwyd yr hwn yr oedd efe yn ei fwytta: Ioseph hefyd oedd [T: oed] dêg o brŷd, a glân yr olwg.
7 A darfu wedi y petheu hynny i wraig ei feistr ef dderchafu ei golwg ar Ioseph, a dywedydd: gorwedd gyd amfi.
8 Yntef a wrthododd, ac a ddywedodd wrth wraig ei feistr, wele fy meistr nid edwyn pa beth [sydd] gyd a'mfi yn y tŷ: rhoddes hefyd yr hyn oll [sydd] eiddo ef, tan fy llaw i.
9 Nid oes [neb] fwy yn y tŷ hwn na myfi, ac ni waharddodd efe ddim rhagof, onid ty di, o blegit ei wraig ef [wyt] ti: pa fodd gan hynny y gallaf wneuthur y mawr-ddrwg hwn, a phechu yn erbyn Duw?
10 Ac fel yr oedd hi yn dywedyd wrth Ioseph beunŷdd, ac yntef heb wrando arni hi, i or wedd yn ei hymyl hi, gan fod gyd a hi.
11 Yna yng-hylch y cyfamser hwnnw y bu i Ioseph ddyfod i'r [T: 'ir] tŷ i wneuthur ei orchwyl: ac nid [oedd] yr vn o ddynion y tŷ yno yn tŷ.
12 Hithe ai daliodd ef erbyn ei wisc, gan ddywedyd, gorwedd gyd a mi: yntef a adawodd ei wisc yn ei llaw hi, ac a ffoawdd, ac a aeth allan.
13 A phan welodd hi adel o honaw ef ei wisc yn ei llaw hi, a ffoi ohonaw allan.
14 Yna hi a alwodd ar ddynion ei thŷ, ac a draethodd wrthynt gan ddywedyd: gwelwch, efe a ddûg i ni Hebrewr i'n [T: 'in] gwradwyddo: daeth attafi i orwedd gyd a my fi, minne a wae[td. 18r.a] ddais a llêf vchel.
15 A phan glywodd efe dderchafu o honofi fy llef, a gweiddi: yno efe a ffoawdd [T: ffoawd] , ac a aeth allan, ac adawodd ei wisc yn fy ymmyl i.
16 A hi a osododd ei wisc ef yn ei hymmyl, hyd oni ddaeth ei feistr ef adref.
17 Yna hi a lefarodd wrtho yn y modd hyn, gan-ddywedyd: yr Hebre was, yr hwn a ddugaist i ni a ddaeth attaf i'm gwradwyddo.
18 Ond pan dderchefais fy llef, a gweiddi, yna efe a adawodd ei wisc yn fy ymmyl, ac a ffoawdd allan.
19 A phan glybu ei feistr ef eiriau ei wraig yrhai a lefarase hi wrtho ef, gan ddywedyd, yn y modd hwn y gwnaeth dy wâs di i mi: yna yr enynnodd ei lid ef.
20 Yna meistr Ioseph ai cymmerth ef, ac ai rhoddes ef yn y carchar dŷ, lle yr oedd carcharorion y brenin yn rhwym. Ac yno y bu efe yn y carchar-dŷ.
21 Ond yr Arglwydd oedd gyd a Ioseph, ac a ddangosodd iddo ef drugaredd, ac a roddes ffafor iddo ef yngolwg pennaeth y carchar-dŷ.
22 A phennaeth y carchar-dŷ, a roddes tan law Ioseph yr holl garcharorion, y rhai [oeddynt] yn y carchardŷ, ac efe oedd yn gwneuthur yr hyn oll a fuasent hwy yn ei wneuthur yno.
23 Nid [oedd] pennaeth y carchar-dy yn edrych am ddim oll [a'r a oedd] tann ei law ef, am [fod] yr Arglwydd gyd ag ef: a'r hyn a wnai efe yr Arglwydd ai llwydde.

PEN. XL.

3 Pharao yn carcharu ei ben-trulliad ai ben-pobydd. 8 O Dduw y daw deongliad breuddwydion. 19 Ioseph yn deonglio breuddwyd y ddau garcharor. 23 Aniolchgarwch y pen-trulliad tu ag at Ioseph.

1 A Darfu wedi y petheu hynny i drulliad brenin yr Aipht, a'r pobydd bechu yn erbyn eu harglwydd hwynt, brenin yr Aipht.
2 A Pharao a lidiodd wrth ei ddau bennaeth [sef] wrth y pen-trulliad, a'r pen-pobydd.
3 Ac ai rhoddes hwynt mewn dalfa, yn nhŷ y distain [sef] yn y carchar-dŷ, lle 'r oedd Ioseph yn rhwym.
4 A'r distain a wnaeth Ioseph yn olygwr [T: o lyg|wr] arnynt hwy: yna efe ai gwasanaethodd hwynt, a buant hwy mewn dalfa ddyddiau [lawer.]
5 Yna breuddwydiasant freuddwyd ill dau, pob vn ei freuddwyd ei hun yn yr vn nôs [a] phob vn ar ol deongliad ei freuddwyd ei hun, y trulliad a'r pobydd, y rhai [oeddynt] eiddo brenin yr Aipht, ac yn rhwym yn y carchardŷ.
6 A'r borau y daeth Ioseph attynt, ac a edrychodd arnynt, ac wele hwynt yn athrist.
7 Ac efe a ymofynnodd a phennaethiaid Pharao, 'rhai [oeddynt] gyd ag ef mewn dalfa [yn] nhŷ ei feistr ef gan-ddywedyd: pa ham [y mae] eich wynebau yn ddrwg heddyw?
8 Yna y dywedasant wrtho, breuddwydiasom freuddwyd, ac nid [oes] ai deonglo ef: yna Ioseph a ddywedodd wrthynt, onid i Dduw [td. 18r.b] [y perthyn] deho{n}gli? mynegwch adolwyn i mi.
9 Yna y pen-trulliad a fynegodd ei freuddwyd ef i Ioseph, ac a ddywedodd wrtho: yn fy mreuddwyd [T: mreuddwydd] [yr oeddwn,] ac wele winwŷdden o'm blaen.
10 Ac yn y win-wŷdden [yr oedd] tair caingc, ac [yr ydoedd] hi megis yn blaendarddu: ei blodeun a dorrasse allan, ei gwrysc hi oeddynt addfed [eu] grawn-win.
11 Hefyd [yr oedd] cwppan Pharao yn fy llaw, a chymmerais y grawn-wîn, a gwescais hwynt i gwppan Pharao, a rhoddais y cwppan yn llaw Pharao.
12 Yna Ioseph a ddywedodd wrtho ef, dymma ei ddeongliad ef: tri diwrnod yw y tair caingc.
13 O fewn tri diwrnod etto Pharao a dderchafa dy ben di, ac a'th rŷdd di eilwaith yn dy swydd, a rhoddi gwppan Pharao yn ei law ef fel y buost arferol yn y cyntaf pan oeddyt drulliad iddo.
14 Etto cofia fi gyd a thi, pan fo daioni i ti, a gwna attolwg a mi drugaredd a choffâ fi wrth Pharao, a dwg fi allan o'r tŷ hwn.
15 O blegit yn lledrad i'm lladrattawyd o wlâd yr Hebreaid, ac ymma hefyd ni wneuthum ddim, fel y gosodent fi yng-harchar.
16 Pan welodd y pen-pobydd mai daioni a ddeonglase efe, yna y dywedodd wrth Ioseph, minne hefyd [oeddwn] yn fy mreuddwyd, ac wele dri chawell rhwyd-dylloc ar fy mhen.
17 Ac yn y cawell vchaf [yr oedd] peth o bôb bwyd Pharao [T: Pharoo] o waith pobydd: ar ehediaid yn eu bwytta hwynt o'r cawell oddi ar fy mhen.
18 Yna Ioseph a attebodd, ac a ddywedodd, dymma ei ddeongliad ef: tri diwrnod yw y tri chawell.
19 O fewn tri diwrnod etto y cymmer Pharao dy benn di oddi arnat, ac a'th groga di ar brenn, a'r ehediaid a fwyttant dy gnawd ti oddi am danat.
20 Ac ar y trydydd dydd, yr oedd dydd ganedigaeth Pharao, yna efe a wnaeth wledd, iw holl weision, ac efe a dderchafodd ben y pentrulliad, a phen y pen-pobydd ym mysc ei weision ef.
21 Ac a osododd y pen-trulliad eilwaith yn ei swydd, ac yntef a roddes y cwppan i law Pharao.
22 A'r pen-pobydd a grogodd efe, fel y dehongliase Ioseph iddynt hwy.
23 Ond y pen-trulliad ni chofiodd Ioseph eithr anghofiodd ef.

PEN. XLI.

26 Dehongliad breuddwyd Pharao. 40 Ioseph yn lywyawdur ar yr holl Aipht. 50 Ganedigaeth daufab Ioseph, Manasses, ac Ephraim. 54 Y newyn yn dechreu ar hyd yr holl wledydd.

1 YNa ym mhen dwy flynedd lawn y bu i Pharao freuddwydio: ac wele efe yn sefyll [td. 18v.a] wrth yr afon.
2 Ac wele yn escyn o'r afon saith [o] wartheg têg yr olwg, a thewon o gig, ac mewn gwyrglodd-dir y porasent.
3 Wele hefyd saith o wartheg eraill yn escyn ar eu hol hwynt o'r afon yn ddrwg yr olwg, ac yn gulion o gîg: a safasant yn ymmyl y gwartheg [cyntaf] ar lann yr afon.
4 A'r gwartheg drwg yr olwg a chulion o gîg a fwyttasant y gwartheg têg yr olwg, a breision: yna y [T: y y] dihunodd Pharao.
5 Efe a gyscodd hefyd, ac a freuddwydiodd eil-waith: ac wele saith o dwysennau yn tyfu ar vn gorsen, o [dwysennau] breiscion a dâ.
6 Wele hefyd saith o dwysennau teneuon, ac wedi eu deifio gan wynt y dwyrein, yn tarddu allan ar eu hol hwynt.
7 A'r twysennau teneuon a lyngcasant y saith dwysen fraisc, a llawn: yna y deffroawdd Pharao, ac wele breuddwyd [oedd.]
8 Ac yn foreu y darfu iw yspryd gynhyrfu [T: gynhyrsu] , yna efe a anfonodd, ac a alwodd am holl ddewiniaid yr Aipht, ai holl ddoethion hi: a Pharao a fynegodd iddynt hwy ei freuddwydion: ond nid [oedd] ai deongle hwynt i Pharao.
9 Yna y llefarodd y pen-trulliad wrth Pharao, gan ddywedyd: yr wyf fi yn cofio fy meiau heddyw.
10 Llidio a wnaethe Pharao wrth ei weision [T: wesi|on] , ac efe a'm rhoddes mewn carchar [yn] nhŷ y distain, my fi a'r pen-pobydd.
11 Yna y breuddwydiasom freuddwyd yn yr vn nos, mi ag ef: breuddwydiasom bob vn ar ol deongliad ei freuddwyd ei hun.
12 Ac [yr oedd] yno gyd a nyni langc o Hebread, gwâs i'r distain, pan fynegasom [ein breuddwydion] iddo ef, yntef a ddeonglodd i ni ein breuddwydion, yn ol breuddwyd pôb vn, y deongliodd efe.
13 A darfu fel y deonglodd i ni felly y bu: rhoddwyd fi eilwaith i'm swydd, ac yntef a grogwyd.
14 Pharao gan hynny a anfonodd, ac a alwodd am Ioseph: hwytheu ar redec ai cyrchasant ef, o'r carchar: yntef a eilliodd [ei wallt,] ac a newidiodd ei ddillad, ac a ddaeth at Pharao.
15 A Pharao a ddywedodd wrth Ioseph, breuddwydiais freuddwyd, ac nid [oes] ai deonglo ef: ond myfi a glywais ddywedyd am danat ti, y gwrandewi freuddwyd iw ddeonglu.
16 Yna Ioseph a attebodd Pharao gan ddywedyd: Duw nid my fi a ettyb lwyddiant i Pharao.
17 Pharao gan hynny a ddywedodd wrth Ioseph: wele fi yn fy mreuddwyd yn sefyll ar fin yr afon.
18 Ac wele 'n escyn o'r afon saith o wartheg tewon o gîg, a theg yr olwg, ac mewn gwyrglodd-dir y porasent.
19 Wele hefyd saith o wartheg eraill yn esc[td. 18v.b] yn ar eu hôl hwynt, culion, a thra drwg yr olwg, ac yn druain o gîg: ni welais rai cynddrwg a hwynt yn holl dîr yr Aipht.
20 A'r gwartheg culion, a drwg a fwyttasant y saith muwch tewon cyntaf.
21 Er eu myned iw boliau, ni wyddyd iddynt fyned iw boliau, canys yr olwg arnynt oedd ddrwg megis yn y dechreuad: yna mi a dde ffroais. [T: ,]
22 Gwelais hefyd yn fy mreuddwyd, ac wele saith dwysen llawn, a thêg yn cyfodi o'r vn gorsen.
23 Ac wele saith dwysen teneuon, meinion, wedi eu deifio [gan] ddwyrain-wynt yn tyfu ar eu hol hwynt.
24 Yna y twysennau teneuon, a lyngcasant y saith dwysen dêg: a dywedais [hyn] wrth y dewiniaid, ond nid oedd ai deongle i mi.
25 Yna y dywedodd Ioseph wrth Pharao, breuddwyd Pharao sydd vn, yr hyn y mae Duw yn ei wneuthur a fynegodd efe i Pharao.
26 Y saith o wartheg têg saith mlynedd [ydynt] hwy: a'r saith dwysen têg, saith mlynedd [ydynt] hwy, vn breuddwyd yw hyn.
27 Hefyd y saith muwch culion a drwg y rhai [oeddynt] yn escyn ar eu hol hwynt, saith mlynedd [ydynt] hwy: a'r saith dwysen gwag gwedi eu deifio [gen] y dwyrain wynt, a fyddant saith mlynedd o newyn.
28 Hwn yw y peth yr hwn a ddywedais i wrth Pharao: yr hyn a wna Duw efe ai dangosodd i Pharao.
29 Wele saith mlynedd yn dyfod: o amldra mawr trwy holl wlad yr Aipht.
30 Ond ar eu hol hwynt y cyfyd saith mlynedd o newyn, fel yr anghofir yr holl amlder trwy wlad yr Aipht: a newyn a ddifetha y wlâd.
31 Ac ni wybyddir [oddi wrth] yr amldra cyntaf trwy y wlâd, o herwydd y newyn hwnnw yr hwn [a fydd] wedi hynny: o blegit trwm iawn [fydd] ef.
32 Hefyd am ddyblu y breuddwyd i Pharao ddwywaith, [hynny a fu] o blegit siccrhau y peth gan Dduw, a bod Duw yn bryssio iw wneuthur.
33 Weithian gan hynny edryched Pharao [am] wr deallgar a doeth, a gosoded ef yn swyddog ar wlâd yr Aipht.
34 Gwnaed Pharao hyn, sef gosoded olygwyr ar y wlâd a chymmered bummed ran [cnwd] gwlad yr Aipht tros saith mlynedd yr amldra.
35 Yna casglant holl ymborth y blynyddoedd daionus hynny y rhai ydynt ar ddyfod: sef casclant ŷd dan law Pharao, a chadwant [ymborth] mewn dinasoedd.
36 A bydded yr ymborth yng-hadw i'r wlâd tros saith mlynedd y newyn, y rhai fyddant yng-wlad yr Aipht, fel na ddifether [T: didfether] y wlâd gan y newyn.
[td. 19r.a] 37 A'r peth oedd dda yng-olwg Pharao ac yng-olwg ei holl weision.
38 Yna y dywedodd Pharao wrth ei weision, a gaem ni ŵr fel hwn, yr hwn [y mae] yspryd Duw yndo? [T: .]
39 Dywedodd Pharao hefyd wrth Ioseph, wedi gwneuthur o Dduw i ti wybod hyn oll, nid deallgar, na doeth neb wrthit ti.
40 Ty di a oruwchwili fy nhŷ fi, ac ar dy fîn y cusana fy mhobl oll: [yn] y deyrn-gader yn vnic y byddaf fwy na thy di.
41 Yna y dywedodd Pharao wrth Ioseph, edrych, rhoddais di [yn swyddog] ar holl wlad yr Aipht.
42 A thynnodd [T: thynnod] Pharao ei fodrwy oddi ar ei law, ac ai rhoddes hi ar law Ioseph, ac ai gwiscodd ef mewn gwiscoedd sidan ac a osododd gadwyn aur a'm [T: 'am] ei wddf ef.
43 Ac a wnaeth iddo ef farchogeth yn yr ail cerbyd yr hwn [oedd] iddo ef ei hun: a llefwyd oi flaen ef Abrec: felly y gosodwyd ef ar holl wlad yr Aipht.
44 Dywedodd Pharao hefyd wrth Ioseph my fi [ydwyf] Pharao: ac hebot ti ni chyfyd gŵr ei law, nai droed trwy holl wlad yr Aipht.
45 A Pharao a alwodd henw Ioseph Zaphnath Paaneah, ac a roddes iddo Asnath merch Potiperah offeiriad On yn wraig: yna yr aeth Ioseph allan dros wlad yr Aipht.
46 Ac Ioseph [ydoedd] fâb deng-mlwydd ar hugain pan safodd ef ger bron Pharao brenin yr Aipht: ac Ioseph aeth allan o wydd Pharao, ac a drammwyodd drwy holl wlad 'r Aipht.
47 A'r ddaiar a gnydiodd, tros saith mlynedd [T: mly|ned] yr amldra, yn ddyrneidiau.
48 Yntef a gasclodd holl ymborth y saith mlynedd y rhai a fuant yng-wlad yr Aipht, ac a roddes ymborth mewn dinasoedd: ymborth maes y ddinas yr hwn [fyddei] oi hamgylch, a roddes ef oi mewn.
49 Felly Ioseph a gynnullodd ŷd fel tywod y môr, yn dra lluosoc, hyd oni pheidiodd ai rifo, o blegit [yr ydoedd] heb rifedi.
50 Ond cyn dyfod [vn] flwyddyn o newyn y ganwyd i Ioseph ddau fâb, y rhai a ymddûg Asnath merch Potiperah offeiriad On iddo ef.
51 Ac Ioseph a alwodd henw y cyntafanedic Manasses: oblegit [eb efe] Duw a wnaeth i mi anghofio fy llafur oll, a thylwyth fy-nhad oll.
52 Ac efe a alwodd henw 'r ail Ephraim, oblegit [eb efe] Duw a'm [T: 'am] ffrwythlonodd i yngwlad fyng-orthrymder.
53 Yna y darfu saith mlynedd yr amldra, y rhai a fuant yng-wlad yr Aipht.
54 A'r saith mlynedd newynoc, a ddechreuasant ddyfod fel y dywedase Ioseph: ac yr oedd newyn yn yr holl wledydd: ond yn holl wlad yr Aipht yr ydoedd bara.
55 Felly y newynodd holl wlad yr Aipht: a'r [T: 'ar] bobl a waeddodd ar Pharao, am fara: a Pha[td. 19r.b] rao a ddywedodd wrth yr holl Aiphtiaid, ewch at Ioseph: yr hyn a ddywedo efe wrthych gwnewch.
56 Y newyn hefyd ydoedd, ar holl wyneb y ddaiar: Ioseph gan hynny a agorodd yr holl [leoedd] yr hai ['r ydoedd ŷd] ynddynt, ac a werthodd i'r [T: 'ir] Aiphtiaid: o blegit gorfuase y newyn yng-wlad yr Aipht.
57 A'm hynny y daeth holl wledydd yr Aipht at Ioseph i brynnu: o herwydd gorfuase y newyn yn yr holl wledydd.

Llyfr cyntaf i Samuel[1]

[td. 117v.b]

PEN. XVI.

Duw yn peri i Samuel eneinio Dafydd yn frenin. 13. Ac yn rhoddi ei yspryd ei hun ar Ddafydd.

1 A'R Arglwydd a ddywedodd wrth Samuel, pa hyd y galêri di am Saul, gan i mi ei fwrw ef ymmaith o deyrnasu ar Israel? llanw dy gorn ag olew, a dos, mi a'th anfonaf di at Isai y Bethlehemiad, canys ym mysc ei feibion ef y canfyddais i'm frenin.
2 A Samuel a ddywedodd pa fodd yr âfi? canys Saul a glyw, ac a'm lladd i: yna y dywedodd yr Arglwydd, cymmer anner [o blith] y gwartheg gyd a thi, a dywet, deuthum i aberthu i'r Arglwydd.
3 A galw ar Isai i'r aberth, a mi a yspyssaf i ti yr hyn a wnelech, fel yr eneiniech i mi yr hwn a ddywedaf wrthit.
4 Felly y gwnaeth Samuel yr hyn a archase yr Arglwydd, ac a ddaeth i Bethlehem, ac henuriaid y ddinas a ddychrynnasant wrth gyfarfod ag ef, ac a ddywedasant, ai heddychlon [yw] dy ddyfodiad?
5 Ac efe a ddywedodd, heddychlon: deuthum i aberthu i'r Arglwydd, ymsancteiddiwch a deuwch gyd a mi i'r aberth: ac efe a sancteiddiodd Isai, ai feibion, ac ai galwodd hwynt i'r aberth.
6 A phan ddaethant, yna efe a welodd Eliab, ac a ddywedodd: diau [ddyfod] ei eneiniog ger bron yr Arglwydd.
7 A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Samuel, nac edrych ar ei olŵg ef, nac ar vchter ei gorpholaeth ef, canys gwrthodais ef: o herwydd nid [edrych Duw ar] yr hyn a edrych dyn, canys dŷn a edrych ar y llygaid, ond yr Arglwydd a edrych ar y galon.
8 Yna Isai a alwodd am Abinadab, ac a barodd iddo ef fyned o flaen Samuel: a dywedodd yntef, ni ddewisodd yr Arglwydd hwn ychwaith.
9 Yna y gwnaeth Isai i Samma ddyfod, a ddywedodd yntef, ni ddewisodd yr Arglwydd hwn ychwaith.
10 Yna y parodd Isai iw saith mab ddyfod ger bron Samuel: a Samuel a ddywedodd wrth Isai, ni ddewisodd yr Arglwydd [yr vn] o'r rhai hyn.
11 Dywedodd Samuel hefyd wrth Isai, a ddarfu y plant? yntef a ddywedodd, yr ieuangaf [td. 118r.a] etto sydd yn aros, ac wele [y mae] efe yn bugeilio y defaid: yna y dywedodd Samuel wrth Isai, danfon, a chyrch ef, canys nid eisteddwn ni i lawr, nes ei ddyfod ef ymma.
12 Yna yr ynfonodd, ac y cyrchodd ef, ac efe [oedd] wrid-coch a thêg yr olwg, a hardd o wedd: a dywedodd yr Arglwydd, cyfot, eneinia ef, canys dymma efe.
13 Yna y cymmerth Samuel gorn yr olew, ac ai heneiniodd ef yng-hanol ei frodyr, a daeth yspryd yr Arglwydd ar Ddafydd o'r dydd hwnnw allan: yna Samuel a gyfododd, ac a aeth i Ramah.
14 Ond yspryd yr Arglwydd a giliodd oddi wrth Saul: ac yspryd drwg oddi wrth yr Arglwydd ai poenodd ef.
15 A gweision Saul a ddywedasant wrtho ef, wele yn awr drwg yspryd Duw yn dy boeni di.
16 Dyweded attolwg ein meistr ni [wrth] dy weision [y rhai ydynt] ger dy fron [am] yddynt geisio gŵr yn medru canu telyn, a bydded pan ddelo drwg yspryd Duw arnat ti, yna iddo ef ganu ai law, a [hynny] fydd da i ti.
17 Yna y dywedodd Saul wrth ei weision, edrychwch yn awr i mi [am] ŵr yn medru canu yn ddâ, a dugwch ef attafi.
18 Ac vn o'r llangciaid a attebodd, ac a ddywedodd, wele gwelais fab i Isai y Bethlehemiad yn medru canu, ac yn gadarn [o] nerth, ac yn rhyfel-wr, yn ddoeth o ymadrodd hefyd, ac yn ŵr lluniaidd, a'r Arglwydd [sydd] gyd ag ef.
19 Yna yr anfonodd Saul gennadau at Isai, ac a ddywedodd: anfon atafi Ddafydd dy fab yr hwn [sydd] gyd a'r praidd.
20 Ac Isai a gymmerth assyn [llwythoc [T: lwythoc] ] o fara, a chostrêled o wîn, ac vn mynn gafr, ac ai hanfonodd gyd a Dafydd ei fab at Saul.
21 A Dafydd a ddaeth at Saul, ac a safodd ger ei fron ef, yntef ai hoffodd [T: haffodd] ef yn ddirfawr, ac efe a aeth yn gludydd arfau iddo ef.
22 Yna Saul a anfonodd at Isai, gan ddywedyd: arhosed Dafydd attolwg ger fy mron i, canys efe a gafodd ffafor yn fyng-olwg.
23 A phan fydde [drwg] yspryd Duw ar Saul yna y cymmere Dafydd y delyn, ac y câne ai [ddwylaw:] a bydde esmwythdra i Saul, a dâ [oedd hynny] iddo ef, a'r yspryd drwg a gilie oddi wrtho ef.

PEN. XVII.

Y modd y gorchfygodd Dafydd Goliath.

1 Yna y Philistiaid a gasclasant eu byddinoedd i ryfel, ac a ymgynnullasant i Socho, yr hon [sydd] yn Iuda, ac a werssyllasant rhwng Socho, ac Azecah yng-hwrr Dammim.
2 Saul hefyd a gwŷr Israel a ymgasclasant, ac a werssyllasant yn nyffryn Elah: ac a luniaethasant ryfel yn erbyn y Philistiaid.
3 A'r Philistiaid oeddynt yn sefyll ar fynydd [td. 118r.b] o'r naill du, ac Israel oeddynt yn sefyll ar fynydd o'r tu arall, a'r dyffryn [oedd] rhyngddynt.
4 Yna y daeth gŵr rhyngddynt hwy o werssylloedd y Philistiaid ai enw Goliath o Gath: ei vchter [oedd] chwe chufydd a rhychwant.
5 A hêlm o brês ar ei ben, a lluric emmoc a wiscodd efe, a phwys y lluric [oedd] bum mil o siclau prês.
6 A bottyssau prês [oeddynt] am ei draed ef, a tharian prês rhwng ei yscwyddau.
7 A phaladr ei waiw-ffon ef [oedd] fel carfan gwehyddion, a blaen ei waiw-ffon ef [oedd] chwe-chant sicl o haiarn: a'r hwn oedd yn dwyn y tarian oedd yn myned oi flaen ef.
8 Ac efe a safodd, ac a waeddodd ar fyddinoedd Israel, ac a ddywedodd wrthynt: i ba beth y deuwch i luniaethu rhyfel, onid [ydwyf] fi Philistiad? a chwithau yn weision i Saul? dewiswch i chwi ŵr i ddyfod i wared attafi.
9 Os efe a orchfyga wrth ymladd a mi, ac a'm lladd i, yna y byddwn ni yn weision i chwi, ond os myfi ai gorchfygaf ef, ac ai laddaf ef, yna y byddwch chwi yn weision i ni, ac y gwasanaethwch ni.
10 Y Philistiad hefyd a ddywedodd, myfi a wradwyddais fyddinoedd Israel y dydd hwn, moeswch attafi ŵr fel y cyd-ymladdom ni.
11 Pan glybu Saul, a holl Israel y geiriau hynny [gan] y Philistiad, yna y brawychasant, ac yr ofnasant yn ddirfawr.
12 A'r Dafydd hwn [oedd] fab i Ephratewr o Bethlehem Iuda, ai enw ef Isai, ac iddo ef [yr oedd] ŵyth o feibion: a'r gŵr [oedd] yn nyddiau Saul yn hên yn dyfod ym mhlith [hên] ddynion.
13 A thri mab hynaf Isai a aethant [ac] a ddaethant ar ôl Saul i'r rhyfel: ac enw ei dri mab ef y rhai a aethant i'r rhyfel [oeddynt] Eliab y cyntafanedic, ac Abinadab yr ail, a Samma y trydydd.
14 A Dafydd hwnnw [oedd] ieuangaf: a'r tri hynaf a aethant ar ôl Saul.
15 Dafydd hefyd a aeth, ond efe a ddychwelodd oddi wrth Saul i fugeilio defaid ei dad yn Bethlehem.
16 Felly y Philistiad a nessaodd yn foreu, ac yn hwyr, ac a barhaodd ddeugain nhiwrnod.
17 A dywedodd Isai wrth Ddafydd ei fab, cymmer yn awr i'th frodyr Epha o'r crâs-ŷd hwn, a'r dêc torth hyn: ac ar redeg dwg [hwynt] i'r gwerssyll at dy frodyr.
18 Dŵg hefyd y dêc cossyn îr hyn i dywysog y mîl, ac ymwel a'th frodyr mewn heddwch, a dwg [yn rhydd] eu gwystl hwynt.
19 Yna Saul, a hwythau, a holl wŷr Israel [oeddynt] yn nyffryn Elah yn ymladd a'r Philistiaid.
20 Felly Dafydd a gyfododd yn foreu, ac a adawodd y defaid [T: defaidd] gyd a cheidwad, ac a gymmerth y pethau hynny, ac a aeth megis y gorchymynnase Isai iddo ef: ac a ddaeth i'r gwerssyll, [td. 118v.a] a'r llu a aethe allan i'r gâd, ac a floeddiasent yn y rhyfel.
21 Canys Israel a'r Philistiaid a fyddinasent fyddin yn erbyn byddin.
22 A Dafydd a adawodd y mûd oddi wrtho tann law ceidwad y dodrefn: ac a redodd i'r fyddin, ac a ddaeth, ac a gyfarchodd ei frodyr.
23 Pan oedd Dafydd yn ymddiddan a hwynt, yna wele yr gŵr (yr hwn [oedd yn sefyll] rhwng y ddeu-lu) yn dyfod i fynu o fyddinoedd y Philistiaid (Goliath y Philistiad o Gath [oedd] ei enw ef,) ac efe a ddywedodd yr vn fath eiriau fel y clybu Dafydd.
24 A holl wŷr Israel pan welsant y gŵr hwnnw a ffoasant rhagddo ef, ac a ofnasant yn ddirfawr.
25 Dywedodd gwŷr Israel hefyd oni welsoch chwi y gwr hwn yn dyfod i fynu? diau i wradwyddo Israel y mae yn dyfod i fynu: a'r gŵr yr hwn ai lladdo ef, y brenin a gyfoethoga hwnnw a chyfoeth mawr, ei ferch hefyd a rydd efe iddo ef, a thŷ ei dâd ef a wnaiff efe yn rhydd yn Israel.
26 Yna y llefarodd Dafydd wrth y gwŷr y rhai oeddynt yn sefyll gyd ag ef gan ddywedyd: beth a wneir i'r gŵr yr hwn a laddo y Philistiad hwn? ac a dynn ymmaith y gwradwydd oddi ar Israel? canys pwy [yw] y Philistiad dienwaededic hwn, pan wradwydde efe fyddinoedd y Duw byw?
27 A'r bobl a ddywedodd wrtho ef fel hyn, gan ddywedyd: felly y gwneir i'r gŵr yr hwn ai lladdo ef.
28 Ac Eliab ei frawd hynaf ef ai clybu ef pan oedd efe yn ymddiddan a'r gwŷr, a digter Eliab a enynnodd yn erbyn Dafydd, ac efe a ddywedodd, pa ham y daethost i wared ymma? a chyd a phwy y gadewaist yr ychydic ddefaid hynny yn yr anialwch? myfi a adwen dy falchder di, a drygioni dy galon di, canys i weled y [T: y|y] rhyfel y daethost di i wared.
29 Yna y dywedodd Dafydd, beth a wneuthum i yn awr? onid oedd neges [i mi?]
30 Ac efe a ddychwelodd oddi wrtho ef at vn arall, ac a ddywedodd yr vn modd, a'r bobl ai hattebasant ef air yng-air [fel] o'r blaen.
31 Pan glybuwyd y geiriau y rhai a lefarodd Dafydd, yna y mynegwyd hwynt ger bron Saul, ac efe a barodd ei ddwyn ef [atto ef.]
32 A Dafydd a ddywedodd wrth Saul, na lwfrhaed calon dŷn erddo ef, dy wâs di a aiff, ac a ymladd a'r Philistiad hwn.
33 Yna y dywedodd Saul wrth Ddafydd, ni elli di fyned at y Philistiad hwn i ymladd ag ef, canys llangc [ydwyt] ti, ac yntef sydd yn rhyfel-wr oi febyd.
34 A Dafydd a ddywedodd wrth Saul, bugail oedd dy wâs di ar ddefaid ei dâd, pan ddaeth y llew, a'r arth a chymmeryd oen o'r praidd.
35 A mi a euthum ar ei ôl ef, ac ai tarewais ef, ac [ai] hachubais oi safn ef: pan gyfododd [td. 118v.b] ef i'm herbyn i, yna mi a ymaflais [T: y maflais] yn ei farf ef, ac ai tarewais, ac ai lleddais ef.
36 Felly dy wâs di a laddodd y llew, a'r arth: a'r Philistiad dienwaededic hwn fydd megis vn o honynt, canys efe a amharchodd fyddinoedd y Duw byw.
37 Dywedodd Dafydd hefyd, yr Arglwydd yr hwn a'm hachubodd i o grafangc y llew, ac o balf yr arth, efe a'm hachub i o law y Philistiad hwn: yna y dywedodd Saul wrth Ddafydd, dos, a'r Arglwydd fyddo gyd a thi.
38 A Saul a wiscodd Ddafydd ai wiscoedd ei hun, ac a roddodd helm o brês ar ei benn ef: ac ai gwiscodd ef [mewn] lluric.
39 Yna y gwregysodd Dafydd ei gleddyf ar vchaf ei wiscoedd, ac a geisiodd gerdded am na phrofase efe, yna y dywedodd Dafydd wrth Saul, ni allafi fyned yn y rhai hyn, canys ni phrofais i: am hynny y dioscodd Dafydd hwynt oddi am dano.
40 Yna y cymmerth efe ei ffon yn ei law, ac a ddewîsodd iddo bump o gerric llyfnion o'r afon, ac ai gosododd hwynt yng-hôd y bugeiliaid yr hon [oedd] ganddo, sef yn yr screpan: ai ffon dafl [oedd] yn ei law ef: ac efe a nessaodd at y Philistiad.
41 A'r Philistiad a gerddodd, gan fyned, a nessau at Ddafydd: a'r gŵr oedd yn cludo y tarian oi flaen ef.
42 Pan edrychodd y Philistiad o amgylch, a chanfod Dafydd, yna efe ai dremygodd ef, canys llangc oedd efe, gwrid-coch, a thêg yr olwg.
43 A'r Philistiad a ddywedodd wrth Ddafydd, ai cî ydwyfi, gan dy fod yn dyfod attafi a ffynn? a'r Philistiad a regodd Ddafydd drwy ei dduwiau ef.
44 Y Philistiad hefyd a ddywedodd wrth Ddafydd, tyret attafi, a rhoddaf dy gnawd i ehediaid y nefoedd, ac i anifeiliaid y maes.
45 Yna y dywedodd Dafydd wrth y Philistiad, ti ydwyt yn dyfod attafi a chleddyf, ac a gwaiw-ffon, ac a tharian: a minne ydwyf yn dyfod attat ti yn enw Arglwydd y lluoedd, Duw byddinoedd Israel yr hwn a geblaist ti.
46 Y dydd hwn y dyru yr Arglwydd dydi yn fy llaw i, a mi a'th darawaf di, ac a gymmeraf ymmaith dy ben di oddi arnat ti, ac a roddaf gelanedd gwerssyll y Philistiaid y dydd hwn i ehediaid y nefoedd, ac i fwyst-filod y ddaiar: a holl [drigolion] y ddaiar a gânt ŵybod fod Duw i Israel.
47 A'r holl gynnulleidfa hon a gant ŵybod, nad a chleddyf, nac a gwaiw-ffon y gwared yr Arglwydd: canys eiddo yr Arglwydd [yw] y rhyfel, ac efe a'ch rhydd chwi yn ein llaw ni.
48 A phan gyfododd y Philistiad, a dyfod a nessau i gyfarfod Dafydd: yna y bryssiodd Dafydd, ac y rhedodd tu a'r fyddin i gyfarfod a'r Philistiad.
49 A Dafydd a estynnodd ei law i'r gôd, ac a [td. 119r.a] gymmerth oddi yno garrec, ac a chwrndaflodd, ac a darawodd y Philistiad yn ei dalcen: a'r garrec a soddodd yn ei dalcen ef, ac efe a syrthiodd i lawr ar ei wyneb.
50 Felly y gorthrechodd Dafydd y Philistiad, a ffon-dafl, ac a charrec, ac a darawodd y Philistiad, ac ai lladdodd ef: er nad [oedd] cleddyf yn llaw Dafydd.
51 Yna y rhedodd Dafydd, ac a safodd ar y Philistiad, ac a gymmerth gleddyf hwnnw, ac ai tynnodd o'r wain, ac ai lladdodd ef, ac a dorrodd ei benn ag ef: pan welodd y Philistiaid farw oi cawr hwynt, yna y ffoasant hwy.
52 A gwŷr Israel, ac Iuda a gyfodasant, ac a floeddiasant, ac a erlydiasant y Philistiaid hyd [y ffordd] y dêlech i'r dyffryn, ac hyd byrth Acaron: a'r Philistiaid a syrthiasant yn archolledic ar hyd ffordd Saarim, sef hyd Gath, ac hyd Acaron.
53 Yna meibion Israel a ddychwelasant o ymlid ar ôl y Philistiaid: ac a anrheithiasant eu gwerssylloedd hwynt.
54 A Dafydd a gymmerodd benn y Philistiad, ac ai dûg i Ierusalem: ai arfau ef a osododd efe yn ei babell.
55 A phan welodd Saul Ddafydd yn myned i gyfarfod a'r Philistiad, efe a ddywedodd wrth Abner tywysog y filwriaeth, mab i bwy [yw] 'r llangc hwn, Abner? ac Abner a ddywedodd [fel] y mae yn fyw dy enaid ô frenin nis gŵn.
56 Yna y dywedodd y brenin, ymofyn di mab i bwy [yw] 'r gwr ieuangc hwn.
57 A phan ddychwelodd Dafydd o ladd y Philistiad, yna Abner ai cymmerodd ef, ac ai dûg ef o flaen Saul: a phenn y Philistiad yn ei law.
58 A Saul a ddywedodd wrtho ef, mab i bwy [wyt] ti y gwr ieuangc? yna y dywedodd Dafydd [T: Dafyd] , mab i'th wâs Isai y Bethlehemiad.

PEN. XVIII.

Y Gefeillach a oedd rhwng Ionathan a Dafydd. 11 Saul yn casau, ac yn ofni Dafydd.

1 A Phan orphennodd efe ymddiddan a Saul, yna enaid Ionathan a ymgylymmodd wrth enaid Dafydd: fel y carodd Ionathan ef, megis ei enaid ei hunan.
2 A Saul ai cymmerth ef [atto] y diwrnod hwnnw: ac ni adawodd iddo ddychwelyd i dŷ ei dâd.
3 Yna Ionathan a wnaeth gyfammod a Dafydd: o herwydd efe ai care megis ei enaid ei hun.
4 Ac Ionathan a ddioscodd y fantell yr hon [oedd] am dano ei hun, ac ai rhoddes i Ddafydd, ai wiscoedd, îe hyd yn oed ei gleddyf, ai fwa, ai wregys.
5 A Dafydd a aeth yn gall i ba [le] bynnac yr anfonodd Saul ef, a Saul ai gosododd ef ar y rhyfel-wŷr: ac efe oedd gymmeradwy yngolwg yr holl bobl, ac yng-olwg gweision Saul [td. 119r.b] hefyd.
6 A bu (wrth ddyfod o honynt) pan ddychwelodd Dafydd o ladd y Philistiad, yna ddyfod o'r gwragedd allan o holl ddinasoedd Israel dan ganu, a dawnsio i gyfarfod a'r brenin Saul: a thympanau, a gorfoledd, ac ag [offer] tri-thant [T: tri-chant] .
7 A'r gwragedd yn chware a ymmatebent, ac a ddywedent: tarawodd Saul ar ei filoedd, a Dafydd ar ei fyrddiwn.
8 Am hynny y digiodd Saul yn ddirfawr, a'r ymadrodd hwn oedd ddrwg yn ei olwg ef, ac efe a ddywedodd, rhoddasant i Ddafydd fyrddiwn, ac i mi y rhoddasant filoedd: [beth] mwy [a roddent] iddo ef, eithr y frenhiniaeth?
9 A bu Saul yn gwilied Dafydd o'r dydd hwnnw allan.
10 Bu hefyd drannoeth i ddrwg yspryd Duw ddyfod ar Saul, ac efe a brophwydodd yng-hanol y tŷ, yna Dafydd a ganodd ai law, fel o'r blaen: a gwaiw-ffon [oedd] yn llaw Saul.
11 Yna Saul a siglodd y waiw-ffon, ac a ddywedodd, tarawaf trwy Ddafydd, a thrwy 'r pared: a Dafydd a giliodd ddwy-waith oi ŵydd ef.
12 A Saul a ofnodd rhac Dafydd: o herwydd bod yr Arglwydd gyd ag ef, a chilio o honaw ef oddi wrth Saul.
13 Am hynny Saul ai gyrrodd ef ymmaith oddi wrtho ef, ac ai gosododd ef tano ei hun yn dywysog [ar] fil: ac efe a lywodraethodd y bobl.
14 A bu Ddafydd gall yn ei holl ffyrdd: a'r Arglwydd [oedd] gyd ag ef.
15 Pan welodd Saul ei fod ef yn gall iawn: yna 'r ofnodd efe rhacddo ef.
16 Eithr holl Israel, ac Iuda a garodd Ddafydd: am ei fod ef yn eu llywodraethu hwynt.
17 Yna y dywedodd Saul wrth Ddafydd, wele Merab fy merch hynaf, hi a roddafi i ti yn wraig, yn vnic bydd i mi yn fab nerthol, ac ymladd ryfeloedd yr Arglwydd: (canys dywedase Saul, ni bydd fy llaw i yn ei erbyn ef, onid llaw y Philistiaid fydd yn ei erbyn ef.)
18 A Dafydd a ddywedodd wrth Saul, pwy [ydwyf] fi, a pheth [yw] fy mywyd [neu] dŷlwyth fy nhâd i yn Israel, fel y byddwn yn ddaw i'r brenin?
19 Eithr yn yr amser [y dylesid] rhoddi Merab merch Saul i Ddafydd, yna hi a rhoddwyd i Adriel y Meholathiad yn wraig.
20 Yna Michol merch Saul a garodd Ddafydd: a mynegasant [hynny] i Saul, a'r peth fu fodlon ganddo.
21 (A dywedodd Saul, rhoddaf hi iddo ef, fel y byddo hi iddo 'n fagl, ac y byddo llaw y Philistiaid yn ei erbyn ef:) felly Saul a ddywedodd wrth Ddafydd, drwy'r llall yr ymgyfathrechi a mi heddyw.
22 A Saul a orchymynnodd iw weision [fel hyn:] ymddiddenwch a Dafydd yn ddistaw, [td. 119v.a] gan ddywedyd, wele y brenin sydd hoff ganddo dydi, ai holl weision ef a'th garant di: yn awr gan hynny ymgyfathracha a'r brenin.
23 A gweision Saul a adroddasant wrth Ddafydd y geiriau hyn: a Dafydd a ddywedodd ai yscafn [yw] yn eich golwg chwi ymgyfathrachu a brenin, a minne yn ŵr tlawd, a gwael?
24 A gweision Saul a fynegasant iddo, gan ddywedyd: fel hyn y llefarodd Dafydd.
25 Yna y dywedodd Saul, fel hyn y dywedwch wrth Ddafydd, nid yw y brenin yn ewyllysio cynhyscaeth, onid [cael] cant o flaen-grwyn y Philistiaid i ddial ar elynnion y brenin: (canys Saul a feddyliodd am ladd Dafydd drwy law y Philistiaid.)
26 Ai weision ef a fynegasant i Ddafydd y geiriau hynn, a'r ymadrodd fu fodlon gan Ddafydd am ymgyfathrachu a'r brenin: ond ni ddaethe yr amser.
27 Yna y cyfododd Dafydd, ac efe a aeth, ai wŷr, ac a darawodd ddau can-wr, o'r Philistiaid, a Dafydd a ddygodd eu blaen-grwyn hwynt, ac ai cwbl dalasant i'r brenin, i ymgyfathrachu a'r brenin: am hynny y rhoddes Saul Michol ei ferch yn wraig iddo yntef.
28 Yna y gwelodd Saul, ac y gwybu mai 'r Arglwydd [oedd] gyd a Dafydd: a Michol merch Saul ai carodd ef.
29 A Saul a ofnodd fwy-fwy rhac Dafydd, a bu Saul yn elyn i Ddafydd byth.
30 Yna tywysogion y Philistiaid a aent allan, a phan elent hwy, Dafydd a fydde gallach na holl weision Saul, ai enw ef oedd anrhydeddus iawn.

PEN. XIX.

Ionathan yn rhybyddio Dafydd o gâs ei dâd Saul iddo ef. 11 Michol ei wraig yn ei achub ef. 23 Saul yn prophwydo wrth erlid Dafydd.

1 YNA y dywedodd Saul wrth Ionathan ei fab, ac wrth ei holl weision am ladd Dafydd: ond Ionathan mab Saul oedd hôff iawn ganddo Ddafydd.
2 Am hynny y mynegodd Ionathan i Ddafydd gan ddywedyd: Saul fy nhâd sy yn ceisio dy ladd di: ac yn awr ymgadw attolwg hyd y boreu, ac aros mewn [lle] dirgel, ac ymguddia.
3 A mi a âf allan, ac a safaf ger llaw fy nhâd yn y maes, yr hwn [y byddi] di ynddo, mi hefyd a ymddiddanaf a'm tâd o'th blegit ti: ac mi a edrychaf beth [a ddywedo efe,] ac a fynegaf i ti.
4 Ac Ionathan a ddywedodd yn dda am Ddafydd wrth Saul ei dâd: ac a ddywedodd wrtho ef, na pheched y brenin yn erbyn ei wâs, [sef] yn erbyn Dafydd, o herwydd na phechodd efe i'th erbyn di, ac o herwydd [bod] ei weithredoedd ef yn dda iawn i ti.
5 Canys efe a osodes ei enioes yn ei law, ac a darawodd y Philistiad, a'r Arglwydd a wnaeth iechydwriaeth mawr i holl Israel, ti a welaist [hyn] ac a lawenychaist: pa ham gan hyn[td. 119v.b] ny y pechi yn erbyn gwaed diniwed, gan ladd Dafydd yn ddiachos?
6 Yna Saul a wrandawodd ar lais Ionathan, a Saul a dyngodd [nid] byw yw 'r Arglwydd os lleddir ef.
7 Felly Ionathan a alwodd ar Ddafydd, ac Ionathan a fynegodd iddo ef yr holl eiriau hyn: ac Ionathan a ddug Ddafydd at Saul, ac efe a fu ger ei fron ef megis cynt.
8 Yna y bu chwaneg o ryfel: a Dafydd a aeth allan ac a ymladdodd yn erbyn y Philistiaid, ac ai tarawodd hwynt a phla mawr, ac hwy a ffoasant rhagddo ef.
9 A drwg yspryd yr Arglwydd oedd ar Saul pan oedd efe yn eistedd yn ei dŷ, ai waiwffon yn ei law: a Dafydd yn canu ai law.
10 A cheisiodd [T: chesiodd] Saul daro ai waiwffon drwy Ddafydd, a thrwy yr pared, ond efe a giliodd o ŵydd Saul, ac yntef a darawodd y waiw-ffon yn y pared, a Dafydd a ffoawdd, ac a ddiangodd y noswaith honno.
11 Saul hefyd a anfonodd gennadau i dŷ Ddafydd iw wilied ef, ac iw ladd ef y boreu: a Michol ei wraig ef a fynegodd i Ddafydd gan ddywedyd, onid achubi dy enioes heno, y foru i'th leddir.
12 Felly Michol a ollyngodd Ddafydd i lawr drwy 'r ffenestr, ac efe a aeth, ac a ffôdd, ac a ddiangodd.
13 Yna y cymmerodd Michol ryw ddelw, ac ai gosododd yn y gwely, a chlustog [o flew] geifr a osododd hi yn obennydd iddi: ac ai goblygodd a dillad.
14 Pan anfonodd Saul gennadau i ddala Dafydd: yna hi a ddywedodd, [y mae] efe yn glâf.
15 Anfonodd Saul eilwaith gennadau i edrych Dafydd, gan ddywedyd: dygwch ef i fynu attafi yn ei wely, fel y lladdwyf ef.
16 Pan ddaeth y cennadau, yna wele y ddelw ar y gwely: a chlustog [o flew] geifr yn obennydd iddi.
17 Yna y dywedodd Saul wrth Michol, pa ham y twyllaist fi fel hyn, ac y gollyngaist fyng-elyn i ddiangc? a Michol a ddywedodd wrth Saul, efe a ddywedodd wrthif, gollwng fi, onid ê mi a'th laddaf di.
18 Felly Dafydd a ffoawdd, ac a ddiangodd, ac a ddaeth at Samuel i Ramah, ac a fynegodd iddo yr hyn oll a wnaethe Saul iw erbyn ef, ac efe a aeth gyd a Samuel, ac a drigasant yn Naioth.
19 A mynegwyd i Saul gan ddywedyd: wele [y mae] Dafydd yn Naioth o fewn Ramah.
20 Yna Saul a anfonodd gennadau i ddala Dafydd, pan welsant gynnulleidfa y prophwydi yn prophwydo, a Samuel yn sefyll, wedi ei osod arnynt hwy: yna yr oedd ar gennadau Saul yspryd Duw, fel y prophwydasant hwythau hefyd.
[td. 120r.a] 21 Pan fynegasant [hyn] i Saul, yna efe a anfonodd gennadau eraill, a hwythau hefyd a brophwydasant: ac eilwaith y danfonodd Saul gennadau y drydedd waith, a phrophwydasant hwythau hefyd.
22 Yna yntef hefyd a aeth i Ramah, ac a ddaeth hyd y ffynnon fawr yr hon [sydd] yn Sechu, ac efe a ofynnodd, ac a ddywedodd, pa le [y mae] Samuel a Dafydd? ac [vn] a ddywedodd wele [y maent hwy] yn Naioth o fewn Ramah.
23 Ac efe a aeth yno i Naioth yn Ramah: ac arno yntef hefyd y daeth yr vn yspryd Duw, a chan fyned yr aeth, ac y prophwydodd, nes ei ddyfod i Naioth yn Ramah.
24 Ac efe a ddioscodd ei ddillad, ac a brophwydodd hefyd ger bron Samuel, ac a syrthiodd i lawr yn noeth yr holl ddiwrnod hwnnw, a'r holl nôs: am hynny y dywedent, a ydyw Saul hefyd ym mysc y prophwydi?

PEN. XX.

Y cyfammod yr hwn a oedd rhwng Ionathan a Dafydd. 30 Saul yn digio wrth Ionathan o achos Dafydd. 36 Ionathan yn saethu tair saeth i rybyddio Dafydd.

1 YNA y ffoawdd Dafydd o Naioth yn Ramah, ac a ddaeth, ac a ddywedodd ger bron Ionathan, beth a wneuthum? beth [yw] fy anwiredd, a pheth [yw] fy mhechod o flaen dy dâd ti, gan ei fod efe yn ceisio fy enioes i?
2 Ac efe a ddywedodd wrtho, na atto Duw, ni byddi farw, wele ni wnaiff fy nhâd na pheth mawr, na pheth bychan heb [ei] fynegu i mi: pa ham gan hynny y cêle fy nhâd y peth hyn oddi wrthifi? ni [wna efe] hyn.
3 Yna Dafydd a dyngodd eilwaith, (ac a ddywedodd, dy dâd a ŵyr yn hyspys i mi gael ffafor yn dy olwg di, am hynny y dywedodd, na chaffed Ionathan ŵybod hyn rhac ei dristau ef:) cyn wîred a bod yr Arglwydd yn fyw, a'th enaid dithe yn fyw [nid oes] onid megis camm rhyngofi ag angeu.
4 Yna y dywedodd Ionathan wrth Ddafydd: dywet beth [yw] dy ewyllys, a mi ai cwplhaf i ti.
5 A Dafydd a ddywedodd wrth Ionathan, wele [y dydd cyntaf o'r] mis [yw] foru, a minne gan eistedd a ddylwn eistedd gyd a'r brenin i fwytta: gollwng fi gan hynny fel yr ymguddiwyf yn y maes hyd bryd nawn y trydydd [dydd.]
6 Os dy dâd gan goffau a goffa am danaf: yna y dywedi, Dafydd gan ofyn a ofynnodd [gennad] gennifi i redeg i Bethlehem ei ddinas ei hun, canys aberth blynyddawl [sydd] yno gan yr holl genedl.
7 Os fel hyn y dywed efe, dâ, heddwch [sydd] i'th wâs: ond os gan ddigio y digia efe gwybydd fod y malis wedi ei baratoi ga{n}ddo ef.
8 Felly y gwnei drugaredd a'th wâs canys mewn cyfammod yr Arglwydd y dugaist [td. 120r.b] dy was gyd a thi: ac od oes anwiredd ynofi, lladd di fi, canys i ba beth y dygi di fi at dy dâd?
9 Yna y dywedodd Ionathan, na atto Duw [hynny] i ti: canys os gan wybod y caf wybod fod y malis wedi ei baratoi gan fy nhâd i ddyfod i'th erbyn, onis mynegwn i ti?
10 A Dafydd a ddywedodd wrth Ionathan, pwy a fynega i mi os ettyb dy dâd ti ddim yn galed?
11 Yna y dywedodd Ionathan wrth Ddafydd, tyret fel yr elom i'r maes: ac hwy a aethant ill dau i'r maes.
12 Dywedodd Ionathan hefyd wrth Ddafydd, Arglwydd Dduw Israel [fyddo tŷst] y chwiliafi [feddwl] fy nhad yng-hylch y pryd [hyn] y foru [neu] drennydd, ac os daioni [fydd] tu ag at Ddafydd, ac oni anfonaf yna attati fel y mynegwyf it,
13 Fel hyn y gwnel yr Arglwydd i Ionathan ac y chwanego: os da fydd gan fy nhad [ddwyn] y drwg i'th erbyn yna y mynegaf it, ac a'th ollyngaf fel yr elech mewn heddwch: a bydded yr Arglwydd gyd a thi, megis y bu gyd a'm tad i.
14 Felly nid tra fyddwyfi byw, ac nid a mi [yn vnic] y gwnei drugaredd yr Arglwydd [T: Arglwyd] fel na byddwyf marw:
15 Ond na thorr ymmaith dy drugaredd a'm tŷ maufi byth, na phan ddestruwio 'r Arglwydd elynnion Dafydd bob vn oddi ar wyneb y ddaiar.
16 Felly y cyfammododd Ionathan a thŷ Ddafydd [ac efe a ddywedodd:] gofynned yr Arglwydd oddi ar law gelynion Dafydd [eu camwedd.]
17 Yna y chwanegodd Ionathan dyngu wrth Ddafydd, o herwydd efe ai care ef: (canys fel ei enaid ei hun y care efe ef.)
18 Ac Ionathan a ddywedodd wrtho ef, y foru [yw 'r dydd cyntaf o'r] mis, a thi a goffeir, am y bydd dy eisteddle yn wâg.
19 Wedi i ti lechu dridieu yna tyret i wared yn fuan, a thyret i'r lle yr hwn yr ymguddiaist ynddo, yn y dydd [y bu] y gwaith hyn [o'r blaen] ac aros wrth faen Ezel.
20 A mi a saethaf dair o saethau at [ei] ystlys [ef:] fel pes gollyngwn [hwynt] at nôd.
21 Wele hefyd mi a anfonaf y llangc [gan ddywedyd,] dôs, cais y saethau: os gan ddywedyd y dywedaf wrth y llangc, wele y saethau [ennyd] oddi wrthit o'r tu ymma i ti dwg hwynt: yna tyret ti, canys heddwch [sydd] i ti, ac ni bydd dim [niwed, fel] mai byw yw 'r Arglwydd.
22 Ond os fel hyn y dywedaf wrth y bachgen, wele y saethau [ennyd] oddi wrthit o'r tu hwnt: dôs ymmaith, canys yr Arglwydd a'th anfonodd ymmaith.
23 Am y peth yr hwn a leferais i, mi a thi: wele 'r Arglwydd [fyddo] rhyngofi, a thi yn dragywydd.
[td. 120v.a] 24 Felly 'r ymguddiodd Dafydd yn y maes, a phan oedd y dydd cyntaf o'r mis, y brenin a eisteddodd wrth y bwyd i fwytta.
25 Ie y brenin a eisteddodd ar ei eisteddfa, megis ar amseroedd eraill, [sef] ar yr eisteddfa wrth y pared, ac Ionathan a gyfododd, ac Abner a eisteddodd wrth ystlys Saul: a lle Dafydd oedd wag.
26 Ac nid yngênodd Saul ddim y diwrnod hwnnw: canys meddyliodd [mai] damwain [oedd] hyn, am nad [oedd] efe lân, o herwydd [ei fod] yn aflan [ni ddaeth.]
27 A bu drannoeth, yr ail [dydd] o'r mis fod lle Dafydd yn wâg: yna y dywedodd Saul wrth Ionathan ei fâb, pa ham na ddaeth mab Isai at y bwyd na doe, na heddyw?
28 Yna Ionathan a attebodd Saul: Dafydd gan ofyn a ofynnodd i mi [am gael myned] hyd Bethlehem.
29 Canys efe a ddywedodd, gollwng fi attolwg, o herwydd ein tylwyth ni [ydynt yn offrymmu] aberth yn y ddinas, a'm brawd yntef a'm gwahoddodd i, ac yn awr o chefais ffafor yn dy olwg di, gad i'm fyned attolwg, fel y gwelwyf fy mrodyr: o herwydd hyn ni ddaeth efe i fwrdd y brenin.
30 Yna y llidiodd digter Saul yn erbyn Ionathan, ac efe a ddywedodd wrtho, [ti] fab y gyndyn wrthnyssic, oni ŵyddwn i ti ddewis mab Isai yn wradwydd it, ac yn gywilydd [a] gwarth i'th fam? [T: .]
31 Canys yr holl ddyddiau ar y byddo mab Isai yn fyw ar y ddaiar, ni'th sicrheuir di na'th deyrnas: yn awr gan hynny, anfon, a chyrch ef attaf, canys marwolaeth [a gaiff] efe.
32 Yna Ionathan a attebodd Saul ei dad, ac a ddywedodd wrtho: pa ham y bydd efe marw? beth a wnaeth efe?
33 Yna Saul a ergydiodd y waiw-ffon tu ag atto ef, iw daro ef: wrth hyn y gwybu Ionathan [fod] y bwriad ymma gan ei dâd ef, sef lladd Dafydd.
34 Felly Ionathan a gyfododd oddi wrth y bwrdd mewn llid digllawn: ac ni fwyttâodd fwyd yr ail dydd o'r mis, canys gofidiodd dros Ddafydd, o herwydd iw dâd ei wradwyddo ef.
35 A'r borau, yr aeth Ionathan i'r maes erbyn yr amser a osodase ef i Ddafydd [T: Ddafyd] : a bachgen bychan gyd ag ef.
36 Ac efe a ddywedodd wrth ei fachgen, rhêd, cais yn awr y saethau, y rhai 'r ydwyfi yn eu saethu: y bachgen a redodd, yna yntef a saethodd saeth gan gyrheuddyd trosto ef.
37 Pan ddaeth y bachgen hyd y fan [yr oedd] y saeth yr hon a saethase Ionathan: yna y llefodd Ionathan ar ôl y bachgen, ac a ddywedodd, onid [yw] y saeth ennyd oddi wrthit o'r tu hwnt?
38 Llefodd Ionathan drachefn ar ôl y bachgen, cyflymma, bryssia, na saf: yna bachgen Ionathan a gasclodd y saethau, ac a ddaeth at ei feistr.
[td. 120v.b] 39 A'r bachgen ni ŵydded ddim, onid Ionathan a Dafydd a wyddent y peth.
40 Yna Ionathan a roddes ei offer at y bachgen yr hwn [oedd] gyd ag ef, ac a ddywedodd wrtho ef, dos, dûg [y rhai hyn] i'r ddinas.
41 Y bachgen a aeth ymmaith, yna Dafydd a gyfododd o'r tu dehau [i'r maen,] ac a syrthiodd i lawr ar ei wyneb, ac a ymgrymmodd dair gwaith: a hwy a ymgusanasant bob vn ei gilydd, ac a ŵylasant y naill wrth y llall, a Dafydd a ragorodd.
42 Yna y dywedodd Ionathan wrth Ddafydd, dôs mewn heddwch: yr hyn a dyngasom ni ein dau yn enw 'r Arglwydd gan ddywedyd, yr Arglwydd fyddo rhyngofi a thi, a rhwng fy hâd i, a'th hâd dithe, [safed hynny] yn dragywydd.
43 Yna [Dafydd] a gyfododd ac a aeth ymmaith: ac Ionathan a ddaeth i'r ddinas.

Efengyl Iesu Grist yn ôl Sanct Mathew

[td. 452r.b]

PEN. XXVI.

3 Bwriad yr offeiriaid yn erbyn Crist, tywalltiad yr enaint ar ei ben ef. 26 Swper yr Arglwydd. 34 Petr yn gwadu Crist. 47 Brâd Iudas. 56 Arwain Crist at Caiphas.

1 AC fe a ddarfu wedi i'r Iesu orphen y geiriau hyn oll, efe a ddywedodd wrth ei ddiscyblion,
2 Chwi a ŵyddoch mai ym mhen y ddau ddŷdd y mae 'r Pasc: a Mâb y dŷn a roddir iw groes-hoelio.
3 Yna y casclwyd yr arch-offeiriaid a'r scrifennyddion, a henuriaid y bobl i neuadd yr arch-offeiriad, yr hwn a elwid Caiphas.
4 Ac hwy a ymgynghorâsant, pa fodd y dalient yr Iesu trwy ddichell, ac y lladdent [ef.]
5 Eithr hwy a ddywedâsant, nid ar yr ŵyl, rhag bôd cynnwrf ym mhlith y bobl.
6 Ac fel yr oedd yr Iesu yn Bethania yn nhŷ Simon wahan-glwyfus,
7 Fe ddaeth atto wraig, a chŷd â hi flwch o enaint gwerthfawr, ac a'i tywalltodd ar ei be{n}n, ac efe yn eistedd wrth y ford.
8 A phan welodd ei ddiscyblion, hwy a lidiasant gan ddywedyd, pa raid yr afrad hynn?
9 Canys fe a allasid gwerthu yr ennaint hwn er llawer, a'i roddi ef i'r tlodion.
10 A'r Iesu a ŵybu, ac a ddywedodd wrthynt, pa ham yr ydych yn gwneuthur blinder i'r wraig: canys hi a weithiodd weithred dda arnaf.
11 O blegit y tlodion a gewch bôb amser gŷd â chwi, a mi ni's cewch bôb amser.
12 Canys hi yn tywallt yr ennaint hwn ar fyng-horph, a wnaeth hyn i'm claddu i.
[td. 452v.a] 13 Yn wir meddaf i chwi, pe le bynnac y pregethir yr Efengyl hon yn yr holl fŷd, hyn ymma hefyd a wnaeth hi a fynegir, er coffa am dani hi.
14 Yna yr aeth vn o'r deuddec yr hwn a elwyd Iudas Iscariot at yr arch-offeiriaid,
15 Ac a ddywedodd wrthynt, pa beth a roddwch i mi, a mi a'i rhoddaf ef i chwi? a hwy a dalasant iddo ddêc ar hugain o arian.
16 Ac o hynny allan y ceisiodd efe amser cyfaddas iw fradychu ef.
17 Ac ar [y dydd] cyntaf o ŵyl y bara croiw, ei ddiscyblion a ddaethant at yr Iesu gan ddywedyd wrtho, pa le y mynni i ni baratoi i ti fwytta 'r Pasc?
18 Ac yntef a ddywedodd, ewch i'r ddinas at y cyfryw vn, a dywedwch wrtho, y mae 'r Athro yn dywedyd, fy amser sydd agos, gŷd â thi y cynhaliaf y Pasc, mi a'm discyblion.
19 A'r discyblion a wnaethant y modd y gorchymynnase 'r Iesu iddynt, ac a baratoasant y Pasc.
20 Ac wedi ei myned hi yn hwyr, efe a eisteddodd gŷd â'r deuddec.
21 Ac fel yr oeddynt yn bwytta, efe a ddywedodd, yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, y bradycha vn o honoch fi.
22 Yna yr aethant yn drist dros ben, ac a ddechreuasant bôb vn ddywedyd wrtho: ai myfi Arglwydd yw [hwnnw?]
23 Ac efe a attebodd ac a ddywedodd, yr hwn sydd yn trochi ei law gŷd â mi yn y ddyscl, hwnnw a'm bradycha i.
24 Mâb y dŷn yn ddiau sydd yn myned fel y mae yn scrifennedic am dano, eithr gwae 'r dyn hwnnw trwy 'r hwn y bradychir Mâb y dŷn: da a fuase i'r dŷn hwnnw pe na's genesid efe er ioed.
25 Ac Iudas yr hwn a'i bradychodd ef, a attebodd ac a ddywedodd, ai myfi yw [efe] Athro? yntef a ddywedodd wrtho, ti a ddywedaist.
26 Ac fel yr oeddynt yn bwytta, yr Iesu a gymmerth y bara, ac wedi iddo fendigo efe a'i torrodd, ac a'i rhoddes i'r discyblion, ac a ddywedodd, cymmerwch, bwyttewch, hwn yw fyng-horph.
27 Ac wedi iddo gymmeryd y cwppan a diolch, efe a'i rhoddes iddynt, gan ddywedyd, yfwch bawb o hwn:
28 Canys hwn yw fyng-waed o'r Testament newydd, yr hwn a dywelltir tros lawer er maddeuant pechodau.
29 Ac yr ydwyf yn dywedyd i chwi, nad yfaf o hyn allan o ffrwyth hwn y winwydden, hyd y dydd hwnnw, pan yfwyf ef yn newydd gŷd â chwi yn nheyrnas fy Nhâd.
30 Ac wedi iddynt ganu mawl, hwy a aethant allan i fynydd yr Oliwŷdd.
31 Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt, chwychwi oll a rwystrir heno o'm plegit i: canys scrifennedic yw, tarawaf y bugail, a defaid y [td. 452v.b] praidd a wascerir.
32 Eithr wedi fy adgyfodi, mi a âf o'ch blaen chwi i Galilæa.
33 Ac Petr a attebodd ac a ddywedodd wrtho, pe rhwystrid pawb o'th plegit ti, etto ni'm rhwystrir fi byth.
34 Yr Iesu a ddywedodd wrtho, yn wîr yr wyf yn dywedyd i ti, mai 'r nos hon cyn canu yr ceiliog i'm gwedi dair-gwaith.
35 Petr a ddywedodd wrtho, pe gorfydde i mi farw gŷd â thi, etto ni'th wadaf: a'r vn modd hefyd y dywedodd yr holl ddiscyblion.
36 Yna y daeth yr Iesu gŷd ag hwynt i fa{n}n a elwid Gethsemane, ac a ddywedodd wrth ei ddiscyblion, eisteddwch ymma tra 'r elwyf, a gweddio accw.
37 Ac efe a gymmerth Petr a dau fâb Zebedeus, ac a ddechreuodd dristau ac ymofidio.
38 Yna efe a ddywedodd wrthynt, trîst yw fy enaid hyd angeu, arhoswch ymma, a gwiliwch gŷd â mi.
39 Ac efe a aeth ychydig pellach, ac a syrthiodd ar ei wyneb, ac a weddiodd gan ddywedyd, fy Nhâd, os gellir aed y cwppan hwn oddi wrthif, er hynny nid fel yr ewyllysiwyfi, ond fel yr [ewyllysiech] di.
40 Ac efe a ddaeth at ei ddiscyblion, ac a'u cafas hwy yn cyscu, ac efe a ddywedodd wrth Petr, pa ham? oni allech chwi wilied vn awr gŷd â mi?
41 Gwiliwch a gweddiwch rhac ei'ch myned mewn profedigaeth, yr yspryd yn ddiau sydd yn barod, eithr y cnawd sydd wann.
42 Efe a aeth trachefn yr ailwaith, ac a weddiodd, gan ddywedyd, fy Nhâd, oni's gall y cwppan hwn fyned oddi wrthif heb orfod i mi ei yfed, gwneler dy ewyllys.
43 Ac efe a ddaeth, ac a'u cafas hwy yn cyscu trachefn: canys eu llygaid hwy oeddynt drymmion.
44 Ac efe a'u gadawodd hwynt, ac a aeth ymmaith trachefn, ac a weddiodd y drydedd waith, gan ddywedyd yr vn geiriau.
45 Yna y daeth efe at ei ddiscyblion, ac a ddywedodd wrthynt, cyscwch bellach a gorphywyswch: wele y mae 'r awr wedi nessau, a Mâb y dŷn a roddir yn nwylo pechaduriaid.
46 Codwch, awn, wele, y mae ger llaw yr hwn a'm bradycha.
47 Ac efe etto yn dywedyd hyn, wele Iudas, vn o'r deuddec, a thyrfa fawr gŷd ag ef â chleddyfau, a ffynn oddi wrth yr arch-offeiriaid a henuriaid y bobl.
48 A'r hwn ai bradychodd ef a roese arwydd iddynt, gan ddywedyd, pa vn bynnac â gusanwyf, hwnnw yw, deliwch ef.
49 Ac yn ebrwydd y daeth at yr Iesu, ac a ddywedodd, henffych well Athro, ac a'i cusanodd ef.
50 A'r Iesu a ddywedodd wrtho, y cyfaill, i ba beth y daethost? yna y daethant, ac y rhoe[td. 453r.a] sant ddwylo ar yr Iesu, ac a'i daliâsant.
51 Ac wele vn o'r rhai oeddynt gŷd â'r Iesu a estynnodd ei law, ac a dynnodd ei gleddyf, ac a darawodd wâs yr arch-offeiriad, ac a dorrodd ei glust ef.
52 Yna y dywedodd yr Iesu wrtho, dôd ti dy gleddyf yn ei wain, canys pawb ar a gymmerant gleddyf, a ddifethir â chleddyf.
53 A ydwyt ti yn tybied na's gallaf yr awr hon ddeisyf ar fy Nhâd fel y rhodde efe fwy nâ ddeuddec lleng o angelion i mi?
54 Pa fodd yntef, y cyflawnir yr scrythyrau y rhai a ddywedant, mai felly y gorfydd bôd?
55 Yn yr awr honno, y dywedodd yr Iesu wrth y dyrfa, chwi a ddaethoch allan megis at leidr â chleddyfau, ac â ffynn i'm dala i: yr oeddwn beunydd yn eistedd, ac yn dyscu yn y Deml, ac ni'm daliasoch.
56 A hyn oll a wnaethpwyd er cyflawni 'r scrythyrau, a'r prophwydi: yna 'r holl ddiscyblion a'i gadawsant ef, ac a ffoasant.
57 Hwythau a ddaliasa{n}t yr Iesu, ac a aethant ag ef at Caiphas yr arch-offeiriad, lle 'r oedd yr scrifennyddion a'r henuriaid wedi ymgasclu yng-hŷd.
58 Ac Petr a'i canlynodd ef o hir-bell hyd yn llŷs yr arch-offeiriad, ac a aeth i mewn, ac a eisteddodd gŷd â'r gweision i weled y diwedd.
59 A'r arch-offeiriad a'r henuriaid, a'r holl gyngor a geisiasant gau destiolaeth yn erbyn yr Iesu, iw roddi ef i farwolaeth.
60 Ac ni's cawsant, îe er dyfod yno gau-dystion lawer ni chawsant: eithr o'r diwedd fe a ddaeth dau gau dyst:
61 Ac hwy a ddywedâsant, hwn a ddywedodd, mi a allaf ddestruwio Teml Dduw, a'i hadailadu mewn tri diwrnod.
62 Yna y cyfododd yr arch-offeiriad, ac a ddywedodd wrtho, a attebi di ddim? pa beth sydd pan fyddo y rhai hyn yn testiolaethu yn dy erbyn?
63 A'r Iesu a dawodd, yna yr attebodd yr arch-offeiriad, ac a ddywedodd wrtho, yr ydwyf yn dy dynghêdu di trwy 'r Duw byw, ddywedyd o honot i ni, os ty di yw Crist Mâb Duw.
64 Yr Iesu a ddywedodd wrtho, ti a ddywedaist: eithr meddaf i chwi, ar ôl hyn y gwelwch Fâb y dyn yn eistedd ar ddeheu-law gallu [Duw,] ac yn dyfod yn wybrennau 'r nef.
65 Yna y rhwygodd 'r arch-offeiriad ei ddillad, gan ddywedyd, efe a gablodd: pa raid i ni wrth mwy o dystion: wele clywsoch ei gabledd ef.
66 Beth dybygwch chwi? hwy a attebâsant, gan ddywedyd, y mae efe yn euog i farwolaeth.
67 Yna y poerâsa{n}t yn ei wyneb, ac a'i bonclustiasant, eraill a'i cernodiasant ef,
68 Gan ddywedyd, prophwyda i ni, ô Crist, pwy yw 'r hwn a'th darawodd?
69 Petr oedd yn eistedd allan yn y neuadd, [td. 453r.b] ac fe a ddaeth morwyn atto, ac a ddywedodd, yr oeddit tithe gŷd â'r Iesu o Galilæa:
70 Ac efe a wadodd ger eu bron hwy oll, ac a ddywedodd, ni's gwn beth yr wyt yn ei ddywedyd.
71 A phan aeth efe allan i'r porth y gwelodd [morwyn] arall ef, ac hi a ddywedodd wrth y rhai oeddynt yno, yr oedd hwn hefyd gŷd â'r Iesu o Nazareth.
72 A thrachefn efe a wadodd, gan dyngu, nid adwen i y dŷn.
73 Ac ychydig wedi hynny y daeth atto rai a oeddynt yn sefyll ger llaw, ac a ddywedasant wrth Petr, yn wîr yr wyt ti yn vn o honynt, canys y mae dy leferydd yn dy gyhuddo.
74 Yna y dechreuodd efe ymregu, a thyngu, gan ddywedyd, nid adwen i y dŷn, ac yn y man y cânodd y ceiliog.
75 Yna y cofiodd Petr eiriau 'r Iesu yr hwn a ddywedase wrtho, cyn canu 'r ceiliog ti a'm gwedi fi dair gwaith, yna yr aeth efe allan, ac yr ŵylodd yn dost.

PEN. XXVII.

Yr Iddewon yn rhoddi Crist yn rhwym at Pilat. 34 Hwy yn ei roddi ef ar y groes, ac yn ei gablu, 50 Ac yntef yn marw. 57 Ioseph yn ei gladdu ef.

1 A Phan ddaeth y boreu, yr ymgynghorodd yr holl arch-offeiriaid a henuriaid y bobl yn erbyn yr Iesu fel y rhoddent ef i farwolaeth.
2 Ac hwy a aethant ymmaith ag ef yn rhwym, ac a'i rhoesant at Pontius Pilatus y rhaglaw.
3 Yna pan weles Iudas yr hwn a'i bradychodd ef fyned barn yn ei erbyn ef, fe a fu edifar ganddo, ac a ddug trachefn y dêc ar hugain arian i'r arch-offeiriaid a'r henuriaid,
4 Gan ddywedyd, pechais gan fradychu gwaed gwirion, hwytheu a ddywedasa{n}t, pa beth yw hynny i ni? edrych ti.
5 Ac wedi iddo daflu 'r arian yn y Deml, efe a ymadawodd, ac a aeth, ac a ymgrogodd.
6 A'r arch-offeiriaid a gymmerasant yr arian, ac a ddywedasant, nid cyfreithlon i ni eu bwrw hwynt yn y tryssor-dŷ, canys gwerth gwaed ydyw.
7 Ac wedi iddynt ymgynghori, hwy a brynnasant ag hwynt faes y crochenydd, yn gladdfa diethriaid.
8 Ac am hynny y gelwir y maes hwnnw, maes y gwaed, hyd heddyw.
9 (Yna y cyflawnwyd yr hyn a ddywetpwyd trwy Ieremias y prophwyd, gan ddywedyd, ac hwy a gymmerasant ddec ar hugain o arian, gwerth y gwerthedic, yr hwn a brynnasant gan feibion Israel.
10 Ac hwy ai rhoesa{n}t am faes y crochenydd, megis y gosodes yr Arglwydd i mi. [T: ] )
11 A'r Iesu a safodd ger bron y rhaglaw, a'r rhaglaw a ofynnodd iddo, gan ddywedyd: a wyt ti yn frenin yr Iddewon? a'r Iesu a ddywedodd wrtho, ti a'i ddywedaist.
[td. 453v.a] 12 A phan gyhuddwyd ef gan yr arch-offeiriaid a'r henuriaid, nid attebodd efe ddim.
13 Yna y dywedodd Pilatus wrtho, oni chlywi faint o bethau y maent hwy yn eu testiolaethu yn dy erbyn?
14 Ac nid attebodd efe iddo vn gair, fel y rhyfeddodd y rhaglaw yn fawr.
15 Ac ar yr ŵyl honno yr arfere y rhaglaw ollwng i'r bobl vn carcharor, yr hwn a ofynnent.
16 Yna yr oedd ganddynt garcharor hynod a elwyd Barrabas.
17 Ac wedi iddynt ymgasclu yng-hyd, Pilatus a ddywedodd wrthynt, pa vn a fynnwch i mi ei ollwng i chwi? Barrabas, ai 'r Iesu 'r hwn a elwir Crist?
18 Canys efe a ŵydde yn dda, mai o genfigen y rhoddasent ef.
19 Ac efe yn eistedd ar yr orsedd-faingc, ei wraig a ddanfonodd atto gan ddywedyd, na fydded i ti a wnelech â'r cyfiawn hwnnw, canys goddefais lawer heddyw mewn breuddwydion o'i achos ef.
20 A'r arch-offeiriaid a'r henuriaid a hudasant bobl i ofyn Barrabas, a difetha 'r Iesu.
21 A'r rhaglaw a attebodd, ac a ddywedodd wrthynt, pa vn o'r ddau a fynnwch i mi ei ollwng i chwi? hwythau a ddywedasant, Barrabas.
22 Pilatus a ddywedodd wrthynt, pa beth a wnaf i Iesu 'r hwn a elwir Crist? hwy oll a ddywedâsant wrtho, croes-hoelier ef.
23 Yna y dywedodd y rhaglaw, ond pa ddrwg a wnaeth efe? yna y llefâsant yn fwy, gan ddywedyd, croes-hoelier [T: cros-hoelier] ef.
24 Pan welodd Pilatus na thyccie iddo, ond bôd mwy o gynnwrf yn codi, efe a gymmerth ddwfr, ac a olchodd ei ddwylo ger bron y bobl, gan ddywedyd, dieuog ydwyf oddi wrth waed y cyfiawn hwn, edrychwch chwi.
25 A'r holl bobl a attebodd, ac a ddywedodd, bydded ei waed ef arnom ni, ac ar ein plant.
26 Yna y gollyngodd efe Barrabas iddynt, ac efe a fflangellodd yr Iesu, ac a'i rhoddes iw groes-hoelio.
27 Yna mil-wŷr y rhaglaw a gymmerasant yr Iesu i'r dadleudŷ, ac a gynhullasant atto yr holl fyddin.
28 Ac hwy a'i dioscasant, ac a roesant am dano fantell o scarlat,
29 Ac a blethâsant goron ddrain, ac a'i dodasant ar ei benn, a chorsen yn ei law, ac a blygasant eu gliniau ger ei fron ef, ac a'i gwatwarâsant, gan ddywedyd, henffych well, Brenin yr Iddewon.
30 Ac hwy a boerâsant arno, ac a gymmerasant gorsen, ac a'i tarawsant ar ei benn.
31 Ac wedi iddynt ei watwar, hwy a'i dioscasant ef o'r fantell, ac a'i gwiscasant ef â'i ddillad ei hun, ac a aethant ag ef iw groes-hoelio.
32 Ac fel yr oeddynt yn myned allan, hwy [td. 453v.b] a gawsant ddŷn o Ciren a elwyd Simon: a hwn a gymhellhâsant hwy i ddwyn ei groes ef.
33 A phan ddaethant i le a elwyd Golgatha, sef yr hwn yw y benglogfa,
34 Hwy a roesant iddo iw yfed finegr yn gymyscedic â bustl: ac wedi iddo ei brofi, ni fynnodd efe yfed.
35 Ac wedi iddynt ei groes-hoeli ef [T: groes-hoelief] , hwy a rannasant ei ddillad, ac a fwriasant goel-brennau, er cyflawni y peth a ddywetpwyd trwy 'r prophwyd: hwy a rannasant fy nillad yn eu plith, ac ar fyng-wisc y bwriasant goel-brennau.
36 Ac hwy a eisteddâsant, ac a'i gwiliâsant ef yno.
37 Ac hwy a osodâsant hefyd vwch ei benn ef ei achos yn scrifennedic, Hwn Yw Iesv Brenin Yr Iddewon.
38 Yna y croes-hoeliwyd dau leidr gŷd ag ef, vn ar y llaw ddehau, ac arall ar yr asswy.
39 A'r rhai oeddynt yn myned heibio a'i cablasant ef, gan escwyt eu pennau,
40 A dywedyd, ti 'r hwn a ddestruwi 'r Deml, ac a'i hadailedi mewn tri-diau, cadw dy hun, os ti yw Mâb Duw, descyn oddi ar y groes.
41 A'r vn modd yr arch-offeiriaid a'i gwatwarasant ef, gŷd â'r scrifennyddion a'r henuriaid, gan ddywedyd,
42 Efe a waredodd eraill, nis gall efe ei ymwared ei hun: os Brenin yr Israel yw efe, descynned yr awr hon oddi ar y groes, ac ni a gredwn iddo.
43 Efe a ymddyriedodd yn Nuw, rhyddhaed efe ef yr awr hon os myn ef: canys efe a ddywedodd, Mâb Duw ydwyf.
44 Yr vn peth hefyd a edliwiodd y lladron, y rhai a grogasid gŷd ag ef, iddo ef.
45 Ac o'r chweched awr y bu tywyllwch mawr ar yr holl ddaiar, hyd y nawfed awr.
46 Ac yng-hylch y nawfed awr, y llefodd yr Iesu â llef vchel, gan ddywedyd Eli, Eli, lama sabachthani? hynny yw, fy Nuw, fy Nuw, pa ham i'm gwrthodaist?
47 A rhai o'r sawl oeddynt yn sefyll yno, pan glywsant, a ddywedâsant, y mae hwn yn galw ar Elias.
48 Ac yn y fan vn o honynt a redodd, ac a gymmerth yspwrn, ac a'i llanwodd o finegr, ac a'i rhoddes ar gorsen, ac a'i rhoes iddo, iw yfed.
49 Eraill a ddywedâsant, gad ti iddo: edrychwn a ddaw Elias iw waredu.
50 Yna y llefodd yr Iesu trachefn â llef vchel, ac a ymadawodd [T: ymadawod]  â'r yspryd.
51 Ac wele, llen y deml a rwygwyd yn ddau, o'r cwrr vchaf hyd yr isaf, a'r ddaiar a grynodd, a'r main a holltwyd.
52 A'r beddau a ymagorâsant, a llawer o gyrph y sainct y rhai a oeddynt yn huno, a godâsant,
[td. 454r.a] 53 Ac a ddaethant allan o'r beddau ar ôl ei gyfodiad ef, ac a aethant i mewn i'r ddinas sanctaidd, ac a ymddangosâsant i lawer.
54 Pan welodd y canwriad, a'r rhai oeddynt gŷd ag ef yn gwilied yr Iesu, y ddaiar yn crynu, a'r pethau a wnaethid, hwy a ofnasant yn fawr, gan ddywedyd, yn wir Mâb Duw ydoedd hwn.
55 Ac yr oedd yno lawer o wragedd yn edrych arno o hir-bell, y rhai a ganlynâsent yr Iesu o'r Galilæa gan weini iddo ef.
56 Ym mhlith y rhai 'r oedd Mair Magdalen, a Mair mam Iaco, ac Ioses, a mam meibion Zebedeus.
57 Ac wedi ei myned hi yn hwyr fe a ddaeth gŵr goludog o Arimathia, a'i henw Ioseph, yr hwn a fuase yntef yn ddiscybl i'r Iesu.
58 Hwn a aeth at Pilatus, ac a ofynnodd gorph yr Iesu: yna y gorchymynnodd Pilatus roddi 'r corph.
59 Ac felly y cymmerth Ioseph y corph, ac a'i hamdoes â lliain main glân.
60 Ac a'i rhoddes yn ei fedd newydd, yr hwn a dorrase efe mewn craig, ac a dreiglodd faen mawr wrth ddrws y bedd, ac a aeth ymmaith.
61 Ac yr oedd yno Mair Magdalen, a Mair arall yn eistedd gyferbyn â'r bedd.
62 A thrannoeth yr hwn sydd ar ôl y darparwyl yr ymgynhullodd 'r arch-offeiriaid a'r Pharisæaid at Pilatus,
63 Ac a ddywedasant, ô arglwydd y mae yn gof gennym ddywedyd o'r twyll-wr hwnnw, ac efe etto yn fyw, o fewn tri-diau y cyfodaf.
64 Gorchymyn gan hynny gadw y bedd yn ddiogel hyd y trydydd dydd, rhag dyfod ei ddiscyblion o hŷd nos a'i ladratta ef, a dywedyd wrth y bobl, efe a gyfododd o feirw, ac felly y bydd yr amryfusedd dyweddaf yn waeth nâ'r cyntaf.
65 Yna y dywedodd Pilatus wrthynt, y mae gennych wiliadwriaeth, ewch, gwnewch mor ddiogel ac y medroch.
66 Ac hwy a aethant, ac a wnaethant y bedd yn ddiogel a'r wiliadwriaeth, ac a seliasant y maen.

PEN. XXVIII.

Adgyfodiad Crist, 2 yr Angel yn cyssuro y gwragedd. hwythau yn gweled Crist. 18 Crist yn anfon ei ddiscyblion i bregethu.

1 YNa yn niwedd y Sabboth, a hi yn dyddhau yn y dydd cyntaf o'r wythnos, y daeth Mair Magdalen a Mair arall i edrych y bedd.
2 Ac wele bu daiar-gryn mawr: canys descynnodd Angel yr Arglwydd o'r nef, ac a dda[td. 454r.b] eth, ac a dreiglodd y garrec oddi wrth y drws, ac a eisteddodd arni.
3 A'i wyneb-pryd oedd fel mellten, a'i wisc yn wen fel eira.
4 A rhag ei ofn ef dychrynnodd [T: dychrynnod] y ceidwaid ac aethant megis yn feirw.
5 A'r Angel a attebodd, ac a ddywedodd wrth y gwragedd, nac ofnwch: canys mi a wn mai ceisio 'r ydych yr Iesu 'r hwn a groes-hoeliwyd,
6 Nid yw efe ymma, canys cyfododd megis y dywedodd, deuwch, a gwelwch y fann lle y rhoddwyd yr Arglwydd.
7 Ac ewch ar ffrwst, a dywedwch iw ddiscyblion gyfodi o honaw o feirw: ac y mae efe yn myned o'ch blaen chwi i Galilæa: yno y gwelwch ef: wele dywedais i chwi.
8 Yna 'r aethant yn ebrwydd o'r fonwent gan ofn a llawenydd mawr, ac a redâsant i fynegu iw ddiscyblion.
9 Ac fel yr oeddynt yn myned i fynegu iw ddiscyblion ef, yna wele cyfarfu 'r Iesu ag hwynt gan ddywedyd, henffych well, ac hwy a ddaethant, ac y ymafelâsant yn ei draed ef, ac a'i haddolâsant.
10 Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt, nac ofnwch: ewch a dywedwch i'm brodyr, fel y delant i Galilæa, yno y gwelant fi.
11 Ac wedi eu myned hwy: wele rhai o'r wiliadwriaeth a ddaethant i'r ddinas, ac a fynegâsant i'r arch-offeiriaid yr hyn oll a wnaethid.
12 Ac wedi iddynt ymgasclu yng-hyd a'r henuriaid, hwy a ymgynghorâsant, ac a roesant arian yn helaeth i'r milwŷr,
13 Gan ddywedyd, dywedwch, ei ddiscyblion a ddaethant o hŷd nôs, ac a'i lladratâsant ef, a ni yn cyscu.
14 Ac os clyw y rhaglaw hyn, ni a'i dygwn ef i gredu, ac a'ch gwnawn chwi yn ddiofal.
15 Ac hwy a gymmerasant yr arian, ac a wnaethant fel yr addyscwyd hwynt: ac fe a gyhoeddwyd y gair hwn ym mhlith yr Iddewon hyd y dydd heddyw.
16 Yna 'r aeth yr vn discybl ar ddêc i Galilæa, i'r mynydd lle 'r archase yr Iesu iddynt.
17 A phan welsant ef, hwy a'i haddolâsant ef, a rhai a amheuasant.
18 A'r Iesu a ddaeth, ac a lefarodd wrthynt gan ddywedyd: rhoddwyd i mi bôb awdurdod yn y nef, ac ar y ddaiar.
19 Ewch gan hynny a dyscwch yr holl genhedloedd, gan eu bedyddio hwy yn enw 'r Tâd, a'r Mâb, a'r Yspryd glân.
20 Gan ddyscu iddynt gadw pôb peth a'r a orchymynnais i chwi: ac wele 'r ydwyf gŷd â chwi bob amser, hyd diwedd y byd. Amen.

Ail Epistol Paul at y Corinthiaid.

[td. 519v.a]

PENNOD. I.

Y mae yn dangos fod ei gystudd yn Asia yn ddiddanwch iddynt hwy. 17 Ac yn dangos nad o yscafnder meddwl yr oedâse efe ddyfod attynt pan addawse.

1 PAUL Apostol Iesu Grist, a'r brawd Timotheus trwy ewyllys Duw at eglwys Dduw yr hon sydd yn Corinth, gyd â'r holl seinctiau y rhai sy yn holl Achaia:
2 Grâs fyddo gyd â chwi, a thangneddyf gan Dduw ein Tâd, a'r Arglwydd Iesu Grist.
3 Bendigedic fyddo Duw Tâd ein Harglwydd ni Iesu Ghrist, Tâd y trugareddau, a Duw holl ddiddanwch,
4 Yr hwn sydd yn ein diddânu ni yn ein holl orthrymder, fel y gallom ddiddânu y rhai sy [td. 519v.b] mewn dim gorthrymder, trwy y diddanwch ein diddenir ninnau gan Dduw.
5 O blegit fel yr amlheir dioddefiadau Crist ynom, felly yr amlheir ein diddanwch ni trwy Grist.
6 Hefyd os cystuddir ni [y mae hynny] er diddanwch, ac iechydwriaeth i chwi, yr hon a weithir gan ymaros yn yr vn rhyw ddioddefiadau, y rhai yr ydym ni hefyd yn eu dioddef: ac os diddenir ni, er diddanwch ac iechydwriaeth i chwi [y mae hynny.]
7 Ac y mae ein gobaith yn siccr am danoch, gan i ni ŵybod, mai megis yr ydych yn gyfrannogion o'r dioddefiadau, felly [y byddwch] hefyd o'r diddanwch.
8 Canys frodyr ni fynnem i chwi fod heb ŵybod, am ein cystudd a ddaeth i ni yn Asia, bwyso arnom yn anfeidrol vwch ben [ein] gallu, hyd onid oeddem yn ammeu na allem fyw.
9 Ond ni a dderbyniasom farn angeu ynom, [td. 520r.a] fel na obeithiom ynom ein hunain, onid yn Nuw yr hwn sydd yn cyfodi i fynu y meirw.
10 Yr hwn a'n gwaredodd ni oddi wrth gyfryw ddirfawr angeu, ac sy yn ein gwaredu: yn yr hwn yr ydym yn gobeitho y gwared efe rhag llaw.
11 Os chwy-chwi a gydweithiwch mewn gweddi trosom, fel, am y rhoddiad a rodded i ni o herwydd llawer, y rhodder diolch gan lawer trosom,
12 Canys ein gorfoledd ni yw hyn, [sef,] testiolaeth ein cydwybod ni, o blegit mewn disymlrwydd a duwiol burdeb, ac nid yn noethineb cnawdol, ond trwy râs Duw, y bu i ni ein ymddwyn ein hunain yn y bŷd, ac yn enwedic yn eich mysc chwi.
13 Canys nid ydym yn scrifennu amgen bethau attoch, nac yr ydych yn eu darllen, neu yr ydych yn eu cydnabod, ac yr ydwyf yn gobeithio y cydnabyddwch hyd y diwedd.
14 Ac megis y cydnabuoch ni, o rann ein bôd yn orfolaeth i chwi, fel yr ydych chwithau i ninnau yn nŷdd yr Arglwydd Iesu Grist.
15 Ac yn y gobaith hyn yr oeddwn yn ewyllysio dyfod attoch y waith gyntaf, fel y caffech ail grâs.
16 A myned (heb eich llaw chwi i Macedonia, a dyfod trachefn o Macedonia attoch, a chael fy hebrwng gennwch i Iudæa.
17 Gan hynny pan oeddwn yn amcanu fel hyn, a arferais i o yscafnder? neu a wyfi yn amcanu y petheu yr wyf yn amcanu, ar ôl y cnawd, fel y bydde gyd â mi îe, îe, ac nag ê, nag ê?
18 Ond Duw sydd ffyddlon, canys nid îe, ac nag ê ydoedd ein ymadrodd wrthych chwi.
19 Canys Mab Duw Iesu Grist yr hwn a bregethwyd yn eich plith genym ni, sef myfi a Silfanus a Timotheus, nid ydoedd, îe, ac nag e eithr ynddo ef ie ydoedd.
20 O blegit holl addewidion Duw ynddo ef ydynt, îe, ac ynddo ef [ydynt] Amen, er gogoniant Duw trwyddom ni.
21 A Duw [yw] 'r hwn a'n cadarnhâ ni gyd â chwi yng-Hrist, ac a'n enêiniodd ni.
22 Yr hwn hefyd a'n seliodd, ac a roes wystleidiaeth yr yspryd yn ein calonnau.
23 Ac yr ŵyf fi yn galw Duw yn dŷst i'm henaid, mai er eich arbed chwi na ddaethym etto i Corinth.
24 Nid am ein bôd yn arglwyddiaethu ar eich ffydd chwi, ond yr ydym yn gyd-weithwŷr i'ch llawenydd: o blegit trwy ffydd yr ydych yn sefyll.

PEN. II.

Y mae yn dangos fod yr hwn a yscymunasid am loscach neu insest yn beth achos na ddaethe efe attynt hwy. 6 Yn maddeu i hwnnw, gan ewyllysio eu cydundeb hwythau i hynny. 14 Yn diolch am ffynniant yr Efengyl. 17 Ac yn amddeffyn ei athrawiaeth yn erbyn y gau athrawon.

1 EIthr mi a fwriadais hyn ynof fy hunan, na ddelwn attoch trachefn mewn tristwch.
[td. 520r.b] 2 O blegit as myfi a'ch tristâf chwi, pwy yw 'r hwn a'm llawenhâ fi, ond yr hwn a dristawyd gennifi?
3 A mi a scrifennais hyn ymma attoch, rhag (pan ddelwn) cael o honof dristwch ar dristwch gan y rhai y dylwn ymlawenhau: gan obeitho am danoch oll, fôd fy llawenydd i yn llawenydd i chwi oll.
4 Canys mewn gorthrymder mawr, a chyfyngder calon yr scrifennais attoch â dagrau lawer, nid fel i'ch tristaid chwi, eithr fel y gwybyddech y cariad sy gennif yn enwedig i chwi.
5 Os gwnaeth nêb dristau, ni wnaeth efe i mi dristau, ond o rann, rhag i mi bwyso arnoch chwi oll.
6 Digon [yw] i'r cyfryw [ddŷn] y cerydd ymma yr hwn a rodded iddo gan lawer.
7 Megis yn hytrach yng-wrthwynêb, y dylech chwi faddeu iddo a'i ddiddânu, rhag llyngcu y cyfryw gan ormod tristwch.
8 Am hynny yr ydwyf yn attolwg i chwi, gadarnhau eich cariad arno.
9 Canys er mwyn hyn hefyd yr scrifennais, fel y cawn ŵybod profedigaeth am danoch, a fyddech vfydd ym mhob peth.
10 I'r hwn yr ydych yn maddeu dim iddo, [yr wyf] finne: canys os maddeuais i ddim, i'r hwn y maddeuais er eich mwyn chwi [y maddeuais] yng-olwg Crist.
11 Rhag ein siommi gan Satan: canys nid ydym heb ŵybod ei amcannion ef.
12 Pan ddaethym i Troas i [bregethu] Efengyl Grist, ac agoryd drŵs i mi gan yr Arglwydd,
13 Ni chefais lonydd yn fy yspryd am na chefais Titus fy mrawd, eithr gan ganu yn iach iddynt, mi a euthym ymmaith i Macedonia.
14 Ond i Dduw y byddo 'r diolch, yr hwn, yn oestad sydd yn peri i ni orfoledd yng-Hrist, ac sydd yn eglurhau arogledd ei ŵybodaeth trwyddom ni ym mhôb lle.
15 Canys per-arogl Crist ydym ni i Dduw, yn y rhai cadwedig, ac yn y rhai colledig.
16 I'r naill yr [ydym] yn arogl marwolaeth i farwolaeth, ac i'r lleill yn arogl bywyd i fywyd, a phwy sydd ddigonol i hyn?
17 Canys nid ydym ni fel y mae llawer, yn gwneuthur twyll am air Duw, eithr megis o burdeb, eithr megis o Dduw, yng-wydd Duw yr ydym yn llefaru yng-Hrist.

PEN. III.

I beidio ai ganmol ei hun y mae efe yn dangos fod ei glôd ef iw gweled yn y Corinthiaid. 6 A bod yr Efengyl yn fwy gogoneddus nâ'r gyfraith.

1 AI dechreu yr ydym ni ein canmol ein hunain trachefn? ai rhaid i ni fel i eraill wrth lythyrau canmoliaeth attoch chwi, neu canmoliaeth oddi wrthych chwi?
2 Ein llythr ni ydych chwi yn scrifennedig yn ein calonnau, yr hwn a ddeallir, ac a ddarllenir gan bôb dŷn.
[td. 520v.a] 3 Gan fod yn eglur eich bôd chwi yn llythr Crist, yr hwn a roddwyd allan trwy ein gweinidogaeth ni, ac a scrifennwyd, nid ag ingc, ond ag Yspryd Duw byw, nid mewn llechau cerrig, eithr mewn cnawdol lechau y galon.
4 A chyfryw obaith sydd gennym trwy Grist ar Dduw.
5 Nid o herwydd ein bôd ni ddigonol o honom ein hunain i feddylio dim megis o honom ein hunain, eithr ein digonedd ni sydd o Dduw.
6 Yr hwn hefyd a'n gwnaeth ni yn weinidogion y Testament newydd, nid i'r llythyren, ond i'r Yspryd: canys y mae y llythyren yn lladd, a'r Yspryd sydd yn bywhau.
7 Ac os oedd gweinidogaeth angeu yr hon a argraphwyd â llythyrennau ar lechau yn ogoneddus, fel na alle plant yr Israel edrych yn ŵyneb Moses gan ogoniant ei wyneb-pryd, yr hwn [ogoniant] a ddeleuwyd,
8 Pa fodd nad mwy y bydd gweinidogaeth yr Yspryd mewn gogoniant?
9 Canys os bu gweinidogaeth colledigaeth yn ogoneddus, mwy o lawer y rhagora gweinidogaeth cyfiawnder mewn gogoniant.
10 Canys yr hyn a ogoneddwyd, ni ogoneddwyd yn y rhan hon, [sef] hyd y perthyn i'r gogoniant ardderchog.
11 O blegit os yr hyn a ddeleuid ymmaith oedd yn ogoneddus, mwy o lawer [fydd] yr hyn a erys, yn ogoneddus.
12 Felly, gan fôd ge{n}nym gyfryw obaith, yr ydym yn arfer hyfder.
13 Ac nid ydym ni fel Moses, yr hwn a rodde orchudd ar ei wyneb, rhag i blant Israel edrych ar ddiwedd yr hyn a ddeleuid.
14 Am hynny y caledwyd eu meddwl hwy: canys hyd y dydd heddyw y mae y gorchudd hwnnw yn aros heb ei dadguddio wrth ddarllen y hên Destament, yr hwn yng-Hrist a dynnir ymmaith.
15 Eithr hyd y dydd heddyw pan ddarllenir Moses, y rhoddir y gorchudd ar eu calonnau hwynt.
16 Er hynny pan ymchweler at yr Arglwydd, y tynnir y gorchudd.
17 Yr awron yr Arglwydd yw 'r Yspryd, a lle mae Yspryd yr Arglwydd, yno y mae rhydd-did.
18 Eithr edrych yr ydym ni oll, megis mewn drych, ar ogoniant yr Arglwydd ag wyneb agored, ac i'n newidir ni i'r vnrhyw ddelw, o ogoniant i ogoniant, megis gan Yspryd yr Arglwydd.

PEN. IIII.

Dywydrwydd Paul yn ei swydd. 13 A'r achosion y rhai sy yn peri.

1 AM hynny gan fôd i ni y weinidogaeth hon, megis y cawsom drugaredd, nid ydym yn pallu.
2 Eithr ni a wrthodasom ddirgelwch gwradwydd, heb rodio yn ddichellgar, nac arfer [td. 520v.b] twyll am air Duw: eithr trwy eglurhâd y gwirionedd yr ydym yn ein canmol ein hun wrth bôb cydwybod dŷn ger bron Duw.
3 Ac os yw ein Efengyl ni yn guddiedic, yn y rhai colledig y mae yn guddiedic.
4 Ym mha rai y dallodd Duw y bŷd hwn feddyliau yr anffyddlonion, rhag tywynnu iddynt lewyrch Efengyl gogoniant Crist, yr hwn yw delw Dduw.
5 Canys nid ydym yn ein pregethu ein hunain, ond Crist Iesu yr Arglwydd, a ninneu yn weision i chwi er mwyn Iesu.
6 Canys Duw yr hwn a orchymynnodd i'r goleuni lewyrchu o dywyllwch, [yw] yr hwn a lewyrchodd yn ein calonnau, i roddi goleuni gwybodaeth gogoniant Duw, yn ŵyneb Iesu Grist.
7 Eithr y tryssor hwn sydd gennym mewn llestri pridd, fel y bydde ardderchogrwydd [T: arddechogrwydd] y meddiant hwnnw o Dduw, ac o honom ni.
8 Ym mhôb man ein cystuddir, er hynny nid ydym mewn ing: y mae yn gaeth arnom, ond nid ydym gwbl heb obaith.
9 Wedi ein herlid, ond heb ein gwrthod, wedi ein taflu i lawr eithr heb ein difetha.
10 Gan arwain bob amser o amgylch yn y corph, farwolaeth yr Arglwydd Iesu, fel yr eglurer hefyd fywyd Iesu yn ein corph.
11 Canys yr ydys yn ein rhoddi ni y rhai ydym yn oestad i farwolaeth er mwyn Iesu, fel yr eglurhaer hefyd fywyd Iesu yn ein marwol gnawd ni.
12 Ac felly y mae angeu yn gweithio ynom ni, ac enioes ynoch chwithau.
13 A chan fôd i ni yr vn yspryd ffydd, megis ac y mae yn scrifennedic, credais, ac am hynny y dywedais, ninnau hefyd ydym yn credu, ac am hynny y dywedwn,
14 Gan ŵybod y bydd i'r hwn a gyfododd yr Arglwydd Iesu, ein cyfodi ninnau hefyd trwy Iesu, a'n gosod gyd â chwi.
15 Canys pôb peth sydd er eich mwyn chwi, fel yr amlhâo yr helaethaf râs trwy ddiolch llawer er gogoniant i Dduw.
16 Am hynny nid ydym ni yn ymollwng, eithr er llygru ein dŷn oddi allan, er hynny y dŷn oddi mewn a adnewyddir o ddydd i ddydd.
17 O blegit y mae yscafnder ein cystudd yr hwn ni pheru ond munyd, yn peri i ni yn rhagorol [gael] rhagorol a thragywyddol bwys gogoniant.
18 Tra nid ydym yn ystyried y pethau a welir ond y pethau ni welir: canys y pethau a welir sy amserol, a'r pethau ni welir sy dragywyddol.

PEN. V.

Mor fuddiol yw marwolaeth dduwiol i'r duwiol. 14 Mawredd grâs Duw. 20 Swydd a braint eglwys-wyr.

1 CAnys ni a wyddom os daiarol dŷ ein presswylfod a ddotodir, fôd i ni adeilad gan Dduw, [sef] tŷ, nid o waith llaw, [ond] tragywyddol yn y nefoedd.
[td. 521r.a] 2 Canys am hynny yr ydym yn ocheneidio gan ddeisyfio cael ein gwisco â'n tŷ yr hwn sydd o'r nêf.
3 O blegit os gwiscir ni, ni'n ceffir yn noethion.
4 Canys yn ddiau [nyni] y rhai sy yn y babell hon ydym yn ocheneidio, ac yn llwythog am nad ewyllysiem ein diosc, ond ymwisco, fel y llyngcid yr hyn sydd farwol gan fywyd.
5 A'r hwn a'n creawdd ni i hyn yw Duw, yr hwn hefyd a roddodd i ni ŵystleidiaeth yr Yspryd.
6 Am hynny yr ydym bôb amser yn hyderus, ac yn gŵybod tra fôm gartref yn y corph, ein bôd oddi cartref oddi wrth yr Arglwydd.
7 Canys wrth ffydd yr ydym yn rhodio, ac nid wrth y golwg.
8 Er hynny yr ydym yn hyderus, ac y mae yn fodlonach gennym fod oddi cartref o'r corph a chartrefu gyd â'r Arglwydd.
9 Am hynny hefyd yr ydym yn chwennychu pa vn bynnag ai gartref y byddom, ai oddi cartref, fôd yn gymmeradwy ganddo ef.
10 Canys rhaid yw i ni oll ymddangos ger bron brawdle Crist, fel y derbynio pob vn y pethau a [wnaethpwyd] yn y corph, yn ôl yr hyn a wnaeth, pa vn bynnag ai da ai drwg.
11 Felly gan i ni ŵybod ofn yr Arglwydd, yr ydym ni yn peri i ddynion gredu, ac ni a wnaed yn hyspus i Dduw, ac yr ydwyf yn gobeithio hefyd ddarfod ein gwneuthur yn hyspus yn eich cydwybodau chwi.
12 Canys nid ydym yn ymganmol trachefn wrthych, ond yn rhoddi i chwi achos gorfoledd o'n plegit ni, fel y caffoch [beth i atteb] yn erbyn y rhai sy a'u gorfoledd yn yr wyneb, ac nid yn y galon.
13 Canys os amhwyllo yr ydym, i Dduw yr ydym, ac os bôd yn ein pwyll, i chwi [yr ydym. [T: ] ]
14 Canys y mae cariad Crist yn ein cymhell [T: ,] ni, gan i ni farnu hyn, os bu vn farw tros bawb, yna mai meirw oedd pawb.
15 Ac efe a fu farw tros bawb, fel y bydde i'r rhai byw, na fyddent fyw rhag-llaw iddynt eu hunain, ond i'r hwn a fu farw trostynt, ac a adgyfododd.
16 Am hynny o hyn allan, nid ydym yn adnabod nêb yn ôl y cnawd, ac os buom ni hefyd yn adnabod Crist yn ôl y cnawd, er hynny o hyn allan nid ydym yn ei adnabod ef mwy [felly.]
17 Gan hynny od oes nêb yng-Hrist [y mae efe] yn greadur newydd, yr hên bethau a aethant heibio, wele, gwnaethbwyd pob peth [T: pob, peth] yn newydd.
18 A'r cwbl sydd o Dduw, yr hwn a'n cymmododd ni ag ef ei hun trwy Iesu Grist, ac a roddodd i ni weinidogaeth y cymmod.
19 Canys Duw oedd yng-Hrist, yn cymmodi y bŷd ag ef ei hun, heb adliwio iddynt eu pechodau, ac a osododd ynom ni air y cymmod.
20 Am hynny yr ydym ni yn gennadau tros [td. 521r.b] Grist, megis pe bydde Duw yn ymbil â chwi trwyddom ni: yr ydym yn attolwg i chwi tros Grist, cymmodwch â Duw.
21 Canys efe a wnaeth yn bechod trosom ni, yr hwn ni adnabu bechod, fel ein gwnelid ni yn gyfiawnder Duw ynddo ef.

PEN. VI.

Y mae efe yn eu hannog hwynt i amryw rinweddau rhagorol. 14 Ac yn anad dim i ochelyd ymgymharu â'r rhai anghredadwy.

1 FElly ninnau gan gydweithio ydym yn attolwg i chwi na dderbynioch râs Duw yn ofer
2 (Canys medd efe, yn amser cymmeradwy i'th warandewais, ac yn nydd iechydwrieth i'th gynhorthwyais: wele yn awr yr amser cymmeradwy, wele yn awr ddydd yr iechydwrieth)
3 Heb roddi dim achos tramgwydd mewn dim, rhag beio ar y weinidogaeth.
4 Eithr gan ein gosod ein hun allan ym mhôb peth fel gweinidogion Duw, mewn ammynedd mawr, mewn cystudd, mewn angen, ac mewn cyfyngder,
5 Mewn gwialennodau, mewn carcharau, mewn terfyscau, mewn poen, mewn gwiliadwriaetheu, mewn ymprydiau,
6 Mewn purdeb, mewn gwybodaeth, mewn ymaros, mewn tiriondeb yn yr Yspryd glân, mewn cariad diragrith.
7 Yng-air gwirionedd, yn nerth Duw, mewn arfau cyfiawnder ar y llaw ddeheu, ac ar y llaw asswy.
8 Mewn parch ac ammarch, mewn clôd, ac anglod, megis twyllwŷr, ac er hynny yn gywir,
9 Megis anadnabyddus, ac [er hynny] yn adnabyddus, megis yn meirw, ac wele ni yn fyw, megis wedi ein cospi, ac heb ein lladd,
10 Megis yn dristion, ac etto yn oestad yn llawen: megis yn dlodion, ac etto yn cyfoethogi llawer: megis heb ddim cennym, ac etto [T: atto] yn meddiannu pôb peth.
11 Oh y Corinthiaid, ein genau a agorwyd i chwi, ein calon a ehangwyd.
12 Ni chyfyngwyd arnoch ynom ni, eithr chwi a gyfyngwyd arnoch yn eich ymyscaroedd eich hunain.
13 Am yr vn gwobr, megis wrth fy mhlant yr wyf yn dywedyd, ymehengwch chwithau.
14 Nac iauer chwi yn anghymharus gyd â'r anffyddlonion, canys pa gymdeithas sydd rhwng cyfiawnder, ac anghyfiawnder? a pha gyfeillach rhwng goleuni a thywyllwch?
15 A pha gyssondeb sydd rhwng Crist a Belial? neu pa ran sydd i'r credadwy, ac i'r anghredadwy? [T: .]
16 A pha gydfod sydd rhwng teml Dduw, ac eulynnod? canys chwi yw teml Duw byw: fel y dywedodd Duw, mi a bresswyliaf, ac a rodiaf yn eu mysc hwynt: a mi a fyddaf eu Duw hwynt, ac hwy a fyddant yn bobl i mi.
17 Am hynny deuwch allan o'u plith hwy, ac ymddidolwch, medd yr Arglwydd: ac na chy[td. 521v.a] ffyrddwch ddim afla{n}, yna mi a'ch derbyniaf chwi
18 A mi a fyddaf yn Dâd i chwi, a chwi a fyddwch yn feibion, ac yn ferched i mi: medd yr Arglwydd holl-alluoc.

PEN. VII.

Y mae yn eu hannog i sancteiddrwydd gan gofio iddynt addewidion Duw. 8 Yn ymescusodi am eu tristau hwynt. 13 Ac yn ddiolchgar yn coffau eu caredigrwydd hwynt i Titus.

1 AM hynny, gan fôd i ni yr addewidion hyn (annwylyd) ymlânhawn oddi wrth bob halogrwydd cnawd, ac yspryd, gan berffeithio sancteiddrwydd yn ofn Duw.
2 Derbyniwch ni, ni wnaethom gam i nêb, ni lygrasom nêb, nid yspeiliasom nêb.
3 Nid i'ch condemnio yr wyf yn dywedyd, canys mi a ddywedais o'r blaen eich bôd yn ein calonnau ni, i gyd-farw, ac i gyd-fyw.
4 Y mae hyfder fy ymadrodd yn fawr wrthych: y mae gennif orfoledd mawr ynoch: yr wyf yn llawn o ddiddanwch, ac yn dra-llawen yn ein holl orthrymder.
5 Canys wedi ein dyfod i Macedonia ni chai ein cnawd ni ddim llonydd, eithr ni a orthrymmid o bôb parth, rhyfeloedd oddi allan, ac ofn oddi mewn.
6 Eithr Duw, yr hwn a ddiddâna y rhai cystuddiedig, a'n diddanodd ni wrth ddyfodiad Titus
7 Ac nid âi ddyfodiad ef yn vnic, ond hefyd â'r diddanwch y diddanwyd ef gennych chwi, pan fynegodd efe i ni eich awydd chwi, eich galar, eich annwyl-serch i mi, fel y llawenheais i yn fwy.
8 Canys er i mi eich tristau chwi mewn llythyr [T: ly|thyr] , nid yw edifar gennif, er bôd yn edifar gennif: canys yr wyf yn gweled dristau o'r llythr hwnnw [T: hunnw] chwi, er [bôd hynny] tros amser.
9 Yn awr yr ydwyf yn llawen, nid am eich tristau, ond am eich tristau i edifeirwch, canys tristau a wnaethoch yn dduwiol, fel na chawsoch niwed mewn dim gennym ni.
10 Canys duwiol dristwch a bair edifeirwch er iechydwiaeth diedifarus: eithr bydol dristwch a bair angeu.
11 Canys wele, pa ofal ei faint a weithiodd hyn ynoch chwi? [sef] tristau o honoch yn dduwiol, îe pa amddeffyn, îe, pa ddigofaint, îe, pa ofn, ie, pa chwant, îe, pa wŷnfydiaid, îe, pa ddial? ym mhôb peth yr ymddangosasoch i fod yn bur yn y peth hyn.
12 O herwydd pa ham, er scrifennu attoch, ni [scrifennais] o'i blegit ef a wnaethoedd y cam, nac o blegit yr hwn a gafodd y cam, ond er bôd yn eglur i chwi, ein gofal am danoch ger bron Duw.
13 Am hynny ni a ddiddanwyd o achos eich diddanwch chwi, eithr llawenach o lawer oeddem am lawenydd Titus, am lonni ei yspryd ef gennych oll.
14 Canys os gorfoleddais ddim wrtho am danoch, ni'm cywilyddiwyd: eithr megis y dywedasom wrthych bôb dim mewn gwirio[td. 521v.b] nedd, felly hefyd yr oedd ein gorfoleddiad ni wrth Titus yn gywir.
15 Ac y mae ei galondid ef yn helaethach tu ag attoch, wrth gofio eich vfydd-dod chwi oll, pa fôdd trwy ofn a dychryn, y derbyniasoch ef.
16 Am hynny llawen wyf, am fod i mi hyder arnoch ym mhôb dim.

PEN. VIII.

Y mae efe yn eu hannog hwynt i fod yn hael i'r brodyr tlodion, gan ddwyn iddynt siampl y Macedoniaid [T: Macedoniad] , 9 A Christ ei hun: 24 Gan ddangos hefyd y galle fod ar y Corinthiaid eu heisieu hwythau.

1 YR ydym hefyd yn yspysu i chwi, (frodyr) y grâs Duw a roddwyd yn eglwysi Macedonia.
2 Canys mewn mawr brofedigaeth cystudd yr amlhaodd eu llawenydd hwynt, ai llwyr eithaf dlodi a amlhaodd iw helaeth gymmwynascarwch hwynt.
3 Canys yn eu gallu (yr wyfi yn testiolaethu) ac vwch-law eu gallu yr oeddent yn ewyllyscar.
4 Gan ddeisyfu arnom trwy lawer o ymbil, ar dderbyn o honom ni yr haelioni a'r cyfranniad [a roddent] i wasanaethu 'r seinctiau.
5 A [hyn a wnaethant] nid fel yr oeddem yn gobeitho, ond hwynt hwy ai rhoddasant eu hunain [T: hu|bain] yn gyntaf i'r Arglwydd, ac yna i ninnau, trwy ewyllys Duw:
6 Fel y dymunasom ni a'r Titus, (megis y dechreuase efe o'r blaen) felly hefyd orphen yr vn-rhyw haelioni yn eich plith chwi.
7 Am hynny fel yr ydych yn amlhau yn mhôb dim, mewn ffydd a gair, a gwybodaeth, ac ym mhôb astudrwydd, ac yn eich cariad tu ag attom ni, [ceisiwch] amlhau hefyd yn y grâs hyn.
8 Nid o rann gorchymyn yr ydwyf yn dywedyd, ond o blegit diwydrwydd rhai eraill, a chan brofi gwirionedd eich cariad chwi.
9 Canys chwi a adwaenoch râs ein Harglwydd Iesu Grist, ac efe yn gyfoethog, ei fyned er eich mwyn chwi yn dlawd, fel y cyfoethogid chwi trwy ei dlodi ef.
10 Ac yr ydwyf yn rhoddi cyngor yn hyn, canys da fydde hyn i chwi, y rhai a ddechreusoch, nid yn vnic wneuthur, ond hefyd ewyllysio er yr llynedd.
11 Ac yn awr gorphennwch wneuthur hynny hefyd, fel, megis yr oedd y parodrwydd i ewyllsio, felly y byddo hefyd i gwblau o'r hyn sydd gennych.
12 Canys os bydd yn gyntaf ewyllyscarwch, cymmeradwy yw, yn ôl yr hyn sydd gan ddŷn, nid [T: ddŷn'nid] yn ôl yr hyn nid yw ganddo.
13 Ac nid i fod esmwythdra i eraill, a chustudd i chwithau.
14 Eithr mewn cymhwysdra y mae eich helaethrwydd chwi y pryd hyn, yn [diwallu] eu diffig hwy, fel y gallo hefyd eu helaethrwydd hwynt [T: hw.|ynt] ddiwallu eich diffig chwithau, fel y byddo cymhwysdra.
[td. 522r.a] 15 Megis y mae yn scrifennedic, yr hwn a gasclodd lawer, nid oedd ganddo weddill, a'r hwn a gasclodd ychydig, nid oedd arno eisieu.
16 Ac i Dduw y byddo 'r diolch, yr hwn a roddodd yng-halon Titus yr vn-rhyw ofal trosoch.
17 Am iddo gymmeryd y dymuniad, a chan fod yn fwy gofalus, ddyfod attoch chwi oi waith ei hun.
18 Ac ni a ddanfonasom hefyd gyd ag ef y brawd yr hwn y mae ei glôd yn yr Efengyl, trwy 'r holl eglwysi,
19 (Ac nid [hynny] yn vnic, eithr hefyd efe a ddewiswyd gan yr eglwysi i gydymdeithio â ni a'r grâs hyn, yr hwn yr ydym ni yn ei wasanaethu, o herwydd gogoniant yr Arglwydd, ac [amlygiad] eich ewyllyscarwch chwithau)
20 Gan ymochelyd hyn, rhag i nêb feio arnom yn yr helaethrwydd ymma, yr hwn yr ydym ni yn ei wasanaethu.
21 Y rhai ydym yn rhagddarpar pethau onest, nid yn vnic ger bron yr Arglwydd, ond hefyd o flaen dynion.
22 Ac ni a anfonasom gyd â hwynt ein brawd, yr hwn a brofasom yn fynych o amser, ei fôd yn ddyfal yn llawer o bethau, ac yn awr yn ddyfalach o lawer, am y mawr ymddyried [sydd gennif] ynoch.
23 Os [gofynnir] am Titus fyng-hydymaeth [yw,] a chydweithydd tu ag attoch chwi: neu [am] ein brodyr, cennadau yr eglwysi [ydynt,] a gogoniant Crist.
24 Am hynny dangoswch tu ag attynt hwy ger bron yr eglwysi, brofedigaeth o'ch cariad, ac o'n hymffrost ni am danoch chwi.

PEN. IX.

Y mae efe yn dangos yrru o honaw ef Titus, ac eraill attynt, fel y ceid hwynt yn barod, ac yn ewyllyscar i gyfrannu, 7 yr hwn beth sydd dda gan Dduw, 13 a moliannus iddo ef.

1 CAnys, tu ag at am y weinidogaeth i'r sainct, afraid yw i mi scrifennu attoch.
2 O herwydd mi a adwen eich ewyllyscarwch chwi, [am] yr hwn yr wyf yn gorfoleddu am danoch wrth y Macedoniaid, fôd Achaia yn barod er yr llynedd, a'r zêl [a ddaeth] oddi wrthych chwi a annogodd lawer.
3 A mi a ddanfonais y brodyr, rhag i'n gorfoledd ni am danoch fôd yn ofer, yn y rhann hon, fel (megis y dywedais) y byddoch barod:
4 Rhag, os y Macedoniaid a ddeuant gyd â mi, a'ch cael chwi yn amharod, bôd i ni (ni ddywedaf i chwi) gael cywilydd yn hyn o sylwedd gorfoledd.
5 O herwydd pa ham, mi a dybiais fôd yn angenrhaid attolwg i'r brodyr ddyfod o'r blaen attoch, ac i gwplau o'r blaen eich bendith yr hon a ragfynegwyd, fel y bydde yn barod, megis fel bendith, nid fel o gymmell.
6 A hyn [a ddywedaf,] a hauo yn brin a fêd hefyd yn brin, ac a hauo yn helaeth a fêd hefyd yn [td. 522r.b] helaeth.
7 Pob vn megis y mae yn amcanu yn ei galon, felly gwnaed nid yn athrist, neu wrth gymmell, canys y mae yn hoff gan Dduw roddwr llawen.
8 Ac y mae Duw yn abl i beri i bob grâs amlhau tu ag attoch, fel y galloch chwi (â phôb digonoldeb gennych, ym mhôb dim, bôb amser) amlhau i bôb gweithred dda,
9 Megis y mae yn scrifennedic, efe a wascarodd, [ac] a roddodd i'r tlodion, y mae ei gyfiawnder yn parhau yn dragywydd.
10 Hefyd yr hwn sydd yn rhoddi hâd i'r hauwr, rhodded hefyd fara yn ymborth, ac amlhaued eich hâd, a chwaneged ffrwyth eich cyfiawnder,
11 Fel ym mhôb ffordd i'ch cyfoethoger i bôb cymmwynascarwch, yr hyn a weithia trwyddom ni ddiolch i Dduw.
12 Canys y mae gweinidogaeth y swydd hon, nid yn vnic yn cyflawni angenrhaid y sainct, ond hefyd yn amlhau, gan lawer diolch i Dduw, trwy brofiad y weinidogaeth hon,
13 [Y rhai sy] yn moliannu Duw am eich cydsynniol ymostwng i Efengyl Grist, ac am eich cymmwynascar gyfranniad iddynt hwy, ac i bawb [T: bawl] oll,
14 A thrwy eu gweddi hwythau y rhai ydynt yn hiraethu am danoch chwi, am yr ardderchawg râs Duw [yr hwn sydd] ynoch.
15 Ac i Dduw y byddo 'r diolch am ei anrhaethol dawn.

Notes

1. In the original print fol. 120 has incorrectly been numbered '119' (here silently corrected).

Diweddarwyd: 19 Mawrth 2004
Last update: 19 March 2004